Mafon Duon Nedw

gan Edward Tegla Davies

Eos y Waen

VI.—'RHEN NEDW.

Rhaid mod i'n hen, yn hŷn na John Huws, y Groshiar, a fo ydi'r dyn hyna'r ffordd yma. Mae o'n byw wrth y Felin, a dyn dall ydio, a does gyno fo ddim gwallt, ond tipyn bach o beth rhwng du a gwyn yn hongian, fel cynffon chwiaden ar law, o'r tu ol, ac mae'i groen o'n felyn, ac yn crychu fel swigen mochyn ar ol iddi sychu wedi ichi fethu ei chwthu hi'n iawn, ac y mae'i wiscars o rhwng du a gwyn, ond y stripie melyn sydd dan ei geg o.

Roeddwn i yn y capel nos Sul dwaetha, ac yn teimlo reit dedwydd yno, fel roedd pethe'n bod. Waeth gen i pwy fydd yno'n pregethu ar Nos Sul, mi rydwi'n gyfforddus iawn yno, os bydd y bleinds i lawr, a'r darn crwn o'r ffenest o'u tucha nhw'n ddu, a'r lampie a'r canhwylle'n ole. Mae'n well gen i'r capel ar Nos Sul yn y gaea, na'r ha. Dydi John Huws chwaith ddim yn edrych mor hyll yr adeg honno. Yn wir, mae'r hen bobol yn y sêt fawr i gyd yn edrych yn neis, yn canu ei hochor hi, a phob un ond John Huws yn cau eu llygid. Eu hagor nhw y mae o, er ei fod o'n ddall bost.

Pan oedden ni'n canu nos Sul dwaetha, yn y cyfarfod gweddi—wel, doeddwn i ddim yn canu fy hun, cnoi nghadach poced oeddwn i,—roeddwn i'n edrych ar yr hen ddynion yma, ac yn deyd yn ddistaw, wrth edrych ar bob un ohonyn nhw yn ei dro, "rydwi'n hŷn na thi, a thithe, a thithe, a thithe," nes mynd drostyn nhw i gyd. Wn i ddim ydech chi'n teimlo weithie fel tasech chi wedi bod yn y byd yma rioed,—rydwi'n teimlo felly weithie, yn hen, hen iawn, a'r adeg honno tydi Mynydd y Foel ddim yn hen, na'r afon bach dan tŷ, na hyd yn oed Plas Bodidwal. Ac mae'r cwbwl yn hŷn o lawer na taid, medde nhad, ac mae nhad yn hen ddyn, agos i ddeugien oed, medde fo. Ar ol bod yn chware ar ffordd Mynydd y Foel, ac i Wmffre, a Jac Ty'n y Wal, a Morus yr Allt, fynd adre a ngadael inne fy hun, rydwi weithie'n teimlo mod i'n hen. Rydwi'n chware efo'r Foel a'r afon bach, fel tase nhw'n blant. Wrth gwrs, dydi'r Foel ddim yn rhedeg o gwmpas efo fi run fath a'r afon, mae hi'n llonydd, fel Isaac 'y mrawd bach, pan fydd Wmffre a fi a fynte'n chware. Eistedd yn llonydd mae Isaac, fel y byddwn ni'n deyd wrtho fo, ond mae o'n chware er hynny. Felly y mae'r Foel, yn eistedd yn llonydd, a'r afon bach a finne'n rhedeg a chwerthin. A faswn i ddim yn medru meddwl am John Huws y Groshiar yn chware efo nhw. Mae nhw'n hŷn lawer na John Huws, medde nhad, a rywsut fedra i ddim meddwl y base fo'n medru eu dallt nhw. Ac wedi i mi fod yn chware efo nhw, rydwi'n edrych ar nhad a mam, fel mae nhw'n edrych arna i bob amser, yn rhywun i'w ordro o gwmpas.

Fi sy'n clymu tei nhad ar fore Sul, feder o ddim clymu'r pethe ffasiwn newydd yma, ac os bydda i wedi bod yn chware efo'r afon bach dan tŷ a'r Foel, nos Sadwrn, rydwi fel taswn i eisio deyd wrtho fo am ofalu bod yn fachgen da yn y capel, a pheidio bwyta fferins, a chnoi ei gadach poced, fel mae nhw'n deyd wrthym ni. Mi ddeydes hynny wrtho fo unweth, heb feddwl, a chlywsoch chi rioed fel roedd o a mam yn chwerthin, nes siglo a gwasgu eu hochre. Meddwl oedden nhw mai smalio oeddwn i, a finne'n cochi at fy nghlustie pan weles i be ddeydes i, ac, wrth gwrs, doedd dim i'w neud ond cymyd arna mai nhw oedd yn iawn. Dydwi ddim wedi deyd y pethe yma wrth neb, hyd yn oed wrth Wmffre nghefnder, rhag ofn iddyn nhw chwerthin am fy mhen i, a meddwl nad ydwi ddim yn gall, ac os unweth y gneiff y bechgyn feddwl nad ydech chi ddim yn gall, wel, mae hi'n amser i chi adael yr ysgol, neu gael glasenw, a dydwi ddim ond deg oed eto.

Ond, yn wir, rydwi'n teimlo'n rhyfedd weithie. Dene'r hen dderwen fawr, yn y coed mae nhw'n alw'n Nyrs Goed Llus, mae hi â thwll digon maint ynddi i chi gadw picnic ynddo fo, a dydi John Huws y Groshiar ddim yn ei chofio hi'n cael ei phlannu, medde fo wrth lot ohonom ni oedd yn ei holi yn ei chylch; ond pan oeddwn i yn y Nyrs, y diwrnod o'r blaen, ar fy mhen fy hun, mi roddes fy mreichie amdani i'w chusannu,—roeddwn i'n teimlo'n gymint o ffrindie efo hi. Rywsut, dydwi ddim yn leicio'r coed ifinc, dyden nhw ddim yn cofio dim byd, ond rhaid fod y dderwen yn cofio pethe sydd wedi digwydd ers talwm, cyn i John Huws gael ei eni, ac rydw inne'n eu cofio nhw, weithie, pan fydda i ar fy mhen fy hun. Mae'n well gen i 'r dderwen yma na'r un sydd wrth bont y Llan, am ei bod hi'n fwy unig.

Dene'r hen dwmpath wrth odre'r Foel, yn ymyl Bedd y Porthmon, a'r afon bach yn rhedeg heibio iddo fo. Mae ene borthmon wedi ei gladdu yn y fan honno. Ystalwm iawn, medde nhad, roedden nhw'n pedoli gwartheg, gwartheg cofiwch, nid cyffyle, yn y dolydd, ac yn eu cerdded nhw i Loeger, a'r porthmyn ar gefne eu cyffyle yn eu gyrru nhw, ac yn dwad yn ol efo llond pob man o arian. Wel, mi ddaru lot o ddynion oedd yn cyfarfod yn y "Black Crow" fynd i gyfarfod un porthmon, a'i ladd o, a chymyd ei geffyl a'i arian oddiarno, a rhedeg i ffwrdd o'r wlad, na welodd neb byth monyn nhw, wedi ei gladdu o yn gynta yn y bedd yma, yn ymyl yr hen dwmpath. Roeddwn i'n pasio'r hen dwmpath un pnawn Llun, y gaea dwaetha, wrth ddwad o'r ysgol. Ryden ni'n byw ymhell o'r ysgol, ar odre'r Foel, a does dim eisio i chi gario grug i gynnu tân yn ein tŷ ni, dim ond mynd i dop y Foel, a thynnu baich na feder dyn mo'i gario fo, ac wedi ei rwymo, rhoi cic iawn iddo. Welsoch chi rioed fel y mae o'n rowlio i lawr, ac yn neidio tros y gwrych i'r ardd.

Mae ene dwll yn y twmpath, i lawr o'r golwg, dipyn yn llai na thwll gwningen, ac roedd hi'n dechre nosi'r pnawn yma, pan oeddwn i'n pasio, ond fedrwn i ddim peidio aros i orwedd ar y twmpath, i edrych i mewn i'r twll, ac yr oedd yr afon bach yn rhedeg wrth fy nhraed i, ac yn cadw sŵn fel arfer. Mi ddalies i edrych i'r twll yn hir, heb weled dim byd, nes mynd i deimlo'n drymllyd. Mi feddylies toc mod i'n gweled gole'n symud yn ei waelod o, heb fod yn ddim mwy na gole pry gole. Wrth imi ail edrych, mi welwn rywbeth fel pry yn dwad i fyny'r twll, gan godi un goes, a dal cannwyll fechan, fechan, â'i droed. Roedd arnai dipyn bach o ofn i ddechre, ond rywfodd roedd arnai awydd mawr hefyd gwybod be oedd y pry rhyfedd yma.

Pan ddaeth o i geg y twll, mi ddalies fy llaw, ac mi gamodd i'm llaw i, gan ddal y gannwyll o hyd â'i droed. Mi geisies chwythu'r gannwyll, ond pan ddaru mi hynny, neidiodd oddiar fy llaw i, a safodd ar lawr, a dyma fo'n chwyddo, ac yn chwyddo, ac yn chwyddo, nes bod mor fawr a nhad, a be oedd o ond hen ddyn. Wel, mi ddychrynnes dipyn, a phan welodd o fi felly, chwerthodd dros y wlad. "D'wyt ti ddim yn fy nabod i, rhen Nedw?" medde fo. "'Rhen Nedw" mae Wmffre'n fy ngalw i hefyd, pan fyddwn ni'n fwy nag arfer o ffrindie.

Yr oedd rhywbeth mor gynnes yn chwerthin yr hen ddyn, nes imi benderfynu mynd yn nês ato. Roeddwn i'n ei nabod o'n iawn, ond fedrwn i yn fy myw gofio ar y funud pwy oedd o. Roedd o'n dawnsio mor ysgafn fel y cynhygies i chware efo fo. "Ddim heno," medde fo, "mynd i'n gwlâu mae'r hen wraig a finne—edrych i'r twll." Mi edryches wedyn, a'r hen ddyn yn dal y gannwyll imi, a gwelwn bry arall yn dwad ohono fo. Dalies fy llaw i'r pry hwnnw hefyd, ac mi ddaeth arni hi. "D'wyt ti ddim yn ei nabod hi?" medde'r hen ddyn,—"edrych di'n iawn rwan." Wrth imi ddal i edrych, mi chwyddodd y pry hwnnw hefyd, a be welwn i o mlaen i, ond hen wraig yn chwerthin mor lawen a'r hen ddyn. "Wel yr hen Nedw!" medde hi, gan daflu ei breichie am fy ngwddw i, a 'nghusannu nes bod bron imi golli ngwyneb. Ac er nad ydwi byth yn leicio'r hen gusannu yma, roeddwn i wrth fy modd, a doedd neb yn edrych. Fedrwn i neud na rhych na gwellt ohonyn nhw, er na fues i rioed yn fwy wrth fy modd efo neb. Roedden nhw'n nallt i rywsut yn well na hyd yn oed nhad a mam, ac mi ddechreues ddeyd pethe wrthyn nhw, nad oeddwn i ddim wedi meiddio eu deyd hyd yn oed wrth Wmffre.

"Wel," medde'r hen ddyn, "mae'n gamp iti ddeyd pwy yden ni er ein bod ni'n gymint o ffrindie."

Be ddeydwn i'n te, ond nad oeddwn i ddim yn cofio? Plygodd yr hen ddyn ata i nes mod i'n clywed ei wynt o'n gynnes ar fy ngwddw, a deydodd yn ddistaw, tan edrych o'i gwmpas,—"Enaid y Foel ydw i, ac Enaid yr afon bach dan tŷ ydi hithe." Roeddwn i'n methu dallt am funud be oedd o'n feddwl, ond mi gofies fod y pregethwr y nos Sul cynt wedi deyd stori am enaid rhyw fachgen bach yn mynd i ffwrdd, gan ddeyd be oedd enaid, pan oeddwn i'n edrych ar y darn ffenest crwn oedd mor ddu uwch ben y bleind, er mwyn gweled fase ne rywbeth yn edrych trwyddo fo o'r tuallan. Ac mi ddalltes yr hen ddyn yn syth. Roedd o'n mynd i ddeyd rhywbeth arall, ond dyma lais rhywun yn hanner nadu y tu ol i mi. Trois i edrych, ac er fy syndod, roedd hi'n dwyll fel y fagddu, ond fod rhyw ole bach yn dwad o'r pellter, a phwy glywn i'n gweiddi f'enw i ond mam. Dwad yr oedd hi i edrych amdana i efo lantar. Roedd hi'n falch o ngweld i, a minne'n falch o'i gweld hithe hefyd, gan ei bod mor dwyll, a'r hen ddyn a'r hen wraig, erbyn hyn, wedi mynd. Ond welsoch chi rioed mor ifanc roedd hi'n edrych. Ddeydes i ddim am fy ffrindie wrthi: gwyddwn na fase hi ddim yn dallt, ac y base hi'n mynd i nadu wrth feddwl fod rhywbeth o'i le arna i,—mod i'n deyd anwiredd, neu ddim yn gall. Mae Isaac yn methu dallt y pethe sy'n mynd rhwng Wmffre a fi, a pheth diflas ydi ceisio sbonio pan na bydd pobol yn dallt, a fase mam ddim gwell. Eis i ngwely reit gynnar y nosweth honno, a hynny ohonof fy hun. Rywsut roedd nhad a mam yn siarad am bethe anniddorol iawn i mi, wedi ymgom yr hen ddyn a'r hen wraig, fel y mae Winnie ac Isaac, pan fydd Wmffre a fi'n chware. Babi ydi Winnie, a dydi hi ddim yn ddwyflwydd eto, a chofiwch mod i'n ddeg.

Ond y nosweth ryfedda oedd honno pan oedd modryb Ann yn sâl, a minne'n gorfod mynd i dŷ cipar Bodidwal i chwilio am wningen i neud potes iddi hi, fel roedd y doctor yn deyd. Plas Syr Hugh ydi Bodidwal, a dydi Syr Hugh ddim yno ers tro. Dydi'r Plas ddim digon maint iddo rwan, medde'r cipar. Mae o wedi cael ei godi gan y llywodraeth, ac mae'r llywodraeth wedi ffeindio lle iddo fo fyw yn Lloeger, medde'r cipar, mwy o lawer na Bodidwal. Wedi cael ei neud yn fancrafft, neu rywbeth fel ene mae o, a'r cipar sy'n edrych ar ol Bodidwal rwan, ac yn byw yn ymyl. Roedd Syr Hugh eisio mynd i'r Senedd unweth, ac roedd yn rhaid i bawb fotio er mwyn iddo gael mynd yno, a daeth y cipar o gwmpas y tai i ddeyd os gwnai pobol fotio iddo, y cawsen nhw wningen am ddim, dim ond gofyn, ac mi fotiodd f'ewyrth John iddo,—dydi nhad ddim yn hidio am wningod, medde fo. Dyn clên iawn ydi Syr Hugh. Mi roddodd pawb oedd gan fflagie rai i fyny, pan aeth o i'r Senedd, ond doedd gennym ni run fflag, medde mam. Doedd pobol ddim mor llawen ag y basech chi'n disgwyl pan gafodd o'i godi'n fancrafft. Dydwi ddim yn meddwl fod pobol yn meddwl cymint ohono fo rwan ag y buon nhw.

Pan oedd modryb Ann yn sâl, a'r doctor yn deyd y base potes gwningen yn ardderchog iddi hi, mi es, ar ol tê un nosweth, dros f'ewyrth at y cipar, i ofyn am un, gan nad oedd Wmffre gartre. Y mae tŷ'r cipar yn y coed, dipyn oddiwrth Bodidwal, ac y mae'n rhaid i chi fynd drwy goed, ac wedyn heibio Bodidwal, ac wedyn drwy goed, i fynd yno. Roedd hi'n dechre twllu pan oeddwn i'n cychwyn, ac mae ene lofft wedi ei chloi ym Modidwal na fu neb erioed ynddi hi, ac mae gwaed ar y wal, medde nhw. A deyd y gwir i chi, roedd arna i ofn mawr wrth fynd drwy'r coed cyn dwad at y Plas, a phan roddodd rhywbeth sgrech yn y coed, meddylies fod fy nghap ar fy mhen i fel tase fo ar dop gwrych, fel yr oedd fy ngwallt i'n codi. Roedd hi cyn dwlled a'r fagddu, ac roeddwn i braidd yn falch o hynny weithie, ac yn cerdded ar flaene nhraed, ond er fy syndod, fel roeddwn i'n agoshau at Fodidwal, roedd hi'n mynd yn oleuach o hyd.

Rhaid i chi fynd heibio ffrynt y Plas i dŷ'r cipar, ac ar wal y ffrynt, uwchben y ffenestri, ffenestri bychin duon, mae ene rês o hen wynebe cerryg. Mae ene un efo trwyn smwt, a'r llall wedi colli'i glust, a'r llall efo clustie ci, a'r llall heb ddim ond un llygad. Penderfynes na chodwn i mo mhen i edrych arnyn nhw, y rhedwn i heibio iddyn nhw fel y gwynt, o achos mi fum i ac Wmffre'n lluchio cerryg atyn nhw fwy nag unweth wrth basio'r Plas, a neb gartre, a dydwi ddim yn siwr nad ni a roddodd drwyn smwt i'r un sydd hefo un rwan. Ond er imi benderfynu, fedrwn i ddim yn fy myw beidio edrych. Pan godes i mhen roedd hanner ucha'r Plas yn reit ole, a'r penne i gyd yn y golwg, a'r cynta yr edryches i arno oedd yr un efo un llygad. Wedi edrych arno am funud, fedrwn i ddim yn fy myw dynnu fy llygid oddiarno, ac yn wir i chi, be wnaeth o ond wincian arna i efo'r llygad dall. Roedd o mor ddoniol, fel na fedrwn i ddim peidio chwerthin, ac mi anghofies fod arnai ofn. Dene fo'n wincian â'r llygad arall, ac yn crychu ei dalcen yn ol a blaen, fel y bydd nhad yn ei chrychu pan fydd arno eisio i Winnie weld ei gorun o'n ysgwyd, ac yr oedd y gole ar y Plas yn dwad yn is i lawr o hyd. A be feddyliech chi, dyma'r gwyneb un llygad yma allan o'r wal, ac yn dwad ata i,—dim ond pen, ond roedd o'n wincian ac yn gwenu, fel na fedrwn i neud dim ond chwerthin.

"Wel, rhen Nedw," medde fo, "ai ti wyt ti, dywed? Pwy fase'n meddwl dy weld di'n y fan yma, er mod i wedi colli un llygad wrth chwilio am danat ti.—Tyrd i lawr, Owen," medde fo wrth y gwyneb oedd wedi torri ei glust. A dene'r gwyneb hwnnw i lawr.

"Paffiwr ofnadsen ydi Owen yma," medde fo, "fo laddodd y Sais mawr hwnnw yr wsnos dwaetha, a fi claddodd o. Mi claddes o ar ei eistedd. Fedrodd y Sais neud dim i Owen ond torri 'i glust o."

"Paid a lolian," medde Owen, "mae chwaneg o baffio i fod."

Trodd ata i. "Faset ti ddim yn leicio'n helpio ni?" medde fo wrtha i. "Rwan, tyrd yn dy flaen,—ac yn ol a blaen yr aethom ni ein tri am hydoedd,—y ddau ben un bob ochor imi, a minne'n martshio yn y canol rhyngddyn nhw, nes berwi o chwys, a'r penne erill yn ein gwylio ni a gweiddi hwrê. A doeddwn i'n gweld dim yn od o gwbwl yn y penne heb ddim cyrff yma. Mi anghofies bopeth am y wningen a phawb, dim ond disgwyl gweld sowldiwrs diarth yn codi eu penne dros y graig oedd ar ochor y Plas. Mi wyddwn mai Owen Glyn Dŵr oedd y pen cyfa yma, o achos roedd y scŵl wedi deyd wrthym ni. Be feddyliech chi o feddwl eich bod chi'n byw yn oes Glyn Dŵr?

"Helo," medde rhywun o'r tu ol inni.

"Dene nhw'n dwad!" medde fi, gan droi mhen,—a phwy oedd yno ond y cipar. Trois yn ol i edrych ar y penne, ond roedden nhw yn eu lleoedd ar y wal, heb symud dim o gwbwl, yn edrych dros y coed, yng ngole'r lleuad.

Wyddwn i ddim yn iawn ar y dechre lle roeddwn i, ac yr oedd y cipar yn edrych yn od arna i. "Be haru ti, dywed?" medde fo, "yn rhedeg o gwmpas yng ngole'r lleuad yn y fan yma, yn lle bod yn dy wely?" A dene'r adeg y cofies i mai bachgen oeddwn i, ac nid sowldiwr, ac fod gen i dad a mam. Mi ddeydes fy stori wrtho, pan oedd o ar fin gafael yng ngholer fy jeced i. A phan glywodd o enw f'ewyrth John, newidiodd ei wêdd, a daeth yn ddyn neis. "Tyrd efo mi," medde fo. Wel roeddwn i'n synnu ato fo'n siarad braidd yn chwyrn, heb ddeyd "os gweli di'n dda," wrth un oedd gymint hŷn na fo, ond ddeydes i ddim byd. Waeth i chi heb ddeyd pethe fel hyn wrth gipars. O ran hynny, fedrwn i ddim deyd yr hanes wrth nhad a mam chwaith, pan oedden nhw'n synnu lle bum i mor hir, ac wedi bod yn anesmwyth, medde nhw, a nhad ar fin cychwyn i edrych amdana i. Ond yn wir yr oedden nhw'n edrych yn ifanc yn ymyl Owen a'r gwyneb un llygad hwnnw.

Ydech chi'n teimlo'n hen weithie, deydwch, ac yn fwy cyfforddus efo pobol oedd yn y byd yma ers talwm iawn, nag efo neb arall? Fydda inne ddim yn teimlo felly, chwaith, o ran hynny, ond pan fydda i ar fy mhen fy hun.

Nodiadau

golygu