Coelion Cymru (Testun cyfansawdd)

Coelion Cymru

gan Evan Isaac

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Coelion Cymru

COELION CYMRU

COELION CYMRU

GAN

Y Parch. EVAN ISAAC

(Awdur "Prif Emynwyr Cymru," "Humphrey Jones
a Diwygiad '59," a "Yr Hen Gyrnol.")

—————————————

1938

ARGRAFFIAD CYNTAF—GORFFENNAF, 1938.

ARGRAFFWYD GAN Y
CAMBRIAN NEWS, CYF., ABERYSTWYTH.

CYNNWYS


Er Cof
Am fy Chwaer Susana,
a Wyddai ac a Gredai
Goelion ei Mam

RHAGAIR

Lluniais y llyfr hwn oherwydd credu bod gwerth yn y coelion. Yn gyffredin, nid y sawl a gred y storïau a'u cofnoda, eithr y sawl a gred fod eu cofnodi yn hanfodol er gwybod hanes dyn a chenedl.

Y mae arnaf ddyled fawr i amryw, fel y dangosir ' yng nghorff y llyfr. Efallai na phair enwi rhai yn y fan hon dramgwydd i'r gweddill. Ar wahân i'r llyfrau a ddefnyddiais, cefais y cymorth mwyaf gan swyddogion Llyfrgell Genedlaethol Cymru ; yr Henadur John Morgan, Y.H., Ystumtuen ; Mr. Lewis Hughes, Henblas, Meliden, Sir Fflint, a'r Parchedig D. Llewelyn Jones, B.A., a roes awgrymiadau gwerthfawr, ac a gywirodd y proflenni. Diolch yn fawr i bawb.

Gŵyl Ddewi, 1938

Evan Isaac

COELION CYMRU

I.

LLÊN GWERIN

Beth amser yn ôl nid oedd yng Nghymru namyn dau ddosbarth o bobl, sef yr uchelwyr a'r gwerinwyr, y dysgedig a'r anwybodus, a rhoddai'r ddau fel ei gilydd bwys mawr ar ofergoelion a phethau eraill llên gwerin. Rhoddant bwys arnynt eto yn awr, er nad am yr un rhesymau. Ond daeth i fod yn gymharol ddiweddar ddosbarth newydd, un wedi esgyn ychydig o anwybodaeth ond o hyd ymhell o gyrraedd dysg a diwylliant. Y dosbarth canol yw hwn, â thipyn o grefydd yn ei deimlad, a mwy o gaddug yn ei ddeall, un diddrwg didda, creadur cymysgryw, heb fod yn ddiwybod na goleuedig. I'r dosbarth hwn, pair ysgrifennu a sôn am bethau simsan fel ofergoelion gryn wayw.

Credir weithiau y goel ofer mai diffyg a berthyn i genedl yn ei mabandod ydyw ofergoeledd. Maentumir y cred cenedl yn ofer, megis y cred plentyn, hyd oni thyf i oleuni gwybodaeth gywir. Diflanna ofergoeledd yn ôl mesur cynnydd gwybodaeth. Eithr nid yw hyn onid rhan fechan o'r gwir. Ceir amryw bethau ym mywyd cenedl na chyffwrdd goleuni cynyddol y byd â hwy o gwbl. Praw hanes na lwyddodd na dysg na medr oesoedd i ysgar cenhedloedd oddi wrth rai coelion a ystyrir yn ofer.

Y mae'n wir i wyddoniaeth yn ystod y ddau can mlynedd diwethaf beri cynnydd anarferol mewn amryw ganghennau o wybodaeth. Hyhi a'n tywysodd i'r gwirionedd am rai o ddeddfau pwysicaf natur. Ychydig yw'r sawl a gred heddiw nad y ddaear sy'n symud, ac ni thyb ond ychydig o'n darllenwyr Beiblaidd culaf i'r haul sefyll erioed. Bu dynion fel Newton a Harvey a Galileo a Darwin yn gyfryngau i gywiro llawer ar gredoau cenhedloedd y byd. Ond y mae gwyddor eto yn dysgu mai yn yr ofergoelion hyn y ceir hanes dynoliaeth. Dywaid Syr John Rhys na ellir ysgrifennu hanes unrhyw genedl heb roddi ystyriaeth fanwl i'w thraddodiadau a'i choelion yn y gorffennol, a bod a fynno'r pethau hyn lawer â hanes cywir y genedl Gymreig. Nid pethau gwamal a dibwrpas mohonynt.[1] O safbwynt y gwyddonydd o edrych ar hanes y byd, nid ofer o gwbl yw ofergoelion. Y mae'n wir i wyddoniaeth ymlid amryw goelion ofer o fywyd y genedl Gymreig a chenhedloedd eraill yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, ond ofergoelion oeddynt ynglŷn â deddfau a gwrthrychau a berthyn i natur. Ni phroffesa gwyddoniaeth ymyrryd ag anawsterau neu broblemau'r byd anweledig. Gedy gwyddoniaeth fyd na pherthyn iddi heb ymyrryd ag ef, gan led-fwrw taw mater i arall ydyw'r anweledig. I ymdrin â hwn daw datguddiad goruwchnaturiol. Bu cynnydd gwybodaeth trwy ddatguddiad oddi uchod yn foddion i oleuo cymydau tywyll fel afagddu, a lleihau llawer ar nifer y sawl a gred mewn swyno a chonsurio. Eithr y mae dosbarth arall o goelion fel y profir eto, a ystyrir yn ofergoelion, na cheir unrhyw oleuni arnynt gan na gwyddoniaeth na datguddiad. Pan gofir bod problemau na lwydda'r naill na'r llall o'r cyfryngau hyn i'w datrys, prin y dylid rhyfeddu at nifer mawr ofergoelwyr pob dosbarth ym mhob gwlad. Pob dosbarth— y dysgedig a'r diwylliedig yn ogystal â'r diddysg a'r anniwylliedig. Efallai nad oedd anghredadun mwy na'r Dr. Johnson ynglŷn â llawer o bethau a gredid yn gyffredin yn ei ddydd ef, ond credai yntau â pharodrwydd ac â ffydd plentyn yn ymddangosiad ysbrydion, ac mewn gwyrthiau a weithredid gan ei gyfoeswyr. Cydnebydd pawb, o ba lwyth bynnag y bônt, fod John Wesley yn ŵr hirben ac ymarferol, yn ddyn dysgedig iawn yn ei oes, â'i feddwl a'i fywyd yn santaidd; ond er ei synnwyr cyffredin cryf, ei ddysg a'i santeiddrwydd, credai Wesley yntau yn ymddangosiad ysbrydion, a chlywais ddywedyd y " dirgel gredai" y byddai fyw ambell anifail y tu hwnt i'r bedd.

Eithr nid oes alw am ddibynnu ar y gorffennol am enghreifftiau o ofergoeledd ymhlith gwyr dysgedig a gwybodus; brithir ein hoes ni â hwy. Nid yw Syr Oliver Lodge â'i wybodaeth wyddonol eang a manwl, a'r llenor gwych Conan Doyle, onid enghreifftiau o dyrfa fawr o ddysgedigion diwylliedig a dry at ysbrydegaeth am oleuni ar anawsterau ynglŷn â'r byd anweledig. Pum mlynedd yn ôl, a mi'n cydymdeimlo â gweinidog meddylgar a dysgedig ar farwolaeth ci bach a hoffai'n fawr, a dywedyd rhwng difri a chwarae, "Chwi a gewch gyfarfod eto." "ie," meddai, "'rwy'n meddwl eich bod yn iawn. Y mae gennyf resymau tros obeithio y cyfarfyddwn eto y tu draw i'r llen."

Gwelir, felly, nad perthyn i genedl yn ei mabandod yn unig y mae ofergoelion, ond y parhânt yn ei bywyd, i raddau mwy neu lai, o genhedlaeth i genhedlaeth, a thrwy bob datblygiad. Nid praw o anwybodaeth yn unig yw ofergoeledd, ac nid diffyg noeth mohono, eithr praw o feddylgarwch hefyd,—pobl, boent anllythrennog neu ddysgedig, yn wynebu anawsterau meddyliol ac yn dyfalu dirgeledigaethau, a'u hawydd am oleuni yn gryf. O gymryd yr olwg hon ar ofergoeledd, gwelir mai rhinwedd yn fwy na bai ydyw. Ffynna ofergoeledd mewn mannau gwledig sydd â'r amodau'n ffafriol i feddylgarwch, yn fwy nag yn y trefydd a'r mannau gweithfaol sydd â'u prysurdeb a'u miri yn hudo'r meddwl i arwynebedd a bydolrwydd.

Pwysleisiaf eto y ffaith nad ffwlbri mo'r ofergoelion, hen a diweddar, ond pethau hanfodol i'w gwybod i'r diben o ddeall yn gywir fywyd dyn a chenedl. Dywedodd yr Athro T. Gwynn Jones mewn beirniadaeth ddydd Calan, 1921, fod y sawl sy'n trafferthu i chwilio allan a chofnodi hen ofergoelion a thraddodiadau yn gwneuthur gwaith da, ac ychwanegai:

"Yr ydys bellach yn gweled mai colled fu'r agwedd a oedd mor gyffredin yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiweddaf tuag at bethau a elwir yn 'Ofergoelion.' Collodd y Cymry agos bob i lliw o'u bywyd a'u harferion cenedlaethol drwy'r agwedd honno; collasant bopeth bron ond esgyrn sychion chwedlau eu cyndadau, heb wneuthur llawer mwy na dysgu chwedlau cyffelyb cenhedloedd eraill yn eu lle. Hyd yn oed er bod yn wir mai ofer oedd llawer o'r coelion a gollwyd, yr ydys erbyn hyn yn gweled mai drwyddynt hwy y gellir astudio hanes meddwl dyn, ac yn fynych iawn bod rhywbeth hanfodol yn gorwedd wrth wraidd y goel. Nid oes dim yn ddibwys nac yn ofer nac yn gwbl ddiamcan yngolwg gwir wybodaeth."

Yn wyneb y geiriau hyn o eiddo'r Athro, gallaf yn hyderus a diogel fynegi'r pethau a ddaeth imi o dro i'w gilydd o wahanol ffynonellau.

II.

Y TYLWYTH TEG

Y mae hanes y bodau bach direidus hyn mor swynol fel na fynnwn ei anghredu yn llwyr. Gresyn na fai'n wir i gyd. Yr enw a roddir arnynt fynychaf ym Morgannwg yw Bendith y Mamau, ac mewn rhan o Ddyfed fe'u gelwir Plant Rhys Ddwfn, ond yr enw cyffredin trwy Gymry yw Tylwyth Teg. Amrywia'r traddodiadau ynglŷn â hwy yn ôl fel yr amrywia arwynebedd y wlad, a cheir hwy yn amlach ar fynydd-dir nag ar wastadeddau isel. Disgrifir hwy mewn mannau rhwng Pumlumon a Dyfi fel bodau bychain, o duedd anonest, yn treulio'r haf yn y rhedyn ar fryniau, a'r gaeaf mewn grug a hesg. Ar nos loergan a'r awyr heb ias rhew ynddi, ymdyrrant ar lain o dir clir neu waun â'i blewyn yn las a chwta, a thrin yno eu campau difyr. Hoff ganddynt fynychu ffeiriau a marchnadoedd, a chymaint yw eu medr ag y llwyddant i gyfnewid arian y Tylwyth Teg am arian a fo yn llogell amaethwr, ac yntau druan yn cael, pan gais hwy i dalu am lo neu ebol, y diflannant rhwng ei fysedd. Gwelid hwy yn aml gynt ym marchnadoedd Sir Benfro, eithr ni welid hwy byth yn dyfod na dychwelyd.

Clywais eu disgrifio mewn bröydd eraill yn fodau o faintioli a nerth cymedrol, yn ymdroi o gwmpas amaethdai i wylio cyfle i ladrata ymenyn a chaws a llaeth, neu unrhyw ymborth arall a ddigwyddai fod mewn amaethdy. O fethu cael lluniaeth o'r tŷ, ânt i'r beudai a godro'r gwartheg yn sych, ac ar brydiau daliant y geifr hwythau a'u godro. Eithr drwg pennaf y math hwn ydyw cyfnewid babanod. A'r fam i gysgu ar ddiwedydd â baban iach a hardd yn ei mynwes, a chael yn ei le yn y bore un o fabanod eiddil a salw y Tylwyth Teg

Yr oedd hefyd fath arall o'r Tylwyth a ragorai lawer o ran natur ac arferion. Bodau bychain oeddynt hwythau, ond yn hardd a bonheddig, ac yn gymwynasgar i ddynion. Pethau bach llawen a direidus oeddynt. Ni wnaent ddrwg i neb, ac ni welid hwy odid fyth namyn yn chwarae. Dywaid Peter Roberts mai rhai bychain bach oeddynt, â gwallt llaes, a thlws odiaeth yr olwg. Marchogent weithiau geffylau bychain, a dilynid hwy gan gŵn bach meinion. Ni wisgent byth namyn mewn gwyrdd,—lliw eu hamgylchoedd— rhag eu gweled gan farwolion.[2] Rhoddai'r math hwn bris uchel ar lanweithdra, a gwobrwyent yn hael wragedd a morynion cymen a glân. Oherwydd hyn anogid y morynion i lanhau'r tŷ yn llwyr lân bob hwyrddydd, a disgwyl yr ymwelai'r Tylwyth â'r annedd yn ystod y nos, a gadael yno arian neu drysorau eraill. Anaml yr âi'r morynion hyn i orffwys heb adael dwfr glân mewn cawg wrth droed y grisiau, a bara ac enllyn ar y bwrdd, fel os âi un neu ragor o'r Tylwyth i'r tŷ i dorri newyn, neu i olchi baban, y ceid rhodd ar y pentan yn y bore. At hyn y cyfeiria Goronwy Owen yn ei "Gywydd y Cynghorfynt."

Cael eu rhent ar y pentan,
A llwyr glod o bai llawr glân.


Credir mewn rhannau o Gymru mai tan y ddaear y mae gwlad y Tylwyth Teg, ac yr eir iddi un ai trwy ogofau ac agennau yn y creigiau, neu trwy lynnoedd. Eithr anaml y gall marwolion ei chyrraedd trwy ddwfr. I lygaid meidrol y mae'r wlad yn fangre pob llawnder ac ysblander a dedwyddwch. Trigle llawenydd ac anfarwoldeb ydyw. Pan ddêl y preswylwyr i'n byd ni, deuant i chwarae a chanu a diddanu dynion. Chwaraeant ar frigau'r grug, a dawnsiant ar flaenau brwyn, a phan derfir hwy, ymguddiant ym mysedd y cŵn, Ni fwytânt na chig na physgod, eithr ffynnant ar fwyd llaeth wedi ei archwaethu â saffrwm y maes. Eto, dywaid rhai y pobant eu hunain fara gwyn a'i fwyta. Yn ôl Myrddin Fardd, rhoddai hen wraig o Abersoch fenthyg ei gradell yn aml iddynt.[3]

Gwelir cylchau'r Tylwyth ym mhob rhan o Gymru. Crwn a hirgrwn ydynt, a cheir hwy fynychaf ar wastadeddau bryniau. Gwelais hwy rai troeon ar fryniau lled uchel, fel Bryn-yr-Arian a edrych i Fae Ceredigion tros Gors Fochno. Ar nos loergan fe'u clywid gynt, ac efallai y clywir hwy o hyd gan y sawl sy'n ddigon tenau ei glust i ddal seiniau o'r byd anweledig, yn llafarganu gwahodd a chymell i'r cylchau fel hyn:

CÂN Y TYLWYTH TEG.

O'r glaswellt glân a'r rhedyn mân,
Gyfeillion diddan, dewch,
'E ddarfu'r nawn—mae'r lloer yn llawn—
Y nos yn gyflawn gewch;
O'r chwarae sydd ar dwyn y dydd,
I'r dolydd awn ar daith;
Nyni sydd lon, ni chaiff gerbron
Farwolion ran o'n gwaith.

Ysgafn-ddrws pren, llawr glân dan nen,
A'r aelwyd wen yn wir,
Tân golau draw, y dŵr gerllaw,
Yn siriaw'r cylchgrwn clir;
Trwy ofal glân â'ch pibau cân,
Rhowch gyd-erddigan dda,
Pan ddêl y wawr i'r dwyrain fawr,
Diflannu'n awr a wna.

Af yr awr hon lle cwsg yn llon
Farwolion fawr a mân.
Mynegaf 'nawr i'r deg ei gwawr,
Sy'n cadw'r llawr mor lân,
Gan ddweud wrth hon pa bryd gerbron
Y daw ei Heinion hi,
Mewn gwisg nid gau o las diau,
I'w breichiau—mawr ei bri.

Rhowch 'sgubau mân, briallu glân,
A'ch mes i'r loywlan wledd,
Rhydd cnewyll rin da flas diflin,
Melysa'r min fel medd;

'Nôl hyn, yn glau, oll bob yn ddau,
I'r llawr i chwarae awn,
Sain pibau 'nghyd heb lais yn fud,
Cyd-ddawnsio'n hyfryd wnawn.

Pan dorro'r wawr cwyd dyn i lawr
O'i gysglyd awr, 'e ga'
Ei dŷ yn rhydd, tir, praidd a fydd
Wiw ddeunydd iddo'n dda;
Cawn chwarae'n rhydd tra paro'r dydd,
Ar lennydd heulog liw,
Caiff dynol ach ei adeg fach,
A'i fronnau'n iach heb friw.[4]

Perchid y cylchau hyn gymaint fel nad ymyrrid o fwriad â hwy gan na dyn nac anifail. Yn hytrach nag aredig tir â chylchau'r Tylwyth Teg arno, gwell fyddai gan amaethwr gefnu ar ei fferm a byw mewn 'tŷ bach,' oblegid gwybod petai’n troseddu y disgynnai arno felltithion annisgrifiol. Oherwydd yr ofn hwn, nid aflonyddid ar y bodau bach o flwyddyn i flwyddyn, a dawnsient hwythau'n ddibryder a chanu:

Canu, canu trwy y nos,
Dawnsio, dawnsio ar waun y rhos,
Yng ngoleuni'r lleuad dlos,
Hapus ydym ni.

Pawb ohonom sydd yn llon,
Heb un gofid tan ei fron;
Canu, dawnsio ar y ton—
Dedwydd ydym ni.


Y mae storïau’r Tylwyth Teg yn lluosog-ceir cannoedd ohonynt—eithr ni roddaf yn awr namyn detholiad o'r rhai a ddengys wahanol nodweddion eu bywyd. I'r pwrpas hwn, mantais fydd bwrw i baragraff neu ddau y coelion a ddyfalwyd yn eu cylch.

Nid oes wybodaeth sicr am gychwyn y Bobl Fach. Draw ymhell yn niwl tew hen oesoedd y mae eu tarddiad. Credid unwaith yng Nghymru mai eneidiau Derwyddon oeddynt-Derwyddon rhy amherffaith i'r nefoedd a rhy dda i uffern. Credir yn awr mai hen drigolion y wlad yn Oes y Cerrig (Stone Age) ydynt, yn ymguddio mewn ogofau a thyllau rhag eu gweled gan eu gorchfygwyr. Y mae'r gred hon yn un naturiol, oblegid preswylir heddiw lannau Congo, yn Affrica, gan lwythau o gorachod na wyddid eu bod oni ddarganfuwyd hwy ychydig flynyddoedd yn ôl gan Syr Harri Johnston. Ym marn Syr Harri, wedi dyfod pobl oes y meteloedd, tyfodd cnwd o chwedloniaeth y Tylwyth Teg o ddulliau byw ac arferion corachod ogofau a choedwigoedd Ewrop.

Yn eu gwlad gudd a theg hwy priodant, a genir iddynt blant. Ar adeg y geni ceisiant yn aml famaeth o blith dynion. Er eu bod yn garedig a rhadlon, nid ydynt onest bob amser. Lladratant blant y c marwolion,' a gadael yn eu lle blant gwachul y Tylwyth. Lladratant hefyd, weithiau, ferched dynion a'u priodi. Unwaith y cânt fod dynol i'w gwlad, gwnânt bob ymdrech i'w ddarbwyllo i fwyta o'u hymborth, ac o lwyddo disgyn arno hud a'i caethiwa, ac ni ddychwel i blith dynion am flynyddoedd, ac efallai na ddychwel byth. Gwobrwyant ddynion am garedigrwydd, eithr dialant am bob chwilfrydedd i geisio gwybod dirgelion eu bywyd hwy. Gallant eu datguddio eu hunain a diflannu fel y mynnont, a pheri i wrthrychau ymddangos yn gwbl wahanol i'r hyn ydynt, oblegid y maent yn feistri ar ledrith. Y maent hefyd yn anfarwol.[5]

Nid yw'r gred yn y Bobl Fach wedi llwyr farw. Pymtheng mlynedd yn ôl, a mi'n traethu ar lên gwerin ym Methel, Cwm Rheidol, dywedodd y Cadeirydd ar y terfyn ei fod yn ofidus am nad oedd ei frawd, a oedd yn Llundain, yn bresennol i glywed hanes y Tylwyth Teg, oblegid iddo ef, pan breswyliai yn y wlad, eu gweled droeon. Yng Ngorffennaf, 1936, cyfarfûm ym Mangor â boneddiges gymharol ieuanc—heb fod dros ddeg ar hugain-a daerai'n gryf iddi hi a chyfeilles iddi, wrth ddychwelyd o dro yn y wlad, weled clwstwr da o'r Tylwyth yn dawnsio a chwarae ar lain o dir mewn dyffryn. Mor ddiweddar â Medi 1936, rhydd Mr. R. Ll. Lloyd, Liverpool House, Carno, Sir Drefaldwyn, hanes diddorol am a ddigwyddodd y dyddiau hynny yng nghymdogaeth ei gartref. Ar uchaf y bryniau rhwng Carno a Phontdolgoch, ym Maldwyn, y mae tri llyn a elwir Llyn Tarw, Llyn Mawr, a Llyn Du, a cheir hen draddodiad bod y Tylwyth Teg yn trigo yn amgylchoedd y llynnoedd hyn. Y mae'r llynnoedd mewn man diarffordd, ac anaml yr eir ar eu cyfyl gan neb namyn ambell fugail neu bysgotwr. Ond ddechrau Medi, 1936, ymwelodd Mrs. Edwards, ffermdy Clogiau, ynghyda'i merch Alwyna (16) a dau blentyn i'w brawd, Aneurin (9) a Gwen Davies (12) â Llyn Tarw, a thystiai Mrs. Edwards a'r plant iddynt glywed yno, fin nos, y canu melysaf a glywsant erioed. Er edrych amgylch ogylch a gwrando, ni welwyd neb na chlywed dim ond y canu cyfareddol.[6] Ymwelodd Mr. George Pollard, gohebydd un o bapurau dyddiol Llundain, â'r llynnoedd, a thystiolaeth Mrs. Edwards wrtho ydoedd, "Pan groesem y llwybr sy'n arwain at ben yma'r llyn, synnwyd a swynwyd ni gan ganu uchel a ddeuai oddi tan ein traed o'r ddaear ac o'n cwmpas."Dywedai Mr. Richards, ffermdy Pant-y-bryn, yntau, na chlywsai ef y canu yn ddiweddar, eithr iddo'i glywed droeon amryw flynyddoedd yn ôl. Tystiai Mr. William Edwards, ffermdy Coed Cae, ei fod yn sicr y deuai'r canu o'r creigiau a amgylchai'r llyn. Pan oedd ef yn hogyn bach clywsai ei dad yn sôn am y canu, ac yr oedd yn sicr y gwyddid amdano tua chan mlynedd yn ôl.[7] Methodd y gohebydd medrus â datrys y broblem; eithr nid problem mohoni i'r sawl a gred yn y Tylwyth Teg.

Ychydig amser yn ôl—dwy neu dair oes efallai Testun italig—peth peryglus oedd ceisio croesi cylchau'r Tylwyth. O diflannai neb heb adael trywydd o gwbl, tybid yn gyffredin syrthio ohono i ddwylo'r Tylwyth Teg a'i gyfareddu ganddynt. Ceir lliaws o enghreifftiau o hyn.

COLLI'R FORWYN. Cafodd Syr John Rhys hanes diddorol gan hen wraig ym Mronnant, Ceredigion, am eneth a gollesid yn y gymdogaeth honno yn ei dyddiau bore hi. Yng ngwanwyn y flwyddyn, aeth un o loi amaethwr ar grwydr, a pharodd yntau i'w was a'i forwyn ei geisio a'i ddwyn adref. A hwy yn croesi dôl wrth ddychwelyd rhwng tywyll a golau, diflannodd yn eneth fel diffodd cannwyll, ac er i'r gwas chwilio a gweiddi methodd ei chael. Aeth y newydd am y colli trwy'r fro fel fflam trwy wellt, ac yn fuan drwgdybiwyd y gwas o gamwri. Er y taerai ef ei ddiniweidrwydd, fe'i carcharwyd. O glywed ei daeru uchel a chyson, meddyliwyd am driciau'r Tylwyth Teg, ac ymgynghorwyd â'r Consurwr. Eglurodd yntau fod y ferch yn nwylo'r Tylwyth, ac i'w rhyddhau bod yn rhaid i'r gwas ymhen un dydd a blwyddyn o nos y colli, ac yn y dillad a wisgasai'r pryd hwnnw, fyned i'r man y collwyd hi a'i cheisio. Aeth y gwas, a disgwyl hyd oni ddaeth y Bobl Fach i'w cylch i ddawnsio a chanu. Gwelodd y ferch yn eu plith. Trwy ofal a medr ymlusgodd y gwas hyd at fin y cylch, a phan oedd hwyl y chwarae ar ei uchaf, a phawb yn benysgafn yn nhroell y ddawns, taflodd yntau ei fraich o'r ysgwydd â sydynrwydd saethu, a chipio'r eneth o'r cylch. Wedi cyrraedd y cartref, mynegodd y forwyn gael ohoni flwyddyn o lawenydd digymysg, ac na allai aros yn y ffermdy os cyffyrddid hi rywdro â haearn. Un pen bore ymhen rhai blynyddoedd, a'r amaethwr yn ffrwyno'i farch ar gyfer taith i'r farchnad, cyffyrddodd yr enfa ar ddamwain â'r forwyn. Diflannodd hithau ar drawiad.

LLITHIO I'R CYLCH YN NANT-Y-BETWS (CAERNARFON). Ceir hanes y llithio hwn ym mhob rhan o Gymru. Pa wahaniaethau bynnag sydd rhwng Deau a Gogledd, yr un ydyw'r Tylwyth Teg o ran natur ac arferion ym mhobman. A mab Llwyn Onn, Nant-y-betws, ar ei hynt garu i Glogwyn-y-gwin, ar nos "golau pelyd," trawodd ar y Bobl Fach yn dawnsio a chanu'n isel mewn gweirglodd ar lan Llyn Cwellyn. Tynnodd at y cylch, a denwyd ef i mewn. Fe'i cafodd ei hun yn y wlad harddaf a fu erioed, a phawb yn hoyw a dedwydd. Bu yno saith mlynedd, eithr iddo ef nid oedd fwy nag ychydig oriau. Daeth i'w feddwl ei fwriad i gyfarfod â'i gariadferch, a cheisiodd ganiatâd i ddychwelyd adref. Cafodd hynny'n rhwydd, ac arweiniwyd ef tua'i wlad. Yn sydyn diflannodd y lledrith, ac fe'i cafodd yntau ei hun ar y ddôl noeth lle gwelsai gyntaf y chwarae a'r dawnsio. Cyrhaeddodd ei gartref a chael yno bopeth wedi newid. Yr oedd ei rieni yn y bedd, ei frodyr yn methu â'i adnabod, a'i gariad wedi priodi un arall. Torrodd ei galon, a bu farw mewn llai nag wythnos.[8]

LLANCIAU BRYN EGLWYS (CORWEN) A RHYS A LLYWELYN (GLYN NEDD). I fod dynol y mae 'un dydd a blwyddyn' yng ngwlad y Tylwyth Teg fel ychydig oriau neu funudau. Profir hyn gan storïau a geir trwy Gymru. Y mae honno a geir o Fryn Eglwys, gerllaw Corwen, yn lled adnabyddus mi a dybiaf, oblegid cynhwysir hi yn y mwyafrif o gasgliadau o lên gwerin Cymru. Dau lanc o Fryn Eglwys yn cyrchu glo o Finera— yn taro ar gwmni o'r Tylwyth Teg yn dawnsio— un yn ymuno â hwy am ychydig funudau—ni welwyd ef mwy gan ddynion am flwyddyn gyfan.[9][10]

Ceir hanes o eithaf Deheudir Cymru sy'n cynrychioli'r math hwn o stori cystal â dim a welais i. Ychydig tros gan mlynedd yn ôl aeth Rhys a Llywelyn, dau o weision fferm, liw nos o Lyn Nedd i gyrchu calch. Wrth ddychwelyd clywodd Rhys ganu, a gweled dawnsio'r Tylwyth, a pharodd i Lywelyn fyned rhagddo â'r llwyth, am y mynnai ef ymuno am ychydig yn y ddawns. Pan dorrodd y wawr nid oedd Rhys wedi cyrraedd y fferm. Bu chwilio dyfal amdano a methu â'i gael. Drwgdybiwyd Llywelyn o lofruddio'i gydwas. Eithr ymhen rhai misoedd daeth i feddwl amaethwr deallus, a oedd gymydog, gampau'r Tylwyth Teg. Aeth ef ac eraill, â Llywelyn yn eu plith, i'r man y collwyd Rhys, a thua'r un adeg o'r nos. Yn ddifwriad sangodd Llywelyn fin y cylch a chlywodd ganu, eithr nis clywai'r lleill. Rhoes un droed ar droed Llywelyn, a chlywodd yntau'r canu, ac felly pob un o'r lleill yn ei dro. Yn fuan, gwelent y cylch yn llawn o'r Bobl Fach yn dawnsio ar eu hegni, a Rhys yn eu plith. Gwyliasant y ddawns hyd oni ddaeth Rhys i'w hymyl, ac yna ei gipio allan. Y peth cyntaf a ofynnodd ydoedd, "P'le mae'r llwyth a'r ceffylau?" O'i anfodd yr aeth adref, am y tybiai na fuasai yn y ddawns fwy na phum munud. Dywedwyd yr hanes wrtho. Aeth yntau yn bruddglwyfus a chlafychodd, ac ni bu fyw yn hir.[11]

CYRCHU MAMAETHOD O BLITH DYNION I WEINI AR WRAGEDD Y TYLWYTH. Ni fu erioed gystudd na phoen nac ofn ymhlith y Tylwyth Teg—nid oes ynddynt hadau marwoldeb—ond er cysur a mwyniant i'r wraig ar adeg geni baban, ceir ambell ddynan mwy caredig na'i gilydd yn ceisio mamaeth o blith y 'marwolion' i weini arni.

Rhydd Syr John Rhys hanesyn diddorol sy'n enghraifft o lawer. Preswyliai yn Swyddffynnon, Ceredigion, hen wraig o'r enw Pali, a fu farw tua thrigain a deg o flynyddoedd yn ôl, a hi ar gyfyl cant oed. Un min nos cyrchwyd hi gan un o'r Tylwyth i weini ar ei briod. Arweiniwyd hi i blas gwych. Yr oedd pob pilyn yn yr ystafell cyn wynned â'r eira. Ganed y baban. Ni welai a ac ni chlywai Pali neb na dim ond y fam a'r baban, eithr llenwid yr ystafell â gweinidogion bychain y Tylwyth yn gweithio'n gudd a thawel. Rhoddwyd i Bali ennaint arbennig i eneinio corff y baban pan ' driniai' ef fore a hwyr, a pharwyd iddi ochel cyffwrdd ei llygaid ag ef. Eithr un hwyr, a hi yn c trin' y plentyn, aeth i'w llygad gosi, ac yn ddifeddwl rhwbiodd hithau ef â'i llaw. Ar amrantiad gwelai bopeth-yr ystafell yn llawn o'r Bobl Fach. Bore trannoeth pan olchai'r baban, meddai Pali wrth y fam, " Chwi gawsoch lawer o ymwelwyr yma ddoe." " Ymwelwyr?" meddai hithau, " Pa fodd y gwyddoch hynny? A roddasoch chwi'r ennaint ar eich llygaid?" Yna neidio'n chwimwth o'i gwely a chwythu i lygaid Pali, a dywedyd, " Bellach ni welwch ddim a berthyn i ni." O hynny allan bu Pali yn ddall i bopeth y Tylwyth Teg hyd ei bedd. Hanes diddorol yw hwnnw a ddaeth o ardal Beddgelert. Un tro, a mamaeth o Nanhwynan yn Hafodydd Brithion ynglŷn â'i gwaith, daeth at y drws ŵr bonheddig ar farch glaslwyd, a'i gorchymyn i'w ddilyn ef yn ddiymdroi. Esgynnodd hithau i gefn y march ac eistedd wrth sgil y gyrrwr. Ymaith â hwy fel y gwynt drwy Gwm Llan, tros y Bwlch, i lawr Nant-yr-Aran a thros y Gadair i Gwm Hafod Ruffudd. Cyrhaeddwyd plas mawr a gwych wedi ei oleuo â llusernau na welodd erioed eu hafal. Aethpwyd i mewn, trwy dyrfa o wasananaethyddion bychain, i ystafell gwraig y plas. Gwnaeth y famaeth ei gwaith ar frys ac* yn fuan. Tariodd yno rai dyddiau, a hwy oedd y dyddiau hapusaf a gafodd erioed. Cyn ei chychwyn oddi yno, rhoes y gŵr bonheddig iddi bwrs mawr a thrwm, a'i gorchymyn i beidio â'i agor hyd oni chyrhaeddai ei chartref. Pan agorwyd y pwrs cafwyd ef yn llawn o aur. Bu'r famaeth fyw hyd derfyn ei hoes ar ei henillion ym mhlas y Tylwyth Teg.[12]

Ceir o Gernyw stori mamaeth a wahaniaetha gryn lawer oddi wrth y ddwy a nodwyd, a hon yw yr unig un o'i bath y gwn i amdani. Yng Nghernyw ymddiriedwyd un o blant y Tylwyth Teg i famaeth ddynol i'w fagu yn ei chartref hi ei hun, a rhoddwyd iddi ddwfr o natur arbennig i olchi'r bachgen. Daeth y plentyn â llwyddiant anarferol i'r cartref, ac ymhoffodd y famaeth yn fawr ynddo. O weled y parai'r dŵr a ddefnyddiai i wyneb y bachgen ddisgleirio fel yr haul, mynnodd weled pa effaith a gâi ar ei hwyneb hithau. Wrth iddi ymolchi, tasgodd defnyn neu ddau o'r dŵr i'w llygad. Yna gwelai mewn eiliad, ac am y tro cyntaf, nifer o'r Bobl Fach yn chwarae â'r plentyn ar lawnt y tŷ. Un diwrnod yn y farchnad, cyfarfu â thad y bachgen a'i gyfarch. Meddai yntau wrthi:

" Nid dŵr i ti, ond dŵr i'r baban;
Collaist dy lygad, y baban a'th hunan."

O'r awr honno bu'r famaeth yn ddall yn y llygad deau, a phan gyrhaeddodd adref yr oedd y bachgen wedi diflannu. Ciliodd pob llwyddiant a hawddfyd o'r cartref, a bu hi a'i phriod yn dlawd a thruenus hyd derfyn eu bywyd.[13]

PRIODI UN O FERCHED Y TYLWYTH (CAERNARFON). Peth cyffredin gynt ydoedd i lanc o blith dynion ymserchu yn un o ferched y Tylwyth Teg a'i phriodi. Cafodd Syr John Rhys gan y Parchedig Owen Davies, curad Llanberis, yr hanes a ganlyn fel yr adroddid ef yn Nant-y-betws, gerllaw Caernarfon.

Un prynhawn teg ym Mehefin, aeth etifedd yr Ystrad i lan afon Gwyrfai, heb fod ymhell o'i chychwyn yn Llyn Cwellyn, ac ymguddio mewn llwyn yn ymyl y fan yr arferai'r Tylwyth Teg ddawnsio. Cyn hir daeth y Tylwyth yno, ac yn eu plith yr eneth dlysaf a welsai. Heb yn wybod i'r Tylwyth, llwyddodd i'w dal a'i dwyn i'r Ystrad. Syrthiodd yr etifedd mewn cariad â hi, a llwyddo i'w chadw yn forwyn iddo. Bu'n forwyn heb ei bath. Godrai deirgwaith y swm arferol o laeth oddi wrth bob buwch. Eithr methai yn ei fyw â'i chael i ddatguddio'i henw. Ar ddamwain, un tro, fe'i cafodd ei hun wrth yr hen lwyn eilwaith, ac ymguddiodd a chlywed y Tylwyth yn sôn am yr eneth a gollwyd, ac yn dywedyd, "Pan oeddym yma ddiwethaf dygwyd oddi arnom ein chwaer Penelope gan un o'r marwolion." Dychwelodd yntau i'r Ystrad a chyfarch y forwyn wrth ei henw. Synnodd hithau ac ofni peth wrth glywed ei henw. Ceisiodd y llanc ganddi addo bod yn briod iddo, ac wedi peth taerineb addawodd hithau ei briodi a bod yn ffyddlon iddo, ar yr amod nad oedd i'w chyffwrdd â haearn. Priodwyd, a ganwyd iddynt fab a merch. Trwy rinweddau'r wraig daethant yn gyfoethog iawn. Yn ychwanegol at yr Ystrad daeth holl ogleddbarth Nant-y-betws, ac oddi yno i ben yr Wyddfa, ynghyd â Chwm Brwynog, ym mhlwyf Llanberis, yn eiddo iddynt. Eithr un diwrnod, a'r ddau ar y ddôl yn ceisio dal ceffyl a oedd braidd yn wyllt a chyflym, taflodd y gŵr y ffrwyn at y ceffyl i'w atal, ac ar ddamwain cyffyrddodd haearn a oedd ar y ffrwyn â'i briod. Diflannodd hithau ar amrantiad ac ni welwyd hi mwy. Ond un noson ymhen talm o amser, a'r gogleddwynt yn gryf ac oer, daeth Penelope at ffenestr 'stafell wely ei phriod a dywedyd wrtho:

Rhag bod annwyd ar fy mab,
Yn rhodd rhowch arno gôb ei dad;
Rhag bod annwyd ar liw can,
Yn rhodd rhowch arni bais ei mam.[14]

Y TYLWYTH TEG YN LLADRATA PLENTYN. Gadawodd gwraig Dyffryn Mymbyr, gerllaw Capel Curig, ei baban yng ngofal ei mam a oedd yn hen, ac aeth hithau i'r maes i gynorthwyo achub y cynhaeaf. Daeth ar yr hen wraig gwsg trwm, a llithrodd rhai o'r Tylwyth i'r tŷ a dwyn y baban o'i grud, a gosod un o'u babanod eiddil hwy yn ei le. Pan ddychwelodd y fam, cafodd yn y crud fod bach gwachul a hyll yn crio â hynny o nerth a oedd ganddo. Ni welodd y fam beth bach salwach erioed. Galwodd ar ei phriod o'r maes a'i yrru i chwilio am "Ŵr Cyfarwydd," ac ymgynghori ag ef. Ar ôl hir holi, cafwyd bod offeiriad Trawsfynydd yn gyfarwydd yng nghyfrinion ysbrydion a bodau anweledig eraill. Aed at hwnnw. Parodd yntau i'r gŵr geisio rhaw a'i gorchuddio â halen a thorri ynddo lun croes. Yna gosod y rhaw ar y tân yn ystafell y plentyn diethr, â'r ffenestr yn agored. Pan ddechreuodd yr halen grasu, diflannodd yr erthyl bach yn anweledig, a chaed y baban arall yn ddianaf ar garreg y drws.[15]

I amlygu nodweddion y Tylwyth Teg nid oes ofyn am ychwanegu namyn un stori, sef "Melltith Pantannas." Cyn belled ag y gwelais nid oes yn bod well stori amdanynt na hon. Cafodd Syr John Rhys hi gan Mr. Isaac Creigfryn Hughes, Mynwent-y-Crynwyr, Morgannwg. Yr oedd Creigfryn yn fardd adnabyddus mewn cylch eang yn ei ddyddiau bore, a datblygodd yn nofelydd da. Cyhoeddwyd o leiaf chwech o'i nofelau. Yn eu plith y mae "Y Ferch o Gefn Ydfa," "Y Ferch o'r Sgêr" a "The Tragedy in Gelli Woods." Glöwr ydoedd. Bu farw ym mis olaf y flwyddyn 1928, yn 76 oed. Yr oedd Creigfryn yn ddall y tro diwethaf y gelwais i'w weled, ond yr oedd mor hoyw ei feddwl a diddan ei ymgom ag y bu erioed. Cyraeddasai radd lled uchel o ddiwylliant, ac efallai na chredai bopeth a ddywedai am y Tylwyth Teg. Ni wn i ddim. Soniai lawer amdanynt, a châi flas anarferol ar ddilyn eu trywydd. Wele'r stori.

Y TYLWYTH TEG YN DIAL, NEU MELLTITH PANTANNAS (MORGANNWG). Ymwelai'r Tylwyth yn gyson â meysydd Pantannas, ond am ryw reswm neu'i gilydd ni hoffai'r amaethwr eu hymweliadau, a rhoes ei fryd ar ddyfalu moddion i'w cadw draw. Wedi methu â chynllunio dim effeithiol ymgynghorodd â rheibes, ac addawodd hithau ei gynorthwyo os câi hi "y godro am un hwyr a bore." Parodd iddo aredig y meysydd y cyrchai 'r Tylwyth iddynt, a châi yn fuan y diflannent mewn siom o golli y tonglas. Triniwyd y tir a hau, a thyfodd yr had yn gnwd trwm. Daeth y cynhaeaf. Eithr un hwyr cyfarfu'r amaethwr ar ei lwybr â hen ŵr bach wedi ei wisgo mewn gwyrdd, a chyfeiriodd hwnnw ei gleddyf bychan ato a dywedyd,

"Dial a ddaw,
Y mae gerllaw."

Cellwair a chwerthin a wnâi'r amaethwr—onid oedd rheibes yn gefn iddo? Ond ymhen ychydig ddyddiau, a hwy ar fedr cywain yr ŷd, llosgwyd y maes gan y Tylwyth Teg. Edifarhaodd yr amaethwr am a wnaeth, a thra myfyriai yn y maes uwchben y difrod, wele'r gŵr bach yn dynesu eilwaith a dywedyd,

"Nid yw ond dechrau."

Datganodd yr amaethwr ei ofid, ac addo y câi'r tir dyfu drachefn i fod yn fannau chwarae'r Tylwyth os atelid y dial. "Na," meddai'r cor, "gair y brenin yw, Dial, ac nid oes ar y ddaear a'i tyn yn ôl." Ar ôl hir ymbil â'r bychan, addawodd yntau eiriol ar ei ran. Wedi machlud haul trannoeth cyfarfuwyd drachefn, a chael bod gair y brenin i sefyll. Rhaid oedd dial, ond yn wyneb edifeirwch yr amaethwr ni ddeuai'r felltith arno ef na'i blant, ond " rhaid oedd dial."

Aeth canrif heibio, ac ni ddaeth un math o aflwydd, eithr clywid weithiau y waedd, "Daw dial."

Yr oedd etifedd Pantannas a merch Pen Craig Daf ar fin priodi, ac yng ngŵyl y Nadolig cyrchwyd y ferch ieuanc i wledd ym Mhantannas. A'r cwmni o gylch y tân wedi'r wledd, dychrynwyd hwy gan floedd o'r afon islaw—

"Daeth amser dial."

Ymwahanwyd, ac aeth Rhydderch, yr etifedd, â'i gariadferch, Gwerfyl, i'w chartref ym Mhen Craig Daf, ac ni ddychwelodd adref.

Ar ei ffordd yn ôl i Bantannas daliwyd Rhydderch gan y Tylwyth yn un o'u cylchau, a'i hudo i'w hogof yn Nharren-y-Cigfrain, a'i gadw yno. Aeth heibio flynyddoedd, a gwelid Gwerfyl fore a hwyr ar fryncyn yn ymyl ei chartref yn syllu i bob cyfeiriad gan ddisgwyl ei chariadfab. Gwyliodd oni phallodd ei golwg a gwynnu o'i gwallt. Disgwyl yn ofer am oes. Bu farw, a chladdwyd hi ym mynwent hen Gapel-y-Fan.

Wedi tario o Rydderch yn ogof Tarren-y-Cigfrain, am ychydig oriau yn ôl ei dyb ef, dymunodd ddychwelyd i Bantannas a phriodi Gwerfyl. Daeth allan ganol dydd a thynnu at Gapel-y-Fan, ond nid oedd yno namyn murddun. Aeth i Ben Craig Daf a holi am Gwerfyl, eithr dieithriaid oedd yno. Aeth i Bantannas, ei gartref, a chael yno eilwaith ddieithriaid. Yn fuan daeth gŵr y tŷ o'r maes, a'r cwbl a wyddai hwnnw ydoedd, cofio clywed ei dadcû yn sôn am golli disymwth etifedd yr ystâd rai cannoedd o flynyddoedd cyn ei ddyddiau ef. Ar ddamwain, wrth godi o'i eistedd, cyffyrddodd yr amaethwr Rydderch â'i ffon, a diflannodd yntau mewn cawod o lwch.

Y mae Pantannas—adeilad diweddar—ar fryncyn sy'n cysgodi Mynwent-y-Crynwyr, ym Morgannwg. Saif Pen Craig Daf ar y mynydd rhwng gorsaf Quakers Yard a Bedlinog, ac y mae Tarren-y-Cigfrain ychydig islaw Merthyr Vale.

Y TYLWYTH TEG YN OFNI HAEARN AC YN CUDDIO'U HENW. Yn storïau’r Tylwyth Teg cyfeirir yn aml at haearn fel peth i'w ofni a'i ochel, a bu amryw sy'n gyfarwydd â llên gwerin yn dyfalu am y rheswm a cheisio esbonio'r diofrydbeth (taboo). Bernir weithiau y teflir ni'n ôl i Oes y Cerrig (Stone Age). Pan ddarganfuwyd meteloedd, ymwrthodwyd ag arfau cerrig mewn bywyd cyffredin, eithr am rai oesoedd wedyn parhawyd i ddefnyddio arfau cerrig i bob pwrpas crefyddol. Hyn oedd yr arfer drwy'r byd, ac er nad oes prawf pendant mai dyma oedd arfer hen drigolion Cymru, y mae'n lled debyg eu bod hwythau yn gaeth i'r un rheol. Tybid yn naturiol, oherwydd gwasanaethu'r duwiau gyhyd ag offerynnau cerrig, y gwrthwynebai'r duwiau hynny bob newid. Priodolid math ar gymeriad neu ansawdd ddwyfol i'r erfyn carreg.[16]

Tybir hefyd yr ofnai'r hen drigolion bore haearn oherwydd bod eu gelynion, a ddefnyddiai haearn i ymosod, yn drech na hwy nad oedd ganddynt namyn arfau cerrig.

Wrth gwrs nid yw hyn i gyd ond dyfalu noeth, a gweithredu ar yr un egwyddor ag y gwnaethai'r hen ofergoelwyr cyntaf.

Y mae Cuddio'r Enw yn beth cyffredin yn hanes y Tylwyth Teg. Ceir enghraifft yn stori Etifedd yr Ystrad a Penelope. Ni fynnai'r Bobl Fach ddatguddio'u henw. Credir yn y Dwyrain o hyd fod gwybod enw person yn sicrhau dylanwad mawr ac awdurdod llwyr ar y person hwnnw.

Oherwydd hyn, mewn amryw briodasau yn India heddiw, ni ŵyr y priodfab enw priodol y briodasferch hyd oni fydd y priodi trosodd. Nid oes iddo awdurdod arni hyd hynny. Cadwodd miloedd o filwyr India yn y Rhyfel Mawr eu henwau yn gyfrinach ar ròl fechan a oedd yn rhwymedig ar y fraich neu am y gwddf. Mynnent eu hadnabod wrth enwau ffug. Anaml y rhydd anwariaid eu henwau priodol. Byddai rhoddi'r enwau yn rhoddi i eraill awdurdod trostynt.[17] Ni fyn y Tylwyth Teg fod tan awdurdod neb.

III.

BODAU ANWELEDIG

Ceir math arbennig o fodau ysbrydol yn ymyrryd â bywyd y ddaear na ellir yn briodol eu rhestru gyda'r Tylwyth Teg na'r ysbrydion a ymddengys i ddynion. Ni wn am well enw arnynt na Bodau Anweledig. Gwahaniaethant o ran amryw bethau, eithr y maent oll ynghudd—anaml, os byth, y gwelir hwy.

Y Coblynnau. Nid oes sicrwydd hollol ynglŷn â natur a pherthynasau'r bodau hyn. Cred rhai mai rhywogaeth arbennig o'r Tylwyth Teg ydynt. Ond nid oes yn eu harferion ddim tebyg i eiddo'r Tylwyth, ac er bod tuedd ymguddio yn y Bobl Fach, gwelir hwy'n aml, yn ôl tystiolaeth amryw, eithr y mae'r Coblynnau yn gwbl anweledig. Y mae iddynt amryw ddibenion, ond y prif ddiben ydyw gwasanaethu mwynwyr trwy eu tywys at feteloedd, megis plwm a chopr, arian ac aur; ac ar brydiau cynorthwyant y glowr yntau. Gwnânt eu gwaith trwy guro'r graig, a rhoddi arwyddion eraill trwy sŵn tanddaearol. Eu henw Saesneg ydyw Knockers.

Brithir rhai o siroedd Cymru, ac yn arbennig Ceredigion a Fflint, â gweithfeydd mwyn plwm a chopr. Ar fynydd a dyffryn a chwm a chilfach ceir cannoedd o byllau a lefelydd, a thynnwyd ohonynt er dyddiau'r Rhufeiniaid feteloedd gwerth miliynau o bunnoedd. Caed yn y mwyafrif o'r gweithfeydd hyn lawer o arian a thoreth o blwm a chopr. Nid ydynt wedi eu " gweithio allan" o lawer, ond am resymau hysbys y mae'r nifer fwyaf ohonynt yn segur ers ugeiniau o flynyddoedd.

I lawr hyd at hanner can mlynedd yn ôl, credai'r mwynwyr yn gryf yn y Coblynnau a'u cymwynasgarwch. Clywais ganwaith pan oeddwn yn hogyn eu curo dyfal yng ngwaith Esgair Hir. Ni wyddwn y pryd hwnnw achos a diben y curo, ac efallai fod yr hen fwynwyr yn rhy garedig a meddylgar i egluro i lanc rhag peri dychryn iddo. Profir nad ieuanc na damweiniol y gred yn y Coblynnau gan lythyrau Lewis Morris, Môn.

Pan breswyliai Lewis Morris yn Allt Fadog, ffermdy yn y mynyddoedd ychydig filltiroedd o Aberystwyth, gwariodd lawer o'i amser a'i arian ar weithio gweithfeydd mwyn plwm, fel goruchwyliwr Mwynau'r Brenin a throsto'i hun. Yn 1754 ysgrifennodd amryw o lythyrau ynglŷn â hwy at ei frodyr ac eraill. Mewn rhai o'r llythyrau hyn sonia am y Coblynnau. Hwy ydyw baich llythyr a ysgrifennodd o Allt Fadog, Hydref 14, 1754, at ei frawd William. Ysgrifennodd yn Saesneg, ac wele drosiad rhydd o rai o'i frawddegau.

"Chwardd y sawl na ŵyr ond ychydig am gelfyddydau a gwyddorau, neu bwerau Natur (y rhai sydd bwerau Awdur Natur) am ein pen ni fwynwyr Ceredigion y sy'n credu yn y Coblynnau mewn gweithfeydd. Math o fodau anweledig ac o natur dda ydynt. Clywir hwy, eithr nis gwelir. Y maent yn rhagarwyddion i'r gweithwyr, megis y mae breuddwydion o rai damweiniau a ddigwydd inni.

"Cyn darganfod gwaith Esgair Mwyn, gweithiai'r bobl fach hyn yn galed yno ddydd a nos, ac y mae amryw o bobl onest a sobr a'u clywodd, a rhai personau na feddent un syniad amdanynt hwy na'r gweithfeydd. Ar ôl darganfod y mwyn peidiodd y Coblynnau â'u gwaith.

"Pan ddechreuais weithio Llwyn Llwyd, gweithient mor brysur yno am gryn amser nes dychrynu rhai gweithwyr ieuainc, a pheri iddynt ymadael â'r gwaith. Yr oedd hyn pan weithid y lefelydd a chyn taro ar fwyn. Pan gyrhaeddwyd y mwyn peidiasant hwythau â'u curo, ac ni chlywais hwy mwy."

Dysg Lewis Morris y dylid gweithredu bob amser yn ôl cyfarwyddyd y Coblynnau:

"Dyma opiniwn yr hen fwynwyr a broffesa ddeall gwaith y Coblynnau. Gweithreda ein Capten yn ôl y rhybudd a roddir, a disgwyl bethau mawr.

"Chwardded a fynno, y mae gennym y rheswm gorau tros lawenhau, a diolch i'r Coblynnau, neu'n hytrach, i Dduw, sydd yn anfon y rhybuddion hyn."[18] Esboniad Lewis Morris ydoedd esboniad cyffredin y mwynwyr ar y Coblynnau a'u gwaith, ond y mae'n amlwg oddi wrth Wild Wales y priodolai rhai iddynt y bwriad o ddrygu'r gweithwyr. Ar ei daith trwy Gymru daethai George Borrow o Fachynlleth drwy'r Glasbwll i waith mwyn Esgair Hir, a chan nad oedd llwybrau namyn llwybrau defaid ar y mynyddoedd, trefnodd Capten y Gwaith i lanc o fwynwr ei arwain i Bonterwyd. Yn ôl ei arfer holai Borrow lawer ar ei arweinydd, ac yn ateb i'r gofyniad a oedd yn hoffi gwaith mwynwr, dywedai'r llanc yr hoffai ef yn fwy petai ysbrydion y creigiau yn peidio â'i ddychrynu. "Unwaith," meddai, "a mi yn gweithio ar fy mhen fy hun yn nyfnder y gwaith, yn sydyn, clywn sŵn rhuthrol ac ofnadwy fel pe syrthiasai rhan anferth o'r ddaear. O! Dduw? meddwn, a syrthiais drach fy nghefn. Tybiais i'r holl bwll ymollwng a'm bod wedi fy nghladdu'n fyw. Gorweddais am oriau yn ddadfyw. . . O'r diwedd llwyddais i ymlusgo hyd at waelod y pwll, a chyrraedd gweithwyr eraill. Achoswyd y sŵn gan ysbrydion y creigiau i'r diben o ddrysu synhwyrau'r mwynwyr."[19]

Dywedir y credid yn y Coblynnau tros ganrif yn ôl yn ardaloedd mynyddoedd yr Wyddfa, a bod mwynwyr Lloegr, yr Alban, a mwynwyr gwledydd eraill y byd yn credu'n gryf yn eu dylanwad a'u buddioldeb.[20] Cefais y ddau hanesyn a ganlyn gan Mr. Lewis Hughes, Henblas, Bryniau, Meliden, Sir Fflint. "Nid oes yng Nghymru sir â chymaint o olion hen gloddio yn ei chreigiau â Sir Fflint.

"Cofiaf ymgomio â'm tad ynglŷn â digwyddiadau yng ngwaith plwm Deilargoch, plwyfi Dyserth a Galltmelyd. Wrth ben y gwaith y mae olion llawer o gloddio cynnar ar ochr y Graig Fawr. Cloddiwyd ar ôl yr wythïen gul am bellter mawr i'r graig gan wneuthur hollt ynddi. Y syndod ydyw i neb lwyddo gweithio mewn lle mor gyfyng. Nid yw'r lled mewn amryw fannau yn ddigon i hogyn ysgol fyned iddo. Gofynnais i'm tad pwy a fu'n gweithio yn yr holltau cul hyn. 'O,' meddai,' y bobl bach du. Pobl fychain a oedd yn byw yma ymhell bell yn ôl, fel y clywais gan yr hen bobl' Holais a wyddai ef rywbeth am y 'nocars' (coblynnau.) 'Gwn yn dda,' meddai. 'Clywais lawer o sŵn ym mherfeddion y Pwll Coe, fel sŵn ceibio a dyrnu a chodymu, fel petai rhywrai'n gweithio yr ochr arall inni. Credai'r hen bobl fod rhyw fodau tanddaearol yn cloddio am blwm fel ninnau. Yr oeddynt yn anweledig, ond gadawent agennau mawrion yng ngholuddion y ddaear yn brawf o'u gweithio.' "

Cafwyd yr hanesyn a ganlyn gan yr un gŵr. "Yn 1777, dechreuwyd gweithio gwaith yr Holway. Cloddiwyd twnnel i'r graig ychydig i'r gorllewin o Ffynnon Gwenfrewi, a chloddiwyd yn ofer am agos i ugain mlynedd. Yr oedd y perchenogion bron a thorri eu calon, a'r gweithwyr wedi hen ddiflasu, ond a phawb ar fin gadael y lle, clywai'r cloddwyr sŵn curo diarbed ychydig o'u blaen. 'A! ' meddent,' dyna sŵn y nocars; nid yw'r metel ymhell.' Yn fuan, fuan, trawyd ar dalcen mawr o blwm. Talodd y talcen ar ei ganfed am flynyddoedd."

Nid ydynt yn eu cyfyngu eu hunain i'r gweithfeydd mwyn plwm. Gweithiant hefyd yn y glofeydd. Y mae'n anos clywed eu curo yno yn arbennig mewn glofa fawr, oherwydd maint sŵn gweithio'r pwll. Ym mhwll glo'r Morfa credid yn gryf ynddynt. Curent i gyfarwyddo'r glowyr at wythiennau da o lo, a gweithient yn wastad o blaid y glowyr.[21]

Dywaid Writ Sikes y disgrifid y coblynnau gan fwynwyr Cymru yn fodau bychain, hyll, tua hanner llath o daldra, a'u bod o natur dda ac yn gyfeillgar iawn â'r gweithwyr.[22] Eithr yn ôl pob hanes y maent yn anweledig, ac ni chlywais erioed eu disgrifio. Ceir bodau bach sy'n cyfateb i'r coblynnau o ran arferion yn gweithio yn y mwyafrif o byllau cyfandir Ewrop, megis yng ngweithfeydd yr Almaen.

BODAU ANWELEDIG YN PENDERFYNU SAFLEOEDD EGLWYSI. Perthyn rhai o nodweddion y Coblynnau i'r bodau anweledig hyn, eithr llefaru a wnânt hwy, a gweithio o blaid crefydd yn unig. Eu prif bwrpas ydyw cyfarwyddo dynion i drefnu'n addas ar gyfer anghenion moesol ac ysbrydol ardaloedd. Ym mharthau gwledig Cymru, y mae'r Eglwysi Esgobol bron i gyd yn hen, a'r bodau hyn a fu'n penderfynu safleoedd rhai ohonynt. Er pob dyfalu a fu, methwyd erioed â phenderfynu'n derfynol rywogaeth yr ysbrydion. Y mae'n eglur oddi wrth y diddordeb a deimlant mewn eglwysi nad ysbrydion drwg mohonynt. Eu modd o weithio ydyw dinistrio lliw nos yr hyn a adeiledir gan ddynion liw dydd, a symud y defnyddiau i'r man y dylid adeiladu'r eglwys.

Un o'r pethau a ddysgais i gyntaf mewn barddoniaeth (!) ydoedd dwy linell a ddengys mai ysbrydion anweledig ac ymyrgar a benderfynodd safle Eglwys Sant Mihangel, y Llandre. Lle bach glân a phrydferth odiaeth ydyw'r Llandre, ryw bedair milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Bwriedid oesoedd yn ôl adeiladu'r eglwys gyntaf ar y lle y saif amaethdy Glan Fred Fawr heddiw. Casglwyd y defnyddiau ac aed ati i adeiladu. Gweithiai'r seiri maen yn ddygn drwy'r dydd, eithr yn y nos dinistriai'r ysbrydion y gwaith a dwyn y meini i fan arall filltir i ffwrdd. Aed ymlaen fel hyn am gryn amser; y seiri yn adeiladu a'r ysbrydion yn chwalu. Ond un canol nos llefarodd yr ysbryd a chodi ei lais fel y clywai'r holl ardalwyr ef:

"Llanfihangel yng Ngenau'r Glyn;
Glan Fred Fawr a fydd fan hyn."

Dechreuwyd adeiladu ar y man yng ngenau'r glyn lle y gosodwyd y meini gan yr ysbrydion, ac ni fu ymyrryd mwy.

Ceir hefyd draddodiad cyffelyb o ganolbarth y sir. Yn ei anerchiad i Gymdeithas Hynafiaethol Sir Aberteifi (Mai 12, 1926), ar Eglwys Pen-y-bryn, Llangrannog, dywedai'r Parchedig W. D. Jones, ficer y plwyf, fod yn yr ardal hen gred mai rhyw fodau goruwchnaturiol a benderfynodd safle'r eglwys. Penderfynasai'r plwyfolion adeiladu ar fan a elwid Hen Glos, ar fferm Pwll Glas, eithr nid cynt y casglwyd defnyddiau a dechrau adeiladu nag yr aflonyddwyd arnynt gan fodau anweledig. Cariai'r bodau hyn ymaith bob nos y meini a osodasid gan y gweithwyr yn ystod y dydd, a'u gosod ar safle'r eglwys bresennol, a llafarganu wrth eu gwaith:

"Ni ddaw bendith i dy ran,
Heb it newid sail y llan."

Wedi gorffen yr eglwys yn ôl dymuniad yr ysbrydion, clywyd lleisiau angylion yn cyhoeddi:

"Ni chei syflyd o'r fan hyn,
Llanfihangel Pen-y-bryn."

Ni wn am un esboniad ar y coelion hyn, ond gwn y byddai'n fendith i lawer ardal petasai rhyw ysbryd a welsai'n gliriach ac ymhellach na dynion wedi penderfynu safleoedd rhai o gapelau Cymru.

HEN WRACH CORS FOCHNO. Y mae'n anodd penderfynu ym mha gwmni y dylid gosod yr Hen Wrach. O ran natur nid yw yn anweledig, ond y mae ganddi ryw fedr anarferol i ymguddio. Ni chlywais erioed am fwy nag un a'i gwelodd. Efallai y cymer ei lle yn y bennod hon cystal ag unman.

Y mae ynglŷn â Chors Fochno gryn lawer o ddeunydd llên gwerin, mwy fe ddichon nag a berthyn i unrhyw gors arall yng Nghymru, ac nid oes bod i'r Hen Wrach ar wahân iddi. Oherwydd y pethau hyn, teimlaf y dylid rhoddi peth o hanes y gors.

Cors fawr ydyw, a hynod o ran ei chynnwys a'i hanes,—mawr o ran maint, oblegid ymestyn o'r Borth i afon Llyfnant, terfyn gogleddol Sir Aberteifi. Y mae ei hyd 'fel yr heda'r fran,' neu'n fwy naturiol, fel yr eheda iâr ddŵr, yn chwe milltir, a'i lled yn dair milltir o odre'r mynydd, sy'n rhan o gadwyn Pumlumon, i relwe'r Cambrian (gynt) sydd fel llinyn ar draws ei hwyneb, rhyngddi a Dyfi a'r môr. Ar ei chanol y mae math o ynys led fawr, ac arni rai ffermydd da, a cheir hefyd ambell dŷ annedd, a hen waith mwyn plwm sy'n segur ers ugeiniau o flynyddoedd. Ond y mae'r gweddill o'r gors, a'r rhan fwyaf ohoni, yn siglen ddiwaelod a pheryglus. Tyf arni frwyn cryf a hesg sidanaidd, ac yma a thraw glystyrau o helyg. Nid oes yn bod gartref diogelach i'r geinach a'r hwyaden wyllt a'r crychydd glas, oblegid ni ddeil rhannau helaeth o'i chroen tenau fawr ddim trymach na phryf ac aderyn. Iddi hi hefyd y daw'r gog gynnar, ac ohoni, o odre coed y Gwynfryn, y daw ei chân gyntaf i drigolion dau blwyf. Yng nghored Gwyddno Garanhir, tywysog Cantre'r Gwaelod, ar fin y gors ac ar ei chwr eithaf i'r deau, y cafwyd Talieisin Ben Beirdd. Y mae'r traddodiad yn hen bellach, â pheth o flas y Mabinogion arno, er nad oes a ŵyr yn sicr ei gychwyn. Yn fras a chynnil fel hyn y rhed. Ymhell yn ôl, ym Mhenllyn, preswyliai Tegid Foel a'i briod Ceridwen, ac iddynt fab a'i enw Afagddu, a oedd fel ei enw yn hagr—yr hacraf erioed a fu. Meddylio a wnaeth y fam, a phenderfynu ei harddu â phob gwybodaeth a doethineb, a myned ati i ferwi pair er cael awen i'w mab hyll. Rhaid oedd cadw'r pair ar ferw didor am un dydd a blwyddyn. Casglodd Ceridwen bob rhyw lysiau rhinweddol o'r meysydd, a gosod y pair tan ofal Gwion Bach, o Lanfair Caer Einion, a gŵr gwan ei feddwl o'r enw Morda. A'r flwyddyn bron ar ben, yn annisgwyliadwy neidiodd o'r berw dri diferyn a disgyn ar fys Gwion, a chan eu poethed trawodd yntau'r bys yn ei enau. Deallodd ar unwaith fyned holl rinwedd y pair i'w berson ef, a ffodd am ei einioes rhag llid Ceridwen. Erlidiodd hithau ef, a chanfu Gwion hi ac ymrithiodd yn ysgyfarnog; fe'i trodd Ceridwen ei hun yn filast; neidiodd Gwion i afon a throi'n bysgodyn; hithau a drodd yn ddyfrast; trodd Gwion yn aderyn; trodd hithau yn farcutan; pan oedd hi ar ei ddal, gwelodd Gwion bentwr o wenith ar lawr dyrnu ysgubor, a disgyn iddo a myned yn un o'r gronynnau; trodd Ceridwen hithau yn iâr a llyncu'r gronyn. Ymhen naw mis, ganed iddi faban a oedd mor dlws fel na allai feddwl am ei ladd, felly fe'i rhoes mewn corwg a'i daflu i'r môr. Un min nos Calan Mai aeth Elffin, mab Gwyddno Garanhir, a oedd â'i fryd ar bysgota, i gored ei dad a oedd ar enau afon Eleri (cyn ei throi o'i gwely naturiol). Ni chafodd yno bysgod, eithr corwg ynglŷn wrth bawl y gored, ac yn y corwg y plentyn harddaf erioed. Cyn hardded oedd y mab bach ag y'i galwyd Tâl-iesin,—wyneb tlws, ysblennydd. Aed â'r plentyn i blasty Gwyddno, ac yn ôl yr hanes, yno y bu hyd oni foddwyd Cantre'r Gwaelod. Dihangodd Taliesin rhag y dilyw, a thrigo ar odre'r mynydd tan y Graig Fawr. Y mae ei fedd i'w weled ar uchaf y mynydd gerllaw Pensarn, filltir fawr o bentref Tre' Taliesin.

Dyna Gors Fochno—cartref yr Hen Wrach. Y mae llawer o draddodiadau a choelion Cymru yn gyffredin i'r holl siroedd, ond ni chlywais am draddodiad yr Hen Wrach yn unman ond ym mhlwyf Llancynfelyn. Yr oedd bri mawr ar y goel yn fy nyddiau bore, eithr nid oes iddi le amlwg a phwysig ym mywyd y genhedlaeth bresennol, a hynny yn bennaf oherwydd cyfnewidiadau yn nulliau bywyd yr ardal. Nid yw'r wrach hon yn bod namyn yn y plwyf hwn, a da hynny, oblegid un â'i melltith yn filain ydyw. Nid oes a'i dinistria ond tân, a chan y trig mewn cors sy'n siglen ddyfrllyd, nid oes obaith am ei thranc hyd oni ddêl y dilyw tan, a rhaid i hwnnw losgi'n hir i'w llosgi hi. Bu preswylwyr Tre' Taliesin yn 'ymladd byw', ys dywedant hwy, am genedlaethau yn gaeth i ofn yr Hen Wrach, ac er pob gwylio a gochel delid hwy ganddi—pob un yn ei dro. Ni ddihangodd ar ei melltith na dyn mewn oed na phlentyn. Yr oedd yn gwbl ddidrugaredd ac yn greulon fel angau. Yr unig beth â chysgod y da ynddo y gellir ei ddywedyd yn ei ffafr ydyw, ei bod yn hollol amhleidiol, oblegid nid arbedai oludog yn fwy na thlawd, y call yn fwy na'r angall. Melltithiai bawb.

Gwyddai'r trigolion mai'r gors oedd cartref y Wrach, a chredid yn gyffredin ei bod, o fewn cylch y gors, yn hollwybodol, ac yn ei gwaith o felltithio yn hollalluog. Ni ddeuai byth o'i chartref namyn yn nhrymder nos, a rhaid fyddai wrth nos dywyll â niwl tew. Cymaint oedd ei chywilydd rhag ei gweled, gan ei hacred, fel na symudai liw dydd nac yng ngolau'r lloer. Gan nad oedd brinder niwl a tharth ym mlynyddoedd rhwysg yr Hen Wrach, câi gyfleusterau mynych i droi allan, ac mor ddieflig oedd ei nwyd a'i gwanc fel mai anaml yr âi cyfle heibio iddi'n ofer. Clywais i Fetsen, Llain Fanadl, ei gweled unwaith. Preswyliai Betsen fwthyn bregus ar fin y gors, ac un nos lwyd-olau a hi'n dychwelyd i'w thŷ o gasglu bonion eithin i achub tân trannoeth, gwelai ar ei chyfyl, yn eistedd ar dwmpath hesg, wraig hen â phen anferth ei faint, a'i gwallt cyn ddued â muchudd yn disgyn yn don fawr a thrwchus tros ei chefn ac yn ymgasglu yn glwstwr ar y ddaear. Swpera yr oedd ar ffa'r gors a bwyd llyffaint. Ar ei gwaith yn myned heibio, cyfarchodd Betsen hi â "Nos da." Neidiodd y Wrach ar ei thraed— yr oedd yn llawn saith droedfedd o daldra, ac yn denau ac esgyrnog a melyngroen—a throi at Fetsen ac ysgyrnygu arni ddannedd cyn ddued ag afagddu, chwythu i'w hwyneb fel y chwyth sarff, a diflannu yn y gors. Dywedir na fu Betsen byth yr un ar ôl y noson honno.

Poenwyd pentrefwyr Taliesin am genedlaethau gan afiechyd a oedd yn gyffredin i bawb. Math o gryd ydoedd, a'i nodweddion yn rhai hynod a chas. Dechreuai mewn teimlad llesg a chlafaidd, tebyg i saldra'r môr, ac yna ceid crynu mawr drwy'r holl gorff a barhâi am awr gron. Unwaith bob pedair awr ar hugain y deuai'r crynu, ac awr yn ddiweddarach bob dydd. Parhâi felly am wyth neu ddeng niwrnod, a phan ballai grym y clefyd, a'r claf wedi troi ar wella, ceid diwrnod rhydd rhwng dau grynu, ac yna ddau ddiwrnod rhydd, ac wedyn dri, a'r dyddiau rhydd yn parhau i gynyddu hyd oni ddiflannai'r cryndod yn llwyr. Gallai'r claf droi allan ar y dyddiau rhydd a chyflawni gwaith ysgafn, eithr rhaid oedd bod i mewn ddiwrnod y crynu. Yn un o'i lyfrau, dywaid Mr. Richard Morgan, M.A., Llanarmon-yn-Iâl, am eneth o Daliesin a fynychai ysgol Tal-y-bont, pentref cyfagos, pan oedd ef yn athro yno. Yr oedd y plentyn yn glaf o'r cryd, ond yn gwella. Eithr nid oedd y crynu wedi ei llwyr adael. Ar derfyn yr ysgol un prynhawn, meddai hi wrth yr ysgolfeistr, "Please Sir I shan't be in School to-morrow "You shan't be in School tomorrow! and why?" meddai yntau. "Please Sir, I shall be shaking to-morrow."

Achosid yr afiechyd gan yr Hen Wrach, a galwyd ef ar ei henw. Ar nos dywyll creai'r wrach darth tew a llaith a ymdaenai fel mantell a chyrraedd i oedre'r Graig Fawr, ac yn y tywyllwch pygddu hwnnw âi i fyny i'r pentref, ac er pob dyfais a gofal i'w chau allan, mynnai ei ffordd yn llechwraidd i'r tŷ a ddewisai, a chyniwair y tŷ hyd oni ddelai i ystafell gysgu, ac yno chwythu ei melltith ar y sawl a gysgai. Deffroai'r truan hwnnw drannoeth o gwsg anniddig, llawn o ysbrydion mileinig, a'i gael ei hun yn llesg a chlaf a digalon. Ymhellach ymlaen yn y dydd deuai'r crynu, ac am awr gyfan crynai'r claf oni chrynai'r gwely yntau— awr gron o grynu heb na hamdden na gallu i siarad na chwyno na dim ond crynu. Cyn nos âi'r sôn drwy'r pentref fod hwn a hwn 'yn yr Hen Wrach.' Anaml y ceisid gwasanaeth meddyg, oherwydd dau reswm. Yn gyntaf, yr oedd y pentrefwyr yn rhy dlawd i dalu am wasanaeth meddygon a drigai yn Aberystwyth a Machynlleth, naw milltir i ffwrdd. Mwynwyr oedd y gweithwyr bron i gyd, a'u cyflog i fagu llond aelwyd o blant heb fod tros ddeunaw swllt yr wythnos. Pan oeddwn i yn hogyn naw mlwydd oed, aeth i'm hysbryd surni a erys ynof byth, oherwydd marw o enyniad yr ysgyfaint un a oedd bron yn hanfodol i'm llwyddiant a'm cysur—gorfod marw cyn ei amser am nad oedd modd i dalu am feddyginiaeth. Credaf i ddegau farw ym mhentrefi bach Cymru drigain mlynedd yn ôl, ac wedi hynny, oherwydd bod yn rhy dlawd i dalu'r meddyg. Bydd galw uchel ar rywrai am gyfrif ddydd brawd. Yr ail reswm paham na cheisid meddyg at y claf ydoedd, nad oedd yn yr holl wlad feddyg a allai atal y cryd. Yr oedd yn rhaid i felltith y Wrach weithio'i chwrs. Anfynych y digwyddai i neb farw o'r Hen Wrach, ond y mae rhesymau tros gredu yr amharai'r afiechyd gymaint ar nerfau'r claf fel y dioddefai i ryw raddau yn y pethau hynny ar hyd ei oes.

Deugain mlynedd yn ôl peidiodd y cryd, ac ni flinwyd ganddo neb o'r pentrefwyr byth wedyn, a chredwyd yn sicr farw o'r Hen Wrach yng ngaeaf y flwyddyn y diflannodd yr afiechyd. Yn gyfamserol â'i marw hi bu llawer o gyfnewidiadau ym mywyd yr ardal, ac yn eu plith roddi heibio losgi mawn, a defnyddio glo yn eu lle. Eithr y mae'r Hen Wrach yn fyw o hyd. Cysgu y mae yn y gors, a phan dderfydd glo Morgannwg a Mynwy deffry hithau, a bwrw ei melltith fel cynt, a gwelir y pentref yn crynu gan y cryd eto.

Cysgu y mae'r Hen Wrach.

IV.

YMDDANGOSIAD YSBRYDION

Nid yw rhai coelion a fu unwaith yn gryf namyn dadfyw heddiw, ac nid anodd cyfrif am hynny. Yn gyffredin priodolir y newid o ran barn a chred i gynnydd gwybodaeth a goleuni mwy. Eithr o brin y credaf mai dyna'r prif reswm, os ydyw'n rheswm o gwbl. Effaith y pethau newydd a ddaeth i fywyd y werin ydyw'r newid o ran cred yn yr hyn a elwir yn ofergoelion. Pa ryfedd gilio o'r Tylwyth Teg i fannau diarffordd yn y mynyddoedd o sŵn cerbydau tân y relwe a'r cerbydau modur mawr a mân sy'n chwyrnellu tan chwythu a phesychu yn y dyffrynnoedd? Segurdod hir y gweithfeydd mwyn plwm a laddodd y gred yn y Coblynnau, ac am yr Hen Wrach, daw hi yn ôl pan ddêl mawn eto i'r aelwydydd.

Dychmygaf glywed ambell sant defosiynol, a llawer mab a merch a gafodd hir addysg, yn dywedyd mewn ysbryd brochus ac â gwg ar eu hael, mai ffwlbri amrwd yw storïau ysbrydion, ac nad rhesymol eu hadrodd yng ngoleuni gwybodaeth yr oes hon. Eithr dywaid un o ddysgedigion mwyaf diwylliedig y genedl i'w famgû weled ysbryd a Thylwyth Teg, a chlywed canu yn yr awyr, a bod yn rhaid iddo yntau roddi coel ar ei geiriau, ac ychwanega: Onid oes synhwyrau coll a rhai wedi eu hanner pylu? Ni wyddom beth a allom, ac onid yw popeth gwerth ei wneuthur a wnaeth dyn erioed wedi ei wneuthur pan oedd y dyn yn fwy na dyn ar y pryd? Rhaid bod yn oruwchnaturiol am dro i gyflawni gorchest o unrhyw fath, a rhaid teimlo angerddoldeb nad yw o bethau'r byd hwn i weled yr anweledig."[23]

Er mai dadfyw yn awr ydyw llawer coel, oherwydd y rhesymau a nodwyd, pery'r gred yn ymddangosiad ysbrydion yn gryf ymhlith y canol oed a'r hen bobl. Efallai nad oes neb, o'i roddi mewn cysylltiadau arbennig, na ŵyr yn ei enaid am ias ofn gweled ysbryd. Yng Nghynhadledd fawr Wesleaid y byd a gynhaliwyd yn Nhoronto, Canada, yn 1911, yr oedd ugeiniau o'r cynrychiolwyr yn bobl dduon, a'r rhai hynaf ohonynt yn blant i rieni a fuasai'n gaethion. Dyn du, a oedd yn ysgolhaig graddedig, oedd ysgrifennydd cynorthwyol y Gynhadledd, a dynion duon oedd rhai o'r areithwyr effeithiolaf. Llefarent yn huawdl â llais dwfn a meddal, ond fel y twymai'u hysbryd, collid y melodedd o'r llais, a deuai iddo graster a sŵn gwynt gwyllt a barai i un feddwl am galedi'r caethiwed a hysian yr anwar yn y goedwig. Pan laciai gafael yr ewyllys a ddisgyblesid gan freintiau rhyddid, rhuthrai gweddillion yr anwar a waelodai yn y bywyd i'r wyneb. Meddai'r diweddar Barchedig Job Miles mewn pregeth ar "Y tadau a fwytaodd rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod,"—" Nid wyf fi yn credu yn ymddangosiad ysbrydion, ond petai yn yr un heol ddau dŷ gwag cyn debyced i'w gilydd ag efeilliaid, a bod sôn yr ymwelai ysbryd ag un ohonynt, ni chymerai imi eiliad i benderfynu ym mha un y carwn fyw."

Y mae barn trigolion gogledd Ceredigion am bopeth ysbryd yn un bendant a sefydlog, ac fe wyddant hwy lawn cymaint â neb am nodweddion y bodau cyfrin hyn. Credir nad oes ond tri rheswm tros i ysbryd ymddangos. Yn gyntaf, dychwelyd i wneuthur cymwynas â pherthynas neu gyfaill; yn ail, ymddangos i gyflawni rhyw ddyletswydd a esgeuluswyd ganddo yn ystod ei fywyd ar y ddaear; ac yn drydydd, dial ei gam ei hun, megis pan ddychwel un a lofruddiwyd i ddial ar y llofrudd. Ni phaid ysbryd ag ymddangos o dro i'w gilydd hyd oni siaredir ag ef, ac y mae'n groes i ddeddfau byd ysbryd iddo ef siarad yn gyntaf. Rhaid ei annerch yn enw'r Drindod, ac yn ddiatreg eglura yntau ei neges, ac o weithredu yn ôl ei gyfarwyddiadau, paid yntau ag ymddangos mwy.

Y mae cannoedd o ystorïau ysbryd hen a diweddar, ond nid oes ofyn yma ond am ychydig enghreifftiau dethol. Anaml y gwelir plas hen neu furddun plas na chysylltir ag ef stori ysbryd. Murddun ers tro ydyw Bro Ginin, y plas bychan y ganed Dafydd ap Gwilym ynddo. Rhywbryd wedi dyddiau'r bardd trowyd y plas yn ffermdy, a hynny efallai oherwydd esgyn o amaethyddiaeth ac amaethwyr i fri mwy na chynt. Bu'n byw ynddo o genhedlaeth i genhedlaeth deuluoedd parchus, a dedwydd oeddynt hyd oni flinwyd hwy gan ysbryd bonheddig a barus a wnâi fywyd yn boen. Yn fynych wedi nos, ac ar brydiau yn hwyr o'r nos, ymwelai rhyw fod annaearol â'r tŷ, ac â sŵn ei gerdded i fyny ac i lawr y grisiau gwnâi gwsg yn amhosibl. Taflai ddychryn i galon pawb. Weithiau goleuai'r holl dŷ â disgleirdeb anarferol, a'r funud nesaf diflannai gan adael ar ei ôl dywyllwch eithaf. Gwelid ef ganol nos ar brydiau gan weision y ffermydd cylchynol, yn croesi'r buarth ar ffurf 'Ladi Wen' dal a hardd mewn gwisg laes, eithr pan aent tuag ati diflannai mewn pelen o dân. Un nos Sul fin gaeaf, aeth y teulu i'r eglwys a gadael y forwyn i warchod. Ceisiodd hithau ei chariadfab yn gwmni, ac yn ddigon naturiol aethpwyd i sôn am yr Ysbryd. Chwarddai'r gŵr ieuanc ar uchaf ei lais yn ei awydd i brofi ei wroldeb, a dywedyd yr hyn a wnâi petai'r Ysbryd yn meiddio ymddangos iddynt. Ar drawiad, heb y rhybudd lleiaf, safodd boneddiges ar ganol yr ystafell, mewn gwisg wen, a'i gwallt yn dorchau dros ei hysgwyddau. Daliai mewn un llaw grib, ac yn y llall sypyn o bapur, ond nid ynganodd ddim. Crynai'r ddeuddyn ieuainc gan ormod braw i allu symud na dywedyd gair. Cerddodd y foneddiges yn hamddenol o gwmpas yr ystafell amryw droeon, ac yna sefyll, a throi at y drws ac amneidio ar y llanc i'w dilyn. Ni feiddiai yntau ei gwrthod, a dilynodd hi i fyny'r grisiau i ystafell dywyll a oleuwyd ar unwaith mewn modd gwyrthiol Magodd y gŵr ieuanc ddigon o wroldeb i ofyn iddi paham y blinai breswylwyr Bro Ginin, ac â'i bys pwyntiodd yr Ysbryd at gongl neilltuol dan y to isel. O'r man hwnnw, â llaw grynedig, tynnodd y llanc hosan wlân hen hen yn llawn o aur. Diflannodd yr Ysbryd, ac ni welwyd y ' Ladi Wen ' byth mwy ym Mro Ginin.[24]

Ceir o bob rhan o'r wlad storïau cyffelyb i un Bro Ginin. Yn 1882, cafodd y Parchedig Elias Owen gan John Rowlands, brodor o Sir Fôn, hanes ysbryd yn datguddio trysor yn ei ardal ef. Poenid teulu Clwchdyrnog, ym mhlwyf Llanddeusant, Môn, yn fynych gan Ysbryd a barai arswyd a blinder mawr. Un noson, ymwelai John Hughes â'r tŷ i garu'r forwyn, ac ymddangosodd yr Ysbryd iddo. Gofynnodd John paham y blinai'r teulu ac eraill. Atebodd yr Ysbryd fod trysorau cuddiedig, ar ochr ddeau Ffynnon Wen, a berthynai i blentyn naw mis oed a oedd yng Nghlwchdyrnog. Parodd iddo chwilio am y trysorau, ac o'u cael a'u rhoddi i'r plentyn addawodd yr Ysbryd beidio ag aflonyddu arnynt mwy. Gwnaed yn ôl y cais, a chafwyd heddwch.[25]

A barnu oddi wrth yr hanes a rydd Mr. D. E. Jenkins hoffai ysbrydion ymddangos ym Meddgelert a'r cylch. Tua diwedd y ddeunawfed ganrif, aeth Mr. Dafydd Pritchard i'r pentref a rhenti'r Goat Hotel a'r tir a berthynai iddi. Yr oedd Dafydd yn ŵr egnïol ac anturiaethus, a chasglodd gryn lawer o gyfoeth, eithr clafychodd a bu farw heb wneuthur ewyllys. Yn fuan wedi'r claddu, aflonyddid ar heddwch y teulu gan ryw ymyrryd anesboniadwy. Clywid yn y nos gerdded trwm ar y grisiau ac yn yr ystafelloedd. Parhaodd yr aflonyddwch am rai wythnosau, a sibrydid ymhlith y gweision a'r morynion weled ohonynt eu hen feistr yn yr ystablau a mannau eraill ar ôl ei farw. Aeth yr Ysbryd yn hy gan-ymddangos yn aml. Ni feiddiai ond y dewraf groesi'r trothwy wedi machlud haul gan gymaint eu hofn. Yr oedd un hen was nad ofnai ddim, ac er ei fod ef a'i feistr yn gyfeillion mawr, am ryw reswm neu'i gilydd, nid ymddangosai'r Ysbryd iddo ef. Ond un noswaith, ar ei waith yn gadael yr ystabl, gwelai ei hen feistr yn ei wynebu. Ceisiodd y gwas ddynesu ato, eithr cilio a wnâi'r Ysbryd a myned at borth yr eglwys. "Wel, meistr," meddai'r gwas, "beth a bair i chwi aflonyddu arnom fel hyn?" "Hwlcyn," meddai yntau, "y mae'n dda gennyf dy weled, oblegid ni all fy esgyrn orffwys yn y bedd. Dos a dywed wrth Alice am iddi godi carreg aelwyd y bar-room ac y caiff oddi tani gan gini, a bod dwy ohonynt i'w rhoddi i ti." Gwnaed yn ôl y gorchymyn, ac ni phoenwyd y teulu mwyach.[26]

Esgeulustra anesgusodol a niweidiol ydyw peidio â gwneuthur ewyllys. Cymaint yw'r pryder a'r siom fel y dylai'r sawl a fedd rywbeth gwerth ei feddiannu roddi ei ddymuniadau ar 'ddu a gwyn' cyn yr elo ac na byddo mwy. Yn 1923 adroddai Mrs. J. E. Jones, Aberystwyth, wrthyf stori a gred hi fel ffaith. Pan oedd hi'n blentyn, bu farw yng Nghnwch Coch, Ceredigion, hen wraig â chanddi beth cyfoeth, eithr yr oedd wedi esgeuluso gwneuthur ei hewyllys, ac er chwilio dyfal a hir methwyd â dyfod o hyd i'w thrysor. Ymhen amryw wythnosau, blinodd y perthynasau ar y chwilio a diflannodd eu gobaith. Ond un noswaith ddechrau'r gaeaf, a'r ferch a'i phriod yn ymdwymo wrth y tân mawn cyn myned i orffwys, daeth o'r Hanging Press a oedd yn yr ystafell sŵn dieithr fel sŵn crafu creadur byw am ymwared. Agorwyd y Press, ond nid oedd yno ddim namyn dillad. Nos trannoeth a llawer nos arall, clywid yr un sŵn, eithr er chwilio eilwaith ni welwyd neb na dim byw. Aeth ofn gweled y nos ar y ddeuddyn ieuainc, ac i ladd y braw ceisiasant gwmni cymdogion. Ar ôl ymgynghori, penderfynwyd tynnu o'r Press liw dydd bob pilyn a oedd ynddo. Pan gyrhaeddwyd y gwaelod cad yno sypyn trwm yn cynnwys aur lawer a thrysorau eraill. Ni chlywyd y sŵn o'r Hanging Press byth mwy.

Ymhlith y lliaws ystorïau ysbryd a geir yn llyfr rhagorol yr Athro T. Gwynn Jones ar Lên Gwerin, y mae un sy'n arbennig drawiadol ar gyfrif y personau a gysylltir â hi, yn ogystal ag ar gyfrif ei chynnwys. Rhywbryd rhwng 1887 a 1889 y cafodd yr Athro hi gan Mr. Edward Roberts, Abergele, a oedd yn ŵr deallus a diwylliedig, a chafodd yntau'r hanes gan y Parchedig Owen Thomas, D.D., y gweinidog Methodus enwog. Pan oedd y Doctor yn ddyn ieuanc yn Sir Fôn, yr oedd iddo gyfaill yn caru merch ieuanc a oedd yn byw rai milltiroedd i ffwrdd. Un noswaith wrth ddychwelyd o garu, braidd yn hwyr, a dyfod heibio i blas bychan, gwelai yn dynesu ato wraig wedi ei gwisgo dipyn yn hynod. Cyfarchodd hi â "Nos da," ac atebodd hithau, "Na ddychrynwch: gwyddoch pwy ydwyf." Adnabu hi fel gwraig gyntaf perchennog y plas. Yna? meddai hi, "Gwyddoch fy mod yn farw, ac i'm priod briodi eilwaith, ac nad yw popeth fel yr arferai â bod yn y plas." Dywedodd yntau y gwyddai. Ceisiodd hithau ganddo wneuthur ffafr â hi, sef hysbysu ei mab, a ddychwelai o China ymhen ychydig ddyddiau, fod mewn llyfr yn llyfrgell y plas nifer o nodau banc (bank notes) a oedd yn eiddo iddo ef. Nododd y silff, a'r llyfr a gynhwysai'r nodau. Addawodd yntau wneuthur yr hyn a dymunai. Diflannodd yr Ysbryd yn sydyn. Pan ddychwelodd y dyn ieuanc adref, ni ddywedodd air wrth ei fam a'i chwaer am yr hyn a welodd, ac yn fuan clafychodd gan ofn a phryder. Ceisiodd gan ei fam alw ar ei gyfaill Owen Thomas i ymweled ag ef. Dywedodd yr hanes wrth Mr. Thomas, a thrannoeth aeth y ddau i'r plas a chael y nodau yn hollol fel yr hysbysodd yr Ysbryd. Mewn diwrnod neu ddau dychwelodd y mab o China, a chafodd yr arian.[27]

Yr oedd rhai o'r ysbrydion y rhoddwyd eisoes eu hanes yn hen, ac wedi cyflawni eu neges a gorffwys yn y gorffennol pell, eithr y mae amryw eraill y sydd, er yn hen, yn parhau i ymddangos oherwydd methu ganddynt ddal ar gyfle i'w mynegi eu hunain a gorffen eu gwaith. Un o'r rhain ydyw "Yr Hwch a'r Tshaen" y sy'n cyniwair dyfnderoedd coediog glannau afon Cell, yn y mynyddoedd yng ngogledd Ceredigion. Sicrhawyd fi yn 1924 gan un a fagwyd ar y Mynydd Bach, gerllaw Pont-ar-Fynach, y credai ef yn Ysbryd yr Hwch a'r Tshaen, a'i fod i'w glywed yn aml, ac i'w weled weithiau, yn y dyddiau hyn ar lannau Cell. Yn 1925 adroddodd Mr. J. B., Aberystwyth, wrthyf ei fod ef un tro pan oedd yn ieuanc yn marchogaeth adref yn lled hwyr ar y nos, a phan ddaeth ar gyfyl afon Cell, i'r ceffyl wylltio drwyddo a rhuthro carlamu fel peth gwallgof onid oedd, pan gyrhaeddodd adref, yn crynu fel dail y coed tan wynt, ac yn foddfa o chwys. Taerai pawb a wybu am yr helynt mai gweled yr Hwch a'r Tshaen a wylltiodd y ceffyl. Ni welodd Mr. J. B. yr Ysbryd, ond credai yn sicr weled o'r ceffyl rywbeth anarferol ac anweledig iddo ef. Yn 1923 rhoes Mr. T. Richards, ysgolfeistr Pont-ar-Fynach, hanes yr Ysbryd hwn, ynghyda'i esboniad ef ei hun ar y dirgelwch. Dywedai nad oedd y cwbl namyn dyfais y mwynwyr i dwyllo swyddogion y gwaith y gweithient ynddo. Hen arfer y mwynwyr, ac yn arbennig ar nos Wener, ydoedd myned i'r lefelydd neu i lawr y siafft am ddeg y nos a phylu'r ebillion, ac yna dianc adref tua deuddeg o'r gloch. Yr Hwch a'r Tshaen, yn ôl yr esboniad, ydoedd y mwynwyr yn llusgo cadwyni dur a rhoddi ar led mai sŵn ysbryd oedd eu sŵn, a thrwy hynny ddychrynu'r swyddogion rhag eu gwylio a'u dal. Eithr gŵyr y sawl a'u hadnabu fod yr hen gapteniaid eu hunain yn rhy fedrus yn y grefft o dwyllo i fod yn wrthrychau twyll eu gweithwyr.[28] Y mae gennyf hefyd gyfaill hirben yn Aberystwyth sydd â'i fedr i esbonio yn fawr. Nid oedd yr Hwch a'r Tshaen, meddai ef, namyn mochyn byw 'yn y cnawd.' Megid llawer o foch a'u gollwng i bori mes tan y derw ar lannau Cell, a rhag crwydro ohonynt yn rhy bell rhoddid llyffethair haearn ar eu traed. Yn y nos, ar ôl eu digoni, llusgai'r moch eu traed rhwymedig i gyfeiriad eu cartref, a pheri sŵn a greodd Ysbryd. Dyna fodd yr hynafiaid hwythau o esbonio dirgeledigaethau pan grëwyd ofergoelion.

YSBRYD PLAS GWYNANT (BEDDGELERT). Y mae'r plas hwn yn un gwych, a'i safle yn odidog, ac nid yw nepell o Lyn Dinas. Ni phreswyliai neb yn y tŷ yn hir oherwydd eu dychrynu gan Ysbryd. O haf 1850 hyd ddiwedd haf 1853 bu'r Athro J. A. Froude yn byw ynddo. O dro i'w gilydd ymwelai amryw o gyfeillion Froude ag ef, ac weithiau ceid cymaint â phump neu chwech ar yr un pryd. Ar un achlysur aed i sôn am ysbrydion, ac yn eu plith Ysbryd Plas Gwynant. Digwyddasai'r Athro F. W. Newman gyrraedd y diwrnod hwnnw, ac yr oedd y tŷ eisoes yn lled lawn, ond yr oedd ystafell yr Ysbryd yn wag fel arfer. A hwy yn clywed Newman yn gwrthod â dirmyg bob syniad am bosibilrwydd ymddangosiad ysbrydion, trefnodd Froude iddo gysgu yn yr ystafell wag. Aeth Newman i'r ystafell heb wybod ei hanes, a chododd yn fore drannoeth heb gysgu eiliad drwy'r nos. Gobeithiai am gwsg trwm ac esmwyth yr ail noson, ond siomwyd ef eilwaith. Teimlai ei flino gan ryw ddylanwad cyfrin a phoenus. Holodd y forwyn bennaf, a chael mai yn ystafell yr Ysbryd y ceisiai gwsg. Un bore datguddiodd ei helynt i'r cwmni. Nid oedd, meddai, yn credu mewn ysbrydion, ond yr oedd rhywbeth anesboniadwy wedi aflonyddu arno drwy'r nos a phob nos, a barnai mai doeth fyddai dychwelyd adref ar unwaith. Nid ymwelodd Newman byth mwy â Phlas Gwynant.[29]

YSBRYD HAFOD UCHDRYD. Y mae pawb cyfarwydd â llên Cymru yn gwybod rhywbeth am Hafod Uchdryd, sydd yng nghymdogaeth Cwm Ystwyth. Perchenogion y plas yn ystod teyrnasiad y frenhines Elizabeth ydoedd Herbertiaid Penfro, a ddaethai i'r ardal ynglŷn â'r gweithfeydd mwyn plwm. Priododd Thomas Johnes, Llanfair Clydogau, ferch i William Herbert, a meddiannu'r Hafod yn 1783. Tynnodd ef yr hen dŷ i lawr ac adeiladu plas newydd, a chasglu i'w lyfrgell fawr lawer o drysorau llenyddiaeth y wlad hon a'r Cyfandir. Ond yn 1807, ar y degfed o Fawrth, llosgwyd y plas, a bernir golli ohonom fel cenedl lawer o lawysgrifau amhrisiadwy. Aeth Johnes ati eilwaith i adeiladu plas rhagorach na'r un a losgwyd, a rhoddi ynddo wasg argraffu gyffelyb i wasg Gregynog.

Yr oedd i'r Hafod ei fwgan, a rhydd Lewis Morris, Môn, ei hanes yn fanwl yn un o'i lythyrau. Ni fu erioed ysbryd mwy aflonydd a direidus. Cariai gerrig i ystafelloedd y tŷ, hyd yn oed liw dydd; symudai o'u lle fyrddau a choffrau trymion; cipiai ganhwyllau o ddwylo'r teulu, a chusanai yn y tywyllwch ferched a meibion. Galwyd y dyn hysbys. "Fe fu conjuror o Sir Frycheiniog yno yn ceisio gostwng yr ysbryd, ond fe ballodd y Brych a rhoi canpunt iddo am ei boen, 'bid rhyngoch i ag ef,' ebr hwnnw,"[30]

Gwahaniaetha'r Henadur John Morgan, Ystumtuen, beth oddi wrth Lewis Morris yn yr hanes a rydd ef o'r un stori. Yn ôl Mr. Morgan, tynnodd y dewin gylch cyfaredd o'i amgylch ei hun, ac agor ei lyfr dewino, gan orchymyn yr ysbryd i'r cylch. Ymddangosodd yntau ar ffurf tarw nwydwyllt, ac eilwaith ar ffurf ci mawr a milain, ac wedyn ar ffurf gwybedyn a disgyn ar y llyfr dewino agored. Ar drawiad caeodd y dewin y llyfr a charcharu'r ysbryd. Crefai'r truan barus am ei ryddid, ac wedi ei hir boeni yn ei gaethiwed, caniatawyd iddo ollyngdod o'r llyfr a'r cylch ar yr amod iddo fyned tan Bont-ar-Fynach a thorri twnnel drwy'r graig â hoelen clocsen a morthwyl wns o bwysau. Cred rhai y clywir yn awr, pan fo'r nos yn dawel, sŵn ergydion gwan y morthwyl bach.

Y mae'r stori a ganlyn beth yn wahanol i'r rhai a gofnodwyd eisoes. Gan y Parchedig John Humphreys (Wmffre Cyfeiliog) y cefais hi.

"Mewn tŷ hynafol, a thipyn yn urddasol o ran ei faint a'i ffurf, yn ardal Tŷ Cerrig, Sir Drefaldwyn, trigai gynt ŵr o bwys. Ef ydoedd gwarcheidwad y tlodion yn y gymdogaeth. Claddasai ei briod a chedwid ei dŷ gan wraig barchus o'r enw Marged. Ganddi hi y cafodd fy mam yr hanes, er ei fod yn ddigon hysbys yn yr ardal. Llosgasai'r gŵr hwn ewyllys olaf ei wraig a gwneuthur un a oedd yn fwy ffafriol iddo ef ei hun. Dywedir iddo ar ôl ei gwneud dynnu'r papur rhwng gwefusau ei briod er mwyn gallu dweud, os byddai achos, i'r geiriau fod yn ei genau hi. Rhoes y pin ysgrifennu yn ei llaw farw ac ysgrifennu ei henw. Dyna'r weithred annheilwng. Ond ni chafodd lonyddwch i'w feddwl nac i'w gorff tra fu byw. Arferai ewythr i mi, R.R. o bentref Comins Coch, weithio i'r dyn hwn, ac un hwyrnos gaeaf, tra gweithiai fasged wrth y tân, agorodd drws y gegin megis ar ddamwain. Gan ei bod yn oer caeodd fy ewythr ef, ond nid cynt yr eisteddodd nag yr agorodd y drws eilwaith. Caeodd ef drachefn. Daeth y forwyn i'r gegin, ac agorodd y drws y drydedd waith. "Yn enw'r annwyl," meddai f'ewythr, "meddyliais imi gau'r hen ddrws yna'n ddigon ffast." "O," meddai hithau, "waeth i chi heb boeni, y mae o'n agos, mi wn." "Y fo," meddai yntau, "Pwy fo?" " O, meistr. Fel hyn y mae pan fydd o'n dod tuag adre', y mae'r drysau yn agor a chau a chlecian, ac yn aml daw yntau i mewn wedi ei orchuddio â llaid, ac yn gwaedu weithiau. A dyma i chi beth rhyfedd. Yr oedd ganddo gwmni yma i de un diwrnod, a pharodd i mi roddi llestri te gore meistres ar y bwrdd, ond pan euthum i'r cwpwrdd a cheisio tynnu'r llestri allan, yr oedd dwy law yn cydio ynddynt ac ni allwn eu symud o'u lle."Yn fuan wedyn wele'r gŵr yn cyrraedd, ac yn ymddangos fel pe bai wedi ei dynnu trwy'r drain. Credid y stori hon yn ardal Tŷ Cerrig pan oeddwn i'n fachgen."

Dywaid Mr. J. Breese Davies fod yn Ninas Mawddwy draddodiad cyffelyb i'r uchod ynglŷn âg "Ysbryd y Castell." Amaethdy tua thair milltir o'r Ddinas ydyw'r Castell. Tua'r flwyddyn 1840, preswyliai ynddo un o'r enw Thomas Jones a'i briod—ail wraig. Yr oeddynt yn 'dda arnynt,' ond eiddo'r wraig oedd y cyfoeth, a threfnodd i'w roddi i'w pherthynasau ei hun. Eithr pan glafychodd a marw, gwnaeth Thomas Jones ewyllys newydd yn sicrhau iddo ef ei hun yr holl gyfoeth. Gafaelodd yn llaw farw'i briod i'w harwyddo. Ni chafodd Thomas Jones eiliad o hawddfyd byth wedyn. Poenwyd ef gan ysbryd ei wraig, a elwir "Ysbryd y Castell," ddydd a nos tra fu byw.

GWAREDIGAETH PREGETHWR. Nid oes yn awr fawr ddim ond cerbydau modur a beiciau gwyllt a bair ofid a pherygl i bregethwyr ar eu teithiau, ond ganrif yn ôl ymosodid arnynt gan ladron penffordd, a thrinid ambell un yn galed. Eithr oherwydd eu swydd, neu, efallai, oherwydd eu hanallu i'w hamddiffyn eu hunain, gofalai rhywun neu rywbeth o fyd yr ysbrydion am eu diogelwch weithiau. Ceir hanes trawiadol am waredigaeth John Jones, Treffynnon, o enbydrwydd mawr tros ganrif yn ôl. Teithiai'r hen bregethwr gryn lawer i gasglu at godi capelau, ac un tro, ar ei ffordd i Fachynlleth â phedair punt ar ddeg yn ei logell, galwodd mewn tafarn yn Llanuwchllyn. Tra porthid ei geffyl ymgomiai yntau â pherson a oedd yn y tafarn, a mynegi y bwriadai fyned ar ei daith tros Fwlch-y-groes. Pan gyrhaeddodd y teithiwr ben y mynydd unig, gwelai o'i flaen ddyn â chryman yn ei law a'i fin wedi ei rwymo mewn gwellt. Wrth ddynesu at y dyn, gwelai mai'r hwn a gyfarfu yn y tafarn ydoedd, a bod rhywbeth yn amheus yn ei ysgogiadau. Edrychai'n llechwraidd tros ei ysgwydd yn awr ac eilwaith, ac yn y man dechreuodd dynnu'r gwellt oddi ar fin y cryman. Daeth ofn mawr ar yr hen bregethwr, a gweddïodd am ymwared. Yn sydyn clywai garlamu march o'i ôl, ac yna gweled gŵr dieithr yn marchogaeth ac yn cydsymud ag ef. Gwelodd y dyn â'r cryman yntau'r gŵr dieithr a'i farch, a throdd yn gyflym i'r mynydd a ffoi. Cyfarchodd John Jones ei gydymaith mewn Cymraeg a Saesneg, ond ni chafodd ateb, ac yn fuan a sydyn diflannodd y gŵr dieithr.[31]

YSBRYD DYN BYW. Yn fy ymchwiliadau, cyfarfûm o dro i'w gilydd ag amryw a gredai weled ohonynt ysbrydion dynion byw. Yn ystod rhan gyntaf fy nhymor yn Aberystwyth, rhwng 1920 a 1923, a Miss Roberts, Bont Goch, a minnau yn ymgomio un prynhawn am hen goelion yr ardal, gofynnais iddi a welodd hi ysbryd yn ystod ei hoes faith o bedwar ugain mlynedd. Atebodd iddi weled llawer o ysbrydion ac y gwelai hwy o hyd, eithr mai ysbrydion dynion byw oeddynt i gyd, ac na welodd erioed ysbryd dyn marw. Rhyw hanner milltir o Bont Goch—sydd ar y mynydd, chwe neu saith milltir i'r gogledd o Aberystwyth—y mae plas bychan o'r enw Cefn Gwyn sy'n feddiant i'r Gilbertsons ers rhai cenedlaethau. Pan ddaeth y plas i feddiant y Parchedig Lewis Gilbertson, a oedd yn offeiriad yn Lloegr, gofelid am y tŷ yn absenoldeb y teulu gan Miss Roberts. Treuliai'r teulu fisoedd yr haf bob blwyddyn yn y Cefn Gwyn; ac yn ystod un o'r gwyliau hyn gwelodd yr hen wraig, Miss Roberts, ysbryd yr offeiriad. A'r drws tan glo, un canol nos, gwelodd ef yn ei hystafell. Symudodd yn araf a thawel drwy'r ystafell, yn ôl a blaen, amryw weithiau, ac yna diflannu.

Y LADI WEN. Hanner y ffordd rhwng Taliesin a Thre'rddôl y mae'r Lefel Fach, a'i genau yn dyfod i'r ffordd fawr. Credid yn gryf pan oeddwn i'n hogyn y trigai 'Ladi Wen' yn y lefel, ac y deuai allan pan ddelai tywyllwch, a chydgerdded yn fonheddig â gwahanol bersonau. Ni ddywedai air wrth neb, ac ni allai neb gan faint y braw lefaru wrthi hithau. Caewyd genau'r Lefel Fach pan safodd gwaith mwyn Llain Hir, a chollwyd y Ladi Wen. Bûm yn credu ynddi cyn gryfed â neb pan oeddwn yn ieuanc, ond wedi imi dyfu i fyny a chrwydro mannau poblog, marweiddiodd fy ffydd. Eithr ni allaf eto yn awr fyned heibio i'r Lefel Fach heb feddwl am y Ladi Wen, ac nid oes odid neb yn y ddau bentref heddiw na ŵyr amdani.

ADEILADU PONT. Y mae'r stori am ysbryd yn adeiladu pont tros afon yn adnabyddus i wahanol rannau o Gymru a gwledydd eraill. Awgrymir y stori gan yr enw, Pont-y-gŵr-drwg, a daflwyd tros Fynach, yng ngogledd Ceredigion. Collodd Megan, hen wraig Llandunach, ei buwch, ac o chwilio'n hir gwelodd hi y tu hwnt i'r afon ddofn, ond nid oedd fodd i'w chyrchu. A hi yn malu meddyliau yn ei phryder, daeth i'w hymyl ŵr bonheddig, a chynnig adeiladu pont tros yr afon ar yr amod iddo ef gael y peth byw a'i croesai gyntaf. Cytunodd Megan, a gweithiwyd y bont mewn eiliad. Tynnodd yr hen wraig grystyn bara o'i llogell a'i daflu tros y bont newydd, a rhuthrodd y corgi a oedd yn ei hymyl ar ei ôl. Dyna dâl y diafol am ei waith.

Ceir yr un traddodiad ynglŷn â hen bont Aberglaslyn. Ceisiodd trigolion y gymdogaeth gan Robin Ddu Ddewin godi iddynt bont dros y Llyn Du. Galwodd Robin y diafol a mynegi ei neges. Addawodd yntau weithio pont os cawsai'r creadur cyntaf a elai trosti. Cytunwyd. Ymhen ychydig ddyddiau, a Robin uwchben ei gwrw yn nhafarn yr Aber, aeth y cythraul i mewn a dywedyd bod y bont wedi ei gorffen. Trawodd Robin glwff o fara yn ei logell, a myned â chi'r dafarn i'w ganlyn i lan yr afon. "Dyma iti bont tan gamp," meddai'r diafol. "Ymddengys felly," meddai Robin, "ond a ddeil hi bwysau'r clwff hwn, tybed?" "Rho brawf arni," meddai'r cythraul. Taflwyd y bara, a rhuthrodd y ci ar ei ôl. "Pont gampus," meddai Robin, "cymer y ci yn dâl amdani."[32]

YSBRYD MWYNGLAWDD. Tua dau gan mlynedd yn ôl, darganfuwyd gwythïen enfawr o blwm ym mhentref Helygain. Cyffelybid hi i haen drwchus o lo. Y mae amryw draddodiadau ynglŷn â'r mwyn hwn, eithr y mwyaf cyffredin ydyw hwnnw a gafodd Mr. Lewis Hughes, Meliden, gan Mr Fredric Jones, Llwyn-y-cosyn, Ysgeifiog. Un min nos teithiai mwynwr o'i waith i bentref Helygain, a heb fod nepell o'i lwybr gwelai yn sefyll fwynwr arall, wedi ei wisgo yn hollol fel mwynwr cyffredin, ac yn ei ddwylo arfau mwynwr. Cyfarchodd ef â "Nos dawch." Eithr ni ddaeth ateb. Dynesodd ato, ond ar amrantiad diflannodd fel diffodd cannwyll. Credai pawb mai ysbryd a welodd y dyn, a chan y credid yn gyffredin fod gweled drychiolaeth ar dir mwynglawdd yn arwydd sicr fod y plwm yn agos, aed ati i gloddio, a thrawyd ar yr wythïen fawr. Ni chaed yng Nghymru ddim cyffelyb iddi o ran maint a gwerth.

Ie, "Ni wyddom beth a allom. Onid oes

synhwyrau coll a rhai wedi eu hanner pylu?"

V.

RHAGARWYDDION MARWOLAETH

Er cynefined ydym â marwolaeth, nid yw ei ddirgelwch yn awr fawr llai, os dim, nag ydoedd , filoedd o flynyddoedd yn ôl, ac efallai mai'r dirgelwch hwn a barodd gasglu o'i gwmpas gymaint ] o goelion. Y mae'n ddiamau fod y mwyafrif o'r coelion hyn yn gyffredin i holl rannau gwledig Cymru,—coelion ysmala nad oes gamp ar eu hesbonio, a choelion eraill dieithr, anesboniadwy a bair arswyd digymysg. Y mae eto'n aros weddillion credu mawr a chadarn yn rhagarwyddion marwolaeth.

Credid yn gryf gynt yn y "Deryn Corff" a phery'r canol oed a'r hen i gredu ynddo. Nid oes wybodaeth glir a phendant am yr aderyn hwn. Gwisgir ef â thywyllwch anhreiddiadwy, cyffelyb i'r tywyllwch a wisg yr hyn y proffwyda amdano. Y dybiaeth gyffredin yw, ei fod yn ddu ei liw ac o faintioli bronfraith, a'i lygaid mawr yn saethu allan belydrau treiddiol â'u ias fel ia. Dywedai'r Athro T. Gwynn Jones wrthyf unwaith y credid gynt mewn rhai ardaloedd mai aderyn drudwy ydoedd. Clywais ei alw hefyd yn ddylluan frech. Eithr pa enw bynnag a roddir iddo, meddylir amdano fel peth annaearol a ofnir hyd ddychryn. Eheda yn y nos-nos dywyll-i ffenestr y claf a churo'n ysgafn â'i big ar y gwydr. Bydd hyn yn arwydd sicr o farwolaeth buan y claf. Peth hawdd i'r bach ei ffydd yn y pethau hyn yw esbonio gwaith aderyn yn tynnu at ffenestr olau a'i tharo. Tua deugain mlynedd yn ôl, a mi'n darllen neu geisio gweithio pregeth un noson ar gyfyl deuddeg, a glaw trwm yn disgyn trwy wynt cryf, clywn guro ysgafn fel curo pwyntil ar wydr y ffenestr. Daeth y "Deryn Corff" i'm meddwl ar drawiad, ond megais ddigon o wroldeb i fyned allan a chwilio'r helynt. Gwelais yr aderyn ar y ffenestr olau, a deliais ef. Nid aderyn drudwy mohono na'r ddylluan frech nac un o liw du a maint bronfraith, eithr peth bach ofnus yn crynu fel deilen, o faint a lliw gwas-y-gog neu lwyd-y-berth. Rhyw greadur barus a'i herlidiodd o'i glwyd i'r nos ystormus, a thynnodd yntau at y golau. Bu ugeiniau farw yn y pentref er y noson honno, ond ni wybûm byth pwy a oedd ym meddwl yr aderyn a ddeliais.

Yr arwydd sicraf a gad erioed o farwolaeth ydyw'r Gannwyll Gorff. Fflam fechan welw-las ydyw, a ddaw o enau'r sawl a fydd farw'n fuan, ac a deithia'n araf lwybr y gladdedigaeth i'r bedd. Amrywia maint y fflam yn ôl oedran y person sydd i farw. Deddf y Gannwyll ydyw cychwyn o dŷ'r un a gynrychiola a diffodd ar fan y bedd. Eithr y mae eithriadau.

Er nad oes i Gannwyll Gorff un diben namyn rhaghysbysu am farwolaeth person arbennig, dylid gochel ei llwybr, oblegid o gyffwrdd â dyn pair iddo niwed dybryd, ac weithiau fe'i lleddir. Edrydd George Borrow hanesyn am y Gannwyll yn lladd dyn. Cyraeddasai Borrow dafarn Ponty-gŵr-drwg ar ei daith trwy Gymru, a theimlodd y dylai esgyn Pumlumon, ac yfed o ffynhonnau tarddiol Rheidol a Gwy a Hafren. Bore Sul, Tachwedd 5, 1854, tynnodd yn ei ôl trwy Ysbyty Cynfyn, a galw yn nhafarn Dyffryn Castell am gwrw ac arweinydd. Bugail deallus a chynefin â'r mynyddoedd ac â llên preswylwyr eu cilfachau oedd yr arweinydd, ac oherwydd hynny yn ŵr wrth fodd calon Borrow. Yfwyd hyd wala o lygaid yr afonydd, ac ar y daith yn ôl i Ddyffryn Castell am ragor o 'gwrw da,' ymgomiwyd am y Tylwyth Teg a Chanhwyllau Cyrff. Credai'r arweinydd yn gryf yn y naill a'r llall, ac adroddodd hanes dyn a laddwyd ychydig amser cyn hynny trwy fyned i lwybr Cannwyll Gorff a'i chyffwrdd. Dychwelai'r dyn hwnnw o Lanidloes i Langurig ar noswaith dywyll ac ystormus, a chyn gryfed oedd y gwynt a'r glaw a luchid i'w wyneb ag iddo fethu â gweled y Gannwyll a ddeuai i'w gyfarfod. Ni allodd ochel ei llwybr a lladdwyd ef ar drawiad. Tybir yn gyffredin dynnu o Borrow lawer ar ei ddychymyg yn ei wahanol lyfrau, ond dysg Theodore Watts-Dunton, a wyddai yn dda am yr awdur a'i waith, y gellir dibynnu ar yr hanesion a geir yn Wild Wales. Boed hynny'n wir neu beidio, gwn fod ei ddisgrifiad o'r daith o Ddyffryn Castell i Bumlumon yn fanwl gywir, oblegid cerddais yr un llwybrau a gwelais yr un golygfeydd fwy nag unwaith. Gellir yn ddiamau gredu i'r dyn adrodd yr hanes fel y ceir ef gan Borrow.

Yn y flwyddyn 1923, ysgrifennodd Mr. Thomas Richards, ysgolfeistr Pont-ar-Fynach, i'r Welsh Gazette gyfres o ysgrifau gwerthfawr ar lên gwerin yr ardal, ac yn rhifyn Mehefin 7, dyry hanes Cannwyll Gorff a siglodd gryn lawer ar ei anghrediniaeth. Dywaid iddo ef erioed wawdio'r gred yn y Gannwyll hyd oni ddaeth amgylchiadau i newid ei farn a'i deimlad. Un nos Lun, ymwelwyd ag ef gan Mr. O. P. Williams, athro ysgol Cwm Ystwyth, a rhwng naw a deg o'r gloch hebryngodd ei gyfaill tua'i gartref cyn belled â Gwarfelin, ac yna edrych yn ôl i weled a oedd golwg am gerbyd Cwm Ystwyth yn dychwelyd o farchnad Aberystwyth. Er eu llawenydd, gwelent olau cerbyd yn tynnu i fynu i'r fan y troir i Ddolgrannog. Yn y man collwyd y golau mewn trofa. Disgwyliwyd ei weled eilwaith, eithr ni welwyd ef mwy. Y dydd Sadwrn dilynol yr oedd Mr. Richards a'i briod ar eu taith i Gwm Ystwyth, a phan ddaethant gyferbyn â Botgoll, ar yr hen ffordd uchaf, gwelent angladd yn hollol ar y fan y gwelwyd y golau y nos Lun flaenorol. Ar ôl holi, cafwyd mai claddedigaeth Miss Paul, Goginan, merch y Capten Paul, ydoedd, ar ei ffordd i Eglwys Newydd.

Tua phum mlynedd ar hugain yn gynhyrach ar oes Mr. Thomas Richards, preswyliai yng Nghwm Ystwyth gariwr adnabyddus o'r enw William Burrell, y Bryn. Cadwai Burrell gerbydau i gario pobl i farchnadoedd a ffeiriau. Pob dydd Sadwrn llogai Mr. Richards a myfyrwyr eraill gerbyd Burrell i'w dwyn i Aberystwyth ar gyfer dosbarthiadau yn y Brifysgol. Un nos Sadwrn, oherwydd bod arholiad, methwyd â chychwyn adref onid oedd yn un ar ddeg o'r gloch, a thuag un o'r gloch y bore, a hwy'n cerdded y rhiw hir o Fwlch-heble i gyfeiriad Llaindegugain, llithrodd y gyrrwr at y myfyrwyr a oedd y tu ôl i'r cerbyd, a gofyn a welwyd gan rai ohonynt olau yn symud o flaen y cerbyd. Ni welsai neb y golau, a cheisiwyd darbwyllo'r gyrrwr mai ei dwyllo a gafodd gan adlewyrchiad o oleuni llusern y cerbyd. Eithr ni thyciai dim. Mynnai ef weled ohono olau dieithr. Y dydd Llun dilynol, lladdwyd Mr. Burrell gan geffyl yn Aberystwyth, ac aed â'i gorff i'w gartref y noson honno yn ei gerbyd ef ei hun. Gofyn Mr. Richards, "Yn awr, beth am y golau a welodd? [33]

Credid yn y Gannwyll Gorff trwy bob rhan o Gymru gynt, ac efallai y gwneir hynny o hyd gan bobl oedrannus. Dywaid "Cymru Fu ": "Y mae'r 'canwyllau' hyn i'w gweled hyd y dydd hwn ym Môn, Dyfed, Dyffryn Clwyd ac iseldiroedd Maldwyn."[34] Ond nid ychwanegir yma fwy na dau hanesyn a gefais gan bersonau sydd eto'n fyw, y naill gan y Parchedig Joseph Jenkins, llenor ac awdur adnabyddus, a'r llall gan Mr. E. Lloyd Jones, King's Cross, Llundain.

Ar nos dywyll, a hi'n hwyr rhwng un ar ddeg a deuddeg, dychwelai John Benjamin o garu merch yng Nghwm Ystwyth trwy goed Hafod Uchdryd, Caredigion, a phan gyrhaeddodd y ffordd sydd rhwng y plas a'r Eglwys Newydd, gwelai olau gwelw-las yn dyfod i'w gyfarfod. Rhag ei weled a'i adnabod neidiodd dros y clawdd a sefyll i wylio'r golau. Pan ddaeth y golau hyd ato, gwelai er ei syndod gapten gwaith mwyn yn yr ardal â channwyll wedi ei sicrhau ar ei het galed, yn ôl arfer y mwynwyr. Cerddodd y capten heibio yn syth, â'i lygaid yn gaeedig, i gyfeiriad Eglwys Newydd. Aeth John Benjamin yn oer a llesg a chrynedig gan ddychryn. Trannoeth yn y gwaith adroddodd John yr hanes wrth John Jenkins, tad y Parchedig Joseph Jenkins. Credai'r ddau John y gellid disgwyl rhyw aflwydd ynglŷn â'r gwaith neu gartref rhywun a weithiai ynddo. Ymhen ychydig ddyddiau lladdwyd y capten drwy ddamwain yn y gwaith. Teithiodd yr angladd i fynwent Eglwys Newydd ar hyd ffordd y golau a welodd Mr. Benjamin. Bu Mr. John Jenkins fyw hyd 1925, a thystiai y credai John Benjamin mewn Cannwyll Gorff cyn gryfed ag y credai yn ei Feibl. Y mae'n lled debyg y credai Mr. Jenkins yntau felly. Ym mis Ebrill, 1929, cefais gan Mr. E. Lloyd Jones, Llundain, hanesyn diddorol a wahaniaetha beth oddi wrth hanesion cyffredin am y Gannwyll Gorff. Nos Sul, Ionawr n, 1918, cydgerddai dwy eneth ieuanc, Miss ---------------, Hafodgau Uchaf, a Miss -----------, Pantyrhedyn, i'w cartrefi o oedfa yng nghapel Pontrhydygroes. Cyn ymadael â'i gilydd safasant am ychydig i ymgomio, ac yn sydyn gwelent olau dieithr yn myned heibio ac yn tynnu at Bantyrhedyn. Aeth y ddwy yn fud gan ofn, a brysio i'w cartrefi. Yr oedd yn amhosibl esbonio'r golau, oblegid bod myned i dŷ yn anghyson ag arfer Cannwyll Gorff, canys ei deddf hi ydyw dyfod 0 dŷ i fynwent. Yn fuan daeth gwybodaeth weled o lawer y golau yn teithio o orsaf Ystrad Fflur i Bontrhydygroes, pedair milltir o daith.

Yr oedd John Evans, mab Pantyrhedyn, yn gweithio ar y pryd ym Morgannwg, ac yn Ionawr, 1918, bum niwrnod wedi gweled y golau, bu farw trwy ddamwain yn y gwaith. Daethpwyd ag ef i'w hen ardal i'w gladdu, a theithiwyd o orsaf Ystrad Fflur filltir heibio i'r fynwent i Bantyrhedyn, i orffwys tros y nos yn yr hen gartref. Yr oedd y ddwy ferch a welodd y golau yn fyw yn 1929. Yn ei lyfr ar Ofergoelion, dywaid y Doctor William Howells y credid yn gyffredin yng Nghymru gynt mai merthyrdod un o hen esgobion Tyddewi oedd achos cyntaf cynnau'r Gannwyll hon. Tra llosgai corff yr Esgob, gweddïai am i Dduw beri gweled y golau o flaen marwolaeth pawb, yn dystiolaeth ddarfod iddo ef farw yn ferthyr.[35] Y TOILI. Yn ôl y gred gyffredin gynt, un o arwyddion sicraf marwolaeth oedd y Toili. Gwelid ef gan gannoedd, a hynny yn aml yn yr hen amser. Ceid y goel trwy Gymru gyfan, eithr tan enwau gwahanol. Dywedai'r Canon D. Silvan Evans mai'r enw a roid arno mewn rhannau o Ddeheudir Cymru oedd Tolaeth neu Dolaeth, a thybiai ef mai llygriad o Tylwyth ydyw. Yn Sir Gaerfyrddin, Toili a ddefnyddir, a'r un gair, wedi newid y llythyren o am a geir mewn rhannau o Sir Aberteifi. Enw ar ysbryd claddedigaeth ydyw. Tua thrigain mlynedd yn ôl, peth digon cyffredin ydoedd cyfarfod yn y nos ag ysbryd claddedigaeth, ac er mai eithriad yw ei gyfarfod yn awr, gwn am rai sydd eto'n fyw a gafodd y fraint, a gwn am eraill nas gwelsant a gred yn gryf ynddo. Efallai—pwy a wyr?— fod y Toili ar ein llwybrau eto'n awr, ond ein bod ni gan gymaint ein goleuni yn methu â'i ganfod.

Pan oedd Twm o'r Nant yn cadw Tyrpeg yn Llandeilo Fawr, ar y ffordd i Nantgaredig a Chaerfyrddin, gwelodd ef y Toili ac amryw bethau hynod eraill. Gwell fydd rhoddi ei eiriau ef ei hun. "Ni a fyddem yn gweled llawer yn y nos yn myned trwodd heb dalu; sef y peth a fyddent hwy yn ei alw y Gyheureth neu ledrith; weithiau hersiau a mourning coaches, I ac weithiau angladdau ar draed, i'w gweled mor I amlwg ag y gellir gweled dim, yn enwedig liw 'nos. Mi welais fy hun ryw noswaith, hers yn myned trwy'r gate, a hithau yng nghauad; gweled y ceffylau a'r harneis, a'r hogyn postilion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau hers, a'r olwynion yn pasio'r cerrig yn y ffordd fel y byddai olwynion eraill; a'r claddedigaethau yr un modd, mor debyg, yn elor ac yn frethyn du, neu os rhyw un ieuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen; ac weithiau yn gweled canwyll gref yn myned heibio."[36]

Un nos dywyll yr oedd Mr. David Morgan yn tynnu at ei gartref ym Manc-y-Môr, Cnwch Coch, a thybiai glywed sŵn cerdded torf gref o gyfeiriad tŷ a oedd gerllaw, a elwid Llain. Yn fuan daeth canu wylofus-canu ar yr hen emyn, " Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." Yn crynu gan ofn, aeth Mr. Morgan i'w dŷ cyn gyflymed ag y medrai, a hysbysu'r teulu o'r hyn a glywsai. Cynghorwyd ef i alw gŵr y tŷ nesaf. Aeth y ddau i gyfeiriad y canu, a chael mai Toili oedd yno yn llenwi'r ffordd. Blwyddyn i'r diwrnod hwnnw claddwyd gwraig y Llain, ac aeth yr angladd ar hyd yr un ffordd gan ganu " Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." Ÿ mae Mr. David Morgan yn fyw yn awr, a chefais yr hanes yn 1921 gan ei ferch, Mrs. J. E. Jones, Aberystwyth.

Y mae hanes a adroddai'r Parchedig Joseph Jenkins yn 1929 yn sôn am beth cyffelyb. Yn hwyr ar nos dywyll dychwelai Thomas Morgan, Tan-yr-allt, Pontrhydygroes, o dŷ un o'i gymdogion. Cerddai ganol y ffordd rhag taro'r cloddiau. Yn sydyn, teimlai ei wasgu i'r clawdd gan bwysau rhywbeth anweledig. Clywai sŵn fel sŵn torf yn myned heibio, eithr ni welai neb. Er pob ymdrech nid oedd fodd ymgadw rhag y clawdd, a lled-orweddodd hyd oni ddarfu'r sŵn a myned o'r dorf heibio. Ar ôl ei ryddhau a cholli peth o'i ofn, gwybu gyfarfod ohono â Thoili. Ymhen ychydig ddyddiau aeth angladd y ffordd honno, ac adnabu Thomas Morgan y sŵn a glywsai pan wasgwyd ef i'r clawdd. Er clywed o Mr. Jenkins yr hanes amryw droeon pan oedd yn fachgen, metha â chofio enw'r person a gladdwyd.

Nid oes fwy na thrigain mlynedd er pan âi Marged Humphreys, Cnwch Coch, un noson, i lawr drwy Lôn Harri i Lanfihangel-y-Creuddyn. Ar ben Lôn Harri cyfarfu â Thoili, a bu bron a mygu gan wasgu'r dorf. Adnabu Marged yr elorgerbyd a'r gyrrwr, ac wrth ei ochr gwelai'n eistedd ŵr Troed Rhiw Bwba. I Benllwyn, gerllaw Aberystwyth, y perthynai’r elorgerbyd. Ymhen ychydig wythnosau yr oedd Marged yng nghladdedigaeth gwraig o'i hardal, a gwelai yno yr un cerbyd a'r un personau ag a welsai yn y Toili ar ben Lôn Harri. Cefais yr hanes hwn yn 1920, gan wraig ddeallus a oedd yn byw yn Aberystwyth.

Y mae'r hanesyn a ganlyn a gefais gan y Parchedig John Humphreys (Wmffre Cyfeiliog) yn perthyn i'r un dosbarth. ≥ "Stori Drychiolaeth yw hon, wedi ei hadrodd i mi'n bersonol gan y person a welodd ac a glywodd. Rhys Evans oedd ef, a aned ac a fagwyd yn Eglwysfach, Ceredigion. Bu fyw wedi hynny ym Machynlleth, a phan adnabûm i ef yr oedd yn flaenor gyda'r Wesleaid yn Ynysybwl. Morgannwg.

"Dyn ieuanc ydoedd pan ddigwyddodd y pethai a adroddai wrthyf, ac yn 'cadw cwmni' â merch a wasanaethai yn ffermdy Caerhedyn, ryw filltir dda o'i gartref, ar odre'r pentref ar fin y ffordd o'r Cei sydd islaw Castell Glandyfi.

"Un noson yn hwyr iawn, dychwelai o garu yng Nghaerhedyn. Gwyddai fod llong fechan yn y Cei ar y pryd yn llwytho barc. Pan oedd ar ei ffordd adref, ac ar gyfer y Cei, clywai ganu yn y cywair lleddf. Ac yntau'n gwybod yr arferai morynion y Castell ddyfod i lawr weithiau i dreulio noson lawen gyda'r morwyr, tybiodd mai felly yr oedd y noson hon, a gwaeddodd: ' Ewch adre'r tacle yn lle cadw pobl yn effro ganol nos fel hyn.' Ni ddaeth un ateb. Yna clywai sŵn megis lliaws yn ymsymud, a gwelai rith tyrfa fechan yn cyfeirio at y ffordd fawr ar hyd ffordd gul a arweiniai o'r Cei. Ni wyddai yn ei fyw pa beth i'w wneuthur. Gwelai, os âi yn ei flaen, y byddai'n sicr o gyfarfod yr hyn a oedd yno, a daeth ofn a chryndod arno. Yr oedd yn tynnu at ganol nos, a'r wlad tan dawelwch dwfn ag eithrio sŵn cerdded yr orymdaith fach. Petrusodd a sefyll, ac yna symud megis o'i anfodd. Fel y dynesent at ei gilydd, gwelai yn eglur mai Toili oedd yno. Wedi dyfod yn agos, clywai'r arch yn gwegian ar yr elor. Dechreuodd y canu eilwaith, canu tyrfa wan a chanu wylofus. Dilynodd yntau r orymdaith tu draw i'w gartref a thrwy'r pentref hyd at lidiart y fynwent. Yr oedd rhyw drymder llethol yn yr awyr, a phawb yn symud yn araf a mud. Ymhen ysbaid gwelai'r eglwys, ac yr oedd yn llawn golau. Er ei syndod a'i fraw, gwelai hefyd olau yn ei gartref ef ei hun, a bu bron a syrthio. Galwodd yn uchel ar ei fam a cheisio ganddi ddiffodd y golau, oblegid clywsai od âi dyn i'r golau ar ôl gweled ysbryd, y llewygai a myned fel marw. Pa fodd bynnag, nid oedd y gweiddi i ddim pwrpas. Cysgai'r fam yn drwm a methwyd â'i deffroi. Teimlai Rhys Evans druan, yn ei ddychryn mawr, nad oedd dim yn aros iddo namyn mentro i'w gartref. Aeth i mewn, a'r munud hwnnw, yn y golau, syrthiodd i lewyg. Ni wybu fyth pa fodd y llwyddodd i ddringo i'r llofft ac i'r gwely.

Yn fuan ar ôl y weledigaeth hon, daeth i'r Cei un o'r llongau bychain am lwyth o farc. Arferid cario beichiau trwm o'r barc o'r tir i'r llong, yr hyn oedd waith caled. Un diwrnod, a hwy yn llwytho, syrthiodd bachgen ieuanc o Wyddel tan ei faich rhwng y llong a'r Cei, a boddi. Galwyd gweinidog Wesle o Fachynlleth i wasanaethu yn yr angladd. Canwyd ar fwrdd y llong fach, a digwyddodd popeth fel y rhagddangoswyd gan y Toili," Nid oes dim yn fwy o werth mewn llên gwerin na phendantrwydd, Pan geir hanes â'r enwau a'r dyddiadau a berthyn iddo yn bendant, dylid diogelu'r hanes hwnnw. Pwysig hefyd ydyw hanes a gredir fel ffaith sicr gan bersonau sy'n awr yn fyw, ac nid gan rai a fu farw ganrif neu ddwy yn ôl. Perthyn yr holl nodweddion hyn i'r hanesyn a ganlyn, a gefais gan Mr. Evan Jones, King's Cross, Llundain, Gorffennaf 3, 1929.

Milltir dda i'r deau o Bontrhydygroes, Ceredigion, ffìnia â'i gilydd ffermydd Hafodgau Uchaf a Phantyffynnon Uchaf. Yn yr haf pawr y gwartheg ar y mynydd, ac weithiau crwydrant tan bori filltir neu ragor oddi wrth y tai. Un min nos anfonwyd Mr. Evan Jones, mab Hafodgau, a Mr. John Jenkins, mab Pantyffynnon, i gyrchu'r gwartheg i'w godro. Cafwyd y gwartheg, ac a'r ddau fachgen ar gychwyn yn ôl, safent ar fryncyn a elwir Pencwarel, yn wynebu cors eang a ymgyfyd yn raddol at odre mynydd yr ochr bellaf oddi wrthynt. Ar ucheldir yn y fan honno yr oedd lluesty bychan o'r enw Seren, lle preswyliai hen ŵr o'r enw William Thomas a oedd yn wael ei iechyd ers peth amser. Yn sydyn ac annisgwyliadwy, clybu'r bechgyn o gyfeiriad y Seren ganu wylofus ar yr hen emyn, "Bydd myrdd o ryfeddodau." Edrychodd y ddau ar ei gilydd, ac yna i gyfeiriad y canu, a gweled clwstwr o bobl yn symud yn araf oddi wrth y tŷ. Dychrynwyd y llanciau, ac yn eu hofn rhedasant y gwartheg i'w cartrefi. Deallodd y mamau wrth y godro redeg ohonynt y gwartheg, ac wedi beio a holi, adroddwyd wrthynt yr hyn a glywyd ac a welwyd. Ymhen pythefnos bu farw William Thomas, Seren, a dydd y claddu yr oedd y ddau fachgen yn dystion eilwaith o'r pethau a glywyd ac a welwyd y min nos hwnnw o Bencwarel.

Digwyddodd hynny tros ddeugain mlynedd yn ôl, ond y mae Evan Jones a John Jenkins yn fyw heddiw, ac yn credu yng ngwirioneddolrwydd y weledigaeth a gawsant cyn gryfed ag y credant mewn unrhyw beth.

Mynnai llawer gynt roddi coel ar yr hyn a elwid Tolaeth neu Dolaeth fel arwydd sicr o farwolaeth. Sŵn traed neu gerbydau, neu guro byrddau, neu ganu clychau ganol nos, ydoedd Tolaeth. Clywodd yr hen bobl bethau rhyfedd, ac o wrando ar dystiolaeth rhai mewn oed pan oeddem ni'n blant, y mae'n anodd i ninnau beidio â chredu mewn rhyw fath o arwyddion, oblegid, hyd y gwelaf fi, nid oes yn awr fawr neb yn rhagori o ran na dealltwriaeth na diwylliant na geirwiredd ar y genhedlaeth o'r blaen. Mor anodd yw amau person oedrannus a ddywaid iddo droeon glywed drymder nos guro gweithio arch cyn marwolaeth cymydog? Amryw flynyddoedd yn ôl bu farw modryb i mi ym mhentref Taliesin, ac yr oedd yn wraig ddeallus a phwyllus a geirwir. Ni wn i am ragorach modryb gan neb. Clywsai hi'r curo yn fynych, a soniodd wrthyf am y peth droeon. Preswyliai heb fod ymhell o weithdy John Dafis, y saer, ac yn aml deuai iddi ganol nos o'r gweithdy, ychydig ddyddiau cyn marwolaeth un o'r pentrefwyr, sŵn gweithio'r arch.

Sŵn ydoedd y Cyheuraeth yntau, eithr sŵn yn yr awyr liw nos. Disgrifir ef fel ysgrechian gwyllt, ac weithiau fel griddfan un ar ddarfod amdano. Ni welid Cyheuraeth un amser; peth i'w glywed yn unig ydoedd.[37] Rhydd y Parchedig Edmund Jones enghreifftiau yn ei lyfr hynod o ymddangosiad ysbrydion, canhwyllau cyrff a'r cyheuraeth, neu un ohonynt, ym mhob sir yng Nghymru, a dysg fod i'r Gannwyll a'r Cyheuraeth wasanaeth gwerthfawr a phwysig. Y mae, meddai ef, y naill yn dystiolaeth i'r llygad a'r llall i'r glust o fodolaeth ysbrydion ac anfarwoldeb yr enaid.

CŴN WYBR, NEU CŴN ANNWN. Ymddengys bod unwaith gred yr ymlidid yr enaid, ar ei ymadawiad o'r corff, yn yr awyr gan gŵn marwolaeth. Rhai bychain llwytgoch oeddynt, ac wedi eu rhwymo â chadwyn, a'u harwain gan ryw fod corniog. Y traddodiad ydoedd yr anfonid hwy o Annwn i geisio cyrff, ac y dilynent farwolaeth yn ôl eu swydd. Gwelai cŵn y ddaear hwy a dychrynu. Hyn oedd y rheswm am yr udo a glywai dynion yn y nos. Gwyddai oes y Parch. Edmund Jones, y Trans, yn dda am y Cŵn Wybr.[38] GWENYN YN RHAGFYNEGI. Rhoddid unwaith goel gref ar wenyn a'u harferion. Hwy a roddai un o'r arwyddion cyntaf o farwolaeth y penteulu, naill ai drwy iddynt oll farw yn y cwch neu ynteu gilio ohono. Y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol lawysgrif nad yw'n hen a rydd yr hanesyn hwn. " Tua deugain mlynedd yn ôl bu farw gwenyn dau gwch a berthynai i dŷ yn Nyffryn Clwyd, ac yn fuan wedyn bu gŵr y tŷ (a oedd yn amaethwr ar radd eang) farw. Hyd y dydd hwn y mae'r cychod hynny yn wag, a'r mynedfeydd iddynt wedi eu cau, rhag i wenyn eraill fyned iddynt a gwneuthur tro cyffelyb â'r teulu. Y penteulu presennol yw mab y meistr a fu farw."[39]

Ni wn am neb a gâr Ganu Ceiliog ganol nos. Y mae rhywbeth annaturiol ynddo, ond o brin y gellir credu mai gwybodaeth oruwchnaturiol sydd wrth wraidd ei ganu. Eithr nid creadur cyffredin mo'r ceiliog, a theimla yntau hynny. Mor fonheddig y brasgama'n uchel ac esmwyth, a'r fath her sydd yn ei ganu croch! Cystal gennyf "Geiliog Pen-y-Pas" yr Athro Parry-Williams â dim sydd yn ei Ysgrifau.[40] Od oes ddiffyg, dyna yw hwnnw, peidio â sôn am fri ei ddawn broffwydol yn nyddiau'i nerth. Pair holl osgo ceiliog gredu ei fod o radd uwch na'r sawl a fo'n edrych arno, a bod yn ei feddwl balch gyfrinachau na ddaethant erioed i feddwl dyn. Dyna, efallai, seiliau ffydd y wlad yn ei allu i ragfynegi marwolaeth. Credid gynt, a chredir yn awr gan lawer, fod canu ceiliog drymder nos yn arwydd difeth o farwolaeth rhywun. Pe gwelid y ceiliog tra cân, gellid yn lled agos enwi'r person a elwir nesaf i'w gyfrif, oblegid y mae pig y ceiliog bob amser yng nghyfeiriad preswylfod hwnnw. Deugain mlynedd yn ôl deffrowyd Dafydd Rodrig, Tan'rallt," Taliesin, ar hanner nos gan y canu, ac yn ei ddychryn galwodd ar y forwyn o'i gwely i edrych i ba gyfeiriad yr oedd pig y ceiliog. Nid oes neb a gâr ganu ceiliog liw nos. Paham, tybed? Llawer ceiliog gwych, ac o dras uchel, a ddienyddiwyd oherwydd ei ganu anamserol.

CI YN UDO. Gwaith hawdd i'r sawl a gred yng ngallu ceiliog yw gweithredu ffydd yng ngwybodaeth a doethineb ci, oblegid o'r holl anifeiliaid, nid oes fwy na dau sydd cyn galled ag ef. A phwy a adwaen ddyn yn well, ac a deimla gymaint o ddiddordeb ynddo? Peth rhesymol yw rhoddi coel ar arferion cŵn, ac os credir yn ofer weithiau, ni ddaw i'r cŵn na neb arall niwed o hynny. Credai'r tadau, a chred llawer o'u plant eto, mai peth anffodus a difrifol i'r eithaf ydyw udo ci ar ôl machlud haul. Ni chyfarfûm i erioed â neb yn unman, na doeth nac annoeth, a hoffai udfa ci wedi nos.

Gwelais roddi tri rheswm tros udo'r ci,—1, Gall ci weled ysbryd a'i ofni; 2, Mor dreiddgar yw ei arogli fel y gŵyr pan ddynesa marwolaeth; 3, Mor graff yw ei welediad fel y gwêl angel marwolaeth.[41]

VI.

LLYNNOEDD A FFYNHONNAU

Y mae'r nodweddion yn gyffredin i amryw onid y mwyafrif o draddodiadau lluosog y llynnoedd, ac nid oes alw am draethu arnynt i gyd. Cyfeirir at y rhai enwocaf.

Ni chyfeiliornir yn fawr trwy wneuthur dau ddosbarth o'r traddodiadau, sef y rhai a ddysg am ddialedd, a'r rhai a ddwg i mewn ymyriadau'r Tylwyth Teg. O dro i'w gilydd, claddwyd tan ddwfr wlad neu ddinas neu blasty oherwydd anlladrwydd neu droseddau moesol eraill; ac y mae llynnoedd eraill yn enwog oherwydd y rhan sydd i'r Tylwyth Teg yn eu hanes.

Ni wneir yma fawr mwy na chrybwyll y traddodiad hysbys am orlifiad Cantre'r Gwaelod. "Gweirglodd-dir cnydfawr llawn o ffrwythau a blodau oedd Cantre'r Gwaelod," medd " Cymru Fu." Tir isel ydoedd, â gwrthglawdd yn cadw allan y môr rhag ei foddi. I'r gwrthglawdd yr oedd llifddorau a wylid yn ddyfal gan swyddogion penodedig â Seithennin yn ben arnynt. Yr oedd yn y Cantre un ar bymtheg o ddinasoedd a threfi gwych, a Gwyddno Garanhir yn dywysog ar y wlad. Gan fod y tir yn gnydfawr a'r cyfoeth yn ddibrin, aethai'r trigolion yn foethus a diofal, ac un diwedydd cafwyd gwledd fawr. Yn y wledd, yfodd Seithennin a swyddogion eraill win hyd fedd-dod diymadferth. Esgeuluswyd cau'r llifddorau, a rhuthrodd y môr i'r tir. Boddwyd y wlad, ac ni ddihangodd ond ychydig o'r trigolion i'r ucheldiroedd. Pan fo'r môr yn dawel a gloyw, gwelir heddiw ym Mae Ceredigion, o ymyl y Wallog, rhwng Aberystwyth a'r Borth, sarn a elwir yn Sarn Cynfelyn yn ymestyn am filltiroedd i'r môr. Gwelir hefyd yma a thraw yn y bae rai o'r plasau, ac ar brydiau clywir canu clychau eglwysydd.

Nid oes raid manylu ond ychydig i weled y cysylltir traddodiad cyffelyb ag amryw lynnoedd trwy Gymru. O'r hyn lleiaf ni wahaniaetha'r traddodiadau namyn o ran manion dibwys. Yn y dosbarth hwn gellir gosod Llyn Tegid, Tyno Helig, Syfaddon, Llynclys ac eraill.

LLYN TEGID, NEU LLYN Y BALA. Yn ôl un traddodiad y mae'r llyn hwn yn gorchuddio tref gyfan, eithr y mae'n haws credu mai boddi llys pendefig a wnaed. Preswyliai gerllaw'r Bala, mewn castell gwych, dywysog balch a chreulon. Nid ofnai ac ni pharchai na dyn na Duw, a chymaint oedd ei ormes ar bum plwyf Penllyn fel nad oedd ym Meirion neb na hoffasai ei ddinistr. Un diwrnod, a'r tywysog yn ymbleseru yn ei ardd, clywai lais yn gweiddi, " Daw dial." Chwerthin yn ddihidio a wnaeth ef. Bu fyw am flynyddoedd mewn rhwysg a gloddest heb argoel adfyd. Priododd, a ganed mab iddo. I ddathlu dydd geni'r etifedd cynhaliodd wledd fawr. Yr oedd pobl flaenaf Meirion yn y wledd yn dawnsio a chanu a meddwi. Ar gyfyl hanner nos, ar seibiant yn y dawnsio, tybiodd y telynor iddo glywed sibrwd yn ei glust, " Dial, dial." Trodd a gweled aderyn bach yn ehedeg yn ôl a blaen trwy'r neuadd. Amneidiodd yr aderyn ar y telynor i'w ddilyn—gall aderyn goruwchnaturiol wneuthur peth felly. Tywyswyd y telynor tros waun a rhos a chreigiau, a dal i ganu " Dial, dial," a wnâi'r aderyn. Cyrhaeddwyd pen bryn beth pellter o'r Castell. Yn ei ludded gorffwysodd yr hen delynor a chysgu. Pan ddeffrôdd ar doriad y wawr ni welai'r Castell, dim ond llyn mawr yn llanw'r dyffryn.[42]

Llyn Llynclys. Sôn am ddialedd a wna'r traddodiad hwn yntau. Yn ôl cred a dysg y werin, preswyliai teulu llygredig a mawr ei drais mewn llys urddasol, a chamdrinid yn greulon drigolion y wlad. Yr oedd i'w gwyliau a'u gwleddodd rwysg anarferol. Ymgasglai pawb o bwys i'r gwleddoedd hyn—rhai o fodd ac eraill o raid. Ni ellid gwrthwynebu ac ymgadw draw canys ofnid dialedd y teulu. Ym mhob gwledd a gŵyl, er cymaint y gloddestu a'r meddwi, clywai rhywrai lais annaearol o gwmpas y tŷ yn llefain yn ddibaid, " Daw dial, daw dial." Ofnai pawb ymofyn â'r llais pa bryd y deuai'r dialedd. Parhawyd am rai blynyddoedd i glywed y llais ac i ofni'r adfyd, ond o'r diwedd daeth i'r llys eneth o forwyn wrolach na'r cyffredin a mentro gofyn, "Pa bryd?" Atebodd y llais, "Yn oes wyrion, gorwyrion, esgynnydd a goresgynnydd." Yna bu tawelwch digymysg; ni alwodd y llais mwyach. Daeth dydd y goresgynnydd, ac un noson cadwodd ŵyl fawr yn ôl hen arfer y teulu. Tua chanol nos digwyddodd y telynor fyned allan o'r llys, a phan drodd ei wyneb i ddychwelyd ni welai mo'r plas. Nid oedd onid llyn lle safasai'r llys, a nofiai'i delyn yntau ar wyneb y dŵr. Y mae'r llyn hwn rhwng Croesoswallt a Llanymynaich.[43]

LLYN HELIG A LLYN SYFADDON. Y mae'r naill yn Sir Gaernarfon a'r llall ym Mrycheiniog, ac nid oes fawr ddim gwahaniaeth rhwng y traddodiadau sydd ynglŷn â hwy. Dialedd am ryfyg a thrais a geir yn y rhai hyn eto.

Pendefig rhyfygus oedd Helig ap Glannawg. Clywsai dair bloedd yn yr awyr, "Daw dial, daw dial, daw dial." Gofynnodd yntau, "Pa bryd?" Atebodd y llais, "Yn amser dy blant, dy wyrion a'th ddisgynyddion." Yn hwyr un nos, pan gyrhaeddodd y pendefig oedran henwr, aeth y forwyn i'r seler i gyrchu diodydd, a chanfu'r môr yn araf lifo trwy'r lloriau a'r muriau. Yn ei dychryn rhuthrodd i rybuddio'i chariadfab, y telynor, a ffodd y ddau am eu bywyd. Boddwyd Tyno Helig a'i holl gynnwys.[44] LLYN Y MORYNION. Un adeg ymhell bell yn ôl, gwnaed Ardudwy mor denau ei phoblogaeth gan ryfeloedd fel y bwriodd y llanciau a oedd weddill eu pennau ynghyd, a phenderfynu myned i Ddyffryn Clwyd a cheisio yno wragedd i'r diben o adboblogi Ardudwy. Llwyddasant i ddenu amryw o'r merched harddaf i'w dilyn. Daeth yr helynt yn fuan i glustiau meibion Dyffryn Clwyd, ac ymlidiasant yr ysbeilwyr a'u goddiweddyd yn ymyl Bwlch-y-Wae ym mhlwyf Ffestiniog. Aeth yn ymladdfa waedlyd. Gwyliai'r morynion y frwydr oddi ar fryncyn cyfagos, ac o weled colli o wŷr Ardudwy y dydd, cilio ar frys a wnaethant a'u boddi eu hunain mewn llyn a oedd gerllaw. Lladdwyd holl wŷr Ardudwy, a'u claddu yn y man a elwir Beddau Gwŷr Ardudwy. Gelwir y llyn byth er hynny yn Llyn y Morynion.[45]

LLYN NELFERCH (MORGANNWG). Y mae'r llyn hwn tua hanner y ffordd rhwng ffermdy Rhondda Fechan a Dyffryn Safrwch, ym mhlwyf Ystrad Tyfodwg. Gelwir ef hefyd weithiau yn Llyn y Forwyn.

Un bore o wanwyn, a mab Rhondda Fechan yn tramwy'r mynydd, gwelodd ferch fonheddig yn rhodio ar fin y llyn gyferbyn ag ef. Dynesodd ati, ac o siarad â hi cael y preswyliai yn y llyn. Hoffodd hi ar unwaith, a cheisiodd ganddi fod yn briod iddo. Gwrthod a wnâi hi ar y cyntaf, ac am beth amser. Eithr gorfu ei serch a'i daerineb ef. Cydsyniodd â'i gais, ac addo dwyn gyda hi o'r llyn ei holl wartheg a'i lloi, a bod yn briod ffyddlon iddo oni chwerylai â hi deirgwaith. Buont fyw yn ddedwydd am flynyddoedd lawer, ond bu cweryl, ac ail, a thrydydd. Un bore ar doriad gwawr clywid hi'n galw ei gwartheg:

"Prw dre', prw dre', prw'r gwartheg i dre',
Prw Milferch, a Malfach, pedair Llualfach,
Alfach ac Ali, pedair Ladi,
Wynebwen drwynog, tro i'r waun lidiog,
Trech-llyn y waun odyn, tair Pencethin,
Tair caseg ddu draw yn yr eithin."

Suddodd y foneddiges a'i hanifeiliaid i'r llyn, ac ni welwyd hwy mwy.[46]

LLYN BARFOG (MEIRIONNYDD). Y mae'r llyn hwn yn y mynydd sy'n gefndir i Aberdyfi. Cysylltir ef ag Annwn, y pwll diwaelod, lle trig Gwyn ap Nudd. Yn yr hen amser ymwelai gwragedd Annwn, wedi eu gwisgo â gwyrdd ac yn cael eu dilyn gan eu gwartheg a'u cŵn, yn fynych â'r llyn. Llwyddodd amaethwr i ddal un o'r gwartheg a'i dwyn i'w faes ei hun. Yn fuan profodd y fuwch na fu yn y wlad erioed ei bath am laetha a magu lloi braf a drudfawr. Ar ei phwys hi llwyddai'r amaethwr ym mhopeth a wnâi, ac ymgyfoethogodd. Pob yn ychydig aeth y dyn yn bwysig yn ei feddwl ei hun, ac yn ddiofal yn ei hawddfyd. Ymfalchïodd yn ei ystâd, a myned yn ddihidio o'i rwymedigaeth i'r 'fuwch gyfeiliorn'. Cymaint oedd ei gyfoeth ag y teimlai y gallai fforddio byw hebddi. Penderfynodd ei phesgi a'i lladd. Pesgwyd hi onid aeth yn gruglwyth mawr. Daeth dydd y lladd, ac ymgasglodd tyrfa anferth o'r siroedd cylchynol i weled y diwedd. Torchodd yr amaethwr ei lewys, a brathu ei gyllell i'r fuwch â'i holl nerth, ond nid i ddim pwrpas. Brathodd drachefn a thrachefn, eithr ni niweidiai flewyn o'r fuwch, a daliai hithau i gnoi ei chil yn hamddenol. Yn sydyn dyna floedd a grynai'r bryniau. Yr oedd gwraig mewn gwyrdd, â'i breichiau i fyny, yn sefyll ar graig uwch y llyn ac yn galw:

"Dere di felen Einion,
Cyrn Cyfeiliorn, Braith y Llyn,
A'r Foel Dodin;
Codwch, a dewch adre'."

Ar drawiad i ffwrdd â'r fuwch a'i hiliogaeth, â'u cynffonnau i fyny, i gyfeiriad Llyn Barfog. Rhuthrodd yr amaethwr yntau i ben bryn, a gweled y wraig mewn gwyrdd wedi ei hamgylchu gan y fuwch a'i lloi yn suddo i'r llyn. Trodd y byd yn erbyn yr amaethwr, a'i wneuthur y tlotaf yn y wlad.[47]

MOEL LLYN (CEREDIGION). Y mae traddodiadau'r llynnoedd i gyd yn hen, a gŵyr y sawl sydd gyfarwydd â llên gwerin y cynhwysir hwy, bron o angenrheidrwydd, ym mhob casgliad Cymraeg a wnaed. Ond nid wyf yn meddwl i'r traddodiad am y llyn hwn fod erioed mewn llyfr o fath yn y byd.

Rhyw bum milltir o bentrefi Tal-y-bont a Thaliesin, Ceredigion, i gyfeiriad Pumlumon, y mae mynydd syth ac uchel. O'i sawdl i gyfeiriad y gogledd, ac ar fin gwaun Cae'rarglwyddes, tardd afon Cletwr, a ymarllwys i Ddyfi. I gyfeiriad y deau llithra'r mynydd yn gyflym i gwm dwfn, ac o'i odre y tardd afon Ceulan sy'n llifo i Eleri. Y mae pen y mynydd yn lled gul, ac arno ddwy garnedd fawr. Rhwng y ddwy garnedd, bellter cyfartal o'r naill a'r llall, y mae llyn. Defnyddid y carneddau gan yr hen Gymry i bwrpas milwrol, a chredir i Glyndŵr wersyllu ar y mynydd. Nid oes yn yr holl wlad fan addasach at bwrpas byddin, oblegid gwelir yn glir i bob cyfeiriad am filltiroedd, ac anodd fyddai i elyn ddynesu heb ei weled. Gwelid hefyd dân y carneddau o Bumlumon a Chader Idris a Phen Dinas (Aberystwyth).

Y mae cryn ddirgelwch ynglŷn â'r llyn oherwydd llawer o bethau anesboniadwy. A mesur wrth olwg y llygaid, ei hyd ydyw ugain llath, ac ar draws, yn ei fan lletaf, y mae tua decllath. Nid yw'r grisial fawr gloywach na'i ddwfr, ac y mae blas mawn yn drwm arno. Nid oes ddafn yn rhedeg iddo nac ohono. Y mae'n llyn hunanddigonol ac anghyfnewidiol. Gwelais ef yng ngaeaf 1936, ac yr oedd yn llawn, ond dywedai cyfaill a oedd gyda mi nad oedd dim gwahaniaeth rhyngddo a'r hyn ydoedd pan welodd ef ar ganol sychder haf. Yr oedd yn llawn y pryd hwnnw hefyd. Haf a gaeaf, sych a gwlyb, yr un faint yw cynnwys y llyn.

Yn ôl traddodiad, diogelir Moel Llyn rhag ymyriadau dynol gan ryw allu goruwchnaturiol. Dechrau Medi, 1936, cefais hanes diddorol gan Mr. Richard Griffiths, Llythyrdy, Tal-y-bont; cafodd yntau ef gan ei dad. Y mae Mr. R. Griffiths yn ddyn diwylliedig, yn llenor parchus, ac yn gerddor gwych. Melinydd oedd ei dad, William Griffiths, yn cadw melin yng ngwaelod pentref Tal-y-bont, a chael iddi ddwfr o Eleri. A'r un adeg gweithiai ei ewythr, Humphrey Jones, brawd ei dad, felin Penpompren, ar flaen uchaf y pentref, a chael dŵr o Geulan. (Ni ŵyr Mr. Griffiths paham y gelwid y naill frawd yn Griffiths a'r llall yn Jones). Un haf ni chafwyd glaw am wythnosau, a sychodd Ceulan, a methwyd gweithio'r felin. Ymgynghorodd Humphrey Jones â'i frawd ac eraill, a phenderfynwyd gollwng Moel Llyn i afon Ceulan, a chael felly ddŵr i felin Penpompren. Aed i'r mynydd ar ddiwrnod hafaidd a'r awyr yn las, a dechrau agor ffos i ollwng y llyn. Ymhen ychydig, ymffurfiodd cymylau trwm ac isel yn yr awyr, daeth prudd-der i'r mynydd, fflachiodd mellt gwyllt, a rhuodd taranau. Credent y byddai'r storm yn malu'n yfflon y carneddau a'r creigiau o'u hamgylch. Dychrynodd y dynion a dianc am eu heinioes. Ym mhen deau 'r llyn y mae tua phedair llath o ôl y ffos i'w gweled yn awr. Bu'r digwyddiadau uchod, yn ôl amcangyfrif Mr. R. Griffìths, tua chwe ugain mlynedd yn ôl.

LLYN Y FAN FACH (SIR GAERFYRDDIN). Yn ôl Syr John Rhys, stori'r llyn hwn yw'r gyflawnaf o storïau'r llynnoedd, ac â hi y gellir orau gymharu'r gweddill.

Yn y ddeuddegfed ganrif preswyliai gwraig weddw a'i mab ym Mlaensawdde, Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. A'r mab un dydd yn bugeilio'r anifeiliaid, gwelai, er ei syndod, forwyn hardd yn eistedd ar Lyn y Fan Fach, ac yn cribo'i gwallt llaes. Sylwodd y ferch ar ei graffu a dynesu at fin y llyn. Cynigiodd yntau iddi'r bara haidd a'r enllyn a roddasai ei fam iddo wrth adael cartref. Swynwyd ef gymaint gan harddwch y forwyn fel y parhaodd yn hir i gynnig iddi'r ymborth. Llefarodd hithau:

" Cras dy fara,
Nid hawdd fy nala."

Ac ar drawiad suddodd tan y dŵr a gadael y llanc yn syn a siomedig.

Dychwelodd y mab i'w gartref a mynegi i'w fam y weledigaeth swynol a gafodd, a'r siom o golli'r ferch. Hithau a dybiodd y gallai fod yn y bara cras rywbeth a barai iddo fod yn ddi-flas i'r forwyn ac yn dramgwydd iddi. Bore trannoeth rhoes i'w mab does amrwd i'w gynnig. Aeth yntau eilwaith at fin y llyn a disgwyl. Ymhen rhai oriau ymddangosodd y ferch drachefn. Y tro hwn amlygodd y llanc ei serch, a chynnig y toes amrwd. Gwrthod a wnaeth hithau a dywedyd:

"Llaith dy fara,
Ti ni fynna'."

Eithr yr oedd gwên ar ei hwyneb pan suddodd i'r llyn, a llonnwyd y llanc. Trannoeth awgrymodd y fam i'r mab gynnig bara wedi ei hanner grasu. Aeth yntau y trydydd tro, a gweled amryw wartheg graenus yn cerdded ar wyneb y llyn, a'r wyryf Hardd yn eu bugeilio. Dynesodd at y llyn a chynnig y bara hanner cras, a derbyniwyd ef. Ymwrolodd yntau a meiddio'i cheisio yn briod iddo. Ar ôl peth crefu cydsyniodd hithau, ar yr amod nad oedd i'w tharo'n ddiachos deirgwaith. Eglurodd iddo os rhoddai iddi ' dri ergyd diachos' yr ymadawai ag ef am byth. Yna suddodd i'r llyn, a dychwelyd gyda chwaer a gŵr oedrannus ac urddasol. Dywedodd yr hen ŵr, y tad, y bodlonai ef i'r briodas os gallai'r llanc nodi pa un o'r ddwy chwaer a garai. Mor debyg oeddynt i'w gilydd fel na welai'r dyn ieuanc wahaniaeth, a theimlai fod dewis yn amhosibl. Eithr yn sydyn, ac megis ar ddamwain, gwthiodd un ei throed ymlaen y mymryn lleiaf, a sylwodd yntau ar eu dull gwahanol o rwymo'u sandalau—sylwasai droeon ar ddull yr un a garai-a dewisodd. "Ti a ddewisaist yn gywir," meddai'r tad, "bydd ffyddlon iddi, a mi a roddaf yn waddol gynifer o ddefaid a geifr a gwartheg a cheffylau ag a all hi gyfrif o bob un ar un anadl, Ond os rhoi iddi dri ergyd diachos, hi a ddychwel ataf ac a ddwg i'w chanlyn ei holl gynhysgaeth."

Priododd y ddeuddyn ieuainc a myned i fyw i Esgair Llaethdy, ychydig tros filltir o bentref Myddfai. Buont lwyddiannus a dedwydd am flynyddoedd, a ganwyd iddynt dri o feibion talentog. Ond un tro gwahoddwyd y rhieni i wasanaeth bedydd yn y gymdogaeth. " Dos i ddal y ceffylau tra byddaf yn cyrchu dy fenyg o'r tŷ," meddai'r gŵr. Pan ddychwelodd a chael nad aethai'r wraig yn ôl ei gais, trawodd ei hysgwydd yn ysgafn â maneg, a dywedyd, "Dos, dos." " Dyna'r ergyd diachos cyntaf," meddai hi. Ymhen rhai blynyddoedd wedyn yr oeddynt mewn gwledd briodas. Yng nghanol y llawenydd a'r miri, torrodd hi i wylo yn chwerw ac uchel. Cyffyrddodd y gŵr hi eilwaith ar ei hysgwydd, a gofyn am achos ei thristwch. " Yn awr," meddai hi, " y dechrau gofidiau'r ddeuddyn hyn, a thebyg hefyd y dechrau dy ofidiau dithau gan iti fy nharo'n ddiachos yr eilwaith."

Tyfasai'r plant yn ddynion ieuainc, ac nid oedd yn y wlad deulu dedwyddach. Ond un diwrnod, a'r rhieni mewn angladd a phawb yn fawr eu galar, chwarddodd y wraig ar uchaf ei llais. Cyffyrddodd ei phriod â'i braich a dywedyd, " Ust, ust, paid â chwerthin." " Chwerddais," meddai hi, "oherwydd bod y marw wedi dianc o'i flinderau. Trewaist yr ergyd olaf. Ffarwél."

Trodd ei chefn arno a myned i Esgair Llaethdy a galw ar ei hanifeiliaid. Galwodd ar y gwartheg fel hyn:

" Mu Wlírech, Moelfrech,
Mu Olfrech, Gwynfrech,
Pedair cae tonfrech,
Yr hen Wynebwen,
A'r las Geingen,
Gyda'r tarw gwyn
O lys y Brenin,
A'r llo du bach
Sydd ar y bach,
Dere dithe, yn iach adre'."

Clywodd hefyd y pedwar ych a oedd yn aredig yn y maes hi yn galw:

"Pedwar eidion glas
Sydd yn y maes,
Deuwch chwithe,
Yn iach adre'."

Atebasant i'r alwad bob un. Daeth hyd yn oed "y llo bach du a oedd ar y bach" yn fyw drachefn. Ymaith â hwy yn gyflym a diflannu yn y llyn.

Gyrrodd hiraeth y meibion yn aml i gymdogaeth y llyn i geisio eu mam, ac un bore daeth hithau atynt i ymyl Dôl Hywel, wrth Lidiart y Meddygon, a dywedyd wrth Riwallon, yr hynaf, mai ei waith ef mewn bywyd fyddai iachau dynion o bob clefydau. Yna rhoes iddo gyffuriau a chyfarwyddiadau, a dangos iddo yn y meysydd bob llysiau rhinweddol.

Daeth Rhiwallon a'i dri mab, Cadwgan, Gruffudd ac Einion, a'u disgynyddion am rai cenedlaethau, yn feddygon medrusaf ac enwocaf yr holl wlad, Gadawsant eu gwybodaeth feddygol mewn llawysgrif, a chyhoeddwyd hi yn llyfr tan yr enw "Meddygon Myddfai," yn Llanymddyfri yn 1861. Ceir yn y llyfr gant a phedwar ugain ac wyth o gyfarwyddiadau (prescriptions) meddygol. Dyma ei eiriau cyntaf:

"Yma gan borth Duw goruchel bendvic, y dangosir y medegynyaethau arbennickaf a phennaf wrth gorff dyn, sef y neb a beris eu hyscrivennu yn y mod hwn Rhiwallawn Vedic ae veibion; nyt amgen, Kadvyavn, a Gruffud ac Einavn."

Yn ôl y rhagymadrodd i "Meddygon Myddfai," bu Rhiwallon a'i feibion yn feddygon i Rys Gryg, arglwydd Dinefwr a Llanymddyfri. Cyn belled ag y gwyddys, yr olaf o'r meddygon a ddisgynnodd o Forwyn Llyn y Fan ydoedd C. Rice Williams a breswyliai yn Aberystwyth yn 1881.[48] Y mae ffynhonnau rhinweddol ym mhob rhan o Gymru; nid oes odid blwyf heb un neu ragor ynddo. Cysylltir y mwyafrif â rhyw sant neu santes arbennig, a cheir hwy'n amlach yng Ngogledd Cymru nag yn y Deheudir. Er eu bod yn llu mawr, nid oes fawr wahaniaeth rhyngddynt o ran nodweddion. Nid oes ofyn yma am gofnodi hanes namyn ychydig o'r rhai enwocaf.

FFYNNON ELIAN (Sir Ddinbych). Gwaith gwreiddiol y ffynnon hon ydoedd gwella clefydau, eithr trwy ryw gyfaredd anffodus trodd i felltithio.

FFYNNON DEGLA (LLANDEGLA) Yr oedd yn hon rinwedd at wella math ar ffitiau, neu ddolur a elwid yn "Clwyf Tegla."

FFYNNON GWENFREWI (TREFFYNNON). Y mae yn hon rinwedd at wella pob math ar anhwylder, ac ym marn y Pabyddion hyd heddiw, y mae ei dyfroedd yn wyrthiol i'r sawl a fo'n gryf ei ffydd.

FFYNNON BEUNO (CLYNNOG). Gwellha hon blant yn dioddef oddi wrth nychdod a ffitiau.

FFYNNON GYBI (LLANGYBI). Datguddia hon i ferched ffyddlondeb neu dwyll eu cariadon.

FFYNNON DDWYNWEN (SIR FÔN). Yr un â Ffynnon Gybi yw gwasanaeth hon hithau.

FFYNNON GYNON (LLANGYNWYD, MORGANNWG). Pan oedd dau newydd briodi, y cyntaf a yfai ohoni a fyddai ben byth wedyn.

FFYNNON FAIR (LLŶN). Ar amod arbennig, sef os dringir llwybr serth yn ymyl heb golli dafn o'i dŵr o'r geg, caiff pob person ei ddymuniad gan y ffynnon ddefnyddiol hon.

FFYNNON NON (TYDDEWI). Ni fyn Non, mam rasol Dewi, i neb aberthu mwy na phinnau bach, a manion eraill, i'r diben o sicrhau holl ddymuniad ei galon.

FFYNNON BUSHELL. Gwahaniaetha'r traddodiadau y ffynnon hon oddi wrth eiddo'r ffynhonnau a enwyd eisoes, ac ni welais gyfeirio ati mewn argraff. Yng ngogledd Ceredigion, ar fryncyn lled uchel, filltir o Dre'rddôl ac yn wynebu afon Dyfi, y mae plasty o'r enw Lodge Park—yr hen enw ydoedd Bod Frigan. Yn y plasty hwn y preswyliai Syr Hugh Middleton ychydig dros dri chan mlynedd yn ôl, a gweithio oddi yno waith mwyn plwm Cwm Symlog a ddygai iddo elw o ddwy fil o bunnoedd y mis. Yn ei ddilyn ef daeth Thomas Bushell i Lodge Park a gweithio'r gwaith a weithiasai Syr Hugh. Bernir i Bushell weithio hefyd amryw fân weithfeydd plwm yng ngogledd y sir. Ymgyfoethogodd yntau gymaint oni allodd roddi'n fenthyg i'r brenin Charles y cyntaf ddeugain mil o bunnoedd. Ffurfiodd hefyd gorfflu o filwyr o'r mwynwyr i ymladd o blaid Charles. Yn y goedwig ychydig i'r gogledd oddi wrth y plas, y mae ffynnon mewn craig, â'r graig yn do iddi. Ei maint yw pedair troedfedd o hyd, dwy ar ei thraws, a'i dyfnder yn ddeunaw modfedd. Ni phaid ei dŵr na haf na gaeaf, ac y mae bob amser yn loyw fel grisial ac oer fel ia. Amgylchir y ffynnon â thoreth o frigau marw a dail y coed, eithr ni cheir byth na brigyn na deilen ynddi hi. Ymwelais â hi yng ngwyliau Nadolig 1936, ac yr oedd yn gwbl lân. Y traddodiad yw ddarfod i Thomas Bushell lofruddio'i wraig a gwthio ei chorff i'r ffynnon hon. Galwyd hi byth wedyn yn Ffynnon Bushell.

Gwyddys am lawer o ffynhonnau at wella crydcymalau, a symud dafadennau, gwendid llygaid, a llu o anhwylderau eraill. Credid unwaith y perthynai rhinwedd gwyrthiol i amryw o'r ffynhonnau hyn, a rhoddid iddynt barch crefyddol onid addolgar.

VII.

OGOFAU A MEINI

Y mae traddodiadau ynglŷn ag Ogofau a Meini Cymru mor lluosog, a llawer ohonynt mor lleol a chyffredin, fel na farnwn yn ddoeth gofnodi ond ychydig ohonynt. Ceir hefyd ambell draddodiad sy'n hen a hysbys, ac eto yn hawlio lle ym mhob casgliad o lên gwerin. Un felly yw hwnnw am Ogof Arthur. Nid oes neb a ŵyr ychydig am lên y genedl na ŵyr hefyd am draddodiad yr ogof hon; eithr y mae naw o bob deg o Gymry na wyddant am Arthur na'i Ogof. Er budd y dosbarth mawr hwn dylid gwthio arnynt ambell stori a drig ers oesoedd yn ein llên.

OGOF ARTHUR. Nid oes well stori ogof nag un Ogof Arthur, ac efallai nad oes un a ledaenwyd gymaint. Lleolir yr Ogof hon mewn amryw fannau yng Ngogledd a Deheudir Cymru, ac amrywia'r traddodiadau gryn lawer. Caiff yr un a gofnodir yn "Y Brython" am ogof Craig-y-ddinas, Llantrisant, Morgannwg, wasanaethu i egluro'r gweddill.

Un diwrnod, ar ôl gwerthu'r gwartheg a yrasai o Gymru i Lundain, fe'i cafodd porthmon ieuanc ei hun, â'i ffon gollen hirfain yn ei law, ar Bont Llundain, a chyfarfod yno â dyn dieithr. " O ba le y daethost?" meddai'r dieithryn. "O'm gwlad fy hun," atebai'r Cymro. "Tyfodd y ffon sydd yn dy law mewn llwyn a dyf ar enau ogof sydd ag ynddi grynswth o aur ac arian, ac os cofi di'r fan a'i ddangos i mi, a dilyn fy nghyfarwyddyd, ti a gei yr hyn a fynnych o gyfoeth." Gwelodd y Cymro mai Dyn Hysbys a lefarai wrtho. Aeth y ddau i Gymru ac at y llwyn cyll ar Graig-y-ddinas. Dadwreiddiwyd y llwyn, a chael oddi tanodd faen mawr llydan a oedd ar enau'r ogof. Ar y genau hongiai o'r nenfwd gloch fawr a hen. "Gochel gyffwrdd â'r gloch rhag colli dy fywyd," meddai'r dyn hysbys. A gofal mawr aethant i'r ogof, a gweled yno filwyr filoedd tan arfau yn lled-orwedd â'u traed at ei gilydd, ac yn cysgu. Goleuai gloywder yr arfau yr holl ogof. Yn y canol gorweddai un nad oedd ei hafal. Gwisgwyd hwn ag urddas a'i gwahaniaethai oddi wrth bawb. Yn ei ymyl ef yr oedd pentyrrau o aur a gemau. "Cymer a fynni o'r trysorau," meddai'r dewin. Llwythodd y Cymro ef ei hun ag aur. "Gochel gyffwrdd y gloch wrth fyned allan," meddai'r dewin, "rhag deffro'r milwyr, ac iddynt ofyn, 'A yw hi yn ddydd? ' Os digwydd hyn, ateb dithau yn syth ac yn hy, 'Nac ydyw, cysgwch,' a phlyg pob un ei ben a chysgu wedyn." Gan mor drwm oedd ei faich o aur, methodd y Cymro â gochel y gloch, a bu bron a llewygu. Deffrodd y milwyr a neidio ar eu traed, ac yn sŵn tinciadau'r arfau, gofyn, "A yw hi yn ddydd?" Atebodd y Cymro, "Nac ydyw, cysgwch." Llwyddodd ef a'r dewin i ddianc yn ddianaf o'r ogof, a gosodasant y maen a'r boncyff cyll yn eu lle fel cynt.

Eglurodd y dyn hysbys mai Arthur Fawr oedd y gŵr urddasol, a'i fod ef a'i filwyr yn cysgu tan eu harfau yn disgwyl i'r dydd wawrio pan fydd rhyfel rhwng yr Eryr Du a'r Eryr Euraid. Y dydd hwnnw deffry Arthur a'i ddewrion a rhuthro ar elynion y Brythoniaid, ac ailfeddiannu Ynys Prydain; yna sefydlu eilwaith y Ford Gron a Llys Arthur yng Nghaerlleon-ar-Wysg.

Afradodd y Cymro ieuanc y baich aur a gafodd, a myned yn dlawd. Dychwelodd eilwaith i'r ogof a'i orlwytho'i hun â'r trysorau, ac wrth ymwasgu allan cyffwrdd â'r gloch, a chanodd hithau.

Deffrodd y milwyr a gofyn "A yw hi yn ddydd?" Yn ei drachwant a'i ofnau anghofiodd y Cymro ateb. Ni wyddai neb beth a ddigwyddodd iddo, eithr ni fu fel dyn arall byth mwy.[49]

Mae Arthur Fawr yn cysgu,
A'i ddewrion sy o'i ddeutu,
A'u gafael ar y cledd:
Pan ddaw yn ddydd yng Nghymru,
Daw Arthur Fawr i fyny
Yn fyw—yn fyw o'i fedd!—Elfed.

OGOF OWAIN LAWGOCH. Yr oedd Owain Lawgoch yn un o Gymry mwyaf rhamantus yr Oesoedd Canol, a gosodir ef weithiau yn lle Arthur yn stori 'Yr Ogof.' Dywedir bod Owain a'i ddewrion yn Ogof Myrddin, yn Sir Gaerfyrddin, yn cysgu dan gyfaredd y Dewin. Pan ddêl 'y dydd,' deffroant i ynni a gweithgarwch anarferol, ac ennill Prydain i'r Brythoniaid.[50]

Cysylltir hefyd draddodiad Ogof Arthur ag Ogof Owain, sydd gerllaw Llandybïe. Yn ôl Celtic Folkelore, Syr John Rhys, caewyd ar Owain a'i ddewrion yn yr ogof hon, a buont farw o newyn. Yn 1813 cafwyd yn yr ogof esgyrn nifer o ddynion o faintioli anarferol. Ond dywaid Mr. T. H. Lewis, Llandybïe, na fu erioed yn yr ardal draddodiad ddarfod i neb ddarganfod esgyrn dynol yn 1813 yn Ogof Owain, eithr yn Ogof Pant-y-llyn. Yn ymyl y bryn a elwir "Y Ddinas," y mae bryn arall a elwir Craig Derwyddon, ac yn 1813 trawodd chwarelwyr, a weithiai ar y bryn hwn, i ogof na wyddid amdani, ac yn yr ogof hon —Ogof Pant-y-llyn—y cad y penglogau. "Tua milltir i'r gogledd o bentref Llandybie," meddai Mr. T. H. Lewis, "saif bryn a elwir Y Ddinas, ac ar ei lechwedd ceid hyd yn ddiweddar ogof a adnabyddid fel 'Ogof y Ddinas.' Nid yw'r ogof yno mwyach, gan fod chwareli wedi difa rhan helaeth o'r llechwedd, ond cofia hynafgwyr y pentref amdani . . . Nid traddodiad ansicr ac annelwig mohono, ond un a lynodd yn yr ardal ar hyd y canrifoedd."[51] Huna Owain Lawgoch a'i filwyr hyd oni ddêl taro ar Gymru, ac yna deffro a gorchfygu.

TRYSOR CUDD CASTELL FAEN GRACH. Cefais stori Ogof Castell Faen Grach gan yr Henadur John Morgan, Y.H., Ystumtuen. Gwyddai Mr. Morgan am draddodiad yr ogof er ei ddyddiau bore, ac yn 1890 cafodd fanylion y traddodiad gan Mr. Dafydd Dafys, y Rhos, Rhos-y-gell. Yr oedd Dafydd Dafys ar y pryd o drigain i drigain a deg oed, a dywedai fod y stori yn hen cyn ei eni ef.

Y mae Castell Faen Grach gerllaw Pont-ar-Fynach. O edrych i'r gorllewin gwelir mynydd pigfain a gyfyd yn syth o flaen Cwm Rheidol ar ochr Mynydd Bach, ac wrth droed y mynydd pigfain yn wynebu'r briffordd y mae ffermdy Tyn-y-castell. Ar dir y fferm hon y mae Ogof y Trysor Cudd. Yn ôl traddodiad cynnwys yr ogof gyflawnder o aur a gemau, ac agorir hi unwaith yn y flwyddyn gan law anweledig. Caiff y sawl a fo'n ffafryn y duwiau fyned iddi a'i lwytho'i hun â'r trysor, eithr gwae a ddaw i'r hwn a gais fyned i mewn trwy drais, oblegid gwylir hi gan aderyn mawr a gwsg ar ei genau. Os deffry'r aderyn, fe ofyn â llais fel taran, "A aeth y tri bore yn un?" ac i ochel galanas rhaid ateb ar unwaith, "Na, nid aeth y boreau yn un, cwsg." Y mae'r ogof mewn man diarffordd, ac o baidd neb ryfygu cloddio am yr agorfa, daw yn sydyn ystorm ofnadwy o fellt a tharanau. Dywedir i amaethwr Tyn-y-castell ennill ffafr y bodau anweledig a noddai'r ogof. Caled iawn oedd byd Jones, Tyn-y-castell, a methai â dwyn deupen y llinyn ynghyd, ond yn sydyn ac annisgwyliadwy aeth yn ŵr cefnog. Pa fodd yr ymgyfoethogodd? Nid oedd ond un esboniad— aur yr ogof.

Daeth gŵr dieithr o ardal Machynlleth i Dyn-y-castell, a chael hanes y trysor gan ŵr y tŷ. Bore trannoeth tynnodd y ddau i gyfeiriad yr ogof ag arfau cloddio. Yr oedd yn fore hafaidd a braf, a dechreuwyd chwilio am enau'r ogof, ond yn sydyn wele newid mawr. Fflachiai'r mellt a rhuai'r taranau oni theimlid yr holltai'r creigiau. Dihangodd y ddau ymchwilydd am eu bywyd. Ni welwyd y gŵr o Fachynlleth yn ardal Pont-ar-Fynach byth mwy.

Y mae gan yr hen fardd Gethin Jones yntau stori am drysor cudd a wylir gan alluoedd goruwchddynol. Buasai ymosod mawr ar Ysbyty Ifan, a'r brwydro yn ffyrnig a gwaedlyd. Yn ystod y brwydro, cuddiwyd arian tan y Maen Crair gerllaw Cadnant a Bryn Cerbyd. Y mae'n debyg y bu'r cuddio hwn i ddiogelu'r trysor hyd onid elai'r heldrin heibio. Yn ôl traddodiad, ni faidd neb symud y Maen Crair rhag ei ladd gan fellt a tharanau. [52], td. 272.

BEDD TALIESIN. Ymddengys oddi wrth y traddodiad am y bedd hwn mai prif offerynnau'r bodau anweledig i'w amddiffyn a'i ddiogelu yntau ydyw mellt a tharanau. Dylem ddiolch am ofal y bodau ysbrydol hyn, oblegid a barnu wrth y golwg sydd ar y bedd, ni ŵyr Cymrodorion a Chymdeithas Hynafiaethau a Chyngor Sir Aberteifi ddim amdano. Yn gefndir i Dre' Taliesin y mae mynydd lled uchel, ac ar ei uchaf, mewn llain ar dyddyn Pensarn Ddu y mae carnedd gerrig â daear wedi tyfu trosti, ac yn y garnedd hon y mae'r Bedd. Lled cae bychan oddi wrtho y mae Sarn Helen. Ceir nodyn yn "Y Brython" gan Lewys Dafys (Yr Hen Glochydd), Tre' Taliesin, a ddengys y derbynnid y traddodiad am fan bedd y bardd fel ffaith yn ei ddyddiau ef.[53]

Math ar gistfaen ar ffurf arch â maen mawr ar ei wyneb yw'r bedd. Bu Mr. Tom Owen, Tre' Taliesin, yn gwasanaethu yn ei ddyddiau bore mewn fferm sy'n cyrraedd i ymyl y bedd, a dywaid ef fod traddodiad cryf yn y gymdogaeth ynglŷn â chais i ymyrryd â'r bedd. Pan weithid siafft Pensarn ar waith mwyn plwm Bryn-yr-Arian, aed i chwilio am faen trwchus a chryf i ddal corddyn (pivot) isaf chwimsi i godi ysbwrial a mwyn o'r gwaith. Dewiswyd y maen a oedd ar fedd Taliesin, ac aeth gŵr Pensarn a'i weision i'w gyrchu mewn gambo. Dechreuwyd ar y gwaith o'i symud, eithr yn annisgwyliadwy tywyllodd yr awyr a thorrodd ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau, a bu raid i'r dynion ddianc am eu heinioes. Y mae'r maen yno eto, ar ben gogleddol y bedd, ac wedi ei symud tua llathen o'i le gwreiddiol. Dywaid Mr. Isaac Lloyd, Tal-y-bont, sydd hynafgwr, y credai holl drigolion yr ardal y traddodiad pan oedd ef yn blentyn.

Y mae'r ddau draddodiad a ganlyn a gefais gan Mr. Lewis Hughes, Meliden, yn rhai tra diddorol, a'r cyntaf yn awgrymu nawdd a gofal bod neu fodau goruwchnaturiol.

BEDD BRYNFORD (SIR FFLINT). Yn ymyl Bryniau Dwnsis, chwaraefan y Tylwyth Teg ar noson loergan, y mae bedd ag arno gylch o gerrig. Dywaid hen ŵr, sydd eto'n fyw, y cofia ef i ffermwr ddefnyddio rhai o'r cerrig i godi clawdd un o'i gaeau'n uwch. Bore trannoeth, er ei syndod, cafodd fod y cerrig i gyd wedi diflannu. Yn ei fraw aeth at y bedd, a gweled yno y cerrig, bob un, yn eu lle megis yr oeddynt cyn iddo ymyrryd â hwy.

COPA'R LENI. Y mae'r bedd hwn ar ben Clip-y-gop, ym mlwyf Treflawnyd, a chyfrifir ef y bedd mwyaf yng Nghymru. Dysg traddodiad mai bedd un o gadfridogion Rhufain ydyw. Credai Mr. Lewis Davies, taid Mr. Lewis Hughes, fod y traddodiad yn wir, ac adroddai y teithiai ef un noson olau lleuad o Ddyserth i Newmarket, a gweled y caeau yn llawn o filwyr Rhufeinig. Ar Glip-y-gop gwelai'r cadfridog ar farch gwyn. Marchogai'n hamddenol ac urddasol â'i gleddyf yn ei law. Daeth cwmwl tros y lloer, a chollwyd golwg ar y march a'r marchog.

Ymddengys bod yn Sir Fflint amryw draddodiadau ynglŷn â thrysorau cudd, a rhydd Mr. Lewis Hughes un a gafodd gan ei dad. Credid yn gryf fod ellyllon a ddrygai'r trigolion yn byw oddi tan y Garreg Doll, neu Carreg-y-doll, sydd ym mhlwyf Llanasa. Ofnai'r plwyfolion y garreg hon gymaint fel nad âi neb heibio iddi ond o raid, hyd yn oed liw dydd. O dro i'w gilydd magodd rhai ddigon o wroldeb i ryfygu ceisio dryllio'r garreg i'r diben o ymlid yr ellyllon, eithr gwnaed pob cais yn ofer gan ystormydd ofnadwy o fellt a tharanau. Unwaith, ar ôl un o'r ystormydd hyn, a gŵr yn cerdded fin nos heb fod ymhell oddi wrth y garreg, clywai riddfan dwys, ac o edrych gwelai olau tanbaid uwchben y garreg, ac yna, o'r anweledig, ddwy fraich noeth cawr yn ymestyn ac yn gafael ynddo. Cipiwyd ef ymaith, a chredai tra fu byw ei ddwyn i ryw wlad tan y ddaear. Cyrhaeddodd adref ymhen peth amser, eithr ni wybu pa fodd. Daethpwyd i gredu gan rai yn ddiweddarach mai gorchuddio trysorau a wnâi Carreg-y-doll, ac mai prif ddiben yr ellyllon ydoedd eu hamddiffyn.

Y mae hefyd draddodiad bod twnnel llawn o drysorau yn arwain i seler yng Nghastell Rhuddlan, a chofia Mr. Lewis Hughes am gryn gloddio tua deugain mlynedd yn ôl am dwnnel â thrysorau a arweiniai i gastell Dyserth. Ychydig flynyddoedd yn ôl darganfuwyd seler tan y ddaear y tu allan i Blas Pentre, Helygain, a chredid mai yno y cadwai Llwydiaid y Plas y gwinoedd a thrysorau eraill a ysmyglid ar afon Dyfrdwy.

Y mae'n naturiol disgwyl i fynyddoedd a chreigiau Gogledd Cymru gynnwys llawer o ogofau, eithr prin yw'r dynion a fedr roi hanes y traddodiadau sydd ynglŷn â hwy. Cefais y ddau a ganlyn gan Mr. Lewis Hughes.

OGOF GWEN GOCH. Ar ben Moel Hiraddug ac ar derfyn plwyfi Dyserth a'r Cwm, y mae Ogof Gwen Goch. Bu hon hefyd un adeg yn gartref ellyllon, a chyfathrachai Gwen Goch â hwy a thrigo yn yr ogof. Ar adegau tryma'r flwyddyn pan orchuddid y Foel a'r dyffryn â niwl, deuai Gwen allan o'i lloches i Dre'r Castell islaw, a pheri llawer o anhwylderau ymysg plant ac anifeiliaid. Nid ymddangosai byth ond ar ffurf anifail— ysgyfarnog, milgi, neu lwdn dafad. Aeth pethau o ddrwg i waeth yn amser Dafydd Ddu Hiraddug, a cheisiodd y trigolion ei gymorth. A'r niwl yn drwm ar y mynydd, dringodd Dafydd ei lethrau yn hamddenol a chyrraedd yr ogof, a myned i mewn. Ffodd yr ellyllon rhag ei wg a'i fygythion. Ceryddodd y wrach hithau, a pheri iddi addo na ddrygai ddyn nac anifail byth mwy.

OGOF Y GRAIG SHIAGUS. Y mae hon ar waelod plwyf Ysgeifiog, ond gorchuddir hi yn awr gan lyn dwfr a wnaed yn ddiweddar. Hysbysai'r diweddar Mr. J. E. Jones, Melin-y-wern, Nannerch, Mr. Lewis Hughes, iddo ef fod yn yr ogof droeon pan oedd yn ieuanc. Yr oedd yn ogof fawr a hir, ac yn ei phen draw ceid ystafell a elwid yn 'Barlwr Arthur.' Y traddodiad ydyw ddarfod i Arthur Fawr, ar ôl brwydr Caer Moel Arthur, orffwyso

yn yr ogof hon,

VIII.

DAROGAN, A CHOELION ERAILL

Nid yw pawb o'r tadau a ragfynegodd neu a broffwydodd am bethau a oedd ar y pryd yn anhygoel, i'w cyfrif o dras y dewiniaid. Dynion arbennig o ran barn a gwelediad oedd llawer ohonynt. Gwelent, fel y Parchedig Azariah Sadrach, heibio i gyfnewidiadau posibl canrif neu ragor, a mynegi'r nodweddion newydd yn arwynebedd y wlad ac ym mywyd y trigolion a oedd yn debyg o ddilyn y cyfnewidiadau. Nid am y proffwydi hyn y traethir, eithr am waith dewiniaid.

Ni fedd llên gwerin ein gwlad ni ddewin cryfach a mwy adnabyddus na Myrddin, neu fel y gelwir ef y tu allan i Gymru, Merlin. Yn ôl traddodiad, ganed ef yng nghymdogaeth Caerfyrddin, ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau'r chweched, ac aeth ei glod ledled y wlad ac i amryw rannau o gyfandir Ewrop. Cred llawer o drigolion Caerfyrddin mai oddi wrth y proffwyd cadarn hwn y cafodd eu tref ei henw, ac y mae hynny mor debyg o fod yn wir â dim o'r lliaws traddodiadau sydd ynglŷn ag ef. Proffwydodd lawer, a gwnaeth rai o'i wyrthiau yn ardaloedd yr Wyddfa, ond ni chyfeirir yn awr namyn at ei ymwneud â thref Caerfyrddin.

Ar rai cyfrifon nid oes yn bod dref ragorach na Chaerfyrddin. Hawlia le cynnar a phwysig yn hanes llenyddiaeth y genedl, a saif yn uchel heddiw o ran diwylliant a moes. Y mae hefyd ar led si cryf a chyson fod ei Chymraeg a'i Saesneg yn lanach nag eiddo un dref arall yng Nghymru. Boed hynny fel y bo, nid yw bri'r hen dref fawr llai, os dim, nag y bu; eithr gwelodd Myrddin ei drygfyd a'i diwedd:

"Llanllwch a fu,
Caerfyrddin a sudd,
Abergwili a saif."
" Caerfyrddin, cei oer fore.
Daear a'th lwnc, dŵr i'th le."

Ar Heol y Prior, yn ymyl yr hen briordy, lle yr ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin yn ôl traddodiad, saif pren derw crin sy'n malurio'n raddol ar hyd yr oesoedd, ac yn ôl Myrddin, pan syrth y pren hwn fe lyncir y dref. Trin awdurdodau'r dref yr hen bren â gofal mawr, ac efallai mai darogan y broffwydoliaeth a bair hynny.

MELLTITH MAES-Y-FELIN. Plas gwych ar lan afon Dulas, i'r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan, ydoedd Maes-y-felin. Perthynai i deulu'r Llwydiaid am rai cenedlaethau. Yr oedd Syr Francis Lloyd, Maes-y-felin, a Samuel, mab y Ficer Prichard, Llanymddyfri, awdur "Cannwyll y Cymry," yn gryn gyfeillion. Dyn drwg a rhyfygus oedd Syr Francis, ac ar un achlysur cwerylodd Samuel ac yntau. Ni wyddys natur y cweryl, ond tybir bod y ddau tan ddylanwad diodydd meddwol ar y pryd. Pa fodd bynnag, terfyn y cweryl fu mygu Samuel Prichard rhwng dau wely plu, a dwyn ei gorff ddyfnder nos tros y mynydd a'i daflu i Dywi yng Nghaerfyrddin. Pan ddarganfuwyd y trosedd enynnodd llid yr hen Ficer, a bwriodd ei felltith ar Faes-y-felin:

"Melltith Duw fo ar Maes-y-felin,
Ar bob carreg a phob gwreiddyn,
Am daflu blodau tref Llanddyfri
Ar ei ben i Dywi i foddi."

Y gred gyffredin ydyw i'r felltith ddisgyn yn ôl dymuniad yr hen Ficer. Diflannodd y teulu a dirywiodd y plasty. Nid oes yn aros garreg ar garreg o Faes-y-felin.[54]|

BEDD Y GŴR A GROGWYD AR GAM. Y mae ym mynwent Trefaldwyn fedd na thyf arno na glaswellt na phlanhigion o fath yn y byd. Amgylch ogylch ceir tyfiant rhonc, a gwnaed llawer cais yn ystod y can mlynedd diwethaf i dyfu gwellt a blodau ar y bedd yntau, ond yn ofer. Yn ôl "Cymru Fu" ac amryw lyfrau eraill, yn y flwyddyn 1819 daethai i Oakfield, plasty heb fod nepell o'r dref, ddyn ieuanc o'r enw John Newton, o Sir Stafford, yn was i wraig weddw a'i merch. Oherwydd ei fedr a'i ddiwydrwydd, llwyddodd fel arolygydd y fferm, a dysgodd y teulu ei barchu ac ymddiried ynddo. Ymhen peth amser ymserchodd merch y tŷ ac yntau yn ei gilydd, a bodlonai hynny'r fam hithau. Un diwrnod ym mis Tachwedd 1821, aeth Newton ar neges i Drefaldwyn, ac ar ei daith adref, a hi yn dywyll, ymosodwyd arno gan ddau ddyn o'r enw Robert Parker a Thomas Pearce, a'i orfodi yn ôl i'r dref5 ac yno ei gyhuddo o ladrad pen-ffordd. Ar dystiolaeth y ddau ddyn hyn cafodd y llys ef yn euog, a dedfrydwyd ef i farw. Yn y llys neu ar y crocbren—ni wyddys yn sicr ym mha un o'r ddau le—taerai'r gŵr ieuanc nad oedd yn euog, a mynegi y profid ei ddiniweidrwydd gan y ffaith na thyfai glaswellt ar ei fedd am o leiaf un genhedlaeth. Ymboenodd y ddau a'i cyhuddodd am rai blynyddoedd tan gnofeydd cydwybod. Dihoenodd Parker gorff a meddwl, a lladdwyd Pearce trwy ddamwain mewn chwarel gerrig calch. Dywedai gohebydd o gymdogaeth Trefaldwyn yn y Manchester Weekly Times,—" Yr wyf wedi gweled y bedd ar wahanol dymhorau'r flwyddyn am ugain mlynedd, ac y mae bob amser yr un fath, sef heb ddim yn tyfu arno mwy nag sydd ar ganol heol, ond nid yw'r lle diffrwyth gymaint ei arwynebedd â chaead arch. Tuag wyth modfedd o led yn yr ysgwyddau, a phedair neu bump yn y pen a'r traed ydyw, a'i hyd tua phedair troedfedd a hanner."[55],

A Mr. Stanley Baldwin, Prifweinidog Prydain Fawr, yn treulio seibiant yng Ngregynog, Sir Drefaldwyn, ddiwedd Awst 1936, ymwelodd â'r bedd. Gwelsai Mr. Baldwin ef flynyddoedd yn ôl, ac yn awr craffai ar y ddaear ddiffrwyth a dywedyd wrth ei gyfeillion, "There it is, the ground is as bare as when I last saw it some years ago." Hysbysai Mr. John Davies, y clochydd, Mr. Baldwin ei fod ef ar ôl hanner can mlynedd o ofalu am y fynwent a gwylio'r bedd yn parhau i gredu bod y traddodiad yn ffaith.[56]

Ym mis Ebrill 1936, derbyniais oddi wrth Mr. Henry W. Evans? Y.H., Solfach, rai o broffwydoliaethau dewin enwog a breswyliai ym Mhenfro. Rhoddaf hwy yng ngeiriau Mr. Evans ei hun:

"Bedwar ugain neu gan mlynedd yn ôl, trigai ym mhentref bychan Caerfarchell, plwyf Dewi, Sir Benfro, un William Howell, a adnabyddid wrth yr enw 'Wiliet.' Teiliwr oedd Wiliet wrth ei grefft, ond dewin wrth natur. I'r bobl gyffredin yr oedd enwi Wiliet ar unwaith yn awgrymu bwganod, ysbrydion, drychiolaethau a chanhwyllau cyrff.

"Wele un stori foel, heb na phaent nac addurniadau, ond sydd yn wir bob gair. Cefais hi gan hen ŵr o'r enw Francis John a weithiai gyda'i dad, Billy John, saer coed yn Solfach. Un diwrnod dywedodd Wiliet yn sobr iawn wrth Francis y byddai angladd yn fuan ym mhentref Fachelich, ryw ddwy filltir o Gaerfarchell.'Chwerthin yn wawdlyd a wneuthum i,' meddai Francis. Yna meddai Wiliet,'Ti gredu hyn pan fydd dy frawd a thithau yn cario'r coffin heibio i dŷ'r Doctor ar eich ffordd i Fachelich.'

"Bu holi a dyfalu pwy a oedd yn debyg o farw'n fuan, ond gan fod pawb o'r trigolion yn iach-lawen, bron nad aeth y stori yn angof.

"O'r amryw longau bychain at gario cerrig calch a oedd ym mhorthladd Solfach, aeth un ohonynt i Aber Nolton, tua deng milltir i'r dwyrain. Angorwyd y llong, ac aeth tri o'r dwylo mewn cwch i'r lan, a threfnu dadlwytho. Wrth ddychwelyd i'r llong dymchwelwyd y cwch, a boddi'r tri. James Richards oedd un o'r tri, a dygwyd ei gorff mewn cert i'w gartref yn Fachelich. Gwnaeth Billy John yr arch, a chan fod y ffordd ymhell, trefnodd Francis a'i frawd i ddau arall eu cynorthwyo i'w chario.' Yr oeddem yn benderfynol,' meddai Francis, 'o wneud Wiliet yn gelwyddog. Trefnwyd i'r ddau a'n cynorthwyai gario'r coffìn heibio i dŷ'r Doctor, ond waeth i chi hynny na rhagor, cododd dadl ar ryw fater, ac anghofiwyd Wiliet a mynd heibio i dŷ'r Doctor, a'm brawd a minnau oedd dan y coffin.' "

RHAGFYNEGI MARW A CHLADDU'R PARCHEDIG DAVID JONES, FELIN GANOL. Yr oedd David Jones yn weinidog eglwys gref a berthyn i'r Bedyddwyr yn Felin Ganol, gerllaw Solfach, a chafodd Mr. H. W. Evans yr hanes am broffwydoliaeth Wiliet gan Mr. Samson Williams, Y.H., Solfach, yn 1928.

"Proffwydodd Wiliet y byddai farw'r Parch. David Jones ymhen ychydig wythnosau, ac aeth y broffwydoliaeth fel tân gwyllt trwy'r gymdogaeth. Un nos Sul, a Wiliet yn yr oedfa, ceryddodd Mr, Reynolds, cyd-weinidog David Jones, y dewin am daenu celwyddau a chreu pryder ym meddyliau'r trigolion. Bygythiodd ef hefyd yn gas. Atebodd Wiliet yn dawel, 'Chwi gredwch pan welwch yn gwasanaethu yn yr angladd weinidog â barf wen laes. Y mae hynny yn amhosibl,' meddai Mr. Reynolds, 'oblegid nid oes yn yr holl ardal weinidog yn cyfateb i'ch disgrifiad.' "Yn fuan clafychodd Mr. David Jones, a bu farw ym Mehefin 1849. Aeth yr angladd o'r tŷ yn Solfach am gladdfa Felin Ganol, ac ar y daith meddyliai pawb am eiriau Wiliet, ac ysbïo am y gŵr â'r farf wen, ond ni welid neb yn ateb i'r disgrifiad.

"Cyrhaeddwyd y capel, ac yn eistedd tan y pulpud yr oedd gŵr cadarn a'i farf yn wen a llaes. Clywsai'r Doctor Davies, Prifathro Coleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd, am farw David Jones, ac wynebodd y daith o dair milltir ar ddeg i'r angladd. Ar y ffordd collodd ei geffyl bedol, a'i rwystro i gyrraedd y tŷ mewn pryd, a thorrodd yntau ar draws gwlad a chyrraedd y capel o flaen yr angladd. Ef oedd gweinidog proffwydoliaeth Wiliet."

Ni pherthyn yr hanesyn a ganlyn yn uniongyrchol i Gymru, ond gan Gymro, sef Mr. John Morgan, Y.H., y cefais ef, a chafodd yntau ef gan feddyg sy'n gwasanaethu yng Nghymru. Ysgotyn yw'r Doctor A— a fu'n hir yn y Rhyfel Mawr. Yn yr un gatrawd ag ef yn Ffrainc yr oedd Ysgotyn arall a yfai ddiodydd meddwol i ormodedd weithiau. Un noswaith ar ganol yr ymyfed, a'r cyfaill tan ddylanwad y ddiod i gryn fesur, safodd ar ei draed yn sydyn a llefaru pethau chwithig ac annisgwyl. Disgrifiodd yn fanwl i'w gyfeillion erchyllterau'r brwydro mewn man arbennig ac ar adeg arbennig ar faes yr ymladd, a dywedodd y lleddid llawer, ac y byddai ef ei hun ymhlith y lladdedigion. Tybiai rhai o'r cyfeillion mai effaith y diodydd a barai iddo lefaru, eithr meddyliai eraill nad rhesymol disgwyl gan ddyn meddw lefaru mor groyw a disgrifio mor fyw, a thybient fod rhywbeth cyfrin yn gefn i'r cwbl. Bore trannoeth ni chofiai'r cyfaill na sylw na gair o'r hyn a draethodd, ac ni chofiai iddo lefaru o gwbl. Ymhen tri mis lladdwyd ef a channoedd o rai eraill mewn brwydr ofnadwy. Yr oedd adeg a man y frwydr a'i phoethder yn hollol fel y disgrifiwyd hwy noson y gloddest.

Edrydd Mr. Morgan un arall a berthyn i dras y rhai a nodwyd. Yng Nghwm Ystwyth gweithiai yn y gwaith mwyn plwm fachgen a gynorthwyai hefyd ei fam i drin tyddyn bychan. Pan ballodd y gwaith plwm, bu orfod ar y mab adael cartref am waith ym Morgannwg, a gweithiai yng nglofa Cilfynydd. Un prynhawn, a'r fam yn brysur gyda gorchwylion y tŷ, clywai lais y mab yn y drws yn galw, "Mam." Clywodd y ci yntau y llais, a'i adnabod. "Hawyr bach," meddai'r fam, "dyna Richard wedi dŵad adre' o'r Sowth, heb neb yn ei ddisgwyl." Gan yr oedai'r mab ddyfod i'r tŷ, aeth y fam i'r drws ac edrych. Nid oedd yno neb. Y munudau hynny taniodd pwll Cilfynydd, ac yr oedd Richard y mab ymhlith y cannoedd a gollwyd.

Arwyddion Tywydd: Ffawd ac Anffawd. Rhoddai'r hen Gymry goel fawr, a choel i bwrpas da yn gyffredin, ar wahanol arwyddion. Eithr erbyn hyn y maent wedi peidio â bod, neu yn hytrach nis gwelir. Nid mantais ddigymysg a ddaeth drwy'r Papurau Newydd a'r Radio. Collodd y werin drwy'r pethau hyn a'u cyffelyb lawer o'i chraffter meddwl a'i dawn i sylwi. Craffai'r hen amaethwyr bychain yn sylwgar ar arwyddion natur ac arferion creaduriaid, a threfnent eu gwaith yn ôl yr hyn a welent. Fel y dengys Cadrawd yn ei draethawd ar Lên Gwerin Morgannwg, cyn datblygu o'r glofeydd a dyfod trosodd wrth y miloedd Saeson Bryste a mannau eraill, ymhoffai'r mân feirdd mewn casglu'r coelion i driban a rhigwm a dihareb.

Yr wylan fach adnebydd,
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg ar adain wen,
O'r môr i ben y mynydd.

Fe neidia'r gath yn hoyw,
Rhwng gwynt a thywydd garw;
Hi dry'i phen-ôl tuag at y gwres,
Po nesa' byddo i fwrw.

Y fuwch fach gota (lady cow)
P'un ai glaw ai hindda?
Os daw glaw, cwymp o'm llaw:
Os daw haul, hedfana.


Niwl y gaea', arwydd eira:
Niwl y gwanwyn, gwaeth na gwenwyn.

Os glaw fydd ddydd Gŵyl Switan,
Glaw ddeugain niwrnod cyfan.

Bwa'r Drindod y bora, aml gawoda;
Bwa'r Drindod prynhawn, tegwch a gawn.

Awyr goch y bora, brithion gawoda;
Awyr goch prynhawn, tegwch a gawn.

Os cân y gog ar bren llwm,
Gwerth dy geffyl, a phryn bwn.

Mis cyn Clamai, cân y cogau;
Mis cyn hynny tyf briallu.[57]

ARWYDDION GLAW. DYDD SANT SWITHIN. Credir yn gyffredin o bydd glaw ar y pymthegfed o Orffennaf, mai glaw a geir am ddeugain niwrnod. Y traddodiad ydyw y dymunai Sant Swithin ei gladdu mewn mynwent ymhlith y bobl gyffredin, ac nid yn y gangell fel esgobion eraill. Claddwyd ef yn ôl ei ddymuniad. Eithr pan ganoneiddiwyd ef a'i wneuthur yn Sant, teimlai'r mynaich nad gweddus oedd i gorff Sant fod mewn mynwent gyffredin ac agored fel cyrff dynion o radd isel, a symudwyd y corff â rhwysg i'r gangell. Bu hyn ar Orffennaf y pymthegfed, a'r dydd hwnnw disgynnodd glaw trwm anarferol, a pharhau am ddeugain niwrnod. Derbyniwyd hyn fel arwydd o anfodlonrwydd dwyfol i'r ymyriad.

Pan oeddwn yn fachgen, yn fy hen gartref credai pawb ddysgeidiaeth y rhigymau a ganlyn:

Niwl o'r mynydd,
Gwres ar gynnydd;
Daw niwl o'r môr
 glaw yn stôr.

Bryniau Meirion sydd yn ymyl,
Cyn y bore fe geir glaw;
Cilia'r bryniau draw i'r gorwel,
Ac yfory, tes a ddaw.

Un frân ar ei hadain tros feysydd,
Yn gadael y goedwig a'i nyth,
Broffwyda'n ddi-feth am y ddrycin;
Daw curlaw, a'r gwyntoedd a chwyth.

Mawrth yn lladd, Ebrill yn llym;
Rhwng y ddau ni adewir dim.

Wele nifer o arwyddion glaw a geir drwy Gymru:—Cochni awyr ar doriad gwawr; haul y bore yn felyn gwan; yr haul yn machlud yn wan a chlafaidd; corn isaf lleuad newydd yn ymollwng; cylch am y lleuad; barrug y bore, oni phery am dridiau; gwenoliaid yn ehedeg yn isel fin nos; y gwylanod yn ehedeg i'r tir; y defaid yn tynnu i gysgod; ci yn pori glaswellt; y merlynnod yn gadael y bryniau am y dyffryn; moch yn rhochian a chario gwellt yn eu safnau; brithylliaid yn 'codi' yn aml; cathod yn chwareus; ci yn rhedeg yn ddiamcan, neu yn ceisio dal ei gynffon, yn arwydd o wynt cryf; niwl yn ymgripian o'r dyffryn i'r mynydd; sŵn y môr yn cyrraedd ymhell i'r tir. Arwyddion Tywydd Teg.

Tywyll fôr a golau fynydd
A sych waelod yr afonydd;

ond mewn rhai parthau o'r wlad,

Golau fôr a thywyll fynydd
A sych waelod yr afonydd;

yr haul yn machlud yn goch cryf a chlir; defnynnau glaw yn aros yn hir ar frigau'r coed; niwl yn dianc i lawr o'r mynydd; y defaid yn ceisio lle uchel ac amlwg i gysgu; gwylanod yn dychwelyd i'r môr; gwenoliaid yn ehedeg yn uchel; cyrn lloer newydd yn ymgodi; y bryniau yn ymddangos ymhell; os deiliai'r derw o flaen yr ynn, haf sych;

Dwy frân ar ben bore yn hedfan,
A'r nyth yn y goedwig o'u hôl;
Cymylau a gollir o'r wybren,
A gelwir pladuriau i'r ddôl.

Arwyddion Lwc ac Anlwc. O bydd haul fore'r briodas, y gŵr a fydd ben; y mae bwlch lled lydan rhwng dau ddant canol y wefus uchaf yn proffwydo llwyddiant; y mae man geni yn arwydd o oes lwcus, a gorau po uchaf y bo; daw llwydd o weled pen yr oen cyntaf a welir yn y gwanwyn; arwydd da ydyw nyth gwennol tan fargod tŷ. Pethau anlwcus ydyw y rhai a ganlyn:—Lladd brain sy'n nythu gerllaw'r tŷ; brain a fu'n nythu am flynyddoedd yn ymyl y tŷ yn ymadael ohonynt eu hunain; clywed, am y tro cyntaf, y gog yn canu â'r llogell yn wag o bres; gweld y lloer newydd trwy wydr; gwisgo gwyrdd; peth anlwcus yw glaw fore'r briodas, oblegid y wraig a fydd ben; os tyn un flewyn gwyn o'i ben daw pedwar i angladd y blewyn hwnnw; os cyffwrdd eiliau'r llygaid â'i gilydd peidier ag ymddiried yn y person hwnnw; peth anlwcus iawn ydyw i biogen groesi'r ffordd o'ch blaen—yr unig fodd i osgoi anffawd ydyw sefyll yn sydyn, gwneud croes â'r droed, a phoeri, ac yna ddywedyd:

Piogen wen, piogen ddu;
Lwc i mi—ptw. (poeri);

gweled, pan fo un ar daith, un frân yn ehedeg heibio; myned â blodau'r drain gwynion i dŷ; codi ar y ffordd neu lwybr bedol loyw ceffyl, ond y mae pedol rydlyd yn lwcus. Yn 1892, yr oedd Mr. John Morgan, Ystumtuen, sydd yn gerddor gwych, yn paratoi côr ar gyfer Eisteddfod Awst yng Nghwm Ystwyth. Un bore ar ei ffordd i Gwm Brwyno, cododd bedol rydlyd. Daeth yr eisteddfod i'w feddwl ar drawiad, ac enillodd y côr yn rhwydd. Yn 1904, wynebai Eisteddfod Ysbyty Ystwyth â chôr wedi ei ddisgyblu'n well nag arfer, ac ni allai feddwl y collai. Bore neu ddau cyn yr eisteddfod cododd bedol eilwaith, a'r tro hwn, un loyw fel arian. Daeth yr eisteddfod eto i'w feddwl, ac er ei fod yn gwbl hyderus yr enillai, colli a wnaeth. Rhydd Mr. Morgan bwys ar ei dybiaeth na chred ddim yn y pethau ofergoelus hyn; eithr dirgel gredaf yr hoffai'n fawr i'r

ail bedol hithau fod yn rhydlyd.

IX
RHEIBIO A CHONSURIO

Dywaid Marie Trevelyan yn ei llyfr a gyhoeddwyd tros ddeugain mlynedd yn ôl, iddi fethu â tharo ar reibes neu reibiwr ym Mro Morgannwg, ac na chredai fod gan neb yno ffydd mewn rheibio.[58] Nid wyf yn ddigon cyfarwydd â'r Fro i wybod ei holl ddoniau, ond petai Marie Trevelyan yn fyw yn awr, gallwn ei thywys yn y gymdogaeth hon at fwy nag un rheibes sy'n fedrus ar y grefft.

Nid yn aml y ceir dyn a fedr reibio. Cyfyngwyd y ddawn bron yn gwbl i ferched. Ni chlywais am fwy na dau reibiwr, eithr clywais am ddegau o reibesau, ac adnabûm dair. Ofnai rhai pobl y tair hynny fel yr ofnir ellyll. Credir bod gallu rheibes i ddrygu dyn ac anifail bron a bod yn ddifesur. Teifl ei hud a'i melltith ar bawb a phopeth a gwae'r sawl a'i digio. Gwelir hyn yn glir mewn hanesyn a gofnodir gan y Parchedig Elias Owen.[59] Yr oedd Beti'r Bont, Ystrad Meurig, yn rheibes nerthol ac adnabyddus, a thelid yn ddrud am bob cellwair â hi. Un pen bore cyfarfu gwas Dôl Fawr â hi, a chwerthin am ei phen gan ddiystyru ei gallu goruwchnaturiol. Craffodd Beti arno yn hir, a'i adael. Drymder nos deffrodd y gwas yn ei wely, a'i gael ei hun yn ysgyfarnog; ac er ei ddychryn gwelai ollwng arno ddau filgi mawr. Dihangodd am ei einioes, â'r milgwn yn ei ddilyn. Wedi helfa boeth tros gloddiau a thrwy eithin a drain, llwyddodd i ddychwelyd â chroen ei ddannedd i Ddôl Fawr, a'i gael ei hun ar ffurf dyn eilwaith. Trawsffurfid ef yn aml ar ôl hyn yn ysgyfarnog. O'r diwedd ymostyngodd i gydnabod gallu cyfareddol y rheibes, a thynnwyd ymaith yr hud a'r felltith.

Rhydd yr un awdur hanes diddorol am Reibesau Llanddona ym Môn. Y traddodiad ydyw, ddarfod alltudio'r rheibesau a'u teuluoedd o'u gwlad —ni wyddys pa wlad—oherwydd y dinistr a achosent trwy reibio. Gyrrwyd hwy i'r môr mewn cychod heb na hwyl na rhwyf. Glaniasant ar draeth Môn. Cododd y brodorion i'w herbyn a cheisio eu gwthio o'r tir. A hwythau ar fin marw o newyn a syched, parasant i ffynnon o ddwfr croyw darddu o'r traeth. O weled gwneuthur y fath wyrth, caniatawyd iddynt dario yn y wlad. Bu eu cynnydd yn gyflym, ac ni fuont yn hir heb ddechrau ar eu gwaith o reibio. Ymwelai’r rheibesau hyn â thai ffermydd y plwyf, ac ni feiddiai neb wrthod eu ceisiadau. O'u gwrthod a'u tramgwyddo dialent yn greulon. Wele enghraifft o'u melltithion. Traddodwyd hi ger y Ffynnon Oer ar druan a'u digiodd:

"Crwydro y byddo am oesoedd lawer;
Ac ym mhob cam, camfa;
Ym mhob camfa, codwm;
Ym mhob codwm, torri asgwrn;
Nid yr asgwrn mwyaf na'r lleiaf,
Ond asgwrn chwil corn ei wddw bob tro."[60]

Mewn llawysgrif ar "Yr Hen Amser Gynt . . . ynglŷn â Gogledd Cymru," gan John Castell Evans, Llanuwchllyn, cawn hanes peth o waith Cadi'r Witch. Cafodd J. C. Evans yr hanes tua'r flwyddyn 1861, gan John Edwards, Drws-y-Nant. Yr oedd yn byw ym mhlwyf Trawsfynydd un a elwid Cadi'r Witch. Aeth Cadi un tro i dŷ Gwen, Gelligen, i geisio llaeth. Gwrthododd Gwen hi. "Wel," meddai Cadi, "gan na chaf ddim, mi a'th wnaf yr un odia' a lyncodd laeth." Clafychodd Gwen. Galwyd gwahanol feddygon, ond nid i ddim pwrpas. Penderfynodd y mab ymgynghori â'r enwog Ddoctor Bunyan a oedd yn feddyg a chonsurwr. Hysbysodd y Doctor ef fod ei fam wedi ei rheibio. Parodd i'r mab ddwyn y fam i dyrpeg pentref Trawsfynydd, a'i gosod i eistedd ar gadair dderw â'i chefn at y drws, ac iddo yntau fyned allan ymhen ychydig funudau, ac y gwelai'r rheibes yn dynesu â baich o fawn ar ei chefn. Daeth y rheibes, a Chadi ydoedd. "Yn enw Duw, Cadi," meddai'r mab, "paham y rheibiaist fy mam? Tyrd i'r tŷ 'rŵan, a dwed, c Rhad Duw arni.' " Atebodd Cadi, "Rhad Duw rhag imi ddweud y fath beth." Eithr gorfododd y mab hi, a dywedodd y rheibes, braidd o'i hanfodd, " Rhad Duw arnat, Gwen bach." Ond oherwydd ei gorfodi, neu am suddo o'r fam yn rhy ddwfn i wendid, ni wellhaodd, ac er gorau'r Doctor Bunyan, bu farw ymhen ychydig amser.[61]

Gwelais gyfeirio rai troeon at reibesau ag iddynt nodweddion consurwyr. Yn Saesneg gelwir hwy yn White Witches. Y mae eu dibenion yn ddaionus. Geilw'r Parchedig D. Harris Williams, Bodffari, ein sylw at un ohonynt. Adroddid yn Bodffari am hen wraig ar y Waun a boenid ac a golledid yn fawr oherwydd anhwylder a thranc ei hanifeiliaid. Crwydrent y naill ar ôl y llall o gwmpas y maes fel petasai'r bendro arnynt, ac ymhen ychydig ddyddiau trengent o newyn, er bod iddynt borfa dda a dibrin. Anfonodd yr hen wraig ei merch i ymgynghori â'r White Witch a breswyliai gerllaw Castell Dinbych. Dywedodd y rheibes, " Dos adref a pheri i'th fam dynnu blewyn o bob anifail ag sy'n eiddo iddi. Yna, ganol nos, llosger y blew yn y tân, ac wrth wneuthur hynny darllener cyfran arbennig o'r Ysgrythur,—(ni chofiai Harris Williams pa gyfran)—a diogelir y gweddill o'r anifeiliaid." Gwnaeth y fam yn ôl cyfarwyddyd y rheibes, eithr anghofiodd dynnu blewyn o'r ci, a bu farw hwnnw.[62]

Yn ôl yr hanes a rydd Alexandra David-Neel am reibesau Tibet, y maent i gyd o dras y White Witch. Bodau anghyffredin o ran gallu a gwybodaeth ydynt, ac yn gweithredu er mantais cymdeithas. Eu prif waith ydyw dysgu ac egluro gwirioneddau cudd ac athrawiaethau cyfrin. Credir yn Tibet mai math arbennig o Dylwyth Teg yw'r rheibesau hyn, a gelwir hwy " Mamau." Ymddangosant ar brydiau ar ffurf hen wragedd, a chanddynt lygaid gwyrdd neu goch.[63] Fe gofir mai'r enw ar y Tylwyth Teg mewn rhannau o Ddeheudir Cymru ydyw ' Bendith y Mamau.'

Gwelir oddi wrth lyfrau Edmund Jones (1780) a William Howells (1831) fod hanes a bri rheibesau yn hen iawn yng Nghymru yn eu dyddiau hwy. Nid oes neb a wad hynafiaeth y goel. Y perygl yn awr ydyw i'r sawl sy'n anghynefin â llên gwerin dybio heneiddio ohoni gymaint nes marw ganrif neu ddwy yn ôl. Y flwyddyn ddiwethaf dywedai awdur Seisnig, a gyfrifir yn hyddysg mewn llên gwerin, fod y gred yng ngallu deifiol llygaid rheibes wedi parhau hyd gyfnod cymharol ddiweddar ym Mhrydain.[64] Efallai nad yw'r gred mewn rheibio yn ddigon byw yn Lloegr i lenorion wybod ei bod, ond yn ôl amryw arwyddion y mae'r trigolion lawn mor ofergoelus ag y buont. O droi i ganolbarth Ewrop gwelir bod y gred mewn rheibio yn parhau i ffynnu. Mor ddiweddar â Rhagfyr 1935, cyhoeddwyd yn y Daily Telegraph hanes prawf rheibes yn llys y wlad yn Vienna. Nid coel farw mohoni yng Nghymru chwaith. Nid oes raid wrth sylwadaeth graff i ganfod bod amryw reibesau, a chred gref ynddynt, mewn rhai rhannau o Gymru yn bresennol.

Tuag wyth mlynedd ar hugain yn ôl, bu farw rheibes a breswyliai am y rhan fwyaf o'i hoes mewn pentref bron ar y terfyn rhwng siroedd Aberteifi a Threfaldwyn. Un flwyddyn prynodd y rheibes hon a chymdoges iddi, bob un, fochyn bach o'r un dorraid o fferm gyfagos. Bychan ac eiddil, o'i gymharu â pharchell y rheibwraig, ydoedd eiddo'r gymdoges, a bernid mai "cydydwyn" y dorraid ydoedd. Pa fodd bynnag, tyfai'r bychan yn gyflym, ac ymhen ychydig wythnosau rhagorai ar ei frawd o ran maint a phwysau. Ymwelai'r naill wraig yn aml â pharchell y llall. Un diwrnod sylwodd y gymdoges ddyfod rhyw aflwydd ar glustiau ei mochyn hi. Nid oedd arnynt friwiau fel petasai ci neu lygod mawr wedi eu cnoi, ond newidiasent eu lliw melyngoch ac iach i dywyll ysgafn, ac yna o dywyll i ddu. Yn fuan dechreuodd y clustiau fadru a syrthio oddi wrth y pen. Bwytai'r parchell yn gampus, ac yr oedd cyn iached â chneuen, ac yn llond ei groen; eithr moel ydoedd, ac yn ymddangos y mochyn hynotaf a welwyd. Ymdaenodd y sôn am y creadur bach drwy'r ardal, a heigiai pobl i'w weled. Gwelais ef fy hun. Bu dyfalu mawr am achos diflannu'r clustiau, a'r farn gyffredin ydoedd mai gwaith y rheibes oedd ar y mochyn. Dyna'r unig esboniad rhesymol, oblegid onid oedd mochyn y rheibes o'r un dorraid, a'r llall o ran tyfiant yn ei guro? O gredu bod melltith y rheibwraig ar y mochyn, lladdwyd ef, a'i gladdu mewn gardd wrth fôn pren afalau.

Un o foddau cyffredin rheibesau o ddial ar amaethwyr am gam neu dramgwydd ydyw rheibio'r llaeth fel na ellir ci gorddi a gwneuthur ymenyn ohono. Yn 1918—mor ddiweddar â hynny-methai teulu B---n, rhwng Aberystwyth a Phonterwyd, er pob ymgais, â throi'r llaeth yn ymenyn. Er corddi'n ddyfal o fore gwyn tan nos, ni cheid yn y fuddai namyn llaeth ac ewyn. Ar ôl methu lawer tro, a digalonni, ymgynghorwyd â'r Consurwr, a chael mai'r forwyn a reibiai'r llaeth. Newidiwyd y forwyn a chollwyd y felltith.

Tystiolaeth Dau Feddyg. Y mae gennyf gyfaill o feddyg sy'n ŵr dysgedig, yn fedrus yn ei alwedigaeth, ac yn hyddysg mewn llên gwerin. Cafodd unwaith ei alw gan feddyg arall i ymweled â gwraig a oedd yn beryglus glaf mewn pentref ym mhlwyf Llanfihangel Genau'r Glyn. Cyfarfu'r ddau feddyg a gweled y claf, ac wedi ymgynghori, disgyn i'r gegin ac egluro i'r gŵr ansawdd yr afiechyd. " Wel," meddai yntau, " dyna'ch barn chwi eich dau, ond yr ydych yn cyfeiliorni. Wedi ei rheibio y mae fy mhriod. Bythefnos yn ôl cwerylodd fy ngwraig â chymdoges sy'n rheibes adnabyddus, a'i gwaith hi ydyw'r afiechyd hwn." Dyn tua hanner cant oed yw'r gŵr, ac yr wyf yn ei adnabod yn dda. Cefais dystiolaeth y ddau feddyg, a'r ddau ar wahân. Digwyddodd y cwbl ym Mawrth .1936.

Y mae yn fy meddwl un hanesyn a ddengys gryfed yw'r gred mewn rheibio yng ngogledd Ceredigion, a pharoted yw llawer o'r trigolion i feddwl am bopeth chwithig ac aneglur fel cynnyrch melltith rheibes.

A mi yn byw yn Aberystwyth yn 1924, perswadiodd cyfeillion (!) fi i brynu beic modur. Dywedent na fyddai raid imi ddim ond eistedd arno, ac yr âi â mi yn gysurus i bob man trwy'r wlad. Gwae fi imi wrando ar y giwed. Gŵyr pawb trwy hanner y sir am droeon barus y beic hwnnw. Nid oedd beic yr Athro Parry-Williams fawr gwell na chysgod fy un i. Ef oedd y creadur mwyaf anystywallt a fu ar y ffordd fawr erioed. Chwysais ddengwaith onid oeddwn yn wan wrth geisio'i gychwyn. Ar ôl cychwyn, âi yn ufudd oni welai ar y ffordd ddiadell o ddefaid neu yrr o warthcg; yna sefyll, a pheri imi ysgafnhau ei faich trwy roddi fy nhraed ar lawr. Ymhob trofa amcanai ymosod ar bob cerbyd a beic a'i cyfarfyddai, ac o'i rwystro, âi i'r clawdd a'm taflu i ffwrdd fel petaswn ysgymunbeth. Eithr prif hynodrwydd yr hen feic ydoedd mai ar y daith i Bont Goch y gwnâi ei ystranciau pennaf a mynychaf. Cyrhaeddai yno ben bore yn boeth fel ffwrn ar ôl dringo rhiwiau, ond ar derfyn y dydd nid oedd fodd i'w gychwyn adref. Ymgasglai plant y pentref a llanciau'r lluestau o'i gwmpas. Meddylid am bob cynllun i'w gychwyn—gogleisio mannau tyneraf ei gorff, rhoddi dafn o wlybwr yn ei lwnc, cic ar ôl cic. Wedi ei hir gymell dechreuai yntau gwyno a chwyrnu, ac wedyn, saethu fel ergyd o wn nes dychrynu'r defaid. I ffwrdd ag ef fel mellten.

Un tro methwyd â'i gychwyn, a cherddais i Dal-y-bont a galw yn nhŷ perthynas imi i holi am gerbyd. "Beth sy'n bod?" meddai Richard. "P'le mae'r beic?"

" Yn ffermdy Cerrig Mawr," meddwn, "methwyd â'i gychwyn." " O, mi welaf, Bont Goch eto, felly'n wir. Aros di, glywais i dy fod wedi disgyblu hen wraig y— yn ddiweddar? Ie, dyna hi,-disgyblu'r hen wraig; canlyniad, y beic yng Ngherrig Mawr. Beth arall oedd i'w ddisgwyl? Yr wyt yn credu mewn rheibio, wrth gwrs?"

"Credu mewn rheibio! Beth fedr rheibes wneud i geffyl haearn?"

"Mi wna bopeth a fyn hi, 'ngwas i. Mi all rheibes wneud pethau rhyfedd ac ofnadwy. Wedi ei reibio y mae dy feic, a gorau po gyntaf iti weld y Consurwr."

Gwerthais y beic i ddyn o Dregaron, gan wybod, os oedd dyn yn y cread a fedrai drin pob math o geffylau mai yn Nhregaron yr oedd.

Y CONSURWYR. Y mae o leiaf dair cred ynglŷn â'r consurwr. Credid unwaith yn lled gyffredinol mai person a wnaeth ryw gytundeb annynol â'r diafol oedd,—ei werthu ei hun iddo am ddawn neu fedr goruwchnaturiol. Awgrymir y gred hon yn niffiniad Brutus yn ei ysgrif ar "Ofergoelion yr Oes" yn "Brutusiana"-"Dewiniaeth, neu Gonsuriaeth, ydyw, y gelfyddyd honno, trwy yr hon yr ymhonna dynion eu bod yn gallu gwneuthur i'r ysbrydion drwg ymddangos, pan dynghedir hwynt i ufudd-dod, ac y gwneir iddynt gwblhau y gorchwylion hynny a orchymynir iddynt gan y dewin." Dysgir hefyd yr un gred gan draddodiad a geir yn Sir Gaerfyrddin ynglŷn â chladdu Dewin Cwrt-y-cadno. Dywedir am y personau a gariai gorff John Harris, y dewin, i fynwent Caio, iddynt deimlo wrth ddynesu at yr eglwys fod eu baich yn ysgafnhau nes myned mor ysgafn ag arch wag. Bernid mai'r rheswm ydoedd i'r diafol feddiannu'r corff, fel y gwnaethai eisoes â'r enaid pan werthodd y dewin ef ei hun iddo.

Cred arall, a mwy cyffredin, ydyw, y gweithreda'r consurwr yn rhinwedd gwybodaeth ddieithr a gaiff mewn hen lyfrau cyfrin na cheir monynt gan neb ond consurwyr. Trwy ddefnyddio'r f llyfrau hyn, llwydda i ddirymu cynllwynion a melltithion rheibesau ac ysbrydion drwg.

Y drydedd gred ydyw, mai etifeddu dawn a chyfryngau'r grefft oddi wrth ei hynafiaid a wna'r consurwr. Dyna'r gred am gonsurwyr Llangurig ac eraill. Edrychir ar y math hwn o gonsurwyr fel cymwynaswyr cymdeithas. Dynion hirben ydynt, a chanddynt ryw allu uwchddynol i fwrw ymaith felltithion a datguddio'r melltithwyr, ac adfer iechyd a diogelu meddiannau. Pan ddigwydd i berson aflwydd nad oes fodd i'w esbonio, megis afiechyd dieithr, neu bruddglwyf trwm, neu pan fo anap neu nychdod hir ar anifail, neu pan gollir arian a phethau gwerthfawr eraill, eir yn hyderus i ymgynghori â'r consurwr. Ac nid yn fynych y dychwel un yn siomedig.

Yn gymaint â bod dewin Cwrt-y-cadno yn un o'r rhai cryfaf a mwyaf adnabyddus a gafodd Cymru, ac i minnau fod yn gymydog i rai o'i ddisgynyddion am rai blynyddoedd, efallai y dylid rhoddi gair o'i hanes.

Ganed John Harris yng Nghwrt-y-cadno, plwyf Caio, Sir Gaerfyrddin, yn 1785. Ar ei garreg fedd y mae'r geiriau Saesneg: " John Harris, Pantcoy, Surgeon, who died May II, 1839. Aged 54 years." Yn ei oes yr oedd yn sêr-ddewin a chonsurwr heb ei fath yng Nghymru. Tynnai'r cleifion a'r adfydus ato o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd ganddo allu rhyfedd tros wallgofiaid. Yr oedd John Harris yn ddyn dysgedig a diwylliedig, a chanddo yn ei lyfrgell lyfrau Groeg a Lladin a Ffrangeg. Gadawodd ar ei ôl Lyfr Cyfarwyddiadau (prescription book) yn cynnwys tros bum cant o gyfarwyddiadau meddygol.[65] Y mae'r llyfr hwn yn ddiddorol oherwydd y dengys fod John Harris yn rhywbeth heblaw 'Dyn Hysbys.' Ymunodd ei fab Henry ag ef fel meddyg a dewin, a daeth yntau i gryn fri, eithr nid mor enwog â'i dad. Bu Henry Harris am rai blynyddoedd yn Llundain tan addysg y sêr-ddewin 'Raphael.'

Wele gopi o hysbysiad a wasgarai'r ddau Harris drwy'r wlad.

Nativities Calculated

In which are given the General Transactions of the Native through life; viz,—Description (without seeing the person), Temper, Disposition, Fortunate or Unfortunate in general pursuits; Honour, Riches, Journeys, and Voyages (Success therein, and what places best to travel to or reside in); Friends and enemies, Trade or profession best to follow, and whether fortunate in Speculations, viz.—Lottery, Dealing in Foreign Markets, &c., &c.

Of marriage, if to marry.—The Description, Temper, and Disposition of the person, from whence, rich or poor, happy or unhappy in marriage, &c., &c. Of children, whether fortunate or not &c., &c. Deduced from the Influence of the Sun and Moon, with Planetary Orbs, at the time of Birth.

Also, Judgment and General Issue, in Sickness and Diseases &c.

By Henry Harris.

All letters addressed to him or his Father, Mr. John Harris, Cwrtycadno, must be post paid or will not be recieved.1[66]

CONSURWYR LLANGURIG. Y mae ardal Llangurig, Sir Drefaldwyn, yn enwog am ei chonsurwyr ers cenedlaethau. Teithiodd miloedd o bererinion Gogledd a Deheudir Cymru am gyfnod hir trwy Langurig a thros Eisteddfa Gurig i Fynachlog Ystrad Fflur, ond gwisgwyd eu llwybrau â glaswellt gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Gwnaed llwybrau newydd gan yr anffodus ofergoelus yn ceisio ymwared gan y ' Dyn Hysbys,' ac nid oes laswellt ar eu llwybrau hwy. Y cyntaf o gonsurwyr Llangurig y cefais i ei hanes ydoedd Savage, Troed-y-lôn. Dyn deallus a mawr ei wyrthiau ydoedd hwn. Pan fu ef farw disgynnodd ei fantell ar ysgwyddau John Morgan a oedd yn briod â'i chwaer. Daeth John Morgan i gymaint bri nes ei ystyried gan amryw yn ddewin cyfartal â Harris, Cwrt-y-cadno. Bu farw John Morgan yntau er cymaint ei ddoniau, ac aeth ei gyfaredd anarferol yn eiddo perthynas arall, sef Evan Griffiths, Pant-y-benni, y sydd tua dwy fìlltir i'r deau o Langurig. Ychydig tros ddwy flynedd yn ôl, bu farw gŵr Pant-y-benni hefyd, a disgynnodd ei fantell ar nai iddo a breswylia yn awr ym Mhonterwyd. Clywais fod y consurwr newydd yn mawrhau ei swydd, a'i fod mor brysur a llwyddiannus ag y bu ei ewythr.

Y WRAIG HYSBYS. Dywaid y Doctor William Howells glywed ohono am Wraig Hysbys a breswyliai yn un o bentrefi Sir Benfro, a rhydd hanesyn digon cyffredin yn enghraifft o'i gweithredoedd 6 anghyffredin.' Bu bachgen difeddwl a direidus yn lladrata afalau o ardd yr hen wraig. Gwybu hithau fel Gwraig Hysbys am y trosedd, a pheri i felltith ddisgyn arno. Aeth y bachgen yn afiach a nychlyd. Dychwelodd y fam weddill y ffrwythau na fwytasid, a gofyn am faddeuant. Tynnwyd ymaith y felltith, a gwellhaodd y bachgen.[67] Dyma'r unig enghraifft a welais o Wraig Hysbys, ac un wan ydyw hon, oblegid y mae'r wraig yn fwy o reibes na dim arall. Dynion yn unig sydd yn consurio.

Ymgynghori â'r Consurwr. Y mae hanner can mlynedd, mi wn, er pan fu Morgan a Lisa Evans, Pen-y-cae, Taliesin, mewn helbul ynglŷn â'r llo. Cadwent fuwch neu ddwy, a daeth llo bach i sirioli eu bywyd. Disgwylient bethau mawr oddi wrth y llo, ac am beth amser gwnaeth yntau yr hyn a allai i "ddŵad ymlaen," eithr yn sydyn clafychodd. Gwrthodai bob math o ymborth, a nychu a cholli ei ddireidi. Galwyd Mr. Hughes, y drygist, Tal-y-bont, i'w weled. "Wel," meddai Mr. Hughes, " y mae rhywbeth rhyfedd ar y llo bach, druan. A welsoch chi ryw arwydd ei fod mewn poene?" Atebwyd na welwyd arwyddion o hynny. " Dyna own i'n dybio—dim poene. Y mae e'n fwy llesg a digalon na dim arall. Piti garw na fuasai infflamesion arno, mi rhown e ar 'i drad i chi mewn dim amser." Yr oedd Mr. Hughes yn adnabyddus drwy'r wlad am ei fedr i drin infflamesion ar ddyn ac anifail, a bu ei wasanaeth yn fendith ddegau o weithiau i'r werin dlawd na fedrai dalu am feddyg o'r dref. "Ie, piti mawr; ond mi treiwn hi," meddai Mr. Hughes. " Rhowch iddo'n gyson y moddion a anfonaf i chi3 a mi gawn weld." Dal yn wael a wnâi'r llo er pob gofal a moddion. Ymhen wythnos, meddai Lisa wrth Morgan, " Ewch, da chi, i Langurig, ne' ma'r llo yn siŵr o drigo. Ma' rhyw afiechyd diarth arno, a 'does neb a fedr ei wella os na wna'r Consurwr; mi glywsoch Mr. Hughes yn dweud 'i fod e'n ddigalon." Aed i Langurig a chael ddarfod rheibio'r llo. "Min nos drennydd," meddai'r Consurwr, "ewch â'r llô i'r ffordd fawr a throi ei ben i'r dwyrain, a phan êl heibio berson arbennig fe rydd y llo fref fawr. Y person hwnnw a'i rheibiodd. Cyferchwch y dyn, ac fe sieryd yntau â'r llo a thynnu ymaith y felltith." Brefodd y llo ei fref fawr, a phwy a ddigwyddodd fyned heibio ar y pryd ond Evan Jenkins, a elwid 'Byrgoes' am ei fod yn fychan o gorffolaeth. Cafodd ' Byrgoes ' y gair byth wedyn ei fod yn rheibiwr.

COLLI ARIAN. Y mae pentref bychan o hanner cant neu drigain o dai, a enwogwyd yn Niwygiad 1859, hanner y ffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth. Pentref tipyn yn ddilewyrch ydyw, heb fod ynddo ddigon o bwysigrwydd i gynnwys llythyrdy. Y mae ynddo lythyrgist, a chesglir y llythyrau o honno gan lythyrgludydd a'u dwyn i Fachynlleth. Y mae gan y llythyrgludydd awdurdod i gofrestru llythyrau a rhoddi dangoseg amdanynt. Yn 1920, anfonodd gwraig a gadwai siop fach yn y pentref lythyr â phum nodyn punt ynddo wedi ei gofrestru gan y llythyrgludydd, ond esgeulusodd geisio dangoseg, ac ni feddyliodd fwy am y peth. Ymhen mis daeth gofyn eilwaith o'r ffyrm am yr arian. Eglurodd y wraig iddi eu hanfon fis yn ôl. Eithr ni chafodd y ffyrm hwy, ac nid oedd ganddi hithau ddim i brofi iddi eu talu. Rhoddwyd y mater i ofal awdurdodau'r Llythyrdy, a bu chwilio mawr a dyfal, ond yn ofer. Wedi methu o bawb, nid oedd yn aros onid troi'r wyneb i Langurig. Ni pharodd ymweliad y wraig â'r Consurwr y syndod lleiaf iddo, ond yn hytrach ymddangosai fel petai yn ei disgwyl. Yr oedd popeth yn eglur a syml iddo ef, a hysbysodd hi yn ddiymdroi fod yr arian ym meddiant rhyw 'gythgam ' o ddyn a ystyrid yn onest a diniwed, ac y gallai ef ei enwi oni bai am gyfraith y wlad. Parodd iddi beidio â phryderu dim ymhellach ynglŷn â'r arian, a sicrhaodd hi y deuent i'w thŷ ymhen ychydig ddyddiau. Yn fuan wedyn, a'r wraig yn tynnu'r llwch oddi ar fantell y simnai—tynasai'r llwch droeon er adeg colli'r arian—cafodd y llythyr heb ei agor, a'r nodau i gyd ynddo, wedi ei osod y tu ôl i lestr a oedd yn addurn ar y fantell. Y mae'r holl bethau hyn yn hysbys i'r pentrefwyr oll, ac fe'u credir ganddynt. Cefais yr hanes o enau'r wraig a gollodd yr arian ac a ymwelodd â'r Consurwr.

Adroddai Mr. James Lewis, Portland Street, Aberystwyth, wrthyf am wraig a breswyliai yn Llanbadarn Fawr yn 1921, ac a gadwai fuwch neu ddwy. Ymhlith holl wartheg y sir rhagorai ei buwch hi am laetha. Cystal ydoedd ym mhob ystyr ag y gallai ei pherchen, pes mynnai, ei gwerthu i unrhyw amaethwr yn y plwyf am bris uchel. Eithr yn sydyn ataliwyd llaeth y fuwch yn llwyr, ac er ceisio'i godro ddydd ar ôl dydd, ofer oedd y cais. Ymborthai fel arfer, ac nid oedd arwydd o unrhyw nychdod arni, ond ni cheid llaeth. Ar ôl pryderu yn hir mynegodd y wraig ei gofid i gymdoges, a chynghorodd hithau hi i ymgynghori â'r Consurwr. Aeth y wraig i Langurig a gweled y dyn hysbys. Ar ôl cael y neges a holi peth ar y wraig, dywedodd y Consurwr yn bendant fod y fuwch wedi ei rheibio. "Y mae yn yr ardal amaethwr a roddodd ei fryd ar y fuwch," meddai. "Oes y mae," meddai hithau, " ac y mae wedi crefu arnaf droeon ei gwerthu iddo." "Wel," meddai yntau, "gwaith y dyn hwnnw—nid rheibes y tro hwn—sydd ar y fuwch. Nid wyf yn bwrw ei fod yn ddyn drwg, a gall fod y gorau yn y wlad, ond y mae wedi gosod ei fryd ar y fuwch i'r fath fesur onid effeithiodd ei feddwl arni. Ewch adref a chewch y fuwch fel arfer, yn iach ac yn llaetha." Bore trannoeth cafwyd cyflawnder o laeth fel cynt. Y mae'r wraig yn fyw yn awr, a'r fuwch hithau, cyn belled ag y gwn i.

CONSURWYR SIR FFLINT. Anfonwyd imi'r hanes a ganlyn gan Mr. Lewis Hughes, Henblas, Meliden.

" Y mae plwyf Ysgeifiog yn enwog ers tro byd am ei ' Ddynion Hysbys', ac y mae yno un yn awr. Wele enghraifft o waith dyn hysbys a fu farw yn 1936:

"Aeth nith iddo ato a chwyno y methai yn ei byw â gweithio llaeth yn ymenyn. Parodd yntau i'r corddiad nesaf fod am hanner awr wedi un ar ddeg ar ddydd arbennig, ac y byddai ef yno tua chanol dydd. Daeth y dydd. Edrychodd y dyn hysbys yn graffus i bob rhan o'r ystafell, ac yna gorchymyn yn awdurdodol atal y corddi am ychydig. Trodd yn hamddenol a defosiynol ac edrych i'r gogledd a'r dwyrain, i'r deau a'r gorllewin, a syllu yn hir megis i'r gwagle pell. Parodd wedi hyn godi caead y fuddai, a gofyn am gyllell fwrdd. Craffodd ar y llaeth, a thorri ynddo â'r gyllell lun croes. Am beth amser bu'n mwmian rhyw ddewiniaeth wrtho'i hun. Yna gorchymyn ailgychwyn y corddi. Daeth yr ymenyn yn ddiatreg, ac ni chafwyd trafferth mwy.

"Y mae un yn byw yn awr yn yr un plwyf a gyfrifir yn Ddyn Hysbys. Wele enghraifft o'i waith yntau: Yn Chwefror 1930, yr oedd amaethwr mewn cryn ddryswch a phryder oherwydd colli ei ddefaid, ac aeth at y Consurwr, a mynegi ei gwyn. Eglurodd y trengai nifer o'i ddefaid yn ddyddiol heb arnynt arwydd unrhyw lesgedd. Trefnwyd adeg i'r Dyn Hysbys ymweled â'r tyddyn. Wedi cyrraedd, parodd i'r amaethwr ei arwain i fan y tybiai ef ei fod tua chanol ei dir, ac yno penderfynodd ar y pedwar pwynt, a phlannu ei ffon yn y ddaear. Gwnaeth gylch o ryw bum llath ar hugain ar draws. Safodd am eiliad ar bob un o'r pedwar pwynt, ac edrych yn synllyd i'r gwagle. Yna taflodd allan ei law fel petai'n gwthio rhyw aflwydd i ffwrdd. Gwnâi y cwbl mewn distawrwydd ac â defosiwn mawr. Symudodd y Consurwr y felltith o'r tir, ac ni threngodd defaid mwyach."

X
SWYNION (CHARMS)

Yn ôl yr ymchwil a wnaed i hanes chwedlau a hen goelion y deyrnas hon, ceir bod eu gwraidd yn ôl ymhell yn y Dwyrain. O'r Dwyrain y daeth inni lawer o'n pethau gorau a salaf. Methu a wnawn o gredu bod elfennau'r coelion yn seiliedig ar syniadau a berthynai yn neilltuol i un bobl neu genedl. Tyfasant o syniadau a oedd yn gyffredin i bobl ar ris isaf gwybodaeth a diwylliant ym mhobman drwy'r byd. Mewn llawer o storïau llên gwerin ceir amryw bethau a ymddengys inni yn amhosibl ac yn chwerthinllyd o wrthun, ond ni ddylid synnu at y pethau hynny, eithr yn hytrach gofio iddynt darddu o gyflwr meddwl a oedd â'r dychymyg yn anhraethol gryfach na'r rheswm. Dywaid Syr George Webbe Dasent mai o'r un ddaear y tyfodd llawer o storïau y wlad hon â rhai holl genhedloedd Ewrop. " Daethom ni, pobl y Gorllewin," meddai, "o'r Dwyrain. Yr ydym o'r un gwreiddyn."[68] Wrth ymdrin â swynion yn y bennod hon rhaid bwrw golwg ar amryw bethau plentynnaidd, a rhai pethau a bair friw i deimlad a rheswm y sawl a fo'n orlednais a mindlws. Purion peth i hwnnw fyddai cofio nad meddwl y Cymro yn unig yw daear eu gwraidd. Dysg Mrs. David-Neel mai rhan fawr o grefft a dyletswydd holl Lamas—offeiriaid neu ddewiniaid—Tibet ydyw defnyddio swynion. Argreffir y rhai hyn ar bapur neu frethyn, a rhoddir neu gwerthir hwy i'r diben o sicrhau iechyd a nerth, i ochel damweiniau, ac i wrthweithio effeithiau ysbrydion drwg ac ysbeilwyr a phowdr gwn.[69]

O sylwi'n fanwl gwelir na fu newid mawr yng nghwrs yr oesoedd mewn ofergoelion. Ceir cannoedd o filoedd ym Mhrydain heddiw sy'n llawn mor ofergoelus â'n hynafiaid. Y mae'n wir nad yw'r sawl a gred yng nghyfaredd pedol ceffyl, ac a'i gesyd ar ddrws ystabl neu ar ddrws cefn ei dŷ, mor hysbys yng nghyfrinion natur y swyn â'i hendaid, a'i defnyddiai i gadw draw ysbrydion drwg, ond defnyddir hi i'r un pwrpas heb wybod paham. Arferir yn awr ddefodau gan filoedd na feddant y gradd lleiaf o wybodaeth am eu cychwyn a'u hanes. Ni wyddant fel yr hen bobl hanes y swynion, ond credant fel hwythau yn eu heffeithiolrwydd. O gyfrif rhagoriaeth i'r naill neu i'r llall, y mae'n amlwg mai'r hynafiaid a'i piau.

Cyn belled ag y gwelaf fi, nid yw pobl yr oes hon fymryn yn llai ofergoelus na phobl canrif yn ôl. Ychydig tros ddeuddeng mlynedd yn ôl, a mi yn trefnu i annerch Cymrodorion Aberafan ar lên gwerin, anfonodd yr ysgrifennydd, a oedd â chanddo radd y Brifysgol, i'm hysbysu nad oedd yno neb ofergoelus. Ond y peth cyntaf a welais pan gyrhaeddais y lle ydoedd procer wedi ei osod ar draws y tân i ffurfio croes, i'r diben o'i achub rhag melltith y diafol. Tua'r un adeg, a mi yn nhref ysgolheigaidd Aberystwyth yn ymweled â gwraig glaf a oedd yn byw yn un o dai mwyaf y Marine Terrace, arweiniwyd fi i ystafell y fam gan y ferch. Holais y claf am ei hiechyd. "O," meddai, "yr wyf gryn lawer yn well." "Mother, mother!" meddai'r ferch mewn dychryn, a chydio mewn clwff o bren oddi ar fwrdd crwn a oedd gerllaw'r gwely, a'i wthio i law denau'r fam. "Beth yw hyn yna da?" gofynnais. "Touch Wood" meddai. Cefais enghraifft dda o le annisgwyl ym Medi 1931. Gwelais weinidog yn myned i'w gyhoeddiad mewn cerbyd modur. Ar drwyn y modur yr oedd wedi ei osod yn ofalus a diogel y creadur bach hyllaf a welais erioed—bod bach crwca ag wyneb epa, a'i gorff afluniaidd o flew melynllwyd tebyg i flew arth oedrannus. "Beth yw diben hwn?" gofynnais. "Mascot" peth i gadw aflwydd draw," meddai'r 'hoelen wyth.' Gŵr Duw â'i ffydd yn nawdd corffyn hanner epa! Na, ni fu newid namyn newid gwrthrychau'r credu. Gwyddai'r barbariaid yn y goedwig achos ac effaith y ddefod o guro pren. Eithr ni wyddai merch ddysgedig a chrefyddol y "Touch Wood" ddim o'r hanes. Felly gŵr y modur yntau. Er hynny, credai'r ddau yng ngallu goruwchddynol y defodau.

Efallai mai'r swynion rhyfeddaf sy'n bod yw'r rheini a gafwyd gan y Consurwyr. Y mae iaith pob un ohonynt yn gymysgfa o Saesneg ac ieithoedd eraill. Ni welais un yn Gymraeg. Ni welais chwaith fwy na dau mewn argraff, ac y mae un o'r ddau yn anghywir. Myn y sawl a gred yn eu cyfaredd mai trysorau i'w cuddio ydynt. Rhoddaf yma rai o'r swynion a gefais mewn llawysgrifau, ond ni cheisiaf drosi'r un i'r Gymraeg. Pwy a ŵyr beth fyddai'r canlyniad o wneuthur hynny?

HELYNT LLANGURIG (MALDWYN). Y mae yng ngallu consurwr rwystro person i daflu hud a melltith ar arall, ac i'r diben hwnnw rhydd un o'i swynion. A mi yn byw yn Llanidloes yn 1910, gofalwn am eglwys sydd rhwng y mynyddoedd tua dwy filltir o gartref y consurwr. Preswyliai yn y pentref hen ŵr a hen wraig, a elwir yma yn L. ac N., rhag peri tramgwydd i berthynasau sydd eto'n fyw. Yr oedd y ddau mewn gwth o oedran— wedi "cyrraedd yr addewid"—pan briodasant ychydig flynyddoedd ynghynt. Trigent yn hapus mewn bwthyn clyd a berthynai i'r hen wraig cyn priodi L. Eithr yn sydyn ymwahanasant a pheri syndod i bawb. Ni ŵyr neb hyd heddiw am un rheswm tros yr ymwahanu, a chredaf na wyddai'r hen bobl eu hunain am reswm; un o droeon anesboniadwy henaint ydoedd. Un nos Fercher, wedi oedfa yn y capel, disgwyliai L. amdanaf ar y ffordd gyferbyn â'r drws. Dechreuodd adrodd ei gŵyn a gofyn am gyfarwyddyd. Cymhellais ef a dau o'r blaenoriaid i'r capel. Yr oedd y ddau flaenor yn amaethwyr o safle da, ac yn rhagori ar bawb yn y plwyf o ran gwybodaeth a barn.

"Y mae'n ddrwg gennyf am eich helynt, Mr L.," meddwn wrth yr hen ŵr. "Pa fodd y bu hi—a gafodd yr hen wraig a chwithau gweryl?" "Naddo," meddai, " ni fu erioed air croes rhyngom. Fel hyn y bu. Nos Fawrth wythnos i'r diwetha', pan ddychwelais i'r tŷ o dro yn y pentre', cefais fy nillad yn becyn ar y bwrdd, a'r wraig yn dweud nad oedd imi lety yno mwyach, a bod yn rhaid imi ymadael ar unwaith. Dyna'r cwbl, ac yn awr darllenwch y llythyr hwn." Darllenais y llythyr, ond ni ddeuai imi ar y pryd fawr ddim synnwyr ohono.

"Ni fedr neb wneud synnwyr o hwn, L.," meddwn.

"Medr, medr, unrhyw 'sglaig," meddai yntau.

"Ym mha le y cawsoch ef?"

"Yn y pecyn dillad."

Edrychais ar y ddau flaenor a gofyn am eglurhad. Atebasant mai llythyr a gafodd yr hen wraig gan y Consurwr ydoedd, i'w roddi i L., a thra byddai'r llythyr ym meddiant yr hen ŵr ni allai byth ddial ar yr hen wraig trwy fwrw melltith arni.

"Yn awr," meddai L., "beth sydd i'w wneud â'r llythyr?"

"Llosger ef," meddwn.

"Dyna'r gair a ddisgwyliwn o'ch genau," meddai, "ond pwy a'i llysg?"

"Llosgwch chwi ef."

"Ddyn byw! Na wnaf er dim a welais, oblegid os dinistriaf ef, fe ddisgyn arnaf bob math o felltithion."

Gofynnais i'r ddau flaenor a losgent hwy ef, eithr ni chafwyd ateb namyn ysgwyd pen. Ni fynnent hwythau mo'r byd am ei ddinistrio gan gymaint eu hofn. Euthum â'r tri i dŷ'r capel, ac wedi gwneuthur copi o'r llythyr, llosgais ef. Ochneidiodd yr hen ŵr L. ochenaid fawr a dywedyd, "Diolch i Dduw am hyn'na." Y mae saith mlynedd ar hugain er y noson honno, ac ni ddisgynnodd arnaf am losgi'r llythyr felltithion gwaeth nag a ddisgyn ar weinidogion yn gyffredin. Wele gopi o'r llythyr.

"In the name of the Father χ and of the Son χ and of the Holy Ghost χ Amen χ and in the name of the Lord Jesus Christ χ my Redeemer χ I give thee protection χ and will give relief to thy creatures χ thy cows χ calves χ horses χ sheep χ pigs χ and from all creatures that alive be in thy possession χ from all witchraft and from all other assaults of Satan Amen χχχ

Trwy gynhorthwy caredig Mr. Gildas Tibbott, M.A., un o swyddogion y Llyfrgell Genedlaethol, codais y swynion a ganlyn o hen Lawysgrifau.

i. Swyn a gafwyd yng Nglynceiriog.[70]

Bernir ei wneuthur tua 1800.

"I who am the servt of the Highest do by virtue of his Holy name Immanuel sanctify unto myself the circumferance of One mile round about me χχχ from the east Glanrah from the west Garran from the north Caban from the South Berith which ground I take for my proper defence from all malignant spirits witchcraft & inchantments that they may have no power over my soul or body nor come byond these limitations nor dare to transgress their bounds Warrh, warrah hare at Qambalan χχχ.

Nodyn. Mr. C. B. C. Storey a roes y swyn uchod yn anrheg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Medi, 1930. Dywaid ef, "On the partial demolition of Gelli Bach, Glyn Ceiriog, the paper of which the above is a transcript, was found inside a child's stocking, made into a long mitten, wrapped in a piece of printed material, and placed under the main beam of this old farm house, which has been disused for over fifty years."

ii. Swyn o Feirionnydd.

Dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

"In the name of the Father and of the Son and of the Holy Ghost Amen χχχ and in the name of the Lord Jesus Christ thy redeemer and Saviour he will deliver Thomas Thomas & his family & every living Creatur under his possession on his farm big & small from witchcraft & from all evil diseases whatsoever Amen χχχ Gasper fert Myrrham, thus Melchor balthasar auraum .... nomine regum Salvatur amarbo Christ pieate (Caduco) Amen χχχ . . . Amatharan (dicunt) pasetes Sarah a Indus arti Tabalis Amen χχχ Eructavit Carmeaum . . .(Cum) Carrum dicam cuncta opera mea regi domine labia mea averies . . . (av) oe . . malam anuntalicet veritatur cantere . . . inigeni rei . . . maliena Subseritatur O lord Jesus Christ . . . Salvatus he hereth the preserver of Thomas Thomas his stoch big and smafl Cattle that is on his farm from all Witchcraft & from all Evil men & Women or Spirits or Wizerds or hardness of hart Amen χχχ & this I trust in the lord Jesus Christ thy redeemer & Saviour from all Witchcraft & this ye trust in jesus Christ to releive Thomas Thomas his Cattle Horses Sheep pigs poultry Every creatur on the farm from all

—————————————

—————————————

Witchcraft by the Same apower as he ded Cause the blind to see the lame to walk & the dum to talk & that thou findest with unclean as ( . . ) aran Amen χχχ the witch compased them about but in the name of the lord he will Destroy them pater pater pater noster noster noster ave ave ave maria creed caro . . . χ on χ adonay χ tetrogrammaton & in the name of the holi trinity & of . . it preserve all the Stock of the bearer from all that wrath."[71]

'iii. O Lanerfyl, Sir Drefaldwyn

Swyn Saesneg a gafwyd yn Sir Drefaldwyn yw hwn, ac yn perthyn i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafwyd hwn ac un arall wedi eu rholio ynghyd mewn potel fechan a oedd wedi ei chorcio a'i selio. Rhaid fu torri'r botel i'r diben o'u dadrolio. Pan agorwyd y swyn hwn, yr oedd wedi pylu gan leithder. Darllen fel hyn:

"O Lord Jesus Christ I beseech thee to preserve me Edward Jones my horses cows calves pigs sheeps and Every living creatures that I possess from the power of all Evil men women Spirits or wizards or hardness of heart and this I will trust thou will do by the same power as thou didst cause the blind to see the lame to walk and they that were possessed with Unclean Spirits to be in their own Minds Amen.

χχχ Pater Pater Pater Noster Noster Noster Ave Ave Ave Maries χ Jesus χ Christus χ Messyas χ

Emmanuel χ Soter χ Sabaoth χ Elohim χ on χ Adonay χ Tetragrammaton χ Agla χ Unigenius χ Majestas χ Paracletus χ Salvator χ Noster Agnosyskyros χ adonatus χ Jasper χ Melchor χ Balthasar χ Matheus χ Marcus χ Lucas χ Johamas (sic) Amen χχχ and by the power of our Lord Jesus Christ and his Hevenly angels being our Redeemer and Saviour from all Witchcraft and from assaults of the devil Amen. Gabriel [hieroglyphics] Michael [hieroglyphics] In the name of God [Amen. This is] a fight against the wiles of the [Devil] χχχP

Ychwanega'r Parchedig T. W. James, Rheithor Llanerfyl, y nodyn a ganlyn: "Mrs. Mary Jones of Rhosgall, in this parish, died the other day and her executor asked me if I would help him to go through her papers. In one of her private drawers we found a small round bottle, about the length and thickness of my finger. It was corked and sealed. We saw that it contained two rolls of paper. Had to break the bottle.

William Jones (mentioned in the Charm) was the husband of Mary Jones. He lived at Rhosgall, and died in his 71 year, in 1890."[72]

iv. Pont-ar-Fynachy neu Pont-y-gwr-drwg Ceredigion.

Cafwyd y Swyn hwn mewn hen ffermdy o'r enw Gwarthrhos, yn ardal Pont-ar-Fynach, gan y Parchedig E. M. Davies, ficer Llandysul, Sir Aberteifi, pan oedd ef yn gurad Eglwysnewydd, ac anfonodd ef i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1926.

"In the name of the Father and of the Son and the Holy gost Amen χχχ and in the name of the Lord Jesus Christ the redeemer and saviour he will relieve Richard Davies Gwarrhas his mare that is bad now from all witchcraft and all evil diseases Amen χχχ Gasper fert myrrham thus melchior balthasar auraum nomine Christi qui regum salvatur amarbo a Christ . . . caduco Amen χχχ . . .Amathuram dicunt pasitis Sarah adversus arti Tabalis Amen χχχ Eructavit Carmaaum in noctium vanum dicam cuncta opera mea regi Amen labis mea pones audas meum anuntiabit vertatem cum trebracnia iniquret lingua malingua subvertatur a Lord Jesus Christ lannan in salvatur he hereth the preserver of Richard Davies Gwar Rnais his mare that is bad now from all witchcraft and evil men or women or spirits or wizards or hardness of hart Amen χχχ and this I will trust in the Lord Jesus Christ thy redeemer and saviour from witchcraft Amen χχχ and this I trust in Jesus Christ my redeemer and saviour he will relive Richard Davies Gwar Rnais his mare that is bad now from all witchcraft by the same power as he did cause the blind to see the lame to walk and the dum to talk and that thou findest with unclean spirits . . . aran amen χχχ the witch compased them about but the Lord will destroy them all pater pater pater master master master

{{Quote|

ave ave ave maria creed . . . χ an χ adony χ tetragammaton amen χχχ and in the name of the holy trinity and of . . . it preserve all above named from all evil diseases whatsoever Amen χ;."[73]

CWPAN SANTAIDD NANTEOS. Perthyn i'r phiol hwn rinwedd cyfareddol a'i gesyd yn nosbarth y Swynion. Ni chlywais y credwyd gan neb yn ei allu i gadw draw ysbrydion drwg, gweledig nac anweledig, ond credid yn lled gyffredinol ar hyd yr oesoedd yn ei effeithiolrwydd i edfryd iechyd corff a meddwl.

Y mae'r Cwpan o bren tywyll—bron a bod yn ddu—a thybir ei wneuthur o bren Croes yr Arglwydd Iesu. Daw'r hanes cyntaf amdano o Fynachlog Ystrad Fflur; yno y trysorid ac y defnyddid ef fel crair santaidd gan y mynaich. Saif y Fynachlog ar ran o ystâd Tregaron. Pan ddinistriwyd hi gan Harri VIII, rhoddwyd hi a'r tir a berthynai iddi i ryw Ddug o Arabia a ddaeth i'r wlad o Balestina. Oddi wrtho ef aeth i feddiant un o'r enw Steadman, ac yna i Boweliaid Nanteos, y sydd gerllaw Aberystwyth.

Credid yn lled gyffredin unwaith mai o'r Cwpan hwn yr yfodd yr Arglwydd Iesu yn y Swper Olaf, ac mai ef ydoedd nod ymchwil fawr Marchogion Arthur. Hyd o fewn ychydig flynyddoedd yn ôl arferai cleifion o bob rhan o'r deyrnas, ac weithiau o Ewrop, geisio bendith y Cwpan.

Y mae'r phiol, sydd wedi ei amharu trwy draul

—————————————

—————————————

a cham, yn Nanteos o hyd, a dywaid Mr. Ceredig Davies i Mrs. Powell ddangos iddo, yn 1911, lythyr a dderbyniasai yn ddiweddar oddi wrth foneddiges bendefigaidd yn Ffrainc yn erfyn arni anfon cadach wedi ei rwymo am y Cwpan am bedair awr ar hugain.[74]

TOUCH WOOD. A barnu oddi wrth fynyched yr arferir y swyn hwn yn nosbarthiadau uchaf a chanol cymdeithas, y mae'n rhaid bod ei rinwedd yn anarferol fawr. Ei bwrpas ydyw gochel pob math ar aflwydd. Gwnaed sylw eisoes o'r foneddiges yn Aberystwyth a wthiai glwff o bren i law ei mam glaf, ac na wyddai paham y gwthiai bren yn hytrach na rhywbeth arall. Mewn llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ceir hanes milwr o Ganada yng ngwersyll Kinmel yn 1919, â pheg bach dillad yn ei logell. Cariodd ef drwy'r Rhyfel Mawr i bwrpas "Touch Wood."[75]

Y mae hanes y ddefod fel hyn. Ymhell bell yn ôl ym more'r oesoedd, credai anwariaid fod eu duwiau ac ysbrydion goruwchnaturiol eraill yn eiddigeddus o bob llwyddiant a mwyniant dynol, ac y drygent y sawl a amlygai lawenydd. Felly, gwnâi pawb a fedrent i guddio dedwyddwch a llonder rhag y bodau hyn. Mewn cabanau coed y preswyliai'r trigolion, a phan ddawnsient a llawenhau, curent barwydydd y caban i foddi sŵn eu miri.[76]

LLADD YR ECO. Yn 1936, ysgrifennodd Mr. Peter Lewis lythyr i'r " Western Mail " ynglŷn â darganfod pedwar pen ceffyl a gafwyd tan seiliau hen ffermdy yn Sir Drefaldwyn. Yn fuan wedyn ysgrifennodd y llenor a'r hynafiaethydd Mr. H. W. Evans, Y.H., Solfach, Sir Benfro, i egluro ddarfod i'r Methodistiaid Calfinaidd adeiladu capel yn nhreflan Caerfarchell, gerllaw Tyddewi, yn 1763, a chael bod ynddo eco a wnâi addoli yn anodd. Felly, yn 1827, aed ati i adeiladu capel arall ar dir y cyntaf, a phenderfynu ' lladd yr eco' trwy osod pennau ceffylau yn ei sylfeini. Penodwyd yr hen Willie Lewis, morwr, ac aelod ffyddlon o'r eglwys, i chwilio am ddau ben ceffyl. Yn ffodus cafodd yntau bedwar. Claddwyd hwy yn y sylfeini, ac yno y maent heddiw. Ni ddywaid Mr. Evans beth a ddaeth o'r eco.

RHINWEDD PEDOL CEFFYL FEL SWYN. Hoelir pedolau ceffylau ar ddrysau tai, ac yn arbennig ar ddrysau ystablau a beudai, i atal dialedd cythraul a melltith rheibes. Efallai nad oes gan y mwyafrif o'r rhai a gred yn awr mewn hen bedolau gwrthodedig gan geffylau, ddim gwell yn sail i'w cred na syniad annelwig y parant iddynt ffawd dda. Eithr ymhellach yn ôl edrychid arnynt fel amddiffyn effeithiol rhag ysbrydion drwg a swyngyfaredd, ac yn ôl wedyn—yn y tarddiad—yr oedd gosod y bedol ar ddrws yn weithred o ddefosiwn crefyddol. Gwisgai'r dduwies Aifftaidd Isis benwisg ar ffurf pedol ceffyl, ac o'r Aifft y cychwynnodd y ddefod, a chyrraedd gwahanol wledydd y byd. Yr un pwrpas sydd i'r bedol ym mhob rhan o'r ddaear.[77]

Pren Criafol. Ystyrid yn yr hen oesoedd fod rhyw gyfaredd gysegredig yn y pren hwn. Y mae ei nodweddion yn amryw a gwerthfawr. Nid yw'n hawdd ei ddifa. Y mae'n farwol i bryf coed. Ni thrig ellyll neu ysbryd drwg ar ei gyfyl. Ofna rheibesau ef, a gwna'n ddieffaith holl gynllwynion y Tylwyth Teg. Y mae'n drech na phob swyngyfaredd, ac ni ddaw niwed i'r sawl a geidw frigyn ohono ar ei berson. Credid gynt mai o'r pren hwn y gwnaed y Groes, ac mai hyn a barai i'w ffrwyth fod fel defnynnau gwaed. Peth cyffredin yw gweled hen bren criafol unig gerllaw murddun sy'n furddun ers cenedlaethau, a hawdd yw taro arno yng ngerddi tai diarffordd a hen bentrefi bychain trwy'r wlad. Nid af i ardd fy llety heb orfod plygu tan ddau bren criafol a dyf ar ffurf bwa, a gwelaf ar un edrychiad brennau o'r un math mewn tair o erddi eraill. Methais â chael gan y pentrefwyr reswm tros goleddu'r pren, ond yn unig mai " peth lwcus yw pren criafol."

ATAL GWAED O ARCHOLL A SWYNO DAFADENNAU. Ceir drwy Gymru, yma a thraw, bersonau â'r ddawn ddieithr ac anesboniadwy i atal gwaed a symud y mân ddefaid a dyf ar y corff heb ddefnyddio unrhyw foddion gweledig. Yn Llwyn Adda, ffermdy bychan rhwng y Borth a Thal-y-bont, Ceredigion, preswyliai hen wraig barchus o'r enw Mrs. Morgan. Bu farw tua dwy flynedd yn ôl, ac ym marn miloedd bu ei cholli yn golled fawr. Heblaw bod yn fedrus ar y gwaith o dorri clefyd y galon, gallai atal gwaed o archoll pryd y mynnai. Dywaid Mr. Isaac Edwards, Tre’r-ddôl, wrthyf, iddo ef pan oedd yn was yn Nhŷ Hen, Henllys, bymtheng mlynedd yn ôl, ymweled â'r hen wraig. A gŵr Tŷ Hen yn gweithio rhyw beiriant ar y fferm, trawyd ef ar ei ben gan ryw gymal o'r peiriant, a llifai'r gwaed fel pistyll. Er pob dyfais ac ymdrech methid ei atal. "Da thi, 'ngwas i, rhed am dy fywyd i Lwyn Adda," meddai'r wraig. I ffwrdd â'r gwas ac egluro'n frawychus i'r hen wraig. " Paid â gwylltio dim 'machgen i," meddai hithau. "Dos yn dy ôl, ac fe fydd popeth yn iawn." Dychwelodd Isaac Edwards a chael, er ei syndod, i'r gwaed beidio â rhedeg y munudau y llefarai'r hen wraig wrtho.

Yn y flwyddyn 1920 neu 1921, bu farw ym Mlaen Brwyno, Ceredigion, ŵr a oedd yn nodedig am y ddawn i atal gwaed o archoll a thynnu tân o losg. Mwynwr ydoedd o ran crefft, ac yn ddyn deallus a gwylaidd, llariaidd a defosiynol, yn flaenor yn ei eglwys ac yn arweinydd y gân yn y gwasanaeth. Syniai'r ardalwyr yn uchel am ei alluoedd, a pharchai pawb ef ar gyfrif ei gymeriad. Y mae mab iddo yn byw yn awr ar y mynydd rhwng Cwm Rheidol a Phumlumon, ac y mae dawn y tad, heb ei hamharu ddim, yn eiddo iddo. Ar fy nghais ymwelodd yr Henadur John Morgan, Y.H., â'r mab a chael ganddo lawer o wybodaeth am ei grefft gyfrin. Ond yr oedd fy ngohebydd yn adnabod y tad, a myn roddi yn gyntaf enghraifft o'i fedr ef i atal gwaed o glwyf.

"Yng ngwaith mwyn Pen Rhiw, Ystumtuen, digwyddodd i Mr. Richard Jones, sydd eto'n fyw, ddamwain lled ddifrifol, a methid er pob dyfais ag atal y gwaedu. Ar ben y siafft gweithiai hen ŵr Blaen Brwyno, a galwyd ef i lawr i'r pwll. Tynnodd yntau ei law tros y clwyfau, heb eu cyffwrdd, ac ataliwyd y gwaed ar unwaith." Pan ymwelodd fy nghyfaill â'r mab, cafodd ganddo ei dystiolaeth i'w allu di-feth, yn rhinwedd ei ddawn ddieithr, i atal gwaed o glwyf, tynnu tân o losg, a gwella clefyd y galon. Gwna'r pethau hyn oll heb gymorth unrhyw foddion gweledig, ac ni phroffesa fod yn ei waith ddim goruwchddynol. Cafodd y "gyfrinach" gan ei dad, a hwnnw gan ei dad yntau, a thybia ef ei bod yn y teulu ers cenedlaethau. Cred hefyd na all mwy nag un yn y teulu feddiannu'r ddawn ar yr un adeg. Cafodd yr Henadur ganddo enwau amryw bersonau a fu tan ei law ac a lesolwyd, ac ymwelodd â rhai ohonynt a'u holi, a chael a ganlyn:

"Ychydig flynyddoedd yn ôl yr oedd yn byw heb fod nepell oddi yma ferch ieuanc, sydd yn briod i weinidog yn awr, a gafodd drwy ddamwain anaf drwg iawn ar ei llaw. Llifai'r gwaed fel ffrwd, a methid â'i atal. Yn ffodus gweithiai'r Swynwr ar y pryd yn agos i'w chartref, a galwyd arno. Yntau, â'i law noeth, a ataliodd y gwaed mewn eiliad."

"Dyma dystiolaeth a gefais yr wythnos hon (sef yr olaf yn Chwefror, 1937) gan heddgeidwad. Wrth iddo drin ei fodur taniodd y petrol a llosgi ei ddwylo. Yr oedd y llosg cynddrwg fel y cododd croen y ddwy law, a'r boen yn arteithiol. Anfonwyd am y Swynwr. Daeth yntau a gweithredu, a diflannodd y boen yn llwyr ac ar unwaith."

Gofala fy nghyfaill egluro nad oes ganddo fawr o ffydd yng nghoelion cyffredin y werin, eithr dywaid hefyd weled ohono rai pethau o waith y Swynwr hwn sy'n gwbl anesboniadwy iddo ef. Ac meddai:

"Yr oedd ŵyr bach imi, tua phedair oed, wedi ysgaldio rhannau o'i gorff yn ddrwg iawn. Aethai'r boen bron yn annioddefol, ac wylai'r bychan yn dorcalonnus. Anfonwyd am y Swynwr. Gwyliais ef yn fanwl yn gweithredu. Cododd y plentyn i'w liniau, a thynnu ei law tros y rhannau llosgedig, eithr ni chyffyrddodd â hwy. Yr oedd tawelwch dwys yn y tŷ, ac ni ddywedodd yntau un gair. Cyn pen ychydig eiliadau yr oedd y plentyn yn chwerthin yn ei wyneb, ac wedyn yn chwarae fel cynt. Swynodd y dyn y tân a rhoddi cynghorion gwerthfawr ynglŷn â gwella'r clwyfau."

CLEFYD Y GALON, NEU CLWY'R EDAU WLÂN. Perthyn i ddosbarth y Swynwyr y mae Torrwr Clefyd y Galon yntau. Prif nodweddion y clefyd ydyw pwysau trwm yn y fynwes, yn gwneuthur anadlu yn anodd ar adegau, musgrellni yn yr holl gorff, a phruddglwyf dwfn yn peri bod byw yn beth diflas a diamcan. Pan fo'r clefyd ar ei eithaf bydd lliw'r croen yn byglyd, a gwyn y llygaid yn troi'n felynllwyd. Teimla'r claf ar y pryd nad yw bywyd yn werth ei fyw, ac weithiau peidia â byw, o'i fodd, a thrwy ei law ei hun. Nid yw'r pethau hyn oll namyn nodweddion. Y mae'r drwg yn y galon —calon tan faich siom a dolur. Cred llawer nad oes feddyg proffesedig yn bod, pa faint bynnag fo'i wybodaeth a'i brofiad, a fedr gyffwrdd â'r clwyf hwn, ac eir yn ddiymdroi at berson â chanddo ryw ddawn gyfrin a'i cymhwysa i "dorri clefyd y galon."

Prif offeryn y " Torrwr " ydyw edau wlân, ac fel hyn y gweithreda yn y bröydd y bûm i byw ynddynt:—Mesur yr edau o'r penelin i flaen bys canol y llaw, a mesur deirgwaith, ac os ymestyn a wna'r edau y trydydd tro, bydd hynny yn brawf sicr fod y " clefyd " yn ddrwg ar y claf, eithr os byrhau a wna'r edau y trydydd tro, gwelir mai afiechyd arall sydd ar y claf. Pan geir prawf o ' glefyd y galon,' rhwymir yr edau am fraich y dioddefydd, a'i gadw yno hyd oni chaiff wellhad. Wrth gwrs, rhoddir moddion i'w yfed, ond bydd hynny i'r diben o brysuro'r gwellhad. Mesur yr edau sy'n " torri"'r clefyd. Y moddion y clywais i ddiwethaf ei roddi i'r claf ydoedd, gwerth tair ceiniog o saffrwm mewn gwerth swllt o frandi. Dywedai'r claf, a oedd yn iach ar y pryd, y buaswn yn synnu cyn lleied o frandi a geir am swllt yn y dyddiau hyn, ond er lleied ydoedd, iddo fod yn gymorth effeithiol i brysuro'i adferiad ef.

Deallaf yr amrywia'r swynwyr o ran y modd o weithredu, ond defnyddia pob un yr edau wlân a'r saffrwm. Rhydd yr Athro Gwynn Jones hanes y ddefod a gafwyd oddi wrth un sy'n arfer y feddyginiaeth yn awr yn Sir Drefaldwyn. " Mesurir yr edau dair gwaith o'r penelin i'r mynegfys a'r bys canol. Tra gwneir hyn llefara'r Torrwr yn anghlywadwy y geiriau, 'yn enw'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glan, yr wyf yn gofyn beth sydd arnaf fi. Hwn a Hwn (enw'r dyn sâl), yr hwn wyf hyn a hyn o oedran.' Yna rhwymir yr edau am arddwrn neu figwrn y dioddefydd. Ymhen wythnos mesurir yr edau eilwaith, ac os ymestyn, bydd y clefyd yn well, eithr os byrhau a wna, bydd yn gwaethygu. Rhoddir darn o ddur, hanner pwys, wedi ei boethi oni fo'n goch, mewn cwpanaid o gwrw a'i adael ynddo. Yna rhoir gwerth chwe cheiniog o saffrwm mewn dŵr berwedig, a'i gymysgu â'r cwrw. Cymerir llond llwy fwrdd o'r moddion bob dydd am bum niwrnod, ac ar ôl hynny llond llwy fwrdd a hanner bob dydd. Os bydd y clefyd yn ddrwg iawn ac yn effeithio ar yr iau, dylid yfed llond cwpan wy o'r trwyth."[78]

Dywaid yr Athro T. Gwynn Jones iddo olrhain y ddefod hon yn siroedd Aberteifi, Trefaldwyn, Dinbych a Morgannwg. Clywodd ei bod hefyd yng Nghaernarfon.[79] Rhydd y Parchedig Elias Owen yntau enghreifftiau o'r goel yn Llanwnnog, Sir Drefaldwyn, Rhiwabon, Sir Ddinbych, ac amryw fannau eraill yng Ngogledd Cymru.[80]

Gwn hanes wyth a oedd yn fawr eu clod fel meddygon clefyd y galon, ac adnabûm yn dda bedwar ohonynt. Yr oedd Mrs. Morgan, Llwyn Adda, ymhlith yr enwocaf. Eglurwyd eisoes ei medr i atal gwaed, eithr nid oedd fymryn yn llai medrus yng nghrefft yr edau wlân. Nid oedd odid ddydd o'r flwyddyn na châi hi ymwelwyr. Deuent ati o leoedd agos a phell yng Nghymru, ac yn aml o Loegr hefyd, a dywaid un a'i hadnabu am flynyddoedd y cred ef y derbyniai oddi wrth ei chrefft lawn cymaint ag a dderbyniai llawer meddyg gwlad. Clywais gan Mr. Isaac Edwards, Tre’r-ddôl, iddo ef ymweled â hi tua phedair blyncdd ar ddeg yn ôl, ar ran merch y fferm y digwyddai fod yn was ynddi ar y pryd. Gwnaeth y wraig ei gwaith a rhoddi cyfarwyddiadau ynglŷn ag ymborth. Pan ofynnodd Edwards pa faint oedd y tâl, " Wel," meddai hi, "fydda'i yn gofyn dim, ond gadael ar onor pobol. Pan fydd un yn rhoi rhywbeth, rhaid iddo fod yn ddarn arian, ac er gwneud y driniaeth yn llwyr effeithiol, gore po fwyaf fydd y darn."

Un arall a wnaeth gymwynasau lawer yn rhinwedd dawn yr edau wlân ydoedd Mr. David Jenkins, Caerhedyn, ar ochr Trefaldwyn i bont Llyfnant, ac a symudodd rai blynyddoedd cyn terfyn ei oes i fyw i Eglwysfach. Amaethwr cefnog a mawr ei ddylanwad a'i barch oedd Mr. Jenkins, ac ni chlywais erioed amau ei gywirdeb ynglŷn â phawb a phopeth. Pregethai'n gymeradwy fel pregethwr cynorthwyol yn y cyfundeb Wesleaidd, a chlywais ef ddegau o weithiau yng nghapel fy hen gartref. Torrodd David Jenkins glefyd y galon ar ugeiniau, onid cannoedd, ac ni dderbyniai dâl gan na thlawd na chyfoethog. Mor anodd yw dywedyd nad oes dim yn y peth, neu mai twyll yw'r cwbl, wrth feddwl am berson o safle a chymeriad Mr. David Jenkins yn credu ynddo, ac yn ei arfer!

Ychydig cyn ei farw ym mis olaf 1936, derbyniais oddi wrth Mr. James Lewis, Aberystwyth, gynt o Gorris, yr hanes a ganlyn:

"Yn 1900, yr oedd Robert Thomas (Robin Bach), Corris Uchaf, a John Evans, Esgairgeiliog, yn gweithio yn ymyl ei gilydd yn chwarel y Tyno. Un bore ar enau'r lefel, holodd John Robin am iechyd ei wraig a oedd yn sâl ers tro. ' Wel, drwg iawn,' meddai Robin, ' ac yr wyf am fynd i Esgairgeiliog heno i weled Mari Lewys. Rwy'n ofni bod clefyd y galon arni.' Gwyddai John Evans y byddai mynd heibio i'r ddwy dafarn a oedd ar y ffordd yn ormod temtasiwn i Robin, ac addawodd alw efo Mari ar ei ran—galw am bedwar o'r gloch. Ond anghofiodd John ei addewid nes oedd hi'n naw o'r gloch. Aeth Mari drwy'r defodau arferol a chael bod gwraig Robin yn ddrwg iawn, ond y deuai yn well. Cafodd John yr edau, a thalodd ddarn arian i Mari. Bore trannoeth wrth enau'r lefel, cyn i neb yngan gair, meddai Robin, 'Chadwasoch chi mo'ch gair ddoe, John Evans.' Pwy ddywedodd? Wel, 'meddai Robin,' yr oeddwn i wrth erchwyn gwely'r wraig am naw o'r gloch neithiwr, ac meddai hi, 'Rŵan y mae John Evans efo Mari Lewys.'" Cafodd priod Robert Thomas y trechaf ar y clefyd, meddai Mr. James Lewis, ac yr oedd ef yn gweithio yn y Tyno ar y pryd. Cefais gan gyfaill arall o Aberystwyth hanes sydd â rhai o'i nodweddion yn debyg i eiddo'r uchod.

Gellid yn hawdd ychwanegu enghreifftiau, eithr ni roddaf ond un, a honno yn un ddiweddar, i brofi bod y gred yng nghlefyd y galon, ac yng ngallu personau arbennig i'w dorri, mewn bri o hyd. Ym mis Mehefin, 1929, cefais ymgom â dyn a breswyliai yn un o bentrefi gogledd Ceredigion a fuasai'n glaf iawn. Teimlasai ryw bwysau mawr yn ei fynwes a llesgedd trwy ei holl gorff. " Diffyg traul," meddwn. " Nage, nage, 'machgen i; nid peth cyffredin felly, ond peth canmil gwaeth—clefyd y galon." Ymgynghorodd â pherson yn y pentref a fedr dorri'r clefyd, a chafodd gwbl iachâd. Y mae'r sawl a dorrodd y clefyd eto'n fyw, a phan fo galw, yn arfer ei dawn.

MÂN SWYNION. Priodolid rhinwedd arbennig gynt, a gwneir hynny yn awr mewn amryw fannau, i'r manion a ganlyn fel moddion meddyginiaeth:—(i) Gwella llygaid clwyfus: (a) Gwisgo modrwyau pres neu aur yn llabedau'r clustiau. (b) Golchi'r llygaid yn yr hwyr a'r bore â dŵr glaw mis Mai. Cedwir mewn potel, ddŵr glaw mis Mai ar hyd y flwyddyn a'i ddefnyddio yn ôl y galw. Ym mis Mawrth, 1928, ar brynhawn Sul, a mi yn paratoi cychwyn o Daliesin ar gyfer oedfa'r nos yn y Borth, cefais nad oedd dŵr yn lamp y beic a gofynnais i Ddafydd Roberts a oedd modd cael dŵr glaw o rywle. " Wel," meddai, " y mae gen i boteled o ddŵr glaw mis Mai llynedd, os gwna hwnnw'r tro." Yna eglurodd mai dŵr at lygaid ydoedd. Defnyddiais ef a goleuodd y lamp yn gampus. (2) Symud Llefrithen. " Cred ddiysgog llawer o bobl Penllyn yw y gellir cael gwaed o lefrithen trwy i rywun gyfrif deg ymlaen a deg yn wrthol ar un anadliad, ac yna chwythu ar y llygad dolurus a'i wella. Y mae hon yn goel gyffredinol trwy Gymru a Lloegr."[81] (3) Symud Dafadennau. (a) Lladrata tamaid o gig eidion-rhaid ei ladrata yn ddirgelaidd-yna cladder ef. Fel y pydra'r cig diflanna'r dafadennau. (b) Poerer arnynt boer cynta'r bore. (c) Maler carreg wen a gwneuthur y malurion yn sypyn mewn papur a'i osod ar groesffordd, fel y gall rhywun ei godi a'i agor; â'r dafadennau ar ddwylo hwnnw. (d) Y mae personau arbennig a fedr eu swyno ymaith trwy dynnu eu dwylo trostynt. Yn 1931 cyfarfûm yr un adeg ac ar yr un aelwyd â phedwar person a dystiai iddynt golli dafadennau oddi ar eu dwylo trwy'r pedwar modd a nodais. Defnyddiodd pob un o'r pedwar fodd gwahanol i'r lleill. (4) Tynnu drain 0 gnawd. Defnyddier cŵyr crydd. (5) Gwella Dolur Gwddf. (a) Tafell o gig moch bras wedi ei rwymo yn dynn am y gwddf. (b) Gwisgo am y gwddf hen hosan wlân newydd ei thynnu oddi ar y troed, a'i throi y tu chwith allan. (6) Annwyd Trwm. Llaeth enwyn wedi ei ferwi, ac ynddo rosmari ac ychydig driagl du. (7) Atal Gwaed 0 Archoll. (a) Rhodder ar yr archoll damaid o faco siag wedi ei gnoi. (b) Taener gwe'r pryf copyn ar yr archoll. (8) Gwella Crydcymalau. Carier darn bychan o nytmeg yn y llogell.

XI
HEN ARFERION

Nid oes ond ychydig o'r hen arferion wedi goroesi'r cyfnewidiadau ym mywyd cymdeithasol Cymru. Gresyn hefyd farw o rai ohonynt, oblegid o edrych o'r pellter hawdd tybio bod llawer o swyn a pheth budd ynddynt. Nid oes i amaethyddiaeth heddiw y bri a fu iddi. Y mae'n wir mai bywyd caled oedd ar y fferm gynt, ond yr oedd iddo arferion difyr a llawer o fwyniant iach. Bu farw'r hen arferion tan ddylanwad golau gwell ac yn sŵn peiriannau a dyfodiad estroniaid tros glawdd Offa. Un ddefod a lynodd yn hir ac a fu farw o raid ydoedd—

Y GASEG BEN FEDI. Perthynai i'r cynhaeaf trwy Gymru ei ddefodau a'i wleddoedd. Yng Ngoledd Cymru yn gyffredin ceid gwleddoedd a elwid " Boddi'r Cynhaeaf." Yn Sir Ddinbych gelwid y tusw olaf o ŷd ar gaeau fferm yn Gaseg Fedi, ac yn Sir Gaernarfon gelwid ef Y Wrach. Eithr tybiaf oddi wrth yr hanes a geir i fri mwy fod ar y Gaseg Ben Fedi yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin nag yn unman arall. Ni fu'r ddefod farw'n llwyr yn Sir Aberteifi hyd yn gymharol ddiweddar. Dywaid y Parchedig Fred Jones, B.A., B.D., wrthyf, iddo ef pan oedd yn hogyn, lai na hanner can mlynedd yn ôl, gystadlu â'r medelwyr mewn taflu'r cryman at y Gaseg ar fferm ei dad yng nghanolbarth Ceredigion. Ei ddisgrifiad ef o'r ddefod ydyw: " Fe adewid rhyw droedfedd ysgwâr o'r cae diweddaf oll heb ei dorri. Wedyn fe blethid pen y tusw hwn, ar ei sefyll fel yr ydoedd, yn ' bleth dair.' Safai pawb wedyn ryw ddeg llath neu fwy oddi wrtho, a thaflai pob medelwr yn ei dro ei gryman ato, a'r sawl a'i torrai'n llwyr fyddai raid cario'r tusw i'r tŷ. Y gamp oedd taflu'r tusw hwnnw i'r ford swper heb i neb o'r merched oedd o gylch y tŷ ei weled; waeth os dôi'r merched i wybod gan bwy yr ydoedd, hanner boddid ef a dŵr, ac ond odid na theflid ef yn rhondyn- i'r llyn! Pan oeddwn yn paratoi'r papur hwn mi welais adolygiad ar lyfr yn y Daily News and Leader, yn ymdrin â'r mater hwn ymhlith pethau eraill. Ni ddyfynnwn ychydig ohono ar y pen hwn:—

The common European superstition that whoever cuts the last corn must die soon is probably a faint reflection of the ancient rite of killing the corn spirit in the person of the last reaper; and we are told that till lately in Pembrokeshire the men used to aim their hatchets at the last " neck" of corn left standing, and afterwards belabour or handle roughly the man who was caught with the "neck" in his possession.?[82]

Gwahaniaethai'r ddefod beth yng ngwahanol rannau'r un sir hyd yn oed. Yng ngogledd Ceredigion byddai raid i'r sawl a dorrai'r tusw ei ddwyn i fferm yn y gymdogaeth a ddigwyddai fod " ar ôl gyda'r cynhaeaf," a'i daflu i'r maes y gweithid ynddo ar y pryd. Ystyrid hyn yn sarhad mawr, a rhaid fyddai i'r troseddwr ddianc am ei einioes â chrymanau'r holl fedelwyr yn ei ddilyn.

DEFODAU PRIODAS. Person pwysig ynglŷn â phriodas gynt oedd y Gwahoddwr. Ei waith ef oedd tramwy'r gymdogaeth tua thair wythnos cyn y briodas i wahodd cyfeillion y pâr ieuanc i dalu eu "pwythion." Yn gyffredin byddai'r Gwahoddwr yn ŵr tafodrydd a doniol, i'r diben o ennill clust ac ewyllys y gwrandawyr. Cariai yn ei law ffon hir—gwialen ei swydd—wedi ei haddurno â rubanau o bob lliw, ac ar ei ben gwisgai rubanau neu flodau. Ai i dŷ heb guro, ac yna taro tri ergyd trwm â'i wialen ar lawr yr ystafell, ac o gael distawrwydd a sylw adroddai gân neu rigwm tebyg i'r un a wnaeth Daniel Ddu o Geredigion at y pwrpas, sy'n cynnwys y penillion a ganlyn:

Dydd da i chwi bobol, o'r hynaf i'r baban,
Mae Stephan Wahoddwr â chwi am ymddiddan,
Gyfeillion da mwynaidd, os felly'ch dymuniad,
Cewch gennyf fy neges yn gynnes ar ganiad.
Ymdrechwch i ddala i fyny, yn ddilys,
Bawb oll yr hen gwstwm, nid yw yn rhy gostus,
Sef rhoddi rhyw sylltach, rhai 'nôl eu cysylltu,
E fydd y gwŷr ifainc yn foddgar o'u meddu.

Chwi gewch yno roeso, 'rwy'n gwybod, o'r hawsaf,
A bara a chaws ddigon, ond e mi a ddigiaf;
Caiff pawb ei ewyllys, dybaco, pibelli,
A diod hoff ryfedd, 'rwyf fi wedi'i phrofi.[83]

Y nos cyn y briodas cynhelid yr hyn a elwid yn "Ystafell," a deuai cyfeillion iddi â rhoddion— rhai yn "talu pwythion," ac eraill yn rhoddi rhoddion nad oedd hawl arnynt. Weithiau cynhwysai'r anrhegion ddodrefn tŷ, arian ac enllyn.

Dywaid Mr. Thomas Thomas, Ceinionfa, Aberystwyth, y byddai priodas y rhai uchelradd ar geffylau, ac eiddo'r gweddill 'ar draed,' ac wrth gwrs yr ail oedd y fwyaf cyffredin a phoblogaidd. Bu ef mewn tair priodas 'ar draed ' tua thrigain mlynedd yn ôl yn ardal Pont-ar-Fynach, a chyn belled ag y cofia ef, fel hyn y gweithredid. Yn lled fore ddydd y priodi ymgasglai'r gwahoddedigion, y gwŷr ieuainc yn nhŷ'r priodfab, a'r merched yn nhŷ'r briodasferch. Yna anfonid cynrychiolaeth gref o dŷ'r mab i geisio'r ferch. Yn gyffredin byddai ymryson llafar mewn rhyddiaith a barddoniaeth rhwng y rhai oddi allan a'r rhai oddi mewn i'r tŷ. Pan lwyddai cyfeillion y mab, arweinid y briodasferch ym mreichiau dau o'i pherthynasau i'r eglwys, eithr weithiau byddai helynt arw, oblegid ar bob croesffordd neu agorfa o'i llwybr gwnâi'r ferch bob ymdrech i ddianc. Ar ôl y gwasanaeth yn yr eglwys, rhedai'r llanciau nerth eu traed i ystafell y wledd i fynegi'r newydd. Wedi ymborthi a chael digonedd, agorai'r pâr ieuanc lyfr y pwythion," a chofnodi'n fanwl y rhoddion a dderbyniwyd. Ymdroai'r gwahoddedigion yn y tŷ ac o'i gwmpas yn eu mwynhau eu hunain hyd oriau hwyr.

Yr oedd priodi yn waith pwysig ac urddasol gynt cyn dyfod priodas baganaidd "yr offis." Yn lled fore byddai'r mwynwyr yn barod â'u tyllau yn y graig, ac eraill â'u gynnau. Cyn hir gwelid gorymdaith drefnus, dau a dau, fel angladd ym Morgannwg, yn symud yn bwyllus i gyfeiriad yr addoldy. Yna saethu mawr i darfu ysbrydion drwg rhag dial ar y ddeuddyn ieuainc a'u drygu ddydd eu llawenydd. Yn ystod y priodi âi'r saethwyr i'r dafarn i wlychu eu gwefusau.—Wel, yr oedd angen ar ôl tanio cymaint, ac yr oedd y ddiod yn rhad! Pan ddeuai'r briodas o'r addoldy, ni châi fyned trwy'r glwyd, oblegid yno byddai nifer o bobl ieuainc yn dal rhaff gref, ac nid oedd agorfa oni thelid y doll. Ychydig yn nes i'r cartref byddem ninnau'r plant â chwyntyn— rhaff eto—a thelid toll i ninnau. Nid yw'r arfer hon wedi llwyr farw. Diwedd 1936, gwelais briodas yn y pentref hwn—priodas fodur— a defnyddiwyd y cwyntyn.

DEFODAU CLADDU. Y mae'n ddiamau i rai o hen arferion y Cymry ynglŷn â chladdu'r meirw ddyfod i lawr o'u bywyd Pabyddol. Hyd yn gymharol ddiweddar, bu Yr Wylnos'-gwylio'r marw noson cyn y claddu—yn boblogaidd trwy bob rhan o'r wlad, ac anodd meddwl amdani heb feddwl hefyd am Wake y Pabyddion. Yr oedd peth o ddelw'r Wake ar yr Wylnos, eithr ni pherthynai iddi'r difyrrwch ysgafn a oedd ynglŷn â'r Wake. Gŵyl gwbl grefyddol oedd yr Wylnos y gwybûm i amdani.

Yn fy nyddiau bore i ni chleddid neb, bach na mawr, heb wylnos iddo. Prynhawn y dydd cyn y claddu, ceid te yn y tŷ galar yn gyfle i gyfeillion dalu'r pwyth yn ôl' trwy adael darn o arian ar y bwrdd. Yn gyffredin gwragedd a fyddai yn y te, ac ni welid yno neb oni byddai arni 'bwyth.' Yna am saith o'r gloch dechreuai'r Wylnos. Arweiniai'r gweinidog a galw ar bersonau cymwys i weddïo. Cenid emynau angladdol, ac weithiau llefarai'r gweinidog yntau air o gysur wrth y galarwyr. Ar y terfyn dynesai'r mwyafrif at yr arch, ac edrych ar wyneb y marw. Nid oedd hyn yn rhan bendant o'r cyfarfod, ond yr oedd ei esgeuluso yn peri tramgwydd, mwy na pheidio, i rai o'r perthynasau. Yr oedd diben yr Wylnos ar y dechrau yn un gwir deilwng, sef cysuro a nerthu'r galarwyr, a rhybuddio'r gweddill; eithr collodd ei phrif ddiben ac aed i edrych arni fel math o wrogaeth i'r sawl a gleddid. Pan fu farw fy mam, awgrymais i'm chwaer hynaf mai gwell fyddai peidio â chael Gwylnos. "Peidio â chael Gwylnos?" meddai. " A wyt ti yn llai dy barch i mam nag ydi pobl eraill i'w perthynasau? Peidio â chael Gwylnos yn wir!!" Erbyn hyn y mae'r Wylnos hithau wedi marw.

Efallai nad yw sawyr Pabyddiaeth yn drymach ar ddim yn ein bywyd cyhoeddus nag ar yr hyn a elwir yn "Offrwm i'r Marw." Bu'r arfer hon mewn bri trwy'r wlad am gannoedd o flynyddoedd wedi iddi, trwy orchymyn brenin Lloegr, beidio â bod yn Babyddol o ran ei chrefydd. Cyn belled ag y gwyddom, nid yw'r ddefod ar arfer yn awr ond mewn rhannau o Ogledd Cymru. Diben gwreiddiol yr 'offrwm' ydoedd cydnabyddiaeth neu dâl i'r offeiriad am weddïo dros enaid y sawl a oedd newydd fyned i'r Purdan. Yna yn raddol daeth y Protestaniaid i'w ystyried yn dâl i'r offeiriad a'r clochydd am eu gwasanaeth yn y claddu.

Fel hyn y gweithredid. Ar derfyn y gwasanaeth yn yr eglwys, dynesai'r perthynasau, a'r galarwyr eraill yn dilyn, at yr allor, a rhoddi mewn blwch ddarn o arian neu bres. Ar lan y bedd, ar ôl taflu iddo ychydig bridd, daliai'r clochydd ei raw, a rhoddai pob un ei gyfran arni yn dâl am dorri'r bedd. Cyhoeddid yn yr eglwys ac yn y fynwent y symiau a dderbyniasid, a diolchid i'r cyfranwyr.

Ym mis Mawrth, 1937, cefais gan Mr. David F. Jones, Llanrhaeadr, hanes y ddefod fel y gweinyddir hi yn bresennol yn ei ardal ef. "Yr arferiad yn yr eglwys blwyf yw rhoi'r blwch casglu ar yr allor, ac ar derfyn y gwasanaeth i bawb a ddymuna offrymu fyned "in single file" a chyflwyno'i rodd. Y teulu yn ddieithriad a offryma gyntaf, a'r gynulleidfa yn dilyn. Hyd yn gymharol ddiweddar, ar derfyn yr offrymu yn yr eglwys, âi'r clochydd at yr allor i gyfrif swm yr offrwm, a dywedyd yn debyg i hyn, 'Swm yr offrwm yw £3 10s 6c. Diolch i bawb.' Yn fuan wedi ei ddyfod i Lanrhaeadr, rhoddodd y Ficer presennol derfyn ar y cyhoeddi am na farnai ef yn weddus. Ar derfyn y gwasanaeth yn y fynwent offrymir i'r clochydd, pryd y deil flwch (nid rhaw) i dderbyn yr offrwm at draul torri'r bedd. Ni ddefnyddir y rhaw yma, ond gwn fod y dull hwnnw yn bod yn Hirnant, Llanarmon M.M., Pennant Melangell, Penybont Fawr, Llangadwaladr, Llansilin a Llangedwyn."

BEDYDDIO AR YR ARCH. Dywaid y Western Mail, Mai 25, 1937, fod bedyddio baban ar arch ei fam yn un o ddefodau Cymru yn yr oesoedd canol, a bod traddodiad mai felly y bedyddiwyd Dafydd ap Gwilym pan fu farw Ardudfyl ei fam.

Nid yw hon yn arfer gyffredin iawn, ond ceir hi yma a thraw trwy Gymru. Gwelais gyflawni'r ddefod yn Aberpennar (Mountain Ash), Morgannwg, tua hanner can mlynedd yn ôl. Buasai farw priod ieuanc Morgan Morgans, a oedd yn gyfaill imi, a dydd y claddu daethpwyd â'r arch i'r ffordd gyferbyn â drws y tŷ. Rhoddwyd y baban wythnos oed ym mreichiau'r Parchedig J. E. Roberts, gweinidog y Wesleaid, a bedyddiodd yntau hi â dŵr o gawg a oedd ar gaead arch y fam. Gwelais hefyd gyhoeddi yn y South Wales Daily News, Medi 2, 1911, hanes cyffelyb o Abertawe. Buasai farw hen wraig, ac yn ôl ei dymuniad, bedyddiwyd ei hwyres fach ar ei harch. Ceir hefyd enghreifftiau o'r arfer yng Ngogledd Cymru. "Ym mis Rhagfyr 1861, bu farw Maria Bellis, Llygain Uchaf, gerllaw yr Wyddgrug. Dydd ei chladdedigaeth daethpwyd â'r arch o'r tŷ a'i gosod ar ddwy gadair, a bedyddiodd y Parchedig William Pierce, Methodus Calfinaidd, ei baban a oedd yn ymyl deuddeg mis oed â dŵr o fasn a oedd ar yr arch."[84]

ARFERION DIWEDD A DECHRAU BLWYDDYN. Hen arfer ddiddrwg a diddan ydoedd Gweithio Cyflaith nos cyn y Nadolig. Cyfarfyddai amryw fechgyn a merched dipyn yn hwyr ar y nos mewn tŷ penodedig. Wedi i bawb gyrraedd a chael ynghyd y defnyddiau angenrheidiol, rhoddid ar y tân grochan o faint cymedrol ag ynddo swm da o driagl du a siwgr, ac ar ddechrau'r berwi byddai'n rhaid ei droi â llwy bwrpasol, a chadw'r cyffro yn ddiatal i ochel blas llosg. Fel yr âi'r berwi ymlaen, safai un gerllaw â chwpan ag ynddo ddŵr oer, a chodi yn awr ac eilwaith ychydig o gynnwys y crochan a'i roddi yn y dŵr. Pan galedai'r trwyth yn y dŵr, yr oedd yn bryd ei dynnu oddi ar y tân. Yna arllwysid ef i ddysgl fawr neu ar lechfaen las a glân wedi ei hiro ag ymenyn. Tra byddai'r defnydd yn dwym tynnid a thylinid ef oni felynai ychydig a bod yn barod i'w rannu. Nid oedd adeg lawenach yn bod na noson gwneuthur cyflaith. Yn ystod y berwi adroddid storïau a chenid hen alawon, a byddai hwyl fawr hyd oriau'r bore.

Hyd o fewn ychydig flynyddoedd yn ôl, cynhelid y Plygain neu'r Pylgain yn rheolaidd yn yr eglwys blwyf, ac weithiau yng nghapelau'r eglwysi eraill. Cyfarfod crefyddol ydoedd, a gynhelid cyn dydd fore'r Nadolig, i'r diben o goffáu dyfod Iesu Grist i'r ddaear. Ceid ynddo lawer o ganu a gweddïo a diolch, a rhyw fath ar bregeth neu anerchiad byr. Yn nyddiau bri'r Plygain yr oedd canu carolau yn rhan hanfodol ohono, eithr ni chlywais i erioed ganu carol mewn na Phlygain nac unman arall. Erbyn fy nyddiau bore i, nid oedd fawr ddim gwahaniaeth rhwng Plygain a chyfarfod gweddi cyffredin. Pan oeddwn yn llanc bûm rai troeon ym Mhlygain Eglwys Llancynfelyn, ond ni ddeuai bendith i ni'r plant, oblegid aem yno o weithio cyflaith â chlyffiau o'r trwyth melys yn ein llogellau, ac ni wnaem fawr mwy yn yr eglwys na bwyta a chysgu. Ni wn am un capel ymneilltuol lle y cynhelir y gwasanaeth yn awr ond capel yr Eglwys Fethodistaidd, Wesleaidd gynt, sydd ar odre hen gastell Carreg Cennen, yn Nyffryn Llwynyronnen, bedair milltir o Landeilo Fawr. Cynhelir y Plygain yno yn gyson ar hyd y blynyddoedd.

Y mae'r hen arfer o Gasglu Calennig mewn cryn fri o hyd. O doriad gwawr hyd ddeuddeg o'r gloch ddydd Calan, ceir y plant yn brysur yn casglu ac yn canu eu mân ganeuon. Ofnaf mai anadl einioes casglu'r oes hon ydyw'r elfen gardota yn unig, eithr gwelir oddi wrth y canu mai angen y tlawd oedd achos y casglu calennig gynt.

Dydd Calan cynta'r flwyddyn, 'Rwy'n dyfod ar eich traws, I 'mofyn am y geiniog, Neu glwt o fara 'chaws.

Mi godais heddiw mas o'm tŷ, A'm cwd a'm pastwn gyda mi, A dyma'm neges ar eich traws, Sef llanw'r cwd â bara' chaws.

Calennig wyf yn 'mofyn, Ddydd Calan, ddechrau'r flwyddyn; A bendith byth fo yn eich tŷ, Os tycia im gael tocyn.

Mae heddiw yn ddydd Calan, I ddyfod ar eich traws, I 'mofyn am y geiniog, Neu glwt o fara' chaws; Dewch at y drws yn serchog, Heb newid dim o'ch gwedd; Cyn daw dydd Calan eto Bydd llawer yn y bedd. [85]

HELA'R DRYW. Bu hela'r dryw mewn bri yn Iwerddon a Manaw a Chernyw yn ogystal ag yng Nghymru. Efallai i'r arfer barhau yn hwy yn Sir Benfro nag mewn un rhan arall o'r wlad. Tybiaf hyn oherwydd imi adnabod hen ŵr gwan ei feddwl yn y sir honno a ddug y ddefod o ddyddiau'i febyd i ddyddiau'i farw yn 1907. Er imi roddi'r hanes eisoes mewn llyfr arall, teimlaf y dylai'r bennod hon ei gynnwys.[86] Ym Mhenfro helid y dryw a'i gludo o ddrws i ddrws wrth gasglu calennig ddyddiau'r Nadolig a'r Calan. Gosodid yr aderyn mewn tŷ bach tua deunaw modfedd o hyd ac wyth o uchder, â dwy ffenestr fach a drws rhyngddynt. Defnydd y tŷ bach ydoedd rhisgl pren derw, a gwisgid ef â rubanau o bob lliw. Ceir Tŷ'r Dryw, a gafwyd o Sir Benfro, yn yr Amgueddfa yng Nghaerdydd. Y mae ym Mhenfro draddodiad bod y dryw yn aderyn pwysig ym mywyd yr hen dderwyddon. I ran y derwydd y disgynnai'r gwaith o benderfynu materion cyfreithiol. Ef a eisteddai mewn barn ar gwerylon a throseddau, ac os amheuid cyfiawnder ei ddedfryd, hysbysai yntau i'r dryw ddatguddio'r gwirionedd iddo, ac yr oedd tystiolaeth y dryw yn safadwy a therfynol. Bob yn ychydig, chwerwodd y werin at y dryw oherwydd tybio mai bradwr ydoedd, ac erlidid ef yn greulon i'w ddifa. O'i ddal, gosodid ef yn y tŷ bach a'i ddwyn o dŷ i dŷ a chanu:

Dryw bach ydy'r gŵr,
Amdano mai 'stẃr;
Mae cwest arno fe
Nos heno 'mhob lle.

Fe ddaliwyd y gwalch
Oedd neithiwr yn falch
Mewn stafell wen deg,
A'i un brawd ar ddeg.


Fe dorrwyd i'r tŵr,
A daliwyd y gŵr;
Fe'i rhoddwyd dan len,
Ar elor fraith wen.

Rubanau o bob lliw
Sydd o gwmpas y dryw;
Rubanau'n dri thro
Sydd arno'n lle to.

Mae'r drywod yn sgant,
Hedasant i bant;
Ond deuant yn ôl
Drwy lwybrau'r hen ddôl.

O meistres fach fwyn,
Gwrandewch ar ein cwyn;
Plant ieuainc ŷm ni,
Gollyngwch ni i'r tŷ,
Agorwch yn gloi,
'Nte dyma ni'n ffoi.[87]


HEN ARFER NORMANAIDD. Mewn lluestai a thyddynnau diarffordd ar y mynyddoedd eang, heb ynddynt na glo, na dim praffach yn tyfu arnynt na llwyni eithin, unig danwydd y trigolion oedd mawn. Tua diwedd Mai a dechrau Mehefin ymunai'r bugeiliaid a'r tyddynwyr i gynorthwyo'i gilydd i ' dorri ' mawn a'u cynhaeafa yn ôl yr hen drefn Normanaidd. Yr oedd y cartrefi filltiroedd o'r priffyrdd, ac ymhell o gyfleusterau tanwydd cyffredin y trefydd a'r pentrefi, a dibynnid yn gwbl ar fawn. Enhuddid y tân â lludw bob nos, a chedwid ef heb ddiffodd am flynyddoedd, ac weithiau am oes teulu.

Parhaodd yr hen arfer ar fynyddoedd Ceredigion hyd oni pheidiodd yr amaethwyr ar y gwastadeddau â chyflogi bugeiliaid i ofalu am eu defaid, ac i'r tirfeddianwyr yrru'r bugeiliaid a'r tyddynwyr i'r mân bentrefi. Clywais ddywedyd bod yr arfer yn fyw eto yn y parthau mynyddig eang sydd rhwng Llanbrynmair ym Maldwyn a Chwm Elan

ym Maesyfed.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.

 
  1. Celtic Folklore, Cyf. I., td. 1.
  2. Yr Hynafion Cymreig, Peter Roberts (1823), td. 149.
  3. Welsh Folklore Yr Athro T. Gwynn Jones (1930), td. 51-57.
  4. Hynafion Cymreig, Peter Roberts (wedi ei drosi i'r Gymraeg gan Hugh Hughes) (1823), td. 153-4.
  5. The Science of Fairy Tales, E. S. Hartland, Llundain (1891) td. 336.
  6. The Western Mail and Sonth Wales News, September 2, 1936.
  7. News Chronicle, September 28, 1936.
  8. Celtic Folklore, Syr John Rhys, Cyf. I., td. 49.
  9. Welsh Folklore, y Parch. Elias Owen (1887). "Cyf. Eist. Ffestiniog" (1898).
  10. Y Tylwyth Teg, Hugh Evans (1935).
  11. The Science of Fairy Tales, F. S. Hartland (1891) td. 162-3.
  12. Y Brython, Cyf. IV., td. 231.
  13. The Science of Fairy Tales, E. S. Hartland (1891), td. 66.
  14. Celtic Folklore, Cyf. I., Syr John Rhys, td. 42-44.
  15. Celtic Folklore, Cyf. I., Syr John Rhys, td. 100.
  16. The Science of Fairy Tales, E. S. Hartland (1891), td. 306-7.
  17. It Happened in Palestine, L. D. Weatherhead, M.A. (1936), td. 80.
  18. The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris of Anglesey, 1728-1765, J. H. Davies, M.A. (1907) Cyf. I., td. 311-313.
  19. Wild Wales, George Borrow, Pen. LXXXI.
  20. Observations on the Snowdon Mountains, William Williams (1802), td. 114.
  21. The Folklore of the Afan and Margam District, Martin Phillips, (1933), td. 65.
  22. British Goblins, Writ Sikes (1880), td. 24 a 29.
  23. Ysgrifau, Yr Athro T. H. Parry-Williams (1928), td. 77. 52
  24. Folk-Lore of West and Mid-Wales, J. Ceredig Davies (1911), td. 153.
  25. Welsh Folklore. A collection of Folk-tales and legends of North Wales . . .Elias Owen (1896), td. 202-203.
  26. Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folklore, D. E. Jenkins (1899), td. 78-79.
  27. Welsh Folklore and Folk Custom, T. Gwynn Jones (1930), td. 36-37.
  28. Welsh Gazette, Mai 23, 1923.
  29. Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folklore, D. E. Jenkins (1899), td. 236.
  30. The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris, of Anglesey, John H. Davies (1909), Vol. II., td. 153-54.
  31. Brilish Goblins, Wirt Sikes (1880), td. 174-75,
  32. Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folklore, D. E. Jenkins (1899)
  33. The Welsh Gazette (Aberystwyth), Mehefin 7, 1923.
  34. Cymru Fu, td. 297.
  35. Cambrian Superstitions, William Howells (1831), td. 60.
  36. Twm o'r Nant, (Cyfres y Fil) (1909) (Cyf. I.), td. 20.
  37. Yr Hynafion Cymreig Peter Roberts (Cyf. H. Hughes, 1823), td. 221.
  38. Welsh Folklore and Folk Custom, Yr Athro T. Gwynn Jones (1930), td. 203,
  39. Llyfr. Gen., Llsgr. 5654.
  40. Ysgrifau, Yr Athro T. H. Parry-Williams (1928), td. 24.
  41. 1 Llyfr. Gen., Llsgr. 5653.
  42. Chwedlau Cymru, Rachel W. Ellis, td. 88.
  43. Y Brython, Cyf. V., td. 338.
  44. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, H. Derfel Hughes 1866), td. 10.
  45. Casgliad, o Lên Gwerin, William Davies, Cyf. Eist. Ffestiniog (1898).
  46. The Folklore of Glamorgan, T. C. Evans (Cadrawd), Cyf Eist. Gen. Aberdâr (1885).
  47. Y Brython, Cyf. III. (1860), tud. 183.
  48. Celtic Folklore, Syr John Rhys, Cyf. I. td. 2-12,
  49. Y Brython, Cyf., I., td. 112-23.
  50. Geiriadur Cen. Cymru . . Y Parch. Owen Jones (1875), Cyf. I., td. 263.
  51. The Aman Valley Chronicle, Mai 27, 1937.
  52. Gweithiau Gethin . . O Gethin Jones (1884)
  53. Y Brython (1860), td. 316.
  54. Folk-lore of West and Mid-Wales, J. Ceredig Davies (1911), td. 323.
  55. Cymru Fu, Wrecsam, td. 98-100
  56. Western Mail and South Wales News, Sept. 3, 1936.
  57. Cyf. Eisteddfod Gen. Aberdâr (1885) "Llên Gwerin Morgannwg," Cadrawd, td. 210.
  58. Glimpses of Welsh Life and Character, Marie Trevelyan (1893), td. 282
  59. Welsh Folklore. A collection of Folk-tales and Legends of North Wales, Y Parch. Elias Owen (1896), td. 236.
  60. Welsh Folkelore, y Parch. Elias Owen (1896), td. 222-3
  61. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 10567.
  62. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 5653
  63. With Myslics and Magicians in Tibet, Alexandra David-Neel (1936), td. 156.
  64. Witches and Warlocks, Phillip W. Sergeant (1936), td. 180.
  65. Llyfr. Gen. Cym., Llawysgrifau Cwrtmawr, Llsgr. 97
  66. Brutusiana, td. 315, Llên Gwerin Sir Gaerfyrddin, y Parch. D G. Williams (Cyf. Eist. Gen. Llanelli, 1895).
  67. Cambrian Superstitions, y Doctor William Howells (1831) td. 90.
  68. 1 Popular Tales from the Norse, Syr G. Webbe Dasent (1883) td. 31.
  69. With Mysttcs and Magicians in Tibet, Alexandra David-Neel (1936), td. 226,
  70. Llyfr. Gen. Cymru., Llsgr. 6746
  71. Llyfr. Gen. Cymru, Llsgr, 4937. Dengys y darlun sydd gyferbyn yr arwyddion.sydd ar ddiwedd y swyn.
  72. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 1248.
  73. 1 Llyfr. Gen. Cymru, Llsgr. 5563. Gweler gyferbyn lun darn o'r llawysgrif sy'n dangos yr arwyddion ar ddiwedd y swyn.
  74. Welsh Folk-lore, J. Ceredig Davies (1911) td. 294.
  75. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 5653.
  76. The story of Superstition, Philip F. Waterman (1929).
  77. The Story of Superstition, Philip F. Waterman (1929), td. 17.
  78. 1 Welsh Folklore and Folk Custom, Yr Athro T. Gwynn Jones (1930), td. 132.
  79. Welsh Folklore and Folk Custoni, T. Gwynn Jones (1930) td. 130.
  80. Welsh Folk-lore, Elias Owen (1887).
  81. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 10567.
  82. Y Geninen, Cyf. XXXIII., td. 250. Ysgrif y Parchedig Fred Jones, B.A., B.D.
  83. Welsh Folk-lore, J. Ceredig Davies (1911) td. 21. Cf. " Gwinllan y Bardd," (1906) td. 278-281.
  84. Llyfr- Gen. Cym. Llsgr. 5653
  85. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr., 5652.
  86. Yr Hen Gyrnol, Evan Isaac, (1935), td. 26-27.
  87. Cefais y gân hon gan Mr. H. W. Evans, Y.H., F.R.A.S., Solfach, Penfro.