Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/I'r Bont Haearn
← Ymdrech Serch a Rheswm | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Hen Forgan a'i Wraig → |
I'R BONT HAEARN.
DRWS afon ddofn dros ewynddwfr—gydiwyd
Yn gadarn uwch mawrddwfr;
Tyn, wyn waith, gwych daith uwch dwfr,
Iach haearnddarn o'r chwyrnddwfr.
Cerfiadau, lluniau, llonwaith,—a gwastad,
Mwyn eiliad manylwaith,
Dwys, glwys, glân, purlan, perlwaith,
Croew, hoew, ffloew, fflur ei mur maith.