Cofiant D Emlyn Evans/Morgannwg

Dydd y Pethau Bychain Cofiant D Emlyn Evans

gan Evan Keri Evans

Y Deffroad: Y Ganigg

V.

MORGANNWG.

PAN yn 15eg oed—yn 1858—wedi gorffen tymor ei brentisiaeth, cymerodd ei aden o'i ardal enedigol a'i gartref, i wynebu ar y byd. Nid oedd trên yng Nghastellnewydd, ac aeth ef a'i fam, os nad ei famgu, i'r orsaf nesaf yng Nghaerfyrddin, lle y gwelodd y trên am y tro cyntaf. Ei gyrchfan oedd Penybont ar Ogwy, at draper genedigol o bentref cyfagos Cwmcoy—Ap Daniel, New York wedi hynny. Ag eithrio dau doriad byr i dreio'i ffawd yng Nghaerdydd ac Aberteifi, yma y treuliodd bump o flynyddoedd mwyaf derbyngar a pheryglus bywyd dyn, mewn gwaith caled ac oriau hirion, ond hefyd ynghanol llawer o bleser gwaith a chyfeillgarwch. Yr oedd yn llawn ynni ac uchelgais, ac ymroddai i'w waith fel masnachydd, tra y rhoddai ei oriau hamdden i gerddoriaeth, ac i wasanaeth y delfryd o ddiwylliant ehangach oedd yn wastad o flaen ei lygain. Heblaw cylch y faelfa, daeth i gyffyrddiad â chylchoedd eraill o gymdeithas yn y dref a'r eglwys, yn y cyngerdd a'r eisteddfod. Ar y cyfan, yr oedd yn amser egniol, cyfoethog, a hyfryd. Soniai ef gyda serch am fro Morgannwg hyd y diwedd, ac nid oedd yn ail yn ei galon i'r un fro ond Glan Teifi.

Bu'n ffodus yn ei gysylltiadau eglwysig. Gweinidog yr Annibynwyr ym Mhenybont ar y pryd oedd y Parch. J. B. Jones, B.A., gan yr hwn y cafodd bob cynhorthwy a chefnogaeth. Saif "J.B." allan fel un o'r rhai yr hoffai ddatgan ei ddyled iddynt hyd y diwedd. Bu'n fath ar frawd hynaf iddo (yn yr ystyr goreu), yn anogydd a chefnogydd, yn gystal ag yn addysgydd ac arweinydd, yn feddyliol a moesol, ac i fesur yn gerddorol. Yr oedd y ddau'n edmygwyr mawr o'i gilydd, er yn gwbl ymwybodol o ddiffygion y naill y llall.

Yr oedd y manteision a'r cymhellion i gerddor ieuanc yn llawer lluosocach ym Morgannwg nag oeddynt ar lan Teifi. Ei dystiolaeth ef ei hun (yn y Musical Herald, Ebrill, 1892) yw fod yr awyrgylch yn llawn canu. Yn y pentrefi, yn gystal â'r trefi, yr oedd yr Eisteddfod yn dod i fri cyffredinol; perfformid oratoriau mewn mannau; a gloewid doniau a phurid chwaeth y cerddorion drwy gyfathrach gyson. Cawn atgofion mwy manwl Y Cerddor:—

"Ym Morgannwg daethom i awyrgylch gerddorol dra gwahanol, er nad yn gymaint parthed caniadaeth y Cysegr a chaniadaeth gorawl. Ond dyma'r tro cyntaf i ni ddod i ymgydnabyddiad â'r eisteddfod; ni wyddem ddim am oratoriau y prif feistri, nac am ganigau ac anthemau yr ysgrifenwyr Seisnig, ond yr ychydig ddetholion a threfniadau a geid mewn casgliadau fel y Ceinion; nid oeddem wedi gweld na chlywed organ erioed, na pherdoneg ychwaith ond un tro yn un o gyngherddau Owain Alaw.

"Yr oedd cryn lawer o dalent gerddorol ym Mhenybont. . . . Bu'r perfformiadau o weithiau y prif feistri a gaed yno ar y pryd o les diamheuol i'r lle, ac o leiaf i rai personau unigol. Agwedd ddigon di—lun oedd i gerddoriaeth y cysegr yno ar y pryd, ac efallai mai yng nghapel yr Annibynwyr lle y gweinidogaethai y Parch. J. B. Jones y blodeuai oreu. Yn yr hwyr âi y cantorion i'r galeri gyferbyn a'r pulpud, a busnes mawr y cyfarfod, o'n tu ni, oedd yr anthem a genid bob nos Sul. . .

"Dyddiau dedwydd oedd y rheiny. Siarad am ddydd o orffwys! Nid oedd dydd caletach o weithio yn yr holl wythnos [na'r Sul]. Yn ychwanegol at y cyfarfodydd cyhoeddus, yr Ysgol, etc., cenid yn y bore ar hyd y dolydd, cenid yn y prynhawn ar ol yr Ysgol, cenid yn yr hwyr cyn ac ar ol y cyfarfod, a chenid wedyn yn nhai cyfeillion hyd y deuai yn bryd i gysgu; ac y mae hen draddodiad yn y lle fod rhai ohonom yn chware'r ffidyl (a gorchudd drosti i ddofi ei sain) yn lle cysgu! Ond y mae prif ddiddordeb y cyfnod hwn yn ei hanes yn gorwedd yn y ffaith mai'n awr y dechreuodd gyfansoddi. Nid oes gennym wybodaeth bendant iawn am ddechreu cwrs ei ddatblygiad fel cyfansoddwr; ond saif dau enw allan yn glir fel rhai a fu'n Prif gynorthwywyr iddo fynd i fewn i deml y gân (o'r cynteddoedd), sef Alawydd ac Ieuan Gwyllt. Alawydd a roddodd yr allwedd yn ei law i agor y drws, ond gan Ieuan y cafodd anogaeth i fynd at y drws, ac arweiniad athrawus wedi mynd i fewn.

Cof gennyf i'r Parch. J. B. Jones ddweyd wrthyf un tro mai ef a ddysgodd Emlyn i gynganeddu. Pan ddywedais hyn wrth yr olaf, chwarddodd yn iach, gan ddweyd nad oedd J.B. yn deall cynghanedd ond yn fesuronol, ac fod ystyr mewnol cynghanedd a lliwiadaeth gerddorol yn gyfrinion clôedig rhagddo. Ymddengys fod perthynas y mesuronydd a cherddoriaeth yn debig i eiddo'r uwchfeirniad â'r Beibl, ac fod "dyfnion bethau" cerddoriaeth yn ddeimensiwn anhysbys i'r naill fel y mae "dyfnion bethau Duw" i'r llall. Y gwir oedd hyn, meddai ef: iddo fynd â Gramadeg Alawydd yn ei logell un dydd gŵyl (Nadolig, os wy'n cofio'n iawn) i Gastellnewydd, gan ymdynghedu ei feistroli cyn dychwelyd i Benybont, ac felly y bu: pan adawodd Forgannwg yr oedd sanctum cynghanedd ynghlo, er ei fod yn cael mawr hwyl yn y cynteddoedd; ond pan ddychwelodd ar ol ei wyliau, yr oedd y cylch cyfrin wedi agoryd iddo. Nid ydwyf am dynnu dim oddiwrth y clod sydd yn ddyledus i Alawydd am ei wasanaeth sylweddol a sicr i gerddoriaeth a cherddorion Cymru Ymddengys fod ei Ramadeg yn un llawer mwy meistrolgar a hyfforddiadol na dim oedd wedi ymddangos yn flaenorol. A chaniateir mai Alawydd oedd yr athro pan agorodd y drws. Gall hyn fod yn wir, heb fod y gwir i gyd. Clywais ddweyd "nad yw Duw'n rhoddi enaid cyfan i neb." Siaradwyd hyn mewn perthynas â chrefydd, er mwyn pwysleisio'r lliaws o weithrediadau a gweithredyddion sydd yn cydgwrdd yng ngwaith trôedigaeth dyn. Ond y mae'r un mor wir am gerddoriaeth, a phopeth arall. Yn sydyn y dargenfydd yr eneth sydd yn dysgu canu'r piano, a'r llanc sydd yn dysgu iaith, eu bod wedi meistroli eu "pwnc," er fod y gwaith yn mynd yn ei flaen yr holl amser. Rhyw air neu syniad, rhyw lygedyn o ysbrydoliaeth, sydd yn dwyn gwahanol rannau cyfundrefn o ddysg yn y meddwl—asgwrn at asgwrn—i ffurfio cyfanwaith trefnus, ond yr oeddynt yno o'r blaen. Ni wyddis—ni wyddai ef ei hunan—pa faint o help a gafodd gan Richard Mills a Curwen, na pha elfennau a drysorid yn ei is-ymwybyddiaeth gan ei ymarferiadau a'i astudiaeth yr holl ffordd i fyny o ganeuon yr aelwyd hyd Handel; ac ni ddylesid dibrisio ymgais "J.B." i esbonio cynghanedd yn fesuronol iddo—yr oedd hynny'n help mor bell ag yr elai. Os "dyfal donc a dyr y garreg" rhaid inni gofio nad yr ergyd olaf effeithiol, yn unig sydd yn ond mai honno sydd yn effeithioli'r lleill ac yn eu galluogi i gyrraedd adref.

Ond ni byddai ef byth yn osgoi cyfleustra i ganu clod Alawydd a datgan ei ddyled ei hun a dyled cerddorion Cymru iddo; edrychai ar ei Ramadeg fel rhagredegydd cyfnod newydd yn natblygiad cerddorol ei wlad ac o werth arbennig am ei fod yn gafaelyd yn llaw ei oes i'w helpu ymlaen at hwnnw. "Cyhoeddwyd Gramadeg Alawydd" (meddai) "yn agos i ddiwedd yr hanner gyntaf o'r ganrif, ond i'r hanner ddilynol y cariodd ei ddylanwad, ac er efallai nad hollol gywir fyddai dweyd fod y gramadeg hwn gymaint uwchlaw gramadegau y Millsiaid ag ydoedd yr olaf yn uwch na'r rhai a'u blaenorai, y mae'n eithaf gwir ei fod yn tra rhagori arnynt, ac yn rhoddi i'r Cymro wybodaeth a chyfarwyddyd mewn pynciau na chyffyrddid â hwy o'r blaen o gwbl yn ei iaith ei hun. Caed ail-argraffiad diwygiedig ohono yn 1862, ac y mae'n amhosibl mesur y gwasanaeth a fu y Gramadeg bychan ond cynwysfawr ac eglur hwn i gerddorion Cymru." Mewn man arall rhydd iddo glod uwch na hyn hyd yn oed:

"Pa mor uchel bynnag y rhoddir Alawydd fel cyfansoddwr fe gymylir y gogoniant hwnnw gan y bri a berthyn iddo mewn cysylltiad â'i Ramadeg. Ni chyhoeddwyd ond yn anaml Ramadeg mor gynwysfawr a'r gwaith bychan hwn nac yn sicr mo'i hafal yng Nghymru na chynt na chwedyn

Yr unig bwynt ar ba un yr ydym yn cweryla ag ef yw y defnyddiad diangenrhaid a wneir ynddo o dermau tramor am yr erwydd, y nodau," etc.

Ei athro arall y pryd hwn oedd Ieuan Gwyllt. Daeth Ieuan i Ferthyr i olygu'r Gwladgarwr yr un flwyddyn (1858) ag yr aeth Emlyn i Benybont, a diau i'r olaf ddod dan ddylanwad symbyliadol yr ysgrifau ar gerddoriaeth yn Y Gwladgarwr, a'r darlithiau a draddodid gan y golygydd yn nhrefi Morgannwg. Ym mis Mawrth, 1861, cychwynnwyd Y Cerddor Cymreig—cyhoeddiad a ddatblygodd ac a ddisgyblodd (ac yr oedd llawn cymaint o eisieu disgyblu ag oedd o eisieu datblygu) y deffroad cerddorol drwy Gymru benbaladr. Ni ellir byth fesur ei ddylanwad ar gerddoriaeth a cherddorion ieuainc Cymru yr amser hwnnw. Tra yr oedd Gwilym Gwent, Alaw Ddu, John Thomas, Dd. Lewis, ac Emlyn, fel ei gilydd, dan ddyled ddifesur iddo, yr olaf sydd wedi cydnabod y ddyled honno gliriaf mewn geiriau. Wele rai sylwadau o'i eiddo o fysg llawer:—

"Saif Ieuan Gwyllt ar ei ben ei hun ymysg Cerddorion Cymreig, heb yr un cymhar, ac mewn amryw ystyriaethau heb ei hafal. Hyd at y gwyddom, ni chyfansoddodd nac oratorio, na chantawd, na chytgan, na chanig, na chân; dim ond un anthem (neu, efallai, ddwy), ychydig emyn-donau, salmdonau, a darnau i blant, ynghyd a threfnu a chynganeddu nifer o hen donau, a rhai anthemau; er hynny, ystyrir ef yn un o brif gerddorion y genedl (a hynny yn ei chyfnod cerddorol euraidd cyn belled ag y mae a fynno â'r gorffennol) a hynny yn gywir yn ein barn ni, nid oherwydd dim a gyfansoddodd, ond oherwydd ei wasanaeth i gerddoriaeth mewn cyfeiriadau eraill fel diwygiwr ein caniadaeth grefyddol, fel casglydd a golygydd, fel beirniad manwl a gonest, fel elfennydd a gramadegydd trwyadl, ac fel ysgrifennydd Cymraeg cywir a choeth. Y mae y cyfeiriadau yna yn llawn mor bwysig a'r un gyfansoddiadol, y mae y meysydd yn helaeth a lluosog, a'r llafurwyr yn anaml. Gadawodd Ieuan Gwyllt fwy nag un bwlch yn wâg pan y'n gadawodd ni, a byddai wasanaeth i'r wlad, ac yn llesol iddynt hwythau, pe bae rhai o'n cerddorion ieuainc yn ymdrechu dilyn ol ei gamrau ef: nid yw hoffder o gerddoriaeth ac awydd i gyfansoddi yn un prawf fod dyn wedi ei eni i fod yn gyfansoddwr. Gwyddai Ieuan Gwyllt hynny o'r goreu, ac yr oedd yn ddigon call a gonest i weithredu yn unol â hynny. Gadawodd gyfansoddi i'r rhai hynny a deimlent fod neges wedi ei hymddiried iddynt ag yr oedd yn rhaid iddynt ei dweyd yn eu cyfansoddiadau." "Creodd ei Lyfr Tonau chwyldroad yn ein caniadaeth gynulleidfaol. Gwnaeth i ffwrdd â'r hen dônau ehedganol, cymysgedig, gan fabwysiadu yn eu lle arddull y gorale ddefosiynol.

Caniateir yn gyffredin, bellach, iddo ddefnyddio'r gyllell hytrach yn rhy ddiarbed, ond dyna ydyw hanes pob diwygiad, ac os y gwnaed ychydig gamwri, yr oedd y da a effeithiwyd yn ei orbwyso yn ddirfawr." Am Y Cerddor Cymreig, dywed ei fod

"Yn gyhoeddiad cerddorol o deilyngdod uchel a olygwyd ganddo am amryw flynyddau, a thrwy gyfrwng yr hwn y gwnaeth yn adnabyddus i'w gydwladwyr nid yn unig nifer o'r cyfansoddiadau Cymreig goreu, ond hefyd amryw o eiddo'r prif feistri; heblaw gwellhau tôn gerddorol y wlad, a datblygu talentau ein cyfansoddwyr, trwy ei erthyglau a'i feirniadaethau, y rhai a nodweddid gan dderchafiaeth eu syniadau, a phurdeb eu hiaith."

Nid oes wybodaeth sicr pa bryd yr enillodd Emlyn ei wobr gyntaf am gyfansoddi tôn gynulleidfaol. Ysgrifenna y Parch. T. G. Jones (Tafalaw) ato ym Medi, 1890, fel hyn:

"Nid wyf yn gwybod fy mod erioed wedi eich gweld, ond yr wyf yn eich adnabod yn dda, er hyn oll. Os iawn hysbyswyd fi, chwi a enillasoch eich gwobr gyntaf am dôn gynulleidfaol dan fy meirniadaeth i mewn eisteddfod wledig fechan yn Ffordd-y-gyfraith, yn agos i Pyle—ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol."

Yn ol yr hanes o'i fywyd a ymddangosodd yn y papurau adeg ei farw, enillodd ei wobr gyntaf yn 1863 dair blynedd ar ol yr uchod. Efallai nad yw Tafalaw yn siarad yn fanwl, nac, efallai, wedi cael yr hanes yn gywir am ei wobr gyntaf (fel y gwelir, nid yw'n sicr); ond y mae braidd yn sicr iddo fod yn llwyddiannus cyn 1863, oblegid ymadawodd am Cheltenham y flwyddyn honno, ac yr oedd wedi ennill am y dôn oreu mewn amryw eisteddfodau lleol cyn mynd, gan i mi ei glywed ef ei hun yn dweyd, wrth sôn am gerddor oedd wedi arfer cipio'r wobr yn gyffredin am y dôn yn ardal Penybont, ei fod yn credu na faddeuodd iddo ef (Emlyn) byth am ddod i fewn i'w preserves ef. Ond nid yw'r mater o bwys, nac, efallai, o ddiddordeb neilltuol, ond fel y dengys inni ymgais wylaidd yr awen ieuanc i dreio'i haden yn y cylch llai cyn mentro allan i awyr gylch helaethach yr Eisteddfod Genedlaethol, yr hyn a gawn yn ei gyfnod nesaf.


D. EMLYN EVANS

(15 OED).


Nodiadau golygu