Cyfrol Goffa Richard Bennett/Ymgysegriad i Grist yng ngoleuni hanes y Tadau

Y Piwritaniaid Cyfrol Goffa Richard Bennett


golygwyd gan D Teifgar Davies
Anerchiad i Fuddugwyr yr Arholiad Sirol

YMGYSEGRIAD I GRIST—BYWYD Y TADAU

Mr. Llywydd a Chyfeillion,—

AR achlysur mor gyhoeddus ni byddai yn ddoeth imi gadw ond ychydig o amser, felly âf rhagof at fy ngorchwyl heb ymdroi dim. Clywsoch yn barod eglurhad ar y mater mewn geiriau, a chewch glywed ychwaneg eto cyn diwedd y cyfarfod. Ond barnodd y cyfeillion yma mai purion fyddai cynnig egluro trwy enghreifftiau hefyd. Dichon fod yma rai a ddeallant ac a gofiant enghraifft o'r peth yn well na diffiniad geiriol ohono. A dyna fy ngwaith i dangos ymgysegriad i Grist mewn ymarferiad ym mywyd y Tadau. Yn Wrth y Tadau mae'n debyg y deellir y Tadau Methodistaidd. Pobl ymroddedig iawn i wasanaeth Crist oeddynt hwy. Yn wir, eu hymroddiad a'u gwnaeth yn Dadau inni. Ni buasai yn wiw gennym eu harddel fel Tadau yma heddiw oni bai am eu hymgysegriad i Grist. Diddorol a buddiol iawn i bawb ohonom. a fyddai aros mwy yng nghwmni hanes eu sêl fawr a'u llafur diflino. Ond nid hwyrach fod perygl yn llercian yn ymyl y budd. Wrth ddarllen neu wrando am Howel Harris neu Ddaniel Rowlands yn marchogaeth trwy Gymru o'r naill gwr i'r llall i efengylu yr anchwiliadwy olud heb ymrwystro gyda negeseuau y bywyd hwn, hawdd i bobl gyffredin sy'n gorfod bod yn brysur ar y tyddyn neu yn y chwarel o fore Llun hyd nos Sadwrn, yw llithro i feddwl mai rhywbeth priodol i arweinwyr crefyddol yn unig yw yr ymgysegriad hwn, ac felly i geisio ymesgusodi neu anwybyddu eu diffyg eu hunain ohono. Ond ni wna hynny mo'r tro i'r distadlaf ohonom. Y mae geiriau Crist ei hun yn derfynol ar y pen hwn, "Os daw neb ataf Fi, ac ni chasao ei dad a'i fam, etc.

Nid yn unig ni all fod yn apostol neu genhadwr at y paganiaid, ond ni all ef fod yn ddisgybl i mi. Nid yn unig ni bydd yn fawr yn Nheyrnas Nefoedd, ond nid â i mewn iddi. Rhaid yw cael yr ymgysegriad nid yn unig i'r pulpud ac i'r set fawr, ond i ganol y capel hefyd. Yr ydym oll yn bur chwannog i feirniadu swyddogion eglwysig, ond y mae gennym waith mwy angenrheidiol o lawer i'w gyflawni. Ac fel cymhelliad i hynny, adroddwn ychydig hanesion, nid am y cedyrn a fu yn wŷr enwog gynt, ond am ymroddiad pobl gyffredin oedd â'u gyrfa bron ar yr un lefel â'r eiddom ninnau heddiw.

90 mlynedd yn ôl fe argyhoeddwyd geneth bedair-ar-ddeg oed wrth wrando pregeth mewn capel bychan ger Llanfair Caereinion. Perthynai i deulu uchelfrydig a lynai'n ystyfnig wrth draddodiadau eu tadau gan ddiystyru'r capel a'i gysylltiadau. Diau iddi orfod dioddef llawer o wawd a chwerwder gartref, ond daliodd afael ddiysgog yn ei phroffes. A chyn hir dacw hi'n dechrau ar yr offensive, chwedl y newyddiaduron, ac yn amlygu yn ei chymeriad yr elfen ymosodol sydd i fod ym milwyr yr Arglwydd Iesu. Gofynnodd am ganiatâd ei rhieni i gychwyn addoliad teuluaidd. Nid yn rhwydd y goddefid newydd-beth o'r fath yn y Wern, ond dyfalbarhau a wnai Mary Jones. 'Nhad,' meddai o'r diwedd, rhaid i mi gael gwneud." "Wel," meddai yntau, os rhaid yw, Pal, 'does dim ond gadael iti." A dacw'r eneth 16 oed yn offeiriadu ar aelwyd ei chartref. Yn raddol effeithiodd ei gweddïau, a'i hymarweddiad gwastad ar feddwl ei brawd hynaf, nes yr enillwyd ef i geisio Arglwydd Dduw ei chwaer. Daeth hwnnw yn ddyn duwiol iawn, ac yn gyfaill daearol pennaf i'r Parch. R. Jones o Lanfair. Ond yr oedd Evan, y brawd arall yn parhau yn wyllt a dioruchwyliaeth. Difyr yw darllen am ymgais Mary i geisio ei ennill yntau-yn trefnu oedfa i fod yno ar noson waith, ac yn llunio i roi'r pregethwr i gysgu gydag Evan. O'r diwedd llwyddodd yn ei hamcanion a daeth Evan a Margaret ei chwaer i arddel crefydd. A phwy oeddynt, debygech chwi? Neb amgen na'r Parch. Evan Jones o Drewythen wedi hynny, a Mrs. D. Davies hynaf, Llandinam. Y fath ffrwd o weithgarwch crefyddol a lifodd ac a barha i lifo o'r teulu hwn! Ond y mae'r cwbl yn effaith llafur distaw Mary Jones, sydd yn ei bedd ers 66 mlynedd. Nid rhyfedd fod ei choffadwriaeth yn annwyl tu hwnt ganddynt tra buont byw, ac y mae ei hesiampl yn werthfawr i ninnau. "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Chwiorydd ieuaine sydd yma heddiw, a gaiff yr un gair fod yn wir amdanoch chwithau? Sibrydir bod addoliad teuluaidd yn darfod o'r tir; beth a wnewch chwi tuag at ei edfryd? Onid ydych yn ddigon cryf i'w ail-gychwyn eich hunain, a ofelwch chwi na bo dim rhwystr ar ffordd tad neu frawd? A gedwch chwi dôn ysgwrs yr aelwyd y fath fel y bydd y trawsgyweiriad at Feibl a gorsedd gras yn esmwyth a rhwydd? Cofiwch hefyd fod eich dylanwad ar eich brodyr yn fawr iawn, ac ar adeg neilltuol ar eu hoes yn gryfach efallai na dylanwad mam. A ellir dweud amdanynt yng nghanol hudoliaethau tymor ieuenctid fel y dywedir am Foses yn y cawell llafrwyn, " a'i chwaer ef a safodd o bell i gael gwybod beth a wneid iddo ef." Beth a wyddost ti, ferch, a gedwi di dy frawd? Os teimlwch yn wan i wneuthur y pethau hyn, cofiwch ddau beth:—

1. Fod ffyddlondeb distaw, cyson i Grist yn llefaru'n effeithiol iawn. 140 mlynedd yn ôl, ar brynhawn Saboth yn yr haf, difyrrai dau o weision Rhiwgriafol eu hunain trwy goetio. Ar ganol set gwelent wraig yn dynesu atynt. Adnabuant hi fel un oedd yn arfer cerdded o'r ardal honno dros y bwlch i gapel y Bont bob Sul. Ni ddywedodd yr un gair wrthynt, ond aeth ei ffyddlondeb i'w Harglwydd fel brath cleddyf i galon un o'r bechgyn. Y mae'r set honno heb ei gorffen eto, ac enw'r bachgen a glwyfwyd yn adnabyddus fel Ishmael Jones, y pregethwr o Landinam, y bendithiwyd ei weinidogaeth i ddwyn Ann Griffiths i brofi rhyddid yr Efengyl.

2. Fod ymgyflwyniad i Grist yn cryfhau galluoedd yr enaid, fel yr oedd Nasareaeth Samson yn gryfder i'w gorff. "Y gwan, fe'i gyr yn gryfach." "Ni ddichon byd a'i holl deganau, fodloni fy serchiadau 'nawr," medd Ann Griffiths. Fe fuont yn gallu gwneud hynny gynt. Do siwr! Wel, y maent hwy ynddynt eu hunain yr un peth eto! Ydynt, ond yr wyf wedi tyfu llawer er y pryd hwnnw. Wedi i'm Harglwydd ennill fy mryd, ymehanga bob dydd.

Y mae hanes Evan Griffiths o Gegidfa yn debyg iawn i hanes Mary Jones, pe byddai amser i'w adrodd. Cymered y meibion, hefyd, yr hyn a ddywedwyd eisoes at eu hystyriaethau, gan gofio bod angen am Barac yn gystal â Deborah er gorchfygu'r Canaaneaid. Beth am waith yr Ysgol Sul yn yr ardaloedd yma? Cofiaf, pan oeddwn yn llanc imi fod mewn Cyfarfod Ysgolion yn Rhydyfelin, a'r diweddar Barch. Isaac Williams yn siarad â'r athrawon : "Dafydd Morgan," meddai wrth un, Ydech chwi yn dod yma yn o gyson?" Wel, 'rwy'n weddol cyn belled ag y mae hynny yn y cwestiwn," ebe yntau. "'Rwy'n meddwl mai dwy ysgol a gollais i ers dros 40 mlynedd." Cadarnhawyd ei dystiolaeth gan ei gymdogion amser cinio, a dywedent mai afiechyd blin a'i lluddiodd y ddau dro a gollodd. Rhaid oedd fod hwnnw wedi dechrau glynu'n bur ieuanc. Rhai tebyg iddo sydd eisiau heddiw. Beth am gyfrannu hefyd at yr Achos a chyfreidiau'r saint? A yw ein pobl ieuainc yn peidio â gadael y fraint hon yn ormodol i'r rhieni a'r pennau teuluoedd? Yr oedd llanc o Lanllugan gynt yn was yn ardal Pentyrch pan ddaeth hen bregethwr o'r Deheudir heibio ar ei daith. Teimlodd y bachgen yn fawr wrth weld agwedd lesg yr hen ŵr. Defnyddiasai ran o'i gyflog i brynu merlyn ychydig cyn hynny, gan feddwl ei werthu yn y man ac elwa wrth farchnata felly. Ond yn awr, penderfynodd roddi'r merlyn yn anrheg i'r hen bregethwr. Ymliwiai ei feistr ag ef gan ddweud, "Gwell iti adael i mi ei gael, rhoddaf fi ei werth amdano. "Na, meistr," meddai yntau, gwas Iesu Grist sydd i gael y merlyn." Ac felly y bu, aeth Humphrey Edwards yn shareholder yn nheyrnas nef. Bob yn dipyn daeth yn bregethwr ei hunan, a bu'n ffyddlon hyd angau. A phan oedd yntau yn hen ŵr, ac ar daith yn Sir Fôn teimlodd rhai o'r brodyr drosto ac anrhegasant ef â merlyn fel y gwnaethai yntau â William Harry hanner can mlynedd cyn hynny. Bendigedig yw'r dyn ieuane sydd yn hawdd ganddo roddi a chyfrannu at achos ei Wared wr. "Yn wir, meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr." Gobeithio nad oes yma yr un sydd yn llawn honour yn Ffair Dinas, ond yn dianc heb dalu am eisteddle yn y capel flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Cyfarfod i'r bobl ieuaine yw hwn, ac atynt hwy y mae cyfeiriad ein sylwadau. Ond nid arhosant yn hir yn yr ystad y maent ynddi heddiw. Y mae cyfnewidiadau mawr o'u blaen, a phwysig yw medru mynd trwyddynt heb golli'r ymgysegriad. Enwn rai ohonynt:

1. Priodas: Ni wnaf ond dweud adnod ar hyn. "Na ieuer chwi yn anghymarus gyda'r rhai digred. O anghofio hyn dug rhai o'r ffyddloniaid arnynt eu hunain lawer o ofidiau. Merch grefyddol o Gwmeidrol gerllaw yma a oddefodd i eiddo a safle bydol ei hudo i briodi dyn digrefydd o gwr arall Cyfeiliog. Daliodd afael ar ei chrefydd trwy'r cyfan, ond O! 'r chwerwedd a ddaeth i'w rhan. Byddai raid iddi lechian yn ddirgelaidd trwy gymoedd a choedwigoedd i fynd i'r seiat, a llawer gwaith yr aeth ei gŵr ar ei hôl i godi cynnwrf o gwmpas y capel, a phriodoli pob anweddeidd-dra iddi hi a'i chyfeillion. A oedd ychydig eiddo yn ddigon o dâl am y misoedd o oferedd a'r nosweithiau blinion a osodwyd iddi?

2. Dewis Cartref: Nid manteision bydol yn unig a ddylai benderfynu'r dewisiad. Dylai breintiau crefyddol, neu ynteu gyfle i wasanaethu crefydd lle y mae'n wan, gael llais yn y mater. Pan briododd Thomas Foulkes o'r Bala y tro olaf, teimlai y dylai symud i fyw i rywle rhag bod yn opposition i Mr. Charles mewn busnes. Ond i ba le? Pan oedd ar benderfynu symud i Ruthyn neu Gaer, lle yr oedd perthynasau i'r wraig yn barod i'w croesawu ac agorfa dda am fusnes, digwyddodd rhywun ddweud yn ei glyw, "Gresyn na fuasai rhyw deulu crefyddol, gweddol gefnog yn ymsefydlu ym Machynlleth, y mae'r achos Methodistaidd yno bron â chael ei lethu gan wendid yr aelodau a her gelynion, prin y ceir yno ddrws agored i letya pregethwyr, a chymaint o deithio sydd rhwng Gogledd a De drwy'r dref." Machynlleth amdani ynteu," ebe Thomas Foulkes, ac yno y daeth ac yr erys rhai o'i deulu hyd heddiw, o dan fendith amlwg y Goruchaf. "Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom," ond bu raid iddo ddianc oddi yno heb ei gyfoeth, a thipyn o greithiau ar ei gymeriad yn y fargen.

3. Trin y Byd: Dylai ymgysegriad i Grist ddyfod i mewn i'n helyntion masnachol, er ein cadw rhag ariangarwch,—gwreiddyn pob drwg. Sonnir yn aml am arfer y byd heb ei gamarfer. Y darlleniad diwygiedig yw arfer y byd heb ei lawn arfer—without fully using—awgrym y dylai Cristnogion fod yn gymedrol yn eu hymgais am gyfoeth, ac nid gyrru'r cerbyd hyd y dibyn. Clywsoch am Mr. Jones, Dolfonddu, gynt. Porthmon oedd ef, a chyrhaeddodd adref o Loegr un tro ar fore ffair Dolgellau. Yr oedd y farchnad wedi gwella yn Lloegr, ond nid oedd papur newydd na thelegram y pryd hwnnw i daenu'r sôn. Gan hynny, anfonodd Mr. Jones y criwr trwy'r dref i rybuddio'r ffermwyr i fod ar eu gocheliad gan fod y farchnad wedi gwella fel a'r fel. Porthmon yn ddigon o Gristion i wneud fel yna! Blaenor yn eich eglwys chwi, Mr. Llywydd, yn galw yn fy hen gartref i un diwrnod, ac yn gofyn i'm nain, "Sarah Richard, ydych chwi yn barod i werthu'r gwlân?" Ydwyf." "Faint ydych eisiau amdano?" "Hyn a hyn," meddai hithau, 1/- y pwys, dyweder. "O,' meddai yntau, "mae'r gwlân wedi codi peth, 'rwy'n rhoddi 1/1 am wlân fel eich un chwi yrwan, ac mi rhof nhw i chwithau." Gwendid," meddai rhywun. Nage, nerth, fy nghyfeillion. Dyna i chwi ddyn wedi gorchfygu y chwant anniwall am gyfoeth sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. "Wel, busnes ydi busnes," meddech chwi, "nid â dyn ddim ymhell y ffordd yna. Fe aeth hwn mor bell â'r bedd yn anrhydeddus, ac fe adawodd lawer o eiddo i'w fab ar ei ôl. Fe adwaenwn i hwnnw; ni rodiodd ef yn ffyrdd ei dad, ceisiodd fod yn smartiach, ac yn fwy business-like, os gwelwch yn dda, a bu farw yn hen ŵr heb fod nemor gwell na phensioner ar elusen dieithriaid. Nid ystraeon wedi eu coginio i bwrpas neilltuol yw'r pethau hyn, ond ffeithiau profedig. A gallaswn adrodd ychwaneg ohonynt pe buasai amser yn caniatau. Braf o beth fyddai medru gorchfygu'r byd ac nid ymostwng i arfer ei ddulliau. Darllenwch orchestion arwyr yr unfed bennod ar ddeg o'r Hebreaid, a chewch yno 'wneuthur cyfiawnder' wedi ei osod i mewn rhwng goresgyn teyrnasoedd a chau safnau llewod. Cofiwn air y gŵr doeth-gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth."

4. Gweini yn Nhŷ Dduw: Os oes raid wrth ymgysegriad i drin y byd yn ddibrofedigaeth, diau fod ei eisiau i iawn ymddwyn. yn y Cysegr. Chwychwi, fy nghyfeillion ieuainc, yn fuan iawn a fydd athrawon ac arolygwyr yr Ysgol Sul, a blaenoriaid yr eglwysi yn y cylch hwn. Efallai y cyrhaedda rhai ohonoch i'r Weinidogaeth. Bydd eich cyfrifoldeb yn fawr iawn, ac nid oes dim ond ymgysegriad i Grist a'ch dwg drwyddo yn ddiogel. Un o'r dynion gorau a fu'n byw erioed yn y cyffiniau yma oedd y Parch. John Roberts hynaf, Gweinidog yr Annibynwyr yn Llanbrynmair. Adroddaf un hanesyn wrthych a ddengys pa fodd yr oedd ef yn gwneud ei waith. Tua chan mlynedd yn ôl, mwy neu lai, megid bachgen addawol iawn ar fronnau'r eglwys yn yr Hen Gapel. Parai ei fedr a'i ymroddiad gyda dysgu'r Gair ac adrodd y pregethau syndod a llawenydd i'r holl frawdoliaeth a mynych. y gofynnid, "Beth fydd y bachgennyn hwn?" Ond daeth y dydd iddo adael diogelwch cartref a chwmni'r saint, a gorfu iddo droi i Ddeheudir Cymru am fywoliaeth fel llawer un ar ei ôl. Yno daeth o dan ddylanwadau gwahanol iawn, ac ysywaeth, ymadawodd ei fwynder fel gwlith boreol. Cyn bo hir, medrai eistedd yn eisteddfa'r gwatwarwyr ac ennill yno yr un flaenoriaeth ag a feddai gynt yn y capel a'r gyfeillach. Ryw ddiwrnod cyrhaeddodd rhyw Cusi i Lanbrynmair gyda'r newydd fod hwn a hwn wedi troi'n fachgen drwg, ac O! 'r prudd-der a daflwyd dros feddyliau ei gyfoedion, a hen gyfeillion ei fam a'i dad. Ond nid oedd dim i'w wneud ond cusanu gofid a gweddïo. Arhoswch funud, yr oedd yno un a gredai y dylid gwneud ychwaneg. Un bore, fe gyfododd y gweinidog yn blygeiniol iawn, a chyfrwyodd y ferlen fach a throdd ei wyneb tua'r Deheudir. Nid oedd Cymanfa na Chwrdd Chwarter ar ei ffordd, ac nid ar bulpud yr oedd ei lygad. Beth oedd ystyr ei daith, ynteu? Wel, cofio am eiriau ei Feistr a wnaeth, a gadael y namyn un pum ugain yn y gorlan a mynd i'r anialwch ar ôl y colledig. Ar fuarth tafarn rhwng Rhymni a Thredegar fe'i canfu oddi draw. Gwelodd y bachgen yntau, ac aeth yn ddydd barn arno mewn moment. Dihangodd am ei fywyd i rywle o'r golwg. Ond nid oedd yr hen weinidog wedi marchogaeth 80 milltir a chroesi pedair sir i gymryd ei daflu ymaith mor hawdd; mynnodd afael arno, ac nid oes ond y nef a ŵyr hanes cyfarfyddiad yr afradlon a'r bugail. Beth bynnag, ni throdd John Roberts ei wyneb tuag adref nes medru cyflwyno'r colledig edifeiriol i ofal ac ymgeledd eglwys Dduw yn y lle, ac allan nid aeth ef mwyach, ond disgleiriodd fel seren dros amser byr, ac yna bu farw gan adael tystiolaeth ddiffuant fod ei gamwedd wedi ei ddileu.

O ardderchowgrwydd Cymru! Beth bynnag yw ei dyled i dywysogion y pulpud, credaf ei bod yn llawn cymaint i fugeiliaid fel John Roberts, ac y mae'r fugeiliaeth hon i raddau yng nghyrraedd pawb ohonom.

Yr wyf i yn awr ar ben. Dyma drem ar nodwedd y bobl yr ydym ni yn ddilynwyr iddynt. Efelychwn hwy gan ystyried diwedd eu hymarweddiad. Enillasant barch a gwrogaeth y byd yn y diwedd. Ac os ewyllysiwn ninnau feddu ar ddylanwad iach a chryf ar ein hoes, y ffordd i'w gyrraedd yw bod yn ffyddlon i Grist.


(Aberangell, Hyd. 20, 1916).

Nodiadau

golygu