O am dreiddio i'r adnabyddiaeth
← Draw mi welaf ryfeddodau | O am dreiddio i'r adnabyddiaeth gan Ann Griffiths |
O! Gariad na'm gollyngi i → |
87[1] Adnabod Duw.
87. 87. D.
1.O! AM dreiddio i'r adnabyddiaeth
O'r unig wir a bywiol Dduw,
I'r fath raddau a fo'n lladdfa
I ddychmygion o bob rhyw;
Credu'r gair sy'n dweud amdano,
Am ei natur sanctaidd wiw
Sy'n farwolaeth i bechadur
Heb gael Iawn o drefniad Duw.
2.Mae'r Duw anfeidrol mewn gogoniant,
Er mai Duw y cariad yw,
Wrth ei gofio, imi'n ddychryn,
Imi'n ddolur, imi'n friw:
Ond ym mhabell y cyfarfod,
Mae Ef yno'n llawn o hedd,
Yn Dduw cymodlawn wedi eistedd,
Heb ddim ond heddwch yn ei wedd.
3.Cael Duw yn Dad, a Thad yn Noddfa,
Noddfa'n Graig, a'r Graig yn Dŵr,
Mwy ni allaf ei ddymuno
Gyda mi mewn tân a dŵr;
Ohono Ef mae fy nigonedd;
Ac ynddo trwy fyddinoedd af;
Hebddo, eiddil, gwan a dinerth,
Colli'r dydd yn wir a wnaf.
Ann Griffiths
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 87, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930