Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 19
← Penawd 18 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 20 → |
XIX.
DECHREU MASNACH Y WLADVA.
Cynhauav da 1873—4 a nwyddau Indiaidd, alwodd am long i'w travnidio i varchnad. Wedi colli gwasanaeth " llong y guano,' aeth Capt. Cox yn y Maggie," ac wedi hyny yn y "Pascual Cuartino,' ," i ail vasnachu gyda'r Wladva a Montevideo. Aeth yr olav i'r lan ger San Blas, wedi mordaith o 40 niwrnod! Yn eille aeth llong vechan gan un Charles Brown, a llwyth perthynol i un o hen gyveillion y Wladva yn Patagones, ac wele gyvieithiad o'r tâl gavodd hwnw :—"Hyn sydd i wirio vod Capt. Brown, yn ei long vach, wedi cyraedd yma yn ddiogel, a glanio y llwyth ddanvonasai Don Ygnacio Leon 'i awdurdodau y Wladva.' Ond ni thalwyd y freit. Gwnaeth Capt. Brown ei oreu i'w cael, ond y mae'r bobl ar hyn o bryd yn rhy dlawd i dalu, gan eu bod wedi gwerthu pob peth a veddent am ddillad, &c., i'r Cracker." Gwnaethum vy ngoreu i gael y freit i Capt. Brown—ond yr oedd yn anichon.—H. H. Cadvan, Llywydd, Mai 24, 1871."
Yr oedd y llong Brydeinig "Irene," berthynol i'r Falklands, yn arver pysgota moelrhoniaid ar gyfiniau y Wladva. Gwybu Capt. yr "Irene " (Wright), am y Wladva, a daeth i'r avon i edrych beth welai. Digwyddai fod dau o'r sevydlwyr (E. Price a J. Griffith), wedi cael cnwd da o wenith; a chytunasant ei ddanvon yn yr "Irene" i Buenos Ayres. Hwnw oedd y llwyth cyntav o wenith y Wladva allvoriwyd, a bu ryvedd gan vasnachwyr Buenos Ayres weled y vath ronyn. Gwnaeth yr "Irene " vordaith neu ddwy eilwaith i'r Wladva, ac agorodd masnachdy Rooke a Parry gangendy ar yr avon Chupat, i vasnachu yn y gwenith, a'r plu, a'r caws, ac ymenyn allai y Wladva werthu. Yn 1874, daeth y ddwy vintai vawr gynullasai D. S. Davies, A. Mathews, a D. Ll. Jones yn yr Unol Daleithau a Chymru. Cludodd yr "Irene " y dyvudwyr hyn a'u celvi lawer (taw dyvudwyr cevnog oedd y rheiny) ar ddwy vordaith neu dair. Gwerthwyd y llong hono, a phrynodd y masnachdy long arall, o'r enw 'Adolfo," gyda'r hon y buont yn travnidio am vlyneddau. Wrth weled llwydd y vasnach hono, daeth Cymro arall (J. M. Thomas), i gychwyn masnach gyda'r llong Gwenllian." A chyn hir iawn wedyn, vasnachwr Arianin, o'r enw Malaquias Nunez, yn y llong "Esperanza." Nid oedd raid mwyach bryderu dim am gysylltion travnidiol a chyvleusderau. Dylivai dyvudwyr drwy Buenos Ayres, ac os na vyddai llong yn hwylus siartrai y Llywodraeth long rhag blaen, i gymeryd y bobl a'u clud lawer i'r Wladva. Unwaith neu ddwy danvonwyd yr agerlong "Patagones" gydag ymvudwyr a'u celvi yn benodol i'r Wladva.
Pan ddechreuodd dyliviad dyvudwyr 1874—5, nid oedd y Wladva mo'r 200 o eneidiau. Ond yn 1876, pan gyhoeddwyd adroddiad y "Volage," yr oeddynt yn 690. Gan y cyraeddasai 412 yn union wedi i'r gwladvawyr allvorio eu holl wenith—heb y syniad lleiav vod y vath niveroedd i ddilyn—bu peth gwasgva a phrinder y vlwyddyn hono. Ond perthynai i'r Wladva y cyvnod hwn 3 o longau hwyliau—yn rhedeg i Patagones a Buenos Ayres. Cynyddasai y da corniog i agos 1000 o benau: gwerthwyd 6000 lbs. o venyn y vlwyddyn hono, 7000 lbs. o blu estrys (gwerth £1750); 1200 o ventyll crwyn Indiaidd (quillangos), gwerth £1800; a rhawn, crwyn, gwlan, a chrwyn moelrhoniaid, werth £1200; a 300 tunell o wenith. Erbyn 1880, pan gavwyd adroddiad y llong ryvel "Garnet," cynyddasai gwerth yr allvorion gwenith i £16,000; plu estrys, 15,000 lbs., gwerth £3000; quillangos, £2500; crwyn, gwlan, rhawn, &c., £1200. Erbyn 1885, yn ol yr “Amethyst,” yr oedd yno 1650 o drigolion. Ond yn 1881, buasai methiant llwyr am gynhauav, ac am ddwy vlynedd ddilynol i hyny cnydau salw a geid, a phrisiau isel (gwel hanes y Camlesi am eglurhad). Er y cawsid cnwd da yn 1884, nid oedd y pris ond £3 y dunell. Parhai y vasnach Indiaidd rywbeth yn debyg: ond gwelwyd nad oedd pysgota moelrhoniaid yn talu, gan nad oeddys yn deall yr adegau a'r dull blingo; ac velly peidiodd hono. Galwasai y vasnach am ddwy long arall—“ Patagonia” a "Monte Leon."
Hwn hevyd oedd cyvnod y Camlesi Dyvrio. Ar ol cael yr allwedd DYVRIO, buwyd dalm o amser cyn deall yn iawn sut i'w ddevnyddio. Yr oeddys, mae'n amlwg, heb adnabod llawer o neillduolion y wlad: canys yn 1868—9 gorlivodd yr avon dros yr holl ddyfryn, a chollwyd agos yr oll o'r cnwd godidog gawsid: tra y blwyddi dilynol ni chodai yr avon i uchder y fosydd gloddiasid i arwain y dwr dros y caeau—a chollwyd tymor cyvan o eisiau bod y fosydd vodvedd neu ddwy yn is ac yn lletach. Gwnaed tri neu bedwar cais i argaeo'r avon, vel ag i godi lyval y dwr ar gyver ardaloedd cyvain cydiol oedd a chydfosydd yn barod. Ond wedi llwyr vethiant cynhauav 1881, deallwyd y byddai raid cael Camlesi cyfredinol, digon o vaint a digon isel yn eu geneuau i gyvlenwi galwad ddyvriol y ddwy ochr i'r avon ar adegau iselav y tymor. E. J. Williams, rheolwr presenol y rheilfordd, ymgymerodd â chynllunio y rheiny, a gweled eu cario allan—dan gyvyngderau ac anhawsderau lawer.