Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Ei Gyfnod Aur

Danville ac Aberystwyth Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

"Blodwen" ac "Emmanuel"

VII. Ei Gyfnod Aur,

Hunan-gofiant:

1875—6—7: Daw llawer o efrydwyr cerddorol i'r Coleg—tri o America, hyd yn oed.

1878: Af i mewn am y radd o Mus Doc. yng Nghaergrawnt yn llwyddiannus. Derbynia Mr. D. Jenkins y radd o Mus. Bac.—y cyntaf ar fy ol i, a minnau yr unig English Mus. Doc. yng Nghymru, tra y mae agos yr holl gerddorion a fedd radd Cymreig (Welsh Degree Musicians) yn ddisgyblion i mi.

Y mae perfformio Jerusalem ar gyfer y Mus. Doc. yn eglwys St. John's yng Nghaergrawnt gan gôr Aberdâr, y daith o ddeg niwrnod, gyda cholled o £300, a chyhoeddi "Blodwen" am £400, yn ergyd ofnadwy i'm llogell wag! Rhoddir "Jerusalem" a "Blodwen" hefyd yn yr Alexandra Palace, Llundain, ym Mryste, Caerdydd, ac amryw o drefi y Deheudir.





Gelwir honno yn oes aur cenedl pan fo'i delfryd a'i hamgylchfyd yn un â'i gilydd. Yn yr ystyr hon cyfnod Aberystwyth yw cyfnod aur Joseph Parry. Pan ymwelodd â'r Coleg, ac â'r dosbarth cerddorol dan Mr. Jenkins, mor ddiweddar a 1900, ei dystiolaeth ger eu bron ydoedd, mai yno y treuliodd flynyddoedd mwyaf dedwydd ei fywyd." Hawdd gennym gredu hyn, am amryw resymau.

Yn awr yn unig y gallai deimlo ei fod wedi ymsefydlu mewn bywyd, a rhedlif uchelgais ac anturiaeth i fesur wedi ymsefydlogi. Efallai fod yna un tymor blaenorol—wedi dyddiau plentyndod—pryd y teimlai'n fwy neu lai sefydlog, sef pan yn gweithio yn y gwaith haearn yn Danville, a chyn deffro o'i uchelgais cerddorol. Prawf y ffaith iddo ymbriodi na roddai i gerddoriaeth le uwchlaw yr "ail ffidyl" yn ei fywyd, ac na edrychai ati am foddion cynhaliaeth. Eithr wedi ennyn ei nwyd gerddorol, ac iddo yntau ddarganfod fod ganddo ddawn y tuhwnt i'r cyffredin ac ymroddi i'w datblygu a'i disgyblu—"o don i don" fu hi yn ei hanes hyd yn awr. Hyd yn oed wedi dychwelyd i America, a sefydlu ei Ysgol Gerddorol yno, ni ellir dywedyd ei fod wedi cyrraedd unrhyw fath ar "hafan ddymunol"—er yr ymddengys fod ei ragolygon yn dda; rhwng tonnau anturiaeth yr oedd ei gwch ar y goreu, a'r cyfrifoldeb am ei forio yn gwbl ar ei ddawn a'i ddwylo ei hun. Ond wele ef yn awr, er nad oedd ei gyflog yn fawr, yn rhydd o orthrwm y pryder a'r ansicrwydd hwn, i roddi ei holl íeddwl a'i amser i wasanaeth y gelfyddyd a garai.

Yna, er mai i Goleg Aberystwyth y daeth fel athro, ac er na fuasai wedi dychwelyd i Gymru onibai am hynny, eto i Gymru y daeth yn ei weithgarwch cerddorol arall, fel beirniad, datganydd, ac arweinydd: yr oedd yng Nghymru eisoes fel cyfansoddwr. A chafodd ei dderbyn gan Gymru gyfan nid yn unig gydag edmygedd arwr- addolgar, ond gyda serch a breichiau agored. Ni wyddom sut i gyfrif am hyn, ond prin y llwyddodd neb i daro dychymyg Cymru ieuanc yr amser hwnnw, ac i fynd i'w chalon, fel efe. Diau fod yr hanes amdano fel bachgen bach o Ferthyr, ac yna o America, yn gweithio yn y gwaith haearn yn ffurfio rhan o'r swyn; ac yr oedd yr hanes am ei ymgyrchoedd borëol yn yr eisteddfodau gynt, yn dwyn y dorch oddiar gewri fel Gwilym Gwent, yn aros yng nghof y wlad, ac wedi casglu llawer o hud chwedlonol o'i gylch erbyn hyn; yna yr oedd ei enw gorsedd, "Pencerdd America"—felly yr adnabyddid ef yn y dyddiau hynny—yn berchen llawer o gyfaredd, a'r Mus. Bac. yn arbennig, er na wyddem yn iawn beth a olygai (dyna hanner rhinwedd teitl, a da hynny), ond ei fod yn fwy dieithr na'r B.A., yr hwn hefyd oedd yn brin y dyddiau hynny; ac yn ddiweddaf oll, yr oedd rhywbeth yn ei wedd a'i wallt, a'i darawiad buoyant Americanaidd, yn taro'r llygad a'r ffansi ieuanc. Sôn am "dderbyniad tywysogaidd"! Ni fu erioed dywysog a gaffai y fath dderbyniad calonnog ag ef drwy Gymru oll o Gaergybi i Gaerdydd.

Yr oedd yn anghenrhaid fel beirniad ymhob eisteddfod o bwys. Cawn ef yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn fuan wedi iddo lanio, ac ym Mhwllheli y flwyddyn ddilynol yn cymryd ei le gyda'r rhai a'i beirniadai ddeng mlynedd yn flaenorol. Deuai yn rheolaidd i brif eisteddfodau Dyfed, ac mi gredaf, i rai Morgannwg a Gwent. "Dyna'r dyn sy'n mynd â hi" ydoedd ei hanes y dyddiau hynny. Er mai efe oedd ein beirniad mwyaf poblogaidd, ni ellir dywedyd yr un peth amdano fel datganydd, gan fod Mynyddog a Morlais ar y maes. Ni feddai naturioldeb dihafal y naill na llais llifeiriol y llall. Y gwir yw nad oedd wedi ei eni yn ganwr er fod dysg wedi gwneuthur llawer drosto. Yr oedd ei lais braidd yn gras, ond parablai'n groyw iawn, mae'n wir, a thaflai gryn lawer o rym dramayddol i'w ganu, ond ni chyffyrddai â'n calon fel y ddau arall. Cofied y darllenydd mai mynegi'r teimlad ar y pryd a wneir yn y fan hon—er y credaf y gwna'r farn gerddorol addfed ei ategu. Erbyn 1875 cawn ef—a'i ddisgyblion erbyn hyn—yn goresgyn esgynloriau eisteddfod a chyngerdd. Yng nghyngherddau Eisteddfod Pwllheli cawn yr U.G.W. ochr yn ochr â'r R.A.M. Yr oeddynt eisoes wedi rhoddi prawf o'u medr a'u cynnydd yng nghyngherddau'r Coleg— cyngherddau o gryn fri a phoblogrwydd.

Cofiaf yn dda amdano ef a nifer o'i ddisgyblion yn canu yng Nghyngerdd Eisteddfod Crymmych, ac yn dychwelyd gyda ni i Gastellnewydd, i gynnal cyngerdd yno y nos ddilynol, a ninnau'n rhoddi'r anrhydedd iddo o eistedd— yn y brake— yng nghadair farddol glaslanc o'r lle a'i henillasai yn yr eisteddfod; ac mor ddifyr ydoedd yn ein cwmni, nifer o enethod a llanciau Emlyn, ac fel y mwynhai y noson hafaidd gan alw ein sylw at ei chyfaredd.

Os nad wyf yn camsynied, yr oedd ganddo gyngherddau eraill y nosweithiau dilynol ar y ffordd adref i Aberystwyth. Pa sut yr oedd hynny'n cydgordio â'i ddyletswyddau colegawl fel athro sydd gwestiwn arall, ond un nad oedd yn blino nemawr arno ef.

Ag eithrio'r caneuon a wnaethai ef ei hun, yr oedd yna ogwydd cryf yn y cyngherddau hyn at y dieithr a'r tramorol. Pethau felly ddysgid yn bennaf yn y Coleg. Golygai ef yn ddiau iddynt fod yn foddion addysg uwchraddol i'r myfyrwyr, ond caent hwy, rwy'n siwr, y pleser pennaf ohonynt drwy eu bod yn ein synnu ni, bobol y wlad! Ond codai gohebwyr cerddorol eu dwylo, gan ddatgan y gobaith na wnai'r myfyrwyr "anghofio'u naturioldeb a'u gwreiddioldeb eu hunain a newid y ddawn naturiol oedd ynddynt am rodres golegawl."

Coeliaf mai hwy a ddygodd ganeuon a geiriau Italaidd i'n clyw ni yn Nyfed gyntaf, er fod Parry ei hun yn arfer eu canu pan yn yr Athrofa Frenhinol, fcl y dengys hanes ei gyngherddau. Wedi'r amser hwnnw yr ysgrifennodd Watcyn Wyn ei gân ddynwaredol ddi-ail, ond nid oes dim ellir ei ddywedyd am y cyngherddau hynny a esyd allan eu hawyrgylch a'u hasbri yn well.

Ma 'nhw'n odli, ac yn codli,
Ac yn iapo, a chalapo,
Ninnau'n wylo, a chlapo dwylo
Am fod Gwalia'n troi'n Italia,
Tra môr, tra môr! Oncôr, oncôr!

Gwêl di Ianto a'i gariad ganto,
Wedi talu am gal rali,
Yn llygadu ar y ladi;
Gwêl di'r lelo'n troi'i umbrelo—
"Tip to! tip to! Brav o! Brav o!"

Gwalia, Gwalia, mae Italia
Ar dy sodlau gyda'i hodlau,
Mendia, mendia, tendia, tendia,
Tro, tro! Ffo, ffo! Ha, ha! Ho, ho!


"Beth ti'n whalu! dyna rali!" Rhyfedd na fuasai Parry wedi ysgrifennu cân i'r geiriau yna—efallai ei fod yn teimlo'n euog ei hun! ac y byddai'n "hoist on his own petard." Y mae y ddau beth bychan a ganlyn (o'r "Gerddorfa") yn dangos gymaint ei enwogrwydd y tu mewn a'r tu allan i'r Coleg y pryd hwnnw. Ceir yn y cyntaf hanes un o gyngherddau'r Coleg, yn yr hwn y canwyd gweithiau'r "Meistri Bach, Beethoven, Handel, Haydn, Schubert, Schumann, Weber, Wagner, Mendelssohn, Rossini, Bennett, a Dr. Parry."Gwelir fod Parry eisoes ym marn ei ddisgybl edmygol ymhlith y meistri!

Y llall yw nodyn o gymeradwyaeth ganddo ef yng ngholofn yr hysbysebau—i organ neilltuol ar gyfrif ei "mellow and pipe-like tone, and external appearance"— yn dangos fel y ceisiai masnach ddefnyddio ei safle a'i enwogrwydd—a'i ddiniweidrwydd!

Gyda'r galw cyson oedd am ei wasanaeth fel beirniad, datganydd, ac arweinydd cymanfaoedd canu, ac ar gyfrif y tâl da (da i Gymru) a godai am ei wasanaeth, diau fod y cyfnod yma yn un "aur" mewn mwy nag un ystyr iddo. Eto, a bod yn deg, rhaid i ni briodoli dedwyddwch pennaf y cyfnod nid i'w safle mewn coleg, na'i boblogrwydd mewn gwlad, nac i aur y farced, na gŵn y Doethur, ond i'r ffaith mai yn awr y cafodd fantais i ddangos ei allu creol dan ddylanwad dysg fwy, ac ar ol ysbaid o seibiant cymharol i gasglu nerth.

Fel y mae mynydd-dir Pumlumon yn arllwysfa ddwfr (watershed) gwlad gyfan, yn taflu allan i wahanol gyfeiriadau afonydd mawr a bach, rhai'n ysgafn a hoenus, rhai'n chwyrn a chryf, rhai'n fawreddog ac urddasol—yr Hafren a'r Wy, Towy a Theifi, Ystwyth a Rheidiol, a llu o ffrydiau llai: y mae cyfnod Aberystwyth yn hanes Parry yn rhywbeth tebyg o ran y gweithiau a gyfansoddwyd neu ynteu a gychwynnwyd yno. Ac nid yr hen ffrydiau cân wedi eu gloywi a'u dyfnhau a'u llydanu yn unig geir yma, ond dechreuadau newydd, o leiaf o ran ffurf a phwynt. Yr oedd wedi cyfansoddi "Gantata'r Adar" yn flaenorol, a rhai darnau eraill hawdd a syml, ond yn awr yr ymroddodd i r llinell yma o wasanaeth cerddorol i'r plant a'r werin. Dechreuwyd cyhoeddi "Telyn yr Ysgol Sul" yn 1879, a diau ei fod wedi dechreu cyfansoddi'r tonau flynyddoedd cyn hyn. Ni wyddom a oedd wedi ffurfio golygiad neilltuol ar y mater, ai ynteu greddf gerddorol a'i harweiniai, neu efallai mai canu fel aderyn yr oedd am ei bod yn rhaid iddo ganu. Ni waeth lawer pa un, ond amlwg yw iddo roddi moddion addysg a mwynhad iachus i hen ac ieuanc. Y mae llawer o sôn y dyddiau hyn (dechreu 1921) am y "beastly tunes" a gâr y werin yn ol disgrifiad un o'n prif gerddorion. Wel,"beastly" neu beidio, fe fyn y lliaws donau melodaidd a chanadwy, neu ddim, a'r cwestiwn yw, ai nid yw yn bosibl bod yn felodaidd a syml heb fynd yn israddol a cheap. Credaf mai greddf gerddorol Parry a'i harweiniodd i geisio ateb y cwestiwn yna yn gadarnhaol, a hynny mewn ffordd ymarferol, hynny yw, drwy gyfansoddi tonau a chaneuon syml a swynol. Ym myd barddas rhoddwyd ateb cyffelyb gan Wordsworth yn ei ganiadau syml, a gwyddom hefyd i'w farddoniaeth, mewn diwyg felly, gyrraedd calon un mor brennaidd a John Stuart Mill. Y gwir yw ei bod yn gryn gamp ysgrifennu barddoniaeth a cherddoriaeth felly, a hynny am nad oes fantais i rodres geiriol a choeg-wychter peiriannol i guddio aflerwch syniadol.

Yn ystod y cyfnod hwn y daeth y corawd i gorau meibion i fri, ac i'w fri pennaf o Eisteddfod Caerdydd yn 1879 ymlaen[1] ond i gryn lawer o boblogrwydd cyn hynny. Cenid "Codwn Hwyl" ymhob tref a phentref lle ceid dyrnaid o fechgyn cerddgar yn Nyfed. Yna cawsom "Ryfelgan y Mynachod" ganddo, a "Chytgan y Bradwyr" a'r "Rhyfelgan Gorawl."Dilynwyd ef yn y llinell hon, nid gan ei hen gyfeillion ar lwybrau'r anthem a'r ganig, ond gan rai o'i ddisgyblion ei hun—David Jenkins yn bennaf, efallai. Rhoddodd Emlyn ei wasanaeth yn fwyaf neilltuol i'r corau merched.

Cyfansoddodd rai o'i donau goreu yn Aberystwyth—"Aberystwyth" yn eu plith—ond ni ddechreuodd eto ar ei Lyfr Tonau Cenedlaethol. Hawlia dau o'i ddechreuadau mawr, sef yr Opera a'r Oratorio, bennod iddynt eu hunain.

Nodiadau golygu

  1. Yr oedd dwy o ganigau Parry yn Eisteddfod Abertawe (1863) i leisiau gwrywaidd.