Gwaith ap Vychan/Ymweliad â Glan y Môr
← Ann Morris | Gwaith ap Vychan gan Robert Thomas (Ap Vychan) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Etholedigaeth → |
Y TY MAWR
YMWELIAD A GLAN Y MOR.
Oddeutu hanner can' mlynedd yn ol.
𝖄N y flwyddyn 1830, aeth gwr ieuanc o fynydddir Cymru i weithio ei gelfyddyd i blith Saeson y Mers, a threuliodd yr haf a'r gauaf dilynol yn eu plith. Fel yr oedd y gwanwyn yn ymwthio ymlaen i ddiorseddu y gauaf, teimlai fod rhyw wendid dieithrol iddo ef wedi ymallyd yn ei gyfansoddiad. ac ymofynnodd â meddyg beth a fyddai oreu iddo ei wneuthur. Cynghorodd hwnnw ef i dalu ymweliad am rai wythnosau, neu fisoedd, os gallai, â glan y mor; ac wedi trefnu pethau i foddlonrwydd gyda y bobl y gweithiai ei gelfyddyd yn eu plith, efe a ymbarotodd tuag at gychwyn i'w daith. Yr oedd yn gydnabyddus ag arfordiroedd Aberteifi, a Meirionnydd hefyd: ond yr oedd glannau môr yn Arfon a Mon, Dinbych a Filint, yn hollol ddieithr iddo; gan hynny, penderfynodd fyned i'r lleoedd nad ymwelsai â hwynt erioed o'r blaen. Penderfynodd yr ai i Fangor i ddechreu, ac oddi yno i leoedd eraill wedi hynny. Ffordd hwylus iawn i gyrhaeddyd Bangor fuasai cymeryd ei le ar y llythyr-gerbyd oedd yn rhedeg o Lundain i Gaergybi; ond yr oedd rheswm cryf ac effeithiol iawn yn erbyn hynny yn ei logell ef. Gwelodd mai y ffordd esmwythaf a diogelaf iddo oedd ceisio cyflawni y daith ar ei draed, yn araf, fel y gallai.
Meddai y gwr ieuanc amryw fanteision i ymgymeryd a'r daith a fwriadai gyflawni. Yr oedd yn gerddwr da—yr oedd yn gydnabyddus a phob pregethwr, pob bardd, a phob llenor oeddynt wedi bod, neu a oeddynt yn bod y pryd hwnnw, yn agos i linell ei lwybr ef, hyd derfyn ei daith. Gwyddai am balasau y mawrion a'u hynodion, meusydd brwydrau y dyddiau gynt, rheieidr a llynnoedd, cestyll ac amddiffynfeydd, a hanesion ei wlad yn gyffredinol. Ar fore teg a hyfryd, o fewn rhyw wythnos cyn diwedd mis Mai, 1831, wedi iddo wneud ei sypyn dillad yn barod, cyfeiriodd y gwr ieuanc tua'r Berwyn. Aeth yn fore iawn dros Gyrn y Bwch, lle y preswyliai Edward Benyon, y meddyg, yr hwn, ynghyda. Richard ei frawd, yn ol llafar gwlad, a fedrent nid yn unig godi cythreuliaid, ond eu rhoddi i lawr hefyd, yr hyn ni all eu dynwaredwyr yn y gelfyddyd ddu mo'i wneuthur. Bydd yn hwylusach i ni gael enw ar y gwr ieuanc o hyn allan. Yr oedd tri enw arno ef yn wreiddiol. Gelwid ef yn Robert Oliver Davies; ond efe, wedi tyfu i fyny, a ymwrthododd â'r ddau enw olaí, ac a ddewisodd un arall yn eu lle. Yr oedd efe yn hannu o Olifairiaid Meirionnydd; gan hynny, ni a'i galwn ef yn Robert Oliver yn yr hanes hwn. Aeth ef yn mlaen heibio i Ryd y Croesau, lle y ganesid Charles Edwards, awdwr enwog "Hanes y Ffydd Ddiffuant," ac o'r neilldu i breswylfod Hugh Morus (Eos Ceiriog), a chyrhaeddodd Lanarmon Dyffryn Ceiriog. Yr oedd dau beth yn peri fod Llanarmon yn lle o gryn ddyddordeb iddo ef. Buasai un o gewri y pulpud Cymreig yn preswylio yno am rai blynyddoedd, sef y diweddar Morris Roberts, Bryn Llin gynt, ac wedi hynny o Remsen, yn Nhalaeth New York, Gogledd America. Oddeutu mis. cyn dyfodiad Robert Oliver i'r lle yr ymadawsai Mr. Roberts a'i deulu i'r Gorllewin.[1]
Yr oedd gwr enwog arall wedi bod, yn ddiweddar, yn dal bywoliaeth Eglwysig Llanarmon. Ei enw oedd Peter Roberts. Yr oedd yn ysgolhaig trwyadl, yn hynafiaethydd manylgraff, yn dduwinydd galluog, ac yn seryddwr campus. Pan ofynnodd rhyw wr i Horsley, Esgob Llanelwy, a oedd efe yn adnabod un Peter Roberts, atebodd, "Diau fy mod, nid oes. ond un Peter Roberts yn y byd." Yr oedd ei dad, John Roberts, yn awrleisydd yn Rhiwabon, a symudodd oddiyno i Wrecsam. Pan oedd yno, ceisiodd. gwrthwynebydd rhwysgfawr a gwyntog iddo ei ddychrynnu a'i ddigalonni, drwy argraffu ar ei arwyddfwrdd ei fod ef yn "awrleisydd o Lundain." I'r diben o ollwng ychydig o'r gwynt allan o hono, argraffodd John Roberts ar ei arwyddfwrdd yntau, ei fod yn awrleisydd o Riwabon;" ac atebodd hynny yr amcan mewn golwg. Yn 1818, cafodd Peter Roberts fywoliaeth Halein mewn cyfnewid am. Lanarmon; ac yno, pan ar y weithred o roddi cardod i ddyn tlawd yn nrws ei dy, tarawyd ef gan y parlys mud, a bu farw y bore canlynol. Cwbl wagedd yw pob dyn pan fo ar y goreu," fel y tystiolaetha geiriau y Beibl.
Wedi cael ymborth yn Llanarmon, cyfeiriodd Robert Oliver i fyny i Ferwyn, a bob yn dipyn, wele ef yn sefyll ar ben Moel Fferna, lle y cafodd olygfa ogoneddus ar rannau helaeth o Gymru, a Lloegr hefyd. Disgynnodd wrth ei bwys i waered o Foel Fferna i Gorwen, lle y prynnodd ddau lyfr. Yn un o honynt, yr oedd cannoedd lawer o ymadroddion Cymreig wedi eu troi i Saesonaeg priodol, yr hyn a ystyriai Robert Oliver yn dra manteisiol iddo ef ar y pryd. Y llyfr arall ydoedd Gramadeg Dwyieithawg, neu Ramadeg o'r iaith Saesonaeg yn Gymraeg a Saesonaeg ar gyfer eu gilydd, o waith John Williams, wedi hynny o Lansilin, Rhosllanerchrugog, y Drefnewydd, a'r Rhos eilwaith yn niwedd ei oes. Gweinidog dysgedig, meddylgar, a gwir ragorol, yn perthyn i'r Bedyddwyr, oedd John Williams—dyn gwirioneddol fawr—y mwyaf a fagodd Gogledd Cymru yn yr oes honno oedd John Williams. Bu y llyfr hwnnw o ddefnydd mawr i Robert Oliver wedi hynny. Yr oedd taith o swydd yr Amwythig, a thros Ferwyn i Gorwen, yn llawn digon o waith diwrnod i Robert Oliver. Gan hynny efe a letyodd yng nghymydogaeth Corwen y noswaith honno.
Bore drannoeth, "cyn codi cwn Caer," yr oedd Robert Oliver ar y ffordd yn cyfeirio tua Bangor. Aeth heibio i Rug, lle yr oedd heliwr cadarn yn preswylio y pryd hwnnw. Dringodd i ardal Llangwm, lle yr oedd hen weinidog perthynol i'r Anibynwyr, o'r enw Thomas Ellis, yn preswylio. Gwr oedd efe "yn ofni Duw yn fwy na llawer," ac yn wir lafurus yn y weinidogaeth. Yn yr ardal honno. hefyd yr oedd John Roberts, brawd i'r enwog Robert Roberts o Glynog, yn cyfaneddu. A honno oedd gwlad. y pastynfardd, Hugh Jones o Langwm. Nid oedd a fynna! Hugh Jones â gwrandaw yr Ymneillduwyr. Gofynnwyd iddo unwaith a ddeuai efe i wrandaw un Sion Moses, pregethwr perthynol i'r Methodistiaid, oedd yn byw yn y Bala, ond ei ateb oedd yn nacaol. Ebai ef—
"Mi gymra i nhywys gan fugail yr eglwys,
Rhag ofn fod Sion Moses yn misio."
Cyn bo hir, yr oedd Robert Oliver ar gyfer hen gartref John Jones, Glan y Gors, awdwr y traethodau, "Seren dan Gwmwl, a Thoriad y Dydd," a chyfansoddwr llawer o ganeuon, megys "Dic Sion Dafydd," a "Sesiwn yng Nghymru," &c, Daeth Robert Oliver cyn hir i gymydogaeth Pentre y Foelas. Yno yr oedd Plas Iolyn, cartref y Dr. Coch, un o reolwyr yr Eisteddfod a gynaliwyd yng Nghaerwys yn 1568, drwy awdurdod y Frenhines Elizabeth. Yr oedd Thomas Price, mab y Dr. Coch, yn fardd rhagorol yn ei ddydd. Yn y Foelas y preswyliai y Wyniaid dros oesoedd lawer. Rhwng Pentre y Foelas a Betws y Coed y trigai yr erlidiwr mawr o Rydlanfair, yr hwn a wnaeth ymosodiad beiddgar ar y Dr. Lewis, Robert Roberts Tyddyn y Felin, Azariah Sadrach, ac eraill. Wedi i Robert Oliver gyrhaeddyd Betws y Coed, yr hwn nid oedd y pryd hwnnw ond lle bychan iawn, gan nad oedd eto ond cynnar yn y prydnawn, penderfynodd yr ai mor bell a Chapel Curig i orffwys. y noson honno.
Cychwynnodd, a dringodd heibio i Raiadr y Wennol, lle y dywedir ddarfod offrymu ysbryd un o Wyniaid Gwydir, a'r lle, meddir, y mae efe, a'r rhaiadr yn ewynu drosto er ys yn agos i 300 mlynedd bellach. Ond rhaid cael ffydd wahanol i ffydd y dyddiau presennol i dderbyn peth fel yna fel gwirionedd. Aeth y teithiwr ymlaen gan ddarllen, a chroesodd yr afon wrth y Ty Hyll: ond cyn pen hir, dyrchafodd ei olwg oddiar ei lyfr, a gwelai mewn caegerllaw y ffordd ffynnon o ddwfr gloewlas, a llawer iawn o ferw y dwr yn tyfu yn ei gofer. Yr oedd ganddo fara a chaws yn ei logell, a chan ei bod yn adeg prydnawnfwyd, efe a ddringodd dros y clawdd. ac a roddes ei sypyn dillad a'i lyfr ar lawr, ac a ddechreuodd fwyta o ddifrif. Wedi i'r wledd derfynu, ac i ferw y dwr gael eu trethu yn bur drwm, cododd ac aeth ymaith; ond, yn anffodus, ni chofiodd ddim am y llyfr nes ydoedd yng Nghapel Curig; ac erbyn hynny yr oedd yn rhy flin i fyned yn ol i'w ymofyn. Fel yr oedd goren y modd, nid y Gramadeg Dwyieithawg a adawyd ar ol, ond y llyfr Ymadroddion Cymreig wedi eu troi i'r Saesonaeg. Mae y Gramadeg gan R. Oliver hyd heddyw. Fel yr oedd R. Oliver yn dringo o Fetws y Coed i Gapel Curig, yr oedd yn myned am ryw gefnen o fynydd â rhosdiroedd Dolyddelen, lle y preswylai amryw o bregethwyr nodedig o dalentog a efengylaidd; megys John Jones, Tan y Castell; a David Jones, ei frawd; Cadwaladr Owen, a John Williams yr ieuengaf, a John Williams yr hynaf hefyd, yr hwn a ddefnyddiodd yr Arglwydd i ddychwelyd mam yr enwog Williams o'r Wern. Yno hefyd. yr oedd y castell lle y ganesid Llywelyn Fawr, un o dywysogion enwocaf y Cymry, a'r hwn â orchfygodd. y Saeson mewn llawer o frwydrau llofruddiog. Oddeutu naw mlynedd cyn ymweliad Robert Oliver â Chapel Curig, yr oedd gwr o'r enw William Thomas, ewythr frawd ei dad i'r diweddar Barch. William Thomas o Beaumaris, yn cadw tollborth Capel Curig. Yr oedd swyddog perthynol i'r gyllidiaeth yn byw, ar y pryd, yn Llanrwst, ac yn arfer myned, yn fynych, ar ei farch drwy y tollborth a gadwai William Thomas yng Nghapel Curig. Enw y cyllidydd oedd Sturdy, ac yr oedd ef a'r ceffyl a farchogai yn berffaith adnabyddus i'r tollwr. Gwelodd William Thomas ef un bore yn myned drwodd tua Bethesda a Bangor, ac ym mhrydnawn yr un dydd gwelai farch Mr. Sturdy, a marchogwr dyeithr ar ei gefn, yn dyfod at y Tollborth ac yn myned drwodd heb dalu. Cyn hir, dyma erlidwyr o ardal Bethesda yn dyfod ar ol Lewis Owen, ac yn dywedyd ei fod wedi saethu Mr. Sturdy yn ei fraich, ac wedi ceisio ei saethu drwy ei ben, ond wedi methu y tro hwnnw, ae wedi lladrata ei farch, a dianc ymaith. Ymwasgarodd yr erlidwyr, rhai bob ffordd. Cafodd William Thomas fenthyg ceffyl, heb na chyfrwy na ffrwyn yn perthyn iddo. Aeth ef dros Hiraethog, a goddiweddodd y llofrudd ar y mynydd. Gofynnodd y llofrudd pwy ydoedd, ac i ba le y cyfeiriai. Atebwyd ef, a thwyllwyd ef yn hollol. Ymadawsant a'u gilydd ar gyfer Nantglyn; ond aeth Willim Thomas ar ei ledol i Ddinbych, a llwyddodd i'w ddal yn y dref honno. Anfonwyd ef i garchar Rhuthyn; symudwyd ef i Gaernarfon i gael ei brofi. Cafwyd ef yn euog o'r cyhuddiad, a dienyddiwyd ef ar Forfa Seiont, Medi 4, 1822.
Wedi gorffwyso noswaith yng Nghapel Curig, cychwynnodd Robert Oliver yn fore iawn tua Bangor. Cafodd gipdrem ar amryw o leoedd o hynodrwydd, ac ni welsai efe y fath leoedd gwylltion, creigiog, a elaregog, hyd y diwrnod hwnnw. Cafodd hamdden i gael golwg ar Chwarel Cae braich y Cafn, a chyrhaeddodd Fangor ymhell cyn y nos, Île y lletyodd y noswaith honno. Wedi cyrhaeddyd prif ffordd Caergybi yng Nghorwen, cafodd y troed-deithiwr y ffordd oreu yn y byd, ond odid, i'w cherdded, nes y cyrhaeddodd Fangor Fawr yng Ngwynedd.
Nodiadau
golygu- ↑ Bu y gwr hwnnw dan gryn erledigaeth yng Nghymru, ac yn America drachefn, oblegid rhyw rai o'i ddaliadau crefyddol; ond cafodd amddiffyniad rhagorol yn y cofiant a ysgrifenwyd iddo gan y Parch. Edward Davies, Waterville.