Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar/Rhan III
← Rhan I | Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar gan John Davies, Llandysul |
Marwnad → |
RHAN III.
FEL DYN, GWEINIDOG, A CHRISTION.
Ei ddyn oddi allan—Ei atebion ffraethlym―Yn ddyn llawn—Synwyr cyffredin cryf—Yn gyfeillachwr hapus—Yn cymhwyso ei hun i wahanol gylchoedd cymdeithas Cyfaill ffyddlon—Rhyddfrydwr o ran syniadau gwleidyddol—Yn weinidog da—Adeiladu tri o gapeli—Bedyddio llawer—Amryw weinidogion parchus—Gofalu am achosion gweiniaid—Hyfforddiadau i weinidogion ieuainc—Myned yn mlaen gyda'i oes—Cristion da, egwyddorol, ac ymarferol.
Y dyn oddi allan.—Nid oedd ein hoffus frawd y Lefiad mwyaf golygus, eto nid oedd mewn un modd yn anafus. Nis gallai ymffrostio gyda'r Hybarch J. Jones, Llandyssul, yn ei allu i gerdded; canys yr oedd y gwaith hwnw yn feichus a phoenus iddo; yr oedd bob amser yn marchogaeth, neu yn gyru mewn cerbyd. Yr oedd o uchder cyffredin, tua phump troedfedd a chwech modfedd; ei wyneb yn llydan, ac o liw tywyll; edrychiad llym, llygaid bywiog, a thalcen llydan. Nid oedd yn rhoddi pwys ar ymddangosiad chwaethus mewn arddull corph na phrydferthwch gwisgiad; byddai yn glogyrnaidd ac annhrefnus. Yr oedd yn amlwg na fu dolenu ei gadach gwddf erioed yn destun ei fyfyrdod. Nid yn aml y byddai yn dadrus ei wallt; a phan y gwnai, nid oedd ond yn hynod aflunaidd; pe buasai ein hybarch frawd yn rhoddi ei fryd ar drwsio ei ddyn oddi allan, gallai ymddangos lawer mwy boneddigaidd. Yr ydym o angenrheidrwydd i gydnabod fod chwaeth dda ar y pen hwn yn gaffaeliad gwerthfawr.
Ei atebion arabedd a ffraethlym.—Y gallu hwn oedd cuddfa cryfder ein harwr. Yr oedd ei atebion yn hynod barod a tharawiadol dros ben. Gellir dweyd, yn ngeiriau Ioan,—pe ysgrifenasid ei ymadroddion ffraeth-bert un ac oll—"nid wyf yn tybied y cynnwysai y byd y llyfrau." Gosodwn yr enghreifftiau canlynol fel dangoseg o'i dalent anghydmarol :Cyfarfuwyd ag ef un tro gan ddau o efrydwyr Coleg Llanbedr, y rhai, wedi clywed am ei ddoniau arabedd, a benderfynasant ofyn cwestiwn iddo, yn dwyn perthynas ag Euclid, gan feddwl ei goncro yn ddiffael. Wedi cyfarch y naill y llall: "Mr. Williams," ebai un o honynt, "caniatewch pe byddai y Bod mawr yn creu dau fynydd ar y gwastadedd yma, beth fyddai wedyn?" "Byddai cwm yn y canol rhyngddynt, bid siwr," oedd yr ateb. Yr oedd un tro yn ffair Llanybyther yn gwerthu mochyn. Bu yno fargena taer iawn o bob tu; Mr. Williams yn taeru fod y mochyn yn werth ychwaneg na chynygiad y prynwr ; hwnw, o'r tu arall, yn taeru ei fod yn cynyg digon. Beth bynag, ymadawsant heb ddyfod at eu gilydd. Dygwyddodd fod brawd lled bwysig, yn perthyn i'r frawdoliaeth yn Aberduar, yn gwrandaw yr ymgom o'r dechreu hyd y diwedd; a chan fod y prynwr yn wrandawr selog yn y lle, gofidiai na fuasai Mr. Williams yn rhoddi ffordd. Wedi iddynt ymadael, trodd yr aelod ato gan ddweyd, "Mr. Williams, yr ydych wedi gwastraffu nerth ac amser rhyfeddol i siarad am y swm bychan o hanner coron," canys dyna oedd y gwahaniaeth rhyngddynt. "Frawd bach," oedd yr ateb, "fe ddywedais I gymmaint a hyna ddeng waith am swllt cyn hyn." Flynyddau yn ol, pan oedd achos gweinidog ac eglwys ger bron Cynnadledd Sir Gaerfyrddin, am drosedd ar reolau ein Cymmanfa; yr hwn, pan ddeallodd fod pethau yn gwynebu yn ei erbyn, a diarddeliad yn ymddangos yn anocheladwy, a daflodd lythyr yn cynnwys resignation i'r ysgrifenydd, yn hytrach nac ymostwng yn dawel i'r ddysgyblaeth. Hysbyswyd Mr. Williams (yr hwn oedd allan ar y pryd) o'r dygwyddiad hynod. "O," meddai, "dyna drick Twm yn ngharchar Sir Gaernarfon. Hysbyswyd Twm ei fod i gael ei grogi am ddeg o'r gloch dranoeth. Na, na,' oedd ateb y carcharor, 'fe ysparia I eu sport hwy; fe groga fy hun heno!" Wedi gorphen pregethu mewn Cymmanfa a gynhaliwyd yn y Tabernacle, Caerfyrddin, daeth ei hen gyfaill (Isaac Evans, Cwmtwrch,) i gyffyrddiad ag ef—aelod gwreiddiol, cofier, yw y brawd anwyl a pharchus hwn o Aberduar, ac wedi bod am flynyddau dan ei weinidogaeth—a chymerodd yr ymddyddan canlynol le rhyngddynt:— "Wel, Isaac, sut y pregethais I, d'wed?" "Fe bregeth'soch yn odidog; nid wyf yn meddwl y pregetha neb yn well na chwi yma heddyw. Pan welais chwi yn dyfod yn mlaen i front y stage—ac os gweddïais erioed—fe weddïais o eigion fy enaid am i chwi gael nerth, a chwi a gawsoch nerth i'w ryfeddu." "O, Isaac," ebai, dan chwerthin yn iachus fel y medrai wneyd, "mi welaf dy fod ti am gael y gogoniant i gyd am weddïo drosof, ac nid oes ond ychydig neu ddim i mi am bregethu yn dda." Flynyddau mawr yn ol, pan oedd ein harwr yn sefyll ar lan bedd dynes a fuasai am gyfnod maith yn gorwedd yn ei gwely, gofynodd un o'i pherthynasau (yr hon oedd yno ar y pryd) iddo wneyd pennill i'r ymadawedig? "Gwnaf," ebai Mr. Williams, "ar yr ammod i ti beidio ffromi." Sicrhaodd ef na wnai ddigio. Yna esgorodd yr awen ar y pennill digrif canlynol, yr hwn sydd ar lafar gwlad yn mhell ac agos:—
"Yma gorwedd Lettis hagar,
'Lawr yn isel yn y ddaear;
Os cara'r bedd fel gwnaeth â'r gwely,
Hi fydd yr ola'n adgyfodi."
Yr oedd y dawn parod hwn wrth law ganddo yn mhob cylch y troai ynddo. Un boreu Sabbath, pan ar ei daith i bregethu i'w gylch eglwysig, cyfarfu ag un o weinidogion yr Undodiaid, yr hwn oedd yn hollol adnabyddus iddo, ac yn un o'i hoff gyfeillion. "Wel, T. G.," meddai ein harwr, "b'le yr ai di i wrandaw heddyw?" "Nid gwrandawr wyf i fod, canys byddaf yn pregethu fy hun yn y Cribin," oedd yr atebiad. "Yr wyf finau," ebai Mr. Williams, "yn myned i bregethu Crist i Bethel Silian." Pan yn talu y degwm unwaith i foneddwr a adnabyddir yn y wlad hon fel un o'r eglwyswyr mwyaf brwdfrydig a phenboeth, cyfarchwyd ef gan yr hen dywysog eglwysaidd fel y canlyn:—"Mr. Williams, buasai yn fwy priodol lawer eich gweled chwi yn derbyn tegwm na'i dalu." Ar darawiad amrant atebwyd ef gan ein harwr trwy ddweyd, "Dos yn fy ol i, Satan; rhwystr ydwyt i mi; am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion." Un tro, pan oedd ar ei daith i gwrdd mawr, galwodd yn hen gartrefle yr awdwr—Pontfaen, ger Llandyssul—wrth fyned heibio; a phan oeddem ein dau yn y cerbyd yn cychwyn, galwodd Mrs. Davies ar ein holau, gan ofyn, "Pa bryd y deuwch yn ol?" "Cerdd i'r ty, cerdd i'r ty," ydoedd yr atebiad ffraeth—lym, "gad i ni fyn'd yn gyntaf." Mewn Cymmanfa yn ngodre Sir Gaerfyrddin aeth Mrs. Ellis ato i ofyn ei helynt— priod Mr. John Ellis, un o ddiaconiaid Aberystwyth— un o'r teuluoedd goreu yn ein gwlad. Atebodd hi, Chwaer fach, yr wyt wedi dyfod ffordd bell i'r Gymmanfa. A wyt ti yn myned i'r Cwrdd Gweddi gartref?" Mewn cyfeillach gweinidog a drigfannai yn Sir Aberteifi, yr hwn nad oedd bob amser yn cario y syniadau mwyaf parchus am ei frodyr yn y weinidogaeth, crybwyllodd am ryw draethodau bychain a ysgrifenodd i'r Athraw, &c. Gofynodd y gweinidog crybwylledig iddo mewn tôn wawdlyd, "A ddarfu i chwi sylwi ar y gwallau sydd ynddynt?" I'r hyn atebodd Mr. Williams, "D. W., mae rhai yn dweyd eu bod yn gallu gweled dannedd chwain." Yr oedd hen weinidog yn Sir Aberteifi flynyddau yn ol a dybiai dipyn yn dra ffafriol am dano ei hun, a rhoddai gryn bwys ar ei fodolaeth. Mewn cyfeillach o weinidogion, galwodd sylw ei frodyr at ei brofiad neillduol. Dywedai ei fod yn hen, a'i fod yn tynu tua rhosydd Moab, bron gadael yr anial yn lân. Gosodai bwys mawr ar ei ymadawiad, mwy felly nag oedd eraill yn deimio. Atebwyd ef gan ein gwron, "Cerdd ynte, cerdd ynte. Os wyt yn myned paid cadw 'stwr. Fe fu y byd fyw cyn dy weled, ac fe fydd byw eto ar ol i ti farw."
Yr oedd Mr. Williams yn ddyn llawn, ac edrychid i fyny arno yn mhob cymdeithas y deuai i gyffyrddiad â hi. Pan gyda'r cyfoethog, teimlai y cyfryw fod yno foneddwr yn ei bresenoldeb; pan gyda'r talentog a'r dysgedig, teimlent hwythau fod tywysog athrylith yn eu plith; yr oedd ein brawd yn ymwybodol o'i gryfder a'i sefyllfa ar y pen hwn, canys nid oedd byth yn dychrynu rhagddynt.
Yr oedd yn berchen synwyr cyffredin cryf. Bendith fawr ydyw y gallu hwn i bob dyn, ond yn fwy felly i bregethwr na neb. Y mae llawer dyn cyhoeddus yn fawr yn y pwlpud; ond wedi disgyn oddiyno y mae yn "llai na'r lleiaf," ac yn fwy diafael na'r cyffredin. Yr oedd y dawn hwn yn gryf yn ngwrthddrych ein cofiant; trwy hyn yr oedd yn gallu llanw holl gylchau cymdeithas gyda deheurwydd neillduol ; ac yn wir ni welsom neb erioed yn fwy llawn o elfenau cymdeithas na'r gwr da hwn. Efe oedd y siaradwr lle bynag y byddai yn y lletty, Cwrdd Chwarter, y Gymmanfa, gyda gweinidogion neu leygwyr, "Williams, Aberduar," oedd yn traethu, a phawb yn dysgwyl wrtho ac yn gwrando arno.
Treuliasom lawer awr hapus yn ei gyfeillach. Yr oedd Mr. Williams yn astudio cysur cymdeithas, ac yn cymhwyso ei hunan i fod ynddi. Pan fyddai yn mhlith gweinidogion neu ddynion o safle uchel, byddai yn adrodd ystorïau am weinidogion enwog a diaconiaid gwerthfawr, megys y Parchn. T. Thomas, Aberduar; Saunders, Merthyr; Christmas Evans, &c. Yr oedd yn hynod hoff o adrodd am yr Hybarch Christmas Evans. "Pan yn ymadael â Chaerdydd, annogwyd ef gan un o Gynnadleddau y Gogledd i fyned i Gaernarfon, ac fel rheswm dros iddo fyned, dywedodd rhyw un yno fod yr annogaeth yn briodol am fod ei ddawn yn taro y lle. Beth ddywedaist ti?' gofynai yr hen wron, 'fy nawn I yn taro y lle. Nid rhyw ddawn lleol fel yna sydd genyf fi, ond dawn i'r holl fyd.' Clywsom ef lawer gwaith yn adrodd am un o hen ddiaconiaid Llanwenarth, yr hwn oedd yn uwch—Galfin mewn barn; byddai yr hen frawd yn rhoddi mwy o bwys ar adnodau ag oedd yn ymddangos iddo ef dipyn yn Galfinaidd na'r rhai Arminaidd. "Dyna adnodau yw y rhai hyn," meddai, "Ei etholedigion,' &c.'Ei ddefaid,' &c.—Ei blant,' &c. Y mae adnodau bach i'w cael, mae yn wir, Yr holl fyd—pob dyn— a phawb.'" Byddai yn cynnal digrifwch anarferol gyda'i frodyr yn y weinidogaeth mewn perthynas i'w oedran. Ni wnai ar un cyfrif ddweyd ei oedran—yr hyn, fel pethau eraill, oedd yn perthyn i'w nodweddau digrifol. Mewn cyfarfodydd neillduol, ar adegau hamddenol, byddai y brodyr yn cynghreirio er ei hud—ddenu i'r fagl hon trwy ofyn cwestiynau iddo, megys "B'le ei ganwyd? Faint o amser y bu yn y fan a'r fan, a'r lle a'r lle?" Ond buan canfyddai eu hamcanion cyfrwysgall, ac nid oedd tâw ar ei siarad wedi buddugoliaethu arnynt. Y brofedigaeth fwyaf danllyd diammheu a gafodd ein hoffus frawd ar y pen hwn ydoedd mewn Cyfarfod Chwarterol yn Llanfynydd. Cafodd ef a minau ein penodi i'r un lle i lettya, fel y byddem yn arferol. Mor bell ag yr ydym yn cofio mai un o'r Trefnyddion Calfinaidd ydoedd ein gwesttywr; dyn o ymddangosiad hynod hynaws a thawel. Yr unig eiriau a gawsom oddiwrtho ar hyd yr holl ffordd adref ydoedd atebion i ofyniadau uniongyrchol, yr un fath wedi myned adref. Gwnaeth Mr. Williams nodiadau droion wrthyf am dano yn ei absenoldeb, na welodd ddyn erioed â golwg mwy diniwed. Wedi swperu, cawsom hamdden wrth y tân cyn myned i'r gwely. Tra yr ydoedd Mr. Williams yn ein difyru â'i ffraethebau difyrus, braidd y cawsom wên ar wyneb ein gwesttywr, hyd yn nod wrth wrandaw yr ystorïau mwyaf chwerthingar. Yn nghanol yr ymddyddan gofynodd i'r ysgrifenydd, Brodor o b'le ydoedd? Atebais ef. Gofynodd yr un cwestiwn i Mr. Williams, a gwnaeth yntau ei ateb. Yn mhen ychydig gofynodd drachefn i Mr. Williams am ei oedran yn dechreu pregethu, ac atebodd ef. Yn nes yn mlaen gofynodd eto ei oedran yn myned i'r athrofa. Atebodd, heb feddwl drwg drachefn. Yn mhen tymhor hirfaith, gofynodd ei oedran yn ymsefydlu yn Aberduar. Pan megys ar ymylon llithrigfa, tarawyd Mr. Williams gan ammheuaeth, a throdd ato ar ei wên gellweirus gan ofyn iddo, "Fachgen, a oes drygioni ynot? Os oes drygioni ynot ti, ni roddaf fy ymddiried mewn dyn byth, oblegid yr wyt wedi'm twyllo yn deg." A gwir oedd y peth; gwnaeth ein cymwynaswr addefiad gonest fod nifer o weinidogion megys weinidogion megys "Lleurwg," a rhai cyffelyb iddo, wedi rhoddi arno i'w hud-ddenu i'r fagl; ac, yn wir, dihangfa brin a gafodd. Dranoeth yr oedd ein hoffus frawd yn ein plith fel Wellington wedi dychwelyd o faes Waterloo, ar ei uchel-fanau mewn buddugoliaeth. Yn mhob cyfrinach gwnai edliw iddynt eu methiant siomedig, ac yn wir yr oeddynt hwy yn cael cymmaint o ddifyrwch wrth gael eu plagio ganddo, ag oedd yntau yn deimlo wrth eu plagio. Pan y byddai yn myned i deulu drachefn, yr oedd ganddo ddigrifion yn eu taro hwythau. Siaradai yn debyg i hyn:—"Tomos, yr ydych chwi yn meddwl yn fawr am eich bachgen, mi wranta; meddwl nad oes plentyn yn un man fel efe. Fel y tad hwnw oedd yn bostio, 'Dyna ysgolhaig yw John ni; y mae y blaenaf yn y class ond un.' 'Ië, ebai y llall, 'pa sawl un sydd yn y class?' 'O! dau,' ebai y tad. Erbyn hyn yr oedd John ni yn olaf." Dywedai wrth y wraig drachefn, "Yr ydych chwithau yn meddwl nad ydyw Tomos ddim yn eich caru mor wresog ag ydoedd yn y dechreu, mi wranta. A glywsoch chwi y 'stori am Twm, Cae—mawr, a Betti? Yr oedd Betti o hyd yn dweyd wrth Tomos nad ydoedd yn ei charu fel yr oedd pan briododd efe hi. 'Ydwyf, ydwyf, Betti fach,' ebai yntau, 'yn awr gymmaint ag erioed.' 'Na, nid wyf yn credu,' meddai Betti drachefn. Ar hyn dystawodd Tomos, a 'chwanegodd Betti trwy ddweyd, 'Fe dde'st â cheffyl a chyfrwy i'm cyrchu yma, Tomos.' Ar hyn cynhyrfodd Tomos, a dywedodd, 'Betti, fe ddown I â cheffyl a dau gyfrwy i dy hebrwng oddiyma.'
Yr oedd yn gartrefol yn mhob teulu yr elai iddo, ac yn gwneyd pawb o'i amgylch i deimlo yr un modd. Y gwir yw, yr oedd y gwesttywyr caredig mewn cyfarfodydd yn barod i gwympo allan am ei gael o dan eu cronglwyd. Cof genyf, flynyddau mawr yn ol, ei fod ef a minau yn cyd—deithio o Aberteifi, ac yn bwriadu llettya y noswaith hono yn Llandyssul. Yr oedd yr awdwr yn gweinidogaethu ar y pryd yn Bethel a Salem, Caio. Wedi gorphwys am ychydig yn Mhenybont, galwodd Mrs. Jones i fewn, a dywedodd wrthi yn debyg i'r hyn a ganlyn:—"Mrs. Jones, mae eisieu lletty arnaf heno; mae Mrs. Jones y shop yn dwli am fy nghael, a Mrs. Phillips, Blue Bell, yr un modd; ond yr wyf yn cynyg yr anrhydedd yn flaenaf i chwi: 'nawr dywedwch yn y fan." Mrs. Jones yn ateb, wedi ei llyncu fyny gan ei ddigrifwch, "Yma yr ydych i fod Mr. Williams bach." Yr oedd yn gyddeithiwr diail, o herwydd yr oedd ei ymddyddanion mor ffraeth-bert a difyrus.
Cof genyf am dri o weinidogion yn cyd-deithio o Llanrhystyd i Dregaron. Mr. Williams ar gefn caseg uchel; yr ail ar gefn pony o faintioli cyffredin; a'r trydydd ar gefn un "bychan bach," un o'r rhai lleiaf a welsom erioed yn cario bod dynol ar ei gefn. Dywedodd yr olaf na welodd un erioed allasai guro yr un bach mewn trot o hir barhad: atebodd Mr. Williams fod ei gaseg ef yn un o'r goreuon: taerodd y llall y buasai yr un bach yn sicr o'i maeddu. Safodd Mr. Williams, ac edrychodd arno ef a'r pony bach mewn syndod, gan ddweyd, "Fachgen, 'does dim lle i ddirgelwch yn hwna."
Yr oedd yn gyfaill ffyddlon. Gwyddom am frodyr fu yn ei gyfeillach am flynyddau lawer: nid oedd twyll, hoced, na brad yn perthyn iddo. Nid oedd un amser yn siarad yn anmharchus am neb yn ei gefn, ac ni theimlai yn hapus i wrando ar neb arall yn gwneyd hyny; darfu i ni sylwi arno lawer gwaith yn edrych yn ddiflas, gan droi at rhyw bwnc arall, yn hytrach na gwrando arnynt. Byddai bob amser yn wyliadwrus rhag archolli teimlad neb. Yr oedd yn ymddangos yn edrych ychydig yn annibynol ar y dechreu i'r dyeithr; ond wedi ymgynefino ag ef, teimlid ef yn agos atoch, er y byddai ef yn arfer digrifwch diniwed wrth y rhai oedd yn ei garu fwyaf. Flynyddau yn ol, yr oedd gweinidog yn Sir Aberteifi heb fod yn un o'r rhai mwyaf talentog a threfnus ei ymadroddion, eto yn meddwl llawer o hono ei hunan. Byddai y brawd hwnw yn gwisgo fynychaf yn bur dda, a cheffyl golygus dano; yn yr allanol yr oedd yn rhagori ar Mr. Williams. Pan ar eu taith i gyfarfod yn Mhontrhydfendigaid, yr oedd y bobl yn talu gwarogaeth trwy wneyd curtsi a chodi het, &c. Dywedodd y brawd wrth Mr. Williams mai efe oedd gwrthddrych yr arwyddion parchus hyn. Atebodd yntau ei fod ef yn eu cael gystal ag yntau. "Beth bynag am y gorphenol," ebai Mr. Williams, "y fi gaiff yr oll o hyn allan." Gwnaeth ein harwr drick ag ef. Safodd o'r tu ol iddo, a phan y byddai dyn neu ddynes yn dyfod, tynai Mr. Williams ei het iddynt yn gyntaf, tu cefn i'r cyfaill golygus; felly y gwnaeth y bobl yr un cyfarchiad, wrth gwrs, yn ol i'r hwn oedd yn eu cyfarch gyntaf. Wedi colli yr holl foesgyfarchiadau, a Mr. Williams yn ei boeni, cyffrodd nwydau y gwr balch i raddau mawr, a bu agos iddo gyflawni trosedd pwysig yn erbyn ein harwr; dan yr amgylchiadau hyn i ffwrdd ag ef nerth cyflymdra yr anifail. Yn mhen tymhor, mewn ty gerllaw, daliwyd ef gan Mr. Williams, a rhybuddiodd ef am ei bechod, gan osod ger ei fron y gosp a roddai arno, sef—y tro cyntaf y clywai ef yn pregethu—y gwnai anfon ei bregeth air am air i Seren Gomer. Dychrynwyd y brawd mor ofnadwy fel na phregethai ar un cyfrif yn ei glyw drachefn. Ond cyn nemawr amser ar ol hyny yr oedd yn pregethu mewn cyfarfod neillduol, a phan oedd ond newydd ddechreu daeth Mr. Williams i fewn; ac er syndod i bawb, dyna y pregethwr yn tori i fyny ar unwaith rhag ofn y fflangell.
Yr oedd Mr. Williams yn Rhyddfrydwr trwyadl o ran ei syniadau gwleidyddol, ac yn un a deimlai lawer iawn o ddyddordeb mewn achosion o'r fath.
Condemnir gweinidogion Ymneillduol am ymyraeth mewn achosion o'r fath. Pan chwilir hanes y tylwyth hyn, ceir mai nid gofal dros ein crefydd a'n duwioldeb sydd arnynt, ond ofn ein dylanwad. Y mae ymdrechu am ein rhyddid a'n hawliau gwladol yn bechod yn eu cyfrif hwy; yr hawliau a waharddant i eraill a fwynheir ganddynt hwy eu hunain. Dymunem eu sicrhau, tra fyddo Eglwyswyr gwleidyddol, fe fydd Ymneillduwyr gwleidyddol hefyd; ac, yn wir, onid ydym yn ddinasyddion fel eraill, ac yn talu trethi? Tra fyddom felly y mae gan weinidogion hawl i ymyraeth â chyfreithiau y wlad.
Gweithiodd ein harwr drwy ei oes gyda ffyddlondeb yn y cyfeiriad hwn; ac yn 1868, sef yr etholiad cyffredinol, collodd y Gwrdymawr, sef ei anwyl gartref y treuliodd dros ugain mlynedd mor ddedwydd ynddo. Yr oedd Mr. Williams, yn un o ddysglaer lu y merthyron gwleidyddol yn y cyfnod hwnw; safodd y brofedigaeth fel gwron, ac ni fedrodd gwg na bygythion ei feistr tir syflyd ei nerth moesol. Yr oedd rhyw ddynion yr adeg hono, fel ar adegau cyffelyb, yn cymeryd eu harwain megys caethion i foddio nwydau llygredig eu meistriaid, a hyny ar draul sathru iawnderau y gydwybod o dan eu traed. Nid dyn glasdwraidd felly oedd gwrthddrych ein cofiant, ond gwron diail a fedrodd ddweyd yn ngwyneb ei feistr tir, na wnai blygu glin cydwybod iddo er peryglu cartref hoff. Diolch i Dduw fod rhai o'r stamp hyn i'w cael; onide, arosai y byd yn dragywyddol dan iau caethiwed.
FEL GWEINIDOG.
Y mae llawer un yn bregethwr da, ond yn weinidog tylawd. Nid ydym am honi fod Mr. Williams y gweinidog goreu; er hyny, yr oedd llawer o ragoriaethau yn perthyn iddo. Y mae y ffeithiau canlynol yn profi hyny.
Bu yn weinidog yn yr un eglwys am ddeugain mlynedd. Yr oedd yn arfer ymffrostio yn ei arosiad yn yr un lle; ac, yn wir, yr oedd ganddo hawl i hyny; nid peth bach oedd byw mewn tangnefedd gyda'r un bobl am gynnifer o flynyddoedd. Y mae clod hefyd yn perthyn i'r eglwys am ei hysbryd tawel a llonydd; nid yn unig mewn cysylltiad â Mr. Williams, ond pob gweinidog a fu yn gweini iddi er ei dechreuad; ni anfonodd un gweinidog ymaith erioed. Gwir i rai ymadael, ond gwnaeth yr eglwys ei goreu i'w cadw, megys Saunders, Merthyr, a'r enwog John Williams, Trosnant, &c., &c.
Parhaodd Mr. Williams yn wir barchus hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yr aelodau a'r gwrandawyr â meddwl pur uchel am dano. Yr oedd yr hen aelodau, y rhai oedd yn debyg iddo o ran oedran, yn hynod ëofn arno. Dyma enghraifft o'r modd y byddent yn siarad â'u gilydd yn aml. Un boreu Sabbath, pan yn dyfod oddiwrth y capel, yr oedd yn cyd-gerdded â gwraig lled dalentog. Dechreuodd Mr. Williams bysgota ychydig o glod oddiwrthi; deallodd hithau ei amcan, a dyma ydoedd yr ymddyddan gymerodd le:—
Y Pregethwr "Yr oedd tyrfa fawr o bobl yn Aberduar heddyw."
Y Wraig—Yr oedd yn foreu fine iawn, welwch chwi."
Y Pregethwr "Yr oedd y bobl yn hynod sylwgar wrth wrando."
Y Wraig—"Mae yn fresh iawn yn y boreu; mae pawb a'u penau i'r lan."
Y Pregethwr—"Ie: fe bregethais inau yn dda iawn."
Y Wraig—" Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun."
Y Pregethwr" Paham na wnewch, ynte? Gwell i mi ganmol fy hunan na bod heb yr un o gwbl."
ADEILADU TRI O GAPELAU.
Aberduar.—Yr hwn a ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1841, pa un sydd yn adeilad prydferth, a mynwent fawr yn perthyn iddo.
Bethel Silian.—Adeiladwyd hwn eto yn ei amser ef. Yr oedd yr hen achos yn y Coedgleision o fewn milldir a hanner i'r lle yr adeiladwyd y capel newydd. Darfu i Mr. Evans, Tanygraig, roddi tir ac adeiladu y capel ar ei draul ei hunan, ond rhyw sut gwaelu y mae yr achos wedi gwneyd hyd yn bresenol oddiar ei symmudiad i'r lle newydd.
Caersalem.—Adeiladwyd hwn eto yn ystod bywyd yr un gweinidog, yr hwn sydd tua milldir a hanner i'r de-ddwyreiniol o Llanbedr, ac yn gapel o faintioli cyffredin. Mae wedi meddiannu y wlad o amgylch, ac yn bresenol y mae yno eglwys gref a chynulleidfa ragorol. Gadawn i'r dyn gwerthfawr hwnw—Mr. Thomas Morgans, Fraich Esmwyth—i ddweyd hanes yr achos blodeuog hwn o'i ddechreuad. Gadawodd ysgrif ar ei ol, pa un sydd yn meddiant D. Lloyd, Ysw., Dolgwm House, Llanbedr, pa un a osodwn ger bron y darllenydd:
"Yn nechreu haf 1839 cafodd aelodau Aberduar, ag oedd yn byw yn y rhan uchaf o blwyf Pencareg, annogaeth i geisio gan y Parch. John Williams i ddyfod i'r gymydogaeth hono; a chafwyd ty gan William Williams, Parkyrhos, a bu yn pregethu yno am amryw fisoedd, a llawer iawn yn dyfod yno i wrando. O gylch mis Awst y flwyddyn hono, anfonwyd un o'r brodyr i gymeryd y ty i'r perwyl o bregethu, a buwyd yn pregethu yno am yn agos i flwyddyn; ac yn mis Gorphenaf, 1840, daeth un y'mlaen i ddangos ei bod yn chwenych uno a'r Bedyddwyr, a bedyddiwyd hi yn yr afon yn agos i Barkyrhos ar yr 19eg o Orphenaf, 1840; yr wythnosau canlynol daeth amryw y'mlaen hysbysu eu bod yn ewyllysio dangos eu cariad at Fab Duw trwy ufuddhau i'r ordinhad o Fedydd. Ar yr 16eg o Awst bedyddiwyd wyth ar eu proffes o'u ffydd, a chadwyd y cwrdd cymundeb cyntaf yn Parkyrhos. Ar yr achlysur mae'n debyg i John Williams i ddweyd rhywbeth nad oedd wrth fodd taenellwyr babanod i'r fath raddau fel y darfu iddynt weithio mor effeithiol ar berchen y ty, yr hwn oedd a'i wraig, a'i nai—yn perthyn i'r Independiaid, fel y dafu iddo anfon cenad at un o aelodau y Bedyddwyr i'w rhybuddio na chaent ddim pregethu yno' ond am bythefnos, ac na chaent fedyddio yn yr afon ar gyfer ei dir. Ond mor gynted ag y clybuwyd fod y ty uchod yn cael ei gau, clywsom fod ty yn Tanlan. Felly awd i Tanlan.—THOMAS MORGANS."
Bu yn hynod lwyddiannus i fedyddio. Yn y flwyddyn 1859 bedyddiwyd dros gant, ac un boreu Sabbath yn y flwyddyn hono bedyddiodd 39 mewn ugain mynyd. Er nad oedd ein brawd o gorph cryf, eto yr oedd yn hynod ddeheuig gyda y gwaith hwn, ac yn cael ei ystyried yn Fedyddiwr da. Bedyddiodd amryw o weinidogion parchus, pa rai sydd agos oll wedi troi mewn cylch o ddefnyddioldeb, megys y Parchn. D. Jenkins, Jesreel; John S. Hughes, Abertawy; D. Evans, Llaneurwg; T. Davies, Cwmfelin; a Mr. Evan Evans, Llanbedr.
Bu Mr. Williams yn hynod ffyddlon yn ei gylchoedd Cymmanfaol. Nid oedd neb yn fwy teimladwy i wrando ar gwyn achosion gweiniaid; gwyddom iddo wneyd llawer er eu cynorthwyo. Byddai yn arfer ceryddu gweinidogion am na fyddent yn arfer galw mewn lleoedd gweiniaid wrth basio i gyrddau mawr, trwy ddweyd, "Yr hen ffasiwn oedd gyda ni yn amser W. Evans, Aberystwyth, wrth fyned i'r cyrddau mawr, ydoedd pregethu yn Llanrhystyd, Swydd Ffynnon, &c. Wrth hyny yr oeddem yn cadarnhau yr eglwysi gweiniaid. Ond 'nawr y maent yn myned whiw gyda'r train, ac yn disgyn fel brain yn y cyrddau, heb neb yn eu gweled yn dyfod nac yn myned." Yr oedd Mr. Williams yn un o'r Cynnadleddwyr goreu, ac yn teimlo interest yn y gwahanol achosion, a phob amser byddai yn cael ei wrando ar eu rhan. Bu yn Ysgrifenydd y Cyfarfod Chwarterol am flynyddoedd. Y mae un rhinwedd arall yn galw am ein sylw arbenig.
Yr oedd yn hynod barod i roddi hyfforddiadau i'r gweinidogion ieuainc, ac yn teimlo dyddordeb yn hyny. Clywsom ef yn dweyd lawer gwaith wrth ddynion ieuainc yn debyg i hyn:—" Gofala bob amser am dy ddyledswyddau gweinidogaethol, fel na chaffo y bobl gyfle i'th geryddu. Paid syrthio i drugaredd neb mae trugaredd dyn yn fain iawn, ond trugaredd Duw yn llydan fel y môr." Bryd arall dywedai—"Peidiwch bod yn rhy awyddus i eistedd yn y prif gadeiriau. Byddwch yn amyneddgar, fe ddaw eich amser yn naturiol; mae ei gyfnod i bob un. Fel y byddo y brodyr da sydd yn eistedd ynddynt yn bresenol yn cael eu symmud ymaith, byddwch chwithau yn stepio y'mlaen i'w lleoedd." Yr oedd yn gyfaill i ddyn ieuanc gobeithiol, a gwnaethai lawer drosto. O'r tu arall, nid oedd un bod ffieiddiach yn ei olwg na phregethwr hunanol, yn neillduol dyn ieuanc felly; yr oedd y cyfryw yn sicr o oddef ei geryddon llym. Cof genyf, flynyddau mawr yn ol, am ddyn ieuanc wedi symmud i un o eglwysi mawrion Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn amlwg fod y brawd hwn o dan ddylanwad hunanoldeb i fesur helaeth; byddai ar ei eithaf yn gwthio ei hunan yn mlaen i'r prif gadeiriau. Pan wedi gorphen ciniaw mewn Cwrdd Chwarter, galwodd Mr. Williams arno trwy ddweyd, "I., y mae genyf 'stori i'w hadrodd wrthyt, gwrando dithau. Yr oedd ffermwr mawr, ar lan Teifi, yn magu tarw bob blwyddyn. Yn mhen rhyw ddwy flynedd, byddai y teirw yn myned yn wyllt (canys yr oeddynt yn cael eu porthi yn dda), ac yn tori ar draws y cloddiau i diroedd eu cymydogion, a mawr yr helynt fyddai yn eu herwydd; eithr pan elent yn rhy ddrwg, byddai y meistr yn eu saethu. Magwyd un tarw coch nice yno, yr hwn oedd hoff eidion y gwas lleiaf. Pan tua dwy flwydd oed, dyma yntau yn tori ar draws y cymydogion; ac wrth ddychwelyd, cyfarfyddodd y crwt ag ef ar yr heol yn ymyl y ty, yr hwn a'i cyfarchodd ef fel y canlyn:'Darw coch, gwrando air o gynghor; yr wyf yn gyfaill i ti, ac yn dymuno dy les; yr wyf yma er's blynyddoedd, ac wedi gweled llawer un o dy fath yn cael eu magu yma, ac wedi iddynt dyfu i faintioli yn tori ar draws y wlad. Y canlyniad fu i meistr eu saethu bob un; ac fel y mae byw dy enaid, os troedi eu llwybrau, yr un fydd dy dynged anffortunus dithau." Cafodd y cerydd hwn effaith anghydmarol ar feddwl y dyn ieuanc. Yr oedd un bachgen yn weddïwr doniol iawn yn eglwys Aberduar, a byddai y gweinidog yn hoff iawn o'i orchymyn i weddïo, yn neillduol pan mewn dosbarth ar gyrau yr eglwys. Chwyddodd y dyn wrth y sylw oedd Mr. Williams yn ei wneyd o hono, a deallodd y gweinidog ei fod yn y cyflwr peryglus hwnw. Un diwrnod, er mewn pysgota clod, gofynodd i Mr. Williams, "Sut yr ydych yn fy rhoddi i weddïo fel hyn yn amlach na neb?" Atebodd Mr. Williams ef trwy ddweyd, "A fuoch chwi yn edrych ar eich mam yn gwneyd canwyllau erioed? Gwyddoch mai y rhai meinaf y mae yn dipio amlaf yn y pot â'r gwêr." Deallodd y brawd yr hint a bu dawel.
Yr oedd Mr. Williams yn wahanol i lawer o hen weinidogion trwy ei fod yn symmud yn mlaen gyda'r oes. Yr oedd mor gartrefol gyda'r ieuanc a'r hen, a hwythau yr un modd gydag yntau.
Yr oedd yn un selog dros ben dros ei egwyddorion fel Bedyddiwr. Cafodd brofedigaethau llymion gan y Parch. John Jones, Llangollen, yr hwn a fu yn weinidog am dymhor yn Rhydybont a Chapel Nonni. Pan yn mhoethder amrafaelion mawr bedydd, dywedir i Mr. Williams roddi ffordd i wawdiaeth un boreu Sabbath, wrth fedyddio, er dangos y gwahaniaeth oedd rhwng y llawenydd oedd yn blaenori bedydd yr oes Apostolaidd i'r hyn oedd eiddo bedydd y Taenellwyr yn amser Jones, Llangollen. "Fel hyn y byddai y bobl gynt yn dweyd, 'Mae tair mil wedi eu dwysbigo ar ddydd y Pentecost.' 'Diolch am hyny,' ebai'r saint, mae gobaith am fedyddio eto!' 'Mae gwŷr a gwragedd wedi credu yn Samaria.' 'Diolch byth!' oedd yr adsain, 'ni gawn fedyddio eto.' Ond yn ol athrawiaeth Jones, Llangollen, fel hyn mae'r llawenydd yn gweithio, 'A glywsoch chwi fod Gweno, morwyn Penrhos, yn feichiog o John, Tŷ-draw?" Diolch am hyny,' ebai y brodyr taenellyddol, 'mae gobaith am fedyddio eto!' 'A glywsoch chwi fod Mary, Tŷ-bach; Eliza, Godre'r-waun; a Mrs. Jones, Tŷ-mawr, yn y ffordd gyffredin? Diolch am hyny,' ebai'r taenellwyr, 'llawenhawn! y mae gobaith am fedyddio eto."" Medrai arfer gwawdiaeth gyda rhwyddineb mawr, eto nid bywyd rhyfelgar oedd ei hoff awyrgylch: canys mab tangnefedd ydoedd yn naturiol.
FEL CRISTION.
Ar ryw olwg gellir cymeryd Mr. Williams yn ddyn ysgafn, cellweirus. Yr oedd y dawn hwnw, cofier, yn hollol naturiol iddo, ac felly yn fwy esgusodol wrth ei arfer; efallai ei fod yn rhoddi y ffrwyn iddo ormodol ar rai prydiau. Yr oedd gan ein brawd grefydd egwyddorol. Y mae hyn yn amlwg trwy fod yr elfen grefyddol yn rhedeg drwy ei holl gyfansoddiadau, ei bregethau, yn nghyda'i gyfeillach ddirgelaidd. Yr oedd teimladau crefyddol yn llywodraethu ei galon. Y canlynol fyddai ei hoff emyn:—
"Yn dy waith y mae fy mywyd,
Yn dy waith y mae fy hedd;
Yn dy waith 'rwyf am gael aros
Tra bwy 'r ochr hyn i'r bedd;
Yn dy waith ar ol myn'd adref,
Trwy ofidiau rif y gwlith;
Moli 'r Oen fu ar Galfaria—
Dyna waith na dderfydd byth."
Heblaw, yr oedd gan ein brawd grefydd ymarferol; yr oedd ei fywyd i fesur helaeth yn ddifrycheulyd ger bron y byd. Bu yn ffyddlon i'w Arglwydd yn y cylch pwysig a ymgymerodd arno, ac hyderwn ei fod wedi cyfranogi o'r croesawiad hwnw y clywsom ef yn dweyd mor hyawdl arno, "Da was, da, a ffyddlawn: buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."
Pell ydym o honi perffeithrwydd i'n hanwyl frawd ar y pen hwn; gallai fod rhai yn rhagori arno. Eto myntumiwn fod ynddo nodweddau gwir Gristion. Yr oedd yn meddu syniad goruchel a dyrchafedig am Dduw, ei air, a'i waith sanctaidd. Yr oedd holl alluoedd uwch—raddol ei enaid yn cael eu taflu fel gemau gwerthfawr wrth draed ei anwyl Geidwad. Hawdd canfod yn ei waith yn ymdrin â'r pethau cysegredig, fod yno deimlad dysgybl wrth draed ei athraw yn gofyn, "Pa beth a fynni di i mi i'w wneuthur?" Wedi darllen pennod neu ei destun, byddai bob amser yn ymarfer yr ymadrodd hwnw, "Felly y darllenwyd rhan o air yr Arglwydd." Nid ydym yn cofio i ni sylwi ar neb erioed yn ymdrin â'r pethau dwyfol gyda mwy o wyleidd-dra.
Iawn ac Aberth ein Gwaredwr oedd unig sail ei obaith am iachawdwriaeth ei enaid. Llawer gwaith y clywsom ef yn dweyd, "Os cedwir fi, bydd hyny yn hollol trwy waed y groes." —Yr oedd y dyn mawr yn llai na'r lleiaf o'r holl saint yn ei brofiad a'i deimlad mewn perthynas i'w gadwedigaeth.
Yr oedd llawer o rhinweddau Cristionogol yn blaguro yn nghymeriad cyhoeddus ein hoffus frawd. Yr oedd yn ddyn gonest yn ei fasnach; nid oedd neb ar lan Teifi yn meddu mwy o ymddiried, ac nid oes hanes iddo wneyd tro isel—wael â neb yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd yn ddyn geirwir; pan fyddai yn rhoddi ei dystiolaeth dros neu yn erbyn unrhyw beth, cawsai ei gredu gan dylawd a chyfoethog.
Heblaw, yr oedd yn ddiweniaeth; ni wnai ganmol heb fod gwir deilyngdod; a phan gaffai rhyw beth o werth mewn unrhyw gyfeiriad, byddai yn barod i roddi canmoliaeth, ac yr oedd yn fwy parod i wneyd hyny yn nghefn dyn na'i wyneb. Ei ddull cyffredin o ganmol fyddai a ganlyn:—" Fe bregethaist yn dda iawn, ac yr wyf fi yn ddigon o judge; ond paid a balchio, fe bregethodd llawer yn dda o dy flaen, ac fe bregetha llawer yn dda ar dy ol."
Ni welsom neb erioed yn gallu mwynhau pregeth yn well na Mr. Williams; ac yr oedd yn dangos hyny drwy chwerthin, wylo, a dweyd "Amen." Yr oedd yn un o'r brodyr da hyny sydd yn caru rhoddi a derbyn. Pell iawn oedd ef oddiwrth y gweinidogion hyny a gymerant a fynoch, ond ni roddant ddim; gonestrwydd â'r cyfryw fyddai iddynt gael eu talu yn ol yn eu coin eu hunain. Yr oedd yn rhoddi gwerth dyladwy ar dalentau ei frodyr. Cof genym ei glywed yn dweyd yn Nghymmanfa Porthyrhyd, pan yn codi i bregethu ar ol "Mathetes" a "Lleurwg," pa rai oedd wedi pregethu mor odidog, "Dyma le noble i ddysgu gwers i bregethwr hunanol, sef i godi i fyny i siarad ar ol y ddau frawd yma." Yr oedd yn foneddwr yn mhob ystyr o'r gair. Byddai pawb yn siarad am dano yn uchel a pharchus.
Wrth ddiweddu, gallwn ddyddanu ein gilydd â'r gwirionedd hwnw o eiddo Paul:—"Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megys eraill y rhai nid oes ganddynt obaith." Canys os ydym yn credu farw Iesu, a'i adgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef."
Ffarwel, fy mrawd! heddwch i'th lwch; a gorphwysed tangnefedd Duw ar y weddw a'r amddifaid galarus.