Cyfrol Goffa Richard Bennett/Hanes ffurfiad y Gyffes Ffydd
← Ysgrif Goffa | Cyfrol Goffa Richard Bennett golygwyd gan D Teifgar Davies |
Y Dathliad-Ymbaratoad ato → |
HANES FFURFIAD Y GYFFES FFYDD
GWR o Drefaldwyn oedd y cyntaf i awgrymu i'r Gymdeithasfa y priodoldeb o gyhoeddi Cyffes o'i ffydd. Ym mis Hydref, 1745, cynhelid Cymdeithasfa yn Errwd, islaw Llanfairmuallt. Gan ei bod yn beryglus i rai Cynghorwyr fyned oddi cartref y pryd hwnnw oherwydd y press gang, anfonodd Richard Tibbott o Lanbrynmair lythyr i Errwd, yn lle myned yno ei hunan. Yn agos i'r diwedd, dywed fel a ganlyn,—"Y mae gennyf rai pethau i'w gosod ger eich bron a fyddai, fel yr wyf yn credu, yn fuddiol i ni . . . Tueddaf i feddwl mai buddiol i ni fyddai rhoddi ein barn gyda golwg ar egwyddorion mewn argraff, fel na byddo camsyniadau na lle i neb feddwl ein bod yn coleddu syniadau nad ydym. Byddai hyn hefyd yn gymorth i ni ddeall ein gilydd, ac yn tueddu i fwy o undeb. A manteisiol fyddai gadael tystiolaeth am wirionedd yr Efengyl ar ein hôl, fel y gallai lefaru er lles oesoedd i ddyfod." Gallwn ninnau oll ymlawenhau yma heddiw ar bwys yr ystyriaeth fod un o feibion yr hen sir, yn y cyfnod bore hwnnw, mor graff i weled ac mor wrol i ddangos "beth a ddylasai Israel ei wneuthur."
Ond ni wnaeth Israel yn ôl yr awgrym am agos i 80 mlynedd wedyn. Y prif reswm am yr hwyrfrydigrwydd oedd mawr ofal ein Tadau am osgoi popeth a dueddai i'w gwneud neu i'w dangos yn sect neu enwad ar wahân i'r Eglwys sefydledig. Fel adran o'r Eglwys honno yr ystyrient eu hunain ac y dymunent i bawb arall edrych arnynt. Argraffwyd eu Rheolau i'r Seiadau amryw weithiau, lle y mynegir bod eu golygiadau athrawiaethol yn hollol gytun ag erthyglau eglwys Loegr. A chan fod y rheini yn agored i gael eu deall mewn mwy nag un ffordd, ychwanegid weithiau mai'r dehongliad Calfinaidd arnynt a goleddent hwy. Dyma fu eu safle am dros 80 mlynedd.
Crynhoir hanes y 50 cyntaf o'r 80 mlynedd mewn llythyr a anfonodd Williams o Bantycelyn, ddeng niwrnod cyn ei farwolaeth, at Mr. Charles o'r Bala. "Fe gadwodd Duw," meddai, ein corff ni yn rhydd rhag cyfeiliornadau dros agos i 60 mlynedd. Ni bu ddim heb ymosodiadau aml a dychrynllyd, oddiallan ac oddifewn, ond fe'i cadwyd hyd yma yn iach yn y ffydd trwy'r cwbl, er bendith i filoedd o'n cydwladwyr. Nid wyf yn ammeu na ofala yr un Duw am danom ni eto fel corff tros oesoedd a chenedlaethau."
Dyna dystiolaeth yr olaf o'r Tadau cyntaf am y gorffennol, a'i obaith am y dyfodol. Ac er mwyn gwneud a allai i sylweddoli'r gobaith, ychwanega rai cyfarwyddiadau sydd yn datguddio'r gorffennol wrth gynnig goleuo'r dyfodol. Anogwch y llefarwyr ieuainc, yn nesaf at y Beibl, i sylwi'n fanwl ar Athrawiaethau'r hen Ddiwygwyr enwog, megis y gosodir hwynt allan yn Erthyglau Eglwys Loegr a'r tair Credo, sef Credo'r Apostolion, Nicea, ac Athanasius. Gwelant yno wirioneddau mawrion yr Efengyl a dirgeledigaethau Duw yn cael eu gosod allan mewn modd hynod o ardderchog ac addas. Y mae Cyffes Ffydd a Chatecism y Gymanfa, hefyd, yn haeddiannol o barch mawr a derbyniad. Myfyriant yn astud a chwiliant yn fanwl y cyfryw orchestwaith a'r rhain, fel y dysgont ddeall yn oleu a llefaru yn addas wrth eraill. am athrawiaethau sylfaenol ein cred."
Gwelwn na cheir yn y siars hon un awgrym am ffurfio Cyffes newydd, a chyn i hynny ddyfod i ben, aeth tri deg o flwyddi heibio. Dywedwn air yn fyr am bob un o'r degau.
(1) Y gŵr cyntaf a pharchedicaf yn y Corff ar ôl marwolaeth y bardd o Bantycelyn oedd Peter Williams. Dygwyd cyhuddiad yn ei erbyn ei fod yn gŵyro mewn barn ynghylch yr athrawiaeth, a'r diwedd fu ei ddiarddel. Teg yw casglu i'r helynt hwn gyda gŵr mor enwog ac adnabyddus ddwyn athrawiaeth a chredo i'r ffrynt yn ein plith i raddau mwy nag o'r blaen.
Yn fuan wedyn, dechreuodd rhai o ynadon Meirionnydd roi hen ddeddfau gorthrymus yr oesoedd blaenorol mewn gweithrediad yn erbyn y Methodistiaid. Dirwywyd rhai o'r pregethwyr a'u gwrandawyr; ffodd eraill o'r wlad, bu milwyr allan yn tyrfu ac yn tanio mor agos yma â Chorris, a chaewyd llawer o'r capelau am ysbaid. Mewn canlyniad, penderfynwyd ymofyn trwyddedau i'r pregethwyr a'r capeli, yr un modd a'r Ymneilltuwyr. Llaciodd hyn gryn lawer ar ymlyniad y Methodistiaid wrth yr Eglwys Wladol.
(2) Tua dechrau'r cyfnod hwn, daeth y Wesleaid i Gymru, gan ledaenu'r golygiadau Arminaidd gyda chryn aidd. Yn fuan aeth y wlad fel crochan berwedig gan ymrysonau a dadleuon. Ni feddwn ni heddiw unrhyw ddirnadaeth am ffyrnigrwydd y teimladau a gynhyrchwyd rhwng crefyddwyr a'i gilydd. Barnodd y Gymdeithasfa yn briodol ddelio mewn modd uniongyrchol ag asgwrn y gynnen trwy gymryd Prynedigaeth Neilltuol" yn fater trafodaeth yn Llanfair Caereinion, Ebrill 1806, a "Galwedigaeth Effeithiol" yn Llanidloes, Ebrill 1807. Ond y mae yn ddiamau i lawer o'n pobl ni, wrthwrthwynebu Arminiaeth, lithro i'r eithafion cyferbyniol a mabwysiadu syniadau cyfyng iawn. Y neb a fynno ddeall yr amgylchiadau, darllened hanes y Parch. Robert Davies, Llanwyddelan, pan oedd yn llanc ym mhlwyf Darowen. Gwelir yno ŵr ieuanc mewn ing argyhoeddiad am bechod, a phulpud y Methodistiaid yn Sir Drefaldwyn wedi mynd heb unrhyw ymwared i'w gymell arno. Bendith fawr oedd na chynigiwyd llunio Cyffes Ffydd yng ngwres—neu oerfel, os mynnwch—y teimladau hynny. (3) Yn nechrau'r cyfnod hwn, ordeiniodd y Methodistiaid weinidogion iddynt eu hunain, a thrwy hynny gorffennwyd torri'r cysylltiad oedd rhyngddynt a'r Eglwys Esgobaethol. Yr oeddynt bellach yn gorff o grefyddwyr ar wahân i'r holl enwadau. Rhyfedd na chawsid Cyffes y pryd hwn. Ordeiniodd Cyfundeb Lady Huntingdon, ein cyfathrachwyr agosaf yn Lloegr, weinidogion 30 mlynedd o'n blaen ni, a lluniasant hwy Gyffes Ffydd yr un pryd. Hwyrach mai'r ymddiriedaeth gyffredinol a feddem yn Mr. Charles o'r Bala oedd y prif reswm nad efelychwyd hwynt gennym. Cymerem ef fel referee ar bob mater braidd "ymofynnid ag Abel, ac felly y dibennid " tra fu Abel fyw. Yn Hydref 1814, bu farw Mr. Charles; a chyn diwedd yr un flwyddyn yng Nghymdeithasfa Llanrwst, penderfynwyd paratoi at gael Cyffes Ffydd. Dyna'r hyn y dadleuai Richard Tibbott drosto 69 mlynedd cyn hynny bellach ar y blociau.
Ond ni ddaeth y diwedd eto. Cododd anhawster o gyfeiriad annisgwyliadwy. Y gŵr mwyaf ei ddylanwad yn y Gogledd ar ôl marwolaeth Mr. Charles oedd John Elias. Er ei ddoniau areithyddol, nid oedd mor gadarn a sefydlog ei farn â rhai o'i frodyr. Yn union yn y cyfwng hwn, gŵyrodd oddi wrth y golygiadau uniongred ar un neu ddau o bynciau, a chyhoeddai efengyl arall " ym mhrif leoedd y dyrfa gyda'i huodledd arferol, er gofid dirfawr i'w gyfeillion gorau, a boddhad digymysg i'r rhai culaf o'r frawdoliaeth. Bu cynnwrf nid bychan yn y gwersyll o'r herwydd ; ac nid cyn i Thomas Jones o Ddinbych, ein prif ddiwinydd, wrthwynebu'r cyfeiliornad hyd at ddagrau ar lawr y Sasiwn, y tynnodd Elias rai o'i eiriau yn ôl, ac yr adferwyd heddwch. Ond argyhoeddwyd yr arweinwyr nad gwiw myned ymlaen i lunio Cyffes Ffydd tra byddai'r awyrgylch mor llawn o drydan. Felly aeth y trydydd deng mlynedd, ar ôl marwolaeth Pantycelyn, heibio heb Gyffes, a hyd y gwyddys, heb nemor o sôn am un ar ôl gaeaf 1814—15. Rywbryd yn ystod y flwyddyn 1821, dygwyd y mater i sylw drachefn; ond anodd dweud pa le na pha bryd y bu hynny. Penderfynodd Cymdeithasfa'r Bala, ym Mehefin, gael argraffiad newydd o Reolau y Seiadau, ond nid yngenir gair yn y Cofnodion am Gyffes, er bod y naill yn dal rhyw fath o berthynas â'r llall. Penderfynodd Cymdeithasfa Llangeitho yn Awst "bod y Corff oll yn gweled ei fod yn beth tra dymunol ac angenrheidiol i argraffu a chyhoeddi y tri pheth canlynol,—(1) Math o Gyffes Ffydd, sef Barn y Corff am holl brif bynciau'r athrawiaeth a gredir ac a bregethir yn ein mysg. (2) Y Rheolau Disgyblaethol sydd yn argraffedig yn barod, gyd ag ychydig chwanegiadau, os yn rheidiol. (3) Cyfansoddiad y Corff, etc.
Dyma'r penderfyniad eglur cyntaf a feddwn ar y mater ar ôl i gynigiad 1814 erthylu. Barned y cyfarwydd pa un a basiwyd hwn heb wybod gogwydd y Gogledd ai peidio. Nid cwbl amherthynasol yw atgoffa ddarfod cynnal Cymdeithasfa ym Machynlleth ar ôl un y Bala, ac o flaen un Llangeitho. Ychydig iawn o'i hanes sy'n wybyddus. A yw yn bosibl neu yn debygol mai yma, ym Machynlleth, lle y dathlwyd ei chanmlwyddiant yn 1923, yr ymddygwyd y Gyffes yn 1821? Dichon fod cofnodion ar gael yn rhywle a deifl oleuni ar y cwestiwn diddorol hwn.
"Deuparth gwaith yw ei ddechrau." Aeth y gwaith o lunio'r Gyffes rhagddo yn hwylus bellach. Ym Mhwllheli, ym Medi, enwyd brodyr o bob sir at y gorchwyl. Disgwylid iddynt ysgrifennu nifer o erthyglau, ac yna eu darllen yn eu Cyfarfod Misol er mwyn unfrydedd a chadarnhad. Mr. Gwalchmai a gynrychiolai ein rhanbarth ni. Yn Llanidloes, Ebrill 1822, penderfynwyd bod y dirprwywyr i gyfarfod yn y Fronheulog, Llandderfel, o flaen Cymdeithasfa'r Bala i gymharu eu sketches, ac i ffurfio un Gyffes gryno allan o'r cwbl. Felly y gwnaethant; a darllenwyd eu crynodeb brynhawn cyntaf y Sasiwn i'r holl frawdoliaeth. Cytunodd pawb â phob pwnc ohoni, heb neb yn tynnu'n groes.
Gweithredodd y De yr un modd; ac yn Llangeitho yn Awst, darllenwyd a chymeradwywyd eu Cyffes hwythau. Felly, am rai misoedd, meddai'r ddwy dalaith bob un ei Chyffes Ffydd ei hun.
Tuag at wneud y ddwy yn un, cyfarfu un-ar-ddeg o weinidogion yn Aberystwyth o flaen Cymdeithasfa Mawrth, 1823; a buont wrthi am ddeuddydd yn talfyrru, yn ychwanegu, neu yn newid, fel y barnent yn angenrheidiol. Mr. Gwalchmai a gynrychiolai Drefaldwyn Uchaf yno hefyd, ac yr oedd yn un o ysgrifenyddion y pwyllgor. Darllenwyd y Gyffes orffenedig i'r Sasiwn y dydd. canlynol, pryd y derbyniwyd hi'n unfrydol a chalonnog.
Un peth oedd yn eisiau eto, sef cymeradwyaeth y Gogledd i'r Gyffes unedig. Yng Nghymdeithasfa Llanfyllin, y mis canlynol, aethpwyd at y gorchwyl hwnnw. Darllenwyd, neu yn hytrach dechreuwyd darllen, yr erthyglau. Ymdriniai'r ddeunawfed â mater y buasai cryn wahaniaeth barn yn ei gylch yn ein plith. Ymddengys mai Mr. Gwalchmai a'i ffurfiodd i gychwyn, ac iddo orfod ei hysgrifennu lawer gwaith, gan newid cryn dipyn arni, er mwyn cyfarfod â syniadau brodyr eraill. Pan ddarllenwyd hon yn Llanfyllin, gwrthdystiodd y Parch. Robert Roberts o Rosllanerchrugog yn ei herbyn, gan ddweud ei bod yn ddoeth uwchlaw geiriau'r Ysgrythur. Siaradodd mor ddeheuig nes cario llawer o'r Sasiwn gydag ef; a'r unig beth a fedrai ei phleidwyr wneud, er achub y sefyllfa, oedd gohirio ystyriaeth o'r 27 erthygl olaf hyd Sasiwn y Bala. Oni bai am hyn, yn Sir Drefaldwyn y cawsai'r Gyffes ei chadarnhau yn derfynol.
Sasiwn y Bala a ddaeth, a thrwy ddylanwad John Elias a Mr. Charles, Caerfyrddin, llwyddwyd i basio'r Gyffes fel yr oedd, heb newid dim arni, fel hefyd y gwnelsid yn Aberystwyth. Dyna'r Gyffes bellach mewn grym. Ond y mae'n deilwng o sylw ddarfod i'r Gymanfa Gyffredinol, 50 mlynedd yn ddiweddarach, farnu mai priodol ychwanegu nodiad at y ddeunawfed erthygl, yn cynnwys yn hollol yr hyn y dadleuai Robert Roberts drosto yn Llanfyllin.
Cytuna awdurdodau go uchel i ddweud bod y Gyffes yn gampwaith o ran mater a chyfansoddiad. Nid sêl enwadol, ddallbleidiol, sy'n dywedyd fel hyn. Rai blynyddoedd yn ôl, bu yn fy llaw i lythyr a ysgrifennodd y Parch. John Roberts, gynt o Lerpwl, at gyfaill yng Nghymru yn y flwyddyn 1871. Preswyliai Mr. Roberts ar y pryd yn Edinburgh, ac wele rai o'i eiriau, "Traddododd Dr. Candlish anerchiad rhagorol i efrydwyr Athrofa yr Eglwys Rydd ar agoriad yr Athrofa ar Deyrngarwch i'r Gwirionedd," ac wrth gyfeirio at yr Athrawiaeth am Etholedigaeth, dywedodd iddo gael ei foddhau yn ddirfawr wrth ddarllen Cyffes Ffydd y chwaer eglwys yng Nghymru, lle yr oedd yr athrawiaeth hon yn cael ei gosod allan yn fwy eglur ac ysgrythurol nag mewn unrhyw Gyffes a welodd erioed. Yna efe a'i darllenodd i gyd. . . Ar ôl y cyfarfod, daeth amryw o Weinidogion yr Eglwys Rydd Professor, Doctors, &c., ataf, i'm llongyfarch a gofyn pa le y gellid cael copi o'r Gyffes Ffydd.'
Dyna dystiolaeth y doethawr o'r Alban amdani ymhen 50 mlynedd ar ôl ei chwblhau. Yr oedd ei hawduron oll erbyn hynny wedi noswylio. John Hughes, Pontrobert, oedd yr olaf ohonynt i adael y ddaear. Wrth ddarllen y ganmoliaeth hon, anodd i'r meddwl beidio ag ehedeg o neuaddau Edinburgh at yr hen batriarch o'r Bont yn ei fwthyn cul a thlodaidd, gyda'i lyfrgell o ryw hanner cant o fân-gyfrolau, ac at ei ddeg cyd-weithiwr na chawsai odid un ohonynt gymaint â therm o'r hyn a ellid ei ystyried yn addysg athrofaol, a gofyn mewn syndod, pa fodd y gallasant gyflawni'r fath orchestwaith. Atebwn ni fel y mynnom. Awgrymir eu hatebiad hwy eu hunain i'r cwestiwn yn y geiriau a ysgrifennodd y Parch. Ebeneser Richard ar ddiwedd ei adroddiad o gyfarfod Aberystwyth,—
"Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel.""
(Yn yr Henaduriaeth, Rhagfyr, 1923).