Anti Laura Nedw

gan Edward Tegla Davies

Mafon Duon

IV.—MESUR TIR.

Y peth mae nhw'n alw'n llabwst ydi Jona'r Teiliwr. Wn i ddim pa grefft ydi honno, ond rydwi'n siwr ei bod hi'n un ddifyr iawn, o achos byd braf iawn ydi byd Jona. Anamal y mae o'n gneud dim ond gwagsymera, a dydi honno, fel y gwyddoch chi, ddim yn grefft anodd iawn i'w dysgu. Rydwi'n siwr o hyn, nad ydio ddim yn deiliwr. Rhyw enw ar y teulu, rywsut, ydi teiliwr. Mae nhw'n galw bachgen ei chwaer o, sydd flynyddoedd iau na fi, yn Robin y Teiliwr, a dydwi ddim yn siwr y gŵyr o'n iawn bedi nodwydd, a barnu oddiwrth ei ddillad o. Mae'n hawdd coelio fod Robin yn credu mewn awyr iach, o achos mae digon o dylle yn ei ddillad i awyr redeg drwyddynt.

Un cyfleus iawn ydi Jona i fechgyn. O ran oed, mae o'n edrych yn rhywbeth tebyg i nhad, ac eto mae'n gas ganddo bobol mewn oed. Mae o wastad efo ni y bechgyn, ac yn lladd ar yr hen bobol, ac yn adrodd eu tricie nhw. Felly, trwyddo fo, ryden ni'n dwad i wybod sut rai ydi'r bobol yma sydd bob amser yn deyd wrthym ni fod pawb yn dda ond plant. Ac y mae gan Jona ddigon o amser ar ei ddwylo bob tro y mae Wmffre neu fi yn pasio. Byw ei hun y mae o, ac wastad ar ben y drws yn aros am ymgom efo rhywun sy'n pasio.

Hwyrach mai 'r rheswm mai gwagsymera mae o wedi ei ddewis fel gwaith ei fywyd ydi am ei fod o'n gloff. Rhyw hongol o beth ydio, yn hercian cerdded pan fydd o'n mynd i rywle. Ac yr oedd Wmffre a fi efo fo pan aeth o'n gloff. Mynd ar neges oeddwn i, i nol tatws at y Sul, ac Wmffre i nol paraffin. Pwy welem ni'n dwad yn wyllt i'n cyfarfod ni, mor wyllt ag y meder dyn efo traed clwb, â lli yn ei law, ond Jona. "Fechgyn," medde fo, "dowch efo mi i weithio i Mistar Huws, Plas Isa." Ac i ffwrdd â ni, heb hyd yn oed ofyn pa siort o waith oedd o.

Mae'n ymddangos mai mynd i lifio coed oedd gwaith Jona, a ffwrdd â ni i'r Tyno, at yr hen dderwen. Mae ene dwll yn y dderwen ddigon maint i mi ac Wmffre a dau arall fynd i mewn, ac yno ryden ni'n berwi dŵr i neud tê yn yr ha. Pan aethom ni at y dderwen, dangosodd Jona gangen inni. "Mae eisio honacw i lawr," medde fo. Mi daflodd raff dros dop y gangen, wedi rhwymo un pen am ei ganol, ac ene Wmffre a finne'n tynnu yn y pen arall, i'w helpio i ddringo. O'r diwedd, eisteddodd ar y gangen, a dechreuodd lifio. Cyn bo hir mi ddarun sylwi ei fod o'n llifio'r gangen rhyngddo a'r pren. Ddaru ni ddeyd dim, o achos ein bod yn meddwl y base fo'n gweld ei fistêc yn ddigon buan. A mwy na hynny, dydio ddim yn beth priodol i blant gynghori dyn mewn oed. Dal i lifio yr oedd Jona o hyd, a chael hwyl ar y gwaith. Pan ddechreuodd y gangen ysgwyd, roedd o'n chwerthin nes oedd o'n sâl, ac yn ein gwahodd ninne i fyny i swingio efo fo. Ond fedrem ni yn ein byw ddim peidio â chwerthin wrth weld Jona'n chwerthin. Dene glec! ac i lawr â'r gangen,—a Jona. Ddaeth y gangen ddim yn hollol rydd oddiwrth y pren. Yr oedd hi'n hongian gerfydd ei gwrisg. Ond mi ddaeth Jona'n rhydd oddiwrth y gangen, a bowliodd fel pêl am lathenni.

Doedd dim i'w neud ond rhedeg am ein bywyd i ddeyd wrth Mistar Huws, Plas Isa. Roedd Jona wedi torri ei goes, a bu'n gorwedd yn hir, ac y mae o ac Wmffre a finne'n ffrindie fel dur byth wedyn, am i ni fod mor barod i redeg i nol help.

Wedi iddo fo fendio, mi heliodd yr ardal dipyn o arian i'w helpio, drwy neud consart iddo fo. Roeddwn i'n digwydd pasio newydd iddo gael yr arian, ac medde fo, "Nedw, wyddost ti be ydwi'n mynd i brynu efo'r pres yma,—mashîn neud cywion, a'u magu nhw yn y cae y tu ol i'r tŷ." Doeddwn i rioed wedi clywed am fashîn neud cywion o'r blaen, ac mi sboniodd Jona i mi. Rydech chi'n rhoi peth wmbredd o wye yn y mashîn yma, ac yn troi handlen, a beth sy'n dwad allan yr ochr arall ond cywion. Aeth Jona i ffwrdd yn ddistaw bach un diwrnod, a daeth yn ol efo'r mashîn. Bu'n casglu wye am ddyddie, ond roedd ei stori o'n wahanol ar ol dwad yn ol efo'r mashîn. Mae'n ymddangos nad drwy droi handlen yr ydech chi'n cael y cywion, ond drwy ryw ffordd arall.

Ryw ddiwrnod mi glywn floeddio ofnadsen y tu allan i'n tŷ ni cyn i mi godi, a hynny arna i. Pwy oedd yno ond Jona, a phen eis i'r ffenest,—"Nedw," medde fo, "mae acw gyw, ac un arall â'i ben drwy'r plisgyn."

I ffwrdd â mi i alw am Wmffre ynghynt na chynted gallwn i, ac ar ol Jona. Yn wir i chi, roedd yno gyw a hanner yno. Ond yr oedd Jona mewn helynt. Doedd o ddim wedi meddwl cael bwyd ar eu cyfer nhw. Ac i ffwrdd â mi am fwyd. Roedd Wmffre wedi ei syfrdanu ormod i fedru symud. Pan ddois i yn fy ol, roedd hi'n hwyr lâs i fynd i'r ysgol. A'i chael hi ddaru ni hefyd am fod yn hwyr, ond roedden ni'n barod am hynny, ac yn well allan na'r bechgyn erill wedyn,—doedd yr un ohonyn nhw rioed wedi gweld mashîn neud cywion.

Ond marw ddaru pob cyw i Jona druan, er ei fod o wedi cael cannoedd. Ar ol eu cael nhw, wydde fo ar wyneb y ddaear be i neud hefo nhw, o achos er i chi fedru gneud cywion mewn mashîn, rhaid i chi gael gieir i'w magu nhw. Newidiodd Jona'r mashîn am fochyn. A magu mochyn yn y cae y tu ol i'r tŷ y bu o wedyn.

A'r cae bach y tu ol i'r tŷ ydi popeth Jona. "Y ffarm acw," y mae o 'n ei alw, a'r "pethe" y geilw'r mochyn. Ac am y ffarm a'r pethe y mae o'n sôn fyth a hefyd, ond pan fydd o'n sôn am y senedd. Mae o wastad yn gofyn i Wmffre a fi, be sy'n mynd ymlaen yn y senedd. Rhoi bwyd i'r pethe y geilw roi bwyd i'r mochyn.

Un nosweth daeth tad Wmffre i'n tŷ ni am dro, ac Wmffre hefo fo. Aethom ni i'n dau i chware gwadnu'r gath. Mae hi'n ddigon hawdd gwneud hynny, os oes gennych chi flisg cnau ffreinig. Raid i chi ddim ond rhoi tipyn o gliw ar y blisg, a rhoi hanner plisgyn ar bob un o draed y gath. Mae hi'n dawnsio wedyn, y difyrra peth welsoch chi rioed.

Pan ar ganol y chware, clywes i nhad yn sôn rhywbeth am y senedd. Mi wrandewes yn syth. "Be feddyliech o'r mesur tir newydd sy gerbron y senedd?" medde nhad wrth f'ewyrth. Doedd yr hanes ddim yn rhyw ddifyr iawn, a dyma orffen gwadnu'r gath.

Wrth ddwad o'r ysgol drannoeth, pwy oedd ar ben y drws ond Jona. Dyma fo i lawr i'n cyfarfod ni, o achos mae'r tŷ dipyn o'r ffordd. Wedi adrodd hanes y mochyn,—"Sut y mae hi'n dwad ymlaen yn y senedd, fechgyn?" medde fo.

"Pasio i fesur tir mae nhw," medde finne.

"Mesur tir!" medde Jona, "yden nhw'n meddwl mesur y ffarm yma?"

"Mae nhw'n mynd i fesur pob tir," medde finne.

"Byth!" medde fo. "Mi fydd y fforch acw trwy'r cynta rydd ei droed ar fy nhir i i'w fesur o." Ac estynodd ei fys at y fforch.

O hyd ar ol hynny, am y mesur tir yma y mynnai sôn. Cyn bo hir mi gwelem o 'n mynd â llwyth o ddrain i gau'r adwye, a phlethu drain drwy'r llidiard, ac ni chawsom fawr o ymgom â fo am ddyddie.

Ryw fin nos roedd ene lot ohonom ni efo'i gilydd, yn methu gwybod beth i'w neud. Roedd cyfnod y marbls wedi darfod, a chyfnod y pegi heb ddechre.

"Wyddoch chi be nawn ni?" medde fi,—"Mynd i fesur tir Jona'r Teiliwr." Mi ddeydes hanes y mesur tir oedd gerbron y senedd wrthyn nhw, ac yr oedd pawb yn barod, o achos mi fase'n fantes i Jona wybod mesur ei dir o flaen llaw, rhag ofn i'r llywodraeth ei dwyllo. Rhaid er hynny oedd taro ar gynllun i'w fesur o heb i Jona wybod ar unweth.

Roedd cartre Wmffre yn rhy bell iddo redeg i nol het ore'i dad, ac mi eis i i lofft ein tŷ ni i nôl benthyg hen het silc taid, sydd acw rioed, a spectols nhad. Aeth Jac y Gelli i nôl benthyg côt a throwsus ei frawd hyna, a thâp mesur ei fam, o achos dresmecar ydi hi. Wedi cael y pethe hyn a thipyn chwaneg gan y bechgyn erill, dyma gychwyn. Aeth pawb ond fi at gae Jona. Eis i am ymgom at Jona ei hun. Mi fase'n biti inni fesur ei dir heb i Jona wybod hynny, ac hefyd mi fase'n biti iddo fo gael gwybod yn rhy fuan. Gan Wmffre yr oedd yr het silc a'r spectol.

"Jona," medde fi toc, "mae'r mesur tir wedi dwad, mi weles ryw fyddigions yn ei gneud hi am eich cae chi gynne." Aeth Jona cyn wynned a'r galchen.

"Bybê?" medde fo, a rhuthrodd i ddrws y cefn. Dene lle roedden nhw. Mae'n ymddangos eu bod nhw wedi darfod mesur y cae, o achos ar ganol mesur y mochyn oedd yn y cae yr oedden nhw ar y pryd. Neidiodd Jona i ben y clawdd, a dechreuodd weiddi a chau ei ddyrne. Cododd y mesurwyr tir eu penne 'n hamddenol. Rhoddodd Wmffre ei bensel yn ei glust, cymerodd afael yn y tâp mesur, a daliodd ef rhyngddo a Jona, fel tase fo'n mynd i fesur Jona hefyd. Neidiodd Jona i lawr oddiar ben y clawdd,—

"Mae gen inne ddynion yn trin cwils[5] yn y dre ene," medde fo, ac i lawr y ffordd â fo fel yr oedd i gyfeiriad y dre fel mellten.

Erbyn hyn yr oedd popeth oedd i'w fesur wedi ei fesur. Doedd dim bellach i'w neud ond cuddio'r pethe dros dro, gan fod Jona wedi ei chymyd hi y ffordd y gwnaeth o, a mynd i chwilio pa mor bell i gyfeiriad y dre yr oedd o wedi rhedeg. O achos doedd dim peryg iddo fynd ymhell iawn. I lawr â ni o'r tu ol i'r gwrych. Mi welem Jona'n sefyll i siarad â rhywun, ac yn handlo ei freichie fel melin wynt, ac yn tapio brest y dyn yma, bob yn ail gair, i bwysleisio'r gair. Aethom yn nes atyn nhw y tu ol i'r gwrych. Pwy oedd y dyn, o bawb, ond nhad.

"Mesur 'y nhir i mae'r cnafon, Edward Roberts," medde Jona. "Mae gen inne ddynion yn trin cwils yn y dre ene; oes siwr, mae gen inne ddynion yn trin cwils."

"Ydech chi'n siwr, Jona Thomas," medde nhad, "nad plant yn cael tipyn o hwyl oedden nhw?"

Sut y daeth o i wybod hyn wn i ddim ar wyneb y ddaear. Safodd Jona fel tase fo wedi cael strôc.


DECHREUODD WEIDDI A CHAU EI DDYRNE. [Tud. 38.]


"Dawn i byth yn symud!" medde fo. "Erbyn meddwl, roedd dyn yr het silc honno braidd yn fychan i'w het, a throwsus y llall hwnnw braidd yn llac. Ond meddwl ddaru mi mai dene'r ffasiwn rwan."

Mi safodd am eiliad heb ddeyd dim,—"Edward Roberts," medde fo, "mi ddylech fod yn falch o'ch mab. Doedd o ddim efo'r gweilch. Efo fi yn y tŷ yr oedd o ar y pryd. Fo a'i dangosodd nhw i mi."

Anadlodd nhad yn drwm drwy ei ffroene, a dwedodd "pnawn da." Synnwn i ddim ar ei ddull o anadlu nad ydio wedi cael tipyn o annwyd.

Mi redes i yn fy ol, ac yr oeddwn yn y tŷ pan gyrhaeddodd Jona.

"Nedw," medde fo, "pan ladda i'r mochyn, mi gei di ddarn o borc, a'r unig un o'r bechgyn geiff ddarn wyt ti. Nhw sy'n mesur fy nhir i, medde dy dad."

Eis ar ol y bechgyn toc, ond ches i fawr o groeso ar y dechre, am fod nhad wedi deyd wrth Jona mai nhw oedd yn mesur y tir. Ond wedi imi addo tamed o borc bob un iddyn nhw, roedd popeth yn iawn.

"Welwch chi, fechgyn," medde Jac y Gelli, "mi ddylem neud rhywbeth i ddwad â fo at ei goed. Be sy genoch chi yn eich pocedi?" Matshis oedd gan Wmffre, afal oedd gan Jac, cylleth oedd gen i. Roedd y bechgyn yn deyd mai cylleth blwm oedd hi, a minne mai cylleth ddur. Darn o linyn oedd gan Dic Twnt i'r Afon, a marblen a darn o fins pei oedd gan Bob y Felin. Aethom â nhw i gyd, a'u gosod ar garreg drws Jona, wedi iddo gau'r drws a mynd i'r tŷ.

Yna aethom at y ffenest i edrych be oedd Jona'n neud, o achos am guro'r drws yr oeddem ni, a mynd rownd y gornel i wylio'r croeso a gai'r presantie. Dydi hi ddim yn beth neis i ddangos gormod arnoch eich hun wrth bresantio neb.

Plyges i fy nghefn, ac aeth Jac y Gelli ar fy nghefn, i edrych drwy'r ffenest. Yn lle deyd beth welai, dyma fo'n dechre chwerthin a chwerthin, nes i mi ei daflu i lawr. Cafodd pob un edrych drwy'r ffenest wedyn, y naill ar ol y llall. Wrth y tân yr oedd Jona yn pendympian, â'i ben bron ar far y grât. Yn ei law yr oedd fforcien, ac wrth y fforcien yr oedd golwyth o facn yn hongian. I'w ffrïo y dalie Jona'r bacn, ond fel yr oedd pethe, braidd yn bell yr oedd y bacn oddiwrth y tân. Dalie Jona un pen iddo â'r fforcien, a'r gath yn bwyta'r pen arall. Piti fase rhwystro'r gath ar ganol ei swper. Fase run ohonom ni yn leicio i neb neud peth tebyg i ni, fel y mae'r titshiar bob amser yn deyd, pan yn ein dysgu i fod yn garedig wrth anifeilied direswm. Wedi iddi orffen dyma guro'r drws a gwylio. Dene sŵn yn y tŷ. Y gath ddaeth allan gynta. Roedd hi'n edrych fel tase hi braidd ar frys. Ac wedyn Jona. Edrychodd yn syn pan welodd y presantie.

"Mae'r cnafon wedi bod yn chware ar garreg fy nrws i, ac wedi anghofio'u pethe," medde fo. Dene'r diolch gawsom ni am fod yn garedig.

Neidiodd i'r gylleth. "Mi dorra ffon ar eu cyfer nhw y tro nesa y dôn nhw," medde fo. Ac i'r gwrych â fo i dorri ffon gollen braf. Ond y bechgyn erill oedd yn iawn wedi'r cwbwl,—plwm oedd y gylleth, o achos plygu ddaru hi yn lle mynd drwy'r ffon. Taflodd Jona hi i ffwrdd mewn dirmyg, ac aeth i'r tŷ efo'r pethe erill. Fi oedd yr unig un, felly, gafodd fy mhresant yn ol.

Cadwodd Jona ei air. Mi gefes ddarn o borc, ond doedd neb yn digwydd bod yn iach yn ein tŷ ni pan eis i â fo adre. Ac yr oedd y bechgyn erill wedi anghofio'r fargen, fel yr oedd yn rhaid i mi droi ato fy hun, ond y darn a roddes i Wmffre.

Nodiadau

golygu