Hanes Niwbwrch/Gwelliantau

Achosion y Dyrchafiad Cymdeithasol Hanes Niwbwrch

gan Owen Williamson

Cymeriad a nodweddion y trigolion

14.—GWELLIANTAU

O'r llwyddiant y ceisiwyd ei ddisgrifio uchod y deilliodd llawer o welliantau. Ychwanegwyd hefyd llawer at gysuron y trigolion yn gyntaf, adeiladwyd llawer o dai newyddion y rhai yn y blynyddoedd hynny a ymddangosent fel neuaddau mewn cymhariaeth i'r hen dai tô gwellt. Y mae 'n wir fod yno, fel y sylwyd mewn tudalen arall, rai hen blâsau; ond er pob gofal dadfeilio yr oedd y rhai hynny, ac er mor ardderchog yr ymddangosent i'r hynafiaethydd yr oeddynt o ddydd i ddydd yn myned yn fwy anghymwys fel tai annedd. Mae y Sign Fawr, ers agos hanner can mlynedd wedi rhoi ei lle a'i henw i wyth neu naw o dai mwy diweddar. Nid oes neb sy fyw yn cofio yr hen neuadd drefol a safai, meddir yn agos i'r lle y saif Madryn House, ond yn fwy ar draws yr heol bresennol. Arweiniai y ffordd y pryd hwnnw heibio i ochr ddeheuol y neuadd, ac ar draws y lle agored oedd gyferbyn a'r hen Sign Fawr. O'r ychydig blâsau sydd yn aros heb eu tynnu i lawr y Plas Newydd sydd yn edrych oreu; ond y mae Sign Hare a'r Plas uchaf yn ymddangos mewn cyflwr tlodaidd, bron mor fregus a lletty gwyliwr yn y gauaf mewn gardd wâg.

Ail adeiladwyd yr House, Gorphwysfa, a thai eraill flynyddoedd lawer yn ol; ac adeiladwyd y White Lion gan John Jones, mab John Abram, Cefn Bychan, yr hwn oedd ail wr y dafarnwraig adnabyddus, Ellen Morris, Sign Hare.

O'r tai mwy diweddar na'r uchod, Bodiorwerth yw y blaenaf o lawer, oblegid er y ceidw ei urddas o hyd fel tŷ ar ei ben ei hun mewn mwy nag un ystyr eto hanner can mlynedd yn ol ymddangosai fel Y Plas (The Place), neu y prif le yn y dreflan.

Tua thrugain mlynedd yn ol adeiladodd William Owen, Gallt y Rhedyn, bedwar o dai a gyfrifid yn rhai da y pryd hwnnw. Dilynwyd ef, neu adeiladwyd tai yr un adeg ag ef, gan John Rowland a Morris Williams, y Saer, y rhai a gawsant brydlesoedd ar leiniau a rhannau o etifeddiaeth Glynllifon. Y cyntaf o'r ddau a adeiladodd dai yn y lle safai Plas Pydewau arno; a'r olaf a gododd dai yn lle yr hen Siamber Newydd, ac ar gwrr yr Offt ymhen uchaf Heol yr Eglwys. Y mae 'n rhaid fod y tai hynny, er mor ddiaddurn oeddynt, yn ymddangos yn ardderchog o'u cymharu â'r hen dai bychain tô gwellt; ond erbyn heddyw y mae y rhai hyn etto yn gorfod plygu i'r tai da, helaeth, a chyfleus sydd wedi eu hadeiladu yn ddiweddar, y rhai sydd anedd-dai addas i'w perchenogion, neu rhyw deuluoedd o foddion cymedrol, drigo ynddynt. Nid oes yno yn awr gymaint ag un tŷ tô gwellt; ond y mae yno eto rai tai yn galw am welliantau er mwyn iechyd, cysur, a dyrchafiad moesol eu preswylwyr. Ond er mor hardd yr ymddengys llawer o'r tai a adeiladwyd yn ddiweddar os edrychir arnynt ar wahan i'w safiad, eto wrth edrych ar y dref, fel y cyfryw, y mae 'r edrychydd yn cael ei lenwi â siomedigaeth neu â digofaint oherwydd i rai niweidio y lle yn ddirfawr trwy arddangos trachwant anfaddeuol wrth grafangio ychydig lathenni o dir at y tai newyddion ar draul culhau ystrydoedd llydain yr hen dref, anurddo y trefnusrwydd a'r ymddangosiad, a thorri ar unigrwydd tawel y tai.

Pa faint bynnag o fawredd a ymddengys ynglyn â'r tai presennol gyda'u parlyrau a'u hystafelloedd helaeth; a pha mor gysurus bynnag ydyw lloriau coed a'r llawrlenni cynes a hardd, nid oes yn yr un o'r tai hynny wynebau mwy gwridgoch, llygaid mwy disglaer, camrau mwy bywiog, na chalonau mwy caredig nag a geid gynt yn y tai bychain gyda'r lloriau pridd wedi eu haddurno brydnawn Sadwrn â thaenelliad o dywod melynaur.

Y mae gwelliant mawr hefyd wedi cymeryd lle ynglyn ag amaethyddiaeth y plwyf. Nid ydwyf am ffalsio neu awgrymu mai yma y mae'r amaethwyr goreu yn y byd; oblegid gwn o'r goreu fod yr amaethwyr yno yn ddynion call, ac fel y cyfryw casânt bob ffug ganmoliaeth, ac ymfoddlonant ar y clod dyledus, yr hyn a ddymunaf fi ei roddi iddynt hwy a'u hynafiaid.

Mae llawer o draddodiadau yn profi fod ysbryd yr hen amaethwyr gynt wedi pruddhau cymaint oherwydd i'w tiroedd gael eu gorchuddio gan drwch mawr (troedfeddi mewn mannau) o dywod gwyn gwyllt ac aflonydd a drodd ganoedd o erwau o dir bras yn anialwch anffrwythlon, fel y rhoisant o'r neilltu am flynyddoedd lawer bob ymdrech i geisio codi eu cynhaliaeth o'u tyddynod. Gwn am diroedd yno a wrthodwyd gan hen frodorion ar brydles hir ac ardrethoedd isel, oherwydd eu bod fel tywyn gwyn tywodlyd hollol ddiwerth fel tir amaethyddol. Ond ymhen amser hir dechreuodd rhai mannau mwy gwlyb ac oer na pharthau eraill "fagu croen" lle y cai ychydig ddefaid bychain borfa brin. Yna dechreuwyd cau a cheisiwyd amaethu clytiau neu leiniau bychain i godi ychydig ŷd a chloron. Mewn rhai engreifftiau, ac yn wir yn lled gyffredin, yr oedd tyddynwyr Llanddwyn a Hendre' Rhosyr yn gwningwyr ac yn gweithio a masnachu mewn nwyddau a wneid â môrhesg, ac mewn rhai amgylchiadau yr oedd rhai o honynt yn grefftwyr megis cryddion a seiri; felly rhwng pob peth yr oedd rhai yn gwneud bywoliaeth lled gysurus, ac ychydig yn casglu arian a'u galluogodd i brynu eu tyddynod, neu i gael prydles. Os oedd hi felly yn anhawdd i'r amaethwyr bychain gyda rhai manteision ymddangosiadol wneud bywoliaeth, pa mor isel oedd cyflwr yr ugeiniau tlodion hynny oedd heb dyddyn, crefft, nac unrhyw waith sefydlog! Cyn agor y gweithfeydd glo yn siroedd Fflint a Dinbych ac yn y Deheudir, yr oedd llawer o blwyfi Môn yn methu rhoi digon a waith i'r dosbarth gweithiol oedd yn aros ynddynt yn sefydlog. Ac fel y crybwyllwyd achosodd lledaeniad y tywod or-boblogiad Niwbwrch trwy i drigolion Llanddwyn ymfudo i'r dreflan, ac felly gan nad oedd yno waith ond i gyfran fechan o'r bobl, yr oedd yn rhaid i ddosbarth mawr o ddynion cryfion ac iach, a bechgyn bywiog, ymddibynnu ar y morhesg a'r cwningod, creisio a herwhela, a gorchwylion eraill llai anrhydeddus, fel moddion i ddwyn iddynt fywoliaeth wael ac ansicr.

Cyn cau y tir cyffredin a elwir y comisoedd yr oedd rhai yn cadw ychydig ddefaid yn y tywyn, y lle hefyd yr oedd morhesg yn tyfu ac ychydig gwningod yn "daearu"; ond ar ol i'r tir hwnnw gael ei werthu i'r rhydd-ddeiliaid gwasgwyd teuluoedd tlodion i gongl gul iawn. Yr oedd hen rydd ddeiliaid Niwbwrch yn goddef llawer, os nad oeddynt yn eu calonau yn cydymdeimlo â'u cydblwyfolion llai ffortunus. Ond pan y deuai deiliad dieithr i'r plwyf nid oedd hwnnw yn deall nac yn cydnabod hen arferion, nac yn cymeradwyo noddi tlodion digynhaliaeth. Un tro yr oedd un o'r newydd-ddyfodiaid hyn yn barottach i wylied ei glwt comin nag i ddysgu hen drefniadau Niwbwrch. Byddai 'n cael ei flino oherwydd fod rhyw dlodion yn aflonyddu ychydig ar ei gwningod a hawliai oherwydd eu bod yn tyllu yn ei gomin. Yr oedd yr amaethwr hwn yn elyn creulon i Shon Huw Tomos Prisiart Befan, yr hwn oedd i gael ei saethu ganddo y munud cyntaf y gwelai ef yn agos i'r Clwt Melyn. Pan glywodd mam Shon hynny hi a gymerth ei thympan a'i thelyn, ac a ganodd,

"Mae yma ryw langc ifangc
Yn dwrdio saethu Shôn,
Am iddo ddal cwningen,
Am hyn chwi glywsoch sôn;
Ond gwylied iddo 'i saethu,
Y bore na 'r prydnawn,
Daw mab i Jones y Twrnai
I alw arno i mewn."


Mae 'n haws canu bygythion na dwyn ein hunain i gyflawni ein dyledswyddau. Byddai 'n well i bawb geisio cydymffurfio â'r byd fel y mae nes ei ddiwygio mewn ffordd gyfreithlon, na cheisio osgoi gwyliadwriaeth deddf a dwyn ein hunain i helbul. Shôn dlawd, aeth ef i drybini a helbul alltud; a diweddodd ei oes yn y tlotty.

Ysgrifenais yr uchod i ddangos yr ochr dywyll. Yn awr ceisiaf ddangos y modd y daeth yr adfywiad amaethyddol.

Rai ugeiniau o flynyddoedd yn ol daeth i Niwbwrch o Sir Ddinbych wr dieithr a adwaenid wrth yr enw Abram. Mae 'n debyg mai ei enw bedydd oedd hwn. Dywedir fod ganddo ychydig arian; ac mewn ardal dlawd ac mewn cyfnod pryd yr oedd arian yn brin, ystyrid ef yn ddyn cyfoethog. Yr oedd yn bur hawdd i ddyn felly gael digon o ffermydd yr adeg honno, oblegid yr oedd yn gyfnod hollol wahanol i'n hoes ni, gan fod mwy o lawer o ffermydd y pryd hynny nag o ddynion a dybient eu hunain yn amaethwyr.

Risiart Abram, Cefn Mawr Uchaf, oedd un mab i'r gwr y cyfeirir ato uchod; a Shôn Abram, Cefn Bychan, oedd fab arall iddo; a Sian Abram, Ty Lawr, (a foddodd yn nhrychineb cwch Abermenai) oedd ei ferch. Yr wyf yn deall i'r teulu yma roddi peth adfywiad yn amaethyddiaeth Niwbwrch, ond nid llawer o welliant yn y drefn o amaethu. Yr oedd y gwelliant hwn i ddilyn mewn oes ddiweddarach.

Ychydig dros drigain mlynedd yn ol daeth Morris Jones, Caeau Brychion, i'r plwyf. Yr oedd hwn yn un o'r dynion mwyaf anturiaethus, ac yn amaethwr deallus a phrofiadol. Yr oedd yn deall ansawdd tir ac yn medru rhoi bywyd yn y tir a gyfrifid yn rhy wael i ad-dalu dim o'r costau a roddid arno.

Dirgelwch cryfder Morris Jones oedd ei synwyr cyffredin mawr a'i benderfyniad yr hyn a'i galluogodd i orchfygu yr holl rwystrau a'i bygythiai wrth iddo gyfaddasu celfyddid ddiweddar i gydweithio â deddfau natur, pan oedd hen arferion a holl draddodiadau y lle a'r amseroedd yn ymladd yn erbyn pob diwygiad, gwelliant, ac anturiaeth.

Yr oedd yr hen erydr gweiniaid a ddefnyddid gan yr hen amaethwyr, a'r ceffylau bychain teneuon a gedwid ganddynt, yn hollol anaddas i'r drefn newydd o amaethu; a chan fod y pethau felly yr oedd yr amaethwyr hynny wedi dwyn y tir a'r drefn o amaethu i lefel y cynorthwyon yn eu meddiant, gan berswadio eu hunain fod aredig ysgafn a bâs yn fwy addas i dir y rhan yma o'r wlad nag aredig trwm. Ác hefyd gan y byddai aredig ysgafn yn cynhyrchu cnydau ysgafn, yr oedd hynny drachefn yn achosi i'r gwrtaith a arferid fod yn wael a phrin.

Dechreuodd Morris Jones gyda phorthi meirch ieuaingc, nes gwneud dau neu dri ohonynt yn gryfach na llawer o rai bychain hen a theneu. Yna arddodd ei dir mor ddwfn nes dychrynu yr hen amaethwyr o'i gwmpas. Ac i wneud ei gynllun yn fwy effeithiol efe a soddodd ugeiniau o bunnau mewn gwrtaith a hadyd da. Ac wrth wneud daioni iddo ei hun yr oedd yn ffynhonnell lles mawr i Niwbwrch, nid yn unig fel esiampl i'w ddilyn gan amaethwyr, ond hefyd rhoddai y pris uwchaf am wrtaith i'r bobl hynny a gymerent y parseli degwm ac a gadwent wartheg ac anifeiliaid eraill yn y dreflan.

Yr oedd y tir gynt, a elwir yn awr Caeaubrychion, yn rosdir teneu ac oer, heb un atdyniad i hudo neb o drigolion Niwbwrch i'w gymeryd a'i amaethu. Daeth Morris Jones yma o Landwrog, ac adeiladodd dŷ a beudai i fod yn drigfan iddo ei hun, ac yn ganolfan i gaeau gwasgarog neu anghysylltiol. Ond cyfnewidiodd lawer gyda'i gymydogion nes gwneud y lle yn un o'r ffermydd hwylusaf, twtiaf, a mwyaf cryno yn y fro.

Y mae Robert T. Jones, ei fab a'i olynydd, a'r deiliad presennol, yn olynydd teilwng i dad diwyd, gofalus, a llwyddiannus.

Y mae 'n bleser mawr i mi ddwyn tystiolaeth i lwyddiant meibion ac wyrion yr hen amaethwyr a llafurwyr gynt. Er gwaethaf pob anfantais, rhenti uchel, a phrisiau isel, y mae tyddynwyr Niwbwrch ar y cyfan yn llawn cystal allan a thyddynwyr bychain unrhyw blwyf arall yn Ynys Môn.

Nodiadau

golygu