Hanes Sir Fôn/Plwyf Llan Gwyfan

Plwyf Llangristiolus Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Cwmwd Llifon

PLWYF LLAN GWYFAN.

Mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu deuddeg milldir i'r gorllewin o Langefni. Adeiladwyd yr eglwys hon mewn lle anghyfleus ar graig fechan, amgylchynir hi gan y môr ar lanw uchel. Cysegrwyd hí yn y seithfed ganrif i St. Gwyfan Cwyfen, ap Brwynog, ap Corth Cadeir o Gwm Dyfynawc, ap Medrawd, ap Caradawc, Freichfras, a'i fam Camell o Fod Anghared yn Ngholoion. Hefyd, cysegrwyd eglwys Tudweiliog, yn Arfon, a Llangwyfan yn Maelor, iddo. Nis gellir myned i'r eglwys hon ond ar drai: dywedir fod tir o'i hamgylch pan adeiladwyd hi.

Y mae yn argraffedig ar gareg fedd tu fewn i'r eglwys, ei bod yn cael ei galw yn y fl. 1601, yn "Infelina Insula," (Anhapus Ynys); ac felly, o'r hyn lleiaf, y mae yn cael ei galw yn ynys ers yn agos i dri chan' mlynedd. Yr ystyr yw, "Llan y dinystrydd," sef Gwyfyn.

Ceir yn y plwyf hwn luaws o hen weddillion hynod, a rhai o honynt oedd yn bodoli cyn Crist. Un o'r pethau cyntaf y sylwir arno ydyw y Gromlech sydd ar ben Mynydd y Cnwc, yr hon sydd yn gareg fawr wastad lydan, wedi ei gosod ar ben tair careg tua dwy droedfedd o uchder oddiwrth y llawr—y mae yr olwg arni yn debyg i fwrdd ac o'i hamgylch yr oedd cylch o geryg, wedi bod yn mesur ar draws oddeutu 12 llath. O fewn i'r cylch hwn y byddai y Derwyddon gynt yn arfer ymgynull i addoli ac aberthu. Saif yr allor hon mewn lle am- lwg, sef ar fryn uchel-nid oes ond tua can' llath rhyngddi a'r môr, ac oddeutu dwy filldir o orsaf Ty Croes. Dywedir y byddai yr hen Dderwyddon gynt yn arfer myned yn orymdaith dan ganu, a ffyn gwynion yn eu dwylaw, yn mhen chwe' diwrnod ar ol i'r lleuad newid, tua llwyn o dderw cauadfrig; ac yna dringai yr offeiriad i fyny i'r dderwen, ac, a'i gryman euraidd torai i lawr y llysieyn a elwir "uchelfad:" a byddai un arall, odditanodd yn ei dderbyn ag arffedog wen.

Fe ddygid yno hefyd ddau fustach gwyn, difai, dianaf, ac fe'u haberthid ar uchaf y gromlech uchod. Ystyrid y cyfryw aberth yn swyngyfaredd odidog rhag gwenwyn, haint, ac anffrwythlondeb. Ond yr aberth goreu a dybient hwy a ryngai bodd i'r duwiau oedd drwgweithredwyr, y rhai yr oedd cyfraith y tir wedi eu condemnio i farw—megys llofruddion a lladron.

Ar nos Galan Mai, byddent yn arfer a chyneu tân ar ben pob carnedd trwy yr ynys, lle y byddai un o'r Derwyddon, gyda'r bobl o'r gymydogaeth hono, yn aberthu i'r tadolion dduwiau, er cael rhad a bendith ar gnwd y ddaear. Gwneid yr un peth ar nos Galan Gauaf, er talu diolch wedi cael cnwd y ddaear yn nghyd.

Ogof Arthur.—Saif hon ar yr ocr ddeheuol i fynydd y Cnwc; ac mae hen draddodiad fod Arthur wedi bod yn llechu yma, pan oedd mewn rhyfel â'r Gwyddelod. Gwel "Brython," tudal. 138.

Hen Eglwys (the Old Church.)—Y mae yr eglwys hon yn nghwmwd Malltraeth; telir i beriglor y lle hwn mewn undeb a chapel Tref Gwalchmai; ei noddwr ydyw Esgob Bangor. Cysegrwyd hi i St. Llwydian: nid yw Dr. W. G. Pughe yn ei nodi yn ei gyfres.