'Rhen Nedw Nedw

gan Edward Tegla Davies

Bod yn Ddiymhongar

VII.—EOS Y WAEN.

Ddisgwyliodd Wmffre a fi rioed gymaint am ddim ag a wnaethom ni am nosweth y Majic Lantar, a chawsom ni rioed ein siomi gymaint mewn dim. Mi fase'n siom hollol onibae am un llygedyn yn y diwedd. A hynny am ddau reswm. Y rheswm cynta oedd Daniel Williams, Eos y Waen, ac mi soniaf am y llall yn nes i ddiwedd y stori,—mi drodd hwnnw'n dipyn o fendith i ni.

Does arnom ni'r bechgyn ddim ofn neb yn yr ardal i gyd ond Daniel Williams, Eos y Waen. Ac y mae o'n llwyddo i ddwad ar ein traws ni ymhobman, hyd yn oed yn y lleoedd mwyaf annhebyg, fel y cewch chi weld.

Os sibryda rhywun pan fyddwn ni ar ganol chware fod Daniel Williams, Eos y Waen, yn dwad, dene ddigon. Diflanna pawb fel tase'r ddaear wedi eu llyncu ar darawiad amrant. Os bydd y llyncu hwnnw'n amhosibl, ryden ni'n gadael ein tacle chware yn y lle y mae nhw, prun bynnag ai marbls, neu pegi, neu gneuen goblo fydd ar droed ar y pryd, ac yn ffurfio'n llinell mor agos i'r wal neu'r gwrych ag y medrwn ni, a'n gwasgu'n hunen iddyn nhw nes i'r pigie fynd i'n cnawd ni, os gwrych fydd tu ol i ni. Fel y daw Daniel Williams i'r golwg, ryden ni'n edrych arno heb dynnu'n golwg oddiarno fo, a'i ddilyn â'n llygid gan sylwi'n fanwl ar bob symudiad, yn enwedig ar ei chwythu o. Mi gaf sôn am hwnnw eto. Wedi iddo basio mae hi bob amser yn helynt, a Morus yr Allt sy'n ei dechre fel rheol. Dydi Morus ddim yn dwad i'n capel ni, ac y mae Daniel Williams, Eos y Waen, yn dwad.

"Weldi o'n chwythu," medde Morus bob amser ar ol iddo basio.

"Cofia di," medde fi neu Wmffre, neu Willie'r Pant, neu rywun arall fydd yn dwad i'n capel ni, "ei fod o'n fardd." Os bydd bechgyn diarth yn ein mysg ni, eu cwestiwn nhw bob amser ydi bedi bardd.

"Dyma ydi bardd," ydi ateb Morus yr Allt, "dyn yn chwythu ac yn tagu fel injian ddyrnu bob amser."

"Nage," ydi ateb Bob y Felin neu rywun tebyg iddo fo, sy'n mynd i'r capel ucha,—"dyn yn medru codi——," wel, mi gaf ddrwg am ddeyd yr un gair ag a ddeydodd o, o achos un yn deyd geirie mawr ydi Bob. Ond yr hyn mae o'n feddwl ydi mai dyn yn medru codi ysbrydion drwg ac yn eu rhoi nhw i lawr ydio.

Ar hyn, mi neidia rhywun arall i mewn a deyd, "Os felly, dydi Daniel Williams ddim yn fardd yrwan o achos mi ddaru'r ysbrydion drwg fynd yn fistar arno fo unweth a'i dynnu drwy gant o wrychoedd."

Rydwi wedi clywed yr ymgom ene bellach ugeinie o weithie. Ond er mod i wedi hen arfer â hi, fedrai ddim pasio Daniel Williams heb arswyd. Ond y tro cynta y clywsom ni hi i gyd, yr adeg honno y cawsom ni'n dychrynnu'n iawn. Un diwrnod yn y gaea, ryw dair blynedd yn ol oedd hi, a nifer o fechgyn wedi bod yn chware'n rhy hir ar eu ffordd o'r ysgol. Yr oedd hi'n twllu'n gyflym cyn inni gyrraedd adre, ac mi ddaeth yn gawod drom o law, a ninne'n aros i ymochel dan bren. Pwy a welem ni'n ymochel rhwng twyll a gole yr ochr arall ond Jona'r Teiliwr. Dydi pobol ddim yn edrych ar Jona fel yn rhyw gall iawn, fel y gwyddoch chi, heblaw ei fod yn gloff a chanddo draed clwb. Ac efo'r plant y mae o'n leicio bod. Heb baratoi dim arnom ni at y peth, dyma fo'n croesi atom ni ac yn deyd,—"Mae Daniel Williams, Eos y Waen, yn medru codi cythreulied, a dacw fo'n dwad yrwan." Mae Jona yn cael caniatad pobol i ddeyd y gair mawr ene am nad ydio ddim yn rhyw gall iawn. I'r gwrych i ganol y drain dros ein penne â ni y funud honno, a chau'n llygid nes i Daniel Williams basio. Yna i ffwrdd â ni fel yr awel adre. Yr oedd Jona wedi ei siomi'n arw na fuasem ni'n aros am gom ar ol y newydd ene.

"Mam," medde fi ar ol mynd adre, "ydio'n wir am Daniel Williams, Eos y Waen, ei fod o'n medru codi'r pethe hynny?" "Pethe hynny" ydi enw mam arnyn nhw.

"Ydi," medde mam, "wedi bod, ond dydio ddim yn eu codi nhw yrwan."

A dene hi'n deyd mai hynny oedd ei fusnes o un adeg, fod llyfre ganddo i'r pwrpas, ac y galle fo eu codi nhw a'u gostwng pan fynnai. Ond iddo fynd yn rhy hy arnyn nhw unweth, neu eu codi a methu a dwad o hyd i'w lyfre'n ddigon buan, ac i rywun fore drannoeth ei weld o'n hanner marw a'i ddillad yn rhidens. Mi losgodd ei lyfre wedyn yn ol y stori a glywodd mam. Ond y drwg ydi nad oedd mam ddim yn glir ar y darn ola ene,—ei fod o wedi gollwng ei afael ohonyn nhw.

Ac eto, mae hi'n anodd peidio â chwerthin wrth edrych arno fo os byddwch chi'n sâff oddiwrtho, fel yn y capel neu rywle felly, o achos y chwythu yma. Wrth gymyd ei wynt mae o'n tynnu ei foche i mewn nes eu bod nhw'n cyfarfod ei gilydd yn ei geg o, wedyn gollwng ei wynt allan nes bod ei foche'n mynd fel dwy swigen. A rhwng pob anadliad mae o'n crychu a chodi a gostwng ei drwyn yr un fath yn union a gwningen. Yn y capel mae o'n gneud hyn ore, ac mi wyddom oddiwrth ei ddull o sut bregethwr sy'n y pulpud.

Weithie pan fydd y pregethwr yn gweiddi ac yn ratlo, nes bod yn goch ei wryneb, ac Wmffre a fi'n meddwl mai dyma'r pregethwr gore a glywsom ni rioed, mi drycha un ohonom ar Daniel Williams, yna pwtian y llall a deyd,—"Dydi hwn fawr o bregethwr."

"Sut y gwyddost ti?" medde'r llall.

"Dydi Daniel Williams ddim yn chwythu'r nesa peth i ddim," medde'r edrychwr.

Weithie fel arall y mae hi. Dyn tawel fydd ambell bregethwr, a ninne'n mynd braidd yn anesmwyth, ac edrych o gwmpas. Yn sydyn, mi wêl un ohonom Daniel Williams, ac mi ddywed wrth y llall,—

"Dy! lad, dyma iti bregethwr." A'r achos o hynny ydi'r olwg ar Daniel Williams. Mi fydd ei foche fel megin, a'i drwyn yn mynd i fyny ac i lawr gymint fyth, a rhyw ole rhyfedd a diarth yn ei lygid o fydd yn ein llonyddu, nes inni fethu â chwerthin, er gwaetha'r ystumie. Mi welwch, felly, rhwng popeth, fod Daniel Williams yn ddychryn i ni i gyd. Mae gan hyd yn oed nhad ryw hanner ofn Daniel Williams. Mi ofynnes iddo un diwrnod,—

"Nhad, pam na newch chi roi smocio heibio?"

"Wel," medde nhad mewn rhyw arswyd, "glywest ti'r stori honno am Daniel Williams, Eos y Waen? Mi benderfynodd ynte unweth roi smocio heibio, a threiodd hi am flwyddyn. Mi guddiodd ei faco a'i getyn mewn twll yn y cae dan tŷ, a chyn brecwest bore pen y flwyddyn mi aeth yno i'w nhôl nhw, a smocio mae o byth." A lle sal oedd hi i nhad fedru ei roi heibio os methodd Daniel Williams.

Mae ofn Daniel Williams ar bawb felly. Ond os oes gan bobol erill resyme tros ei ofni o mae gan Wmffre a fi lawn mwy o resyme dros hynny na neb arall, fel y gwelwch chi rwan.

Dyma i chi ddau dro y cawsom ni rywbeth i'w neud â fo, ac mae'r ola yn dwad â ni at y Majic Lantar. Un nosweth y gaea dwaetha mi yrrwyd Wmffre a fi i'r Seiat i gynrychioli'n dau deulu. Ac mae gennym ni gryn ddwy filltir i'r capel. Ar y ffordd ryden ni'n pasio'r Mynydd Bach,—boncyn llawn o eithin lle mae merched Pen Llan yn sychu dillad ar ddiwrnod golchi. Yr oedd hi'n bur dwyll, ac wrth basio beth welwn ni ond fflam fechan yn dechre yn yr eithin a rhywun yn gwibio'n ol a blaen heibio iddi. Aethom yno, a phwy oedd yno ond Morus yr Allt, Dic Twnt i'r Afon, Bob y Felin, a Jac y Gelli, yn dechre rhoi'r eithin yma ar dân. A rywsut mi ddarum anghofio i ble roeddem ni wedi cychwyn, a dechre eu helpio nhw 'n ddiymdroi. Cyn pen ychydig o eiliade roedd y fflamie'n lliwio'r awyr y peth propa welsoch chi. Ymhen tipyn dene'r sgrechian mwyaf anobeithiol a ddisgynnodd ar glustie neb erioed, y tu ol i ni, a holl wragedd yr ardal ar ein hole. Pan ddaru nhw gyrraedd yno, doedd yno neb i'w croesawu, na siw na miw yn unman ond sŵn y fflamie. Wrth feddwl am gartre, a be dase'r stori'n mynd yno, mi gofiodd Wmffre a fi'n sydyn mai ar y ffordd i'r Seiat roeddem ni. A doedd dim rheswm gwell i'w roi dros fod heb wybod am yr helynt na deyd ein bod ni yn y Seiat. Ac yno â ni. Pan oeddem ni'n sefyll y tuallan i'r capel yn petruso trwy ba ddrws i fynd i mewn, agorodd un o'r dryse, a'r bobol yn dechre dwad allan. Mi ddechreuodd gwefuse Wmffre grynu. "Hidia befo," medde fi, "raid inni ddim deyd adnod." A dene ni'n troi'n ol a dechre toddi i mewn i'r gynulleidfa.

"Helo!" medde llais fel taran o'u canol nhw, "ymhle y buoch chi?" "Dowch i mewn bobol," medde'r llais wedyn, fel taran arall. Ac i mewn â phawb. Wedi inni godi'n llygid, pwy oedd yn edrych i lawr arnom ni fel un o'r pethe hynny fedre fo godi a gostwng, ond Daniel Williams. Ddeydodd o ddim, ond edrych arnom ni. Ac roedd hynny'n ddigon. Roedd y distawrwydd yn llethol, a'r torri cyntaf arno oedd ein gwaith ni'n snyffio crio. Yna gofynnodd Daniel Williams inni am adnod.

"Cofiwch wraig Lot," medde Wmffre dan ddal i snyffio crio.

"A Job a atebodd ac a ddwedodd," medde finne yn yr un gyflwr a fo.

Dene lle buom ni wedyn allan o hydoedd yn gwrando ar Daniel Williams yn deyd hanes Job a gwraig Lot. Mi allswn i feddwl ar ei stori o, yn ol yr hyn oeddem ni'n ddallt arni, fod y ddau'n ffrindie mawr. Wedi iddo fo orffen deyd hanes y ddau, aeth pawb adre.

Yr oedd arnom ni ofn Daniel Williams o'r blaen, beth am yrwan, te? A dene sut roedd hi ar bethe rhyngom ni a Daniel Williams ddiwrnod y Magic Lantar, pan ddaru ni neidio o'r badell ffrïo i'r tân.

Y gweinidog o'r dre oedd yn dwad i roi Magic Lantar, i dynnu tipyn ar ddyled y capel. Mi ddaeth yn gynnar yn y pnawn i'r Hendre yn ei gerbyd, a'i gelfi efo fo. Ond doedd dim lle i'r ferlen yno am mai gaea oedd hi, a'r anifeilied i gyd i mewn, a'r Hendre'n ffarm fechan. Dyma air i'n tŷ ni eisio i mi fynd i'r Hendre. Ac mi es i ac Wmffre.

"Nedw," medde John Edwards yr Hendre, "fedri di ddreifio?"

"Medra," medde fi. Fum i rioed yn gafael mewn awenne, ond wedyn doeddwn i ddim gwaeth er trio.

"Fedrwch chi'ch dau fynd â'r cerbyd yma i'r Waen i dŷ Daniel Williams?" medde John Edwards.

"Medrwn," medde ninne efo'n gilydd.

"Ewch i mewn," medde John Edwards.

Ac i mewn â ni, mi'n gafael yn yr awenne a John Edwards yn gafael ym mhen y ferlen nes inni fynd o'r buarth i'r ffordd fawr. Wedi deyd wrthym ni am gymyd gofal, aeth John Edwards yn ei ol. Mae'r ffordd o'r Hendre i'r Waen yn agos i dair milltir, a'r un ffurf a'r llythyren Z, ac yn ffordd fynydd bron i gyd. Wedi mynd o olwg yr Hendre, dene stopio'r cerbyd i feddwl sut i neud. Roeddem ni wedi clywed lawer gwaith am ddynion yn gyrru nes bod carne'r ceffyl yn gwichian. Ac mi ddarum benderfynu y carem ninne glywed carne ceffyl yn gwichian am unweth yn ein hoes. A dene yrru, a gyrru, ond doedd carne'r ferlen ddim yn gwichian er ei bod hi'n rhedeg yn ofnadwy. Dyma ni'n trio cynllun arall,—codi ar ein traed yn y cerbyd, a neidio ar i fyny, a disgyn yn ol iddo, mor debyg i lwyth o gerryg ag y medrem ni. A phob tro y gwnaem ni hynny, roedd y ferlen yn rhoi plwc newydd, ac yn chwyrnellu mynd, ond doedd ei charne hi ddim yn gwichian. Wedyn dene drio sut y llwyddai dawnsio yn y cerbyd a gneud oernade. Mae'n wir fod y ferlen yn mynd, ond doedd ei charne hi ddim yn gwichian. Er tynnu at yr awenne a phlycio a neidio, a sgrechian, doedd dim yn tycio,—methu â chael ei charne i wichian ddaru ni.

Wrth gwrs, doedd gennym ni ddim syniad sut i droi trofa, neu basio rhywbeth ar y ffordd. Y peth a wnaem ni'r adeg honno, oedd tynnu at yr awenne nes i'r ferlen stopio, a mynd i lawr a gafael yn ei phen. Wedi dwad heibio braich olaf y ffordd, yr oeddym yn rhydd i fynd fel y mynnem wedyn, a chafodd y ferlen fynd, a ninne'n y cerbyd yn dawnsio a neidio a gneud y sŵn mwyaf priodol i'r amgylchiade. Mi ddaru'n gyrraedd y Waen rywsut heb feddwl, a phwy oedd yn sefyll ar ganol y buarth, yn chwythu yn ddigon trwm i'n taro ni i lawr, ond Daniel Williams ei hun. Daeth ymlaen heb ddeyd gair, gafaelodd yn y ferlen oedd yn laddar o chwys, a throdd ei gefn arnom. Mi ddaru'n i'n dau sylwi fod ei war o'n goch iawn wedi iddo droi. O'r cerbyd â ni fel awel, a heibio'r gornel o'r golwg cyn i Daniel Williams ddwad yn ei ol, neu wn i ddim sut y base hi arnom ni.

"Wel," medde Wmffre, "dene ddigon ar Daniel Williams,—y Magic Lantar bellach." Doeddem ni ddim wedi meddwl am ddim arall ers wythnose. Ac i feddwl ein bod ni wedi cael gyrru cerbyd dyn y Magic Lantar. Mi wyddem y bydde dannedd y bechgyn i gyd yn rhedeg. Dene fynd i'r capel, a gosod ein hunen mewn lle amlwg i weld pethe, ryw ddwylath oddiwrth y gynfas. Toc, mi gododd y gweinidog. "Dydi'r cadeirydd ddim wedi dwad," medde fo, "ac mae'n bleser gen i ofyn i Daniel Williams, Eos y Waen, gymyd ei le." Mi gurodd pawb eu dwylo ond Wmffre a fi. Dyma Daniel Williams ymlaen, ac eistedd yn syth o'n blaene ni, gan edrych i'n cyfeiriad ni, ac mi spwyliodd y cwbwl.

O drugaredd mi aeth y gole i lawr a Daniel Williams o'r golwg, ond yn y munud mi waeddodd Wmffre dros y lle,—"Mae rhywun yn fy mhinsien i." Wyddom ni ddim yn iawn hyd heddyw pwy ddaru, ond roeddem ni o fewn cyrraedd braich Daniel Williams.

Mi ddarum feddwl y base rhyw gysur ar ol i'r gole fynd i lawr, ond mi'n siomwyd wedyn, a dyma fi'n dwad at yr ail reswm y sonies i amdano. Welsoch chi rotsiwn beth, roedd y lantar yn mygu fel odyn.

"Llun blacs o Affrica sy ar y gynfas rwan," medde'r gweinidog. Ac mae'n debyg ei fod o'n deyd y gwir. Welem ni mo'r gynfas, ond mi welem flacs yn nofio yn yr awyr ymhob man. A beth bynnag a ddeydai'r gweinidog oedd ar y gynfas, welem ni ddim ond y blacs yma, nid ar y gynfas, ond rhyngom ni â hi.

Dene'r gole i fyny o'r diwedd, ac yr oedd Wmffre a fi, oedd yn ymyl y lantar, fel blacs ein hunen, yn enwedig lle roedd Wmffre wedi crïo tipyn ar ol y pinsh hwnnw. Ond roedd ene un cysur,—pan gododd Daniel Williams i ddiolch i'r gweinidog, mi welem ei fod ynte fel blac hefyd. A fedre fo ddim mynd yn ei flaen gan fel roedd pobol yn chwerthin am ei ben o. Ac roedd cael chwerthin am ben Daniel Williams, Eos y Waen, yn beth mor newydd nes ei fod o bron cystal â Magic Lantar.

Nodiadau

golygu