Gneud Zebras Nedw

gan Edward Tegla Davies

Mesur Tir

III.—ANTI LAURA.

"Edward," medde mam, ryw fin nos, wrth nhad, "ydech chi'n meddwl bod y sciarlet ffefar yn gatshin?"

Eistedd wrth y tân yr oedd nhad ar y pryd yn darllen yr Esboniad tan gau ei lygid, ac yn cyd-weld â popeth a ddarllennai, a barnu oddiwrth ei waith yn nodio. Ac eistedd wrth y tân, yn syllu iddo, yr oedd mam, ac Isaac yn cysgu ar ei glin, a minne'n gneud blaen ar bensel blwm, ac yn ceisio cuddio'r hollt oedd yn gwaedu yn fy mys i, a wnaed pan slipiodd y gylleth, neu ei cholli hi faswn i.

"Yn gatshin?" medde nhad, pan sensiodd o fod mam yn siarad, "ydi, debyg iawn. Be wnaeth i chi feddwl?"

"Wel," medde mam, "dene'r ysgol wedi cau, a hyd yn oed Wmffre dani hi, ac mae o'n gryfach o lawer na Nedw ac Isaac bach."

"Wel," medde nhad, "os ydi hi i ddwad, mi ddaw, a does dim i'w neud ond ei chymyd hi."

"Dydi hi ddim yn y dre," medde mam.

"Nagydi," medde nhad, "ond pa help sydd yn hynny?"

"Hyn," medde mam, dan grafu ei chlust â phin wallt. A phan wna mam hynny, mae o'n arwydd bob amser ei bod o ddifri. "Mae Laura 'n chwaer-yng-nghyfreth yn byw yno, a braidd yn unig â James oddicartre. Ac roeddwn i'n meddwl y base Nedw ac Isaac yn cael mynd yno am bythefnos, ac Annie'n cael mynd i dŷ Leisa fy chwaer."

"Yr argen fawr!" medde nhad, "Laura! Feder honno roi dim bwyd o'u blaene nhw ond tunie salmon, a chacenne ceiniog. Mi fyddan wedi llwgu, neu wedi marw o'r beil, cyn pen hanner yr amser."

Yr oeddwn i wedi moeli nghlustie ers meityn, ac Isaac wedi deffro. Ac o'r diwedd, wedi i ni ein dau ddangos fel yr oedd arnom ni ofn y sciarlet ffefar, cydsyniodd nhad. Ond nhad oedd yn iawn. Mi fase'n well gen i erbyn hyn taswn i wedi aros gartre i gael y sciarlet ffefar, yn lle cael Anti Laura, a'r sciarlet ffefar.

"Pryd cawn ni fynd?" medde fi wrth mam. "Dydd Llun," medde mam. Ac yr oedd hi yrwan yn nos Iau. Roedd tipyn o amser i aros, ond fase fo ddim llawer onibae am Isaac. Peder oed ydio, ac mae'n amhosibl stwffio dim i'w ben. Ac yr oedd arno eisio cychwyn bob yn ail munud. Bore drannoeth dyma fo ata i, a gofyn pryd yr oeddem ni'n mynd i dŷ Anti Laura. "Yr wythnos nesa," medde fi. Ac i ffwrdd â fo. Dyma fo yn ei ol cyn pen pum munud, ac yn gofyn,—

"Nedw, ai heddyw ydi'r wsnos nesa?"

"Nage," medde fi, "mae eisio cysgu dair gwaith eto." Ac i ffwrdd â fo wedyn. Tuag amser cinio roedd o ar goll, ac mi fuom yn edrych trwy'r pnawn amdano fo. Tua phedwar o'r gloch aeth mam i'r llofft, a dene lle roedd Isaac yn ei wely yn ei ddillad. Neidiodd mam iddo fo, a deffrodd. A'r peth cynta ofynnodd oedd, sawl gwaith oedd eisio cysgu wedyn cyn mynd i dŷ Anti Laura, gan ei fod o wedi cysgu un ohonyn nhw yn barod. Rhywbeth fel ene gefes i tan amser cychwyn. Mi fase'r sciarlet ffefar yn well na'i holi o. A phnawn Sul mi ddaeth i'r pen arna i.

"Pryd yden ni'n mynd, Nedw?" medde Isaac.

"Fory," medde fi.

"Ddoe," medde Isaac.

"Nage," medde fi, "fory."

"Wel, ddoe ydi fory," medde Isaac. Ac fel hyn yr oedd o tra buom ni yn nhŷ Anti Laura.

Pnawn Sadwrn, deydodd mam wrth nhad,— "Mae'n siwr, Edward, fel y deydsoch chi, na chân' nhw fawr o drefn ar fwyd yno. Feder Laura druan neud fawr o ddim ond dyrnu'r hen biana hwnnw. Be dasen ni'n anfon gwningen a giar iddi hi, a thipyn o wye? Dase'r bechgyn yn mynd â'r wningen efo nhw, ac inni anfon yr iâr erbyn y Sul." Aeth nhad allan, a chyn bo hir roedd o'n ol efo gwningen.

O'r diwedd dyma fore Llun yn dwad. Sôn am Wmffre yn sâl! Ynghanol y fath blagio mi newidiwn ddau le efo fo yn y funud. Efo John Roberts y cigydd roedden ni'n mynd, ac Isaac yn holi a thaeru fel melin bob cam o'r ffordd. Wedi cyrraedd tŷ Anti Laura, fase'r brenin ddim yn disgwyl croeso gwell. Mi cusannodd, ac mi cusannodd ni. Dase ni wedi cael cymin o fwyd tra buom ni yno ag o gusanne, mi fasem wedi pesgi nes methu symud. Ond feder neb dwchu rhyw lawer ar gusanne.

A dene ni at y bwrdd. Wyddem ni ddim sut i ddechre bwyta, ac yr oedd Isaac yn cyrraedd at bopeth ar unweth. Rhywbeth gwyn fel pwdin yn trio sefyll ar ei ben, a rhywbeth arall yn edrych reit neis, ond yn wag yn ei ganol wedi i chi roi'ch dannedd ynddo fo, oedd y pethe pwysica. Cododd Isaac a finne oddiwrth y bwrdd heb gael hanner digon. Mi gawsom enwe newydd hefyd i'n dau gan Anti Laura tra y buom ni yno. "Mai Diar," oedd fy enw i, "Chubby" oedd enw Isaac. Doedd Isaac ddim yn cymyd at ei enw newydd am dipyn, ond fu o ddim yn hir cyn arfer â fo.

"Nedw," medde Isaac wrth i ni fynd i'n gwlâu, "roedd y pethe ene yn dda, ond Isaac eisio bwyd eto. Fase fo yn leicio cael lot fel hyn,"—dan ddangos siâp mynydd o'r peth gwyn hwnnw. Ac mi feddylies am Wmffre a fi un tro yn lle ein tade yn y cinio clwb. Fel arall roedd hi yno. Wedi bwyta nes methu symud dyma Wmffre'n deyd, "Wyddost ti be, Nedw, mi faswn yn leicio taswn i'n ddafad."

"Yn ddafad?" medde fi, "i be?"

"Mae gan ddafad beder stymog," medde Wmffre. Ac mi weles drwy'r peth yn syth.

Ar ol tê, dyma fi'n dangos y wningen a'r wye i Anti Laura, a hithe yn gafael amdana i wedyn, ac yn fy nghusannu nes imi deimlo reit wan, gan ei bod hi'n gwasgu fy stymog i, a finne newydd fwyta'r peth gwag hwnnw.

Bore drannoeth, wedi inni godi a chael brecwest o rywbeth â rhyw siort o jam arno—chawsom ni rioed jam i frecwest o'r blaen,—aethom allan i chware. Toc, dyma Anti Laura'n bloeddio arna i, a chrec yn ei llais. Mi redes i mewn, a dene lle roedd hi'n edrych yn syn ar y wningen. "Mai Diar," medde hi, "sut ma mam chi'n cwcio hwn?"

"Mae eisio ei blingo hi yn gynta," medde fi.

"Blingo!" medde hi, "What is 'blingo?'"

Wel dydi bachgen deg oed, wedi byw ar hyd ei oes dan gysgod Coed y Plas, ddim heb wybod be ydi blingo gwningen. Gofynes am fenthyg cylleth, a chyn pen chwincied roedd ei chroen hi i ffwrdd, a hithe'n barod i'w stiwio. Dase gen i gyrn ar fy mhen, fase raid i Anti Laura ddim edrych yn rhyfeddach arna i. Oddiarna i edrychodd ar y wningen.

"Tydio'n tebyg," medde hi toc, "i babi bach newydd cael bath poeth?"

Ac eis i allan at Isaac. Roedd yn dda mod i wedi mynd. Roedd o'n trio gneud yr un peth i'r gath ag a wnes i i'r wningen, nes imi ei argyhoeddi na fedre fo ddim, am fod y gath yn fyw. Ond wydde Isaac mo'r gwahaniaeth rhwng peth byw a pheth marw, er iddo holi tua mil o gwestiynne ynghylch hynny.

Rhwng helpio Anti Laura ac edrych ar ol Isaac, roeddwn i cyn boethed a dase'r sciarlet ffefar arna i. Toc, tawelodd pethe, a finne ac Isaac yn chware reit glên. Yn y man mi glywn yr hogle rhyfedda'n dwad o'r tŷ, a rhedes i mewn. Dene lle'r oedd Anti Laura'n pilio tatws, a'r wningen yn ffrïo ar y tân.

"Wel, Anti Laura," medde fi, "nid ffrïo gwningen y mae nhw, ond ei stiwio hi. Fase waeth i chi geisio ffrïo pen dafad yr un llychyn."

"Bedi stiwio?" medde Anti.

Wyddwn i ddim be oedd y gair Saesneg am stiwio, ac mi ddeydes wrth hi mai gair mam am ferwi oedd o. Mi gawsom wningen i ginio wedi hanner ffrïo a hanner ferwi. Reit da hefyd ar y cyfan.

'Doedd gan Anti Laura ddim âm at gwcio. Ac mi gafodd Isaac a fi hefyd chware newydd i fynd hefo ni adre—chware Anti Laura'n golchi'r llawr oedd hwnnw. Mae hi'n picio o gwmpas o un lle i'r llall, fel ceiliog rhedyn, ac yn rhwbio tipyn ar bob smotyn y disgyn hi arno. Chwerthodd Wmffre gymint wrth ein gweld ni, nes iddo fendio'n iawn oddiwrth y sciarlet ffefar, ac ynte wedi penderfynu hefyd bod yn sâl o dani am fis.

Ac yr oedd gan Anti Laura ddull da i olchi'r llestri. 'Doedd hi ddim yn cadw morwyn, er y basech yn disgwyl i un fel hi neud, ond cadwai gath. Wedi gorffen pryd bwyd roedd hi'n rhoi'r platie i'r gath eu llyfu nhw, ac wedi eu dipio mewn dŵr a'u sychu â'r llian, dene nhw i'r dim. Dene'r ffordd glenia weles i rioed. A'r peth cynta wnes i ar ol mynd adre a deyd y stori wrth mam, oedd ei chynghori i gadw cath. A barnu ar olwg mam, mi fase pob cath yn deifio dano fo, fel gwlydd tatws dan farrug. Oddiar gathod, fel ene, mae plant yn cael y sciarlet ffefar a'r dipitheria, medde nhad.

Rhwng dull Anti o olchi'r llawr, golchi'r llestri, a chwcio, mi welsom lawer o bethe newydd spon. Ymhen diwrnod neu ddau daeth yr iâr. Gan na fedre Anti ddim blingo gwningen, mi feddylies y base hi'n gofyn am fy help i bluo'r iâr, ond ddaru hi ddim. Ac eis i ac Isaac i chware, ond heb fynd o gyrraedd galw. Toc mi glywn Anti yn rhyw grio-nadu, ac mi redes i'r tŷ. Dene lle roedd hi â'i dwylo'n waed ac yn blu i gyd, yn eistedd wrth y tân yn crio. Mi edryches yn syn arni hi. Pan ddaeth ati ei hun,—"Mai Diar," medde hi, "neith y giar ddim blingo."

"Blingo bybê?" medde fi.

A dene hi â fi i'r bwtri. Welsoch chi rotsiwn beth. Roedd croen yr iâr yn ddarne fel tase hi wedi ei rhidyllio, a'i phlu'n rhidens ynghanol gwaed a strel. "Be fuoch chi'n neud, Anti?" medde fi.

"Trio blingo fo," medde Anti.

"Blingo giâr!" medde fi. Mi anghofies ar y funud mai ag Anti yr oeddwn i'n siarad. Gwnes y gore o'r gwaetha ac mi roddes yr iâr iddi.

Ond fy ngwendid fy hun a orffennodd bethe. "Mai Diar," medde Anti, "faint mae isio i'r iâr ffrïo?"

"Ffrïo giâr!" medde fi. Mi welwn mod i wedi ei digio wrth ddeyd hynny, ac mi eis allan am dro.

Toc, mi waeddodd wedyn. "Mai Diar," medde hi, "faint mae isio i giâr 'ma berwi?"

Mi welwn mai potes giâr oedden ni'n mynd i gael. Mae'n well gen i iâr wedi ei rhostio, ond rhaid oedd bodloni. "Dwy awr," medde fi.

"Fi isio mynd i siop," medde hi, "a rhoi giâr ar y tân cyn cychwyn. Ti aros yn tŷ i edrych tan hi berwi, a rhoi ar papur pryd y mae hi dechre, a ti mynd i chware wedyn, a mi yn ol cyn pen dwy awr."

Aeth Anti Laura i'r siop, a minne'n aros yn y tŷ, ac Isaac yn fy myddaru i eisio gwybod pa bryd yr oeddem ni'n mynd adre.

"Mae'r sciarlet ffefar gartre," medde fi, i'w gysuro fo.

"Neith o frathu?" medde Isaac.

"Gneiff, ein bwyta ni'n fyw," medde fi.

Meddwl am ei dawelu yr oeddwn i, ond dyma fo'n beichio crio, ac yn deyd y base'r sciarlet ffefar yn bwyta nhad a mam. Roedd yn hwyr gen i weld yr hen iâr yma'n dechre berwi, gael i mi fynd â fo allan. Mi sgwenes ar bapur,—"Mae hi'n dechre berwi rwan." Ymhen yr hwyr a'r rhawg dyma ni yn ol. Roedd Anti Laura yn y tŷ, yn edrych yn syn ar y sospon, a hwnnw'n dechre cochi yn ei waelod. "Mai Diar," medde hi, "ti dim deyd pryd y giâr yma dechre berwi, a mi ddim yn gwybod pryd i'w tynnu o."

"Ffrïo mae hi rwan beth bynnag," medde fi, gan gipio'r sospon oddiar y tân, oedd wedi sychu'n lân, a'r iâr yn grimstin y tu fewn iddo.

"Ti dim deyd pryd hi dechre berwi," medde hi.

"Do," medde finne, ond wedi edrych ar y papur mi weles fy nghamgymeriad.

Wrth weld Isaac yn crio, a minne'n welw, mae'n debyg,—"Hidiwch befo," medde hi, "Mi wedi dwad â tun corn bîff, ni cael hwnnw i cinio a swper. A wedi swper, canu wedyn. Mai Diar, canu i Anti Laura."

Wel, fedrai ddim canu, ac mi spwyliodd hynny weddill y diwrnod i mi.

Cawsom y corn bîff, a chacenne mae nhad yn alw yn gacenne gwynt a dim. Wedi i'r gath olchi'r llestri swper, aeth Anti â ni at y piano. Mi gafodd Isaac ei ddyrnu o am dipyn, er mwyn ei dawelu. A dene Anti'n dechre. Chlywsoch chi rotsiwn beth, mor ardderchog oedd hi. Roedd dawnsio'n rhedeg i lawr eich asgwrn cefn, fel dŵr oer, ac i'ch sodle er eich gwaetha.

"Mai Diar," medde hi, "chi canu."

"Fedrai ddim," medde fi.

"Medrwch, medrwch," medde hi, tan fy nghusannu, "pawb yn medru canu."

Fedrwn i ddim ond "Tôn y Botel," a honno ddim ond ar un gân. Mae Tomos y Felin wedi ei dysgu i ni ar "Llanfairpwyllgwyngyll." Mi ofynnes i Tomos ei rhoi i lawr i mi, a dyma hi:—

Llan - fair - pwll gwyn-gyll-go - gerychwyrn-dro - bwll -

Llan - ty - sil - io go - go - goch.

Ac mi wyddwn fod "Tôn y Botel" yn mynd ar "Gosodbabellyngngwlad Gosen."Ond sut i gysylltu Llanfairpwyllgwyngyll â Gwlad Gosen oedd y gamp, gan na fedrwn i ddechre "Tôn y Botel" ond ar y geiriau "Llanfairpwyllgwyngyll." Y gamp oedd medru dechre efo "Llanfair" a neidio ar y canol i "Wlad Gosen."

"Rwan," medde Anti. Mi ddechreues, ac yn wir i chi, mi lwyddes. Fel hyn y gwnes i, dechre canu "Tôn y Botel" trwy fy nannedd ar "Llanfairpwyllgwyngyll," a phan deimles fy nhraed dana, neidies i'r dim ar "Wlad Gosen," ac agores fy ngenau a chanu ymlaen.

Mae'r llythrenne mân yma'n tybio canu trwy ddannedd:—

Llan - fair-pwll-gwyn-gyll, yng ngwlad Gos - en.

Ac felly ymlaen.

Doedd dim diwedd ar waith Anti'n canmol a chusannu, a doedd na byw na marw na chanwn i wedyn. Ond gan fy mod yn gwrthod, roedd yn rhaid i mi addo canu nos drannoeth. Ac roeddwn i'n ofni hynny.FelMr.Williams y gweinidog yn dwad heibio acw efo'r saethwrs un diwrnod. Doedd o 'rioed wedi gafael mewn gwn o'r blaen. Cododd gwningen, taniodd Mr. Williams, a tharodd hi'n farw. Roedd pawb yn mynnu ei fod o'n hen saethwr, ac ynte'n chwyddo, ond ei gamgymeriad oedd trio wedyn. A dene ofnwn inne os canwn i wedyn.

Fel roedd pethe'n bod doedd dim dal ar Isaac eisio mynd adre drannoeth, a'r diwrnod hwnnw oedd diwrnod marchnad y dre, a'r cerbyde'n rhedeg yno. A gyrrodd Anti ni adre efo'r cerbyde.

Pan ddeydes i 'r hanes wrth mam,—"does ryfedd fod James, druan, wedi torri ei galon, ac wedi mynd i'r Sowth i weithio," medde hi.

O dan y Sciarlet Ffefar y mae Isaac yrwan, a finne'n disgwyl yn dawel amdani. Fydd hi ddim gwaeth nag Anti Laura. Ac eto dydwi ddim yn siwr, o achos roedd hi'n glên iawn yn ei ffordd.

Nodiadau

golygu