Ceris y Pwll/Penbleth yr Esgob
← Dona | Ceris y Pwll gan Owen Williamson |
Melldithion Bera → |
VI. PENBLETH YR ESGOB
NID oes angen am adroddiad yma o'r ymddiddan fu rhwng yr Esgob a Cheris, oblegid ceir eglurhad wrth i ni ddisgrifio yr hyn ddilynodd eu hymgynghoriad. Aeth Ceris ymlaen gyda'i ddarpariadau gyda mwy o ddifrifoldeb a sêl nag o'r blaen, ac aeth yr Esgob Moelmud tua Llwyn Onn gan benderfynu ar unwaith fyned i Gil yr Esgob Dyfnan, lle yr hyderai gael mwy o hysbysrwydd ynghylch symudiadau cyflym Caswallon, yr hwn ni adawodd amser i amryw o benaethiaid yr Ynys addfedu eu penderfyniadau eu hunain, ond syrthio bron yn ddiarwybod iddynt eu hunain i ddilyn cynlluniau unbenaethol y trawsfeddiannwr.
Hysbyswyd Moelmud yn yr holl gyfrinion gan Ddyfnan, yr hwn fuasai ar ymweliad â Chyfarwydd yn ei Lech. Yr oedd y Sarff—fel y disgrifid y pennaeth cyfrwys hwnnw—wedi ei ddal yn ei hen gyfrwystra gan un mwy cyfrwys nag ef ei hun; neu yr oedd yn gweled mai wrth ddilyn Caswallon y cadwai ei ben, ac yn ol pob tebyg ychwanegu at ei ddylanwad ei hun ar draul rhai penaethiaid a geisiasant wrthsefyll Caswallon yn ardaloedd Medd a mannau eraill yng nghylchoedd Am-loch. Clywodd Moelmud sibrydion am ysgarmesau gwaedlyd yn Rhyd y Galanas, Bryn y Cyrch, Cerrig y Llefain, a mannau eraill. Aeth yr Esgob Moelmud i Glorach ac mor agos ag y gallai i Dre'r Beirdd ynghyfeiriad Maen Addwyn. Yr oedd llethrau'r mynydd yn y cyfeiriad hwnnw yn orchuddiedig gan wersylloedd pleidwyr Caswallon, y rhai, meddid, oeddynt ar ymosod ar Benmon Llugwy. Yr oedd tramoriaid y Dafarn Eithaf hefyd, â'u bryd ar ymbaratoi i ymsymud yn y cyfeiriad o'r hwn y gellid bwgwth hyd yn oed Llwyn a Phwll Ceris.
Cafodd Moelmud lawer o wybodaeth, ond ychydig gysur. Yr oedd congl orllewinol Mon yn Goidelaidd i'r carn, ac nid oedd amheuaeth ynghylch pleidgarwch Goidelod glannau y Fenai i'r rhai yr oedd Arfon ac Eryri yn gadarnleoedd anorchfygadwy. Ond sut yr oedd modd cylymu y llwythau hynny ynghyd i geisio codi mur yn erbyn y rhyferthwy Brythonig a fygythiai Fon i gyd? Y cwestiwn yna oedd yn llenwi meddwl Esgob Llwyn Onn ar hyd ffordd ei ddychweliad i fin y Fenai. Beth fyddai canlyniad ymgyrch Caswallon? A oedd poblogaeth gymysg gogledd Mon am drechu y Goidelod a'u gwneyd yn werin i'r Brythoniaid gorchfygol? Pa effaith gai y goresgyniad Brythonaidd posibl ar grefydd Goidelod Mon? Yr oedd atebion wedi eu rhoi eisoes i rai cwestiynau yn y mân oresgyniadau oedd yn prysur Frythoneiddio holl wlad gogledd Mon, ac, wele, y don yn codi o gyfeiriad annisgwyliadwy, ac yn bygwth parthau eraill dros y Fenai a dybid oedd yn noddfa ddiogel o'r tu ol i gaerfeydd mynyddig Arfon a'r Eryri, gyda Mor y Werydd yn cadw drws cefn agored.
Nid oedd Moelmud erioed wedi teithio ymhell o ororau Mon, oblegid yr oedd efe yn ymbleseru mwy gyda'i lyfrau a'i ddyledswyddau crefyddol, yn hytrach nag yng nghynllunio mesurau ymosodol neu amddiffynnol o natur y rhai angenrheidiol i sefyllfa bresennol y wlad. Er ei fod wedi cychwyn oddi cartref yn y bore i archwilio sefyllfa ac amgylchiadau oedd yn cynhyrfu rhan bwysig o'r Ynys, ac wedi casglu peth gwybodaeth, eto yr oedd yn awr yn dychwelyd heb un gannwyll i oleuo fel cynhorthwy i Geris i gynllunio gwrthwynebiad i ymosodiad Caswallon ar ryddid Goidelod Mon. Yr oedd Ceris yn cerdded wrth ei ochr ers rhai munudau cyn iddo ddeffro o'i fyfyrdod i bresenoldeb ei gymydog.