Mabinogion J M Edwards Cyf 1/Manawyddan Fab Llyr

Branwen Ferch Llyr Mabinogion J M Edwards Cyf 1

gan John Morgan Edwards

Math Fab Mathonwy



Manawyddan Fab Llyr.

—————♦♦—————

DYMA Y DRYDEDD GAINC O'R MABINOGI.

WEDI darfod i'r seith-wŷr ddywedasom ni uchod gladdu pen Bendigaid Fran yn y Gwynfryn, yn Llundain, a'i wyneb ar Ffrainc, edrych a wnaeth Manawyddan ar dref Llundain ac ar ei gymdeithion, a dodi ochenaid fawr, a chymryd dirfawr alar a hiraeth ynddo.

Fel y galarodd Manawyddan "O Dduw holl-gyfoethog, gwae fi!" ebe ef, "nid oes neb heb le iddo heno namyn mi."

Arglwydd," ebe Pryderi, "na fydded gyn drymed gennyt â hynny. Dy gefnder sydd frenin Ynys y Cedyrn," ebe ef. "Er ei fod yn gwneud cam â thi, buost ti hawliwr tir a daear erioed,—trydydd lleddf unben wyt."

"Ie," ebe ef, er mai cefnder i mi yw y gŵr hwnnw, go athrist yw gennyf weled neb yn lle Bendigaid Fran, fy mrawd, ac ni allaf fod yn llawen yn yr unty ag ef."

A wnei dithau gyngor arall?" ebe Pryderi.

"Rhaid i mi wrth gyngor," ebe ef, "pa gyngor yw hwnnw?

"Saith cantref adawyd i mi," ebe Pryderi, "a Rhianon fy mam sydd yno. Mi a roddaf iti honno, a meddiant y saith gantref gyda hi; ac er na bai iti o frenhiwiaeth ond y saith cantref hynny, nid oes well saith cantref na hwy. Ciefa, ferch Gwyn Gloew, yw fy ngwraig innau. Ac er mai yn fy enw i y bydd yr etifeddiaeth, boed y mwyniant i ti a Rhianon; a phe mynnit frenhiniaeth erioed, ysgatfydd y ceffit ti honno."

"Na fynnaf, unben," ebe ef, " y nef a dalo i ti am dy garedigrwydd."

"Gwnaf y caredigrwydd mwyaf allaf â thi, os mynni."

Mynnaf, enaid, y nef a dalo i ti; a mi a af gyda thi i edrych Rhianon, ac i edrych y frenhiniaeth."

"Iawn y gwnei," ebe yntau, "a chredaf na chlywaist erioed wraig well ei hymddiddan na hi. Yr amser y bu hithau ar ei goreu, ni fu ferch harddach na hi; ac hyd yn oed eto ni byddi anfoddlon ar ei phryd."

A hwy a gerddasant rhagddynt, a pha hyd bynnag y buont ar y ffordd, daethant i Ddyfed. Ac erbyn eu dyfod i Arberth, yr oedd Rhianon a Chicfa wedi darparu gwledd iddynt. Yna dechreu cyd-eistedd ac ymddiddan a wnaeth Manawyddan â Rhianon. Ac o'r ymddiddan, tirioni a wnaeth ei fryd a'i feddwl wrthi, a chredu na welsai erioed wraig gyflawnach o brydferthwch ac addfwynder na hi.

"Pryderi," ebe ef, "mi a fyddaf fel y dywedaist ti."

"Pa ddywediad oedd hwnnw?" ebe Rhianon.

Fel y Priododd RhianonArglwyddes," ebe Pryderi, "mi a'th roddais yn wraig i Fanawyddan, fab Llyr."

"Minnau a fyddaf felly yn llawen," ebe Rhianon.

"Llawen yw gennyf finnau," ebe Manawyddan, "a'r nef a dalo i'r gŵr sydd yn rhoddi i mi garedigrwydd mor gywir a hwn." Priodwyd Manawyddan â Rhianon.

"Yr hyn na ddarfyddodd o'r wledd treuliwch chwi," ebe Pryderi, a minnau a af i ddwyn fy ngwarogaeth i Gaswallon fab Beli hyd yn Lloegr."

Arglwydd," ebe Rhianon, "yng Nghent y mae Caswallon; a thi a elli orffen y wledd hon ac aros iddo yntau ddod yn nes."

"Ninnau a arhoswn," ebe ef. A'r wledd honno a dreuliasant.

A dechreu mynd ar gylch trwy Ddyfed a wnaethant, a'i hela, a chymryd eu digrifwch. Ac wrth rodio y wlad ni welsant erioed wlad fwy ei phreswylwyr na hi, na heldir gwell, nac amlach ei mêl a'i physgod na hi. A thyfodd cyfeillgarwch rhyngddynt ill pedwar, fel na fynnai yr un fod heb ei gilydd na dydd na nos.

A'r adeg hynny aeth Pryderi hyd yn Rhydychen i dalu gwarogaeth i Gaswallon. A dirfawr oedd y caredigrwydd gafodd yno, a diolchwyd iddo am dalu y warogaeth.

Ac wedi dychwelyd cymryd eu gwleddau a'u hesmwythter a wnaeth Manawyddan a Phryderi. Yn Arberth y dechreuasant wledda, canys prif lys oedd, ac oddi yno y dechreuai pob anrhydedd. Ac wedi y bwyta cyntaf y nos honno, tra yr oedd y gwasanaethwyr yn bwyta, cyfododd y pedwar ac aethant tua Gorsedd Arberth, a'u canlynwyr gyda hwy.

Ac fel yr eisteddasant yno, dyma dwrf; a chan faint y twrf, dyma gawod o niwl fel na welai yr un ohonynt ei gilydd. Ac ar ol y niwl, dyma hi yn Fel y rhowd hud ar Ddyfedgoleuo pob lle. A phan edrychasant y ffordd y gwelent lawer praidd ac eiddo a phreswylfeydd cyn hynny, ni welent ddim, na thŷ, nac anifail, na mwg, na thân, na dyn, na phreswylfa,—ond tai y llys yn wag ddiffaith anghyfannedd,—heb ddyn, heb anifail ynddynt, a'u cyfeillion, ond hwy eu pedwar, wedi eu colli heb wybod dim amdanynt.

"O Dduw," ebe Manawyddan, "pa le mae gwŷr y llys, a'n gwŷr ninnau, ond y rhai hyn? Awn i edrych." Dyfod i'r neuadd a wnaethant,—nid oedd yno neb. Aethant i'r castell a'r hun—dy; ni welent neb. Yn y fedd—gell ac yn y gegin, nid oedd amgen na diffaethwch. Dechreuodd y pedwar wledda, a hela, ac ymddifyrru, a rhodio y wlad a'u tir i edrych a welent dŷ neu breswylfa; ond ni welent ddim ond llydnod coed. Ac wedi cael eu gwledd a'u lluniaeth ohonynt, dechreuasant ymborthi ar gig hela, a physgod a mêl gwyllt. Ac felly y treuliasant y flwyddyn gyntaf a'r ail yn ddifyr, ond o'r diwedd diffygio a wnaethant.

"Yn wir," ebe Manawyddan, "ni byddwn byw fel hyn. Awn tua Lloegr, a cheisiwn grefft y caffom ein hymborth oddiwrthi."

Aethant i Loegr, a dod hyd yn Henffordd, a'r gwaith a gymerasant oedd gwneud cyfrwyau. A dechreuodd Manawyddan lunio y corfau, a'u lliwio â chalch lasar, fel y gwelsai gan Lasar Fel yr aeth pedwar i Loegr Llaesgygwydd, a gwneuthur calch lasar fel y gwnaeth y gŵr arall. Ac am hynny y gelwir ef eto'n galch lasar, am ei wneuthur gan Lasar Llaesgygwydd. A thra y ceid y gwaith hwnnw gan Fanawyddan, ni phrynnid na chorf na chyfrwy gan gyfrwywr dros wyneb Henffordd. Ac yn fuan canfu pob un o'r cyfrwy—yddion eu bod yn colli llawer o'u hennill, ac na phrynnid dim ganddynt hwy ond pan nas ceid gan Fanawyddan. Yna ymgynullasant oll, a phenderfynasant ei ladd ef a'i gydymaith. Cawsant hwythau rybudd am hyn, a chymerasant gyngor i adael y dref.

Yn wir," ebe Pryderi, "ni chynghoraf fi adael y dref, ond lladd y taeogion acw."

Nage," ebe Manawyddan, pe yr ymladdem â hwy, clod drwg a fyddai arnom, a'n carcharu a wneid. Gwell yw in'," ebe ef, "fyned tua thref arall i ennill ein bywioliaeth ynddi."

Ac yna aethant ill pedwar tua thref arall.

"Pa gelfyddyd," ebe Pryderi, a gymerwn yma?"

"Gwnawn dariannau," ebe Manawyddan."

"A wyddom ni rywbeth am y grefft honno?" ebe Pryderi.

"Ni a'i profwn," ebe yntau.

Dechreuasant wneuthur tariannau, a'u llunio fel y tariannau da a welsent, a rhoddi arnynt y lliw a roddasent ar y cyfrwyau. A'r gwaith hwnnw a lwyddodd ganddynt, fel na phrynnid tarian yn yr holl dref, ond pan na cheid un ganddynt hwy. Cyflym oedd eu gwaith a difesur oedd y tariannau a wnaent. Buont felly hyd nes i'w cyd-drefwyr godi i'w herbyn, a phenderfynu ceisio eu lladd. Rhybudd a ddaeth iddynt hwythau, a chlywed fod y gwŷr a'u bryd ar eu dienyddio.

"Pryderi," ebe Manawyddan, "mae y gwŷr hyn yn mynnu ein difetha."

"Na chymerwn ninnau hynny gan y taeogiaid hyn awn i'w herbyn a lladdwn hwynt."

Nage," ebe yntau, "Caswallon a'i wyr a glywai hynny, a diwedd fyddai arnom. Awn i dref arall."

I dref arall y daethant.

"Pa gelfyddyd yr awn ni wrthi yma ? " ebe Manawyddan.

"Yr hon a fynni o'r rhai a wyddom ni," ebe Pryderi. Nage," ebe yntau, "gwnawn gryddiaeth, ac ni fydd calon gan gryddion i ymladd â ni, nac i'n gwarafun."

"Ni wn i ddim am honno," ebe Pryderi.

"Mi a'i gwn," ebe Manawyddan, a mi a ddysgaf iti wnio. Ac nid ymyrrwn â pharatoi y lledr, ond ei brynnu yn barod a gwneud y gwaith o hono."

Ac yna dechreuodd brynnu y cordwal tecaf a gafodd yn y dref, a lledr, ond hwnnw ni phrynnai eithr yn lledr gwadnau. A dechreuodd ymgymdeithasu â'r eurych goreu yn y dref, a pharodd iddo wneud byclau esgidiau ac euro y byclau, ac edrychodd arno nes y dysgodd eu gwneud ei hun,—ac o achos hynny y gelwid ef yn drydydd eur-grydd. Tra ceffid esgid neu hosan ganddo ef, ni phrynnid dim gan grydd yn yr holl dref. Canfu y cryddion fod eu hennill yn pallu iddynt, canys fel y lluniai Manawyddan y gwaith, y gwniai Pryderi.

Daeth y cryddion i gymryd cyngor, ac yn eu cyngor penderfynwyd eu lladd.

"Pryderi," ebe Manawyddan, "y mae y gwŷr hyn yn mynnu ein lladd."

"Paham y cymerwn ninnau hynny gan y taeogiaid lladron," ebe Pryderi, lladdwn hwy oll."

"Nage," ebe Manawyddan, "nid ymladdwn â hwy, ac ni fyddwn yn Lloegr yn hwy. Cyrchwn tua Dyfed, ac awn i'w hedrych."

Pa hyd bynnag y buont ar y ffordd, hwy a ddaethant i Ddyfed, ac Arberth a gyrchasant. Cynneu tân a Fel y collwyd Pryderi wnaethant, a dechreu ymborthi a hela, a threulio mis felly. A chynullasant eu cŵn atynt, gan fod felly flwyddyn. A bore gwaith cododd Manawyddan a Phryderi i fyned i hela, a threfnu eu cŵn a myned oddiwrth y llys. Sef a wnaeth rhai o'r cŵn,— cerdded o'u blaen, a myned i berth fechan oedd ger eu llaw, a chydag yr aethant i'r berth, cilio yn ol yn gyflym a'u gwrychyn i fyny, a dychwelyd at y gwŷr.

Neshawn," ebe Pryderi, "tua'r berth i edrych beth sydd ynddi."

Neshau tua'r berth a wnaethant, a phan nesasant, dyma faedd coed claerwyn yn codi o'r berth. Hyn a wnaeth y cŵn, y gwyr yn hannos,—rhuthro arno. Hyn a wnaeth yntau,—gadael y berth a chilio encyd oddiwrth y gwŷr. A hyd nes byddai y gwŷr yn agos iddo, cyfarthai ar y cŵn, heb gilio erddynt; ond pan agoshai y gwŷr, ciliai eilwaith a pheidiai gyfarth.

Ac ar ol y baedd y cerddasant hyd oni welent gaer fawr aruchel, a gwaith newydd arni, mewn lle na welsent na maen na gwaith erioed. A'r baedd a redodd yn fuan i'r gaer, a'r cŵn ar ei ol.

Ac wedi myned y baedd a'r cwn i'r gaer, rhyfeddu a wnaethant weld y gaer yn y lle ni welsent erioed waith cyn hynny.

Ac o ben yr orsedd edrych a wnaethant, ac ymwrandaw am y cŵn. Pa hyd bynnag y byddent felly, ni chlywent un o'r cŵn, na dim oddiwrthynt.

"Arglwydd," ebe Pryderi, "mi a af i'r gaer i holi ynghylch y cŵn."

"Yn wir," ebe yntau, nid da dy gyngor fyned i'r gaer hon nas gwelaist erioed, ac os gwnei fy nghyngor i, nid ei iddi; a'r neb a ddodes hud ar y wlad a beris fod y gaer yma.'

"Yn wir," ebe Pryderi, "ni fynnaf golli fy nghŵn."

A pha gyngor bynnag a gai gan Fanawyddan, i'r gaer yr aeth efe. Pan ddaeth i'r gaer, ni welai ynddi na dyn nac anifail, na'r baedd, na'r cŵn, na thy nac annedd. Ef a welai tua chanol llawr y gaer, ffynnon a gwaith o faen marmor o'i chylch; ac ar lan y ffynnon gawg aur uwchben llech o faen marmor, a chadwynau yn estyn tua'r awyr, a diwedd nis gwelai arnynt. Ac ymhyfrydu a wnaeth yntau gan deced yr aur, a chyn ddaed y gwaith. A dyfod a wnaeth hyd at y cawg ac ymafael ag ef. Ac fel yr ymafaelodd â'r cawg, glynodd ei ddwylaw wrth y cawg a'i draed wrth y llech yr oedd y cawg yn sefyll arni; a chymerwyd ei leferydd oddi arno, fel nas gallai ddywedyd un gair. A sefyll a wnaeth felly.

A'i aros yntau a wnaeth Manawyddan hyd tua diwedd y dydd. A phrynhawn byr, wedi bod yn ddiau ganddo na chlywai ddim newyddion am Bryderi, na'r cŵn, daeth tua'r llys. Pan ddaeth i mewn, y peth a wnaeth Rhianon oedd edrych arno.

Pa le mae dy gydymaith di a'th gŵn?" ebe hi. Dyma fy hanes," ebe yntau, gan ei adrodd oll. "Yn wir," ebe Rhianon, "cydymaith drwg fuost di, a chydymaith da a gollaist di." Gyda'r gair, aeth allan.

Fel y Collwyd RhianonAc i'r ardal y mynegasai ef fod y gŵr a'r gaer, cyrchu yno a wnaeth hithau. Gwelodd borth y gaer yn agored, a phopeth yn eglur, ac i mewn yr aeth. Ac fel yr ai, gwelai Bryderi yn ymafael â'r cawg, a daeth ato.

Och, arglwydd," ebe hi, "beth a wnai di yma?

A gafaelodd yn y cawg gydag ef. A chydag iddi afael, glynodd ei dwylaw hithau wrth y cawg, a'i dau droed wrth y llech, hyd nad allai hithau ddywedyd un gair. Ac ar hynny, gydag y bu nos, dyma dwrf yn eu hymyl a chawod o niwl; a chyda hynny, diflannu y gaer, ac ymaith a hwythau.

Pan welodd Cicfa, ferch Gwyn Gloew, nad oedd neb yn y llys namyn Manawyddan a hithau, ymofidiodd gymaint fel na ofalai pa un ai byw ai marw wnai. Edrychodd Manawyddan ar hynny,— "Yn wir," ebe ef, cam a wnai a mi, os mai rhag fy ofn i yr ymofidi di. Y nef fydd dyst it na welaist Fel yr ofnodd Cicfa gyfaill cywirach nag y cei di fi, tra y mynno Duw iti fod felly. Yn wir, pe buaswn yn nechreu fy ieuenctid, buaswn gywir i Bryderi a chywir i tithau, ac na fydded un ofn arnat," ebe ef. "Yn wir, ti a gei y cyfeillgarwch a fynni gennyf fi, hyd eithaf fy ngallu, tra y gwelo Duw yn dda i mi fod yn y trallod hwn, a'r gofal."

"Duw a dalo it," ebe hi, "gwn y gwnai fel y dywedi."

A llawen ac eofn fu y forwyn o achos hynny.

"Ie, enaid," ebe Manawyddan, "nid oes cyfle i ni drigo yma, ein cŵn a gollasom, ac ni allwn gael ymborth. Awn tua Lloegr, hawsaf yw i ni gael ymborth yno."

"Yn llawen, arglwydd," ebe hi, "ni a wnawn hynny."

A cherddasant ynghyd i Loegr.

"Arglwydd," ebe hi, "pa grefft a gymeri? Cymer un lanwaith."

"Ni chymeraf fi," ebe ef, namyn cryddiaeth, fel y gwnaethum gynt."

"Arglwydd," ebe hi, "nid gweddus honno i ŵr mor fedrus ac urddasol a thydi."

"Honno a gymeraf," ebe ef.

Dechreu ei gelfyddyd a wnaeth, a threfnu ei waith o'r cordwal tecaf a gai yn y dref. Ac fel y dechreuasant yn y lle arall, dechreuodd roddi byclau euraidd ar yr esgidiau, fel mai ofer a gwael oedd gwaith holl gryddion y dref wrth ei eiddo ef. A thra y ceffid esgid neu hosan ganddo ef, ni phrynnid gan eraill ddim. Blwyddyn a dreuliodd ef felly, hyd nes oedd y cryddion yn dal cenfigen; ac ymgynghorasant yn ei erbyn. Ac yna y daeth rhybuddiau iddo fod y cryddion wedi penderfynu ei ladd.

Arglwydd," ebe Cicfa, pam y goddefir hyn gan y tacogion?"

"Nage," ebe yntau, ni a awn i Ddyfed."

I Ddyfed yr aethant. A hyn a wnaeth Manawyddan pan gychwynnodd tua Dyfed,—dwyn baich o wenith. Ac aeth i Arberth, ac yno y cyfaneddodd. Fel yr addfedodd gwenith ManawyddanAc nid oedd dim yn hyfrytach iddo na gweled Arberth, a'r diriogaeth y buasai yn hela, ef a Phryderi, a Rhianon gyda hwynt. Dechreuodd gynefino â'r lle, a physgota a hela llydnod ar eu gwâl. Wedi hynny dechreuodd lafurio'r tir, a hau maes bychan, ac ail faes, a thrydydd faes. Ac wele y gwenith goreu yn y byd yn codi, a'i dri maes yn llwyddo yn un dwf, fel na welsai ddyn wenith tecach nag ef. Treulio amseroedd y flwyddyn a wnaeth, ac wele y cynhaeaf yn dyfod. Aeth i edrych un o'i feysydd, ac wele yr oedd yn addfed. "Mi a fynnaf fedi hwn yfory," ebe ef. Daeth drachefn y nos honno i Arberth. Y bore glas drannoeth, daeth i fynnu medi ei faes,—pan ddaeth, nid oedd yno namyn y gwelltyn yn llwm. Yr oedd pob tywysen wedi ei thorri oddi ar y gwelltyn, y tywysennau wedi eu dwyn ymaith i gyd, a'r gwellt wedi eu gadael yno yn llwm. Ac efe a ryfeddodd yn fawr. Aeth i edrych y maes arall, ac yr oedd hwnnw yn addfed. "Yn wir," ebe ef, "mi a fynnaf fedi hwn yfory." A drannoeth daeth ar feddwl medi hwnnw; ond pan ddaeth, nid oedd yno ddim namyn y gwelltyn llwm.

"Och fi," ebe ef, "pwy sydd yn gorffen fy nifa i? Mi a'i gwn, y neb ddechreuodd fy nifa sydd yn gorffen, ac yn difa y wlad gyda mi."

Aeth i edrych ei drydydd maes; a phan ddaeth, ni welsai neb wenith tecach, a hwnnw yn addfed. Gwae fi," ebe ef, "oni wyliaf fi heno. A'r neb a ddug yr yd arall a ddaw i ddwyn hwn,—a mi a wybyddaf beth yw."

A chymryd ei arfau a wnaeth, a dechreu gwylied y maes. A mynegodd hynny i Cicfa.

"Ie," ebe hi, pa beth sydd yn dy fryd?

"Mi a wyliaf y maes heno," ebe ef. I wylio'r maes yr aeth. Ac fel yr oedd yn gwylio'r maes hanner nos, dyma y twrf mwyaf yn y byd. Fel y daliwyd lleidrEdrychodd yntau, a gwelodd dorf ddi-rif o lygod, nid oedd gyfrif na mesur arnynt. Ac ni wyddai beth ydoedd nes oedd y llygod wedi ymsaethu i'r maes, a phob un yn dringo ar hyd y gwelltyn, gan ei dynnu i lawr gyda hi, ac yn torri y dywysen, ac yn ymsaethu a'r dywysen ymaith, a gadael y gwelltyn yno. Ac ni wyddai ef fod un gwelltyn yno na bai lygoden am bob un, a chymerent eu hynt ymaith a'r tywysennau ganddynt.

Ac yna rhwng digter a llid, rhedodd ymhlith y llygod; ond ni allai ddal ei olwg ar yr un ohonynt, mwy nag ar wybed neu adar yr awyr, eithr un a welai mor drom fel mai prin y medrai gerdded. Cerddodd ar ol honno, a'i dal a wnaeth, a'i dodi yn ei faneg. Rhwymodd enau y faneg â llinyn, ac aeth a hi gydag ef, ac aeth i'r llys. Daeth i'r ystafell yr oedd Cicfa ynddi. Cynheuodd dân, a rhoddodd y faneg wrth linyn ar yr hoel.

Beth sydd yna, arglwydd ? ebe Cicfa.

Lleidr," ebe yntau, a gefais yn lladrata oddi arnaf."

"Pa ryw leidr, arglwydd, a allet ti ei ddodi yn dy faneg ? ebe hi.

"Dyma'r holl hanes," ebe yntau; a mynegodd iddi fel y difethwyd ac y difwynwyd ei feysydd, ac fel y daeth y llygod i'w faes diweddaf yn ei Fel y bu erfyn am fywyd llygoden wydd, "ac un ohonynt oedd amdrom, a daliais innau hi,—honno sydd yn fy maneg, a mi a'i crogaf hi yfory. Ac myn fy nghyffes i Dduw," ebai ef, pe daliaswn yr oll mi a'u crogaswn."

Arglwydd," ebe hi, "nid rhyfedd oedd hynny. Eto, nid dymunol gweled gŵr gydag urddas a bonedd fel tydi, yn crogi rhyw bryf fel hon. A phe gwnelet yn iawn, nid ymyrret â'r pryf, ond ei ollwng ymaith."

"Drwg i mi," ebe ef, "oni chrogaswn hwy oll pe cawswn hwy. Ac a gefais, mi a'i crogaf."

"Ie, arglwydd," ebe hi, "nid oes achos i mi fod yn nodded i'r pryf yma, namyn rhwystro anurddas iti. A gwna dithau dy ewyllys, arglwydd."

"Pe gwypwn innau am un rheswm y dylet fod yn nodded iddo, mi a wnawn dy gyngor; a chan nas gwn, arglwyddes, meddwl yw gennyf ei ddifetha."

"Gwna dithau yn llawen," ebe hi.

Yna aeth i Orsedd Arberth, a'r llygoden gydag ef. A gosododd ddwy fforch yn y lle uchaf yn yr orsedd. Ac fel yr oedd felly, dyma ysgolhaig yn Fel yr erfyniodd ysgolhaig dyfod ato, a hen ddillad treuliedig tlawd am dano. Ac yr oedd saith mlynedd er pan welodd ddyn nac anifail cyn hynny, ac eithrio'r pedwar fu gyda'i gilydd nes y collwyd y ddau.

"Arglwydd," ebe'r ysgolhaig, "dydd da iti."

"Duw a roddo dda i ti," ebe yntau, "a chroesaw iti."

"O ba le y deui di, yr ysgolhaig?"

"Deuaf o Loegr, arglwydd, A phaham y gofynni, arglwydd?" ebe ef.

"Am na welais," ebe ef, ers saith mlynedd, undyn, ond pedwar dyn detholedig, a thithau yr awr hon."

"Ie, arglwydd," ebe ef, "myned trwy y wlad hon yr wyf finnau yr awrhon tua'm gwlad fy hun. A pha ryw waith wyt yn wneud, arglwydd?

Crogi lleidr, a gefais yn lladrata oddi arnaf," ebe ef.

"Pa ryw leidr, arglwydd?" ebe'r ysgolhaig. "Pryf a welaf yn dy law di fel llygoden, a drwg y gwedda i ŵr mor urddasol a thydi gyffwrdd â phryf fel hwnnw,— gollwng ef ymaith."

"Na ollyngaf, yn wir," ebe yntau. "Yn lladrata oddiarnaf y cefais i ef, a chyfraith lleidr a wnaf finnau âg ef,—ei grogi."

Arglwydd," ebe yntau, rhag gweled gŵr mor urddasol a thydi wrth waith felly, punt a gefais i o gardota, mi a'i rhoddaf i ti,—a gollwng y pryf hwnnw ymaith."

"Na ollyngaf, yn wir, ac nis gwerthaf."

"Gwna dithau, arglwydd," ebe ef, "nid yw o bwys gennyf, ond rhag gweled gŵr mor urddasol a thydi yn cyffwrdd â phryf felly." Ac aeth yr ysgolhaig ymaith. Ac fel yr oedd yn rhoddi y ffon yn groes ar y fforch, wele offeiriad yn dod tuag ato ar farch yn drefnus. Arglwydd, dydd da iti," ebe ef.

Fel yr erfyniodd ysgolhaig"Duw a roddo dda iti," ebe Manawyddan, "a'th fendith dod i minnau."

"Bendith Duw i ti. A pha beth wyt yn ei wneuthur, arglwydd?" ebe ef.

"Crogi lleidr a gefais yn lladrata oddiarnaf," ebe ef.

"Pa ryw leidr yw hwnnw, arglwydd?" ebe yntau.

"Pryf," ebe ef, "ar lun llygoden. A lladrata a wnaeth oddiarnaf, a dihenydd lleidr a wnaf finnau arno."

"Arglwydd," ebe yntau, "rhag dy weled yn cyffwrdd a'r pryf hwnnw, mi a'i prynnaf, gollwng ef."

Myn fy nghyffes i Dduw, ei werthu, na'i ollwng, nis gwnaf i."

"Gwir, arglwydd, nid yw ef yn werth dim; eithr rhag dy weled di yn ymhalogi gyda'r pryf hwnnw, mi a roddaf i ti deirpunt,—a gollwng ef ymaith."

"Na fynnaf, ar fy ngwir," ebe yntau, "un pris am dano, namyn yr un a hacdda,—ei grogi."

"Yn llawen, arglwydd, gwna dy fympwy."

Ac aeth yr offeiriad ymaith.

A'r peth wnaeth yntau oedd rhoddi y llinyn yn fagl am wddf y llygoden, ac fel yr oedd yn ei chodi, gwelai was esgob a'i nwyddau a'i niferoedd, a'r esgob ei hun yn dyfod tuag ato. Gohiriodd yntau y gwaith.

"Arglwydd esgob," ebe ef, "dy fendith."

"Duw a roddo ei fendith i ti," ebe ef, "pa ryw waith wyt yn ei wneuthur?"

"Crogi lleidr a gefais yn lladrata oddiarnaf," ebe ef.

"Onid llygoden," ebe yntau, "a welaf i yn dy law di?"

Fel yr erfyniodd esgob"Ie," ebe yntau, "a lleidr a fu hi arnaf fi."

"Ie," ebe yntau, "gan i mi ddyfod pan ar ladd y pryf yna, mi a'i prynnaf gennyt, —mi a roddaf seithpunt i ti am dano. A rhag gweled gŵr mor urddasol a thi yn lladd pryf mor ddielw a hwnyna, gollwng ef ymaith, a chei yr arian."

"Na ollyngaf, myn fy nghrefydd," ebe yntau.

"Gan nas gollyngi am hynny, mi a roddaf bedair punt ar hugain o arian parod, a gollwng ef."

"Yn wir, yn wir, myn fy nghyffes i Dduw, ni ollyngaf ef er cymaint arall," ebe yntau.

"Gan nas gollyngi am hynny," ebe ef, "mi a roddaf iti a weli o feirch yn y maes hwn, a'r nwyddau, a'r saith gwas, a'r saith march y maent arnynt."

"Na fynnaf er fy nghrefydd," ebe yntau.

"Gan na fynni hynny, gwna er y pris a fynni."

"Gwnaf," ebe yntau,—" rhyddhau Rhianon a Phryderi."

"Ti a gei hynny."

"Nid yw hynny ddigon."

"Beth a fynni, ynte?"

"Gwared yr hud a'r lledrith oddiar saith gantref Dyfed."

"Ti a gei hynny hefyd, a gollwng y llygoden."

"Na ollyngaf, yn wir, gwybod a fynnaf pwy yw hi,— y llygoden."

"Fy ngwraig i yw hi, a phe ni buasai, ni cheisiwn ei rhyddhau."

"I ba beth y daeth hi ataf fi?"

"I herwa. Myfi yw Llwyd fab Cilcoed. A mi a ddodais yr hud ar saith gantref Dyfed. Ac i ddial Gwawl, fab Clud, am fy mod yn gyfaill iddo, y rhoddais i yr hud. Ac ar Pryderi y dielais i am y chware broch yng nghod â Gwawl, fab Clud, a wnaeth Pwyll Pen Fel yr arbedwyd llygoden Annwn, yn Llys Efeydd Hen, a hynny yn annoeth. Ac wedi gwybod dy fod dithau yn cyfaneddu y wlad, daeth fy nheulu ataf innau, i ofyn i mi eu rhithio yn llygod i ddifa dy ŷd di. Y nos gyntaf daeth fy nheulu eu hunain, a'r ail nos y daethant hefyd, gan ddifa dy ddau faes gwenith. A'r drydedd nos daeth fy ngwraig a gwragedd y llys ataf gan ofyn i mi eu rhithio, a rhithiais innau hwynt. Beichiog a oedd hi, ac oni bai hynny, ni fuaset yn ei goddiweddyd. Mi a roddaf Pryderi a Rhianon iti, a gwaredaf yr hud a'r lledrith oddi ar Ddyfed. Yr wyf wedi dweyd wrthyt pwy yw, gollwng hi weithion."

Na ollyngaf, yn wir," ebe ef.

"Beth a fynni dithau?" ebe ef.

"Ti a gei hynny," ebe ef, a gollwng hi."

Na ollyngaf, myn fy nghred," ebe yntau.

"Beth a fynni dithau bellach? " ebe ef.

"Hyn," ebe ef, "a fynnaf,—na fo hud fyth ar saith gantref Dyfed, ac nas doder."

"Dyma it beth a fynnaf," ebe ef, "na bo ymddial ar Pryderi na Rhianon, na minnau byth am hyn."

Hynny oll a geffi; ac yn wir, da y gofynaist," ebe ef, "ar dy ben di y deuai'r holl ofid."

"Ie," ebe yntau, "rhag hynny y gofynais ef."

"Rhyddha weithion fy ngwraig im."

"Na ryddhaf, yn wir, hyd oni welwyf Bryderi a Rhianon yn rhydd gyda mi."

"Wel di, dyma hwy yn dyfod," ebe ef.

Ac ar hynny dyma Pryderi a Rhianon yn dod. Cyfodi i'w cyfarfod wnaeth yntau i'w croesawu, ac eisteddasant ynghyd.

Fel y daeth Pryderi a Rhianon yn ol"Ha, ŵr da, rhyddha fy ngwraig im weithion," ebe'r esgob. "Cefaist yr oll a ofynaist."

Gollyngaf yn llawen," ebe ef.

Yna y gollyngodd efe hi. Tarawodd yntau hi â hud-lath, a dad-rithiwyd hi yn wraig ieuanc decaf a welodd neb.

"Edrych o'th gylch ar y wlad," ebe ef, " a thi a weli yr holl aneddau fel y buont oreu."

Yna cyfodi a wnaeth yntau, ac edrych. A phan edrychodd, ef a welai yr holl wlad yn gyfannedd, ac yn llawn o ddiadelloedd a phreswylfeydd.

"Pa waith fu Pryderi a Rhianon yn ei wneud?" ebe ef.

"Yr oedd gyrdd porth fy llys i am wddf Pryderi; a choleri'r asynod, pan ddeuent o gywain gwair, am wddf Rhianon,―ac felly y bu eu carchar."

Ac oherwydd hynny y gelwid yr hanes hon yn Fabinogi "Mynweir a Mynordd."

Ac felly terfyna y gainc hon yma o'r Mabinogi.

Nodiadau

golygu