Gwaith ap Vychan/Plant y Ddôl Fawr

Gwyr Dinorwig Gwaith ap Vychan

gan Robert Thomas (Ap Vychan)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Henffych i'n Côr


PLANT Y DDOL FAWR, LLANUWCHLLYN.

'R ty troes Robert Owen—i dawel
Dywod Rhos y Fadwen;
Gwae'r rhieni golli gwên
Eu boddus hoff fab addien.

A'i chwaer ef a hunodd hefyd,—er loes,
Ar lasiad dydd bywyd,
I:'r Ddol Fawr daeth rhyw ddwl fyd,
A dwy oedfa du adfyd.

Ond credwch, o'r llwch a'r llaid,—yn y dydd
Hwnnw daw'ch anwyliaid;
Ac i'r nen 'r ai'r ddau enaid
At yr Oen,—tewi a raid.

Nodiadau golygu