Cyfrol Goffa Richard Bennett/Y Piwritaniaid
← Ffyddlondeb i Anghydffurfiaeth | Cyfrol Goffa Richard Bennett golygwyd gan D Teifgar Davies |
Ymgysegriad i Grist yng ngoleuni hanes y Tadau → |
Y PIWRITANIAID
CHWE chan mlynedd yn ôl yr oedd yr holl wlad yma o un grefydd-pawb yn cydnabod awdurdod y Pab ar faterion eglwysig ac yn cymryd eu rheoli o Rufain.
Bum cant a hanner o flynyddoedd yn ôl yr oedd yma wrthdystiad cryf yn erbyn y Babaeth. Codasai John Wicliffe ac eraill yn Lloegr a Walter Brute ac eraill yng Nghymru i ddangos cyfeiliornadau Rhufain, ac enillasant lawer o ganlynwyr, a elwid yn Lolardiaid.
Ond, trwy gymorth y gallu gwladol, llwyddodd y Babaeth i'w darostwng a'u difetha.
Bum can mlynedd yn ôl, daliwyd Syr John Oldcastle, arweinydd y Lolardiaid ar ôl Wicliffe, yn Sir Drefaldwyn, a dygwyd ef i Lundain i'w ddienyddio.
Tywyllwch y gellid ei deimlo oedd yma am flynyddoedd hirion ar ôl dyddiau'r Lolardiaid, yn enwedig yn yr eglwysi, ond ceid ambell belydryn o oleuni o'r tu allan. Er bod y ddeddf i losgi hereticiaid ar lyfrau'r deyrnas, mentrai ambell un o hen feirdd Cymru ganu'r gwir ar ei gwaethaf. Ebe un ohonynt, sef Sion Cent,—
"Am y trosedd a wneddyw
Ar camoedd tra f'oedd yn fyw,
Rhy hwyr fydd yn y dydd du
Od wyf wr i edifaru,
Nid oes nerth ar y berthyn
Onid Duw i enaid dyn.
Jesu wrth gyfraith Moesen
Awr brid a'n prynodd ar bren.
Edrych yn fynych, f'einioes,
Ar Grist a'i gorff ar y groes,
A'i fron a'i galon i gyd,
A'i wiwdlws gorff yn waedlyd,
A'i draed gwrdd mewn diriaid gur
A'i ddwylaw'n llawn o ddolur.
O'th odlau, ddyn, a'th adlam,
O'th gas y cafas y cam!
Profais i, megis prifardd,
Bawb o'r byd, wyr hyfryd hardd.
Profais yn rhwydd arglwyddi,
Tlawd, cyfoethog, rywiog ri'.
Nid cywir gradd onaddun',
Nid oes iawn gyfaill ond Un.
Er neb ni thores Jesu
Ei lân gyfeillach a'i lu."
Ac ebe un arall, Gruffydd ab Ieuan ab Llewelyn Fychan, yn ei "Gywydd yn erbyn braint delwau,"—
"Gwelwn cymerwn gwilydd,
Mor ffol yr aethom o'r ffydd;
Ffydd dduwiol apostolion,
Hoffai Dduw hael y ffydd hon.
Trown ninnau i gyd, byd bedydd,
O ran a pharch i'r un ffydd,
A rhown heibio, tro trymddig,
Ganhwyllau a delwau dig,
A'r trws cwyr a'r llaswyrau,
A'r gleiniau o brennau brau.
Cadwn ddefosiwn heb ddig
Gyda'r gwr bendigedig.
Gwnaethom ormod pechodau,
Galwn help Duw i'n glanhau.
Ni all angel penfelyn
Na llu o saint un lles in,
Nac un dyn wedi'i eni
Is côr nef a'n swera ni,
Na neb ond Un a'i aberth
A roes i ni ras a nerth."
Yr ydym dan ddyled i'r hen feirdd am ganu fel hyn pan oedd y gwylwyr gosodedig yn rhy ddifater i ddim ond i fygwth ffagodau ar bwy bynnag a aflonyddai ar eu hesmwythgwsg hwy.
Bedwar can mlynedd yn ôl, daeth y Diwygiad Protestannaidd. Rhyw ail "gyflawnder yr amser" oedd hwn, pryd y cododd gwledydd cyfan eu hangorau megis, gan hwylio allan i'r cefnfor mawr dieithr. Deffrodd meddwl y werin fel Samson, a drylliodd lyffetheiriau'r Dalilah Rufeinig fel edau garth. Ar y cyfandir y dechreuodd y Diwygiad, ond cyrhaeddodd Brydain yn lled fuan. Yr oedd un gwahaniaeth ynddo yma rhagor y gwledydd eraill. Yno, dynion a dderbyniasai argyhoeddiad anwrthwynebol o'r gwirionedd yn nyfnder eu hysbrydoedd eu hunain oedd yr arweinwyr, megis Luther yn yr Almaen, Calfin a Farel yn Ffrainc, Zwingle yn yr Yswisdir, a John Knox yn yr Alban.
Ond yma ym Mhrydain, syrthiodd y mudiad i ddwylo'r gwladweinwyr, a chollodd lawer iawn o'i nerth a'i werth. Wrth gwrs, yr oedd yma lawer o wir garedigion y Diwygiad, ond gan nad oeddynt yn y ffrynt, ni fedrent osod nemor ddim o'u delw eu hunain arno. Nodweddion cyfaddawd oedd arno yma, fel y sydd ar bopeth bron a ddaw o ddwylo gwleidyddwyr.
Yn y dyddiau hynny, yr oedd yr awudrdod yn y wlad hon bron i gyd yn nwylo'r brenin, yn enwedig pan fyddai hwnnw'n ddyn o ewyllys gref a phenderfynol. Ar y dechrau, yr oedd y brenin, sef Harri VIII., yn wrthwynebol i'r Diwygiad. Cyhoeddodd lyfr yn erbyn Luther, a derbyniodd ddiolchgarwch gwresog y Pab a'i gynghorwyr ynghyd â'r teitl o "Amddiffynnydd y Ffydd" fel gwobr am ei lafur—teitl a gedwir yn ofalus gan ei olynwyr ac a argreffir ar yr arian bath hyd heddiw. Ond trodd y gwynt cyn hir, a chafodd y Pab braw o briodoldeb y cyngor Ysgrythurol "Na hyderwch ar dywysogion." Priodasai'r brenin yn bur ieuanc. (Dywedir y cymerai pobl orau'r hen fyd gryn lawer o bwyll cyn myned i'r stâd briodasol. Gorchwyl mawr a phwysig iawn oedd adeiladu arch rhag dyfroedd y dilyw, eto bernir i Noa gwplàu honno mewn pum neu chwech ugain mlynedd, ond cymerodd bum can mlynedd cyn dewis cymhares i fyned gydag ef i'r arch. Os tybir i Noa fod yn rhy bwyllog, gellir dweud nad oes hanes iddo edifarhau a dymuno am ail gynnig!) Ond edifarhau a wnaeth y brenin Harri a phenderfynu ceisio ail gynnig. I'r pwrpas hwnnw, anfonodd gais at y Pab am ganiatâd i ysgar oddi wrth ei briod. Nid oedd y Pabau'r pryd hwnnw'n rhyw orfanwl am gadw at lythyren y gyfraith mewn mater o'r fath, yn enwedig pan dderbynnid cais oddi wrth un fel "Amddiffynnydd y Ffydd." Ond yn yr Achos hwn, yr oedd y Pab megis rhwng Pihahiroth a Baalsephon. Yr oedd gwraig y brenin Harri'n chwaer i Ymherodr yr Almaen, a chymerodd hwnnw blaid ei chwaer yn eithaf selog.
Felly, o chaniateid cais Harri, digiai llywodraethwr yr Almaen, lle'r oedd y Babaeth eisoes yn siglo o dan ergydion Luther. Ar y llaw arall, oni chaniateid y cais, ni wyddid yn y byd ba gwrs a gymerai "Amddiffynnydd y Ffydd." Yn ei benbleth, chwaraeodd y Pab yr hen ystryw o ohirio'r dyfarniad mor hir ag y medrai. Cadwyd yr achos i redeg am flynyddoedd, nes o'r diwedd i Harri ddiflasu a chymryd y gyfraith a'r cwbl i'w law ei hun. Aeth pethau o ddrwg i waeth rhyngddynt, a chyn hir penderfynodd Harri y mynnai ef fod yn ben yn Lloegr yn eglwysig yn ogystal ag yn wladol. Yr oedd hwn yn gam go fawr i'w gymryd—lleygwr i fod yn ben yn yr eglwys—un na feddai hawl i fedyddio baban na phregethu na chysegru offeiriad i'w swydd. Ond llwyddodd i ennill cefnogaeth y wlad trwy gynnig abwyd go ddeniadol i'r offeiriaid ac i'r gwŷr mawr. Y Pab a benodai esgobion a phob swyddog o bwys yn yr Eglwys o'r blaen, ac nid oedd gan Sais na Chymro obaith am safle da heb dalu'n ddrud i Rufain amdano. Fel rheol, penodid gwŷr o'r Eidal i'r lleoedd brasaf, a gofalai'r rhai hynny drachefn am eu perthynasau a'u cyfeillion, nes creu anniddigrwydd cyffredinol yn y wlad tuag at y tramorwyr. Yn awr, addawai Harri atal yr arfer o benodi tramorwyr pan fyddai ef yn Ben, a hefyd atal yr holl daliadau ariannol i Rufain fel na thlodid y wlad mwyach yn y ffordd honno. Dyna'r wobr i ddenu'r gwŷr llên. Yn awr am yr uchelwyr. Yr oedd yn Lloegr a Chymru'r pryd hwnnw gannoedd o fynachlogydd, a rhai ohonynt yn gyfoethog iawn mewn arian a thiroedd. Y mynachod oedd ysgolheigion y dyddiau hynny, a hwy a elwid fynychaf i wneuthur ewyllysiau hen bendefigion ofergoelus a oedd yn awyddus i wneuthur rhyw iawn am eu bywyd pechadurus. Gofalai'r mynach fynnu rhan o'r ystad i'w fynachlog cyn addo maddeuant a heddwch i'r testamentwr. Aeth yr arfer i'r fath eithafion fel y gorfodwyd y Senedd i'w warafun rhag i diroedd y wlad fynd i gyd yn eiddo i'r Eglwys. Wedi iddo gweryla â'r Pab, ymaflodd Harri yn eiddo'r mynachlogydd bron i gyd, ac ar ôl cadw rhan iddo'i hun, rhannodd y gweddill rhwng gwŷr ei lys. Dyna ddechreuad rhai o'r hen ystadau yn y wlad hon.
Gwelir, felly, nad argyhoeddiad o wirionedd a wahanodd ein gwlad ni oddi wrth Eglwys Rufain y pryd hwnnw. Cyfleustra hunanoldeb mewn un ffurf neu arall oedd y diwygiad yn y cylchoedd uchaf. Yn y cylchoedd isaf, yr oedd yma bobl o ddifrif, Pabyddion yn ogystal â Phrotestaniaid, ac erlidiai Harri y naill a'r llall yn ddiwahaniaeth—y Pabydd am wadu ei uchafiaeth ef, a'r Protestant am wadu trawsylweddiad yr elfennau yn y Sacrament.
Yr unig fraint a enillodd y diwygwyr yn ystod oes Harri oedd cael caniatâd i ddarllen y Beibl yn yr iaith Saesneg.
Ar ôl Harri, daeth ei fab Edward i'r orsedd yn fachgen naw -mlwydd oed, a pharhawyd y gwaith diwygiadol ganddo ef a'i gynghorwyr, a oedd gan mwyaf yn Brotestaniaid. Ond nid oedd neb ohonynt yn ddynion cryfion iawn, ac ofnent newid na symud nemor ddim ymlaen. Yn wir, symudasant yn ôl mewn un peth. Chwarae teg i Rufain, caniatâi hi lawer o ryddid i'r gwahanol rannau o'r wlad ynglŷn â ffurf y gwasanaeth crefyddol. Yr oedd gan York ei dull arbennig, ac felly Lincoln a Bangor hefyd, ac nid ymyrrai neb oddi allan â hwy, ond caent addoli'n ôl eu hen arfer. Ond, yn awr, penderfynwyd sefydlu unffurfiaeth trwy gyfraith a gorfodi pawb i'w mabwysiadu neu i fod tan berygl dirwy a charchar. Gwaeth na'r cwbl, yr hen ffurf Babyddol wedi ei hail-wampio, chwedl Robert Ellis, Ysgoldy, oedd y ffurf newydd. Yr un modd gyda'r gwisgoedd offeiriadol; gorfodwyd gweinidogion y diwygiad i wisgo'r hen wisgoedd Pabaidd neu dderbyn cosb am wrthod. Yn ychwanegol, cadwyd llawer o'r hen seremoniau, megis arwydd y Groes, a rhaid oedd cydymffurfio neu ddioddef. Y mae'n anhygoel y dioddefiadau a achoswyd gan bethau oedd mor ddibwys. Ymadawsai'r diwygwyr ar y Cyfandir yn llwyrach o lawer oddi wrth arferion y Babaeth. Ai rhai o Brotestaniaid Lloegr yno, a dychwelent yn llawn awydd am gyffelyb ryddid yma. Hwynt-hwy a'u canlynwyr a gyfenwyd yn y man yn Biwritaniaid. Dewiswyd un ohonynt, sef Hooper, yn Esgob Caerloyw, ond carcharwyd ef am naw mis am iddo wrthod gwisgo'r gwisgoedd offeiriadol i'w gysegru. Ei ddadl yn erbyn oedd fod perygl i'r bobl feddwl eto fel yn nyddiau'r Babaeth fod rhinwedd yn y wisg, a'i fod yntau mewn ufudd-dod i orchymyn y Beibl yn "casau'r wisg a halogwyd."
Gwelir, felly, mai rhyddid i wlad gyfan yn unig a enillwyd trwy'r Diwygiad. Yr oedd Lloegr fel gwlad yn rhydd oddi wrth Rufain a phob gwlad arall. Ond nid oedd yn Lloegr ddim rhyddid personol i neb o'i deiliaid. Yr oedd John Jones a David Davies yn llawn mor gaeth ag y buont erioed.
Bu farw Edward yn ieuanc iawn, a daeth ei chwaer Mary, a elwir yn Fari Waedlyd, i'r orsedd. Merch oedd hon i'r wraig a ysgarwyd gan Harri, ac yr oedd yn Babyddes selog fel ei mam. Adferwyd Pabyddiaeth eto'n ein gwlad. Llosgwyd tua thri chant o Brotestaniaid mewn ychydig amser, a dihangodd tros wyth gant i'r Cyfandir. Aeth nifer go luosog ohonynt i ddinas Frankfort, a chaniataodd yr awdurdodau iddynt gyfarfod i addoli yn un o eglwysi'r ddinas ar oriau neilltuol. Ar y cyntaf, cytunent i arfer dull syml Genefa yn y gwasanaeth, ond cyn hir cyfododd rhai ohonynt i ddadlau tros fabwysiadu dull y brenin Edward—dull y Llyfr Gweddi. Bu cymaint o gynnwrf rhyngddynt fel y rhwygwyd hwy'n ddwy garfan, ac erys y rhwyg heb ei gyfannu eto. Dyna'r pryd y daeth Schism i Brotestaniaeth Seisnig am y tro cyntaf.
Ar farwolaeth Mary, esgynnedd ei chwaer Elizabeth i'r orsedd. Yr oedd hi'n rhyw lun o Brotestant, a mawrheir ei henw gan laweroedd. "Yr hen amser gynt pan oedd Bess yn teyrnasu," ebe'r bardd, fel pe'n cyfeirio at yr oes euraid. Ond eithaf merch i'w thad, a digon o genawes oedd hi, a chan iddi deyrnasu am bump a deugain o flynyddoedd, sef deugain mlynedd yn hwy na Mary, bu ei llaw'n drymach o ran erledigaeth a charchar er nad o ran ffagodau. Ar ei hesgyniad i'r orsedd, dychwelodd y ffoedigion o'r Cyfandir, ond dychwelsant nid yn un blaid mwyach ond yn ddwy. Cyn hir, adnabyddid y naill blaid fel Diwygwyr y Llys a'r llall fel y Piwritaniaid. Nid oedd eto un gwahaniaeth rhyngddynt o ran athrawiaeth—yr oedd y ddwy'n hollol Galfinaidd. Ysywaeth, nid oedd gwahaniaeth rhyngddynt chwaith yn eu tuedd at unffurfiaeth. Yr oedd y Piwritaniaid mor barod â neb i dderbyn unffurfiaeth, o chaent hwy ddewis y ffurf. Ymdrech fawr a helbulon am ddwy oes a'u dysgodd i barchu rhyddid y gydwybod bersonol. Gorfodwyd hwy i wynebu anawsterau mawr. I ddechrau, pasiwyd Deddf Uchafiaeth y Frenhines, yn eglwysig yn ogystal ag yn wladol. Peth chwerw i ddygymod ag ef oedd hwn. Dynes yn Ben! Beth am ddysgeidiaeth Paul? Yn ail, daeth Deddf Unffurfiaeth yn llawn llymach nag o'r blaen. Wedi hynny, sefydlwyd Llys yr Uchel Gomisiwn i drafod materion eglwysig—llys a oedd i bob pwrpas ymarferol yn annibynnol ar y Senedd ac ar gyfraith y wlad ac a oedd yn meddu awdurdod hollol afresymol ar fywydau ac eiddo'r deiliaid. Yna daeth y Llw ex-officio, fel y'i gelwid, a orfodai ddyn i dystiolaethu yn ei erbyn ei hun. Trefnwyd nifer o gwestiynau yn barod wrth law i ddal y gweinidogion, megis "A ddarfu i chwi rywdro fedyddio heb roddi arwydd y Groes?" neu "briodi heb arfer y fodrwy?" Os do, pa bryd, ac ym mha le?" O wrthod ateb, cosbid hwy am sarhad; o ateb, cosbid hwy ar bwys eu hatebion. Nid rhyfedd i'r Prif Weinidog ysgrifennu at yr Archesgob i ddywedyd bod y fath gwrs yn ei farn ef yn waeth na dim a gyflawnwyd gan y Llys Ymchwil Ysbaenaidd. Ond dyfalbarhau a wnaeth yr Archesgob a'i gynghorwyr. Gallai unrhyw un a dramgwyddodd wrth weinidog anfon cyhuddiad yn ei erbyn i'r Uchel Gomisiwn. Anfonai'r Comisiwn swyddog i wysio'r gweinidog i Lundain, y gweinidog i dalu'r swyddog am ei daith yn ôl hyn a hyn y filltir. Gorfodid ef i adael ei deulu a'i orchwylion a myned i'r brifddinas, yno i ddihoeni mewn carchar ffiaidd i aros ei braw, pryd y condemnid ef ar ei dystiolaeth ei hun. Hynny a fu hanes llawer o'r gweinidogion Piwritanaidd. Y dyddiau hynny, ni châi neb o'r gweinidogion bregethu heb drwydded. Caent ddarllen y gwasanaeth hebddi, a dyna'r cwbl yr oedd angen amdano'n ôl barn y frenhines a'i chynghorwyr. Ond o mynnai gweinidog bregethu yr oedd yn rhaid iddo gael trwydded y llywodraeth. Yn Llyfrgell Coleg Bangor y mae llyfr yn cynnwys adroddiad swyddogol dirprwywyr Esgob Bangor am gyflwr yr esgobaeth yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Elizabeth. Nid oedd yn yr holl esgobaeth ond dau glerigwr â thrwydded i bregethu'r pryd hwnnw, sef Deon Bangor ac offeiriad Llangurig, Sir Drefaldwyn. Y mae deiseb ar gael eto oddi wrth bobl Cernyw yn taer erfyn am bregethwyr. Er bod yno gant a deugain o glerigwyr, nid oedd yr un ohonynt yn pregethu. Ac eto i gyd, nid unwaith na dwywaith y galwyd yr holl drwyddedau i mewn er mwyn gorfodi pawb i geisio rhai newydd, rhag ofn bod rhai o'r Piwritaniaid wedi'u trwyddedu o ddiffyg gochelgarwch. Oblegid yr oeddynt hwy yn selog dros bregethu. Eto, er bod y wlad yn dyheu am eu gweinidogaeth, rhwystrid hwy ym mhob modd oni chydymffurfient â phob iod a phob tipyn o'r defodau. Ac ni ddihangai'r gwrandawyr yn ddigosb. Gwnaethpwyd cyfraith i gosbi pob un dros un-mlwydd-ar-bymtheg oed oni fynychai eglwys ei blwyf ar y Sul. Y ddirwy i ddechrau oedd swllt y Sul, ond codwyd hi wedi hynny i £20 y mis a charchar oni thelid, yna alltudiaeth gyda bygythiad y rhoddid hwy i farwolaeth pe dychwelent o'u halltudiaeth heb ganiatâd.
Y mae darllen am ddioddefiadau'r Piwritaniaid ar hyd y teyrnasiad hwn yn ddigon i ysu calon dyn. Cynifer ohonynt a fu mewn carcharau! Ac yr oedd carcharau'r dyddiau hynny mor enbyd o aflan a ffiaidd nes magu afiechyd arbennig a elwid yn "haint y carchar" ac a derfynai'n fynych iawn mewn marwolaeth. Gwelais yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lythyrau oddi wrth garcharorion yng ngharchar Trefaldwyn yn erfyn ar yr awdurdodau fel ffafr eu hanfon i benyd-wasanaeth yn hytrach na'u gadael yn y carchar. Y mae eto ar gael lythyrau oddi wrth Biwritaniaid yn gofyn am gael marw'n gyhoeddus yn rhywle'n yr awyr agored. Ond dihoenodd ugeiniau a channoedd ohonynt i farwolaeth yn y carcharau, ac ni chynhelid trengholiad ar Biwritan.
O'r diwedd dechreuodd rhai o'r Piwritaniaid ymneilltuo. Anghydffurfwyr o fewn yr Eglwys mewn ystyr oeddynt o'r blaen. Yn awr dechreuasant gilio allan ohoni, a galwyd hwy yn Browniaid, oddi wrth enw eu gweinidog, Mr. Brown. Ond anodd iawn oedd iddynt gyfarfod i addoli heb i waedgŵn yr Archesgob ddyfod ar eu gwarthaf. Gan na chaent bregethu, ymroddodd rhai ohonynt i gyhoeddi llyfrau. Ond pasiwyd deddf nad oedd argraffwasg i fod yn unman ond yn Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt nac unrhyw lyfr i'w argraffu heb drwydded arbennig yr Archesgob. Ni chaniateid chwaith i undyn gadw ysgol i ddysgu plant heb drwydded. Ymddangosai'r Llywodraeth yn benderfynol i ddifodi'r Ymneilltuwyr yn llwyr. Eto llwyddodd rhai ohonynt i gael argraffwasg yn ddirgelaidd, a threfnent i'w symud o fan i fan rhag i swyddogion y Llywodraeth ei darganfod. Bu'r wasg hon o dan ofal Cymro am dymor.
Bachgen o Sir Frycheiniog o'r enw John Penri ydoedd. Aethai i Goleg Caergrawnt yn Babydd selog, ond yno daeth o dan ddylanwad rhai o'r Piwritaniaid a chofleidiodd eu hegwyddorion. Wedi iddo gael y goleuni ei hunan, dechreuodd deimlo'n angerddol dros ei wlad, ac anfonodd ddeiseb at y Frenhines i ofyn am bregethwyr i Gymru neu am ganiatâd i fyned yno ei hunan. Fel y gellid disgwyl, yr oedd ei gais yn drosedd anfaddeuol. Bu'n ffoadur o fan i fan, ond o'r diwedd daliwyd ef. Gwyddai yntau nad oedd ond marwolaeth yn ei aros. Cyn ei braw ysgrifennodd o'r carchar amryw o lythyrau ffarwel. Y mae'r llythyrau hyn gyda'r pethau mwyaf toddedig a ddarllenwyd erioed. Amhosibl yw eu darllen â llygad sych. Ysgrifenna at ei briod i erfyn arni hyfforddi eu pedair geneth fach-yr hynaf heb fod eto'n bedair oed-yn ofn yr Arglwydd. "Yn enwedig," meddai, "paid â tharo'r eneth hynaf yn rhy arw; gwyddost fod gair yn ddigon! Ysgrifennodd hefyd lythyr i'w bedair geneth i'w gadw nes y medrent hwy ei ddeall. Apelia atynt i weddïo tros Gymru, i wneuthur cymwynas i'r plentyn lleiaf o Gymru pryd bynnag y caent gyfle, ac i fod yn gefn ac yn gysur i'w nain ei fam ef a fu mor garedig wrtho gynt. Ysgrifennodd hefyd at yr eglwys Ymneilltuol y perthynai iddi, a chynghorai ei haelodau i chwilio am wlad arall, oblegid nid oedd ym Mhrydain orffwysfa i Biwritan ond carchar neu fedd. "Eiddo yr Arglwydd y ddaear. Bydd yr hwn sydd yn Dduw i chwi yn Lloegr yn Dduw i chwi hefyd mewn unrhyw wlad." Crêd rhai mai Penri a roddodd yr awgrym cyntaf i'r Piwritaniaid am fyned i'r America.
Un diwrnod, codwyd crocbren ar ffordd Kent, ac am bedwar o'r gloch ar brynhawn ym mis Mai 1593, crogwyd Penri arno, heb wybod o'i briod na'i gyfeillion am y peth, ac nid oes ond yr Hwn a ŵyr bopeth yn gwybod ymha le y gorffwys ei lwch.
Ar ôl ei farw ef, gofynnodd yr Ymneilltuwyr am ganiatâd y Llywodraeth i fyned i wyllt-diroedd America er mwyn cael Ilonydd i addoli, ond gwrthodwyd eu cais. Ymhen saith-mlynedd-ar-hugain, aethant hwy neu eu holynwyr yno o Holand, a hwy a adnabyddir byth oddi ar hynny fel y Tadau Pererin.
(Park Hill, Bangor, Tachwedd, 1920).