Dewyrth a Bodo Nedw

gan Edward Tegla Davies

Gwynt y Dwyrain

X.—SEC.

Ddychrynnes i fawr erioed yn fwy na'r nos Iau cyn y dwaetha. Roedd hi wedi mynd braidd yn hwyr, ac yn twllu yn o drwm, a minne'n croesi Pont y Llan. Mae ene adwy yn ochor y bont, a phren derw mawr, gwag, yn ei chanol, a gwrych coed cnau mawr bob ochor i'r ffordd wedyn. Wrth basio'r adwy a'r pren derw, rhwng twyll a gole, mi welwn rywbeth gwyn yn estyn allan o ganol y twll, ac yn gneud sŵn gwichlyd,—"Ne-ene-ene." Mi roddes neid ac i ffwrdd â mi fel y fellten. Wedi mynd heibio'r gornel, mi sefes i wrando, ac mi glywn wedyn y llais yn uwch a mwy nadlyd,—"Ne-ene-ene-edw, Ne-e-dw." Adwaenes o'n syth, a throis yn fy ol. Llais Sec oedd o. Pwy ydi Sec, fedrai ddim deyd wrthych chi, ond Eseciel Bingley ydi ei enw fo ar lyfr yr ysgol, ac y mae o'n byw efo'r hen Jinny'r Gardden, yn Nhwnt i'r Afon. Dydio fawr o beth, i ddwad o dŷ Jinny, o achos mae hi ei hun yn garpie, a'i chroen fel melyn ŵy wedi torri, a ffrïo gormod—yn grebachlyd, heblaw bod yn rhyw felyn-ddu. Un ryfedd ydi Jinny. Hi ydi'r wraig sy'n mynd allan o'r capel i boeri. Mae hi'n eistedd yng ngwaelod y capel, a reit amal, pan mae'r pregethwr yn dechre mynd i hwyl, fe gyfyd Jinny yn sydyn, ac aiff allan i boeri, ac i mewn yn ei hol i wrando, fel tase dim byd wedi digwydd.

Daeth Sec ati hi'n sydyn, na ŵyr neb o ble, pan oeddwn i yn Standard I., a rhoddwyd ynte'n Standard I. Rydwi yn Standard IV. yrwan, ond dal yn ffyddlon yn Standard I. y mae Sec o hyd. Doedd fawr o bwys ymha Standard y basech chi yn ei roi o, cyn belled ag yr oedd dallt pethe yn y cwestiwn, ond gan mai Standard I. fu'n ddigon caredig i'w dderbyn o, mae'n ymddangos nad ydi ynte am droi ei gefn ar hen ffrynd. Dene a ddywed Joseph y Titshiar.

"Wel, Sec," medde fi, "be wyt ti'n ei neud yma?"

"O-o-es ge-n-n-o-t ti fa-a-ra b-b-ri-i-ith, Ne-ene-edw?" medde fo.

Dwad adre o de parti'r Ysgol Sul yr oeddwn i, ac yr oedd yn naturiol imi fod wedi celcio tipyn o fara brith, fel y bechgyn erill i gyd, a'r un mor naturiol i Sec dybio hynny.

"Oes, was," medde fi.

"Ga-a-i da-a-me-ed?" medde fo,—"i-i-sh-i-o—"

Ond mi dorres ar ei draws o. "Dene be' sy' i gael am beidio â dwad i'r Ysgol Sul," medde fi, ac i ffwrdd â mi, a thros y gamfa, ac i'r Nyrs Goed Llus. Erbyn hyn roedd hi'n mynd braidd yn dwyll. Pan yn nyfnder y nyrs,—"Ne-ene-ene—" medde rhywbeth dan fy nhraed i, ac mi roddes waedd a neid. Fedrwn i symud dim am funud, a dene'r "Ne-ene-ene—" hwnnw wedyn dan fy nhraed i. Beth oedd o ond sŵn bwrlwm y ffos fach dros garreg. Mi godes fy nghalon, ac ymlaen â fi yn bur ddewr, nes clywed,—"i-i-ish-sh-sh-i-o—" yn fy ymyl wedyn, a'm fferodd. Beth oedd o ond cangen yn rhwbio'r wal.


"Y-SY-SY-SLUM," MEDDE SEC. [Tud. 97.]


"Thâl hi ddim fel hyn," medde fi, "mi â i yn ol, a rownd y ffordd. Pan eis i at y gamfa, pwy oedd yn crïo â'i ben arni ond Sec, ac yn dal rhywbeth yn hongian yn ei law.

"Bedi'r mater, Sec?" medde fi.

"A-a Ne-ene-edw i-i-ish-i-o-o bw-bw-yd," medde Sec. Ac mi ddalltes mai trïo deyd hynny yr oedd o pan adawes i o. Ond cyn imi fedru ei ateb, dene fo'n dangos y peth oedd yn ei law i mi.

"Bedio?" medde fi.

"Y-sy-sy-slum," medde Sec, "u-u-n by-w-w, mi-i c-c-ei o a-am d-a-a-me-ed."

Ac yn wir i chi, be oedd o ond slum y nos. Roedd o wedi dwad o hyd iddo yn yr hen geubren derw wrth Bont y Llan, y lle y bydde fo, gan amlaf, yn cysgu ynddo y nos, medde fo, er fy syndod i. Ac mi ddeydodd fod chwaneg yno, ac y cawn i stoc ohonyn nhw am damed o rywbeth bob dydd. Roedd pethe'n dechre gloywi erbyn hyn,—a gwyneb Sec yn llwyd. Wel allan â'r bara brith. Doedd o, rywsut, ddim mor flasus ar ol gweld gwyneb Sec. Mi cafodd o i gyd, ac mi wnaeth i minne gymyd y slum.

Dene a 'nghychwynnodd i yn ddelar slumod a gwningod. Mi ddeydes "nos dawch" wrth Sec, ac er ei bod hi'n bur dwyll erbyn hyn, roeddwn i adre heb yn wybod i mi fy hun, wrth feddwl beth ddeyde'r bechgyn fore drannoeth wrth weld slum byw gen i yn yr ysgol. Doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw erioed wedi gweld yr un yn nes na'r awyr.

Mi cadwes o ym mhoced fy nhrowsus dros y nos, a'r unig anlwc oedd iddo fo ddwad yn rhydd, ac i minne dorri orniment wrth ymbalfalu amdano yn y twllwch. Ond deliais o'n sâff, a chadwes o dan y gobennydd tan y bore.

Sôn am boblogiedd,—doedd dim siawns i neb ond fi bore drannoeth. Chai neb weld y slum, ond ar yr amod eu bod nhw'n dwad â hanner dwsin o biwied i'w fwydo, o achos mai ar biwied y mae o'n byw. Wmffre oedd yn derbyn a chyfri'r piwied, a minne wedyn yn dangos y slum. Wedi ei weled o, doedd na byw na marw na chai Robin bach Ty'n Llidiard y slum yn eiddo iddo fo'i hun. Roedd o'n barod i roddi unrhyw bris amdano, medde fo, o feipen i wningen fach. A dene'r slum yn mynd iddo am wningen. Ond erbyn bore drannoeth roedd y slum wedi marw. Robin oedd wedi trïo rhoi pry copyn yn fwyd iddo, ac ynte'n byw ar y pethe a ddalie pan ar ei aden. A phwy erioed a welodd bry copyn yn hedeg? Felly, mi welsom un peth, fod pryfed cop yn wenwyn i slumod.

Ar amser chware, dene Sec yn codi ei fys arna i,—

"En-ne-edw," medde fo,—"by-by-brech-d-a-an i m-i-i am sy-sy-slum."

A dene fargen. Roedd gen i slum arall yn mynd i mewn ar ol amser chware, ac mi werthes hwn hefyd i Robin am wningen. Roedd rhyw wendid am slumod wedi dwad ato fo. Erbyn hyn roedd gen i ddwy wningen. Roedd gan amryw o'r bechgyn wningod, a dene'r gair allan fod Nedw'n barod i werthu unrhyw nifer o slumod i'r bechgyn am wningen yr un, neu ryw bris rhesymol arall. Welsoch chi rotsiwn beth y pnawn hwnnw. Roedd gan bron bob bachgen yn yr ysgol wningen efo fo, a chyn gynted ag y troai'r scŵl ei gefn, yn galw arna i—dydi'r scŵl ddim yn clywed yn dda o gwbwl—ac yn dangos pen gwningen i mi o'u pocedi,—rhai o bob math a lliw, gwyllt a dôf. Rydwi'n siwr fod ene tua naw neu ddeg, i gyd. Amser chware roedd pawb yn gwthio ei wningen i mi am slum, a minne heb ddigon o slumod i'r farchnad. Mi addewes ddyfod â stoc newydd i'r ysgol drannoeth. Llwyddodd Sec i gael tri neu bedwar imi rywfodd, yn ystod y nos, ac addawodd beidio â deyd gair wrth neb amdanyn nhw. O dipyn i beth daeth holl wningod y lle yn eiddo imi. Ar ol i rai ohonyn nhw farw, ac i'r gath fwyta dwy, roedd gen i bump wedyn. Mi gadwes dair a rhoi dwy i Wmffre. Roedd hynny'n ardderchog, nes iddi ddwad yn bwnc o fwyd iddyn nhw.

Mae cael digon o brofant i gymint ag oedd gen i o wningod yn dipyn o beth. Mi weles ei bod yn haws dal piwied i slumod na hynny. Cynghorwn bawb i gadw slum yn lle gwningen, yn enwedig gan fod rheswm arall tros ei gadw y cai sôn amdano eto.

O'r diwedd darfu gwningod y bechgyn. Doedd gan neb yr un i gynnyg i mi, ac yr oedd pawb eisio slum. A doedd hi ddim yn deg gwerthu rhai slumod a rhoi'r lleill. Y peth y methe plant ei ddallt oedd, ymhle y cawn i 'r holl slumod yma, ac yr oedd Sec wedi addo peidio â deyd, na gwerthu rhai ei hun, ar draul colli ei damed. Felly, mi gefes, rydwi'n meddwl, y peth mae nhw'n ei alw'n "patent" ar slumod, er nad ydwi ddim yn siwr mod i'n dallt y peth yn iawn. Er mwyn bod yn siwr, mi ofynnes i John Roberts, y post, ar y ffordd un diwrnod. Mae o'n giamstar ar y pethe yma, medde nhw.

"John Roberts," medde fi, "bedi 'patent'?"

"I be wyt ti'n gofyn, Nedw, ngwas i?" medde fo'n reit glên.

"Rydwi'n meddwl, os nad ydwi'n methu, mod i wedi cael patent ar slumod," medde fi.

"Mae'r Brenin Mawr wedi cael patent arnyn nhw ymhell o dy flaen di, Nedw bach," medde John Roberts, yn gwynfanus, a throdd ar ei sawdl.

Dydwi ddim yn siwr eto, felly, o'r peth; ond does dim i'w neud ond deyd wrth y bechgyn mai gen i mae'r patent, a chadw'n ddistaw ynghylch ei ystyr o. Roedd hi wedi mynd, o dipyn i beth, i mi rannu 'nghinio efo Sec, a phan fydde pawb o 'nghwmpas i ar ganol dydd, a'r farchnad yn o boeth, fe gai Sec y cinio i gyd. Bob yn dipyn roedd graen go dda yn dechre dwad ar ei wyneb, a minne'n gwerthu'r slumod am y pris ucha'n bosib,—pensel lâs, neu feipen, neu addo cnau daear, a phethe felly.

Yn sydyn un diwrnod darfu'r slumod hefyd. Methodd Sec â dwad o hyd i'r un yn unman. Wyddwn i ar y ddaear beth i'w neud, a minne wedi cael lot o faip ac addo cnau daear ar dryst, ac Wmffre a fi wedi eu bwyta nhw, neu neud lanterni maip. Ac am y feipen ges i gan Willie Ann Huws, roedd honno'n ddigon maint i neud lantar i ffitio post llidiard y Plas.

Un min nos, a minne'n cysidro dros yr amgylchiade, â 'mhwys ar wal y buarth, pwy a ddaeth heibio ond Sec.

"Ne-e-edw," medde fo, "mi-i w-w-wn i ym-ym-mhle mae sy-slumod."

"Ymhle?" medde fi.

A dene fo'n deyd ei fod wedi gweld rhai'n dwad allan y nosweth honno o seilin yr ysgol, yn ymyl y gloch. Ond sut i gael i'r seilin oedd y cwestiwn. Mi gofiodd Sec am y peth mae nhw'n alw'n fanol, uwch ben y cloc mawr yn yr ysgol, a'r llall uwchben y bôrd y mae'r scŵl yn sgwenu arno.

Bore drannoeth wedi gweld Wmffre, dyma fi'n cyhoeddi y bydde gen i slum bob un cyn nos i bob un yr oeddwn i yn ei ddyled, ac un am ddim i unrhyw un o'r plant a'i cymere fo ar fy nhelere i. Roedd y lle yn fyw i gyd yn syth. Ganol dydd, pan oedd y plant yn mynd allan, mi slipiodd Wmffre a fi i'r cwpwr llyfre, ac mi addawodd Sec fod yn ddistaw. Dene bawb allan, a'r rhai oedd yn bwyta yn yr ysgol yn ol at eu cinio, a Sec yn bwyta fy nghinio i reit ddistaw. Toc, mi gliriodd pawb, a dene ni'n dau o'r cwpwr, a dringo ochor y cloc mawr, i'w dop, yna oddiyno'n codi caead y manol, ac i mewn i'r seilin. Doedd gennym ni ddim llai nag ofn, oherwydd dene "shiw" mawr yn y seilin cyn gynted ag yr aethom i mewn. Wedi cau'r caead dene dwllwch dudew. Roedd gennym ni focs o fatshis, gawsom ni gan Sec. Un da am ddwad o hyd i bethe felly ydio. "Hei," medde Wmffre, "dyma un," ac i'w boced â fo, slum braf iawn. Erbyn amser canu'r gloch, roeddem ni wedi dal naw. Cyn inni feddwl am ddwad i lawr, dene'r gloch yn canu, ac i mewn â'r plant. "Rwan am y telere," medde fi wrth Wmffre, "i'r un sydd eisio slum am ddim. Os meder un ohonyn nhw ddal hwn, mi caiff o." Mi godes y caead yn ddistaw bach. Yr oedd Standard I. bron odanom ni, ac mi luchies y slum i'w canol nhw. Dene sgrech fyddarol, a'r scŵl yno. Roedd y sgrech yma'n ddigon hyd yn oed iddo fo ei chlywed. Mi glywen y scŵl yn gofyn yn wyllt,—"What's this?"

Ddeydodd neb air am funud, ond toc dyma lais Sec,—"A-sy-sy-sy-slum sy-syr, a-slumsyr."

Dene'r tro cynta erioed i neb glywed Sec yn yr ysgol yn ateb cwestiwn yn gywir.

"'Bat,' you mean," medde'r scŵl yn wyllt.

"N-n-o-o b-a-a-at, sy-sy-sy-slumsyr," medde Sec.

Gofynnodd y scŵl pwy ddaeth â fo. Wydde neb ddim, ond gan fod gan Sec rywbeth od bob dydd yn yr ysgol, edrychodd pawb arno fo.

"Come out," medde'r scŵl, ac aeth â fo at ei ddesc, ac mi cadwodd yno nes cael amser i'w ddyrnu, a thaflodd y slum allan.

Safodd Sec fel dur heb glepian, a gwelsom ninne na thale hi ddim iddo fo gael ei gweir am ddim byd. A gwyddem mai ei gweir gai o, o achos ni chlepie Sec ddim arnom ni.

Tarawyd ar gynllun i'w achub o. Cerddasom fel cathod ar draws y seilin at y manol arall, sy uwchben y bôrd y mae'r scŵl yn sgwenu arno. Mae hwnnw ymhell oddiwrth y ddesc lle y safe Sec. Symudwyd y caead dipyn bach o'r ffordd. Roedd Isaac y Graig wrth y bôrd yn gneud sym, a'r scŵl y tu ol iddo. Methai Isaac neud y sym yma, a'r scŵl yn dechre malu ewyn. Er mwyn ceisio tynnu sylw'r plant, dyma fi'n danglo slum yn eu golwg gerfydd ei goes, ond ni sylwai neb gan fod Isaac yn methu gneud y sym. Edrychai pawb yn fanwl ar y bôrd, gan drïo ei helpu trwy siarad rhwng eu dannedd, rhag ofn i rywun arall gael ei alw at y bôrd. Gan nad ydi'r scŵl ddim yn clywed, ryden ni wedi dysgu, i gyd, siarad yn uchel, heb symud ein dannedd na'n gwefuse. Methu gneud y sym ddaru Isaac, beth bynnag, a dene "hold out" iddo fo. Pan oedd y ffon ar fin dwad i lawr, mi blygodd Wmffre ar fy nhraws i weld, gan wasgu ar fy mrest, ac ar y funud, pan drois i fy mhen i ddeyd wrtho am beidio, mi drôdd y slum gan sgryffinio fy llaw, a gollynges o heb yn wybod i mi fy hun. Roeddwn i wedi bwriadu gollwng un ymhellach ymlaen, pan fydde cosb Sec ar ddigwydd, er mwyn i'r scŵl weld nad oddiwrtho fo y doi'r slumod, ond nid cyn hynny. Mi ddisgynnodd y slum yn union ar ben Isaac, ac wedyn rhyngddo a'r scŵl, gan ddechre crafangu ei drowsus, a'i ddringo, a dene sgrêch annaearol, a'r plant yn ferw i gyd. Chawsom ni ddim ond cau'r caead, nad oeddem ni'n siwr fod pob llygad yn edrych tuagatom.

"What's this again?" medde'r scŵl. Ni atebodd neb am funud, ond yn y man, ynghanol distawrwydd mawr, dene ateb o'r pen arall i'r ysgol, oddiwrth ddesc y scŵl,—

"A-sy-sy-slum, sy-y-r, slumsyr."

Doedd dim posib bod Sec wedi taflu hwn, ac ar bwys hyn anfonwyd ef i'w le heb ei guro am y llall chwaith. Mi ochneidiodd Wmffre a fi yn rhydd wedi gweld arbed Sec rhag ei gosbi.

Roedd yr ysgol yn ferw, fel y deydes i. Ond o ble doi'r slumod? Aeth y scŵl a Joseph y Titshiar allan, wedi cysidro tipyn. Roeddem ni'n gweld tipyn o'r symudiade trwy hollt bach yng nghaead y manol. Wedi iddyn nhw fynd, dene fi'n codi'r caead ac yn edrych i lawr. Gwelodd pawb fi, a dene tshiars i mi, o achos gwelsant yn syth delere'r addewid am slum yn rhad,—eu dal wrth iddynt ddisgyn o'r seilin. Mi wyddwn na ddeyde neb wrth y scŵl, o achos yr oedd rhai o fechgyn cryfa'r ysgol ymysg y rhai oedd wedi rhoddi maip a phethe erill i mi am slumod ar dryst, a gwae neb a achose iddyn nhw golli eu slumod.

Dene'r scŵl a Joseph yn ol yn y man, efo rhywbeth fel tri neu bedwar coes brwsh wedi eu rhwymo wrth ei gilydd. Caeais y caead pan weles i nhw'n dwad. Roedd yn hawdd gweled eu hamcan,—edrych oedd y caead yn peidio â bod wedi symud, a'r slumod yn dwad y ffordd honno. Eisteddodd Wmffre a fi ar y caead yn syth. Dene'r ffyn i fyny, a'u taro yn y caead o hyd ac o hyd, ond symude fo ddim. "Mae honene'n iawn beth bynnag," medde'r scŵl. "Mi drïwn y llall rwan." Roedd cymint o ferw a sŵn yn yr ysgol erbyn hyn, fel nad oedd yn anodd i Wmffre a fi redeg ar draws y seilin at y llall heb i neb ein clywed ni. Ac erbyn iddyn nhw gyrraedd a dechre curo'r caead hwnnw, roeddem ni ill dau yn eistedd yn gyfforddus arno. Dene ddistawrwydd mawr. Y cwestiwn i'r plant a ninne oedd, beth wnai'r scŵl.

"Wel," medde fo, "does dim amser i chwilio mwy tan ar ol yr ysgol. Awn ymlaen yrwan efo'n gwaith."

Ac ymlaen yr aethant, a ninne'n dau reit falch fod yr hen Sec yn sâff, yn enwedig gan inni fod o dipyn o fantes iddo ymgodi, trwy fod yn achos iddo ateb un cwestiwn yn gywir yn yr ysgol unweth yn ei oes.

Pnawn Gwener oedd hi. Cyn gynted ag y cawsom le, i lawr â ni twy'r manol, ac efo ochor yr hen gloc mawr, ac allan trwy ffenest adre. Llwyddasom i dalu ein dyled o slumod i bawb oedd wedi prynu rhai, cyn iddi dwllu'r nosweth honno.

Roeddem ni'n meddwl mai ni fase popeth fore Llun, wedi llwyddo i gael slumod i gymint o'r bechgyn, ac wedi dwad o hyd i stoc newydd, a pharatoisom ein hunen ar gyfer y ganmolieth, trwy ofalu dwad i'r ysgol wedi molchi ein gyddfe, ac iro'n sgidie. Meddyliem wrth glywed y bechgyn yn canmol, y tynne hynny sylw'r merched. A dene lle byddem ni i dderbyn eu sylw nhw yn smartiach na neb. Ond siomwyd ni yn fawr. Chawsom ni mo'r croeso a ddisgwyliem o lawer. Yn wir, edrych yn bur ddigalon yr oedd y bechgyn i gyd, bob tro y deuem i'r golwg, yn enwedig arna i, ac ambell i un â golwg drymllyd iawn ar ei wyneb,—yn enwedig o'r rhai oedd wedi prynu slum am wningen.

Methem ddallt pethe am dipyn, ond fuom ni ddim yn rhyw hir iawn heb ddwad i'r gole,—y slumod oedd i gyd wedi marw, a'r gwningod gennym ni, a hynny oedd yn spâr o'r maip.

Wedi bod dan y digalondid hwn o eiddo'r bechgyn am dipyn, a chysidro yn o drwm, mi ddarun deimlo mai braidd yn ormod o faich i'w cadw oedd y gwningod, yn enwedig pan fydde'r bwyd yn brin. Felly, fe'u gwerthwyd i'r bechgyn yn ol, ar y peth mae pobol yn alw yn delere rhesymol. Y fargen ore gês i, oedd darn o gŵyr crydd gan Shoni'r Pentre am ei wningen o yn ol.

A dene'r rheswm arall y sonies amdano, pam ei bod hi'n fwy manteisiol cadw slumod na gwningod,—mae nhw'n siwr o farw cyn i chi lân flino arnyn nhw.

Fel y gallsech feddwl, dipyn yn dwyll ydi hi ar farchnad Sec yrwan. Ond wedi'r cwbwl, wnaiff hi mo'r tro iddo lwgu, a 'does dim i neud ond imi ddal i rannu fy nghinio efo fo, nes i'r cnau daear fod yn addfed. Rydwi'n dallt arno fo nad oes mo'i well am eu ffeindio nhw.

Nodiadau

golygu