Drych yr Amseroedd/Morgan Llwyd
← Mr. Wroth, Mr. Walter Cradoc, Mr. William Erbury | Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhoslan golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Cyfieithu yr Ysgrythyrau Sanctaidd i'r iaith Gymraeg → |
YMOF. Gan i chwi grybwyll y byddai Morgan Llwyd, yn mysg manau ereill, yn pregethu yn Pwllheli, dymunwn glywed ychwaneg o'i hanes.
SYL. Yr oedd Morgan Llwyd o deulu Cynfal, yn mhlwyf Maentwrog, Sir Feirionydd. Yr oedd yn fab, medd rhai, nai medd ereill, i Hugh Llwyd, Cynfal. Clywais ddywedyd, pan oedd yr hen ŵr yn glaf, ychydig cyn marw, ei fod yn dymuno gweled Morgan. Gofynodd y rhai oedd gydag ef iddo, Ai nid ydych yn ewyllysio gweled eich mab Dafydd? Atebodd yntau, Nag wyf: nid yw hwnw ond ffwl meddw, fel finau. O! na chawn weled Morgan. Y mae yn debygol wrth hyn mai ei fab ydoedd. Ac y mae yn dra thebygol mai drwy weinidogaeth Walter Cradoc y cafodd droadigaeth, pan oedd Cradoc yn gweinidogaethu yn Ngwrecsam: ond pa un ai yn yr ysgol, ai ar ryw achos arall, yr oedd efe yno, nid yw yn hysbys. Yr oedd yn ŵr o gyneddfau cryfion, yn nodedig am ei dduwioldeb, dwfn iawn ei fyfyrdodau: ac yr oedd llawer o bethau dirgelaidd yn ei ymadroddion, ei lythyrau a'i lyfrau, anhawdd i lawer eu deall. Ysgrifenodd amryw o lyfrau bychain yn Gymraeg, megys Llyfr y Tri Aderyn, Gair o'r Gair, Yr Ymroddiad, Gwaedd yn Nghymru, &c. Teithiodd lawer trwy Gymru i bregethu yr efengyl. Gelwid ef gan wyr y Deheudir, Morgan Llwyd o Wynedd. Bu yn weinidog yn Ngwrecsam dros rai blynyddoedd, yn yr amser y trowyd amryw offeiriadau anfucheddol o'r Llanau. Bu farw o gylch y flwyddyn 1660, a chladdwyd ef yn mynwent yr Ymneillduwyr gerllaw Gwrecsam. Gwelais y gareg yno a fuasai ar ei fedd, ac arni y ddwy lythyren yma, sef, M. Ll., Dywedir i ryw Wr boneddig, o erlidiwr creulon, yn ei gynddaredd wrth fyned heibio, drywanu ei gleddyf i'w fedd hyd at y carn. Dywedir fod 'rhyw bwys a thrymder neillduol wedi syrthio ar feddyliau Vavasor Powell,[1] y nos y bu farw Morgan Llwyd, ac iddo ddywedyd wrth y rhai oedd gydag ef y geiriau hyn, "Aeth y seren ddysgleiriaf yn Nghymru dan gwmwl heno:" er na wyddai ef y pryd hyny ddim am y farwolaeth a ddygwyddasai. Byddai rhyw bethau neillduol yn cael eu hamlygu i Morgan Llwyd cyn eu dyfod i ben. Un tro pan oedd yn pregethu yn mhentref Ffestiniog, a bod yno, yn mysg amryw oedd yn cellwair ac yn gwawdio, un dyn ieuangc yn rhagori arnynt oll mewn ysgafnder a chellwair; wrth sylwi arno, nododd ef allan, gan ddywedyd wrtho fel hyn, "Tydi y dyn ieuangc, gelli adael heibio dy gellwair: tydi yw y cyntaf a gleddir yn y fynwent yma." Ac felly y bu. Bryd arall, fel yr oedd yn pregethu yn Machynllaith, a rhai plant wedi dringo i goed ag oedd gerllaw, efe a gyfeiriodd ei law tuag atynt, gan ddywedyd y geiriau hyn, "Pan ddol y plant hyn i oedran gwŷr, fe ymâd yr efengyl o Fachynllaith;" ac felly y bu dros faith flynyddau. Ond y peth hynotaf oedd ei ragfynegiad am ddiwygiad mewn crefydd yn Nghymru, yn y geirjau nodedig sy'n canlyn. "Y mae dynion gwych (hiliogaeth yr hen Jacob) yn barod i gyfodi alian o'r pridd, ac er hyny, o'r nefoedd y disgynant. Y mae ffynonau y môr tragywyddol yn tori allan ynddynt; ac ni all y byd, na'r cnawd, na'r cythraul, mo'u cau, na'u cadw dan y ddaear. Y rhai hyn a orchfygant y tri byd, oddi fewn, oddi allan, ac oddi fry. Fe fydd y rhai hyn yn golofnau yn nheml Dduw, ac arnynt hwy yr ysgrifenir y tri enw: ynddynt hwy y darllenir enw y Tad nefol, yr hwn yw y Brenin anfarwol; a'r Fam nefol, yr hon yw Caersalem newydd, a'r naturiaeth angylaidd; a'r Brawd nefol, Crist, o flaen yr hwn nid yw yr haul ganol dydd ond fel sachlen ddu dywyll; ac wrth ei enw newydd ni bydd ond ychydig a'i hedwyn. Yna yr ymddengys Paradwys, a phren y bywyd, ac arch y dystiolaeth, a'r manna cuddiedig, a'r byd anweledig sydd trwy y byd hwn; a hwnw a bery byth. Ni theflir y pethau hyn i'r cwn. Bwyd y môch yw y mês, ond y rhai ysprydol a fwytânt o fara y bywyd: ac yno y ceir gweled rhagor rhwng y morwynion call a'r rhai anghall, ac y dywedir y llais cryf, Y sawl sy frwnt, bydded frwnt eto, a'r gwatwarwr coeg-ddall, bydded ddall byth. Ond y cyfiawn a gred, ac a gaiff weled â'i lygaid y Brenin Iesu yn ei degwch; a'r delwau a gwympant o'i flaen, a'r teyrnasoedd a blygant i'r bummed freniniaeth fel meibion Israel i Joseph, megys y dywed yr ysgrythyr sanctaidd yn helaeth. Agos yw hyn, wrth y drws: Ie, ac yn oes gŵr fe'i gwelir. Mae у droell yn troi yn rhyfedd drwy yr holl fyd yn barod; ac a dry eto yn gyflymach ac yn rhyfeddach beunydd. Dan. xii. 10; Math. xxv.; Dat. xxii. 11; Esay xxxiii. 17; Dan. vii. 27; Esay xi. 9."
D.S. Os cydmerir yr amser yr ysgrifenodd M. Llwyd y rhagfynegiad uchod â'r amser y torodd y diwygiad allan yn Nghymru; ïe, yn Lloegr, Scotland, ac America hefyd, sef tua'r flwyddyn 1739, gellir gweled i'r cyflawniad ddyfod i ben fel y rhagddywedasai ef, sef, "Yn oes gŵr fe'i gwelir."
YMOF. Y mae yn debygol i lawer o bethau rhyfedd ddygwydd yn yr amseroedd terfysglyd hyny; dymunwn i chwi adrodd ychydig yn rhagor o'r hanes, os gellwch.
SYL. Bu ryw bryd, yn yr amseroedd hyny, i ryw ychydig nifer o weinidogion ymgyfarfod yn Mhwllheli , i gynyg, pregethu, yn wyneb mawr erlid ac enbydrwydd. Gofynodd un honynt, Pwy a bregetha yma heddyw? Atebodd un gweinidog ieuangc, yn ddiegwan o ffydd, Os caniatewch, fy mrodyr, myfi a bregethaf. Ac fel yr oedd yn myned yn mlaen yn ei orchwyl pwysfawr, saethodd un o'r erlidwyr fwled heibio ei ben i'r pared. Wrth ganfod y waredigaeth ryfedd o eiddo Duw tuag ato, adroddodd y geiriau hyn, "Yn nghysgod dy law y'm suddiwyd," ac yna aeth yn mlaen yn galonog hyd ddiwedd y cyfarfod.
YMOF. Gan fod pethau mor ryfedd wedi bod yn yr hen amseroedd, ewyllysiwn glywed ychwaneg genych.
SYL. Yr oedd yn byw yn y cyfamser, yn rhyw le gerllaw Abererch, wr a alwent Edward dduwiol, nes weithiau, Y Siopwr duwiol. Pan oedd yn fachgen mewn gwasanaeth, mewn lle a elwir y Clenenau, canfuwyd ganddo lyfr bychan yn dysgu darllen; a throwyd ef o'i le am hyny. Dygwyddodd ar ryw achos cyfreithlon, iddo gael ei ddal yn Mhwllheli, ar noson marchnad, nes ei myned yn llawer o'r nos; canfu, i'w dyb ef, fod y môr wedi llenwi ar ei ffordd, fel na allai'ddychwelyd adref ar hyd y ffordd arferol; trodd yn ol trwy ran arall o'r dref, i amgylchu y dwfr, ac wrth fyned, daeth cymhelliad cryf i'w feddwl i alw mewn tŷ adnabyddus iddo wrth fyned heibio: wedi galw wrth y drws, daeth gŵr y tŷ i agoryd iddo; ac wedi cyfarch eu gilydd, dywedodd wrth y gŵr, Nis gwn i ba beth y gelwais yma, ond yn fy myw ni chawswn lonydd i beidio. Atebodd gwr y tŷ, Os na wyddech chwi, fe wyddai Duw. Ac yno fe dynodd gortyn oddiar ei gefn, â pha un yr oedd yn myned i'w grogi ei hun: a bu yr hen wr duwiol, drwy ei gynghorion a'i weddïau, yn offerynol i achub y creadur tlawd o safn y brofedigaeth uffernol hòno. Ond am y llanw a dybiasai ei fod ar y ffordd, nid oedd dim o'r fath i fod yr oriau hyny.
YMOF. Soniasoch fod Hugh Owen, Fron y clydwr, wedi bod yn fugail ar yr eglwys yn Sir Gaernarfon, ac na allodd gan ei lafur a'i deithiau fod yn arosol yno. Da fyddai genyf glywed pa fodd y bu arnynt am weinidogion wedi hyny.
SYL. Erfyniodd Henry Maurice ar Stephen Hughes, o Abertawe, ganiatáu i James Owen, ei gynorthwywr, ddyfod i'w plith; a bu Dr. Hughes mor dirion a chydsynio yn wirfoddol. Dr. J. Owen a arosodd gyda hwynt yspaid blwyddyn, ac a fu yn dra defnyddiol yn eu mysg. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac o ymarweddiad duwiol a diargyhoedd: ond cynyddodd yr erlidigaeth fel y gorfu arno ffoi yn y nos i Sir Feirionydd. Bu H. Maurice iddynt yn bob cynorthwy ag a allai, nes ei farw; yr hyn a ddygwyddodd yn y flwyddyn 1682, fel y soniais eisoes. Y gweinidog cyntaf a sefydlodd yn eu plith oedd W. Phillips, o Sir Gaerfyrddin (neu fel y myn rhai, o Sir Forganwg.) Cawsai ddysgeidiaeth dda; ond troes allan yn ei ieuengctyd yn ddyn gwag ac anystyriol. Yr oedd ganddo un cyfaill mwy neillduol nag ereill, ag oedd yn cydredeg gydag ef i bob gwagedd. Ar ryw Sabbath, gofynodd y naill i'r llall, i ba le y cawn fyned heddyw? A gawn ni fyned i wrandaw ar y gwr a'r gwr yn pregethu? ac felly fu. Wedi dyfod allan, dywedodd ei gyfaill wrtho, Wel, bellach ni a awn i'r lle a'r lle, i wneyd ein hunain yn llawen gyda rhyw ddigrifwch. Dywedodd Mr. Phillips wrtho, Fy nghyfaill, y mae yn rhyfedd genyf eich clywed. Oni chlywsoch fel yr oedd y pregethwr yn dywedyd am bechod, a'r gosp ddychrynllyd ddyledus o'i herwydd? gan hyny, pa fodd y gallwn wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw? O hyny allan gadawodd ei hen gyfeillion ofer, a'u ffyrdd pechadurus, ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd â'i holl galon. Daeth yn mlaen ar gynydd mewn gras a gwybodaeth iachusol, a doniau helaeth. Cafodd anogaeth i arfer ei ddoniau yn gyhoeddus: ac wedi cael prawf boddlongar o'i addasrwydd i'r weinidogaeth, cymhellwyd ef i ddyfod i Sir Gaernarfon; yntau a anturiodd yno, heb wybod beth a allai y canlyniad fod; ond fel y prophwyd, ufuddhaodd i'r alwad, gan ddywedyd, Wele fi, anfon fi.
Bu ar y cyntaf megys cynorthwywr i Mr. Henry Maurice. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1688, a phreswyliodd yn y Gwynfryn. Ni chai na gwas na morwyn, ond rhyw rai na chymerai neb arall mohonynt. Cafodd o'r diwedd ryw greadur annosparthus ac ymladdgar yn forwyn, a byddai hono yn rhegu ac yn diawlio, fel pe buasai o ddyben i'w boeni. Sylwodd hon y byddai ei meistr yn cilio i'r parlwr yn fynych wrtho ei hun. Un tro dywedodd hithau wrthi ei hun, Pa beth y mae yr hen ddiawl yn ei wneyd acw? Edrychodd trwy dwll y clo, a chanfu y gŵr duwiol ar ei liniau, a'r dagrau yn у llifo ar hyd ei ruddiau; a thrwy hyny fel moddion dechreuol, enillwyd y creadur ysgeler i garu crefydd a duwioldeb: ac o у hyny allan bu yn aelod defnyddiol yn yr eglwys. Yr oedd Mr. Phillips yn wr hŷf a gwrol o ran ei dymher; a chan fod y Weithred o Oddefiad (Act of Toleration) wedi dyfod allan, cafodd le i bregethu yn Nghaernarfon. Parhaodd i weinidogaethu yno, ynghyda manau ereill, tra bu efe byw: ond nid nemawr ymhellach, am lawer o flynyddoedd, y bu pregethu yn Nghaernarfon gan yr Ymneillduwyr.
YMOF. Pwy a fu yn gweinidogaethu yn Mhwllheli ar ol Mr. Phillips?
SYL. Un Mr. John Thomas, o ryw barth o'r Deheudir. Bu yntau yn byw yn y Gwynfryn, a bu yn weinidog ffyddlon i'r eglwys tra parhaodd ei oes. Nid oedd ei ddoniau yn helaeth; ond am ei dduwioldeb a thynerwch ei gydwybod, nid yn hawdd y ceid ei gyffelyb. Prin y medrai ofyn am ei eiddo yr hyn a dalai, gan dynerwch ei gydwybod. Un tro rhoddes ryw ddau ddiffaethwr ar waith i wneuthur rhyw adeilad iddo; hwythau, o dra dirmyg ar grefydd, a wnaethant y gwaith mor dwyllodrus fel y syrthiodd i lawr yn ebrwydd ar ol ei orphen: yna daethant at yr hen wr duwiol yn ddigywilydd i ofyn eu cyflog. Pa fodd y talaf i chwi, ebe yntau, gan fod y gwaith wedi syrthio? Ypa y ddau ddibiryn ystrywgar a gymerasant arnynt ymwylltio a rbegi y naill y llall, a thaeru yn haerllug â'u gilydd. Arnat ti, fulain (ebe un) yr oedd y bai. Celwydd, genaw (medd y llall,) arnat ti yr oedd y bai. Tewch, druain, y meddai yr hen wr duwiol a diniwaid wrthynt; peidiwch a thyngu, a mi a dalaf i chwi y cyfan: ac felly y bu. Hwythau a aethant ymaith dan chwerthin yn eu dyrnau, heb feddwl dim am y cyfrif yn y farn fawr am weithred mor ysgeler. Deuai i lawr weithiau o'i lyfrgell pan y byddid yn twymo y ffwrn, fel y gallai yr olwg ar y fflamau dychrynllyd adgofio iddo echrys boenau y damnedigion. Ar ol Mr. John Thomas bu Mr. David Williams yma dros ychydig. Nid oedd efe ond gwanaidd o gorph, ac yn afiachus y rhan amlaf. Aeth yn ol i'w wlad, sef y Deheudir, a bu farw yn lled ieuangc. Yr oedd у ei dduwioldeb yn amlwg, a bu yn fendith i lawer tra bu efe yma. Ar ol hyny daeth Mr. Richard Thomas, o'r Deheudir, i fod yn weinidog i'r eglwys yn Mhwllheli, a'r manau ereill perthynol i'r corph pryd hyny. Yr oedd yn ŵr o gyneddfau cryfion, ac anghyffredin ei gôf, ac yn fedrus mewn meddyginiaeth: ond dywedir iddo wyro yn ei farn i ryw raddau oddiwrth y wir athrawiaeth. Ni bu yn gysurus i'r eglwys, nag o nemawr adeiladaeth yn eu plith. Ymrwystrodd yn ormodol â negeseuau y bywyd hwn: ac wrth ymdaith ar y môr ynghylch rhyw fasnach fydol, boddodd wrth ochr tir yr Iwerddon. Ar ol y ddamwain anghysurus hon, buont dros ryw gymaint o amser heb weinidog: ond yn mhen enyd, dewisasant Mr. Rees Harris yn weinidog iddynt. Bu ef yn eu plith dros amryw o flynyddoedd, yn ddiwyd a llafurus; gorphenodd ei yrfa, wedi treulio ei ddyddiau yn ddiargyhoedd a chariadus yn mysg ei frodyr, ac yn ei ardal. Ar ol marw Mr. Harris, dewiswyd Mr. Benjamin Jones i weinidogaethu yn eu plith; ac efe yw eu bugail yn bresennol. A chan mai fy amcan yn hyn o ymddiddan yw ceisio achub rhag myned i dir anghof ryw ychydig o hanesion yr amseroedd a 'aethant heibio, gadawaf i'r oes nesaf goffáu am llwyddiant a defnyddioldeb y gŵr da hwnw.
YMOF. A ddygwyddodd dim neillduol o arwyddion gwir grefydd mewn un cwr arall o'r wlad, heblaw y manau a soniasoch?
SYL. Yr oedd gwr yn mhlwyf Llanllechid, yn agos i Fangor, yn berchen ar le a elwir Palas Ofa. Dygwyd ef i fyny yn weinidog o eglwys Loegr, a chafodd ei osod yn esgob Kilkenny yn yr Iwerddon. Gorfu iddo ffoi oddiyno yn amser y brenin Charles y cyntaf, mae'n debyg, pan y lladdwyd dau can' mil o Brotestaniaid yn yr Iwerddon. Daeth cenad ar ei ol i chwilio am dano i Balas Ofa: cyfarfu hwnw âg ef mewn hen ddillad gwael, gerllaw y tŷ, a chryman drain ar ei fraich. Gofynodd iddo a welsai ef yr esgob? Dywedodd yntau wrtho, Yr oedd efe yma yn bur ddiweddar. Felly fe aeth hwnw ymaith heb gael ei ysglyfaeth. Dygwyddodd, tra bu ef yn ymguddio yn ei hen gartref, fod yno wylnos, ac yntau yn llechu yn y llofft. Cafodd ryw foddlonrwydd yn ngwaith y clochydd yn darllen yn yr wylnos. Pan gafodd gyfleustra, gyrodd am dano; ac wedi ymddiddan llawer ag ef, a chael lle i farnu ei fod yn ddyn duwiol, anogodd ef i ddyfod ato ef i Kilkenny, i gael ei urddo yn gurad yn Llanllechid. Ac wedi i'r dymhests fyned drosodd, ac i'r esgob fyned yn ol, aeth yntau drosodd, ac urddwyd ef; a bu yn gweinidogaethu yn Llanllechid amryw flynyddoedd. Darllen Homili y bu, dros ryw amser, yn lle pregethu. Enw y gŵr oedd Rhys Parry: ond am ei fod o radd isel, ac yn enwedig am ei fod yn tueddu at wir grefydd, gelwid ef gan y cyffredin, mewn ffordd o wawd, Syr Rhys.[2] Ond er gwaeled oedd yr offeryn, arddelodd Duw ef i ddychwelyd amryw o'u ffyrdd drgionus, ac i droi eu hwynebau at Dduw: ac er nad oeddynt ond praidd bychain, cawsant eu herlid yn chwerw. Byddai gorfod arnynt ddiangc i'r mynydd i ymgyfarfod i weddïo, i ganu mawl, ac i hyfforddi eu gilydd yn nghylch mater eu heneidiau: ond nid oes hanes i'r symlrwydd oedd yn eu plith barhau nemawr ar ol yr oes hòno. Gadawodd yr esgob y Palas Ofa i dlodion Llanllechid dros byth; ac y mae yr ardreth, sef yr arian, i'w rhanu bob haner blwyddyn. Enw yr esgob oedd Griffith Williams, ond gelwid ef yn gyffredin yr Esgob Williams. Argraffwyd llyfr lled fawr o'i waith, ar ddull corph o dduwinyddiaeth, yn mha un yr ymddengys yn amlwg ei fod yn oleu ac yn gadarn yn y wir athrawiaeth; ac nid yw yn anhawdd archwaethu wrth ei ddarllen, fod ei enaid yntau ei hun yn brofiadol o'r unrhyw.
Nodiadau
golygu- ↑ Gan fod hanes y gŵr enwog hwn, Mr. Vavasor Powell, yn argraffedig eisoes yn yr iaith Gymraeg, nid wyf yn gweled angenrheidrwydd ychwanegu, ond yn unig coffâu un tro neillduol a gyfarfu âg ef yn Sir Fflint. Yr oedd wedi addaw dyfod i bregethu ar ryw fynydd neu gyttir, nid yn mhell o Gaergwrle. Wrth geisio dyfod i dŷ cyfaill iddo gerllaw yno, nosodd arno, a chollodd y ffordd, bu yn crwydro yn hir yn nhywyllwch y nos, o'r diwedd canfu oleuni a thynodd tuag ato; a pha beth oedd yno ond palas mawr; anturiodd guro wrth un o'r drysau. Daeth morwyn i agor iddo, adnabu hono ef (canys un o'i gymydogaeth ef oedd hi.) Gofynodd iddi, a oedd hi yn meddwl y gallai efe gael lletya yno y nos hono: atebodd hithau fod ei meistr yn greulon yn erbyn crefydd, ond bod ei meistres beth yn dynerach. Aeth y llangces at ei meistres i ddywedyd am dano. Gorchymynodd hithau i'r forwyn ei droi ef yn ddystaw i ystafell i aros i'r gwr boneddig fyned i'w orweddfa; ac wedi hyny daeth y wraig foneddig at Mr. Powell, yntau a ymddiddanodd â hi yn ddifrifol am natur gwir grefydd, nes yr enillwyd ei serch, trwy yr ymddiddan, i benderfynu myned i wrando arno dranoeth. Aeth Mr. Powell, ymaith yn fore iawn. Gofynodd y wraig foneddig i'w gŵr a gai hi a'i mab geffyl bob un i fyned i daith fechan; ac wedi cael y ceffylau yn barod dechreuasant eu taith tua'r bregeth. Daeth hen wraig adnabyddus iddynt i'w cyfarfod, ac wedi iddi gyfarch gwell i'r wraig foneddig, ebe hi yn mhellach wrthi, Gwyliwch, fy Meistres, fyned at y cythreuliaid sydd yn y mynydd yn pregethu. Yr wyf fi (meddai y wraig foneddig.) yn bwriadu myned. Ni orphwysodd yr hen wraig nes mynegi hyny i'r gwr boneddig: yntau wedi ymwylltio a gymerodd geffyl iddo ei hun ac i'r mab arall (canys dau o feibion oedd iddynt,) ac ymaith ag ef tua'r mynydd, i ladd y pregethwr; a phwy a ddaeth, oddiwrth dŷ ei gyfaill, i gyfarfod âg ef, ond Mr. Powell: a chan ei fod yn wr trefnus, ac o ddygiad da i fyny, ni feddyliodd y gŵr boneddig mai y pregethwr ydoedd mewn un modd. Wedi cyfarch eu gilydd, dywedodd y gŵr boneddig wrth Mr. Powell, ei fod yn myned i saethu y pregethwr: O'r goreu, ebe Mr. Powell, myfi a gymeraf fy mhleser i ddyfod gyda chwi; felly cyd-deithio a wnaethant; ond ar y ffordd dywedodd Mr. Powell wrth y gwr boneddig, Fe allai y byddai well i ni wrando ychydig ar y pregethwr yn gyntaf, odid na ddywaid er gyfeiliornadau amlwg, ac yna fe fydd genym reswm i'w roddi paham y lladdasom ef. Gwelodd y gwr boneddig fod hyny yn ei le, ac yn rhesymol; a than ymddiddan â'u gilydd daethant hyd at y lle yr oedd y cyfarfod: a phwy a ymosododd at y gwaith o bregethu ond yr un oedd yn cyd-deithio â'r gŵr boneddig. Cafodd y gŵr boneddig a'i wraig eu gwir ddychwelyd at yr Arglwydd, a buont yn siriol ac yn ymgeleddgar i achos Duw mewn amseroedd blinion ac erlidigaethus; ac yn noddfa i'r gweinidogion a drowyd allan o'r eglwysydd yn y flwyddyn 1662. Plas teg oedd enw y lle yr oeddynt yn byw, y mae rhwng Caergwrle a'r Wyddgrug. Yr oedd Mr. V. Powell cyn hyny wedi breuddwydio ei fod yn cael nyth aderyn, ac ynddo ddau gyw, a'i weled ei hun yn dal y ddau hen, a'r ddau gyw yn diengyd. Bu dros amser yn synfeddylio beth a allai ystyr y breuddwyd fod, ond cafodd ddeongliad o hono yma; canys daliwyd y tad a'r fam trwy'r efengyl, ond diangodd y ddau fab yn hollol ddigrefydd.
- ↑ Y mae yr awdwr yn gwneuthur camgymeriad bychan yma. Nid mewn "ffordd o wawd" y gelwid ef Syr Rhys, oblegyd Syr ydoedd teitl cyffredin curadiaid yn yr oes hono:—Gol.