Mabinogion J M Edwards Cyf 1/Pwyll, Pendefig Dyfed

Rhagymadrodd Mabinogion J M Edwards Cyf 1

gan John Morgan Edwards

Branwen Ferch Llyr



Pwyll, Pendefig Dyfed.

—————♦♦—————

DYMA DDECHREU Y MABINOGI

PWYLL, pendefig Dyfed, a oedd yn arglwydd ar saith gantref Dyfed. Ar ei dro yr oedd yn Arberth, prif lys iddo, a daeth i'w fryd ac i'w feddwl fyned i hela, Y rhan o'i dir a fynnai ei hela oedd Glyn Cuch, a chychwynnodd y nos honno o Arberth, a daeth hyd ym mhen Llwyn Fel yr aeth dau Frenin i hela Diarwyd. Ac yno y bu y nos honno. A thrannoeth, yn ieuenctid y dydd, cyfodi a wnaeth, a dod i Lyn Cuch, i ollwng ei gŵn dan y coed. Canodd y corn, a dechreuodd yr hela, Cerddodd yn ol ei gŵn, a chollodd ei gymdeithion. Ac fel yr oedd yn ymwrando â llef y cŵn, efe a glywai lef cŵn eraill. Nid oeddynt unllef â'i gŵn ef, ac yr oeddynt yn dyfod yn eu herbyn. Ac efe a welai lannerch yn y coed o faes gwastad. Ac fel yr oedd ei gŵn ef yn ymgael âg ystlys y llannerch, efe a welai garw o flaen y cŵn eraill; a thua chanol y llannerch dyma y cŵn oedd ar ei ol yn ei ddal, ac yn ei fwrw i'r llawr. Yna edrychodd ar liw y cŵn, heb feddwl edrych ar y carw. Ac ar a welsai efe o helgwn y byd, ni welsai gŵn o'r un lliw a hwynt. A'r lliw oedd arnynt oedd claerwyn disglair, a'u clustiau yn gochion. Ac fel y disgleiriai gwynder y cŵn, y disgleiriaì cochder eu clustiau. Ac ar hynny at y cŵn y daeth, a gyrrodd y cŵn a laddasai y carw ymaith, a denu ei gŵn ei hun ar ol y carw. Fel yr oedd yn denu ei gŵn, efe a welai farchog yn dod ar ol y cŵn ar farch erchlas mawr, a chorn canu am ei wddf, a gwisg o frethyn llwyd am dano yn wisg hela. Ar hynny daeth y marchog ato a dywedodd wrtho fel hyn,—

"Ha, unben, mi a wn pwy wyt, ac ni chyfarchaf i well i ti."

"Ie," ebe Pwyll, "feallai fod arnat gymaint o anrhydedd fel nas dyli."

"Dioer," ebe yntau, "nid teilyngdod fy anrhydedd a'm hatal i hynny."

"Ha, unben, beth amgen?" ebe Pwyll.

"Yn wir," ebe yntau, dy anwybod a'th ddiffyg moes dy hun."

"Pa ddiffyg moes, unben, a welaist arnaf fi?"

"Ni welais ddiffyg moes mwy ar ŵr erioed," ebe yntau, "na gyrru'r cŵn a ddaliodd y carw ymaith, a denu dy gŵn dy hun arno. Hyn oedd ddiffyg moes, ac er na ddialaf arnat, yn wir, mi a wnaf o anghlod i ti werth can carw."

"O unben, os gwnaethum gam, mi a brynnaf dy faddeuant," ebe Pwyll.

"Pa ddelw y prynni ef?" ebe yntau.

"Wrth fel y bo dy anrhydedd. Ac ni wn i pwy wyt ti."

"Brenin coronog wyf fi yn y wlad yr hannwyf ohoni."

Dydd da i ti, arglwydd," ebe yntau, a pha wlad yr henni ohoni?"

"O Annwn. Arawn, brenin Annwn, wyf fi."

"Pa ffurf, arglwydd," ebe Pwyll, y caf fi dy faddeuant di? "

"Dyma'r wedd y ceffi hi," ebe yntau. "Y mae gŵr sydd a'i dir gyferbyn a'm tir innau yn rhyfela yn wastad yn fy erbyn. Sef yw hwnnw, Hafgan, brenin o Annwn. A thrwy wared gormes hwnnw oddi arnaf fi, a hynny a elli di yn hawdd, y ceffi fy maddeuant."

"Minnau a wnaf hynny yn llawen," ebe Pwyll, mynega dithau i mi pa ffurf y gallaf wneud hynny."

"Mynegaf," ebe yntau, dyma fel y gelli. Mi a wnaf â thi gymdeithas gadarn. Dyma fel y gwnaf. Mi a'th roddaf di yn fy lle i yn Annwn, a rhoddaf fy ffurf a'm pryd arnat, hyd na bo gwas ystafell na swyddog nac un dyn a'm canlynodd i erioed a wypo mai nid myfi fyddi di, a hynny hyd ymhen y flwyddyn o'r dydd yfory, pryd y cyfarfyddwn yn y lle hwn."

"Ie," ebe Pwyll, "ond er i mi fod yno am flwyddyn, pa gyfarwydd a fydd i mi i ymgael â'r gŵr y sonni amdano?"

"Blwyddyn i heno," ebe ef, "y mae cyfarfod i fod rhyngddo ef a mi ar y rhyd. A bydd di yno yn fy rhith i. Un ddyrnod a roddi di iddo ef, ac ni bydd byw ohoni. Ac os gofyn efe am ail ddyrnod i ti, na ddyro er a ymbilio â thi; er a roddwn i iddo drachefn, ymladdai â mi drannoeth gystal a chynt."

"Ie," ebe Pwyll, "ond beth a wnaf â'm teyrnas fy hun?"

"Mi a wnaf," ebe Arawn, "na fydd gŵr na gwraig yn dy diriogaeth yn gwybod mai nid tydi wyf fi." Myfi a af i'th le di yn llawen," ebe Pwyll, "mi a af rhagof."

"Dilestair fydd dy hynt, ac ni rusia dim rhagot hyd oni ddeui i'm teyrnas i, a mi a fyddaf hebryngydd i ti."

Ac efe a'i hebryngodd oni welodd y llys a'r cyfannedd.

Dyma y llys a'r tir," ebe ef, "i'th feddiant, dos tua'r llys, nid oes yno neb ni'th adnabo. Ac wrth fel y gwelych y gwasanaeth ynddo yr adnabyddi foes y llys."

Tua'r llys yr aeth Pwyll, ac yn y llys ef a welai hundai, a neuaddau, ac ystafelloedd, a'r adeiladau tecaf a welsai neb. Ac i'r neuadd yr aeth i ddad-wisgo, a daeth llanciau a gweision ieuainc i'w ddadwisgo; a chyfarch gwell a wnai pawb iddo fel y delent i mewn. Fel yr ymladdodd dau frenin Dau farchog a ddaeth i dynnu ei wisg hela oddiam dano, ac i'w wisgo âg eur-wisg o bali. Y neuadd a drefnwyd, ac yna y gwelai ef y teulu a'u canlynwyr, a'r nifer harddaf a chyweiriaf a welsai neb, yn dyfod i mewn, a'r frenhines gyda hwy,—y wraig decaf a welsai neb, ac eur-wisg am dani o bali llathr, Ac ar hynny, hwy a aethant i ymolchi, ac a ddaethant at y byrddau. Ac eistedd a wnaethant fel hyn,—y frenhines un ochr i Bwyll, ac iarll, debygai ef, yr ochr arall. A dechreu ymddiddan a wnaeth ef â'r frenhines; ac er a welsai erioed wrth ymddiddan, hi oedd y wraig fwynaf, a'r foneddigeiddiaf ei haniad a'i hymddiddan.

A mwynhau a wnaethant y bwyd a'r ddiod, y canu a'r gymdeithas. Ac ar a welodd o holl lysoedd y ddaear, hwn oedd y llys llawnaf o fwyd a diod, o eur-lestri a theyrn-dlysau.

Treulio y flwyddyn a wnaeth trwy hela, a chanu, a gwledda, a charueiddrwydd, ac ymddiddan â chymdeithion—hyd y nos yr oedd yr ornest i fod. A phan ddaeth y nos honno, yr oedd y cyfarfod yn dod i gof hyd yn oed y dyn pellaf yn yr holl wlad. Daeth Pwyll i'r man cyfarfod, a gwŷr-da ei wlad gydag ef, a chyda ei fod wrth y rhyd, marchog a gyfododd i fyny ac a ddywedodd fel hyn,

"Ha wŷr da," ebe ef," ymwrandewch, rhwng y ddau frenin y mae yr ornest hon, a hynny rhwng eu dau gorff eill dau. Pob un ohonynt sydd hawliwr ar ei gilydd, a hynny am dir a daear, a diogel y dichon pob un ohonoch fod, eithr gadael rhyngddynt hwy ill dau.”

Ac ar hynny y ddau frenin a nesasant ynghyd i ganol y rhyd, ac ymgyfarfod a wnaethant. Ac ar y gosod cyntaf, y gŵr oedd yn lle Arawn a darawodd Hafgan yng nghanol ei darian hyd oni holltodd yn ddau hanner, ac hyd oni thorrodd yr arfau, ac hyd onid oedd Hafgan hyd ei fraich a'i bicell dros bedrain ei farch ar y llawr, ac angeuol ddyrnod ynddo yntau."

"O unben," ebe Hafgan, pa hawl oedd i ti ar fy angau i? Nid oeddwn i yn gofyn dim i ti, ac ni wyddwn achos i ti hefyd fy lladd i. Ac, yn wir," ebe ef, "gan i ti ddechreu fy lladd, gorffen."

"O unben," ebe Pwyll, "fe allai fod yn edifar gennyf am a wnaethum it. Cais a'th laddo, ni laddaf fi di."

"Fy ngwŷr-da, cywir," ebe Hafgan, "dygwch fi oddiyma. Daeth fy angau yn sicr. Nid oes modd i mi eich cynnal chwi bellach."

"Fy ngwŷr-da innau," ebe y gŵr a oedd yn lle Arawn, "cymerwch gyfarwyddyd, a gwybyddwch pwy a ddylai fod yn wŷr i mi."

Arglwydd," ebe y gwŷr-da, "pawb a ddylai, canys nid oes frenin ar holl Annwn namyn tydi." Fel yr enillwyd Annwn Ie," ebe yntau, "a ddel yn ufudd, iawn yw ei gymryd; a'r hwn ni ddel yn ufudd, gorfoder ef trwy nerth eleddyfau." Ac ar hynny cymryd gwarogaeth y gwŷr, a dechreu goresgyn y wlad a wnaeth; ac erbyn hanner dydd drannoeth yr oedd yn ei feddiant y ddwy deyrnas.

Ac ar hynny Pwyll a gerddodd tua'i gynefin, ac a ddaeth i Lyn Cuch. A phan ddaeth yno yr oedd Arawn, brenin Annwn, yn ei gyfarfod. Llawen fu pob un ohonynt wrth ei gilydd.

"Ie," ebe Arawn, "Duw a dalo i ti am dy ffyddlondeb i mi, mi a glywais amdano."

"Ie," ebe Pwyll, "pan y deui i'th wlad dy hun, ti a weli a wnaethum drosot."

"Am a wnaethost drosof," ebc yntau, "Duw a dalo i ti." Yna y rhoddodd Arawn ei ffurf a'i ddull ei hun i Bwyll, Pendefig Dyfed, a chymerodd yntau ei ffurf a'i ddull ei hun. Ac yna y cerddodd Arawn tua'i lys yn Annwn, a bu digrif ganddo ymweled â'i deulu a'i wŷr, canys nis gwelsai hwy er ystalm; ni wybuasent ei eisiau ef, ac ni bu newyddach ganddynt ei ddyfodiad y tro yma mwy na thro arall. Y dydd hwnnw a dreuliwyd mewn digrifwch a llawenydd. Ac eistedd ac ymddiddan a wnaeth Arawn a'i wraig a'i wŷr-da.

Yntau Pwyll, Pendefig Dyfed, a ddaeth i'w wlad a'i derfynau; a dechreuodd ymofyn â gwŷr-da y wlad beth a fuasai ei lywodraeth ef arnynt hwy y flwyddyn honno mewn cymhariaeth i'r hyn a fu cyn hynny.

"Arglwydd," ebe hwy, "ni fu dy wybod yn fwy, ni fuost hygared gŵr, nac mor hawdd gennyt roddi rhoddion, ac ni fu well dy wladweiniaeth erioed na'r flwyddyn hon."

Yn wir," ebe yntau Pwyll, os iawn o beth i chwi ddiolch, diolchwch i'r gŵr a fu gyda chwi, a dyma yr ystori fel y bu." A datgan yr oll a wnaeth Pwyll iddynt.

"Ie, arglwydd," ebe hwy, " diolch i Dduw am i ti gael y cyfeillgarwch hwnnw, ac na ddwg oddi arnom ninnau y lywodraeth a gawsom y flwyddyn honno."

"Ar a allaf, yn wir," ebe yntau Pwyll, "nis dygaf hi." Ac o hynny allan dechreu cadarnhau cyfeillgarwch rhyngddynt a wnaeth y ddau frenin, ac anfon pob un i'w gilydd feirch, a milgwn, a hebogau, a phob cyfryw dlws a debygai pob un a foddhai feddwl y llall. Ac o achos ei drigiant y flwyddyn honno yn Annwn, a lywodraethu ohono mor lwyddiannus, ac uno y ddwy deyrnas yr un dydd trwy ei ddewrder a'i filwriaeth, pallodd ei enw Pwyll Pendefig Dyfed, a galwyd ef Pwyll Pen Annwn o hynny allan.

Ac unwaith yr oedd yn Arberth, prif lys iddo, lle yr oedd gwledd ddarparedig iddo, a niferoedd mawr o wyr gydag ef. Ac wedi y bwyta cyntaf, cyfodi i gerdded a wnaeth Pwyll, a myned i ben gorsedd oedd uwchlaw y llys, a elwid Gorsedd Arberth.

Arglwydd," ebe un o'r llys, "hynodrwydd yr orsedd yw, pa bendefig bynnag a eisteddo arni nid â oddi arni heb un o ddau beth, heb dderbyn briwiau ac archollion, neu weled rhyfeddod." Fel y gwelodd Pwyll ryfeddod"Nid oes arnaf ofn cael briwiau ac archollion ymhlith hyn o nifer, da hefyd fuasai gennyf pe gwelwn ryfeddod. Mi a af i'r orsedd i eistedd."

Eistedd a wnaeth ar yr orsedd. Ac fel yr oeddynt yn eistedd hwy a welent wraig ar farch canwelw mawr aruchel, a gwisg euraidd ddisglair am dani, yn dyfod ar hyd y brif-ffordd arweiniai o'r orsedd. Cerdded araf, gwastad, oedd gan y march i fryd y neb a'i gwelai, ac yn dyfod i fyny tua'r orsedd.

"Ha wyr," ebe Pwyll, "a oes ohonoch chwi a adwaen y farchoges acw ?"

"Nac oes, arglwydd," ebe hwynt.

"Aed un," ebe yntau, "i'w chyfarfod, i wybod pwy yw." Un a gyfododd i fyned, a phan ddaeth i'w chyfarfod i'r ffordd, wele hi a aeth heibio. A'i hymlid a wnaeth mor gyflym ag y gallai ar draed. A pha fwyaf fyddai ei frys ef, pellaf fyddai hithau oddiwrtho ef. A phan welodd na thyciai iddo ei hymlid, dychwelyd a wnaeth at Bwyll, a dywedyd wrtho," Arglwydd," ebe ef, "ni thycia i un gŵr traed yn y byd ei hymlid hi."

"Ie," ebe Pwyll, "dos, dos i'r llys, a chymer y march cyflymaf a weli, a dos rhagot ar ei hol."

Y march a gymerth, a rhagddo yr aeth, a maes—dir gwastad a gafodd. Yspardynodd ei farch, a pha fwyaf y tarawai ef y march, pellaf fyddai hithau oddiwrtho ef, er mai yr un gerdded oedd ganddi ag yn y dechreu. Ei farch a ballodd. A phan welodd ef fod cerddediad ei farch yn pallu, ef a ddychwelodd hyd y lle yr oedd Pwyll.

Arglwydd," ebe ef, "ni thycia i mi ymlid yr unbennes acw. Ni wyddwn i am farch cyflymach yn y wlad na hwn, ac ni thyciai i mi ei hymlid hi."

"Ie," ebe Pwyll, "y mae yna ryw hud neilltuol, awn tua'r llys."

I'r llys y daethant, a threuliasant y dydd hwnnw. A thrannoeth cyfodi a wnaethant, a threulio hwnnw hyd nes oedd yn amser myned i fwyta, ac wedi y bwyta cyntaf,—

"Ie," "ebe Pwyll, "ni a awn yr un nifer y buom ddoe i ben yr orsedd; a thydi," ebe ef wrth un o'r gweision, "dwg y march cyflymaf a wyddost amdano yn y maes." A hynny a wnaeth y gwas. Tua'r orsedd yr aethant, a'r march ganddynt. Ac fel yr oeddynt yn eistedd, hwy a welent y wraig ar yr un march, a'r un wisg am dani, yn dyfod yr un ffordd.

"Dyma y farchoges a welsom ddoe," ebe Pwyll. Bydd barod, was," ebe ef, "i wybod pwy yw hi."

Arglwydd," ebe yntau, "mi a wnaf hynny'n llawen."

Ac ar hynny daeth y farchoges gyferbyn â hwy.

Fel y carlamodd PwyllA hyn a wnaeth y gwas,—esgyn ar ei farch; a chyn iddo ddarfod eistedd ar ei gyfrwy yr oedd y farchoges wedi myned heibio, a chryn bellter rhyngddynt, ond brys gerdded nid oedd ganddi mwy na'r dydd cynt. Yntau a duthiodd ei farch, a thebygai er arafed y cerddai y march y goddiweddai hi. A hynny ni thyciai iddo. Gollwng yr awenau i'w farch a wnaeth, ond nid oedd nes ati na phan ar ei gam. Mwyaf y tarawai ef ei farch, pellaf fyddai hithau oddi wrtho, a cherdded ei march nid oedd fwy na chynt. A phan welodd na thyciai iddo ei hymlid, dychwelyd a wnaeth hyd y lle yr oedd Pwyll."

Arglwydd," ebe ef, "nid oes allu gan y march amgen nag a welaist di."

"Mi a welais," ebe yntau Pwyll, "na thycia i neb ei herlid hi. Ac yn sicr yr oedd ganddi neges at rai o'r parth hwn, pe gadawai ei brys iddi ei ddweyd. A ni a awn tua'r llys."

I'r llys y daethant, a threulio y nos honno a wnaethant drwy ganu a gwledda nes ymlonyddu. A thrannoeth mwynhau y dydd a wnaethant hyd nes oedd yn amser myned i fwyta. A phan ddarfu iddynt fwyta, Pwyll a ddywedodd,—

"Pa le mae y gwyr y buom ni ddoe ac echdoe ar ben yr orsedd ?"

Wele ni, arglwydd," ebe hwythau.

"Awn," ebe efe, "i'r orsedd i eistedd. A thithau," ebe of wrth was ei farch, "cyfrwya fy march yn dda, ac arwain ef i'r ffordd, a dwg fy yspardynau gyda thi."

Y gwas a wnaeth hynny. Dyfod i'r orsedd a wnaethant i eistedd, ac ni fuont yno ychwaith encyd cyn gweled y farchoges yn dyfod yr un ffordd, yn yr un ansawdd, ac yn yr un un gerdded.

"Ha was," ebe Pwyll, "mi a welaf y farchoges yn dyfod. Moes fy march."

Ac nid cynt yr esgyn ar ei farch nag yr â hithau heibio iddo. Troi ar ei hol a wnaeth a gadael i'w farch hoyw, chwareus, gerdded, ac fe debygai y goddiweddai hi ar yr ail gam neu'r trydydd. Ond nid oedd yn nes iddi na chynt. Gwnaeth i'w farch redeg mor gyflym ag a allai, a gweled a wnaeth na thyciai iddo ei hymlid. Yna y dywedodd Pwyll,—

"Ha forwyn, er mwyn y gŵr mwyaf a geri, aros fi."

"Arhosaf yn llawen," ebe hi, "a gwell fuasai i'th farch pe gofynaset er ysmeityn."

Sefyll, ac aros, a wnaeth y forwyn, a chodi'r rhan o wisg ei phen oedd am ei hwyneb, ac edrych arno, a dechreu ymddiddan âg ef.

Arglwyddes," ebe Pwyll, "o ba wlad y doi, a pha gerdded sydd arnat?"

"Cerdded ar fy negesau," ebe hi, "a da yw gennyf dy weled di."

"Yr wyf yn dy groesawu," ebe ef. Ac yna meddwl a wnaeth mai difwyn ganddo oedd gwedd pob morwyn a gwraig a welsai erioed wrth ei gwedd hi.

Arglwyddes." ebe ef, "a ddywedi di i mi ddim o'th negesau?"

Dywedaf, yn wir," ebe hithau, "pennaf neges i mi oedd ceisio dy weled di."

'Dyna," ebe Pwyll, " y neges oreu gennyf fi dy ddyfod di iddi. A ddywedi di i mi pwy wyt?

"Dywedaf, arglwydd," ebe hi, "Rhianon, merch Hefeydd Hen wyf fi, a cheisir fy rhoddi i ŵr o'm Fel yr addawodd Pwyll yn ddifeddwl hanfodd. Ac ni fynnwn innau un gŵr oherwydd fy nghariad atat ti. Ac ni fynnaf eto os na wrthodi di fi. Ac i wybod dy ateb am hynny y daethum i."

"Yn wir," ebe Pwyll, "dyma fy ateb i iti. Pe cawn fy newis o holl wragedd a morynion y byd mai tydi a ddewiswn."

"Ie," ebe hithau, "os hynny a fynni cyn fy rhoddi i ŵr arall, noda fan cyfarfod â mi."

"Goreu gennyf," ebe yntau Bwyll, po gyntaf, ac yn y lle a fynni—penoda'r man cyfarfod."

Gwnaf, arglwydd," ebe hi. "Blwyddyn i heno yn llys Hefeydd mi a baraf fod gwledd ddarparedig yn barod erbyn dy ddyfod."

"Yn llawen," ebe yntau, "a minnau a fyddaf yn y man cyfarfod."

Arglwydd," ebe hi, "trig yn iach, a chofia gyflawni'th addewid, ac ymaith yr af i."

A gwahanu a wnaethant, a dychwelyd wnaeth Pwyll tua'i deulu a'i gyfeillion. A pha ofyn bynnag a fyddai ganddynt am y forwyn, i chwedlau eraill y troai yntau.

Treulio y flwyddyn hyd yr amser penodedig a wnaethant, a threfnu ei farchogion, ef yn ganfed farchog, a myned rhagddo i lys Hefeydd Hen. Ac efe a ddaeth i'r llys; a llawen fuwyd wrtho, a chynnull a llawenydd ac arlwy mawr oedd yn ei aros. holl swyddogion y llys a drefnwyd wrth ei gyngor. Trefnwyd y neuadd, ac at y byrddau y daethant. Ac fel hyn yr eisteddasant, —Hefeydd Hen ar un llaw i Bwyll, a Rhianon ar y llall, a'r gweddill pob un fel y byddai ei anrhydedd. Bwyta a gwledda ac ymddiddan a wnaethant. Ac ar ddechreu y gyfeddach, wedi'r bwyd, hwy a welent yn dyfod i mewn was gwineu mawr, brenhinol ei olwg, a gwisg o bali am dano. A phan ddaeth i gyntedd y neuadd, cyfarch gwell a wnaeth i Bwyll a'i gymdeithion.

"Gras y nef fo it, enaid," ebe Pwyll, "a dos i eistedd."

"Nac af," ebe ef, "erfyniwr wyf, a'm neges a wnaf." Gwna yn llawen," ebe Pwyll.

"Arglwydd," ebe ef, "atat ti y mae fy neges, ac i'w gofyn gennyt y deuais."

"Pa arch bynnag a erchi di i mi, hyd y gallwyf ei gael, i ti y bydd."

"Och," ebe Rhianon, " paham y rhoi di ateb felly?"

"Ond oni roddodd efe yr ateb, arglwyddes, yng ngŵydd y gwŷr—da?" ebe'r llanc.

"Enaid," ebe Pwyll, "beth yw dy arch di?"

"Y wraig fwyaf a garaf yw Rhianon; ac i'w gofyn hi a'r arlwy a'r wledd y sydd yma y daethum." Distewi a wnaeth Pwyll, gan nad oedd ganddo ateb i'w roddi.

"Taw hyd y mynnot," ebe Rhianon.

"Ni fu gŵr yn fwy musgrell ar ei synwyr ei hun nag a fuost ti."

"Arglwyddes," ebe ef, "ni wyddwn i pwy oedd ef."

"Dyma y gŵr y mynasid fy rhoddi iddo o'm hanfodd," ebe hi, "Gwawl, fab Clud, gŵr o fawr allu a chyfoeth. A chan i ti ddywedyd y gair a ddywedaist, dyro fi iddo, rhag anghlod i ti."

"Arglwyddes," ebe ef, "ni wn i pa ryw ateb yw hwnnw, ac ni allaf fi wneud a ddywedi di byth."

"Dyro di fi iddo," ebe hi, a mi a wnaf na chaffo ef fyfi byth."

"Pa ffurf y bydd hynny?" ebe Pwyll.

"Mi a roddaf i'th law god fechan, a chadw honno'n dda. Ac efe a ofyn y wledd, a'r arlwy, a'r danteithion, ac nid ydynt yn dy feddiant. A myfi a roddaf y wledd i'r gwyr a'r teulu," ebe hi, "a dyna fydd dy ateb am hynny. Am danaf finnau," ebe hi, "mi a wnaf gytundeb âg ef i'w briodi flwyddyn i heno. Ac ymhen y flwyddyn, bydd dithau a'r god hon gennyt gyda'th farchogion,— tydi yn ganfed, yn y berllan uchod. A phan fo ef ar ganol y digrifwch a'r gyfeddach, tyred dithau dy hun i mewn, a dillad gwael am danat, a'r god hon yn dy law. Ac na ofyn ddim namyn llond y gôd o fwyd. A minnau a baraf," ebe hi, pe dodid ynddi hynny o fwyd a diod sydd yn y saith gantref yma, na fydd yn llawnach na chynt. Ac wedi bwrw llawer iddi, ef a ofyn i ti,— A fydd lawn dy gôd di byth?' Dywed dithau.—' Na fydd, oni chyfyd boneddwr tra chyfoethog, a gwasgu à'r ddeudroed y bwyd sydd yn y gôd,' a dweyd, 'Digon a roddwyd yma.' A minnau a baraf iddo fyned a sangu y bwyd yn y gôd. A phan el ef, tro dithau y god oni el ef dros ei ben i'r god, ac yna taro gwlwm ar gareiau y gôd. A bydded corn canu da am dy wddf. A phan fo ef yn rhwymedig yn y gôd, dod dithau lef ar dy gorn, a bydded hyn yn arwydd rhyngot a'th farchogion. Pan glywont hwy lef dy gorn, disgynnent hwythau at y llys."

"Arglwydd," ebe Gwawl, gweddus fyddai i mi gael ateb am a ofynnais."

"Cymaint ag a ofynnaist," ebe Pwyll, ar sydd yn fy meddiant i, ti a'i ceffi."

"Enaid," ebe hithau, Rhianon, am y wledd a'r danteithion sydd yma, hyn a roddais i wyr Dyfed, a'r teulu a'r niferoedd y sydd yma, y rhai hyn ni adawaf fi eu rhoddi i neb. Blwyddyn i heno y bydd gwledd ddarparedig yn y llys hwn i tithau, enaid, a deuaf yn wraig i ti."

A Gwawl a gerddodd tua'i wlad. Pwyll yntau a ddaeth i Ddyfed.

A'r flwyddyn honno a dreuliodd pawb ohonynt hyd amser y wledd oedd yn llys Hefeydd Hen. Gwawl fab Clud a ddaeth tua'r wledd oedd ddarparedig iddo, daeth i'r llys, a llawen Fel y rhoddwyd Gwawl mewn sach fuwyd wrtho. Pwyll Pen Annwn yntau a ddaeth i'r berllan gyda'i farchogion,— ef yn ganfed fel y gorchymynasai Rhianon iddo, a'r god ganddo. Gwisgoedd bratiog trymion roddodd Pwyll am dano, a llopanau am ei draed. A phan wybu eu bod ar ddechreu y gyfeddach wedi bwyta, aeth rhagddo i'r neuadd. Ac wedi dyfod i gyntedd y neuadd, cyfarch gwell a wnaeth i Wawl fab Clud, a'i gydymdeithion o wŷr a gwragedd.

"Duw a fyddo dda wrthyt," ebe Gwawl, "a chroesaw i ti"

Arglwydd," ebe yntau, "Duw a dalo iti, ar neges yr wyf atat."

"Y mae iti groesaw," ebe Gwawl, ac os gofynni i mi rywbeth rhesymol, ti a'i cai yn llawen."

"Rhesymol, arglwydd," ebe ynteu, "ni ofynnaf ond rhag eisiau, sef yr arch a archaf,—llond y gôd fechan a weli di o fwyd."

'Gofyn di—draha yw hynny," ebe Gwawl, "ti a'i cai yn llawen. Dygwch fwyd iddo."

Rhifedi mawr o wyr a godasant i fyny gan ddechreu llenwi y god. Ac er a fwrid iddi, ni byddai lawnach na chynt.

"Ha ddyn ! "ebe Gwawl, a fydd lawn dy god di byth!" 6 "Na fydd," ebe Pwyll, er a ddoder ynddi byth, oni chyfyd boneddwr fedd dir a daear a chyfoeth, a sangu'r bwyd yn y god â'i ddeudroed a dweyd,—Digon a ddodwyd yma.'

"Cyfod," ebe Rhianon wrth Wawl fab Clud, "i fyny ar fyrder."

'Cyfodaf yn llawen," ebe ef.

A chododd i fyny a rhoddodd ei ddeudroed yn y god; a throdd Pwyll y gôd nes oedd Gwawl dros ei ben ynddi, cauodd y gôd yn gyflym, a tharawodd ar y careiau. Canodd ei gorn, ac ar hynny dyma y gwŷr yn dylifo i'r llys, ac yn cymryd pawb o'r nifer a ddaeth gyda Gwawl a'u dodi yn y carchar. Taflodd Pwyll y bratiau carpiog a'r llopanau oddiam dano, a phan ddelai ei wŷr i mewn, tarawai pob un ddyrnod ar y god, gan ofyn,"Beth sydd yma? "Broch," ebe hwythau.

Felly chware â'r god a wnaethant, ac fel hyn y chwareuent,—tarawai pob un y gôd naill ai â'i droed, ynte â'i ffon. Ac fel y deuai pob un i fewn, gofynnai,—

"Pa chware yw hwn?"

"Chware Broch yng nghôd," ebe hwythau. Dyma pryd y chwareuwyd "Broch yng nghôd " gyntaf.

'Arglwydd," ebe'r gŵr o'r god, pe gwrandewit fyfi, nid wyf yn haeddu fy nghuro mewn côd."

"Gwir a ddywed," ebe Hefeydd Hen, "iawn yw it ei wrando, ni haedda hyn."

"Ie," ebe Pwyll, "mi a wnaf dy gyngor amdano ef."

'Dyma fy nghyngor," ebe Rhianon. "Yr wyt yn y lle y perthyn arnat lonyddu y rhai sydd yn gofyn dy ffafr a'r cerddorion. Gad iddo ef roddi i bawb drosot," ebe hi, "a chymer ymrwymiad ganddo na bo ymofyn na dial byth amdano. Digon yw hynny o gosb arno."

"Efe a gaiff hynny yn llawen," ebe'r gŵr o'r god.

"Minnau a'i cymeraf yn llawen," ebe Pwyll, os dyna gyngor Hefeydd a Rhianon."

Hynny yw ein cyngor ni," ebe hwynt.

"Cymeraf ef," ebe Pwyll, "cais feichiau drosot."

"Ni a fyddwn drosto," ebe Hefeydd, "hyd oni fydd ei wyr yn rhydd i fyned drosto."

Ar hynny, gollyngwyd ef o'r gôd a rhyddhawyd ei oreu-wyr.

"Gofyn weithion i Wawl am feichiau," ebe Hefeydd, "ni a adwaenom y neb y dylid eu cymryd ganddo."

Enwodd Hefeydd y meichiafon. "Llunia dy amod dy hun," ebe Gwawl.

Digon yw gennyf fi fel y lluniodd Rhianon," ebe Pwyll.

"Ie, arglwydd," ebe Gwawl, "briwedig wyf fi, a doluriau mawr a gefais, ac y mae yn rhaid i mi wrth enaint, ac ymaith yr af os caniatei. A mi a adawaf wyr-da yn y lle yma i ateb pawb ar a'th ofynno."

Yn llawen," ebe Pwyll, a gwna dithau hynny."

Aeth Gwawl tua ei wlad, a threfnwyd y neuadd i Bwyll a'i wyr a gwŷr y llys hefyd. Ac eistedd wrth y byrddau a wnaethant; ac fel yr eisteddasant flwyddyn i'r nos honno, yr eisteddodd pawb yn awr. Bwyta ac yfed a wnaethant, a phriodwyd Pwyll â Rhianon.

A thrannoeth, yn ieuenctid y dydd, Arglwydd," ebe Rhianon, "cyfod i fyny, a dechreu dawelu'r cerddorion, ac na omedd neb heddyw ar a fynno dda."

"Hynny a wnaf fi yn llawen," ebe Pwyll, "heddyw a beunydd tra y parhao y wledd hon."

Cyfododd Pwyll i fyny, a rhoddodd osteg i wahodd yr holl rai ddymunent ffafr a'r cerddorion i ymddangos, ac i fynegi iddynt y boddlonid pob un ohonynt wrth ei fodd a'i fympwy. Hynny a wnaethpwyd, a'r wledd honno a dreuliwyd, ac ni omeddwyd i neb ddim tra y parhaodd. A phan ddarfu y wledd, dywedodd Pwyll wrth Hefeydd,—

Arglwydd, mi a gychwynaf yfory tua Dyfed, gyda dy gennad."

Ie," ebe Hefeydd, "rhwydd hynt i ti, a dywed yr amser a'r adeg y del Rhianon ar dy ol."

"Yn wir," ebe Pwyll, "ynghyd y cerddwn oddiyma."

"Ai felly y mynni di, arglwydd?" ebe Hefeydd.

"Ie, yn wir," ebe Pwyll.

Cerddasant drannoeth tua Dyfed, a daethant i lys Arberth, a gwledd ddarparedig oedd yno iddynt. Daeth llawer o wyr a gwragedd goreu y wlad a'r etifeddiaeth i edrych amdanynt, ac ni adawodd Rhianon neb ohonynt heb roddi iddo rodd enwog,—naill ai o freichled, ai o fodrwy, ai o faen gwerthfawr.

Llywodraethu y wlad yn llwyddiannus a wnaethant y flwyddyn honno, a'r ail. Ac yn y drydedd flwyddyn, dechreuodd gwŷr y wlad fod yn drwm eu bryd o weled gŵr a garent gymaint a'u harglwydd, a'u brawdmaeth, yn ddi—etifedd. A dyfynnu y wlad atynt a wnaethant. A'r lle y daethant iddo oedd Preseleu, yn Nyfed.

"Arglwydd," ebe hwy, "ein hofn ni yw na bydd i ti etifedd o'r wraig sydd gyda thi. Ac wrth hynny cymer wraig arall, y bo etifedd i ti ohoni. Nid byth," ebe hwy, "y parhei di; a phe caret ti fod felly, nis dioddefwn ni gennyt."

"Ie," ebe Pwyll, "nid hir eto yr ydym ynghyd; a llawer damwain a ddichon fod. Oedwch hyn â mi hyd ymhen y flwyddyn. A blwyddyn i'r amser hwn, down ynghyd; ac wrth eich cyngor y byddaf."

Fel y collwyd baban yn y nosPennwyd felly. Cyn pen y cwbl o'r flwyddyn, mab a aned iddo. Ac yn Arberth y ganed. A'r nos y ganed ef dygwyd gwragedd i wylied y mab a'i fam. A beth wnaeth y gwragedd ond cysgu, a mam y mab, Rhianon. Ac yr oedd chwech o wragedd yn yr ystafell. Gwylio a wnaethant yn wir dalm o'r nos, ond cyn hanner nos cysgu a wnaeth pob un ohonynt, a thua'r plygain deffro. A phan ddeffroasant, edrychasant ar y lle y dodasant y mab,—ac nid oedd dim ohono

Och!" ebe un o'r gwragedd, "fe golles y mab." Ie," ebe un arall, "a dial bychan fuasai ein llosgi ni, neu ein dienyddio, am golli y mab." "A oes," ebe un o'r gwragedd, gyngor yn y byd inni?

Oes," ebe un arall, "mi a wn gyngor da." "Beth yw hynny ?" ebe hwy.

"Y mae yma ast," ebe hi, a chenawon ganddi. Lladdwn rai o'r cenawon ac irwn wyneb Rhianon â'r gwaed, a'i dwylaw; a bwriwn yr esgyrn ger ei bron. A thaerwn arni ei hun ddifetha y mab. Ac oni fydd ein llw ni ein chwech yn gadarnach na'i gair hi ei hun?"

Ac ar y cyngor hwnnw y trigiasent. Tua'r dydd deffrodd Rhianon, a dywedodd,—

"Wragedd," ebe hi, "lle mae'r mab?"

"Arglwyddes," ebe hwy, "na ofyn i ni am y mab. Nid oes o honom ni ond cleisiau ac ôl dyrnodiau wedi ymdaro â thi. Ni welsom ni erioed wraig yn meddu'r fath nerth a thydi. Ni thyciodd i ni ymryson yn dy erbyn. Fe ddinistriaist dy fab dy hun. Na hawlia ef gennym ni."

"Ha druain," ebe Rhianon, "yr Arglwydd Dduw a ŵyr bob peth, na roddwch anwiredd arnaf. Y Duw a ŵyr bob peth a ŵyr fod hynny'n anwiredd. Ac os ofn sydd arnoch, yn wir, mi a'ch amddiffynnaf."

"Yn sicr," ebe hwythau, "ni adawn ni ddrwg ddod arnom ein hunain er dyn yn y byd."

"O druain," ebe hithau, "ni chewch un drwg er dywedyd y gwirionedd."

Ond er a ddywedai hi, yn deg ac yn druan, ni chai ond yr un ateb gan y gwragedd.

Ar hynny, cododd Pwyll Pen Annwn a'i deulu a'i luoedd. A chelu y ddamwain honno ni allwyd. I'r wlad yr aeth y chwedl, a phawb o'r gwŷr—da a'i clybu. A daethant i gyd at Bwyll i erchi iddo ysgar a'i wraig, am gyflafan mor anweddus ag a wnaethai. Atebodd Pwyll nad oedd ganddynt hwy achos i wneud iddo ysgar a'i wraig, namyn am na byddai ganddi blant.

"Plant, mi a wn sydd ganddi," ebe Pwyll, "ac nid ysgaraf â hi. Os gwnaeth gam, cymered ei phennyd amdano."

Galwodd Rhianon ati athrawon a doethion, a chan fod yn well ganddi gymryd ei phennyd nac ymdaeru â'r gwragedd, ei phennyd a gymerodd. A'r pennyd ddodwyd arni oedd, bod yn y llys hwnnw yn Arberth hyd ymhen y saith mlynedd. Wrth y porth yr oedd esgynfaen; ac yr oedd yn rhaid iddi eistedd gerllaw hwnnw beunydd, a dweyd yr holl hanes wrth bawb ar a ddelai, os tebygai na wyddent yr hanes o'r blaen, a chynnig dwyn pob ymwelwr ac estron ar ei chefn i'r llys. A damwain y gadawai neb iddi ei ddwyn. Ac felly treulio talm o'r flwyddyn a wnaeth.

Ac yn yr amser hwnnw yr oedd Teyrnion Twrf Fliant yn arglwydd ar Went Iscoed. A'r gŵr goreu yn y byd oedd. Ac yn y tŷ yr oedd caseg, ac nid oedd yn ei deyrnas farch na chaseg decach na hi. A phob nos Calanmai deuai ag ebol bach, ac ni wyddai neb beth a ddeuai o'r ebol. Ac un noswaith ymddiddanodd Teyrnion â'i wraig.

"Ha wraig, llibin ydym yn cadw epil ein caseg heb gaffael yr un ohonynt."

"Beth a ellir wrth hynny?" ebe hi.

Fel y Cafwyd baban "Yn wir," ebe ef, "nos Galanmai yw heno, a mynnaf wybod beth sydd yn dwyn yr ebolion."

Parodd ddodi'r gaseg mewn tŷ. Gwisgodd yntau arfau am dano, a dechreuodd wylio'r nos. Ac ar y cyfnos daeth y gaseg ag ebol mawr a hardd, yr hwn a safodd ar ei draed yn y fan. Cododd Teyrnion i edrych ar faint yr ebol. Ac fel yr oedd yn edrych felly, fe glywai dwrf mawr. Ac ar ol y twrf, dyma grafanc yn dod trwy ffenestr ar y tŷ, ac yn ymafael â'r ebol ger ei fwng. Tynnodd Teyrnion ei gleddyf, a tharawodd y fraich wrth y penelin ymaith, fel yr oedd darn o'r fraich a'r ebol ganddo i mewn. Ar hynny, clywai dwrf a therfysg. Agor y drws a wnaeth a rhuthro ar ol y twrf. Ni welai beth oedd yn gwneud y twrf gan dywylled y nos. Rhuthrodd ar ei ol, gan ymlid. A daeth i'w gof iddo adael y drws yn agored. Dychwel a wnaeth. Ac wrth y drws wele fab bychan yn ei grud, wedi troi llen o bali am dano. Cymerodd y mab bychan ato, ac yr oedd yn fachgen cryf o'r oed oedd arno. Dododd gaead ar y drws, ac aeth i'r ystafell lle yr oedd ei wraig.

Arglwyddes," ebe ef, "ai cysgu yr wyt ti?"

Nage, Arglwydd," ebe hi, "mi a gysgais, a phan ddaethost ti i mewn, mi a ddeffroais."

"Y mae yma fab i ti," ebe ef, "os mynni un na fu erioed i ti."

'Arglwydd," ebe hi, "dywed fel y bu." Mynegodd Teyrnion yr holl hanes wrthi.

"Pa fath wisg sydd am y mab?" ebe hi.

"Llen o bali," ebe yntau.

"Mab i ddynion mwyn yw felly," ebe hithau. Bedyddiwyd y mab yn ol yr arferiad yno, a'r enw roddwyd arno oedd Gwri Wallt Euryn; gan fod hynny o wallt oedd ar ei ben cyn felyned a'r aur. Meithrin y mab yn y llys a wnawd nes oedd yn flwydd; a chyn ei flwydd yr oedd yn cerdded yn gryf, a mwy oedd na baban teirblwydd fyddai mawr ei dwf a'i faint. Yr ail flwyddyn yr oedd gymaint a mab chwe blwydd, a chyn pen y bedwaredd, ceisiai ennill y gweision er mwyn iddo gael tywys y meirch i'r dwfr.

Arglwydd," ebe ei wraig wrth Deyrnion, "lle mae yr ebol achubaist y nos y cefaist y mab?"

"Mi a'i rhoddais i weision y meirch, ac erchais iddynt ofalu amdano."

Onid da i ti, arglwydd," ebe hi, "ei dorri i lawr a'i roddi i'r mab, canys y nos y cefaist y mab y ganed yr ebol, ac yr achubaist ef?" "Nid wyf yn erbyn hynny," ebe Teyrnion, "mi a adawaf i ti ei roddi iddo."

Da, arglwydd," ebe hi, "mi a'i rhoddaf."

Yna y rhodded y march i'r mab, a daeth hi at weision yr ystabl, a gweision y meirch, i orchymyn iddynt ofalu am y march, a'i fod yn hywedd erbyn y delai y mab i'w farchogaeth.

Yng nghanol yr helyntion hyn, clywsant newyddion rhyfedd am Rianon a'i phennyd. Oherwydd yr hyn oedd Teyrnion wedi ei ddarganfod, ymwrandawodd â'r hanes, ac ymofynnodd yn barhaus, nes iddo glywed, gan amlder y lliaws ddelai i'r llys, fynychu cwyno druaned oedd damwain Rhianon a'i chosb.

Meddyliodd Teyrnion lawer am hyn, gan edrych ar y mab yn graff, a chredai oddiwrth ei wynepryd na welsai erioed fab a thad cyn debyced i'w gilydd a'r mab hwn a Phwyll Pen Annwn. Yr oedd yn adnabod Pwyll yn dda, canys bu cyn hynny yn un o'i wŷr. Ac wedi hynny, gofidio a wnaeth am gadw'r mab, ac yntau yn gwybod mai mab gŵr arall oedd. A phan gafodd hamdden gyntaf gyda'i wraig, mynegodd iddi nad iawn iddynt hwy oedd cadw y mab a gadael cymaint poen ar wraig mor dda a Rhianon, o achos hynny, a'r mab yn fab i Bwyll Pen Annwn.

A gwraig Teyrnien a gytunodd anfon y mab i Bwyll.

A thri pheth, arglwydd," ebe hi, a gawn ni am hynny, diolch ac elusen am ollwng Rhianon o'r boen y mae ynddi,—diolch gan Bwyll am feithrin ac adfer ei fab, a'r trydydd peth,—os mai gŵr mwyn fydd y mab, mab maeth i ni fydd, a'r goreu a allo fyth a wna i ni."

A phenderfynasant felly.

Drannoeth trefnodd Teyrnion ei farchogion, ef yn drydydd, a'r mab yn bedwerydd farchog, ar y march a roddasid iddo gan Deyrnion, ac aethant tuag Arberth, ac ni buont yn hir yn cyrraedd yno. A phan ddaethant i ymyl y llys, hwy a welent Rianon yn eistedd yn ymyl yr esgyn-faen. A phan oeddynt gyferbyn â hi, dywedodd,—

"Ha, unben, nac ewch ymhellach, mi a ddygaf bob un ohonoch hyd y llys. A hynny yw fy mhennyd am ladd fy mab fy hun a'i ddifetha."

"Ha, wraig dda," ebe Teyrnion, "ni thebygaf y cymer un ohonom i ti ei ddwyn."

"Cymered a fynno," ebe y mab, "ni chymeraf fi."

"Yn wir, enaid," ebe Teyrnion, "ni chymerwn ninnau."

Aethant i'r llys, a derbyniwyd hwy gyda llawenydd mawr. Ac yn dechreu cynnal gwledd yr oeddynt yn y llys. Yr oedd Pwyll newydd ddod adref o gylchu Dyfed. I'r neuadd yr aethant i ymolchi, a llawen fu Pwyll wrth Deyrnion. Eisteddai Teyrnion rhwng Pwyll a Rhianon, a'r ddau gydymaith uwch law Pwyll, a'r mab rhyngddynt. Wedi darfod bwyta, a dechreu y gyfeddach, dechreuasant ymddiddan. A'r ymddiddan fu gan Deyrnion oedd, mynegi yr holl hanes am y gaseg ac am y mab, fel y bu y mab ar eu harddelw hwy,— Teyrnion a'i wraig,——ac fel y magasent ef.

"Ac a weli di yna dy fab, arglwyddes?" ebe Teyrnion," a phwy bynnag ddywedodd anwiredd arnat, cam a wnaeth; a minnau, pan glywais y gofid a fu arnat, trwm fu gennyf, a gofidio a wnaethum.

Ac nid wyf yn tebygu fod yma neb o'r nifer hwn oll nad adnabo fod y mab yn fab i Bwyll."

"Nid oes neb," ebe pawb, "nad yw ddiau ganddo hynny."

"Yn wir," ebe Rhianon, "amser esgor fy mhryder i a ddaeth, os gwir hynny."

Arglwyddes," ebe Pendaran Dyfed, "da y gelwaist di dy fab Pryderi, a goreu y gwedda iddo,—Pryderi fab Pwyll Pen Annwn.'

Edrychwch," ebe Rhianon, "nad gwell y gwedda ei enw ei hun iddo."

"Beth yw ei enw?" ebe Pendaran Dyfed.

"Gwri Wallt Euryn y galwasom ni ef.'

Pryderi," ebe Pendaran, "fydd ei enw ef."

"Iawnaf yw hynny," ebe Pwyll, "cymryd enw y bachgen oddiwrth y gair ddywedodd ei fam pan gafodd lawen chwedl am dano." Ac felly y galwyd ef Pryderi. "Teyrnion," ebe Pwyll, "Duw a dalo i ti am feithrin y mab hyd yr awr hon. Ac iawn yw iddo yntau, os bydd ŵr mwyn, dalu i ti."

"Arglwydd," ebe Teyrnion, "nid oes neb yn y byd yn fwy ei galar ar ei ol na'r wraig a'i magod ef. Ac iawn yw iddo gofio yr hyn a wnaeth fy ngwraig a finnau iddo." Yn wir," ebe Pwyll, "tra y byddaf byw ac y gallwyf gynnal fy eiddo fy hun, mi a'th gynhaliaf di a'th gyfoeth. Pan ddaw ef i'm lle, iawnach fydd iddo ef dy gynnal nac i mi. Ac os boddlon gennyt ti a'r gwŷr-da, rhoddwn ef ar faeth i Bendaran Dyfed o hyn allan, fel y megaist di ef hyd yn awr. A byddwch chwithau gyfeillion a thadmaethau iddo."

Cyngor iawn," ebe pawb, "yw hynny."

Yna rhodded y mab i Bendaran Dyfed, ac aeth gwŷr-da y wlad gydag ef.

Cychwynnodd Teyrnion Twrf Fliant a'i gymdeithion tua'i wlad mewn cariad a llawenydd; ac nid oedd neb heb gynnig iddo y tlysau tecaf, a'r meirch goreu, a'r cŵn hoffaf, ond ni fynnai ef ddim.

Magwyd Pryderi fab Pwyll Pen Annwn yn ymgeleddus, fel y dylasid, hyd nes y daeth y gŵr ieuanc harddaf a thecaf, a'r goreu ymhob camp dda oedd yn y deyrnas.

Felly y treuliasant flwyddyn, a blynyddoedd, nes y daeth terfyn ar hoedl Pwyll Pen Annwn ac y bu farw.

A theyrnasodd Pryderi ar saith gantref Dyfed yn llwyddiannus, a hoff oedd gan ei ddeiliaid a phawb o'i amgyleh. Ar ol hyn unodd dri chantref Ystrad Tywi â phedwar cantref Ceredigion, a gelwir y rhai hynny saith gantref Seisyllwch. Ac yn cynyddu ei deyrnas felly y bu Pryderi fab Pwyll Pen Annwn hyd nes y daeth i'w fryd briodi. A'r wraig a fynnodd oedd Cicfa ferch Wyn Gohoew fab Gloew Wallt Lydan, fab Casnar Wledig, un o bendefigion yr ynys hon.

Ac felly y terfyna y gainc hon o'r Mabinogion.