Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 20
← Penawd 19 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 21 → |
XX.
YR ORMES SWYDDOGOL.
Yn 1874, pan ddaethai y ddwy vintai o ddyvudwyr Cymreig i Buenos Ayres a'u wyneb am y Wladva,—un o Gymru, a'r llall o'r Unol Daleithau—buont dalm o amser yno yn disgwyl cyvle i vyned i ben y daith. Nid oedd ond byr amser er pan sevydlasai y Llywodraeth" Swyddva Dyvudiaeth" furviol, i hyrwyddo a hyforddi dyvudwyr, a chodi Cartrev iddynt letya tra yno. Drwy hyny gwybu y Llywodraeth vod 90 o Gymry wedi d'od i vyn'd yn adgyvnerthiad i'r Wladva ar y Chupat—a'r newydduron yn dyvalu ac yn corddi: A dyna'r pryd y dechreuodd hili hỏni arbenogaeth am Patagonia. Yr oedd y Wladva wedi bod yn eu hymyl er's 9 mlynedd—yn eiddil a disylw er's llawer dydd, oddigerth pan vyddai daer iawn am ryw gardod neu long: ond hybiasai vyw yn dawel a threvnus, a dechreuai lwyddo'n awr. Pan ddadebrodd y Llywodraeth i ystyried dichonolion Chubut, a gweled argoelion y sevyllva newydd ar bethau, y cam cyntav gymerodd, wrth gwrs, oedd swyddoga, a danvon yno vath o coast—guard, dan yr enw llu cabden y borth, penaeth cyntav yr hwn oedd un Major Vivanco, ac wedi hyny R. Petit Murat, a Charneton. Danvonasid y Milwriad Murga yn 1865, newydd i'r vintai gyntav lanio, i roddi meddiant o'r tir i'r Gwladvawyr, a chodi y vaner Arianin yn arwydd o'r arbenogaeth dros y wlad. Erbyn 1874 ciliasai Dr. Rawson i vywyd preivad; ond dengys ei vywgrafiad gyhoeddwyd wedi ei varw, y gwelsai eve o'r cychwyn y cwmwl o Chili yn codi ar y llywel, parthed perchenogaeth arlwyddol Patagonia. Eithr dan yr Arlywydd Sarmiento, yn 1874, y barnwyd yn bryd adnewyddu yr hawliad, drwy ddanvon yno Gabden y Borth. A hyny oedd dechreu yr ormes vilwrol vu yn hunlle hir ar y Wladva.
Buwyd mewn cryn benbleth yn deall y swydd, a beth vyddai yr efaith ar y Wladva. Daethai yn y ddwy vintai dyvudwyr ddynion deallus—rai ohonynt wedi cael proviad o lywodraethiad yr Unol Daleithau, a rhai eraill wedi bod yn gweinidoga a llywiadu ar lawer o vaterion yn eu hen gartrevi. Yr oedd dyvodiad cyniver o ddyvudwyr gyda'u gilydd yn galw am holl sylw ac egni y sevydlwyr—i'w cyvarwyddo, a'u lleoli, a'u cynevino i amgyfred y sevyllva, vel ag i'r oll allu cydweithredu yn galonog. Ymddangosodd y paragraf canlynol mewn tri o newydduron dyddiol Buenos Ayres am Mawrth 28ain, 1879:
"Y Llong Santa Crws.—Ymedy yn y llong hon, i'r Chubut, yr is—ddirprwy porthol Br. Alejandro Vivanco, a chydag ev yr is—ringyll Candido Charneton, a'r gwylwyr arvorawl Rodolfo Murat ac Alejandre Gazcon. Y mae'r dirprwy dywededig yn dwyn gydag ev gyvlenwad o arvau, i'r diben o osod parchedigaeth i'r awdurdodau Arianin yn y Gwladvawyr Cymreig sydd yno."
Ond daeth Major Vivanco i lawr yn Gabden y Borth: ac un o'r pethau cyntav wnaeth oedd carcharu a chadwyno un o'r sevydlwyr, heb na phrawv na furv. A bu ryvedd gan y Wladva. Ymhen talm wedi hynyy daethpwyd o hyd i adroddiad y Major hwnw at y Llywodraeth, a bydd yn eglurhad ar y bygylu vu ar y Wladva y pryd hwnw, a wedyn:—
"Y mae eisieu deall yn vanwl y Wladva hon i wybod anhawsderau swyddog yn y lle, heb vod ganddo y cynorthwy i beri uvudd—dod i'w orchymynion. Yn y lle cyntav, y mae y trigolion, drwy vod wedi arver rheoli eu hunain, yn arddangos cymeriad tra avlywodraethus. Ac o'r ochr arall, y mae perygl ymosodiad Indiaid yn hawdd i'w weled yn ymyl, wrth eu bod wedi eu gwasgu o'u manau cynevin, ac nad oes ganddynt ond Chubut yn agored iddynt vedru arver eu tueddion yspeilgar. Mae amryw o'r Manzaneros wedi bod yma yn ddiweddar, i'r unig ddyben, mae'n ddiau, i edrych y rhagolygon am yspail. Velly, rhwng y ddau, mae'n gweddu rhoddi tervyn ar yr ansicrwydd hwnw, nid yn unig er diogelwch y sevydliad, eithr hevyd er tawelwch yr awdurdodaeth, yr hwn yn awr na all ddybynu ar unrhyw gymorth."
Yn yr un ysprydiaeth y danvonwyd y nodyn swyddogol canlynol, at ddilynydd Vivanco, sev Petit Murat, oddiwrth briv gabden y borth:—
Hysbysir chwi vod Major Vivanco wedi clavychu, ac velly, mae Arlywydd y Weriniaeth wedi ymddiried i chwi y Borthva. Cewch yma y cyvarwyddiadau ddygai Major Vivanco, yn ol y rhai y bydd i chwithau weithredu. Caniatewch i mi sylwi wrthych mai un o'r rhesymau penav oedd gan y Llywodraeth yn eich penodi chwi oedd am y gwyddid eich yni a'ch dewrder chwi, a'r rhai y bydd genych i'w harver gyda'r bobl acw, ydynt wedi arver gwneud vel y mynont. I wneud eich swydd yn efeithiol, na phetruswch ddevnyddio yr adnoddau sydd yn eich cyraedd— gan gymeryd sylw y cyvle cyntav o'r hyn welwch yn eisieu— megys a vyddai well newid yr ynad, neu chwanegu milwyr, neu beth am gorforaeth.—MARIANO CORDERO."
Parodd llythyr bygythiol D. Mariano Cordero, yn union wedi llyfetheirio a baeddu y sevydlwyr Cymreig, i'r Wladva wrthdystio vel hyn:—
Mae y cyvarvod hwn o sevydlwyr y Wladva yn cymeradwyo pendervyniad eu Cyngor yn rhoddi cyvarch croesaw i Gabden y Borth. Ond wedi darllen llythyr y priv gabden, yn dymuno datgan yn bwyllog vod ysbryd a syniadau y llythyr hwnw yn codi oddiar gamddeall y Wladva, ac mai gwell vyddai i'n Cyngor ohebu gyda'r awdurdodau cenedlaethol i gael dealltwriaeth (1) A oes gan swyddva y llynges ryw awdurdod uniongyrchol i ymyraeth â rheolaeth leol y Diriogaeth, amgen na threvniadau y Borth. (2) Cydnabod yn barchus ysbryd caredig Swyddva Dyvudiaeth yn ei llythyr, ac mai deall yr ydym ni mai â'r swyddva hono—berthynol i'r Gweinidog Cartrevol, y mae a wnelo'r Wladva. (3) Vod llythyr Don M. Cordero wedi ei achlysuro gan gam—adroddiadau a chamliwiadau, ac mai buddiol vyddai i'r Cyngor ddanvon adroddiad cywir i'r Llywodraeth am sevyllva a theimladau pobl y lle. (4) Awgrymir yn barchus mai hyrwyddiad mawr i'r Wladva, ac esmwythyd i fyddlondeb y Wladva, vyddai i'r Llywodraeth gydnabod ac ymddiried yn awdurdodau lleol y sevydliad, nid yn unig vel cynrychioledd cywirach a mwy dealladwy o'n angenion a'n ceisiadau, eithr vel rhan gyvrivol o'r llywodraethiad cenedlaethol gwerinol. (5) Ein bod yn ymdrechu bob amser wneud hyny, ac yn ervyn am gyvarwyddyd y Llywodraeth ymhob achos y barna hi vod galw.
DYLIVIAD DYVUDWYR A DYVODIAD PRWYAD CENEDLAETHOL.
Nid oeddid ond prin ddechreu amgyfred y sevyllva a'r anhawsderau swyddogol dyeithriol——bawb yn ei helynt yn ceisio trevnu y bywyd newydd, un a'i vaes ac arall a'i vasnach—pau ddylivodd dyvudwyr chwanegol 1875 yn garn ar eu gilydd. Gyda hwy daeth y Prwyad Cenedlaethol (National Commissioner) cyntav —Antonio Oneto, ysgolhaig o Italiad o ran cenedl, ac yn medru Saesneg a Hispaenaeg gweddol, ond mwy o ddyddordeb ganddo mewn gwyddorau nag mewn travod dynoliaeth gymysg a dyeithr. Gydag ev danvonasid mesurydd tir o'r enw Thomas Dodds (Prydeiniwr—Arianin), i ad—drevnu y mesuriad blaenorol wnaethai Diaz yn 1865, ond a adawsai hwnw yn anorfenol; a'r Llywodraeth yn awr yn awyddus i hwyluso y sevydlwyr newydd i gartrevu ar eu tiroedd ar unwaith—heb ddeall vawr o'r amgylchiadau. Tra y dyblasid y boblogaeth vel hyn mewn deuvis, danvonasai y Wladva eu holl wenith i varchnad Buenos Ayres, cyn gwybod am y rhuthr hwn o bobl. Rhagwelid velly y byddai prinder lluniaeth cyn y tymor dilynol. Yr oedd y Wladva yn ddolurus iawn oblegid carcharu y sefydlwr gan gabden y borth. Heblaw hyn oll, nid oedd gan y Prwyad Oneto, na'r Wladva, weledigaeth eglur parthed ei swydd a'i allu vel cynrychiolydd y Llywodraeth. Ei gyvarwyddiadau oeddynt :—"Chwi gewch yno gynulliad o bobl sydd er's 10 mlynedd yn llywodraethu eu hunain: etholant yn gyvnodol ynad a chorforaeth, maent wedi sevydlu prawv drwy reithwyr: a rhoddi i'w gweinyddwyr y gallu varnasant yn ddoeth, neu yn ol arverion sylvaenedig gwledydd gwâr. Hyn oll ddylech eu cydnabod a'u parhau vel y maent gan gyvyngu eich gweithrediadau i roddi i ni adroddiad manwl o'r trevniadau sevydledig yno, modd y gallo'r Llywodraeth bendervynu yn eu cylch maes law. —JUAN DILLON, Penaeth Swyddva Dyvudiaeth."
Wedi gweled cyvarwyddiadau y Prwyad Cenedlaethol newydd, ar iddo "barchu a pharhau y trevniadau lleol," nid oedd y Wladva yn barod i ollwng gavael o'r trevniadau hyny, a chydiai yr hen sevydlwyr yn dyn ynddynt: eithr mynai elven arall laesu dwylaw, a dygymod â'r prwyad a chabden y borth, rhag tynu gwg yr awdurdodau goruchel. Ceir gweled yn ol llaw i'r vrwydr hono barhau am 10 mlynedd—hyd nes y sicrhawyd Lleodraeth a llwybr Ymreolaeth. Nis gellir, gan hyny, obeithio vedru rhoi dilyniad syml iawn o'r digwyddion cyvrodedd a ddaeth gyda'r vath amrywiaeth o draferthion a chymysgva o vuddianau a chenelau.
Yr oedd dau bwnc lled vaterol yn galw holl sylw y gwladvawyr ynghanol y bendramwnwgl ddaethai yr un pryd a'r swyddogion newydd. Un oedd perygl prinder bwyd, a'r llall oedd rhaniad y fermi i'r sevydlwyr newydd. Cyn amgyfred y dyliviad pobloedd oedd i ddyvod, danvonasai y Wladva eu holl wenith i varchnad Buenos Ayres, i'w werthu, vel pan ddaeth y prwyad (a'r llu dyvudwyr) ei draferth gyntav oedd cael gan y Llywodraeth ddanvon dognau o luniaeth i'r rhai prin; ac wrth gwrs bu ciprys a helynt wrth ranu hwnw. Gwelwyd na lanwai hyny yr angen, ac velly bu raid i'r Wladva (vel cynt) wneud trevniad i gael cyvlenwad o vwyd a gwenith hâd o Patagones.
Y pwnc arall oedd advesur a rhanu'r tir. Fel y cyveiriwyd, danvonasai y Llywodraeth vesurydd, a phenodasai bwyllgor o'r sevydlwyr i arolygu y raniadaeth—y Prwyad, a'i ysgrivenydd, (R. J. Berwyn), L. J., D. Ll. Jones, a J. Griffith.
Pan yn y berw hwnw bu digwyddiad divrivol, gododd wrychyn y Wladva, ac a gododd hevyd i sylw amwysedd cyvarwyddiadau y prwyada grym y trevniadau lleol. Ydigwyddiad hwnw ydoedd pan laddodd morwr Frengig o'r enw Poirier, beilot lleol ar long yn yr avon (Charles Lynn), drwy ei daro yn varw ar ei ben â phastwn. Cymerwyd y llovrudd i'r ddalva yn y van, a chadwyd ev yn y carchar dan geidwaid govalus. Chwyrnai y Prwyad, ond ni symudai cabden y borth vys na llaw, er y gallesid tybied mai dan ei weiniad ev (morwrol) yr oedd y peth. Cythruddodd yr holl Wladva, ac yr oedd rhai yn tueddu i arver y dull Ianciaidd ar achlysuron o'r vath, drwy lynchio y lleiddiad ar y van. Bid a vyno, tyngwyd y rheithwyr, cymerwyd y tystiolaethau gyda chyveithydd o Gymro yn medru Francaeg, ac aethpwyd drwy yr holl achos yn furviol, mor agos ag y gellid i'r drevn Brydeinig: a rhoddes y rheithwyr varn unvryd o lovruddiaeth wirvoddol. Gwnaeth y Pwyllgor drefniadau i'w gadw'n garcharor diogel nes y ceid ystyriaeth bwyllog bellach ar y mater. Cyn hir, derbyniwyd y nodyn canlynol:—
{[right|Trerawson, Chwev. 9, 1876.}} At Rhydd. Huws, Ynad.—Yn enw y gyvraith, ac vel yr unig awdurdod genedlaethol yn y Wladva, yr wyv yn govyn i chwi roddi i vynu i mi y carcharor Louis Poirier, i'w ddanvon yn y llong "Adolfo" i'w roddi ger bron y llys cenedlaethol am droseddau. Os bydd i chwi wrthod vy nghais, deallwch, yn enw y gyvraith a'r Llywodraeth y byddav yn eich dal yn gyvrivol am holl ganlyniadau eich amryvusedd a thòr cyvraith. Mae gan bob dyn hawl i'w brovi gan y llys priodol, ac uwchlaw hyny yr hawl i apelio at Uchav Lys Cyviawnder, ac yn y diwedd ovyn trugaredd yr Arlywydd. Velly disgwyliav y rhoddwch i vynu y dyn wyv yn ovyn.—A. ONETO, Prwyad.
Rhag peri tramgwydd i'r awdurdodau goruchel rhoddwyd y dyn i vynu i avael y Prwyad, ac aethpwyd ag ev i Buenos Ayres: bu yno 2 neu 3 blynedd, yn myned drwy furv o brawv a phenyd: ond daeth yn ol i'r Wladva i ddangos ei hun yn ddyn rhydd, ac i deulu y trancedig, heb neb yn gwybod pa ddedvryd gawsai.
Yr un Prwyad Oneto ddanvonodd y nodyn canlynol at L.J.
Mae'r Piwyad Cenedlaethol svdd a'i enw isod yn eich awdurdodi chwi i vlaenori 20 neu 40 o ddynion arvog i archwilio cyfiniau y Wladva, a dal pwy bynag anhysbys i'r Wladva, a'u dwyn wedi eu diarvogi ac o dan warchodaeth i'r Brwyadva hon. Os ymosodir arnoch gellwch erchi tanio, ond gwnewch bob peth i osgoi tywallt gwaed.—A. ONETO.
Eglurhad yr uchod yw hyn:—Medrodd y Wladva ymdaro'n rhyvedd gyda'r brodorion drwy'r blyneddoedd. Yr oeddynt bob amser yn elven ansicr—o anianawd ac arverion anwar; yn weddillion cymysg o dri llwyth mawr a hen ddialeddau rhyngddynt wedi cynevino a bradychu eu gilydd a chael eu bradychu gan yr haner—brïd Arianin o'u deutu; yn ebyrth gwallgov i'r gwirod pan gafent gyvle, ac ar vin divlanu vel pobl o vlaen cadgyrch vawr y Cadvridog Roca, nes ymgynddeiriogi. Nid rhyvedd gan hyny pan ddaeth sibrydion i'r Wladva vod yr Indiaid yn bygwth ymosod ar y lle, vod peth cyfro ymhlith y sevydlwyr. Wedi cael y nodyn uchod aethpwyd yn llu arvog― ond lled avrosgo—hyd at y Creigiau Cochion i chwilio am vrodorion. Ond yn lle dod ar draws lluoedd y "Manzaneros rhyvelgar, digwyddodd vod llwyth cyveillgar Sac-mata yn d'od i lawr i varchnata vel arver: a rhyvedd y rhedeg a'r rhusio vu heb ddeall pwy oedd yn foi na pwy oedd yn ymlid. Wedi ymgrynhoi i'r Gaiman cavwyd dealltwriaeth sut yr oedd pethau. Ond deallwyd ymhen amser vod peth gwir yn y bygwth, ac mai yr hen Tsonecod, wersyllent ar y pryd ger Gaiman oedd wedi cael gwynt ar y stori, ac yn eu braw (taw pobl lwvr oeddynt hwy) wedi gollwng y gath o'r cwd. Ond mae'n debyg i adroddiad y Tsonecod o'r vilwriaeth (?) hono vrawychu y brodorion ar y pryd vel na wnaethant vyth ymosodiad o ddivriv, ond pan laddwyd y tri Chymro yn Kel-kein [gwel hanes hyny].
Y pryd hwnw dodes cabden y Borth (nid yr un swyddog a chynt) un arall o'r sevydlwyr mewn cyfion, yn garcharor, a gwrthdystiodd y Wladva vel y canlyn:—
Yr ydym ni sydd a'n henwau isod yn gwrthdystio yn bwyllus a divrivol yn erbyn traha y swyddog llyngesol, yn dodi un o'n cyd—sevydlwyr mewn cyfion creulon dan ddedvryd o 10 niwrnod, ar gyhuddiad o drosedd, heb brawv rheolaidd yn ei wydd ev ei hun a thystion, ac velly'n groes i arver pobl wareiddiedig, yn sathru breiniau gwerthvawr y Wladva, ac yn sarhad ysgeler ar y Llywodraeth Genedlaethol. Yr ydym hevyd yn galw ar ein hawdurdodau lleol i roddi i ni eglurhad pa vodd y bu'r vath drais ar ein hiawnderau, a pa gamrau gymerir i'n hamddifyn o hyn allan. Nid ydym drwy hyn yn dadgan unrhyw varn am y cyhuddiad o drosedd.—J. B. Rhys, L. Jones, a 32 eraill.
EIN BREINIAD—HOGI ARVAU.
Yn yr helbulon "rhanu'r bwyd," a "rhanu'r tir," a'r Ormes Swyddogol yn trymhau, ac aniddigrwydd dyvudwyr ar y bywyd newydd yn boenus ddigon—yr oedd gyvyng iawn ar y Wladva yn y cyvwng hwnw. I wneud pethau yn waeth, nid oedd y sevydlwyr eu hunain yn cydweled parthed swydd na doethineb y prwyad yn gweinyddu. Buwyd yn y benbleth hono ran o ddwy vlynedd—yn cynal cyrddau ac yn cynal etholiadau. Yn y cyvamser cawsai L. J. gnewyllyn ei wasg argrafu; ac yn Medi 21, 1878, daeth allan y rhivyn cyntav o Ein Breiniad, newyddur wythnosol bychan i wyntyllio y gwahaniaethau parthed iawn weinyddiad y Wladva, a'r gwingo rhag yr Ormes Swyddogol. Gwasanaethed y dyvynion a ganlyn o'r newydduryn hwnw vel flachion trydan ar y caos oedd yn amgau y Wladva, a chaif y darllenydd weled yn y llyvr hwn y gwreichion danbeidient drwy'r awyr yn y tywyllwch hwnw, a sut y daeth y Wladva i oleuni dydd yn y man. "A minau a anwyd yn vreiniol" ebe Paul, sydd eglurhad ar yr enw.
Bloedd Corn Gwlad.—Ymysgydwed y Wladva! Ai dibris genym ein Breiniad—insel ein dyndod gwladol? Pa mor chwithig bynag yw y vywoliaeth yma, ragor yr hyn bortreadodd llawer iddynt eu hunain wrth gychwyn, y mae ein rhyddvreiniad (a'n hiechyd) yn gafaeliad trwyadl. Gwylier na vo i'n hir—gynevindod â GWASANAETHU ein gwneud yn ddibris o'r vraint a'r gallu i LYWODRAETHU. Y mae i ni viloedd lawer o vrodyr yn Hen Wlad ein Tadau yn dyheu am ryw lais yn llywodraethiad eu gwlad ond yn over; a phe cawsent, y maent mor ychydig yn y pentwr aruthrol vel na vyddai eu llev ond main, main ar y goreu. Ein cevnderwydd, y Gwyddelod, a geisiant yn ddyval uno eu gwaedd hwy am Hunanlywodraeth ac y maent hwy lawer luosocach cenedl na nyni—ond gwawdir y waedd vel ysgrech anhywaeth, anheilwng o unrhyw sylw amgen na dodi bysedd yn y clustiau rhagddi. Eithr ninau yma ydym oll yn vreiniol. Nid yn unig nyni sydd i ddywedyd pa vodd a phwy i'n llywodraethu, ond nyni hevyd sydd i lywodraethu. Ai bach o beth hyn genych, chwi wehelyth breinwyr Hywel Dda? Tebycach o lawer mai heb iawn synio yn ei gylch yr ydych, oherwydd hir bylu ein syniadaeth wleidyddol gan wasgveuon amgylchiadau yn Nghymru yn llyngeu pobpeth iddynt eu hunain. Er's canrivoedd y mae ein cenedl ni heb ymarver dim â'i ddawn wleidyddol, am nad oedd ganddi wlad. Eithr wele genym ni Wlad yn awr, a rhaid ymysgwyd ati o ddivriv i'w gwleidydda.
Cyvarvod Gwleidyddol Medi 18ved, 1878.—Sylwadau gan D. Ll. Jones.—Teimlai vod y dull presenol o arolygu gweinyddiad y Wladva yn anefeithiol. Yr oedd bod yn aelod o'r Cyngor yn vaich a threth ar amser ac amynedd: methu cael eisteddiadau, ac wedi eu cael, methu gwneyd dim. Priodolai hyny yn un peth am vod yr aelodau yn byw mor wasgarog, ond yn vwy am vod y Cyvansoddiad, vel y mae, yn atalva yn hytrach nac yn arweiniad. Pan ymgynullid yn vrysiog ar nawn Sadwrn, byddai rhyw vân negeseau yn galw eu holl sylw, vel na cheid hamdden i wneud gwaith gwirioneddol. Cwynai y wlad, ac yr oedd y sevydlwyr newydd yn neillduol yn methu deall y sevyllva. Dywedid vod gwaith mawr wedi ei wneud gynt, ond yr unig beth—yr unig lecyn glas—a welai eve oedd gweinyddu barn, ond yr oedd y trevniadau hyny y rhai salav oedd gan unrhyw gymdeithas wareiddiedig. Wneir dim o honi nes cael breinlen corforaeth o dan law Arlywydd y Weriniaeth. Nid oedd y Cyvansoddiad presenol yn arweiniad i ddeddvu cadarn nac yn gwarchod finiau y deiliaid. Yr oedd enaid y peth ar ol—dim awdurdod. Nid oedd yn ein cysylltu â'r Weriniaeth, ac heb hyny yr oedd yn anichon i'r Cyngor wneud dim. Pobpeth a wneir yn unol â'r cyvreithiau cyfredinol Arianin, gallai hyny sevyll. Yr oedd fyrdd a fosydd, addysg, a gweinyddiad barn yn galw yn uchel am sylw, ond nid oedd allu i'w pendervynu. Cavwyd anhawsder gyda'r cyvrivon, oherwydd yr aml swyddogion yn bwrw bai y naill ar y llall, ac oherwydd anhawsderau cyvansoddiadol meddid. Os ydys am ethol, myner Cyngor wedi ymrwymo i vynu trevniadau gweithiadwy. Myner Corforaeth, a diau y cafai hono stâd o dir ar gyver stâd o ddyled y Wladva. Nid oedd yr amryw vân swyddau sydd yma ond dynwarediad, a gellid eu crynhoi i UN meddwl a llaw gyda mantais—y llywydd, yr ysgrivenydd, a chadeirydd y Cyngor yn un Maer, a hwnw yn vaer ynadol. Hyd nes y ceid hyny, teimlai nad ymgymerai eve o hyn allan âg unrhyw benodiad gwleidyddol yn y Wladva.
L. J. a sylwai:—Yr oedd eve yn eithav awyddus i wyntio pwngc y Gorforaeth, pan welai adeg gyvaddas : ond syniai mai nid ar draws nac yn ystod ein hetholiadau sevydledig ni oedd yr adeg hono. Nid oedd yn llwyr ddeall beth a olygid wrth Gorforaeth yn y Wladva. Am yr hyn a alwai Cyvansoddiad y Weriniaeth yn municipalidad, datgenid yn bendant yno ma hawl Daleithol oedd hyny, yn yr hyn, vel y cyvryw, nad allai y Llywodraeth Genedlaethol ymyryd Os dywedid nad oeddym ni Dalaeth, ac mai y Llywodraeth Genedlaethol oedd iovalu am danom yn mhob peth, yna dywedai yntau vod y Weriniaeth wedi darparu i'r Gydgynghorva wneuthur DEDDFWRIAETH NEILLDUOL ar gyver sevyllva vel yr eiddom ni. Gan hyny, o gael deddvu ar ein cyver, hwylusdod rhesymol vyddai cael rhyw drevniant a'n gwnelai yn gnewyllyn Talaeth, a ymeangai o hono ei hun vel yr ymeangem ninau,—ac nid Bwrdd Lleol. Dylai vod genym ni vyrddau lleol yn Nhrerawson ac yn Gaiman, i ovalu am iechyd, a heddwch, ac adeiladaeth, a chladdveydd y manau hyny, ond dylai vod genym hevyd ryw un oruwchreolaeth gynrychiolai yr holl wlad. Buasai eve drwy'r blyneddoedd yn govyn i'r Llywodraeth basio drwy y Gydgynghorva ryw gyvryw ddeddv, ond heb dycio. Gwnaed un ddeddv arbenig ar ein cyver, sev Deddv y Tir; ond gwnaed y mesur carbwl hwnw tra o dan y syniad vod yma dir llavur anhervynol, ac wedi defroi o'r amryvusedd hwnw nid oedd ryw vrys mawr i'w chario allan, drwy roddi gweithredoedd i ni. Yr oedd eve, velly, mor awyddus a neb i gael deddvwriaeth; ond yn ymarverol barnai mai over hollol oedd i 700 neu 800 o boblogaeth bellenig ddisgwyl i'r Gydgynghorva, oedd bob amser ar frwst, vel Cyngor y Wladva, wneuthur trevniadau Tiriogaethol ar eu cyver hwy yn unig. Peidiodd dyddordeb mawr y Llywodraeth pan beidiodd dyvudiaeth yma. Hwyrach y gwneid rhywbeth rywdro. Ond a vyddem ni heb drevniadau i ni ein hunain hyd hyny? Anvonasai y Llywodraeth Brwyad yma i'w chynrychioli, a dywedasai yn bendant wrtho vod y trevniadau a veddem neu a wnaem ni i barhau nes y gwnaent hwy eu gwell, os gwelent angen i hyny. Paham, ynte, y diystyrwn ni y trevniadau? Diau eu bod yn amherfaith ac anghyvlawn, ond eve a veiddiai ddweud eu bod yn gryno o vewn y Cyvansoddiad Cenedlaethol—yn llawn mwy yn ymarverol velly nag odid lywodraethiad lleol yn y Weriniaeth,—ac nad oes eisieu ond myned yn mlaen yn yr un yspryd, ac velly voddio y Llywodraeth a lleshau ein hunain. Nid oedd ryw ddaioni mawr un amser o hòni ryw or—oval am vuddianau ereill Ve ovalai y Llywodraeth drosti ei hun, gallem ventro, vel y gwnaeth pan gyveiliornasom yn achos y llovrudd. Oud y dyryswch a'r divlasdod iddo ev oedd vod gweinyddwyr trevniadau y Wladva yn esgeulus ac anfyddlawn. Yr oedd ein fyrdd a'n fosydd a'n pontydd yn druenus, ac yn govvn llawer mwy o'n sylw na chorforaeth nac arall. Musgrell iawn vu y Cynghor, mae'n ymddangos; ond tadogai eve lawer o hyny, a holl ddilunwch presenol ein sevyllva, i ddifyg yni ein Gweinyddwyr.
Y Prwyad Oneto gyhoeddai ei syniadau yntau vel y canlyn:Ni vu genym erioed weinyddiad rheolaidd, a phob amser mewn gwrthosodiad i'r cyvreithiau Cenedlaethol. Mae bellach yn bryd ei gwneud yn gydfurviol â'r cyvreithiau Cenedlaethol. Er mwyn cyrhaeddyd hyn byddai yn ddoeth apelio at y Llywodraeth Genedlaethol, mewn trevn i roddi i ni gyvarwyddyd Cenedlaethol, a chyvansoddiad bwrdeisiol; gweinyddiad barn Genedlaethol, a rhoddi i ni y nerth angenrheidiol i gario ymlaen gyvraith a chadw trevn; ac hevyd ein cynysgaeddu â'r moddion hanvodol i sevydlu cartrevlu, er ein amddifyniad rhag ymosodiadau tebygol y brodorion.
Hevyd, dylem wahodd y Llywodraeth i anvon i ni athraw ac athrawes alluog; oherwydd heb addysg bydd ein plant a enir yma y rhai yn ol Cyvansoddiad y Weriniaeth ydynt yn ddeiliaid ohoni—heb wybod dim o iaith eu gwlad, a deuant yn Indiaid Patagonaidd gwynion—heb vedrusrwydd, ac heb uchelgais urddasol y meddwl a'r galon.
Hevyd, mae yn anhebgorol cael meddyg. Ac i'r amcan hwn, tra y govynwn i'r Llywodraeth ein cynysgaeddu âg un, dylem hevyd gynyg talu rhan o gyvlog y cyvryw un.
Dylem govio bob amser mai angenion gwladol penav pobl wareiddiedig ymhob oes ydynt—Ynadaeth ddilwgr a dysgedig, athraw da, a meddyg da.
Gweinyddiad mewn gwrthdarawiad â'r cyvreithiau Cenedlaethol nis gall barhau, na bod yn gryno; ac wrth y ddamwain leiav hi a glofa. Ni vydd grym yn ei ddyvarniad gan y rhai cyndyn pan ddelont dani. Yn gymaint ag nas gall ein Gwladva eiddil ni wasgu ei dedvrydau ar y Genedl, ac nad yw er lles y Wladva dan unrhyw amgylchiadau iddi ymwahanu oddiwrth y Weriniaeth (hyd yn oed pe goddevid y cyvryw ysgariad), byddai raid iddi oblegid ei heiddilwch, yn hwyr neu hwyrach, alw am nodded rhyw allu arall, ac mewn canlyniad vyned yn ddeiliadon y cyvryw allu. Yn ein hamgylchiadau ni, gan ein bod agos oll yn Brydeinwyr, y tebygrwydd vyddai i Loegr ein cysylltu wrthi ei hun ar y cyvle lleiav a roddem iddi.
Ond a gadael o'r neilldu y vath ddadl ddreiniog, govynwnA all y Wladva ymgynal heb gymorth Prydeiniaid haelionus, a rhoddion haelvrydig y Weriniaeth Arianin? . . . . . Yn ddiau, nis gall.
Gadewch i ni ddodi heibio bob tueddvryd cenedlaidd, a chovio mai delw un sydd arnom—mai brodyr ydym, wedi ein cylymu ynghyd yn rhwymyn cariad brawdol, ac nad oes ond rhinwedd a gwybodaeth yn gwahaniaethu rhwng dyn a dyn. Wrth ovyn yn wirvoddol ac uniongyrchol ar i'r Llywodraeth roddi i ni Weinyddiad Cenedlaethol, a'n cyvlenwi â'r modd i'w grymuso, byddwn yn gwneyd gwaith cymeradwy, a'r un pryd byddwn yn enill hawl gryvach i achles a serch y Llywodraeth. Gadewch i ni roddi tervyn ar yr ansicrwydd gweinyddol sydd wedi bod yn hongian hyd yn hyn uwch ein penau, a boed yn wawr cyvnod gweinyddol newydd arnom, deilliedig o'r Gyvraith Arianin.
Mewn trevniadau gwladol, edrychwn beth a all ddigwydd i ni gyda chyvreithiau Cymreig:—priodi, geni, marw, ysgariad, byw ar wahân, ewyllysiau, cytundebau, gwerthiadau, echwyna, ocraeth, gwarchodaeth, amddivaid, plant naturiol, ymrwymiadau, rhwymedigaeth rhieni, dyledswyddau plant, gwarcheidwaid cyvreithlon, ymddiriedolwyr, dyledswydd ieuenctyd, dyledswydd henaduriaid, rhaniad eiddo, masnach—a llawer agwedd arall y dichon i ni yn ddamweiniol, neu rywvodd arall, yn yr holl gvsylltiadau gwladol hyn, droseddu y cyvreithiau cenedlaethol mewn un pwynt, ac yna byddai pob travodaeth arall a wnaem, i raddau mwy neu lai, yn sigledig, a gallent achlysuro aml gynghaws hirvaith ger bron yr Ynadon Cenedlaethol. Onid ymddengys i chwi, gan hyny, dan y wedd neillduol hon, yn well i ni roddi ein hunain mewn cydfurviad â'r cyvreithiau Cenedlaethol ?
Ac i ddiweddu: mae amser yr Etholiad yn nesu, yn Hydrev, yn lle tugelu am awdurdod Cymreig, tugelwn (yn ol y drevn Genedlaethol) i sevydlu awdurdod Arianin: cyvlwyno canlyniad y tugelu i'r Llywodraeth Genedlaethol, a govyn iddynt ein corfori yn wir Wladva Genedlaethol Arianin—ac ve ddwg i ni ddaioni.
Yn y rhivyn dilynol, atebwyd syniadau y Prwyad gan L. J. vel y canlyn:—
Ynghylch y crug coeg "ymrwymiadau gwladol " (plant anghyvreithlon, &c.) a luchir vel llwch i lygaid y wlad, yr ydym vel Gwladvawyr Cymreig yn deall yn drwyadl vod Deddvlyvrau Cenedlaethol y Weriniaeth—yn wladol, droseddol, vasnachol, mwnol — yn rhwymedig arnom, vel pob rhan arall o'r Weriniaeth; ac os bydd ein deongliadau lleol ni ohonynt yn anvoddhaol i'r pleidiau, vod apêl (ymhob peth ag y caniateir apêl gan y gyvraith) oddiwrthynt i lysoedd uwch. A phe gwrthdroid rheithvarn y Wladva mewn llys uwch, nid yw ond yr hyn a ddigwydd bob dydd o amryval ranau y Weriniaeth; ac ni phrovai, ar un cyvriv, vod ein gweinyddiad ni yn avreolaidd. Ond nid y Brwyadaeth yw y llys uwch hwnw sydd i ddatgan a yw rheithvarnau y Wladva yn gywir ai peidio. Neges y Brwyadaeth yma, yn ol ysbryd a llythyren y penodiad, ddylai vod cynysgaeddu ein gweinyddwyr â'r cyvleusderau i iawn ddeall eu gwaith, ac nid bwrw pob anhawsderau ar eu fordd, a dywedyd pw, pw am eu holl ymdrechion. Mater o varn gyvreithiol vanwl yw pa mor bell y mae cydnabyddiadau y Llywodraeth o weithrediadau y Wladva yn cyrhaedd, heb vod y Gydgynghorva wedi gwneuthur datganiad furviol yn eu cylch; a gallai cyvreithwyr goreu y Weriniaeth wahaniaethu arno. Ond ni chredwn y mynai y Llywodraeth i'w Phrwyad hi gymeryd mantais o'r ansicrwydd hwnw i vwrw awgrymion, melus i rai gwrthnysig, na allwn ni godi trethi at ein gwasnanaeth lleol o wneuthur fyrdd, a phontydd, ac ysgolion, &c.
Rhagvyr 14, 1878, bu cwrdd gwleidyddol arall yn Gaiman, wedi yr etholasid D. LI. Jones yn ynad, ac yn hwnw gwnaeth ev sylwadau i'r perwyl a ganlyn:—
Hyd yn hyn y mae'r Llywodraeth wedi goddev i ni vyned ymlaen, ond nid oes genym scrip na scrap o awdurdodiad. Hwyrach vod y Cynghor y peth goreu ellid gael dan yr holl amgylchiadau, ond shift yw ar y goreu, a dyna yw arweddion holl amgylchiadau y Wladva. Ni vreuddwydiodd cychwynwyr y Wladva am anibyniaeth gwladol iddi—dim mwy na chael Talaeth Gymreig yn y Weriniaeth Arianin, a chanddi ei senedd leol ei hun; a cheir hyny, ond i'w phobl ddeall eu gwaith. Os na chorforir, dichon y penodir eto gomisiwn fyrdd at y comisiwn tir a'r comisiwn addysg. Os na cheir rheolaeth addysg y lle i ni ein hunain, gwell genyv weled arian y Llywodraeth yn myned gyda'r avon. Rhaid i ni gael addysg, ac yr wyv am i'r addysg hono vod yn Gymraeg; eithr yr wyv am i bob plentyn a addysgir yma allu ateb drosto ei hun yn Saesneg a Hispaenaeg, ac yna yn rhy vawr i boeri am ben Sion y Sais. Na ato Duw i ni anghofio ein hiaith, ond na ato Duw hevyd i ni aberthu gwybodaeth er mwyn iaith. Gwnaeth y diwygiadau crevyddol y Gymraeg yn iaith dduwinyddol, ac y mae'r newydduron yn ei gwneud yn iaith wleidyddol. Bid a vyno, y mae'r Llywodraeth yn awr yn edrych trevniadau y Wladva, a chan hyny y mae'r adeg wedi d'od i geisio cael seiliau politicaidd parhaol. Gwell i ni ddyweyd yn awr wrth y Llywodraeth beth a ddymunem gael, yn hytrach nag aros i weled beth wneir, a grwgnach wed'yn. Y mae deisebau lled ryvedd wedi myned oddiyma, ond weithiau y mae hyny yn angenrheidiol. Dylai y Wladva yn awr ovyn cael rheolaeth ein fyrdd, ein dyvrio, addysg, masnach, heddwch. Pe caem decree yn caniatau hyny i ni—corforaeth—byddai gan y llywodraethiad lleol reolaeth ar yr ynad, ac yna ni vyddai o nemaw pwys pwy ddaliai y swydd, gan y gellid edrych ar ei ol. Caniata y cyvansoddiad cenedlaethol i ni gymaint o awdurdod barnol ag sydd arnom eisieu y rhawg. Aif blyneddau heibio cyn y gallwn ni godi carcharau, ond dylem gael awdurdod i anvon estroniaid avlywodraethus o'r lle. Rhagrith yw ein rhaith vel y mae, a dylai vod yn debycach i chwarter sesiwn Prydain. Gall y Llywodraeth estyn cryn lawer ar y cyvansoddiad, vel ag i ganiatau hyn. Gyda hyny y mae arnom eisieu porthladd rhydd, un y gall llongau o Brydain lwytho a dadlwytho ynddo; porthladd didoll os gellir, ond porthladd tollawl beth bynag chaniatad i ddwyn i mewn yn adidoll beirianau yn arbed llavur. Dylai y pum' mlynedd nesav weled masnach seth rhyngom a'r Hen Wlad, a bydd yn gywilydd i'r Wladva os mai y masnachwyr presenol gaif y vasnach hono. Pwnc y priodi eto sydd yn galw am ddealltwriaeth, gan vod eiddo tirol yn codi, ac etiveddiaeth yn d'od yn bwysig. Nid wyv yn teimlo unrhyw anhawsder yn y mater hwn, ond cael y Rhestrydd Cyfredinol i gydnabod ein trevniant.
Ysgarmes wleidyddol hir—goviadwy oedd hono. Etholasid D. Lloyd Jones yn Ynad, a J. W. Jones (Tanygrisiau), yn Ysgrivenydd.
Ceir yn Ein Breiniad y cyvnod hwnw adroddiad am ymweliad L. J. â Borthaethwy (Port Desire), a'r Groes-wen (Santa Cruz), dros y Llywodraeth, i weled a ellid yn y lleoedd hyny blanu sevydliadau Cymreig. Bernid nad oedd nemawr ragolygon amaethol ar gyfiniau arvorol Borthaethwy; ond tebygai y gellid gwneud sevydliad llewyrchus ar ddyfryn y Siawen (cangen ddelai i'r Cruz yn agos i'r môr) o'r gorllewin, tua Ma—waish.
Ysgarmes arall y ceir adroddiad ohoni yn Ein Breiniad yw yr un parthed ysgoldy Glyn-du—pan ovynai yr athraw cenedlaethol Powel am gael devnyddio yr ysgoldy yn ysgol ddyddiol, ond yr hyn a omeddai y gynulleidva a'i mynychai, am yr ovnent vod yr athraw hwnw o dueddion Pabaidd.
Ceir adroddiad yno hevyd vod y Cyngor wedi medru codi £50 drwy gyngaws arian dyledus i M. D. Jones ar gyvriv y Vintai Gyntav—prawv nad oedd y gweinyddiad lleol mor ddiymadverth ag yr honid.
PARHAD O'R ORMES SWYDDOGOL.
Yr oedd y reolaeth driflyg hon—Prwyad, Cabden y Borth, a'r Pwyllgor yn anioddevus iawn i'r Wladva. Codasid Swyddva Dyvudiaeth, i vod hevyd yn Swyddva Gwladvaoedd, a chyda hono gohebai y Pwyllgor i geisio cael dealltwriaeth pa vodd i weithredu yn yr ymrysonau parhaus oedd yn codi. Gwasanaethed y nodyn canlynol vel engraift:—
Mae sevyllva drevnidol y Wladva yn parhau i vod yn vlinder a dyryswch i'r Wladva—o ddifyg definiad eglur beth yw dyledswyddau yr awdurdodau lleol. Hysbyswyd ni vod cyvraith y Chaco wedi ei chymhwyso hevyd at Chubut. Mae amwysedd swydd y Prwyad, a llaw drom y swyddogion llyngesol, yn peri i'r Pwyllgor bryder dirvawr pa vodd i weithredu yn ddoeth ac efeithiol, a chan hyny yn ervyn yn daer ar Swyddva Gwladvaoedd i'n hysbysu o vanylion cyvraith y Chaco, a'r modd i'w rhoi mewn grym yma.—J. B. RHYS, L. J.
Ychydig cyn hyny galwasai un o longau y llynges Arianin yn y Wladva, a chanlyniad hyny oedd y paragraf canlynol yn y Porteno—un o newydduron Buenos Ayres. "Nid oes gan sevydlwyr Chubut barch yn y byd i'r awdurdodau Arianin. Datganai y Prwyad Oneto ei lwyr anallu i lethu nac atal yr anrhevn sydd yno, a dywed yr awdurdodau llyngesol nad oes ond grym arvau yn eu cadw rhag tori allan mewn gwrthryvel."
Engraift eto:—
At D. Luis Jones.—Oblegid y digwyddiad vu yma ddoe, rhaid i mi eich traferthu, os gwelwch yn dda, i alw yma evo mi gynted y gellwch, oblegid y mae hyny'n ovynol i'n diogelwch personol yn ol y digwyddiad ddoe—taw ymddengys ein bod yn byw ynghanol cyvnod '40 [gormes Rosas]. Nis gallav ddod i'ch gweled, gan vod tair llong genym i drevnu eu papurau.G. ZEMBORAIN—Penaeth y Gyllidva.
Y gyvlavan y cyveirir ati uchod ydoedd ymravael godasai ar heol Trerawson am redva gefylau, rhwng Cabden y Borth a Penaeth y Dollva, ymha un y gwaeddai y naill a'r llall ar i'r heddgeidwad arvog oedd gerllaw saethu, a Chabden y Borth oedd yr un syrthiodd yn varw ar y van. Ni vu brawv nac ymchwiliad i'r achos hwnw vyth o ran dim ŵyr y Wladva.
BYR BENODI L. J. YN BRWYAD.
Ddechreu Ebrill, 1879, aeth y prwyad Oneto i Buenos Ayres, wedi bod yn y Wladva dair neu bedair blynedd, a phenodwyd ev i vyned gyda'r naturiaethwr Moreno "i olrhain yr holl diriogaethau deheuol a olchir gan y Werydd, evrydu eu cynyrchion pysgodol, mwnol, naturiol, ac amaethol, &c." Ymhen talm o amser aeth ar yr archwil wyddonol hono mor belled a Borthaethwy, lle y bu vlwyddyn neu ddwy: eithr cyn hir iawn, yn yr unigedd hwnw, dadveiliodd ei gyvansoddiad cadarn, a bu varw yno, lle y mae gwyddva ei vedd yn adail amlwg yn y borth hono. Gwnaed yr archwiliad a'r adroddiad ddiwedd 1879.
Awyddai Don Juan Dillon yn vawr i achlesu y Wladva, a rhoi chwareu teg iddi ddadblygu ei hun. Boddiasid ev yn yr adroddiad am Borthaethwy a'r Groeswen, ac velly pan ddaeth L. J.i Buenos Ayres i gael melin wynt archasai o Brydain, oedd y tro cyntav iddo weled Don Juan Dillon, penaeth Swyddva Dyvudiaeth. A'r pryd hwnw—heb na govyn na disgwyl swydd yn y byd—penodwyd L. J. yn Brwyad y Wladva vel dilynydd A. Oneto. Ond gan vod yr un ysprydiaeth vygylog yn aros vel traddodiad yn y swyddveydd gweinyddol, buan iawn yr avlonyddwyd ar y prwyad newydd—prin 6 mis—ac y penodwyd Juan Finoquetto, yr hwn a vu ddraen yn ystlys y Wladva am vlyneddau, vel y gwelir eto.
Pan benodwyd L. J. yn brwyad yr oedd D. Candido Charneton yn gabden y borth—disgybl i'r D. Mariano Cordero ddanvonasai y nodyn bygythiol (tud. 97), ymddengys i'r penodiad vod yn dramgwydd i hwnw, a danvonodd y nodyn canlynol:—
Er nas gallav ddeall pam y danvonasoch y nodyn gevais oddiwrthych heddyw, [nid oedd ond ei hysbysu o'r penodiad] yr wyv yn brysio i'w ateb, er mwyn eich hysbysu vy mod vel Cabden y Borth a swyddog milwrol, bob amser yn barod i beri parchu yn vilwrol, o vewn tervynau vy swydd gwaedded a waeddo—gyvreithiau vy ngwlad, y rhai a wn yn ddigon da na raid i ddieithryn, er eich savle vel swyddwr cenedlaethol, vy addysgu na'u hadgovio heb vy nghenad. Velly govynav i chwi y tro nesav beidio closio eich hun atav vi, gan nas gallav vi wneud hyny yn ol. Dywedav eto y gwn yn dda gyvreithiau vy ngwlad, ac y mae ynwyv gydwybodolrwydd dwvn o'm gweithredoedd, ac nid wyv yn vyr o'r egni angenrheidiol yn yr amgylchiadau vu'n galw am hyny i'w cyvlawni yn vanwl, hyd nod er eich gwaethav chwi, ac heb ddim ovn ymrysonau allai godi wrth gyvlawni vy nyledswydd, yr hyn wyv wedi wneud hyd heddyw yn gwbl gydwybodol: ac nid wyv yn gwybod ddarvod i mi erioed vyn'd dros finiau vy awdurdod, na thresmasu ar eich finiau chwithau vel "yr awdurdod wladol, gyvreithiol, milwrol a goruchel" y Wladva hon [darnodiad y gyvraith o swydd prwyad] a'i phreswylwyr, gan nad yw yr un sydd a'i enw isod yn cydnabod yr un awdurdod vilwrol na goruchel ond yr eiddo ei hun.—CANDIDO F. CHARNETON.
Lle'r oedd ysprydiaeth vygylog vel yna yn fýnu nid rhyvedd i Swyddva Gwladvaoedd chwilio am brwyad newydd o'r un nodwedd, a throi L. J. o'r neilldu mor swta. Yr eglurhad arall ydoedd vod dylanwad D. Juan Dillon yn dechreu ymgilio i roi lle i'w briv swyddog gynt i gymeryd ei le. Pan benodwyd y prwyad newydd mor sydyn, yr oedd L. J. ar vordaith tua Buenos Ayres i roddi ei adroddiad, a rhoddir rhan o hwnw yma vel mynegiad o sevyllva pethau ar y pryd yn y Wladva:—
At Benaeth Swyddva Gwladvaoedd —Daethum i vynu yma i osod ger eich bron sevyllva ac angenion y Wladva yngwyneb dyliviad dyvudwyr atom, a difyg trevniadau i'w derbyn a'u hyrwyddo. Y 150 ddaethant yn ddiweddar medrwyd eu lletya a'u hwyluso hyd eithav cyvleusderau y lle a charedigrwydd y cymdygion. Ond daethum i vynu yma i gymell i'ch sylw y pwysigrwydd o vod y trevniadau yn gyvlawnach, rhag llesteirio y ddyvudiaeth Gymreig sydd yn awr yn llivo tuag yma. Pan gyrhaeddais yma deallais vod gŵr arall wedi ei benodi i'r swydd. Nid yw hyny o bwys yn y byd genyv yn bersonol, er nas gallav ddirnad y rheswm dros y vath newidiad sydyn. Ond ar vuddianau a rhagolygon y Wladva gall efeithio yn niweidiol. Y mae dyvodiad y dyvudwyr diweddar hyn i'w briodoli mewn rhan i'r hyder barodd vy mhenodiad i yn brwyad ymhlith hyrwyddwyr y mudiad gwladvaol yn Nghymru, ac nid peth i'w atal a'i adnewyddu yn ddysbeidiol yw lliv dyvudiaeth. Bwriadaswn wasgu i'ch sylw yr awgrymion canlynol: (1) Caniatau i'r Wladva gael cychwyn ei bywyd lleodrol (municipal) yn ol Cyvraith y Chaco, lle bo mil o bobl. (2) Estyn y sevydliad gyda'r dyfryn, ac i vanau addas i'r de a'r gogledd. (3) Dyrchavu y Brwyadva i vath o raglawiaeth i arolygu yr holl gylchynion. (4) Trevnu gydag agerlongau P.S.N. Co. i lanio dyvudwyr yn Chubut, ac i'r Llywodraeth dalu at eu cludiad swm cyvartal i'w cludiad o Buenos Ayres i'r Wladva, ac velly arbed yr ymdroi poenus presenol.
Bydd yn amgauedig vy adroddiad blyneddol barotoiswn cyn gwybod na byddai alw am vy ngwasanaeth. Caniatewch i mi hevyd amgau pendervyniad y Cyngor ar vy mhenodiad, vel yr oedd yn vynegiad o deimlad y sevydlwyr.—L. J.
"At Br. L. Jones, Prwyad y Llywodraeth Genedlaethol yn y Wladva. Mae genyv yr anrhydedd o gyvlwyno i chwi y pendervyniad canlynol basiwyd yn unvrydol gan y Cyngor yn ei eisteddiad diweddav:—'Mae y Cyngor yn llongyvarch Br. L. Jones ar ei benodiad yn Brwyad, ac yn datgan ein boddhad wrth weled y Llywodraeth yn penodi sevydlwr i'r swydd, gan y credwn yr hyrwydda hyny ddadblygiad y Wladva, ac y cadarnha gyd—ddealltwriaeth.'—ED. JONES, Ysg. y Cyngor."
Yr helynt nesav a groniclir o gyvnod yr ormes, a eglurir yn well drwy y dyvynion canlynol. Finoquetto oedd y prwyad y pryd hwnw, a Charneton yn Gabden y Borth.
Ymgasglodd niver o gymdogion o achos camymddygiad swyddogian y Borth tra ar eu hymarveriadau gyda drylliau— sev tanio ergydion moelion trwy fenestri yr ysgoldy at bersonau ar wahanol achlysuron, ac yn arbenig ddoe, pryd yn chwanegol at yr uchod y taniwyd rai gweithiau i wyneb Louis Fevre, gan ei glwyvo, yr hwn oedd yn eu dwylaw yn garcharor. Pendervynwyd gwneud yr uchod yn hysbys i'r Ynad a'r Prwyad, ac os na weithredant hwy o hyn i'r Sul, alw cyvarvod cyhoeddus.— T. DAVIES, IOSUA JONES.
Ebrill 11, 1881. 1. Vod y cyvarvod hwn yn apelio at yr Ynad i gasglu pob tystiolaeth a hysbysrwydd ynglyn â gweithrediadau swyddogion y Borth yn eu hymddygiad at y carcharor Louis y Francwr sydd yn eu dwylaw, a'u gwaith yn tanioTRERAWSON,-EISTEDDLE Y RHAGLAWIAETH.
Gerllaw oedd y van y cychwynasid y Wladva, ac y bu Brwyadva wedi hyny. Dynodir y Rhaglawdy
dan y vaner Arianin: Llyvrdy Berwyn yw yr adail agored nes at yr edrychydd.
ergydion at yr ysgoldy a phersonau. 2. Penodir J. M. Thomas, W. S. Tyndale, Bautista Faure, T. Davies, a W. R. Jones, i hysbysu y prwyad a'r ynad o'r cyvarvod hwn, ac i dynu allan wrthdystiad i'w gyhoeddi yn newydduron Buenos Ayres.
Ebrill 12, 1881. Nyni, pwyllgor benodwyd gan y cwrdd cyhoeddus yr 11eg cyv., a ymholasom parthed carchariad dau ddyn gan Gabden y Borth (Senor Charneton), a'r gamdriniaeth gavodd un ohonynt-ac eve yn ddeiliad Frengig, a'r hwn a vaeddwyd yn ddivrivol-a gredwn mai gwaith y prwyad yw cymeryd i vynu droseddwyr, ac nid Cabden y Borth: gan hyny dymunir ar i'r prwyad cenedlaethol ovyn am y carcharorion, er mwyn cymeryd eu tystiolaeth yn ol y gyvraith ar gyvryw achosion. Cymhellir ni i awgrymu hyn yn ol pen. 6, erth. 117 o Gyvraith Gwladvaoedd. Os bydd y prwyad yn barnu'n ddoeth ddevnyddio y gallu roddir iddo yn pen. 6, erth. 120 o'r gyvraith hono, cytunwyd yn y cyvarvod uchod ein bod i uvuddhau i'w orchymyn.-T. DAVIES, W. ROBT. JONES, B. FAURE, J. M. THOMAS, W. S. TYNDALE.
At Gabden y Borth-Yr wyv dan rwymau poenus i alw eich sylw at gwynion roddwyd yn furviol ger vy mron-yn gyntav gan gadeirydd y Cyngor, yna gan ddirprwyaeth o'r Cyngor, ac wedyn gan bendervyniad cyvarvod cyhoeddus (1) Vod dau ddyn wedi eu carcharu am ladrad heb hysbysu hyny yn yr Ynadva. (2) Eu bod wedi eu harteithio er ceisio cael ganddynt gyfesu. (3) Un ohonynt (L. Fevrier) dinesydd Frengig, wedi ei gamdrin yn erwin. (4) Vod milwyr y Borthva wrth ymarver saethu gydag ergydion moel wedi anelu at Fevrier a'i anavu ar amryw vanau o'i gorf. (5) Droion eraill, tra'r oedd y vilwriaeth hon yn ymarver velly, ddarvod iddynt saethu drwy fenestri yr ysgoldy, a throion eraill anelu at rai o'r trigolion.
Yr wyv gan hyny yn parchus, ond pryderus, ovyn am eich eglurhad, ac os mynwch, trosglwyddir i chwi yr ysgrivau sydd yn cynwys y cwynion hyn.-Ď. LL. JONES.
Gan mai Finoquetto oedd y prwyad y pryd hwnw, ato ev y danvonwyd y gwrthdystiad uchod. Cabden y borth oedd yn gormesu: ond ystyriai y prwyad ei swydd ei hun goruwch hwnw; ac velly gadawyd iddynt hwy bendervynu. Gan eu bod o'r un ysbrydiaeth ormesol, wrth-wladvaol, deallasant eu gilydd cyn hir ysgrivenodd Finoquetto lythyr o eglurhad a diheurad, gan ymgymeryd na ddigwyddai avreoleiddiwch cyfelyb eilwaith. Gollyngwyd y Francwr o'r cyfion, ac nid hir chwaith y bu cyn i Charneton vyned i Buenos Ayres, a chael ei benodi yn gabden y borth yn La Plata.