Nedw/Dewyrth a Bodo

Bod yn Ddiymhongar Nedw

gan Edward Tegla Davies

Sec

IX.—DEWYRTH A BODO.

Un gwirion ydi dewyrth, beth bynnag, o achos mae o'n meddwl nad oes neb yn gall ond fo, ond rydwi wrth fy modd efo fo er hynny. Gŵr bodo ydio. Am bodo, un yn siarad bob amser fel tase hi'n gyrru'r gath allan o'r bwtri ydi hi. Dydi dewyrth yn gneud dim byth pan fydd o hefo chi, ond eich holi. Yr un math o gwestiyne sydd ganddo fo bob amser,—rhai o'r Beibil. Ac rydwi'n leicio'i gwestiyne fo, o achos tydio ddim yn disgwyl i neb eu hateb nhw. Eu gofyn mae o er mwyn cael cyfleustra i'w hateb nhw'i hun, ac er mwyn cael ei wynt. Mae'i wynt yn fyr, ac y mae gofyn cwestiyne'n fantes iddo fo orffwys wrth fynd i fyny allt.

Fel arall y mae bodo, ac mae'n gas gen i hi. Mae hi'n gofyn cwestiyne fel tase hi'n awyddus i roi cweir i chi, ac yn gobeithio na fedrwch chi mo'u hateb nhw, er mwyn iddi gael esgus dros neud.

Un bore yn y gwylie ha, roeddwn i'n mynd yno dros mam. Pwy oedd yn eistedd i orffwys yng ngwaelod yr allt ond dewyrth.

"Rhosa, Nedw," medde fo. "Wyt ti'n mynd acw?"

"Ydw," medde finne.

"Cymer ofal," medde fo, "dydi hi ddim yn ei phethe heddyw. Mae'r ffit lân arni hi. Rhaid iti dendio dy begie. Rhosa funud mi ddo i efo ti."

Ac roedd o'n siarad fel y gwelsoch chi drên yn trio'i phwffian ei hun i ben yr allt ar ddiwrnod gwlyb, a methu. Dene ni'n cychwyn ill dau. Wedi mynd ryw ddwsin o game, mi welwn dewyrth yn chwilio am le i eistedd, ac mi wyddwn y bydde ene gwestiyne i mi'n union, er mwyn iddo fo gael esgus i eistedd, o achos tydio ddim am i neb wybod fod ei wynt o'n fyr.

"Nedw," medde fo, wedi cael carreg i eistedd arni, "gad imi ofyn cwestiwn iti,—pam fod yr efengylydd Ioan wedi sgwenu ei Efengyl mewn geirie bychin?"

"Wyddwn i ddim ei fod o wedi gneud," medde fi.

"Do," medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo. Roedd o wedi cael ei wynt ato erbyn hyn.

"Nedw," medde fo, ymhen tipyn, tan edrych o'i gwmpas am le i eistedd a phwffian, "ddeydest ti ddim pam fod Ioan—pwff—wedi sgwenu'i Efengyl—pwff a pheswch—mewn geirie bychin?"

"Naddo," medde fi.

Erbyn hyn roedd o wedi cael ei wynt ato wedyn. I fyny â fo, ac yn ei flaen. Mi gwelwn o'n crafu yn y man, ac yn pesychu fel ceubren, fel mae pobol yn deyd, ac yn gorffwys ar foncyff draenen, wedi ymlâdd.

"Nedw," medde fo, "faset ti—pwff a pheswch—yn leicio gwybod?"

"Baswn," medde finne. Ond ymlaen a fo wedyn, wedi cael ei wynt ato unweth yn rhagor. Ymhen ennyd dene arafu, ac eistedd ar wal, a phwffian a phesychu na welsoch chi rotsiwn beth. Ond yr hwyl oedd ei fod o'n trio cymyd arno nad oedd o ddim yn gneud.

"Nedw," medde fo ar ol eistedd, "faset ti'n leicio gwybod?—pwff a pheswch.—Wel, am na fedre fo ddim ei sgwenu hi mewn geirie mawr."

"O," medde fi, yn hollol fodlon ar ei ateb. Dene dewyrth yn edrych arnai'n syn, fel tase fo'n deyd wrtha i,—"rwyt ti'n un gwirion, Nedw, na faset ti'n gofyn i mi pam, er mwyn imi gael esgus arall i gymyd fy ngwynt trwy aros i dy ateb di."

"Pam?" medde fi.

"Mi ddeyda iti," medde fo. Ond ddaru o ddim deyd. Mynd yn ei flaen ddaru o. Yna gorffwys wedyn i bwffian a phesychu. "Ysbrydolieth a'i gorfododd o, machgen i," medde fo yn y man, rhwng y pwffiade a'r pesychiade.

"Bedi ysbrydolieth?" medde fi.

Yn ei flaen â fo. Yna eistedd wedyn a phwffian a phesychu, a chymyd arno nad oedd o ddim yn gneud.

"Weldi'r sowldiwr acw?" medde fo toc, tan ddangos sowldiwr pren ar hoelen a pholyn yn yr ardd yn troi efo'r gwynt.

"Gwela," medde fi.

"O," medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo. Ymhen eiliad, eistedd wedyn, a phwffian a phesychu fel tiwn gron.

"Sôn am ysbrydolieth oedden ni'n tê?" medde fo.

"Ia," medde fi.

"Wel, Ioan ydi'r sowldiwr pren, ac ysbrydolieth ydi'r gwynt sy'n ei droi o," medde fo rhwng hanner dwsin o bwffiade a phesychiade. Ac yn ei flaen â fo wedyn. Stopiodd yn y man fel tase fo eisie i mi ofyn cwestiwn, ond ddaru mi ddim.

"Wyt ti'n dallt?" medde fo.


" Dallt be?" medde fi.

"Dallt bedi ysbrydolieth?" medde fo.

"Rydwi'n meddwl mod i," medde fi.

"Be?" medde fo wrth godi i ailgychwyn.

"Gwynt yn troi sowldiwr pren, yntê?" medde fi.

"Twt, lol," medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo nes dwad i ben ei dennyn.

"Fel hyn," medde fo yn y man, "roedd ysbrydolieth yn gorfodi Ioan i sgwenu mewn geirie bychin—pwff a pheswch—fel y gwynt y sowldiwr pren."

"Ond tydi'r gwynt ddim yn gorfodi'r sowldiwr pren i sgwenu mewn geirie bychin," medde fi yn ffwndrus.

Aeth dewyrth yn gaclwm gwyllt yn y fan yma, nes i'w besychu roi pen ar ei stori. Ac roeddwn i yn y niwl yn lân. Wyddwn i ar wyneb y ddaear pwy oedd ysbrydolieth. Ond cyn i mi gael amser i ofyn iddo, i ffwrdd â fo.

Stopiodd wedyn i eistedd.

"Nedw," medde fo toc, "prun ai dyn tal ynte dyn byr oedd Paul?"

Atebes i mono fo am dipyn. Roeddwn i'n meddwl am yr ysbrydolieth yma. Mi allswn i feddwl ar dewyrth mai dyn wedi cael rhyw siort o strôc ydio, a rhywun yn gafael yn ei law ac ynte'n ddiymadferth, a'i defnyddio hi i sgwenu'r hyn mae o'n ddymuno. Ond yn ol y tipyn a glywes i am Ioan, dydio ddim yn edrych yn debyg iawn i fel tase'i Efengyl o wedi'i sgwenu gan ddyn wedi cael strôc. Mae'n rhaid, felly, fod rhyw ddrwg yn y caws, ynglŷn â syniad dewyrth amdano fo. Erbyn imi gael fy meddwl at ei gilydd, wedyn, ynghylch Paul, roedd dewyrth wedi mynd. Eis ar ei ôl o, ac roedd o'n aros amdana i, ac yn pwffian a phesychu, a'i frest fel rhegen rych.

"Prun, Nedw?" medde fo.

"Dyn tal," medde fi. Cododd ac aeth yn ei flaen gam, ac eistedd wedyn, dan yr un amgylchiade ag arfer.

"Sut gwyddost ti?" medde fo.

"Dwn i ddim," medde fi, "ond mod i'n meddwl."

"Thâl meddwl ddim i grogi dyn," medde dewyrth yn ffrwt, a'i wyneb yn goleuo. "Dyn byr oedd Paul," medde fo, "y lleia ohonyn nhw i gyd." Ac yn ei flaen â fo. Eisteddodd wedyn, ac edrych arna i fel tase fo eisio i mi ofyn cwestiwn arall.

"Sut hynny?" medde fi.

"Mae o'n deyd ei hun," medde fo,—"Myfi y llai na'r lleiaf o'r holl saint,—y byrra ohonyn nhw i gyd oedd o'n siwr i ti. Dene iti adnod ar y pwnc i'w dysgu erbyn y Sul nesa."

Erbyn hyn yr oeddem ni ar dop yr allt, ac yn ymyl ei dŷ o a bodo,—tŷ bychan ar dop yr allt ydio,—a dewyrth, bellach, yn medru cerdded heb bwffian a phesychu, ac am hynny 'doedd dim achos gofyn mwy o gwestiyne.

Wrth fynd at y drws, "Cymer di ofal," medde dewyrth dan ei lais, "cofia fod y ffit lân arni hi heddyw."

"Hi" mae dewyrth yn galw bodo, a "nacw" mae bodo'n ei alw fynte.

Ac roedd yn amlwg fod y ffit lân ar bodo'n drwm. A pheth diflas ydi'r ffit lân, yn enwedig ar amser bwyd. Mae hi i radde er bodo bob amser. Does ene ddim farnish ar yr un o'r cadeirie, mae bodo wedi'i rwbio i ffwrdd wrth eu cnau nhw. Ac y mae cader dewyrth bron yn dwll, gan y rhwbio parhaus arni, ac yn splintars i gyd. Am hynny, wedi i dewyrth unweth eistedd yn ei gader, feder o ddim symud ond efo gofal. Ac am y llawr,—llawr pren ydio,—mae o cyn wynned a thrensiwr. Os bydd y cadeirie, a'r ffendar a'r heyrn tân, i gyd ar ben y bwrdd, mae hynny'n arwydd fod y ffit lân yn drom iawn ar bodo.

Pan aeth dewyrth a fi i mewn, doedd yno ddim ond un gader ar lawr, a honno wrth y drws, a'r gweddill i gyd â'u gwadne i fyny ar ben y bwrdd, a'r ffendar a'r heyrn tân, a'r canwyllbrenni pres, a'r scelet, ar dop y cwbwl. Doedd bodo ddim yn y tŷ, ond roedd ei sŵn hi yn y bwtri.

"Tyrd i mewn, Nedw," medde dewyrth, "gad imi edrych am yr adnod honno iti." Ac estynodd y Beibil oddiar y dresal. Dene Bodo i mewn fel tân gwyllt, ac yn cipio'r Beibil oddiarno fo, ac yn bloeddio fel gwraig wallgo,—"Be haru'r dyn, deydwch?—yn darllen ei Feibil liw dydd gole glân, a finne newydd ei ddystio fo hefyd." Ar hyn, sylwodd arna i yn eistedd ar y gader, yr unig un oedd i'w chael, a dene ddyrnod i mi ar draws fy ngwyneb efo'r carp llawr, nes fy mod i'n speden.

"Eistedd ar y gader ene ar bob dydd!" medde hi, "a hel dy draed ar hyd y llawr yma,—mae carreg y drws yn ffisiant i ti."

Ac allan â fi ar garreg y drws, a dewyrth ar fy ol i fel oen llyweth.

"Tyrd am dro, machgen i, i weld yr ardd," medde fo. Ac i'r ardd â mi. Roedd yno fath o setl i eistedd arni, a dene ni'n dau yn eistedd, a dewyrth yn pwffian yn ysgafn am yn hir fel tase fo'n smocio cetyn anweledig. Toc, dene fo'n troi ata i,—"Nedw," medde fo, "mi wnest dipyn o gamgymeriad wrth eistedd ar y gader ene. Arni hi roedd o 'n eistedd ar y Sul. A 'does neb byth yn cael eistedd arni o gwbwl rwan. Dydi hi ddim yn ei phethe'n rhyw dda iawn byth er pan ddaru hi ddigio tipyn wrth y Brenin Mawr. Dydi hi ddim ar delere da efo'r Brenin Mawr o gwbwl rwan. Mi dreuliodd lawer ar ei glinie wrth y gader ene yn gofyn i'r Brenin Mawr roi'i aden drosto fo, ond ddaru o ddim dybygswn i, os nad oedd o 'n gwrthod mynd dan ei aden o wedi cael cynnyg. Mae ffordd fel ene o edrych arni, wyddost. Ac am wn i nid ar y Brenin Mawr oedd y bai." Yn y fan yma mi ddaru rhyw ddeigryn bach hel i gornel llygad dewyrth. "Gad inni droi'r stori, Nedw," medde fo. "Faset ti'n licio imi dy holi di eto?"

Yn gweld y plesie hynny fo, mi ddeydes "baswn."

"Wel," medde dewyrth, "prun ai gŵr priod ynte hen lanc oedd Paul?"

"'Dwn i ar wyneb y ddaear," medde fi. "Mi allswn i feddwl mai hen lanc."

"Pam?" medde dewyrth.

"Doedd o byth adre," medde fi.

"Dydi'r ateb ene'n deyd dim, mae o'n torri ddwy ffordd," medde dewyrth. "Gŵr priod oedd Paul iti." Ac mi drychodd arnai'n hir tan smocio'r cetyn anweledig yma, yn disgwyl i mi ofyn cwestiwn iddo.

"Sut ydech chi'n deyd hynny?" medde fi o'r diwedd.

"Mae ene adnod yn deyd,—'Pwy a'm gwared i oddiwrth gorff y farwolaeth hon?'" Ac medde fo wedyn dan ei lais,—"Mae nhw'n deyd mai at ei wraig roedd o'n cyfeirio. Ac mae'n hawdd gen i 'u coelio nhw, achos un garw am siarad ar ddamhegion oedd Paul." Bu'n ddistaw am dipyn wedyn, ac yna dwedodd dan ei lais,—"Nedw, y peth sydd rhynga i a ti, rhynga i a ti y mae o, yntê, machgen i?" Aeth ymlaen am dipym wedyn i smocio'r dim byd yma, gan bwffian yn ysgafn o hyd.

"Dos ar flaene dy draed," medde fo'n union, "ac edrych trwy ffenest y siambar, i weld be mae hi'n neud."

Mi es fel y deydodd o. "Ar ei glinie mae hi," medde fi, wedi dwad yn ol, "wrth y gader yr eisteddes i arni, ac yn ei dystio fel tase hi ddim yn ei gweld hi, ac yn edrych i'r lle tân."

Ac yn wir, roedd yr olwg ryfedda ar bodo. Ar ei glinie o flaen y gader yma roedd hi, yn edrych fel tase hi'n cysgu â'i llygid yn agored, ac yn dystio. Mae'n debyg mai ceisio dystio sêt y gader oedd hi, ond doedd hi ddim yn ei chyffwrdd y rhan fwyaf o'r amser. Roedd hi'n dystio'r awyr ryw ddwy neu dair modfedd uwchben sêt y gader, ac yn edrych felly i'r tân, a siarad rhyngddi a hi ei hun.

"Meddwl amdano fo mae hi," medde dewyrth, "dene'i gader o ar y Sul, wyddost."

"Ia," medde dewyrth ymhen tipyn,—"ei gader o ar y Sul oedd hi." Yna aeth â'i ben i'w blu. "Ia," medde fo fyth a hefyd, "ei gader o oedd hi ar y Sul." Ac anghofiodd dewyrth bopeth amdana i.

Mi rois gic bach i'w ffon o toc, ac mi ddeffrôdd. "Ia," medde fo, "ei gader o oedd hi,—helo, Nedw, ac rwyt ti yma? Rhosa di," medde fo dan sirioli, "ddaru rhywun ddeyd wrthyt ti dy fod di'n debyg iawn iddo fo?"

"Pwy ydi o?" medde fi.

"Be! doeddet ti ddim yn ei nabod o?" medde dewyrth, fel tase rhywun wedi ei daro,—"ac mae cymint o amser a hynny? Erbyn meddwl, 'doeddet ti ddim wedi d'eni. Mae'n rhyfedd meddwl fod neb yn y lle yma, hefyd, heb ei nabod o. Ond rwyt ti'r un ffunud a fo, Nedw. Mae'r hen wraig wedi deyd hynny lawer gwaith."

Wel, wir, rydwi'n methu dallt pobol. Mae nhad a mam yn hollol wahanol i'w gilydd. Ond mae rhai'n deyd mod i run bictiwr â nhad, eraill mod i run ffunud â mam. A dyma ddeyd rwan mod i'n debyg iddo fo, ond neb yn deyd mod i 'n debyg i mi fy hun.

"Nedw," medde dewyrth toc, "dos eto ar flaene dy draed i edrych be mae hi'n neud."

Mi es, ac wedi dwad yn ol, "Ar ei glinie wrth yr hen gader y mae hi o hyd," medde fi, "ond bod ei phenelinie hi ar y gader rwan, a'i dwylo ar ei gwyneb fel tase hi'n deyd ei phader, ac mae'i gwefuse hi'n mynd. Ond rydwi'n siwr mai deyd rhywbeth arall y mae hi, o achos fase neb yn deyd ei bader ar amser cinio, ai fase dewyrth?"

"Wel," medde dewyrth yn drist, "mi fydd yn well toc. Gobeithio y closhith hi dipyn yn nes at y Brenin Mawr."

"Lle mae'r cadeirie erill?" medde fo yn y man.

"Ar dop y bwrdd," medde fi.

"A'r ffendar a'r stôl haearn?"

"Ar dop y bwrdd."

"A'r canwyllbrenni pres a'r scelet?"

"Ar dop y bwrdd."

"A'r setl?"

"Ar dop y bwrdd."

"Ia, meddwl amdano fo mae hi," medde dewyrth, "a phan fydd hi'n meddwl mwy na'i gilydd amdano fo mae hi'n cael y ffit lân yn drom iawn. Mi fase'n biti iddo fo ddwad i dŷ budur. Dos i edrych eto." A dene fi'n mynd.

Roedd hi ar ei thraed yrwan, yn sychu sêt y gader, oedd yn wlyb, yn ofalus. Ac wedyn yn mynd i dynnu'r cadeirie erill i lawr.

Wedi imi ddeyd hynny, "Mi awn ni'n ol ymhen rhyw funud neu ddau," medde dewyrth.

Ac ymhen munud neu ddau, yn ol â ni, a minne'n cadw tu ol i dewyrth. Pan aethom ni i mewn,—

"Nedw," medde bodo, mewn llais na chlywes i mono ganddi hi rioed o'r blaen, llais toddedig a meddal fel yr afon bach dan tŷ pan ydech chi'n dal y'ch llaw ynddi hi. "Nedw," medde hi, "tyrd yma, 'ngwas i."

Dene fi i mewn. "Dyma iti frechdan jam," medde bodo. A rhoddodd frechdan jam dan gamp i mi. "Tyrd yma, Nedw bach," medde hi wedyn. Mi roddodd y gader y tarodd hi fi â'r carp llawr am eistedd ynddi, ar ganol y llawr.

"Nedw," medde hi, "eistedd yn honene â'r frechdan jam yn dy law, a rho dy draed, fel ene, ar ffon y gader." Ac mi ddarum, er bod fy esgidie i'n fudron.

Edrychodd hithe arna i. Cymerodd gam yn ol, ac edrychodd wedyn. Cymerodd gam arall yn ol, a daliodd i edrych. A dewyrth yn edrych dros ei hysgwydd hi.

"John," medde hi wrth dewyrth toc. Ond pan drodd hi ei phen 'doedd dewyrth ddim yno. "John," medde hi wedyn, ond ddaeth dewyrth ddim i'r golwg.

Mi aeth i drôr y dresal, a chymyd cylleth wedi rhydu oedd yno, ag un llafn iddi wedi torri, a'i rhoi hi i mi. "Hwde, Nedw," medde hi, "cadw hon yn ofalus, a dos adre."

Wrth fynd heibio'r penwar bach, pwy oedd yn eistedd ar garreg â'i ben rhwng ei ddwylo, yn siarad â fo'i hun bob yn ail ag edrych fel tase fo'n dal i smocio'r cetyn anweledig yma, ond dewyrth.

"Cymyd ar ol teulu'i fam mae Nedw," medde fo, "mae o run fath a fo i'r dim."

Dene fi'n rhoi clec mawr ar y penwar. Mi gododd dewyrth ei ben.

"Ac rwyt ti'n mynd?" medde fo. "Hwde, machgen i." Mi aeth i'w boced, a thynnodd swllt allan, a rhoddodd o yng nghil fy nwrn i gan wincio arnai, ac edrych yn hir arnai wedyn heb ddeyd dim. "Wyddest ti be?" medde fo o'r diwedd, tan ochneidio, "mi leiciwn o waelod fy nghalon tase d'enw di'n Isaac. Rhed adre rwan." Ac i ffwrdd â mi.

Wedi cyrraedd gwaelod yr allt mi dryches yn ol. Dene lle roedd dewyrth a bodo ar ben y drws, a bodo a'i braich ar ysgwydd dewyrth, fel tase dim wedi bod rhyngddyn nhw, yn edrych ar fy ol i, ac yn chwifio'u dwylo.

"Mam," medde fi ar ol mynd i'r tŷ, "pam fod Isaac ni yn Isaac?"

"Ar ol bachgen dewyrth a bodo," medde mam.

"Lle mae o, ydio wedi marw?" medde fi.

"Rhed, machgen i, i Dyddyn Derw, mewn munud i nol cnegwarth o laeth, cyn iddyn nhw gychwyn i'r dre," medde mam, gan dorri ar fy nhraws i.

Ac i ffwrdd i Dyddyn Derw â mi. Mi welwn ar wyneb mam ar y pryd mai dene oedd ore.

Nodiadau

golygu