Mesur Tir Nedw

gan Edward Tegla Davies

'Rhen Nedw

V.—MAFON DUON.

Fi ydi'r unig un o'r bechgyn i gyd i siarad yn iawn â Jinny Williams. Ac nid oes yr un eneth yn debyg iddi yn yr ysgol, heblaw mai geneth newydd ydi hi. 'Does fawr er pan y mae hi yn yr ardal, ac y mae'r bechgyn yn sâl eisio tynnu ymgom â hi. Mi gyffyrddodd Robin bach Ty'n Llidiard fin ei gwallt wrth rannu'r llyfre unweth, medde fo. Ond 'does neb arall wedi bod yn agos ati. Welsoch chi rioed mo'i delach. Dugoch ydi ei gwallt, fel rhedyn wedi aeddfedu, ond ei fod o'n gyrls i gyd, ac yn sgleinio. Mae o ymhobman rywsut,—ar ei hysgwydde hi, yn gweu am ei chlustie, yn troi dan ei gên, yn clymu am ei gwddw, nes gneud ei gwyneb yn ei ganol fel pictiwr mewn ffram wedi'i phlethu. Ac nid oes ganddi byth ddim am ei phen. Am ei llygid, y mae nhw yr un fath a'r mawn sydd yng ngwaelod yr Hen Ffynnon. Ni fedraf yn fy myw byth godi dŵr o'r Hen Ffynnon heb feddwl am lygid Jinny Williams, o achos mae'r dŵr yn troi'r mawn yn loyw.

Wrth yr Hen Ffynnon y cyfarfyddes i hi gynta i siarad â hi, dipyn wedi dau o'r gloch y bore. Faswn i byth yn meddwl deyd dim wrthi, ddim mwy na'r bechgyn erill, yn yr ysgol. Ond y mae pethe'n wahanol wrth yr Hen Ffynnon am ddau o'r gloch y bore.

Ha sych iawn oedd yr ha dwaetha, a sychodd Pistyll y Llan, a doedd dim i bobol y Llan neud, ond dwad i'r Hen Ffynnon, fel ninne pobol y wlad. Ar ochor y Foel Fawr y mae'r Hen Ffynnon, yng nghanol grug a brwyn at eich ysgwydde. Ac y mae'r holl wlad a'r mynyddoedd pell, hyd at y Foel Ddu, i'w gweled oddiwrthi. O dipyn i beth, gan fod cymint o gario ohoni, aeth yr Hen Ffynnon yn sych liw dydd, a doedd dim i bobol ei neud ond mynd ati am y boreua. Aeth nhad yno un bore am bump o'r gloch, ond yr oedd hi'n hollol sych. Aeth bore drannoeth am bedwar, a chyfarfu â chynulleidfa'n dwad oddiyno. Y pnawn hwnnw, dene Huw fy mrawd hyna'n deyd yr ai o i nol dŵr cyn mynd i'w wely, ar ol dwad o'r gwaith. Gweithio'r nos yr oedd o cyn mynd i'r rhyfel, yn y gwaith plwm yr ochor arall i'r Foel Fawr, a dwad adre tua dau o'r gloch y bore. Meddylies mai iawn o beth fase medru deyd wrth y bechgyn mod i allan am ddau o'r gloch y bore, ac mi gynhygies fynd efo fo.

"Olreit," medde Huw, "cer i dy wely'n gynnar gael i ti fedru codi. Mi fydd yn werth iti weld y wawr yn torri yn yr ha, am unweth yn dy oes."

Mi es i ngwely'n gynnar, gan feddwl peth mor ardderchog oedd i fachgen deg oed weld y wawr yn torri yn yr ha. Ond rydwi wedi sylwi ar ol hynny, nad ydi'r pethe y mae pobol yn eu galw'n weledigaethe mor ddifyr am ddau o'r gloch y bore ag y mae nhw fin nos. Cyn imi gau fy llygid yn iawn, i'm tyb i, pwy oedd uwch fy mhen yn ceisio fy neffro ond Huw.

"N-e-d-w-w," medde fo'n araf ac ysgafn, gan godi ei lais tua'r diwedd. Ond doedd Nedw ddim yn ei glywed o.

"N-e-e-d-w-w-w," medde fo wedyn, gan godi ei lais dipyn uwch tua'r diwedd na'r tro cyntaf. Ond nid oedd na llais na neb yn ateb.

Mi sgydwodd chydig arna i. Ymhen tipyn,—"Nedw! Nedw!" medde fo fel ergydion, ond cysgu'n drwm yr oedd Nedw.

"Nedwnedwnedwnedwnedwnedw," medde fo wedyn, fel motor beic, gan fy ysgwyd fel crud. Ond yr oedd Nedw cyn farwed a hoel.

Ar hyn dene mam yno,—

"Nedw, machgen i, deffra," medde hi. "Mi golli dy tshans am weld y wawr yn torri, yn siwr iti."

Ond roeddwn i wedi penderfynu gneud fy ngore i ddal y brofedigieth honno'n ddi-gwyn, ers meityn.

Ar hyn dene Huw'n deyd,—"Thâl peth fel hyn ddim," ac yn gafael ynof, ac yn fy rhoi ar lawr y siambar. Doedd hi ddim yn anodd wedyn imi weld fod edrych ar y wawr yn torri o ymyl yr Hen Ffynnon yn brafiach na pheth fel hyn, a doedd dim i'w neud ond codi. Mi welwch chithe'n union mai da oedd imi fod wedi mynd at yr Hen Ffynnon i weld y wawr yn torri, wedi'r cwbwl.

Dene gychwyn. Roedd hi'n bur dwyll, ac heb smic i'w glywed yn unman, ond ambell i dderyn yn scrwtian ei adenydd yn y gwrych, ac ambell ddafad yn cnoi ei chil wrth i ni ei phasio at yr Hen Ffynnon. Fel y dringem at y ffynnon, yr oedd yr awyr fel yn rhyw ddechre sgafnu, a'r llwybyr trwy'r grug yn dwad yn gliriach.

"Hsht," medde Huw, "Mae ene rywun wrth y ffynnon." Ymlaen â ni, ac wedi mynd i ymyli,—

"Helo," medde rhywun. Adnabu Huw ei lais, ac adnabum inne'r un oedd yn llechu y tu ol iddo. Mi gwelwn hi rhwng twyll a gole rhynga i a'r Foel Ddu. Pwy oedden nhw ond Jinny Williams a'i thad. Mi ddechreuodd Huw a'i thad ymgomio am y sychter, a'r cynhaea a chant a mil o bethe felly. Ac yr oedd Jinny a minne'n rhydd i ymgomio fel y mynnem y tu ol iddyn nhw. Mi es yn nes ati, ond y peth cynta a wnes i oedd chwysu'n ddiferol, ac wedyn dechre rhynnu nes i fy nannedd guro'n enbyd. Welsoch chi rioed bethe mor anodd ydi gnethod i siarad efo nhw, pan ddaw'r tshans, heb neb ond nhw a chithe. Mi ddechreues sgwenu fy enw ar y ddaear efo blaen fy nhroed, a chyn belled ag y gwelwn i dan fy nghuwch fod Jinny'n gneud yr un peth. Mi godes fy mhen, ac ni welsoch erioed ffasiwn beth. Roedd top ei phen hi'n union ar gyfer pigyn y Foel Ddu, ac ni allech ddeyd ar y funud prun ai sglein ei gwallt rhyngoch a'r gole a welech chi, ynte ai yn yr awyr ei hun ar ben y Foel yr oedd y lliw. Mi weles toc mai yn yr awyr yr oedd o, ond roedd o'r un ffunud a'i gwallt hi rhyngoch a'r gole. Weles i rioed mo'r wawr o'r blaen yn yr ha,—y peth tebyca a welsoch chi i wallt Jinny rhyngoch a'r gole ydi hi.

Ac yr oedd ei llygid yr un fath a gwaelod yr Hen Ffynnon yn union, a'i chyrls fel tase nhw'n gneud eu gore i guddio ei gwyneb.

Mi fentres ddeyd gair wrthi,—

"Ydech chi'n leicio mafon duon?" medde fi, gan gnoi ngwinedd wedi methu meddwl am ddim arall i'w ddeyd.

"Ydw, ymhle mae nhw i'w cael?" medde hi.

"Does ene ddim," meddwn inne, gan ddechre gweld fy meddalwch. O achos mi weles y funud honno mai peth gwirion oedd gofyn a oedd hi'n


"YDECH CHI'N LEICIO MAFON DUON"? MEDDE FI. [Tud. 44.]]


leicio rhywbeth nad oedd gen i ddim ohono i'w gynnyg iddi. Ac am hynny, roeddwn i'n teimlo braidd fel ci wedi torri'i gynffon.

Yr hyn a wnaeth imi feddwl am y peth oedd gweld walie y lle mae nhw'n alw'n "Sgubor Robert Green," yn dwad i'r golwg yn y pellter rhynga i a'r awyr. Pwy oedd Robert Green fedrai ddim deyd, ond ochre hen dŷ ydi'r Sgubor, a llond y canol o goed mafon duon. Dene'r mafon goreu yn y wlad, medden nhw, ond dydi'r bechgyn byth yn mynd yno, am fod pobol yn deyd fod yno ysbryd.

Edrychodd Jinny arnai'n hir heb ddeyd dim, fel tase hi wedi taro ar un meddal am y tro cynta rioed. Edryches inne arni hithe heb fedru tynnu ngolwg oddiarni. Dene su sydyn heibio inni, a pheth oedd yno ond y gôg yn pasio dros ein penne ni, ac yn disgyn ar y pren surion gwylltion yn y pellter, rhwng Jinny a thoriad y wawr. Ac er na weles i rioed mo'r wawr yn torri o'r blaen, yn yr ha, fedrwn i ddim tynnu 'ngolwg oddiar Jinny, i edrych arni hi a'r gôg. Dydio ddim yn beth neis i chi dynnu'ch golwg oddiar eneth i edrych ar rywbeth arall, a chithe'n siarad â hi, hyd yn oed i weld y wawr yn torri, rhwng dau a thri o'r gloch y bore, am y tro cynta rioed yn yr ha.

Mi gofies am y gylleth a gefes i ar lawr y diwrnod cynt, ac mi dangoses hi iddi. Mi rhoddes hi i'w gweled yn ei llaw a dene fys cynta fy llaw chwith i yn cyffwrdd am funud bach y bys agosa i'w bys bach hi ar y llaw ddethe. Mi gynhygies fotwm gloyw iddi hefyd, a gefes i ar lawr, a chadwodd hwnnw ym mhoced ei brat. A bu tawelwch mawr, fel y mae'r Beibil yn deyd.

Dal i siarad yn ddiddiwedd yr oedd ei thad a Huw.

"Ydech chi yn leicio mafon duon?" medde fi wedyn toc, gan fod eidïa newydd wedi fy nharo i.

"Ydw," medde hithe'n ddihidio. Wedi ei siomi'r tro cynta yr oedd hi, mae'n debyg.

"Mi wn i ymhle y mae'r rhai gore yn y wlad pan ddaw hi'n amser," medde fi.

"Ymhle?" medde hithe.

"Yn y fan acw, yn Sgubor Robert Green," medde finne, "ond eu bod nhw'n anodd i'w cael, ac am hynny, 'chydig o'r bechgyn sy'n mynd yno."

"O!" medde hithe, fel tase hi ddim yn gwrando. Ond roeddwn i'n rhyw ddechre ennill nerth erbyn hyn,—

"Mi a i yno i nol rhai i chi, os leiciwch chi," medde fi, dipyn yn fwy swil, o achos mi sylwes yn sydyn ei bod yn goleuo'n gyflym.

"Olreit," medde hithe, wedi swilio braidd ei hun.

"Ddowch chi efo fi?" medde fi, dan fy llais.

"Olreit," medde hithe yn yr un dôn.

Ar hyn mi welai Huw rywun yn dwad at y ffynnon, a dene fo a finne adre un ffordd, a Jinny Williams a'i thad y ffordd arall.

Wel, yn wir, wyddwn i ddim ar draed pwy oeddwn i'n cerdded. Ac ni fedrwn feddwl mynd i'r ysgol bore drannoeth heb goler,—

"Mam," medde fi, y bore hwnnw, "hwyrach fod yr inspector yn dwad i'r ysgol heddyw, ac y mae eisio i bawb fod yn deidi. Fase hi ddim yn well i mi fynd yno mewn coler?"

Mi drychodd mam arnai, fel taswn i ddim yn gall,—"Coler!" medde hi, "bedi dy feddwl di,—wyt ti'n mwydro?"

Mi fedres ei chael i ganiatau un i mi er hynny. Doedd ene 'run imi chwaith, ond hen un i nhad,—coler droi i fyny, a phigie iddi, ac yr oedd honno'n rhyw dair modfedd yn rhy fawr. Honno a ges i, ond bod mam wedi torri darn o'i thu nôl, gan fod coler fy nghôt bron yn cuddio'r fan honno, a gwnio'r ddau ddarn ynghyd yn bur deidi, a rhoi bach yn fy nghôt y tu ôl, i'w fachu yn nhop y goler, i'w dal o'r golwg.

Wel, mi es i'r ysgol yn y goler yma fore drannoeth,—ond ddim yn y pnawn. Y peth cynta a wnaeth Jinny Williams pan welodd hi fi, oedd codi ei thrwyn arna i, fel tase hi rioed wedi ngweld i, a'r gnethod erill yn chwerthin trwy eu bysedd bob tro y pasient fi. A'r peth a wnai'r bechgyn oedd tynnu eu capie a bowio i mi, a chadw draw yn lle chware. Rhedent i fy nghyfarfod fel tase nhw am chware. Safent yn sydyn,—

"Dacw'r Prince of Wales yn dwad," medde nhw yn swil.

Tynnent eu capie, a bowient hyd lawr, ac aent heibio ar flaene eu traed, gan ddeyd dan eu lleisie,—

"Lle mae'r hen Nedw, tybed, na fase fo yn yr ysgol?" "'Tydi'r Prince of Wales yn debyg i Nedw?"

Daeth Wmffre ata i toc,—"Nedw," medde fo, "fel hen ffrynd, cymer gyngor gen i er dy les, cadw'r goler ene adre." A dene a wnes i. Daeth Jinny heibio i mi wedyn y pnawn, a'i gwallt yn chware yn y gwynt. Ac medde hi, rhwng ei chyrls, wrth fy mhasio i,—"Cofiwch y mafon duon."

Dene a wnaeth i mi fentro i le na bu'r un o'r bechgyn erioed ynddo,—Sgubor Robert Green—i nôl y mafon duon. A phen es i yno, mi weles beth mor debyg i ysbryd, fel yr oedd pobol yn deyd, nes y baswn i wedi dychrynnu i ffitie, onibai bod Jinny efo mi yno.

Sôn am ddisgwyl, dene ddisgwyl, a disgwyl, am i'r mafon duon ddwad ac aeddfedu. Yr oeddwn i ar fentro i Sgubor Robert Green amdanyn nhw bob dydd i Jinny, ond bod fy nghalon yn dwad rhwng fy nannedd bob tro y meddyliwn am yr ysbryd.

Un diwrnod roeddwn i'n dwad heibio i'r Sgubor, wedi bod yn hebrwng Robin bach Ty'n Llidiard,—dene'r diwrnod y deydodd o ei fod wedi cyffwrdd cyrlen i Jinny. Edrychai'r haul fel tase fo'n rhyw hel ei hun at ei gilydd i fynd i lawr, a phwy a gyfarfyddwn i'n dwad i 'nghyfarfod ond Jinny, fel tase hi ar frys, ond rwy'n siwr mod i wedi ei gweld yn codi oddiar ei heistedd oddiar garreg yn ochor y ffordd pan ddois i i'r golwg.

"Nedw," medde hi dan wrido, "ymhle y mae'r mafon duon?"

"Rwan amdanyn nhw," medde fi. "Ddowch chi efo mi?"

"Do i," medde Jinny.

Ac i mewn â ni i Sgubor Robert Green,—y fi yn gynta i sathru'r coed mafon. Roedd yn rhaid dringo darn o wal, a llusgo Jinny ar fy ol. A dene ddechre hel. Welsoch chi rioed fafon tebyg. Heliai Jinny nhw oddiar lawr, a minne'n dringo'r walie, ac yn eu hel i fy nghap, ac yn dwad â chapeidie iddi hi. Dene'r munude difyrra aeth dros fy mhen erioed, ac wedi anghofio popeth am yr ysbryd. Dringes i ben un o'r hen ffenestri, a'r llwyn mafon yn pwyso. Trois i weiddi ar Jinny, ond dene lle roedd hi â'i phwyse yn erbyn y wal yr ochor bella, yn rhythu i'r gornel dan y llwyn yr oeddwn i uwch ei ben o, a'i gwyneb fel eira, ac yn edrych fel tase hi wedi fferru. Beth oedd yno'n eistedd ar garreg, yng nghornel yr hen Sgubor, wedi ei gwthio'i hun dan gysgod y llwyn mafon duon, a hwnnw'n gwasgu arni, ac yn ei sgryffinio, ond hen hen wraig, digon hen i fod yn nain i nhad. Roedd hi â'i phen rhwng ei dwylo, a'i phenelinoedd ar ei phenneglinie, yn crio'n ddistaw. Codes y gangen yn uwch, i gael golwg gwell, rhag ofn mai breuddwydio yr oeddwn i. Cododd yr hen wraig ei phen, a gwelodd fi. "O! Willie bach, ac rwyt ti wedi dwad o'r diwedd," medde hi,—"lle buost ti, machgen i, mor hir, a dy fam yn dy ddisgwyl di ddydd a nos." Neidies i lawr, a rhuthrodd hithe i fy llaw i, a gafaelodd yn dyn ynddi.

"Ddaru nhw dy frifo di'n arw wrth drwsio dy ben di?" medde'r hen wraig. "Gad imi gusan, Willie bach." A gwenodd arnai'n dyner, dyner. Rhoddodd ei llaw am fy ngwddw, a chusannodd fi. Fedrwn i ddim yn fy myw feddwl am ei rhwystro, ond o ran hynny, roedd hi reit lân.

"Mi feddylies y cawn i di yma," medde hi, "dyma'r lle y brifest ti dy ben, yntê? Ydi'r dolur yn fawr, 'machgen i? Yn y fan yma roeddet ti pan ddisgynnodd y garreg, yntê?" Chwiliodd fy mhen yn ysgafn. "Wel," medde hi toc,—"mae o wedi mendio'n iawn,—a nhwthe'n deyd fod y garreg wedi d' orffen di! Ond choelie dy fam monyn nhw, 'machgen i. Ac rydwi wedi chwilio amdanat a chael dy fwyd yn barod bob dydd, Willie bach, er pan est ti i ffwrdd. A mynd â ti i'r gwledydd pell i dy fendio ddaru nhw?" A thynnai ei llaw yn ysgafn yn ol a blaen trwy fy ngwallt, o hyd, o hyd.

"Lle cest ti'r eneth bach yma, Willie?" medde hi, "mae hi fel shou o bropor,—feder hi siarad Cymraeg?"

"Na feder," medde fi, a dene'r gair cynta a ddaeth dros fy ngwefus. Ac roedd o'n wir, o achos fedre Jinny ddim, am y byd, ddeyd gair mewn unrhyw iaith. Dal i sefyll yr oedd hi, yn erbyn y wal, yn edrych fel yr angel ar garreg fedd y Plas, ond bod ei gwallt am ei gwyneb yn deyd na fedre hi fod yn neb ond Jinny.

Daliai'r hen wraig i edrych yn fy llygid, dan wenu a rhwbio fy llaw rhwng ei dwylo,—"Wel, Willie," medde hi, toc, "tyrd, 'machgen i, mae dy fwyd yn oeri. Ac mae hi'n dechre twllu." A dene hi'n gwthio trwy'r coed mafon heb feddwl am y sgryffinio, a finne'n ei llaw. Cyffyrddes law Jinny wrth basio. Deffrodd hyn hi, a medrodd ei hysgwyd ei hun yn ddigon i gychwyn ar fy ol.

Wedi dwad yn fwy i'r gole, trodd yr hen wraig i gael ailolwg arna i,—"Rhosa di, Willie," medde hi, "nid dyma'r siwt oedd gennyt ti'n cychwyn oddicartre'r diwrnod hwnnw?" Edrychodd yn fanylach,—a hanner neid oddiwrtha i. "Na," medde hi, "nid Willie bach wyt ti wedi'r cwbwl. Pwy wyt ti, dywed? Ai Edward y Wern?"

Roedd hi'n mynd yn dwllach o hyd. Edward y Wern oedd enw 'nhad, medde fo, pan oedd o'n fachgen. A digalon ydi cael eich camgymeryd am eich tad o flaen geneth.

"Wel, Edward," medde hi, â'i gwyneb fel y galchen, ond y gwaed oedd arno,—"ti oedd efo Willie pan frifodd o'n tê? Frifodd o'n arw, Edward bach?"

Dechreuodd holi ynghylch brodyr a chwiorydd 'nhad, sy'n hen bobol,—ond fel plant y sonie hi amdanyn nhw. Edrychodd arnai'n hir, a minne arni hithe, a Jinny arnom i'n dau, fel tri mudan. Yn hollol sydyn beichiodd grïo,—"Na," medde hi, "wyddan nhw ddim byd am Willie bach, dim byd, dim byd." Gollyngodd fy llaw, fel tase hi'n lwmp o dân, ac yn ol â hi trwy'r coed mafon duon, a'r rheini'n ei sgryffinio i'r byw, heb iddi wybod, ac eistedd ar y garreg danyn nhw, yng nghornel y Sgubor, a rhoi'i phen wedyn rhwng ei dwylo.

I ffwrdd â Jinny a fi ar sgruth nes cyrraedd Coed y Felin,—wedyn, sefyll. "Rwan," medde fi, "am siarad yn iawn â hi." Ond choeliech chi ddim mai'r cwbl fu rhyngom oedd hyn. Mi godes fy mhen i siarad, a dene Jinny'n codi'i phen, ac edrych i fyw fy llygid i. Ac er bod fy ngwefuse'n agored, wnaen nhw symud dim yn ol nac ymlaen. Roedd y gwrid a gafodd trwy redeg, neu rywbeth, yn rhywbeth na fedrech siarad dim yn ei olwg. Gwyrodd Jinny 'i phen, a dechre sgwenu'i henw efo'i throed, fel wrth yr Hen Ffynnon. Fedrwn inne ddim peidio â dechre gneud yr un peth. Beth wnai'r hen bobol, tybed, oedd heb ddysgu sgwenu, ar adeg fel hyn? Dyma'r adeg y mae hi'n fantes bod dyn wedi cael tipyn o ysgol.

Mi lwyddes o'r diwedd i ddeyd gair, ond ddaru Jinny ddim ond gwrido, ac edrych arnai, fel taswn i'n un oedd wedi achub ei bywyd hi,—a chychwyn adre. Mi arhoses nes gweled ei bod bron cyrraedd eu tŷ nhw'n ddiogel, ac wedyn fel awel â fi, wedi chwysu cyn cychwyn.

"Ymhle y buost ti mewn difri, Nedw?" medde mam.

"Yn hebrwng Robin bach Ty'n Llidiard," medde fi. Sonies i ddim am y peth mae nhw'n alw'n "ac felly mlaen."

Fedrwn i fwyta fawr o dê, ac yr oedd mam yn bur bryderus.—"Fuost ti ddim yn hel mafon duon?" medde hi,—"mae dy geg di'n ddu."

"Dipyn bach," medde finne. A dene'r 'gom i gyd.

Ar amser swper deydodd nhad wrth mam,—"Mae nhw wedi ffeindio'r hen Fetsen Jenkins unweth eto."

"Yden?" medde mam.

"Yden," medde fo. "Jones y Plismon a'i daliodd hi'r tro yma yn edrych allan trwy un o dylle ffenestri Sgubor Robert Green, ac yn gweiddi 'Willie,' â'i gwyneb yn waed i gyd."

"Pwy ydi honno?" medde fi, yn wylltach nag y dylwn i. Ddeydodd neb ddim am dipyn,—"Hwyrach mai'r ysbryd welson nhw, 'nhad," medde fi, â fy ngwyneb yn rhyw ddechre gwynnu er fy ngwaetha.

"Nage," medde mam,—"does ene'r un ysbryd."

"Pwy ydi Betsen Jenkins?" medde fi.

"Wel," medde nhad yn ara, "hen wraig ydi hi o'r ochor arall i'r Foel Ddu. Mae hi'n crwydro'r wlad ar adege, er pan ydwi'n cofio, bron. Roedd ganddi fachgen unweth, tua'r un oed â fi, o'r enw Willie. Mi lladdwyd o wrth hel mafon duon yn Sgubor Robert Green." Ond mi gadwodd 'nhad y gweddill o'r stori—ei fod o efo Willie ar y pryd—iddo fo'i hun.

Rhyw bigo'i bwyd ac edrych yn syn oedd mam. Toc, mi welwn ddeigryn yn hel i gornel ei llygad,—"Nedw," medde hi, "nei di addo un peth i dy fam?" Dydi hi byth yn deyd "i dy fam," ond pan fydd rhywbeth go anodd i'w neud yn dwad.

"Bedi hwnnw?" medde fi.

"Peidio byth â mynd i Sgubor Robert Green, 'machgen i, i hel mafon duon," medde hi. Yna trodd ei gwyneb i ffwrdd, gan dynnu ei llaw trwy 'ngwallt i yn ara ac ysgafn,—peth nad ydwi ddim yn cofio ei gweld yn ei neud o'r blaen. Wedyn mi drychodd yn hir i'r gwagle. Yna mi drychodd yn rhyfedd ar nhad, fel tase hi'n gweld trwyddo fo i'r ochor arall, ac roeddwn i'n meddwl fod golwg braidd yn euog arno.

Y ffordd y gofynnodd mam i mi, a wnaeth i mi ryw feddalu ac addo. Ond beth petae Jinny'n gofyn imi fynd? Rydw i a hi'n dal yn ffrindie mawr, o achos mae ene un peth na ŵyr neb ar wyneb y ddaear amdano, ond hi a fi. A dene sy'n gneud ffrindie.

Nodiadau

golygu