Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—Clod y Bardd teulu
← Gwledd Belsassar II—Y Wledd Frenhinol | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gwledd Belsassar II—Araith Belsassar → |
Clod y Bardd Teulu.
Yn eu mysg y clywir mawl
Alawau'r Bardd teuluawl,
Y sydd ar ei sedd eirieoes,
Uwch y mil, mewn gwycha moes;
A'i lais yn dilyn ei law,
Mewn hwyl yn tra mwyn eiliaw,
Gan draethu tras Belsassar—ei achau,
A'i wychedd digymar:—
A'i gyfodi gwedi'n gâr
I dduwiau'r nef a'r ddaear.
Ar unwaith wele'r annedd
Heb air, ac mor fud a'r bedd.
Dacw Belsassar yn barod,
Ai araith ddyfaith ar ddod.