Cofiant Hwfa Môn/Nicander Ysgrif II

Nicander Ysgrif I Cofiant Hwfa Môn

gan Rowland Williams (Hwfa Môn)


golygwyd gan William John Parry
Caledfryn


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Morris Williams (Nicander)
ar Wicipedia





NICANDER.

(GAN HWFA MON.)

Erthygl II.

CYNWYSIAD.

Ymadawiad Nicander o Rydychain i Dreffynon, swydd Gallestr[1]—Ei symudiadau gweinidogaethol—Llinellau ei gymeriad fel dyn—Ei ragoriaethau fel ysgolhaig, a'i allu fel bardd—Ei gymhwysder fel. beirniad, a'i dalent fel pregethwr—Colled a galar y wlad ar ei ol.

GWELWYD llawer bachgen o Gymro tlawd yn myned i Rydychain, a'i feddwl yn llawn pryder; ond gwelwyd ef yn dyfod oddiyno a'i galon yn llamu mewn llawenydd; ac wedi enill iddo ei hun yr anrhydedd o fod yn athraw yn y celfyddydau. Bachgen felly oedd Alun. Taflodd Alun y ffedog groen oddiam dano; camodd dros orddrws gweithdy y crydd, yn y Wyddgrug; cerddodd i Rydychain, a'i feddwl yn llawn o uchelgais; ac yn y flwyddyn 1829, daeth i guradiaeth Treffynon, yn holl urddas ei B.A. Bachgen cyffelyb ydoedd Nicander. Crogodd yntau ei lif ar yr hoel, gadawodd ei fwyell wrth y blocyn, troes allan o weithdy y saer, beiddiodd i Rydychain; ac yn y flwyddyn 1834, daeth yntau oddiyno, yn gwisgo ei deitl, a'i feitr; ac ymsefydlodd yn nghuradiaeth Treffynon, fel olynydd i'r awenber Alun. Tybir mai ar ei ffordd o Rydychain i Dreffynon yr oedd Nicander, pan y cyfansoddodd yr englyn hwn:—

"O dynion bleth gadwyni,—ac oer dawch
Cor Rhydychain ddifri;
Ac o wlad Sais, cludais i,
I gain froydd Gwenfrewi."

Clywsom hen Eglwyswr selog, o ardal Treffynon, yn dywedyd i ddyfodiad Alun a Nicander yno, fod yn gyfodiad o farw yn fyw i'r Eglwys Wladol yn y dref. Ac nid oedd hyny yn llawer o syndod: canys nid yn fynych y breintiwyd un dref a'r fath dalentau dysglaer. Ymddengys mai pan yr ydoedd. Nicander yn preswylio yn Nhreffynon, y gwnaeth ef yr englyn canlynol i'r Gwyddel a grogodd ei ffyn yn nghronglwyd ffynon Gwenfrewi:—

"At Wenfrewi, tan ei friwion,—heddyw
Daeth Gwyddel ar ddwy ffon;
Ond mendiodd,—lluchiodd yn llon,
Ei ffyn i ben y ffynon."

SYMUDIADAU NICANDER.

Wedi treulio pedair blynedd yn Nhreffynon, symudodd i guradiaeth Bangor, a chapeloriaeth Pentir, yn swydd Gaernarfon. Yn ystod ei arosiad yno, ymddyrchafodd i'r fath anrhydedd, ac enwogrwydd, nes y cynhyrfwyd awen Dewi Wyn i ddywedyd fel hyn am dano:—

"Morus William yw'r Selef—yr Heman,
A'r Homer digyfref;
Di feth un, dau o'i fath ef,
A wnai Wynedd yn wiwnef.

Morus sy'n Forus anfarwol,—Morus
Sy'n un mawr rhyfeddol;
Ni fu ei enw ef yn ol,
Ond Morus anghydmarol."

Ar ol llafurio yn Mangor a Phentir am chwe' blynedd, aeth yn gurad o dan y Deon Cotton, i Lanllechid, lle y bu yn gwasanaethu am ddwy flynedd. Yn y flwyddyn 1846, penodwyd ef gan yr Esgob Bethel, i fod yn gurad parhaol yn Amlwch, swydd Fon. Wedi gwasanaethu am bedair blynedd ar ddeg yn Amlwch, dyrchafwyd ef i fywoliaeth Llanrhyddlad, Llanfflewyn, a Llanrhwydrus, lle yr oedd yn cael tua phum' cant o bunau yn y flwyddyn am ei lafur. Ac yn y lle hwn y preswyliodd mewn llawnder, hyd nes yr hunodd yn yr angeu ar y trydydd dydd o fis Ionawr, yn y flwyddyn 1874, yn bedair blwydd a thriugain oed. Mae ambell un wedi dechreu ei oes mewn palas, ond o herwydd diogi ac afradlonedd, wedi marw mewn tlotty. Ond dechreuodd Nicander ei oes yn y bwthyn tlawd; a thrwy lafur a bendith, ymddyrchafodd o radd i radd, a chafodd farw yn ei balas.

PRIF WEITHIAU NICANDER.

Prif weithiau Nicander ydynt yr Homiliau cyfiethedig, y Flwyddyn Eglwysig, y Salmau Cân, Awdl y Greadigaeth, y Dwyfol Oraclau, Cyfieithiad Damegion Esop, Awdl yr Adgyfodiad, Pryddest Brenus, Pryddest yr Eneiniog, Awdl Cenedl y Cymry, Pryddest Moses, Awdl y Môr, Pryddest Dafydd, ac Awdl Sant Paul. Yr Awdl ar y Greadigaeth a roddodd iddo yr anrhydedd o eistedd yn nghadair Genedlaethol. Eisteddfod Aberffraw, yn y flwyddyn 1849. Pryddest Brenus a enillodd iddo y llawryf yn Eisteddfod Llangollen, yn y flwyddyn 1858. Pryddest yr Eneiniog a ddygodd iddo y deugain gini, yn Eisteddfod Dinbych, yn y flwyddyn 1860. Awdl Cenedl y Cymry a'i cyfododd i eistedd yr ail waith yn y gadair genedlaethol, yn Eisteddfod Aberdar, yn y flwyddyn 1861; a'r Bryddest ar Moses a roddodd iddo yr hawl ar yr ugain gini, a'r tlws arian, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, yn y flwyddyn 1862. Cyfansoddodd wmbredd o fan bethau eraill yn ystod ei oes; ond nid oedd y pethau hyny oll ond megys mân flodau wrth odre mynyddoedd, wrth eu cydmaru â'r cyfansoddiadau a nodwyd.

NICANDER FEL DYN.

Mae llawer yn meddu talent a dysg, ond yn dra diffygiol fel dynion. Yr oedd gan Risiard, gynt o Aberdaron, dalent, a gallu difesur i ddysgu gwahanol ieithoedd, ond hurtyn ydoedd. fel dyn wedi y cwbl. Ond yr oedd Nicander yn meddu talent a dysg, ac ar yr un pryd yn ddyn synwyrol, a hyfryd mewn cymdeithas. Er iddo gael ei ddyrchafu mewn urddau, ni welwyd ef erioed yn anghofio ei hun drwy ei falchder, gan ymddangos fel rhyfeddnod mewn starch, fel y gwelir rhai! Ni anghofiodd Nicander erioed y ffos y cloddiwyd, na'r graig y naddwyd ef o honi. Y mae yn berygl son wrth ambell un am y grefft a ddilynai cyn dydd ei ddyrchafiad, er fod arwyddion o'r grefft hòno i'w canfod yn eglur yn nhafliad ei law, yn nyddiad ei gorff, ac yn ngwead ei draed. Ond nid un o'r gwyr meinion ac ysgafnben hyn oedd Nicander; oblegid byddai ef wrth ei fodd yn wastad wrth son am y pwll llif, a helyntion gweithdy y saer. Yr oedd ef yn ddigon o ddyn i eistedd yn mwthyn y tlawd, yn gystal ag yn mhalas y boneddwr; ac i gyfeillachu gyda'r Ymneillduwr selog, yn gystal a'r Eglwyswr uchel. Nid anghofiodd efe ei rieni yn nydd. ei ddyrchafiad, ond talodd y pwyth iddynt yn eu henaint a'u penllwydni. Ni chollwyd golwg ar y dyn yn nysgleirder y meitr, na gwynder y wenwisg.

NICANDER FEL YSGOLHAIG.

Na thybied y darllenydd, am foment, ein bod yn meddwl am bwyso a Nicander fel ysgolhaig; oblegid ni chynysgaethwyd ni eto à digon o ddwlni a haerllugrwydd i geisio gwneud peth rhy fawr, a rhy uchel i ni. Ond y mae yn annichonadwy edrych dros fywyd Nicander heb sylwi ar ei ddysgeidiaeth. Yr oedd ei feddwl er yn fachgen yn sychedu am ddysgeidiaeth, fel y sycheda yr hydd am yr afonydd dyfroedd; ac wrth ystyried hyn, nid rhyfedd iddo fod yn ysgolhaig mor wych. Cymer ambell un arno ei fod yn ysgolhaig, pan nad yw ond ymhonwr gwag, a rhodresgar. Clywsom gan wr cyfarwydd, y byddai Isaac Harris, gynt o Dalsarn, wrth bregethu weithiau, yn dweyd yr enwau canlynol fel y gwynt:-"Sweden, Denmark, Russia, Holland, Belgium, Cuba, Jamaica, a Porto Rico." Traethai y gwr doniol y frawddeg yna, er rhoddi ar ddeall i'r werin anwybodus ei fod yn wr dysgedig. Ond pe gofynasid iddo ddangos lle yr oedd Porto Rico ar y map, canfyddesid yn fuan na wyddai ddim mwy am Porto Rico, na wyddai Porto Rico am dano yntau. Ond nid un o'i fath ef ydoedd Nicander, canys yr oedd ef yn ysgolhaig profedig, ac wedi enill ei deitlau trwy arholiadau teg. Dywedwyd wrthym, oddiar awdurdod diamheuol, ei fod yn deall pump o ieithoedd, a'i fod yn adnabyddus â gwaith y prif-feirdd yn mhob un o honynt. Y mae y ffaith iddo gael ei ddewis, yn y flwyddyn 1854, i olygu argraffiad o Feibl Rhydychain yn Gymraeg, ac argraffiad y Beibl mawr, at wasanaeth y llanau, yn profi ei fod yn ysgolhaig o awdurdod uchel. Ac heblaw hyny, nis gellir darllen ei weithiau, heb ganfod ynddynt lawer o arwyddion dysg. Ond er dysgleiried ei ddysg, yr ydoedd yn hawdd canfod arno yn wastad, nad oedd ei ddysg wedi ei yru i ynfydu, fel y gyrir rhai yn y dyddiau hyn. Arferodd ef ei ddysg megys gwasanaethyddes i'w addurno, a'i gymhwyso i droi yn urddasol yn holl gylchoedd ei alwedigaeth, ac nid oedd diffyg olew ar ei ben.

NICANDER FEL BARDD.

Y mae genym ni gryn gred mewn brid. Os clywn fod rhyw un yn deilliaw o frid Tom Thumb, yr ydym yn dysgwyl gweled rhywbeth yn Domthymaidd ynddo; ac os clywn amryw un yn deilliaw o frid Cawr Anac, yr ydym yn dysgwyl gweled rhywbeth yn Gawranacaidd ynddo. Pan glywn am un yn deilliaw o frid didalent, nid ydym yn dysgwyl fawr am dalent ynddo; ond pan glywn am un yn deilliaw o frid athrylithgar, yr ydym bob amser yn dysgwyl gweled arwydd o athrylith ynddo. Ond mae'n wir y cawn ein siomi yn aml, yn y naill fel y llall: canys gwelir bachgen llawn o athrylith yn cyfodi weithiau o deulu digon dwl; a phryd arall gwelir creadur digon hurt yn cyfodi o deulu digon talentog, yn llawn of gyfrwysder. Ond, fodd bynag am hyny, deilliodd gwrthddrych ein herthygl o frid beirdd; ac nid yn unig hyny, ond cafodd ei fagu, a'i ddwyn i fyny yn nghanol prif feirdd ei wlad. Wrth ystyried pethau fel hyn, yr oedd yn naturiol i ni ddysgwyl fod rhywfaint o'r awen farddonol yn ysbryd Nicander. Pan oedd ef yn fachgen, yr oedd y beirdd canlynol fel ser yn tywynu trwy y wlad a'i magodd :—Robert ap Gwilym Ddu, yn y Betws Fawr; Dewi Wyn, yn y Gaerwen; Sion Wyn, yn Chwilog; Sion Dwyfor, yn Llaw—weithfa Gwynfryn; Ellis Owen, yn Nghefn y Meusydd; Hywel Eryri, yn Traena, &c. Buasai braidd yn wyrth i fachgen gael ei eni o frid beirdd, a'i fagu yn nghanol y fath lu o feirdd, heb fod rhywfaint o arwyddnod yr Awen arno. Deallwn i Nicander ddechreu barddoni yn bur ifanc; canys cyfansoddodd Awdl ar y pedwar mesur ar hugain pan ydoedd tua deunaw oed. Testun yr awdl hon oedd yr enwau priodol sydd yn y Beibl. Creodd cywreinrwydd. cynghaneddol yr Awdl hon gryn syndod yn mysg beirdd Eifion; ac effeithiodd i Dewi Wyn goleddu gobeithion lled uchel am ddyfodol dysglaer i'r bardd ieuanc. Ac er mwyn i'r darllenydd gael rhyw ddirnadaeth am orchest gynghaneddol yr Awdl hon, rhoddwn iddo y dernyn hwn:—

"Selec, Iron, Salu, Cora,
Asir, Siah, Isar, Sehon,
Melci, Amnon, Milca, Imna,
Silem, Hogla, Salum, Eglon,
Meros, Hela,

MORUS WILLIAM."


Gwel pob darllenydd craff, fod arwyddion o allu mawr yn saernïaeth gynghaneddol y llinellau yna; ond er hyny, nid oes ynddynt un wreichionen o farddoniaeth. Y mae mwy o allu meddwl y celfyddydwr, nag o allu meddwl y bardd ynddynt. Fel yr oedd mwy o awydd y llenor cywrain, nag o'r bardd aruchel, yn ymddangos yn ngwaith Nicander yn moreu ei oes, felly yr ydoedd yn ymddangos yn ei waith trwy holl ystod ei fywyd. Dywedodd y diweddar Hugh Tegai wrthym, ei fod wedi darllen ei Awdl ar Genedl y Cymry, yn Eisteddfod Aberdar, a bod yr englyn canlynol yn engraifft deg o'r holl Awdl:—

"Holwch Nelson, a Boni,—a holwch.
Wellington uchelfri;
Ac Incerman am dani,
A chewch rês o'i hanes hi."

Mae yr englyn yna mor reolaidd, o ran cywreiniad ei gynghanedd, a "Meros, Hela, Morus William;" ond y mae yn llawn mor ddifarddoniaeth a'r "Meros, Hela, Morus William." Ac os yw yr englyn hwn yn engraifft deg o'r holl Awdl hòno, y mae yn hawdd gweled fod y cyfansoddiad yn graddio yn uwch fel dernyn celfyddydol, nag fel dernyn barddonol. Efallai mai y tri chyfansoddiad llawnaf o farddoniaeth o eiddo Nicander, yw ei Awdl ar y Greadigaeth, ei Bryddest ar Brenus, a'i Arwrgerdd i Moses. Y mae yn y cyfansoddiadau hyny rai darnau gwir odidog; ac y maent yn teilyngu lle yn mysg y gemranau mwyaf barddonol yn ein hiaith. Wrth edrych yn bwyllog ar holl gyfansoddiadau barddonol Nicander, y mae yn hawdd canfod, mai ei allu cywreiniol fel llenor, ac ysgolhaig, a'i cyfododd i'r safle anrhydeddus yr oedd ynddi, ac nid nerth, a chyfoethogrwydd ei athrylith fel bardd. Ac efallai mai fel llenor dysgedig, yn fwy nag fel prif-fardd gorlawn o grebwyll beiddiol, y cerir ei enw i'r oesau a ddeuant.

NICANDER FEL BEIRNIAD.

Yr oedd llawer o bethau yn cydgyfarfod yn Nicander i'w gymhwyso yn feirniad. Yr oedd ei adnabyddiaeth o lenyddiaeth, ei ddysgeidiaeth glasurol, ei chwaeth bur, a'i brofiad fel cyfansoddwr, yn ei gymhwyso yn fawr i'r swydd. Ond yr oedd ynddo bethau oeddynt yn ei anghymhwyso yn ddirfawr. Clywsom ef yn dywedyd, oddiar fanlawr Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, yn y flwyddyn 1862, wrth ddarllen ei feirniadaeth ar waith rhyw ymgeisydd aflwyddianus, y dylasid atal y wobr oddiwrtho, am ei fod wedi arfer ffugenw rhy fawr wrth ei gyfansoddiad. (Dywedodd hefyd, yr haeddasai Dewi Wyn golli ar Awdl Elusengarwch, yn Eisteddfod Dinbych, o herwydd iddo roddi yr enw Taliesin wrth ei waith). Heblaw hyn, dywedodd wrth adolygu Awdl Glanmor i'r Cynhauaf, y buasai yn well ganddo ef fod yn awdwr i'r llinell hon sydd ynddi,

"Bwrw ser, dan nifer, a nôd,"

na chael pum' cant o bunau o gyflog yn y flwyddyn! Yr oedd y ffaith ei fod yn agored i ddweyd ac i gredu pethau ffol fel hyn, yn sicr o fod yn ei anaddasu i lenwi ei swydd fel beirniad anrhydeddus, ac yr oedd yn sicr o fod yn tueddu i siglo ymddiried y rhai craff ynddo. Ond er yr holl bethau hyn, cafodd Nicander yr anrhydedd, fel Eglwyswr, o feirniadu yn yr Eisteddfodau, mor fynych, os nad yn fynychach na neb yn ei oes; ac y mae yn debyg na bu yr un gwr eglwysig yn eistedd ar y faine feirniadol mor aml ag ef ar ol y diweddar Walter Mechain.

NICANDER FEL PREGETHWR.

Yr oedd lluaws o bethau yn Nicander yn ei addasu i fod yn ddyn cyhoeddus. Yr oedd ei ymddygiad syml a boneddigaidd, pertrwydd ei barabl, clirder ei lais, coethder ei iaith, ac eangder ei wybodaeth, yn tueddu oll at ei gyfaddasu i'r areithfa. Yr ydoedd yn un o'r darllenwyr goreu ar y Beibl a glywsom erioed. Byddai ei glywed yn darllen penod o'r ysgrythyr yn gystal ag esboniad arni. Bu yn aros gyda ni am ddwy noswaith, pan oeddym yn byw yn Dolawen, ger Bethesda; ac nid anghofiwn, yn fuan, ei ddull dirodres yn darllen ac yn gweddïo hwyr a bore, wrth gadw dyledswydd. Ni allasai neb feddwl arno, wrth ei glywed yn ddarllen y sylwadau yn Meibl Peter Williams, ac wrth ei glywed yn gweddïo o'i frest, ei fod erioed wedi bod yn gwisgo gwenwisg; o herwydd yr ydoedd ei ddull yn llawer tebycach i hen bregethwr Methodistaidd nag i berson eglwys. Prif ddull Nicander o bregethu oedd y dull esboniadol, ond byddai weithiau yn ymddyrchafu i hwyl a gwres nefolaidd. Clywsom iddo unwaith rwygo ei wenwisg wrth daflu ei freichiau, a churo ei ddwylaw mewn hwyl orfoleddus. Ond eithriad i'w drefn o bregethu oedd ymollwng i hwyliau felly. Clywsom hefyd y byddai yn pregethu llawn cystal pan y byddai y clochydd ac yntau, ac ychydig o hen wragedd, yn bresenol, a phan y byddai llonaid y cathedral yn ei wrando; ac yr oedd hyny yn ganmoladwy ynddo; ac yn addysg dda i lawer pregethwr Ymneillduol, sydd yn cael ei ddylanwadu gan nifer ei wrandawyr. Efallai na bu pregethwr mor ysgolheigaidd erioed yn pregethu i gynulleidfaoedd llai nag y bu Nicander. Gresyn na fuasai gwr o'i fath yn cael lle teilyngach o'i dalentau dysglaer. Ond efe a fu farw; ac mae y wlad yn teimlo, ac yn galaru ar ei ol. Os gofyn rhywun paham y mae bywgraffiad Eglwyswr yn cael lle mewn cyhoeddiad Ymneillduol, dywedwn mai am yr un rheswm ag y mae pregeth Ymneillduwr yn cael lle mewn pulpud eglwysig, a phregeth Eglwyswr yn cael lle mewn pulpud Ymneillduol. Ac y mae llawer o'r fath bethau.


Nodiadau

golygu
  1. Sir y Fflint