Mabinogion J M Edwards Cyf 1/Branwen Ferch Llyr

Pwyll, Pendefig Dyfed Mabinogion J M Edwards Cyf 1

gan John Morgan Edwards

Manawyddan Fab Llyr



Branwen Ferch Llyr

—————♦♦—————

DYMA YR AIL GAINC O'R MABINOGI

BENDIGAID Fran, fab Llyr, oedd frenin coronog ar yr ynys a gwisgai goron Llundain. Brynhawn-gwaith yr oedd yn Harlech yn Ardudwy, mewn llys iddo; ac yn eistedd yr oeddynt ar garreg Harlech uwchben y weilgi. A Manawyddan fab Llyr, ei frawd, oedd gydag ef, a dau frodyr o'r un fam ag ef, Nisien ac Efnisien,—a gwŷr-da eraill, fel y gweddai o gylch brenin. Yr oedd y ddau frawd yn feibion i Euroswydd, ond yr oeddynt o'r un fam ag yntau, sef Penardim ferch Beli fab Mynogan. A'r naill o'r gwŷr ieuainc hynny oedd dda,— ef a barai dangnefedd rhwng ei deulu pan y byddent lidiocaf, a Nisien oedd hwnnw. Y llall a barai ymladd rhwng y ddau frawd pan yr ymgarent. Ac fel yr oeddynt yn eistedd felly, hwy a welent dair llong ar ddeg yn dyfod o ddehau'r Iwerddon, ac yn cyrchu tuag atynt, a nofio'n dawel a chyflym yr oeddynt,—y gwynt o'u hol yn eu neshau'n ebrwydd tuag atynt.

Fel y daeth brenin dros y môr"Mi a welaf longau draw," ebe'r brenin, "yn dyfod yn ebrwydd tua'r tir. Erchwch i wyr y llys wisgo am danynt, a myned i edrych pa feddwl yw yr eiddynt."

Y gwŷr a wisgasant amdanynt, ac a nesasant i waered atynt. Wedi gweled y llongau o agos, diau oedd ganddynt na welsent longau cyweiriach eu dull na hwy. Baneri têg gweddus o bali oedd arnynt. Ac ar hynny dacw un o'r llongau yn rhagflaenu y rhai eraill, a gwelent godi tarian yn uwch na bwrdd y llong,—a swch y darian i fyny yn arwydd tangnefedd. A neshaodd y gwŷr atynt fel yr ymglywent ymddiddan. Bwrw badau allan a wnaethant hwythau, a neshau tua'r tir, a chyfarch gwell i'r brenin. Y brenin a'i clywai hwythau o'r lle yr oedd ar garreg uchel uwch eu pen.

"Duw a roddo dda i chwi," ebe ef, "a chroesaw i chwi. Pwy biau y nifer llongau hyn, a phwy sydd bennaf arnynt hwy?

Arglwydd," ebe hwy, "Matholwch, brenin Iwerddon sydd yma, ac ef biau y llongau."

Beth," ebe'r brenin, "a fynnai ef? A fyn ef ddyfod i'r tir ?

"Na fyn, arglwydd," ebe hwy, "cennad yw atat hyd oni cheiff ei neges."

"Pa ryw neges yw yr eiddo ef?" ebe'r brenin.

"Mynnu ymgyfathrachu â thydi, arglwydd," meddent, "i ofyn Branwen ferch Llyr y daeth ef. Ac os da gennyt ti, ef a fyn uno Ynys y Cedyrn a'r Iwerddon i gyd, fel y byddont gadarnach."

"Ie," ebe yntau, "deued i'r tir, a chyngor a gymerwn ninnau am hynny."

A'r ateb hwnnw a aeth ato ef. Fel ceis- iodd brenin Iwerddon. "Minnau a af yn llawen," ebe ef. Daeth i'r tir, a llawen fuwyd wrtho. A chyd- gyfarfod mawr fu yn y llys y nos honno rhwng ei wyr ef a gwŷr y llys. Drannoeth cymerwyd cyngor yn y lle, ac yn y cyngor hwnnw penderfynwyd rhoddi Branwen i Fatholwch; a hi oedd drydedd prif riain yr ynys hon,---- tecaf morwyn yn y byd oedd hi. A phenderfynwyd priodi yn Aberffraw, ac i'r lluoedd hynny gychwyn oddiyno a chyrchu tuag Aberffraw,-Matholwch a'i luoedd yn ei longau, a Bendigaid Fran a'i luoedd yntau ar hyd y tir.

Yn Aberffraw, dechreu y wledd ac eistedd a wnaethant. Ac fel hyn yr eisteddasant,—Brenin Ynys y Cedyrn, a Manawyddan fab Llyr ar un tu, a Matholwch ar y tu arall, a Branwen ferch Llyr gydag ef. Nid mewn tŷ yr oeddynt, ond mewn pebyll, yr oedd Bendigaid Fran yn rhy fawr i'r un tŷ ei gynnwys.

Dilyn y gyfeddach a wnaethant ag ymddiddan. A phan welsant fod yn well iddynt gymryd hun na dilyn y gyfeddach, i gysgu yr aethant.

Fel y priododd Branwen A thrannoeth cyfodi a wnaeth pawb o nifer y llys, a'r swyddwyr a ddechreuasant drefnu am raniad y meirch â'r gweision, a'u rhannu a wnaethant ymhob cyfair hyd y môr. Ac ar hynny, ddyddgwaith, wele Efnisien, y gŵr anhangnefeddus y dywedasom ni uchod, yn dyfod i lety meirch Matholwch, a gofyn a wnaeth pwy oedd biau y meirch.

"Meirch Matholwch, brenin Iwerddon, yw y rhai hyn," ebe hwy.

"Beth a wnant hwy yma?" ebe ef.

"Yma y mae brenin Iwerddon,—priododd Franwen dy chwaer, a'i feirch ef yw y rhai hyn."

"Ai felly y gwnaethant â morwyn gystal a honno, ac yn chwaer i minnau? Ei rhoddi heb fy nghennad i? Ni allent hwy roddi dirmyg mwy arnaf na hyn." ebe ef.

Ac yn hynny gwanodd dan y meirch, a thorrodd eu gweflau wrth eu dannedd, a'u clustiau wrth eu pennau, a'u rhawn wrth eu cefn. A'r lle ni chai Fel yr hauwyd drwg graff ar yr amrantau, y torrai hwynt hyd at yr asgwrn. A gwnaeth anffurf ar y meirch felly, hyd nad oeddynt o ddim defnydd.

Y newydd a ddaeth at Fatholwch, yn dywedyd am anffurfio'r meirch a'u difetha hyd nad oedd dim mwyniant a ellid ohonynt.

"Ie, arglwydd," ebe un, "dy waradwyddo a wnaethpwyd, a hynny a fynnir wneud iti."

"Dioer, rhyfedd yw gennyf, os fy ngwaradwyddo a fynnent, iddynt roddi morwyn o haniad mor uchel a chyn anwyled gan ei chenedl ag a roddasant i mi."

Arglwydd," ebe un arall, "ti a weli mai hyn yw eu hamcan, ac nid oes dim iti wneud ond cyrchu tua'th longau." Ar hynny, gorchymyn ei longau a wnaeth.

Y newydd a ddaeth at Fendigaid Fran fod Matholweh yn gadael y llys heb ofyn cennad. A chenhadau a aeth i ofyn iddo paham y gwnai hynny; sef y cenhadau a aeth, Iddig fab Anarawc ac Efeydd Hir. Y gwŷr hyn a'i goddiweddodd, ac a ofynasant iddo pa ddarpar oedd yr eiddo, ac o achos beth yr oedd yn myned ymaith.

"Yn wir," ebe yntau," pe gwypwn, ni ddeuwn yma. Cwbl waradwydd a gefais,—ni fu taith neb yn waeth na fy un i yma. A rhyfedd iawn i mi yw un peth."

"Beth yw hynny?" ebe hwy.

"Roddi Branwen ferch Llyr,—un o dair prif riain yr ynys hon, ac yn ferch i frenin Ynys y Cedyrn,—i mi'n wraig, ac wedi hynny fy ngwaradwyddo. Rhyfedd yw gennyf na fuasai yn fy ngwaradwyddo cyn roddi i mi forwyn gystal a hi."

"Yn sicr, arglwydd, nid o fodd y neb fedd y llys," ebe hwy, "na neb o'i gyngor y gwnaethpwyd y gwaradwydd hwnnw iti. Ac er mai gwaradwyddus gennyt ti yw hynny, mwy yw gan Fendigaid Fran y gwarth hwnnw a'r sarhad."

"Ie," ebe ef, "mi a debygaf. Er hynny ni all byth fy niwaradwyddo i o hynny." Y gwyr hynny a ddychwelasant a'r ateb hwnnw tua'r lle yr oedd Bendigaid Fran, a mynegi iddo yr ateb a roddasai Matholwch.

"Ie," ebe yntau, "ac nid oes ymwared o'i fyned ef ymaith yn anhangnefeddus, ac nis gadawn iddo."

"Ie, arglwydd," ebe hwy, "anfon eto genhadau ar ei ol."

Anfonaf," ebe ef. "Cyfodwch, Manawyddan fab Llyr, ac Efeydd Hir, ac Unig Glew Ysgwydd, ac ewch ar ei ol a mynegwch iddo y caiff farch iach am bob un a anafwyd. A chyda hynny efe a gaiff yn iawn wialennau o arian a fo leted a chyhyd ag ef ei hun, a Fel y rhoddwyd iawn chlawr aur cyfled a'i wyneb. A mynegwch iddo pa ryw ŵr a wnaeth hynny, ac mai o'm hanfodd innau y gwnaethpwyd ef, ac mai brawd un-fam a mi a wnaeth y drwg, ac nad hawdd gennyf finnau na'i ladd na'i ddifetha. Deued i ymweled â mi, a mi a wnaf ei dangnefedd ar y llun y mynno ei hun."

Y cenhadau a aethant ar ol Matholwch, a mynegasant iddo yr ymadrodd hwnnw yn garedig, ac efe a'u gwrandawodd.

"Ha wyr," ebe ef, "ni a gymerwn gyngor." Ac efe a aeth i'r cyngor, a meddyliasant, os gwrthod y telerau hynny a wnelent, fod yn debycach y cawsent gywilydd a fyddai fwy, na chael iawn a fyddai cymaint. A phenderfynu a wnaethant gymryd hynny, ac i'r llys y daethant yn dangnefeddus.

A threfnu y pebyll a'r lluestai a wnaethant iddynt yn y dull y trefnir neuadd, a myned i fwyta. Ac fel y dechreuasant eistedd ar ddechreu y wledd yr eisteddasant yn awr. A dechreu ymddiddan a wnaeth Matholwch â Bendigaid Fran. A chanfu Bendigaid Fran ef yn siarad yn araf a thrist wrth ei lawenydd yn wastad cyn hynny. A meddwl a wnaeth fod yr unben yn athrist oherwydd fychaned a gawsai o iawn am ei gam.

"Ha ŵr," ebe Bendigaid Fran, "nid wyt gystal ymddiddanwr heno ac un nos; os bychan yw gennyt dy iawn, ti a gei ychwanegu ato a fynni dy hun. Yfory talaf i ti dy feirch,"

"Arglwydd, Duw a dalo i ti," ebe Matholwch. "Mi a ychwanegaf dy iawn, hefyd," ebe Bendigaid Fran, "mi a roddaf bair iti. A rhinwedd y pair yw,—y gŵr a ladder heddyw, i ti ei fwrw i'r pair, ac erbyn y fory bydd yn gystal ag y bu ar ei oreu, eithr na bydd lleferydd ganddo."

Diolch a wnaeth Manawyddan iddo a dirfawr lawenydd a gymer ynddo o'r achos hwnnw. A thrannoeth y talwyd ei feirch iddo tra y parhaodd meirch dof; ac oddiyno aethant gydag ef i gwmwd arall, ac y talwyd ebolion iddo, hyd y talwyd y cwbl. Ac am hynny y dodwyd ar y cwmwd hwnnw, o hynny allan, yr enw Tal Ebolion.

A'r ail nos eistedd i gyd a wnaethant. Arglwydd," ebe Matholwch, "o ble y daeth iti y pair a roddaist i mi ?"

"Daeth i mi," ebe yntau, "oddiwrth ŵr fu yn dy wlad di, ond nis gwn ai yno y cafodd efe ef."

"Pwy oedd hwnnw?" ebe ef.

"Llasar Llaesgyfnewid," ebe ef, "a hwnnw a ddaeth yma o Iwerddon, a Chymidau Cymeinfoll ei wraig gydag ef, a diangasant o'r tŷ haearn yn Iwerddon pan wnaethpwyd ef yn wynias o'u hamgylch, ac y diangasant oddiyno. A rhyfedd yw gennyf oni wyddost ti ddim am hynny."

"Gwn, arglwydd," ebe ef, "a chymaint ag a wn mi a'i mynegaf i ti. Yn hela yr oeddwn ddyddgwaith yn Iwerddon, ar ben gorsedd a oedd uwchben llyn yn Iwerddon. A Llyn y Pair y galwyd ef. A mi a welwn ŵr melyngoch mawr yn dyfod o'r llyn, a phair ar ei gefn, gŵr mawr anferthol ac ôl drygwaith arno; a gwraig yn ei ol. Ac os oedd ef fawr, mwy ddwywaith oedd ei wraig nag ef. A chyrchu ataf a wnaethant, a chyfarch gwell i mi."

"Ie," ebe mi, "pa gerdded sydd arnoch chwi? 'Dyma, arglwydd," ebe ef, "y rhyw gerdded sydd arnom ni. Ymhen pythefnos a mis y bydd baban gan y wraig hon. A'r mab a aner ganddi, ar ben ei bythefnos a mis a fydd yn ŵr ymladd, llawn arfau."

Cymerais arnaf eu cadw hwy; a ant gyda mi am flwyddyn, ac am flwyddyn y cefais hwy yn ddiwarafun, o hynny allan y gwarafunwyd hwy i mi. A chyn pen y pedwerydd mis parasant hwy eu hunain eu cashau yn y wlad trwy wneuthur drygau, a phoeni a gofidio y gwŷr-da a'r gwragedd da. O hynny allan cynhullodd fy nheyrnas am fy mhen, gan erchi i mi ymadael â hwy, a rhoddi dewis i mi, naill ai fy nheyrnas neu hwy. Dodais innau ar gyngor fy ngwlad beth a wneid â hwy. Nid aent hwy o'u bodd, ac nid oedd modd eu gyrru o'u hanfodd trwy ryfel. Ac yna yn y cyfyng-gyngor y penderfynasant wneud ystafell haearn oll. Ac wedi bod yr ystafell yn barod, cyrchu pob gôf yn Iwerddon yno a oedd berchen gefail a morthwyl, a pheri gosod cyfuwch a chrib yr ystafell o lo, a pheri rhoddi bwyd a diod yn ddiwall i'r wraig, a'i gŵr, a'i phlant. A phan wybuwyd eu bod wedi meddwi dechreuwyd cymysgu tân â'r glo oedd oddeutu'r ystafell, a chwythu y meginau hyd nes yr oedd y tŷ yn wynias am eu pen.

Ac yna y bu cyngor ganddynt ar ganol llawr yr ystafell, ac arhosodd y gŵr hyd nes oedd yr ochrau haearn yn wyn. A rhag dirfawr wres y cyrehodd yr ochr â'i ysgwydd, ac a'i tarawodd allan; ac ar ei ol yntau daeth ei wraig. Ac ni ddihangodd neb oddiyno namyn ef a'i wraig. "Ac yna, i'm tyb i, arglwydd," ebe Matholwch wrth Bendigaid Fran, " y daeth ef drosodd atat ti."

"Yn ddiau," ebe yntau, "daeth yma, a rhoddodd y pair i minnau."

"Pa ddelw, arglwydd, y derbyniaist ti hwynt hwy?"

Eu rhannu ym mhob lle yn fy mrenhiniaeth. Ac y maent yn lliosog, ac yn llwyddo ym mhob lle, ac yn cadarnhau y man y maent â'r gwyr ac arfau goreu a welodd neb."

Dilyn ymddiddan a wnaethant y nos honno tra fu dda ganddynt, a cherdd a chyfeddach. A phan welsant fod yn llesach iddynt fynd i gysgu nac eistedd yn hwy, i gysgu yr aethiant. Ac felly y treuliasant y wledd honno trwy ddigrifwch. Ac yn niwedd hynny cychwynnodd Matholwch, a Branwen gydag ef, tuag Iwerddon. Ac o Aber Menai y cychwynasant, mewn tair llong ar ddog, a daethant hyd yn Iwerddon.

Yn Iwerddon dirfawr lawenydd fu wrthynt. Ni ddeuai gŵr mawr na gwraig dda yn Iwerddon i ymweled â Branwen na roddai hi naill ai breichled, neu fodrwy, neu deyrndlws gwerthfawr iddo,—a fyddai arbennig i'w weled yn myned ymaith. A chlodfawr oedd hi yn eu mysg y flwyddyn honno; aeth ei chlod yn fwy, a'i chyfeillion yn lliosocach. Ac heblaw hynny, mab a aned iddi, a'r enw rodded arno oedd Gwern fab Matholwch. A rhoddi y mab ar faeth a wnaethpwyd yn y lle goreu yn Iwerddon.

Yn yr ail flwyddyn dyna gynnwrf yn Iwerddon am y gwaradwydd a gawsai Matholwch yng Nghymru, a'r Fel y poenydwyd Branwen siom wnaed iddo am ei feirch. Am hynny ei frodyr maeth, a'r rhai nesaf ato, a aethant yn llidiog tuag ato heb gelu. Ac wele ymgyfarfod yn Iwerddon fel na chai Matholwch lonydd nes dial ei sarhad. A'r dial a wnaethant oedd gyrru Branwen o'r un ystafell ag ef, a'i gorfodi i bobi yn y llys, a pheri i'r cigydd, wedi iddo fod yn dryllio y cig, ddyfod a tharo bonclust iddi beunydd. Ac felly y gwnaethpwyd ei phenyd.

"Ie, arglwydd," ebe ei wyr wrth Fatholwch, " par, weithian, wahardd y llongau a'r ysgraffau a'r corigau fel nad el neb i Gymru; ac a ddel yma o Gymru, carchara hwy, fel nad elont drachefn, rhag gwybod hyn."

Ac felly y bu, a blynyddoedd nid llai na thair blynedd y buont felly. Ac yn ystod yr amser hynny magodd Branwen aderyn drudwen, a dysgodd iaith iddi pan safai ar ymyl y noe gyda hi. A mynegodd i'r aderyn y rhyw ŵr oedd ei brawd; ac ysgrifennodd lythyr am y penydiau a'r amharch oedd arni; a rhwymodd y llythyr am fôn esgyll yr aderyn, ac anfonodd hi tua Chymru. A'r aderyn a ddaeth i'r ynys hon, a'r lle y cafodd Fendigaid Fran oedd yng Nghaer Saint yn Arfon. Disgynnodd ar ei ysgwydd, ac ysgydwodd ei phlu nes y gwelwyd y llythyr, ac y deallwyd i'r aderyn gael ei magu yn ddof.

Ac yna cymryd y llythyr, a'i edrych a wnaed; a phan ddarllenwyd y llythyr, ymboeni a wnaeth Bendigaid Fran am glywed y benyd a oedd ar Branwen; a dechreu anfon o'r lle hwnnw genhadau i gynnull yr ynys hon ynghyd. Ac yna y galwodd ato holl alluoedd pedair gwlad a saith ugain yn llwyr, a chwyno ei hun a wnaeth wrthynt am y boen oedd ar ei chwaer. Ac yna cymerwyd cyngor, ac yn y cyngor penderfynwyd myned i'r Iwerddon, a gadael seithwyr yn dywysogion yma, a Charadog fab Bran yn bennaf ar y saith marchog. Yn Edeyrnion y gadawyd y gwŷr hyn. Ac o achos hynny y dodwyd saith marchog ar y dref. A'r saith wyr oeddynt,—Caradog fab Bran, ac Efeydd Hir, ac Unig Glew Ysgwydd, ac Iddig fab Anarawg Walltgrwn, a Ffodor fab Erfyll, ac Wlch Minasgwrn, a Llashar fab Llaesar Llaes—gygwydd, a Phendaran Dyfed yn was ieuanc gyda hwy. Y saith hyn a drigodd yn saith goruchwyliwr i ofalu am yr ynys hon. A Charadog fab Bran oedd ben goruchwyliwr arnynt.

Bendigaid Fran a'r nifer a ddywedasom ni a hwyl— iasant tuag Iwerddon. Ac wrth nad oedd y weilgi yn Fel yr aeth Bran i Iwerddon fawr, daeth ef i ddwfr maes. Nid oedd namyn dwy afon,—Lli ac Archan y gelwid hwy. Wedi yr amser hynny y pellhaodd y weilgi y teyrnasoedd. Yna y cerddodd ef, a'i glud ar ei gefn ei hun, a daeth i dir Iwerddon. A gweision moch Matholwch oedd ar lan y môr, a hwy a ddaethant at Matholwch.

Arglwydd," ebe hwy, "henffych well."

"Duw a roddo dda i chwi," ebe ef. "Pa newydd sydd gennych? "

"Arglwydd," ebe hwy, mae gennym ni newyddion rhyfedd iawn, coed a welsom ar y weilgi, yn y lle ni welsom erioed un pren."

Dyna beth rhyfedd," ebe ef. "A welech chwi ddim namyn hynny?"

Gwelem, arglwydd," ebe hwy, "fynydd mawr gerllaw y coed, a hwnnw ar gerdded. Ac ochr aruchel oedd i'r mynydd, a llyn o bob tu i'r ochr. A'r coed a'r mynydd a phopeth o hyn oll oedd ar gerdded."

Ie," ebe yntau, "nid oes yma neb a wypo beth yw hyn, onis gŵyr Branwen. Gofynnwch iddi."

Cenhadau a aeth at Franwen.

Arglwyddes," ebe hwy, "beth a debygi di yw hynny?"

'Gwyr Ynys y Cedyrn yn dyfod drwodd o glywed am fy mhoen a'm hamarch."

Beth yw y coed a welid ar y môr?" ebe hwy.

Gwernenau llongau a hwylbrenni," ebe Branwen.

"Och," ebe hwy, "beth oedd y mynydd a welid wrth ystlys y llongau?"

"Bendigaid Fran, fy mrawd i," ebe hi, "oedd hwnnw yn dyfod i'r dwfr maes. Nid oedd long ddigon o faint iddo."

"Beth oedd yr ochr aruchel, a'r llyn o bob tu i'r ochr?"

"Efe yw," ebe hi, yn edrych yn llidiog ar yr ynys hon. Ei ddau lygad o bob tu i'w drwyn yw y ddau lyn o bob tu i'r ochr."

Ac yna casglu holl wyr ymladd Iwerddon a wnaethant, ynghyda'r holl fôr-benaethiaid yn gyflym. A chyngor a gymerwyd.

"Arglwydd," ebe ei wŷr-da wrth Fatholwch, "nid oes gyngor ond cilio dros Linon—afon oedd yn Iwerddon—a gadael Llinon rhyngot ti ag ef, a thorri y bont sydd ar yr afon. A meini sugn sydd yng ngwaelod yr afon, ac ni eill na llong na llestr ei nofio."

Hwy a giliasant dros yr afon ac a dorasant y bont.

Bendigaid Fran a ddaeth i'r tir, a'i lynges gydag ef, tua glan yr afon.

Arglwydd," ebe ei wŷr-da, "ti a wyddost natur yr afon. Ni eill neb fyned trwyddi. Nid oes bont arni hithau. Beth yw dy gyngor am bont? ebe hwy.

"Nid oes gennyf gyngor," ebe yntau, "ond, 'a fo ben bydded bont.' Myfi a fyddaf bont."

A'r pryd hwn y dywedwyd y gair hwnnw, ac y mae'n ddihareb eto. Ac wedi iddo orwedd ar draws yr afon, bwriwyd clwydau arno, ac aeth ei luoedd drosto i'r ochr arall. A chydag iddo godi, dyma genhadon Matholwch yn dyfod ato ac yn cyfarch gwell iddo, ac yn ei annerch oddiwrth Fatholwch ei gyfathrachwr, a mynegi na haeddai ef o'i fodd namyn da. "Ac y mae Matholwch yn rhoddi brenhiniaeth Iwerddon i Wern fab Matholwch, dy nai dithau, fab dy chwaer. A hyn y mae yn ei roddi yn dy ŵydd, yn lle y cam a'r gwarth a wnaethpwyd i Franwen. Ac yn y lle y mynni di, ai yma, ai yn Ynys y Cedyrn, y bydd Matholwch byw."

"Ie," ebe yntau Bendigaid Fran, "oni allaf fi fy hun gael y frenhiniaeth, ni chymeraf gyngor am eich cenadwri chwi. O hyn hyd nes y daw cenadwri amgen, ni chewch ateb gennyf fi."

"Ie," ebe hwythau, "yr ateb goreu a gaffym ninnau i'w ddweyd wrthyt, ni a ddeuwn ag ef. Ac aros dithau ein cenadwri ni."

"Arhosaf," ebe ef, "a dowch yn ebrwydd." Y cenhadau a aethant rhagddynt, a daethant at Fatholwch.

Arglwydd," ebe hwy, "paratoa ateb a fo gwell i Fendigaid Fran; ni wrandawai ddim ar yr ateb oedd gennym ni iddo."

"Ha wŷr," ebe Matholwch, beth yw eich cyngor chwi?"

"Arglwydd," ebe hwy, "nid oes iti gyngor ond un. Ni thrigodd ef mewn tŷ erioed," ebe hwy. Gwna dithau dy i'w gynnwys ef a gwŷr Ynys y Cedyrn yn y naill borth i'r tŷ, a thithau a'th lu yn y porth arall, a dyro dy frenhiniaeth i'w law, a gwna warogaeth iddo. Ac o anrhydedd gwneuthur y tŷ iddo," ebe hwy, "peth na chafodd erioed dŷ a'i cynhwysai ynddo, efe a dangnefedda â thi."

A'r cenhadau a aethant a'r genadwri honno at Fendigaid Fran. Yntau a gymerth gyngor, ac yn y cyngor penderfynwyd ei derbyn; a thrwy gyngor Branwen y bu hynny oll, a rhag dinistrio y wlad y gwnaeth hynny.

Ar y cytundeb hwnnw y penderfynasant a'r tŷ a adeiladwyd yn fawr ac eang. Ac ystryw a wnaeth y Fel y bu tangnefedd a brad Gwyddyl, a'r ystryw oedd dodi hoel o bob tu i bob colofn o'r can colofn a oedd yn y tŷ, a dodi boli croen ar bob hoel a gŵr arfog ym mhob un ohonynt.

A hyn a wnaeth Efnisien,—dyfod i fewn o fiaen llu Ynys y Cedyrn, ac edrych, â golygon gorwyllt anrhugarog, ar hyd y tŷ, a gweled y boliau crwyn oedd ar y pyst.

"Beth sydd yn y boli hwn? ebe ef wrth un o'r Gwyddyl.

"Blawd, enaid," ebe yntau.

Teimlodd Efnisien y boli, nes y clywodd ben y dyn, a gwasgodd y pen hyd oni chlywodd ei fysedd yn cyfarfod yn ei ymennydd trwy'r asgwrn.

A gadael hwnnw a wnaeth, a dodi eì law ar un arall a gofyn,—

"Beth sydd yma?"

" Blawd," meddai y Gwyddyl.

A'r un chware a wnaeth ef â phawb ohonynt, hyd nas gadawodd efe ŵr byw o'r oll ddau can ŵr, eithr un. A dyfod at hwnnw a wnaeth a gofyn,—

"Beth sydd yma?"

"Blawd, enaid," ebe'r Gwyddyl.

A'i deimlo a wnaeth yntau hyd nes y cafodd ei ben, ac fel y gwasgasai bennau y rhai eraill y gwasgodd ben hwn. Clywodd arfau am ben hwnnw, ond nis gadawodd ef nes ei ladd.

Ac yna canodd englyn,—

"'Yssit yn y boli hwn amryw-flawt;
Ceimeit cynnifieit disgynneit,
Yn trin rac cytwyr cat barawt." [1]


Ac ar hynny daeth y niferoedd i'r tŷ a daeth gwŷr o Ynys Iwerddon i'r tŷ o'r naill borth, a gwŷr o Ynys y Cedyrn o'r porth arall. A chyn gynted ag yr eisteddasant y bu undeb rhyngddynt, ac y rhoddwyd y frenhiniaeth i'r mab. Ac yna wedi fod tangnef, galwodd Bendigaid Fran y mab ato. A dygodd Bendigaid Fran y mab at Fanawyddan. A phawb a'i gwelai a'i carai. Ac oddiwrth Fanawyddan y galwodd Nisien fab Euroswydd y mab ato. Y mab a aeth ato yn dirion.

"Paham," meddai Efnisien, na ddaw fy nai fab chwaer ataf fi? Pe na byddai'n frenin ar Iwerddon, da fuasai gennyf ymdirioni â'r mab."

"Aed yn llawen," ebe Bendigaid Fran. Y mab a aeth ato yn llawen.

"I Dduw y dygaf fy nghyffes," ebe yntau yn ei feddwl, "mai anhebig gan y teulu yw y gyflafan a wnaf fi yr awr hon."

A chodi i fyny a wnaeth, a chymryd y mab gerfydd ei draed; ac heb oedi, a chyn cael o undyn afael ynddo, gwanodd y mab yn wysg ei ben i'r tân cynheuedig.

A phan welodd Branwen y mab yn boeth yn y tân, hi a geisiodd neidio i'r tân o'r lle yr oedd yn eistedd rhwng ei dau frawd; ond gafaelodd Bendigaid Fran ynddi ag un llaw, a'i darian yn y llaw arall. Ac yna cododd pawb ar hyd y tŷ, a dyma y cynnwrf mwyaf a fu gan deulu unty—pawb yn cymryd ei arfau. Ac yna y dywed Morddwyd Tyllion,—"Gwern gwyngoch! Och Forddwyd Tyllion." A phan oedd pawb yn defnyddio eu harfau, daliodd Bendigaid Fran Branwen rhwng ei darian a'i ysgwydd. Ac yna y dechreuodd y Gwyddelod gynneu tân dan y pair dadeni; ac yna bwriwyd y cyrff i'r pair hyd nes oedd yn llawn; a thrannoeth cyfodent yn wyr ymladd cystal ag o'r blaen, eithr na allent siarad.

A phan welodd Efnisien gyrff gwyr o Ynys y Cedyrn heb fywyd yn yr un man, y dywedodd yn ei feddwl,— O fy Nuw," ebe ef, "gwae fi fy mod yn achos y golled hon o wyr Ynys y Cedyrn, a gwarth fydd i mi os na cheisiaf ymwared rhag hyn." A gorweddodd ymhlith cyrff y Gwyddyl, a daeth dau Wyddel bonllwm ato, a'i fwrw i'r pair, yn rhith Gwyddel. Ymestynnodd yntau yn y pair, hyd nes y torrodd y pair yn bedwar dryll. Ac yna torrodd ei galon yntau. Ac oherwydd hynny y bu fyw hynny a fu byw o wyr Ynys y Cedyrn, ac ni bu fyw oddieithr dianc o seithwŷr, a brathu Bendigaid Fran yn ei droed â gwenwyn waew. Y seithwyr a ddihengodd oedd Pryderi, Manawyddan, Glifieri, Eil Taran, Taliesin, Ynawg Gruddieu fab Muriel, a Heilyn fab Gwyn Hen.

Ac yna y parodd Bendigaid Fran iddynt dorri ei ben. A chymerwch chwi y pen," ebe ef, "a dygwch ef i'r Gwynfryn yn Llundain, a chleddwch ef yno a'i wyneb at Ffrainc, a chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir. Fel y daeth saith o Iwerddon Yn Harlech y byddwch saith mlynedd ar ginio, ac adar Rhianon yn canu i chwi. A bydd cystal gennych gymdeithas y pen ag y bu oreu gennych pan fu arnaf fi erioed. Ac yng Nghwalas ym Mhenfro y byddwch bedwar ugain mlynedd. A gellwch fod yno a'r pen yn ddilwgr gennych hyd nes yr agoroch y drws sy'n wynebu Aber Henfelen tua Chernyw. Ac o'r pan agoroch y drws hwnnw ni allwch fod yno, ond cyrchwch Lundain i gladdu y pen, ac ewch ymlaen rhagddoch."

Ac yna torrwyd ei ben ef, a chychwynnodd y seith-wŷr hynny drwodd gan ddwyn y pen gyda hwy, a Branwen yn wythfed. Ac yn Aber Alaw yn Nhal Ebolion y daethant i'r tir, ac yno eistedd a wnaethant a gorffwys. Ac edrychodd Branwen ar Iwerddon ac ar Ynys y Cedyrn, hynny welai ohonynt.

"O fab Duw," ebe hi, gwae fi o'm genedigaeth. Nid da difetha dwy ynys o'm hachos i."

Fel y bu farw BranwenA dodi ochenaid fawr a wnaeth, a thorrodd ei chalon ar hynny. A hwy a wnaethant fedd petryal iddi, ac a'i claddasant ar lan afon Alaw.

Wedi hynny cerdded a wnaeth y seith-wŷr tua Harlech, a'r pen ganddynt. Fel yr oeddynt yn cerdded, dyma dyrfa o wŷr a gwragedd yn cyfarfod â hwy. "A oes gennych chwi newyddion?" ebe Manawyddan.

"Nac oes," ebe hwy, "ond goresgyn o Gaswallon fab Beli Ynys y Cedyrn, a'i fod yn frenin coronog yn Llundain."

"Beth ddarfu," ebe hwythau, "Caradog fab Bran, a'r seith-wŷr adawyd gydag ef yn yr ynys hon?"

"Daeth Caswallon i'w herbyn, a lladdodd y chwe-gwŷr, a thorrodd Caradog yntau ei galon o dristwch am weled cleddyf yn lladd ei wŷr, ac na wyddai pwy a'u lladdai.' Yr oedd Caswallon yn gwisgo llen hûd am dano, ac ni chanfyddai neb ef yn lladd y gwŷr, ond gwelent ei gleddyf yn unig. "Ni fynnai Caswallon ei ladd yntau, ei nai fab ei gefnder oedd." Ahwnnw oedd y trydydd dyn a dorrodd ei galon o alar. "Pendaran Dyfed, a oedd yn was ieuanc gyda'r seith-wŷr, a ddihangodd i'r coed," ebe hwy. Ac yna y cyrchasant hwythau Harlech, ac a ddechreuasant eistedd ac ymddiwallu â bwyd a diod. A daeth tri aderyn gan ddechreu canu iddynt Fel y Canodd adar Rhianonryw gerdd, ac o bob cerdd a glywsant, difwyn oedd pob un wrthi hi. Ac er fod yr adar i'w gweled ymhell uwchben y weilgi allan, cyn amlyced oeddynt iddynt a phe byddent gyda hwy. Ac wrth y cinio hwnnw y buont saith mlynedd. Ac ymhen y seithfed flwyddyn y cychwynasant tua Gwales, ym Mhenfro. Ac yno yr oedd iddynt le teg brenhinol uwch ben y weilgi. A neuadd fawr oedd yno iddynt, ac i'r neuadd yr aethant. A'i dau ddrws oedd yn agored, a'r trydydd ddrws, yr hwn wynebai tua Chernyw, oedd ynghauad.

"Weldi," ebe Manawyddan, "dacw y drws ni ddylem ni ei agor."

A'r nos honno y buont yno yn ddi-wall a diddan ganddynt. Ac er a welsent o fwyd yn eu gwydd, ac a glywsent am dano, ni ddoi i'w cof ddim amdanynt hwy, nac am alar o fath yn y byd. Ac yno y treuliasant hwy y pedwar ugain mlynedd, fel na wybuant iddynt erioed dreulio ysbaid mor ddifyr a hyfryd a hwnnw. Nid oeddynt anesmwythach ar gwmni ei gilydd na phan ddaethant yno gyntaf, ac ni fu anesmwythach ganddynt gyd-fyw â'r pen na phan fuasai Bendigaid Fran yn fyw gyda hwy. Ac o achos hynny y pedwar ugain mlynedd a elwid, "Ysbaid Urddawl Ben." Ysbaid Branwen a Matholwch oedd yr amser yr aethpwyd i Iwerddon.

Hyn a wnaeth Heilyn fab Gwyn un diwrnod,—"Mefl ar fy marf onid agoraf y drws," ebe ef, oni agoraf y drws i wybod ai gwir ddywedir am dano." Agor y drws a wnaeth, ac edrych ar Fel yr agorwyd drws y de Gernyw ac ar Aber Henfelen. A phan edrychasant, yr oedd mor hysbys ganddynt bob colled a gollasant erioed, pob câr a chydymaith a gollasant, a phob drwg a'i cyfarfyddodd, a phe bai yno y cyferfuasai â hwy,—ac yn bennaf am eu harglwydd.

Ac o'r awr honno ni allasent orffwys, namyn cychwyn a'r pen tua Llundain. Pa hyd bynnag y buont ar y ffordd, hwy a ddaethant hyd yn Llundain, a chladdasant y pen yn y Gwynfryn.

A hwnnw fu y trydydd madeudd pan guddiwyd; a'r trydydd anfad ddatcudd, pan ddatguddiwyd; canys ni ddeuai gormes byth drwy fôr i'r ynys hon tra y byddai y pen yn y cudd hwnnw.

A dyma fel y dywed y cyfarwydd eu hanes hwy,— y gwŷr y cychwynnwyd Iwerddon ohonynt. Yn Iwerddon ni adawyd dyn byw namyn pum gwraig mewn ogof yn niffaethwch Iwerddon. O'r pum gwragedd hynny ganed pum mab yn yr un cyfnod; a magasant hwy nes y daethant yn fawr. A rhanwyd y wlad rhyngddynt ill pump. Ac o achos y rhaniad hwnnw y gelwir eto bum rhan Iwerddon. Ac edrych y wlad a wnaethant ffordd y buasai rhyfeloedd, a chael aur ac arian nes oeddynt gyfoethog.

A dyma fel y terfyna y gainc hon o'r Mabinogi ynghylch dyrnod Branwen, yr hon a fu y drydedd anfad ddyrnod yn yr ynys hon; ac ynghylch Bran pan aeth gwŷr deg gwlad a saith ugain i'r Iwerddon i ddial dyrnod Branwen; ac am y cinio yn Harlech saith mlynedd; ac am ganiad adar Rhianon ac am fywyd pen bedwar ugain mlynedd.

Nodiadau

golygu
  1. Yn y sach hon mae blawd neilltuol, milwyr heinif wedi disgyn i'r ymladdfa, ymladdfa wedi eí pharatoi cyn yr ymladdwyr.