Cyfrol Goffa Richard Bennett/Ffyddlondeb i Anghydffurfiaeth
← Y Dathliad-Ymbaratoad ato | Cyfrol Goffa Richard Bennett golygwyd gan D Teifgar Davies |
Y Piwritaniaid → |
FFYDDLONDEB I ANGHYDFFURFIAETH
TRAETHIR llawer ar y mater hwn yn y dyddiau hyn. Edrychir arno gan wahanol feddyliau o wahanol gyfeiriadau. Y peth hawsaf i mi heddiw fydd ceisio dwyn ar gof rai pethau a ddangosant ffyddlondeb ein tadau i Anghydffurfiaeth yn y dyddiau gynt a fu,' mewn hyder y gall hynny brofi yn symbyliad i ninnau gerdded yn llwybrau eu ffydd hwy.
Edrychwn yn fyr ar eu hanes mewn tri chyfnod.
1 Pan oedd Anghydffurfiaeth yn drosedd o'r gyfraith wladol.
Am gan mlynedd ystyrid Anghydffurfwyr yn y wlad hon yn criminals o'r math gwaethaf. Dangosid llai o dynerwch tuag atynt na thuag at y dyhirod tostaf. Dirwy, carchar, alltudiaeth ac angau oedd bygythiad y gyfraith arnynt. Collodd miloedd ohonynt eu bywyd, gyrrwyd myrddiynau i ffoi i wledydd tramor, bu'r carcharau yn rhy lawn ohonynt i gael lle i ladron ac ysbeilwyr, ac atafaelwyd a dinistriwyd gwerth miliynau o bunnau o'u heiddo. Gwneid hyn iddynt, nid gan y mob direol, ond gan swyddogion y llywodraeth. Yr oedd gan eu treiswyr, nid gallu yn unig, ond hefyd awdurdod cyfraith wladol ac eglwysig. Buont fwy nag unwaith yn deisyf am eu rhoddi i farwolaeth yn gyhoeddus, od oedd rhaid; a phan drengent yng nghelloedd ffiaidd y carcharau, ni chynhelid trengholiad ar eu cyrff, mwy na phe haent anifeiliaid. Rhennid eu heiddo i wehilion y bobl am ddwyn tystiolaeth, gam neu gymwys, yn eu herbyn, a gadewid eu teuluoedd i newynu neu i fyw ar elusen.
Digwyddodd pethau fel hyn yn Sir Drefaldwyn. Dinistriwyd holl eiddo Henry Williams o'r Ysgafell, ger y Drefnewydd, lladdwyd yr hen ŵr ei dad, a thrwy gyfryngiad swyddog mwy tyner ar ei rhan y goddefwyd i'w wraig ddianc â'i heinioes, gan arwain ei phlant mân allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Bu Vavasor Powell o Kerry—apostol canolbarth Cymru, mewn tri-ar-ddeg o garcharau, ac yng ngharchar y Fleet yn Llundain y bu farw. Cadwyd Charles Lloyd, o Ddolobran, Meifod, ef a'i wraig ac amryw o'u cymdogion, yng ngharchar y Trallwm am ddeng mlynedd, gan eu gosod yn y celloedd isaf, lle y disgynnai holl fudreddi'r carchar, er mwyn gwneuthur bywyd yn faich iddynt.
Cofier nad y werin afreolus a wnâi bethau fel hyn, ond swyddogion llywodraeth Gristnogol Brotestannaidd Prydain Fawr. Cofier nad ymhell yn ôl yn yr oesoedd tywyll y digwyddodd hyn; nage, llai na chan mlynedd o amser cyn adeiladu capeli'r Methodistiaid yn Llanbrynmair a Llanidloes. A chofier, hefyd y gallasai ein tadau osgoi'r holl flinderau hyn yn hwylus trwy fygu eu hargyhoeddiadau a chydymffurfio. Ond ni fynnent brynu eu rhyddid ar draul gwerthu eu hegwyddorion. Aent allan o wydd eu barnwyr yn llawen am eu cyfrif yn deilwng i ddioddef dros y gwirionedd.
Gellir cymhwyso geiriau'r Beibl am grefyddwyr yr Hen Oruchwyliaeth atynt hwythau hefyd "Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogofeydd y ddaear; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr." Hwy a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar. Hwynt-hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw âr cleddyf, ac a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared."
Ceir rhai a ddysgant, er hynny, nad oedd yr Anghydffurfwyr ond ffanaticiaid sur, wedi meddwi ar ragfarn at yr Eglwys Sefydledig, a heb fedru gwerthfawrogi dim ond eu mympwyon cul eu hunain. Llawn gormod o dasg i undyn a fyddai profi bod disgyblion John Owen, a John Howe, a John Milton, a John Bunyan yn greaduriaid salw a diddim. A chredaf fod yr hyn a ddigwyddodd ar ddiwedd y cyfnod hwn yn ddigon i wrthbrofi syniad o'r fath. Pan oedd dioddefiadau'r Anghydffurfwyr yn ingol dros ben-merched yn yr Alban yn cael eu rhwymo wrth bolion ar y traeth i foddi yn araf pan godai'r llanw; gwraig yn Llundain yn cael ei llosgi yn lludw am noddi un o'i chydnabod a geisiai ddianc rhag cosb; ugeiniau o Anghydffurfwyr Gwlad yr Haf yn cael eu dienyddio, a'u cyrff yn braenu ar bob croes ffordd, a channoedd eraill yn cael eu gwerthu yn gaethion i India'r Gorllewin am iddynt ymladd dros yr hyn a ystyrient hwy yn rhyddid pan oedd pethau fel yna, yn sydyn cyfryngodd Rhagluniaeth ar eu rhan mewn modd nodedig iawn. Fe ffraeodd yr erlidwyr â'i gilydd, aeth y llys a'r eglwys yn ben-ben, a dacw'r fantol yn llaw'r Anghydffurfwyr dirmygedig. Cyn iddynt bron sylweddoli'r peth, yr oedd y brenin wedi caniatáu rhyddid iddynt, gan ddisgwyl eu hennill felly i'w bleidio ef yn erbyn yr eglwys a'i hesgobion.
Ni buasai'n syndod mawr pe gwrandawsent arno. Onid da cael esmwythder rywfodd o gyflwr mor adfydus, "heb ofyn dim er mwyn cydwybod." Ond chwarae teg i'r hen Anghydffurfwyr, er iddynt ddadlau ac ymladd llawer tros ryddid, ni fynnent ryddid anghyfreithlon. Od oedd gan y brenin hawl i newid y gyfraith yn ôl ei ewyllys ei hun, pa le yr oedd hawliau'r deiliaid? I ba beth yr oedd Senedd da? Wedi ystyried y sefyllfa, penderfynasant wrthod cynnig y brenin, a sefyll wrth gefn arweinwyr yr Eglwys Sefydledig, a addawai basio deddf goddefiad trwy'r Senedd mor fuan ag y gellid gorchfygu'r brenin, a thrwy hynny estyn iddynt ymared mwy cyfreithlon.
Byddai'n burion i'r rhai a soniant fyth a hefyd am genfigen a chulni Ymneilltuaeth gofio am yr enghraifft hon o fawrfrydigrwydd. Yn y cyfrwng tywyllaf a welodd Eglwys Loegr er y dydd y sefydlwyd hi, pan oedd ei Phen daearol hi ei hunan wedi ymddiofrydu i'w difetha, safodd yr hen Anghydffurfwyr yn ffyddlon iddi, er bod dwylo'r Eglwys yn goch gan waed eu brodyr a'u chwiorydd ar y pryd. Achubwyd rhyddid gwladol a chrefyddol ein gwlad mewn canlyniad i'w ffyddlondeb hwy i'w hegwyddorion a'u parodrwydd i anghofio'r camwri a arferasid tuag atynt am genedlaethau.
2. Pan atelid oddi wrth Anghydffurfwyr freintiau cyffredin deiliaid y wlad.
Nid oeddynt yn criminals mwyach yng ngolwg y gyfraith. Taenai Deddf Goddefiad ei hadain trostynt. Achwynir llawer ar y ddeddf honno yn ein dyddiau ni, ac, mewn theory, amhosibl yw ei hamddiffyn. Y naill ddyn yn goddef i ddyn arall addoli Duw yn ôl ei gydwybod! Ond er hynny, da iawn a fu ei chael, a phan gofiwn ei bod ar un ergyd yn atal gweithrediad un-ar-ddeg o hen ddeddfau gorthrymus, hawdd credu haneswyr pan ddywedant nad oes ar lyfrau y deyrnas hon heddiw yr un ddeddf a roddodd derfyn ar gymaint o ddioddef ag a wnaeth Deddf Goddefiad. Dug hon ein tadau trwy'r Mor Coch, ond ysywaeth yr oedd cryn ffordd eto i Ganaan. Yn lle'r Eifftiaid, daeth Amaleciaid, ac er na fedrai'r olaf flino Israel fel y gwnâi'r cyntaf, gwnaent eu gorau mewn llawer ffordd i'w drygu. Sonia Solomon am flinder neilltuol, gan ei gyffelybu i "ddefni parhaus ar ddiwrnod glawog," ac nid hwyrach y gwnâi'r gymhariaeth y tro i ddisgrifio cyflwr Ymneilltuwyr yn y cyfnod hwn. Nid oeddynt mwyach allan yng nghynddaredd y dymestl, na, yr oedd Deddf Goddefiad yn do drostynt. Ond llwyddodd yr erlidiwr i gadw'r tô hwnnw'n dyllog am ganrif a hanner o amser. Disgynnai'r defni ar y trueiniaid o hyd, ac ychydig o gysur a thawelwch a fwynheid ganddynt. Yr oedd mân gystuddiau'r cyfnod hwn bron cymaint o orthrymder ysbryd i'r Ymneilltuwyr, ac o braw ar eu ffyddlondeb, ag oedd helyntion garwach y cyfnod blaenorol. Oblegid gŵyr pob un ohonom ei bod mor hawdd syrthio o flaen profedigaeth gymharol fechan ag yw o flaen un llawer mwy.
Enwn rai o'r ffyrdd y blinid Ymneilltuwyr y cyfnod :—
(1) Trwy fygwth yn barhaus, a chynnig weithiau am ddiwygio Deddf Goddefiad, h.y., ei newid nes bod yn dda i ddim. Bu agos iddynt â llwyddo yn eu hymgais droeon, a'r tebyg yw y buasent wedi llwyddo oni bai am Dŷ'r Arglwyddi,—chwarae teg i hwnnw. Gildiodd y Tŷ hwnnw unwaith, a thrwy farwolaeth y frenhines ar y dydd yr oedd y newid i ddyfod i rym y cafwyd ymwared. Nid rhyfedd i'r dydd hwnnw fod yn 'ddydd o lawen chwedl,' am flynyddoedd gan yr Ymneilltuwyr.
(2) Trwy gynhyrfu'r werin i ymosod arnynt. Ni feiddiai'r swyddogion wneuthur hynny yn awr, ond gallent arfer eu dylanwad ar yr anwybodus i ymosod a wincio ar eu hafreolaeth ar ôl hynny. Felly chwalwyd yr unig gapel a feddai'r Ymneilltuwyr yn Sir Drefaldwyn yn y flwyddyn 1714, sef Capel Llanfyllin.
(3) Trwy wrthod gweinyddu'r gyfraith i'w hamddiffyn. Cydffurfwyr oedd mewn awdurdod fel ynadon drwy'r deyrnas, a phan apeliai'r Ymneilltuwyr atynt am drwydded i weinidog neu gapel yn ôl y gyfraith, gwrthodid hwy o dan ryw esgus neu'i gilydd yn aml iawn. A beth allai diadell o bobl ddiniwed a thlodion ei wneud at gael cyfiawnder, pan wrthodid trwydded iddynt, ac yna eu herlid am weithredu heb drwydded? Amhosibl yw canmol gormod ar y Dissenting Deputies yn y cysylltiad hwn. Naw ugain mlynedd yn ôl, ffurfiwyd cymdeithas yn Llundain, sydd mewn bod hyd heddiw, i amddiffyn hawliau eu brodyr mewn rhannau anghysbell o'r wlad.
Difyr iawn yw darllen eu hanes yn dwyn ambell grachormeswr i'r llwch. Ond caent gryn drafferth ar y dechrau. Pan gamdriniwyd Lewis Rees o Lanbrynmair mor erchyll nes peryglu ei fywyd, cymerodd y gymdeithas ei achos mewn llaw, ond methwyd â chael un cyfreithiwr trwy holl Ogledd Cymru oedd yn barod i ddadlau ei achos er bod y gyfraith yn amlwg o'i blaid. O hynny allan, gofalai'r gymdeithas am anfon cyfreithiwr i lawr o Lundain.
(4) Trwy eu herlyn yn y llysoedd am y pethau mwyaf afresymol. Erlynid y gweinidogion am fedyddio, erlynid y fam am beidio â dod i'r eglwys i'w rhyddhau ar ôl esgor, a'r tad am beidio â thalu'r fees i'r offeiriad er mai'r gweinidog a fyddai wedi gwasanaethu. Gwrthodid priodi Ymneilltuwyr weithiau fel y byddent dan orfod i fyned i Ysgotland i wneud, neu fodloni ar fynd drwy'r seremoni ger bron eu gweinidogion eu hunain, yr hyn nad oedd yn briodas yng ngolwg y gyfraith. Gwrthodid darllen y gwasanaeth claddu yn angladd plant yr Ymneilltuwyr, a phan baratoesant fynwentydd Ymneilltuol ceisiai'r offeiriad dâl claddu er na buasai'n agos i'r lle. Ceisiai'r clochydd fod cystal gŵr â'i feistr drwy erlyn yr Ymneilltuwyr am dâl am lanhau eu seddau yn yr eglwys er na buasent erioed yno. Ac os gwrthwynebid y ceisiadau hyn teflid yr achos i lys yr esgob, ac ni byddai'n waeth i'r Ymneilltuwyr fyned i'r purdan ar unwaith na myned i'r fan honno.
(5) Ond prif arf y gelynion i flino'r Ymneilltuwyr oedd Deddf y Praw-lwon-Test Act. Rhyw hen addodwy gorthrymus oedd hwn a adawsid yn y nyth pan basiwyd Deddf Goddefiad. Addawsai'r esgobion y pryd hwnnw eu bwrw allan yn union, ond cymerasant saith ugain mlynedd i wneud hynny. Amddifadai hyn yr Ymneilltuwyr o'u hawliau fel dinasyddion oni chydymffurfient. Nid oedd obaith i'r un ohonynt gael swydd o dan y brenin neu o dan gorfforaeth dinas heb fyned i'r eglwys i gymuno. Beth bynnag a fyddai eu cymwysterau, ni chaent ymgyrraedd at ffon y cwnstabl, heb sôn am gadair y maer. Gwarthnodid hwy fel bodau is-raddol i'w cymdogion, fel rhyw Gibeoniaid hollol annheilwng o bob ymddiriedaeth. Nodwn un enghraifft i ddangos nodwedd y ddeddf.
Yn y flwyddyn 1745 daeth y Pretender drosodd i'r deyrnas hon i geisio goresgyn a gweithio'i ffordd i'r orsedd. Yr oedd y wlad mewn dirfawr berygl, yr Alban wedi ei darostwng, y fyddin bron i gyd ymhell ar y cyfandir yn ymladd â'r Ffrancwyr, a'r trawsfeddiannydd wedi cyrraedd o fewn taith ychydig oriau i'r brifddinas, lle yr oedd y cyffro mwyaf, a'r Bank of England wedi dechrau talu allan mewn chwecheiniogau. Yn y cyfwng yma mentrodd yr Ymneilltuwyr ffurfio catrawd o filwyr i ymladd dros y llywodraeth er mwyn dangos eu teyrngarwch i'r orsedd. Ond beth fu'r canlyniad? Pan gilgwthiwyd y gelyn pasiodd y Senedd ddeddf i faddau i fwyafrif y gwrthryfelwyr am geisio dadymchwelyd y llywodraeth, ac ar yr un anadl i faddau i'r Ymneilltuwyr am feiddio ei hamddiffyn. Pan oedd eraill yn medi gwobrwyon ac anrhydedd am wasanaethu eu gwlad yn yr un ffordd yn union, cafodd yr Ymneilltuwyr yn rasol iawn faddeuant y wlad honno.
Fel yna y bu'r Test Act yn offeryn cyfleus iawn yn nwylo'r gwrthwynebwyr. Darparai'r Ddeddf hon fod pob Ymneilltuwr a gymerai swydd heb gymuno yn yr eglwys yn agored i ddirwy o £500. Tua'r flwyddyn 1748 yr oedd Corfforaeth Dinas Llundain yn adeiladu'r Mansion House. Er mwyn blino'r Ymneilltuwyr a chael arian at yr adeiladau yr un pryd, pasiwyd bye-law ganddynt, dan yr esgus o sicrhau personau cymwys i swyddi cyhoeddus, yn trefnu bod dirwy o £400 ar bob person a enwid yn ymgeisydd am swydd sirydd oni safai etholiad, a £600 o ddirwy ar bob un a etholid oni wasanaethai'r swydd. Yn awr, wele'r Ymneilltuwyr rhwng deugorn y deddfau gwrthwynebol hyn. Os gwasanaethent heb gydymffurfio, gafaelai'r Test Act ynddynt am £500; os gwrthodent wasanaethu, gafaelai'r gyfraith newydd ynddynt am £600. Wrth gwrs, nid oedd eisiau eu gwasanaeth. Twyll oedd hynny, oblegid enwid y personau mwyaf anghymwys os meddent eiddo.
Enwid rhai amhwyllog, gorweddiog, dall, etc. Eu harian yn unig a chwenychid. Wedi dioddef yr annhegwch dybryd am chwe blynedd a thalu £1,500 mewn dirwyon, apeliasant at y llysoedd am amddiffyniad. Meddylier amdanynt—dyrnaid o Ymneilltuwyr yn erbyn corfforaeth y ddinas gyfoethocaf yn y byd! Teflid yr achos o lys i lys er mwyn difetha eu hadnoddau, a bu raid iddynt ddwyn y cyngaws ymlaen am dair-blynedd-ar-ddeg cyn i Dŷ'r Arglwyddi droi'r fantol o'u hochr. Ond bu'r Ymneilltuwyr yn ffyddlon i'w hegwyddorion trwy'r cwbl, ac enillasant i ni hynny o freintiau a chydraddoldeb a feddwn heddiw.
Cofiwn, wrth eu mwynhau, mai â swm dirfawr o ddioddefiadau y cafwyd hwy, a cheisiwn sylweddoli ein rhwymedigaethau fel canlynwyr y gwŷr a roddodd eu heinioes i farw, ac a gymerodd eu hysbeilio o'r pethau a oedd ganddynt yn llawen er mwyn rhyddid cydwybod a theyrngarwch i'r gwirionedd.
"Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech." Ni olyga hyn ein bod i yngan pob "Shibboleth" yn hollol fel y gwnaent hwy na'n bod i'n llywodraethu'n hollol gan law farw'r gorffennol. Ond golyga ein bod i ddal i fyny'r faner dros y gwirionedd mawr,—Iesu Grist yn unig Ben i'w Eglwys, y Beibl yn unig reol ffydd ac ymarweddiad, a chysegredigrwydd cydwybod rhag pob ymyriad gan y rhai oddi allan.
Gadawaf y cyfnod arall i'r siaradwyr fydd yn dilyn. Er bod tipyn o ormes yn perthyn i hwn weithiau, galwn i ef, ar y cyfan, fel cyfnod y llwgr-wobrwyo. Wedi i ŵg fethu â siglo'r Ymneilltuwyr, arferwyd gwên a deniadau. Ac i ambell feddwl nid hwyrach fod y rhain yn anos i'w gwrthsefyll. Fferm i'w chael am gefnu ar y capel: ffafr meistr a goruchwyliwr, manteision ynglŷn â'r fasnach, addysg golegol yn rhad i fachgen tlawd am wadu ffydd ei dadau. Ie, yn y dyddiau diwethaf hyn, y mae'r ffordd yn rhydd i'r llanc o fainc y seiat i'r fainc esgobol. A gall yr Eglwys ddweud yn ddistaw am dderbynwyr y ffafrau hyn, "Y rhai y diystyraswn eu tadau i'w gosod gyda chŵn fy nefaid."
A feddwn ni ar ddigon o ruddin i ddal yn wyneb hudoliaeth yn ogystal â bygythiad? Ymddengys yn awr nad rhaid i ni ddal yn hir iawn. Nid oes ond Iorddonen rhyngom a thir ein gwlad. Ond rhag y bydd rhaid troi'n ôl i'r anialwch am flynyddoedd eto, y mae yn werth inni ymdrechu am ffydd i gredu mewn goruchafiaeth derfynol, tegwch ac uniondeb yng nghysylltiadau crefyddol ein gwlad, ac amynedd i ddisgwyl am hyn oll.
(Cyfarfod Misol y Graig, Mai 30, 1912).