Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw

Yn Nuw yn unig mae i gyd Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw

gan Edmwnd Prys

Y Man y bo fy Arglwydd mawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

56[1] SALM CXXI.
M. S.

1.DISGWYLIAF o'r mynyddoedd draw
Lle daw im help 'wyllysgar;
Yr Arglwydd, rhydd im gymorth gref,
Hwn a wnaeth nef a daear.

2.Dy droed i lithro, Ef nis gad,
A'th Geidwad fydd heb huno;
Wele dy Geidwad, Israel lân,
Heb hun na hepian arno.

3.Ar dy law ddehau mae dy Dduw,
Yr Arglwydd yw dy Geidwad;
Dy lygru ni chaiff haul y dydd,
A'r nos nid rhydd i'r lleuad.

4.Yr Iôn a'th geidw rhag pob drwg,
A rhag pob cilwg anfad;
Cei fynd a dyfod byth yn rhwydd,
Yr Arglwydd fydd dy Geidwad.


Edmwnd Prys

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 55, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930