Madam Wen/Bedd Heb Ei Gloddio

Gadael yr Ogof Madam Wen

gan William David Owen

Cyflawni Hen Addewid



XVI

BEDD HEB EI GLODDIO

Ni wyddai Wil pa beth i'w feddwl pan welodd Robin yn dyfod i mewn i'r ogof ei hunan. Ac yn ôl ei arfer, cuchiog a dileferydd oedd Robin. Yr oedd gair garw o lw yn barod ar wefus Wil, ond wrth ganfod yn llygaid y llall olwg afrywiog a hyll barnodd mai diogelach y munud hwnnw fyddai dal ei dafod. O dipyn i beth daeth i ddeall sut yr oedd Robin wedi ei ryddhau ei hun, ond pa un ai byw ai marw oedd Madam Wen ni wyddai Robin, ac ni ofalai ychwaith.

Wedi chwilio'r ogof am beth amser yn hwy, a heb ddarganfod dim o werth neilltuol, aeth y ddau yn waeth eu tymer na chynt. Mewn drwg natur aethant i luchio a thaflu, nes gyrru'r lle i anhrefn. Aeth Wil mor bell ag edliw mai ynfydwaith, a dywedyd y lleiaf, oedd saethu'r unig berson a fedrai ddywedyd wrthynt ymha le'r oedd yr ysbail i'w gael. Ac yn yr ysbryd hwnnw, ac mewn gobaith cael Madam Wen yn alluog i'w goleuo ar yr hyn y dymunent ei wybod, yr aeth allan; a Robin heb fod ymhell ar ei sodlau.

Pan ddaeth i'r awyr agored a gweled nad oedd hi yn y fan lle y gadawsant hi, cafodd Wil siom. Rhedodd ychydig lathenni yma a thraw o gylch y lle, i edrych a oedd hi wedi peidio ag ymlusgo o'r golwg ac ymguddio. Synnodd Robin hefyd pan welodd ei cholli hi, ond ni thrafferthodd i chwilio. Pan ddaeth Wil ato dangosodd iddo'r llecyn lle y gorweddasai hi, gan awgrymu bod yn rhaid mai wedi dianc yr oedd. Ar hyn daeth ei hen arswyd o'r crocbren dros Wil fel tymestl. Os oedd hi'n wir wedi dianc, nid oedd ei hoedl ef bellach yn werth gronyn o haidd. Am ddau funud gwyllt bu hoedl Robin hefyd yn y fantol, ond treuliodd y storm ei nerth mewn geiriau, ac aeth Wil o'r lle i barhau ei ymchwil, gan adael Robin yn sefyllian o gwmpas yr ogof.

Ni bu Wil yn hir cyn i'w lygaid craff ganfod perygl yn y pellter. Symudai'n wyliadwrus, ar dir cynefin. Heb fod ei hun yn weledig canfu yswain Cymunod yn dynesu fel un o dduwiau dial. Ymgladdodd ar unwaith yn y prysglwyni tewion.

Y pryd hwnnw y daeth i ddeall dirgelwch symudiad Madam Wen. Daeth i'w feddwl hefyd mai brad Nanni oedd i gyfrif am hyn i gyd. Ac yn y lle'r ymguddiai aeth i bwyllog ystyried ei sefyllfa. Yr oedd yn eglur bod pethau wedi dyfod i'r pen yn y parciau, ac y byddai o hyn allan ddylanwadau yn ei erbyn ef na byddai modd eu hosgoi. Nid rhyfedd oedd iddo ddyfod i'r casgliad cyfrwys mai dianc yn ddioed, a gadael Robin i gymryd ei siawns, a fyddai'r diogelaf iddo ef. Am hynny trodd ei wyneb tua'r môr, a'i gefn ar lyn ac ogof a bwthyn, ac ymlwybrodd yn wyliadwrus ymlaen dan gysgod yr eithin, a chan ddisgwyl nos i guddio'i symudiadau pellach.

Yn ei dro gwelodd Robin hefyd yr yswain yn dynesu, a rhywbeth yn ysgogiad hwnnw yn arwyddo bod ei neges yn un erch. Troes yntau ar ei sawdl, a dechreuodd gerdded ymaith. Yr un adeg gwelodd yr yswain Robin, a dilynodd ef yn bwyllog a didwrw. Ni ddaeth i feddwl y lleidr i sefyll ei dir, a gwadu'r bai. Cerddodd ymaith, gan gymryd y camwedd arno'i hun fel pe'n ddiarwybod. A theimlai'r yswain ymhob cymal o'i gorff mai llofrudd oedd hwn a symudai o'i flaen.

Yr oedd Robin yn rhy ystyfnig ei natur i fradychu brys, ac am hynny ennill tir a wnâi'r yswain. Hwyrach mai dyna a wnaeth i Robin o'r diwedd droi o'i lwybr a thorri ar draws at fin y gors.

Ar dywydd sych yr oedd llwybr o ryw fath drwy'r gors, a'i ben rywle yn y fan honno. Sarn ydoedd ac heb fod yn hawdd na diogel i'w cherdded, ar ambell garreg ac ar wreiddiau cryfion yr hesg ac yma ac acw ar foncyffion hanner pydredig coed, gyda gorffwys yn awr ac eilwaith ar ddernyn caletach o ddaear. Ond o'r ddeutu, ac ar bob llaw, yr oedd y donnen ddu, megis heb waelod i'w haflendid. Llwybr ydoedd y gallai'r cynefin anturio arno ar adeg briodol, ond magl angeuol i un dieithr ar unrhyw adeg. Am hwn y chwiliai Robin, gan hyderu cael ymwared felly o'r hwn a'i hymlidiai.

Gall mai ffwdanu a wnaeth yr adyn, a cholli pen y llwybr wrth weld yr yswain mor agos ato. Sut bynnag am hynny, daeth o'r diwedd i'w unfan mewn magl rhwng y siglen dwyllodrus ag wyneb serth craig o'i flaen. Daeth y llall i'r fan hefyd, a golau yn ei wyneb yntau a awgrymai'n eglur y gallai bod awr olaf un o'r ddau wedi dyfod.

Mor dawel oedd diwedd y dydd, heb awel yn symud na sŵn i'w glywed ond su ambell i wenynen oedd yn hwyr noswylio. Yr haul ar i waered tua'r mynydd Twr, a'r byd yn llonydd. Noswaith hafaidd ac amgylchoedd hyfryd, ac eto nwydau dinistriol yn cyniwair yng nghanol yr hyfrydwch.

A'i gefn at y gors safodd Robin fel rhyw fwystfil mawr wedi ei gornelu ac ar fin ymosod, cynddaredd a braw yn ei edrychiad. Yr oedd yn ddyn corffol; ei gefn yn llydan, a'i freichiau'n nerthol os yn afrosgo. Ni ddywedodd Morys air, ond darllenodd Robin ei fwriad, ac aeth ei law i'w logell am un o law—ddrylliau Madam Wen. O fewn pumllath i'w nod saethodd. Ond daeth y llall ymlaen gyda naid, fel un a wawdiai fân deganau diniwed felly. Taflodd Robin y dryll i'r llawr, ac ymbaratodd.

Morys oedd y talaf a'r ystwythaf, ond i gyfarfod hynny yr oedd i Robin ddyrnau fel cerrig a natur mor gignoeth â dywalgi. A gwastad fu'r ymladdfa am ysbaid, y taro ffyrnig a'r osgoi deheuig.

Un dyrnod deg gan Morys a fuasai'n llorio Robin er lleted ei gefn, a gwyddai yntau hynny'n burion. Yr oedd ei freichiau'n dduon o gleisiau ers meityn. Ymladdai'r yswain gyda gofal neilltuol. Yr oedd wedi taro ar y nesaf i'w hafal mewn nerth braich a welsai erioed, ac yn gwybod hynny. Gwyddai hefyd ei fod yn ymladd â llofrudd, ac mai angau'n unig oedd i roddi pen ar yr ornest o du Robin.

Ni sylwodd yr un o'r ddau mai modfedd wrth fodfedd yr enillai Morys dir ar leithder min y gors. Ac yn ei gyfyngder, a bron yn ddiarwybod iddo'i hun y gafaelodd Robin yn arddwrn ei wrthwynebydd. Am un amrantiad y parhaodd yr afael honno. Ysgydwodd y llall ef ymaith fel pryfyn gwenwynllyd, ac ar drawiad ymsaethodd ei fraich yntau am gefn y lleidr.

Ymhleth mewn gefynnau haearnaidd ymsiglai’r ddau ôl a blaen, heb fantais amlwg i'r un, y naill fel y llall yn ymgais am yr afael orau. Nid oedd yno neb i weld mor agos yr oedd gelyn arall i drechu'r ddau yn ddiwahaniaeth, gan fygwth eu llyncu i'w grombil aflan, heb sôn mwy amdanynt. Robin a gafodd yr afael orau gyntaf. Cododd cyhyrau ei freichiau i fyny fel pelennau pwysfawr o haearn wrth wasgu ei wrthwynebydd, mewn un ymgais fawr derfynol i'w ddifa. Teimlodd Morys ddwy neu dair o'i asennau'n torri fel brigau crin yr eithin. Plannodd yntau ei ddeheulaw yng ngwddf Robin fel un yn cael ei gynnig diwethaf.

A'i anadl ar ddechrau pallu crynhodd Morys ei holl nerth i'w ddeheulaw, oedd yn awr fel gefail o ddur ym mwnwgl y llall. Ac fel y tynhai ei afael, llaciai breichiau'r lleidr am ei ganol yntau, fel pe'n araf ddiffrwytho. Dechreuodd wyneb Robin dduo, a'i lygaid sefyll allan a dangos ymylon fflamgochion.

Wrth weld y llall yn siglo ar ei draed, a deall nad allai wrthwynebu ymhellach, ciliodd yr awch am ei gosbi o galon Morys, a daeth iddi'r tynerwch oedd gynhenid yno.

"Llofrudd wyt ti, Robin, ond Duw biau dial!" meddai, ac ar hynny gollyngodd ei afael a chiliodd yn ôl, ond mewn anhawster, gan deimlo am y tro cyntaf frath y boen oddi wrth ei asennau drylliedig. A'i sylw ar hyn, clywodd lw, a phan droes i ail—edrych gwelodd Robin at ei geseiliau yn y donnen.

Gan amcanu cynorthwyo'r adyn, er gwaethed oedd, nesaodd at ymyl doredig y donnen, ond wrth geisio ymestyn i afael yn ei law suddodd ei goes yntau hyd at y glin yn y siglen fudr—ddu. Ymdaflodd yntau'n wysg ei gefn a disgynnodd ar lecyn o'r wyneb oedd gryfach, gan wybod yn dda mor gyfyng fu ei ddihangfa.

Gwnaeth frys i ail—gynnig, ac erbyn hynny nid oedd ond pen ac ysgwyddau Robin yn y golwg. Ar ei bedwar, ac mewn mawr boen, ymlusgodd Morys yn nes; ond gwelodd na fedrai ei gyrraedd. 'i wyneb yn ddu—las, ddychrynllyd, taflodd Robin ei freichiau ar led ar wyneb y dom mewn ymgais wallgof i'w gadw ei hun i fyny. Tynnodd Morys ei gôt, a chan afael mewn un cwr gwnaeth raff ohoni i'w thaflu ato.

Ond methodd Robin a gafael ynddi, ac odditano sugnai'r gors ei hysglyfaeth i'w pherfedd aflan, yn araf, araf. Gyda gwaedd arswydus ymdaflodd Robin eilwaith, gan luchio llaid lathenni o'i gylch.

Pan ddarfu'r gawod laid edrychodd Morys amdano, ond heb ei ganfod. Daliodd i syllu'n hurt ar y fan, gan led—ddisgwyl ei weld yn codi drachefn. Ond er disgwyl ni ddaeth dim i dorri ar lonyddwch wyneb du'r donnen ond rhyw ddwy neu dair o yswigod.

Ac wedi eistedd yn y fan honno, daeth Morys i deimlo rhyw oerfel dieithr yn ei aelodau, a chan feddwl mai'r lleithder a achosai hynny, ymlusgodd i dir sych at droed y graig ac eisteddodd yno ar y glaswellt.

Pan amcanodd symud a mynd i chwilio am Lewys, teimlodd ryw ysgafnder yn ei ben, a niwl o flaen ei lygaid, ac yr oedd brathiadau poen yn fwy mynych ac yn fwy miniog nag o'r blaen. Dywedodd wrtho'i hun y deuai'n well yn union, ac yr âi adref wedyn, ond y gorffwysai yn gyntaf.

Yn fuan teimlodd frath rhyw wayw llym nad oedd wedi ei deimlo o'r blaen. Yn ei ystlys yr oedd hwnnw, ac erbyn gweld yr oedd wedi gwaedu llawer. Cofiodd i Robin saethu ato.

Yr oedd yr haul yn tynnu at y gorwel, a'r ddaear yn dechrau gwlitho. Ar y gors cododd tarth fel hugan llwyd i guddio'i hwyneb. Ni welai Morys ddim ohoni'n awr heblaw'r pwll y suddodd Robin iddo. Arhosai hwnnw o flaen ei lygaid heb darth i'w guddio, yn llecyn moel i'w atgofio, fel bedd newydd ei gau mewn mynwent las.

"Rhaid i mi godi a mynd," meddai wrtho'i hun fwy na dwywaith, ond bob tro y cynigiai syrthiai'n ôl drachefn fel plentyn heb ddysgu cerdded. Caeodd ei lygaid rhag gweled y donnen.

Ond ni chai orffwystra i gorff na meddwl. Brathai poenau ei gorff yn enbyd. Curiai ei feddwl hefyd. Gwnâi a fynnai, rhuthrai rhyw feddyliau gwylltion terfysglyd drwy ei ben, ac ni fedrai ymdawelu. Ar adegau meddyliai mai breuddwydio yr oedd, ond deuai fflachiadau eraill o ymwybod gwell pan wyddai'n eithaf da ei fod yn effro ac mewn poenau dirfawr. Ni feddyliodd unwaith mai brwydr ffyrnig oedd yno rhwng afiechyd a'i gyfansoddiad cadarn ef ei hun.

Unwaith gwelodd ef ei hun gydag Einir ar ben y Penmaen dyfnder echrydus islaw iddynt, a hithau'n dawnsio mewn rhyfyg chwareus ar ei drothwy. Daeth Robin y Pandy'n llechwraidd o rywle a thaflodd hi dros y dibyn bendramwnwgl o flaen ei lygaid, i lawr, i lawr, i'r eigion creulon islaw—a deffrodd yntau gyda naid! Gwelodd hi eilwaith yn gwingo yng ngafaelion llofruddion yn ymbil arno ef ar iddo ei gwaredu, ac yntau wedi ei glwyfo a'i rwymo a heb nerth i symud. Gwelodd gorff rhyw wyryf deg yn gorwedd ar y glaswellt, ac yntau'n ymdaith y ffordd honno. Ac wrth iddo'n dyner ei chodi, cafodd mai ei anwylyd ef ei hun oedd hi!

Cafodd ysbaid byr o weld yn eglur drachefn, a daeth i wybod ei fod mewn poenau enfawr. Dymunodd gael marw a'i synhwyrau yn ei feddiant, a chyn i nos a'i dychrynfeydd ddyfod drachefn i ffurfafen ei feddwl. Ond daeth nos eilwaith.

Yr oedd Lewys Ddu yn farch ymysg mil am ufudd-dod. Gwyddai am rwymedigaeth i barchu dymuniadau ei berchen i'r eithaf. Yr oedd ganddo feistr teg a charedig, gŵr na byddai un amser yn trethu amynedd hyd yn oed march yn ormodol. Treuliodd Lewys ddwyawr difyr yn pori yn ymyl y llyn. Yr oedd yno damaid blasus, a a swyn newydd-deb ynddo. Ond wrth weled nos yn dynesu, a'i feistr heb ddychwelyd, aeth y ceffyl du'n anesmwyth, a'r borfa'n ddiflas. Ni chaniatâi ei foesau da iddo weryru, er bod awydd gwneud hynny arno.

Wedi disgwyl yn hir iawn anturiodd gerdded i dir oedd uwch, er mwyn gweled y wlad. Ac wedi torri'r garw felly, nid oedd waeth mynd rhagddo bellach. I lawr y bryn, â'i ffroen wrth y llawr, cyflymodd ei gamau. Trwy ryw synnwyr rhyfeddol daeth o hyd i'r llwybr a deithiodd Morys, ac mewn hyder llawn. bod maddeuant i'w gael os oedd wedi troseddu, daeth i'r llecyn wrth sawdl y graig ar fin y gors lle y gorweddai ei arwr.

Ond derbyniad oeraidd a gafodd o edrych arni o safbwynt march o gymeriad gloyw. Aeth gam yn nes rhag digwydd na wyddai ei feistr ei fod yno. Ond ni chafodd na chyfarch cynnes nac ychwaith air addfwyn o gerydd, dim ond distawrwydd fel canol y nos. Methai'n lân a deall hynny. Safodd yno'n hir iawn ac yn hynod amyneddgar, ond ni ddeuai golau o unlle ar y dirgelwch. Hyfdra a fuasai llyfu wyneb ei feistr, hwyrach, ond yr oedd blys gwneud hynny arno. Aeth mor bell a ffroeni yn ofalus ac yn hir o gylch ei ben. Ond er hynny ni chafodd eglurhad yn y byd ar ymddygiad anghyffredin ei berchen. Nid oedd dim i'w wneud ond arfer mwy o amynedd. Ac am hynny penododd Lewys ef ei hun yn wyliedydd mud uwchben yr un a garai yn fwy na neb arall.

Nodiadau golygu