Oriau Gydag Enwogion (testun cyfansawdd)
← | Oriau Gydag Enwogion (testun cyfansawdd) gan Robert David Rowland (Anthropos) |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Oriau Gydag Enwogion |
FLORENCE NIGHTINGALE PAN YN BLENTYN
ORIAU
GYDAG
ENWOGION:
Gan ANTHROPOS.
♦
MEWN ANGHOF NI CHANT FOD."
—CEIRIOG.
♦
TRYDYDD ARGRAFFIAD.
GYDA
DARLUNIAU.
♦
GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1914.
●●●
CYFLWYNIR Y LLYFR HWN
I
L. R.
FEL ARWYDD O SERCH
YR
AWDWR.
●●●
Mor lleied o hanes dynoliaeth,
Erioed ysgrifenwyd i lawr;
Bu'r ddôl yma'n faes buddugoliaeth,
O'r ffrwd acw'r yfodd y cawr;
O waed fy hynafiaid, ysgatfydd,
Y blodau hyn dyfant mor hardd;
Mae hanes; pa le mae'r hanesydd?
Diflanodd, gwahodder y bardd.
—IOLO CARNARVON
Rhagymadrodd.
Y GŴR doeth a ddywed mai "gwell yw enw da nag enaint gwerthfawr;" ac mai "gwell yw dydd. marwolaeth na dydd genedigaeth." Eto i gyd, y mae gan " ddydd genedigaeth" ryw swyn diddarfod i feddwl dyn. Yr hyn sydd yn cadw llawer blwyddyn rhag mynd ar ddifancoll mewn hanes ydyw," Y gŵr a'r gŵr a aned ynddi."
Ac er fod gogoniant a mawredd yn perthyn i fin yr hwyr, ac i fachlud haul, y mae'r syniad mai gogoniant yn ymado ydyw, yn gwasgar rhyw brudd-der aneffiniol dros ffurfafen y meddwl.
Ond y mae syllu ar doriad y wawr, ac ar y bore oleuni, pan gyfodo "haul foregwaith heb gymylau," yn ysbrydoli yr enaid, yn bywiocau y myfyrdod, ac yn agor ffynhonnau mwynhad.
Onid tebyg ydyw gyda hanes a gyrfa dyn? Yr ydys yn caru gwylio y dechreuadau; olrhain y ffrwd i fysg y rhedyn a'r grug, cyn iddi lamu dros y clogwyn, ac ymlonyddu yn y dyffryn a'r ddôl.
Dyna neges y llyfr hwn. Yr ydys wedi dethol cymeriadau adnabyddus i gynrychioli gwahanol fisoedd y flwyddyn, wedi ceisio portreadu eu bywyd a'u gwaith, ac y mae llinell Ceiriog wedi bod yn sibrwd wrthvm am danynt,—
"Mewn anghof ni chânt fod."
Hyderwn y bydd y sawl a dreulio "oriau" gyda'r "enwogion" hyn yn derbyn yr un hyfrydwch ag a gafodd yr awdwr wrth ysgrifennu am danynt.
Rhagymadrodd i'r Trydydd Argraffiad.
CAFODD yr argraffiad cyntaf dderbyniac cynnes, a phan ychwanegwyd darluniau at yr ail argraffiad, profodd hyny fod y gwerthfawrogiad o hono wedi cynyddu yn fawr, yn enwedig fel llyfr gwobrwyol yn gyffredinol, yn ogystal ag yn yr ysgolion dydd; yr ydym felly yn cyflwyno'r trydydd argraffiad hwn yn hyderus y bydd iddo gael gwell cefnogaeth nag a estynwyd hyd yn oed i'r argraffiadau blaenorol.
Nis gall darllen hanes yr enwogion hyn lai nag effeithio er daioni; ac mae yn sicr o fod yn symbyliad i'r meddylgar, boed hen, boed ieuanc, i efelychu y cymeriadau yr ymdrinir am danynt, fel ag i ddatblygu a diwyllio y dalent a ymddiriedwyd iddo.
Bai llawer ydyw meddwl nad oes ganddynt hwy dalent arbenig at ddim; ond mae tuedd meddwl pob un yn gryfach mewn rhyw gyfeiriad neu gilydd; ymdrecher cael hyd i hwnnw, ac wedyn gwneler popeth sydd yn deilwng i berffeithio y dalent.
Cofier mai "dyfalbarhad sydd yn llwyddo."
Cynhwysiad.
IONAWR:
PETER WILLIAMS A'I FIBL
CHWEFROR:
GALILEO
MAWRTH:
DEWI SANT
EBRILL:
OLIVER CROMWELL
MAI:
FLORENCE NIGHTINGALE
MEHEFIN:
JOHN WESLEY
GORFFENNAF:
JOHN CALVIN
AWST:
WILLIAM CAREY
MEDI:
CEIRIOG
HYDREF:
MATHEW HENRY
TACHWEDD:
WILLIAM COWPER
RHAGFYR:
THOMAS CARLYLE
JOHN BUNYAN
Y TADAU PERERINOL
DOETHION GROEG
Darluniau
FLORENCE NIGHTINGALE PAN YN BLENTYN
OLIVER CROMWELL
JOHN WESLEY YN PREGETHU ODDIAR GARREG FEDD EI DAD.
JOHN CALVIN
WILLIAM CAREY YN EI WEITHDY
CEIRIOG A'I FERCH MYFANWY
WILLIAM COWPER A'I YSGYFARNOGOD DÔF
THOMAS CARLYLE.
PETER WILLIAMS A'I FIBL.
ER mai mis oer, anserchog, y cyfrifir Ionawr gan lawer, y mae'n fis pwysig i'r hanesydd, canys yn ystod ei deyrnasiad gauafol ef y ganwyd llu mawr o enwogion ein teyrnas a'n gwlad. Yn mysg genedigion Ionawr yr oedd Isaac Newton, y gwyddonydd (1642); Linneus, y llysieuydd (1778); Benjamin Franklin, y darganfyddwr gwyddonol (1706), a James Watt, dyfeisydd yr ager-beiriant (1736). Ac onid Ionawr ydyw mis y llenor a'r bardd? Gallesid disgwyl i bob bardd gael ei eni yn Mai neu Fehefin,—misoedd y blodau a'r heulwen, ond y ffaith yw mai yn nghanol rhewynt ac ystormydd Ionawr y daeth llu o'r beirdd ar ymweliad â'r byd drwg presenol. Yn eu mysg, yr oedd Spenser, awdwr y Faerie Queen (1599); Ben Jonson, y telynegydd mwyn (1574); Arglwydd Byron, gyda'i athrylith ffrwydrol (1788); Robert Burns, awenydd dihafal yr Alban (1759), a Goronwy Owen, enwog, anffodus, yr hwn a aned ar ddydd Calan 1746. Ac er maint ei drallodau, yr oedd ganddo air da i'r Calan yn wastad:-
"Calan, fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gwyl Duw Celi
Da, coeliaf ydyw Calan,
A gwyl a ddirperai gân,
Ac i'r Calan y canaf,
Calan well na huan haf."
Chwareu teg i Oronwy. Gwyddai beth oedd bod ar y domen, lawer egwyl, ond ni felldithiodd ddydd ei enedigaeth. Eithr at enw a gwaith gŵr arall yr ewyllysiwn arwain y darllenydd y mis hwn—Peter Williams; neu fel y byddai yr hen bobl yn arfer ei alw, ar gyfrif anwyldeb—"Yr hen Bitar." Brodor ydoedd o sir Gaerfyrddin. Ganwyd ef yn Llacharn, Ionawr 7, 1722. Cafodd addysg foreuol dda, a bwriedid ef i'r offeiriadaeth yn Eglwys Loegr. Ond daeth dan ddylanwad Whitfield, ac ereill o'r diwygwyr, ac effeithiodd hynny ar ei ysbryd, ac ar ei lwydd yn ei yrfa glerigol. Ystyrrid ef, medd Mr. Charles, yn "grefyddol wallgofus gan yr awdurdodau eglwysig, ac nid oedd iddo yn un man ddinas barhaus. Yn mhen ysbaid, ymunodd â'r Methodistiaid fel pregethwr teithio, a gwnaeth waith rhagorol. Bu yn fendith i lawer o eneidiau yn y dyddiau tywyll yr oedd yn byw ynddynt. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu â chorff cryf, ac â meddwl diysgog; yn gallu llafurio llawer, teithio yn faith, a chyd-ddwyn â llety a bywoliaeth wael ac isel." Ond er cymaint ei ymroddiad fel efengylydd, yr hyn. a wnaeth ei enw yn adnabyddus dros yr oll of Gymru ydoedd ei lafur fel esboniwr. Ysgrifenodd ac argraffodd "sylwadau byrion ar bob pennod o'r Ysgrythyr Lân, a daeth y Bibl hwnnw i gael ei adwaen mwy fel
"BIBL PETER WILLIAMS."
Lledaenwyd yn agos i ugain mil o gopiau o hono yn ystod ei fywyd ef, a daeth yn y man yn un o'r anhebgorion ar bob aelwyd grefyddol yng Nghymru. Efe a ddefnyddid ar y ddyled- swydd deuluaidd, ac ystyrrid y "sylwadau" ar ddiwedd y bennod bron mor gysegredig a'r Bibl ei hun. Ac os cyfodai dadl ar ryw fater, gofynnid yn union, Be mae Pitar yn ei ddeud ar hyn?"
Ac wedi cael ei farn ef, ystyrrid fod y cwestiwn hwnnw wedi ei setlo yn derfynol.
Wedi hynny, cyhoeddodd argraffiad arall o'r Bibl, cyfaddas i'r llogell, gyda chyfeiriadau ymyl-ddalenol o waith John Canne. A dyna'r Mynegair Ysgrythyrol sydd yn dal yn ei fri hyd heddyw. Ond nid efe oedd y cyntaf oll i ymgymeryd â'r gorchwyl hwn. Ymddengys fod Mynegair bychan wedi ei gyhoeddi eisoes gan ryw Gymro na wyddis ei enw yn Pensylvania
"Hwnnw a ddilynais," ebai P. Williams, "ond gorfu i mi ddiwygio peth, a chwanegu llawer." Ac yr oedd y gweddnewidiad yr aeth y llyfr drwyddo dan ei ofal ef mor fawr, fel y gelwid ef o hynny allan yn Fynegair Peter Williams, er fod y syniad wedi cael ei fôd gan arall.
Ond yn y Bibl Teuluaidd yr oedd wedi torri tir newydd hollol yn Gymraeg. Efe oedd tad ein "hesbonwyr" oll. Ereill a lafuriasant yn y maes hwn ar ol ei ddyddiau ef, ond ei "sylwadau" clir, cryno, a chofiadwy ef oedd toriad gwawr esboniadaeth Ysgrythyrol yn ein hiaith. Cododd ei fwyell mewn dyrus goed, a bu'n gymwynasydd i feddwl crefyddol ei genedl. A chafodd ei ymdrech deg ei gwerthfawrogi yn deilwng gan ei gyd-wladwyr. Dyma dystiolaeth ei farwnadydd yn y flwyddyn 1796,—
"Os yw Cymru'n chwe chan milldir
Wedi mesur fel mae'n awr,
Ac o'i mhewn dri chant o filoedd
O drigolion gwerin fawr:
Gwn pe chwiliet ei maith gonglau
Braidd ceit ardal, plwy, na thŷ,
Heb eu haddurno'n awr â Biblau,
Ffrwyth dy lafur dirfawr di."
Felly yr oedd yn niwedd y ganrif o'r blaen. Beth am ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Y mae poblogaeth Cymru erbyn heddyw yn llawer mwy na "thri chant o filoedd." Ond a ydyw y "Bibl Teuluaidd " i'w gael mor fynych ac mor aml yn y tai?
Mewn arwerthiant diweddar yr oedd Bibl yr "hen Bitar" yn un o'r pethau oedd yn mynd dan y morthwyl. Prynwyd ef am y swm aruthrol o ddeunaw ceiniog, tra y rhoddid coron am "lwy de" o rywogaeth neillduol! Tybed fod ein gwlad yn mynd i osod mwy o bris ar lwy de" nac ar Fibl?
Ond tra y pery cenedl y Cymry i roddi gwerth ar y Bibl fe erys enw Peter Williams mewn cof. Y mae ei enw, rywfodd, yn glymedig wrth yr hen Lyfr. Ni sonir o'r braidd am le ei breswylfod fel y gwneir gydag enwogion ereill, Jones o Landdowror, Charles o'r Bala, Rowlands, Llangeitho. Ond anaml y dywed neb,—Peter Williams, Caerfyrddin, er mai yno y treuliodd efe dorraeth ei oes. Na, y mae "Bibl Peter Williams" yn teyrnasu ar bob ystyriaeth arall. Ac ar gyfrif ei lafur cariad dros ei wlad ynglŷn â Gair y Bywyd, y mae iddo le ymhlith y cedyrn. Erys ei waith gyda'r eiddo Pantycelyn, a Charles o'r Bala, byth mewn coffadwriaeth. Yng ngeiriau Thomas William, Bethesda'r fro,—
Tra bo Cymro'n medru darllen,
Am dy enw fe fydd son,
A thra argraff-wasg a phapur,
Nid anghofir am dy boen;
Pan bo enwau rheiny'n pydru,
Heddyw sydd o enwau mawr,
Fe fydd d'enw oesoedd eto
Yn disglaerio fel y wawr."
GALILEO.
CHWEFROR 15, 1564.
"Come, wander with me,' she said,
Unto regions yet untrod,
And read what is still unread
In the manuscripts of God.'"
YN yr ysgrif flaenorol yr oeddym yn gwahodd y darllenydd i sylwi ar ychydig o hanes a gwaith esboniwr, gŵr a wasanaethodd ei wlad fol dehonglydd y Dwyfol Air,—
"agorwr
Geiriau glân y nefoedd."
Ac onid hynny, mewn cylch arall, ydyw neges y seryddwr? Ei orchwyl yntau, ebai Longfellow, ydyw taflu goleu ar gynnwys "llaw-ysgrifen Duw" ar femrwn Natur. Gwahanol ydyw Bibl yr esboniwr Ysgrythyrol i eiddo yr efrydydd seryddol. Ond yr un ydyw yr Awdwr, ac y mae y naill fel y llall yn dadlenu i ddynion "rannau ei ffyrdd Ef." Oherwydd paham, nid ydys yn tybio fod yna unrhyw drawsgyweiriad anaturiol yn ein gwaith yn symud oddiwrth esboniwr y Bibl at esboniwr y sêr, oddiwrth Peter Williams, y Cymro ymroddedig, at Galileo, yr Eidalwr enwog. Cyflawnodd y naill a'r llall eu dyledswyddau yn ofn Duw; rhoddasant oleuni newydd ar bethau oedd o'r blaen yn dywyll a dieithr. Cafodd y ddau eu camddeall gan rywrai yn eu hoes eu hunain.
Ganwyd Galileo yn ninas Pisa, yng ngwlad yr Eidal dlos, yn mis Chwefror, ar y pymtheg- fed dydd, yn y flwyddyn 1564. Hanai o deulu nid anenwog, ac yn wahanol i lawer o blant athrylith, ni wybu efe am adfyd a chaledi yn more ei oes. Meddai gartref clyd, a chafodd fanteision addysg oreu yr adeg honno. Cafodd ei gymhwyso ar gyfer galwedigaeth y meddyg. Dyna oedd delfryd ei dad, ond arweiniwyd ef gan Ragluniaeth ar hyd ffordd arall. Dichon y buasai yn ennill safle barchus fel meddyg; ond ar hyd y "llwybr dieithr " yr oedd efe i wasanaethu gwybodaeth, ac i ennill enw ymysg y cedyrn. Gwnaeth ei ddarganfyddiad cyntaf pan yn laslanc deunaw oed. Tra yn ymdroi mewn eglwys gadeiriol, un adeg, gwelodd lamp grogedig yn ymysgwyd ol a blaen yn y gwagle. Sylwodd fod ei symudiadau yn hollol reolaidd, ac wrth fyfyrio ar y digwyddiad damweiniol hwnnw y cafodd y syniad am "bendil cloc," a rhoddwyd y peth yn fuan wedyn mewn ymarferiad. Ar ol hynny, bu mewn dadl boeth gyda'r athronwyr ynghylch deddfau pwys a thyniad. Dadleuai efe fod sylweddau o bob maint, pan yn cael eu gollwng i lawr o unrhyw uchder yn rhwym o gyrraedd y ddaear ar yr un adeg. Rhoddwyd prawf ymarferol ar y ddamcaniaeth. Aed a dwy belen haiarn—un fawr ac un fechan—i ben tŵr byd-enwog Pisa. Gollyngwyd hwy drosodd yn gydamserol, a chyrhaeddodd y ddwy y gwaelod efo'u gilydd. Yr oedd Galileo wedi profi ei bwnc! Ond cyffrodd elyniaeth y dysgedigion lleol, a symudodd ei breswyl o Pisa i Padua, lle y gosododd sylfaeni ei enwogrwydd fel gwyddonydd.
Yno y troes ei sylw at seryddiaeth, ac yr oedd yn amddiffynydd cadarn i " gyfundrefn Copernicus," cyfundrefn sydd erbyn heddyw yn cael ei chydnabod fel gwirionedd ond yn y cyfnod hwnnw edrychid arni gyda gŵg fel damcaniaeth wyllt a chwyldroadol.
Hyd yma, yr oedd pob sylwadaeth seryddol yn cael eu gwneud, o angenrheidrwydd, drwy gyfrwng y llygad noeth. A rhyfedd gymaint of waith a wnaed yn y ffordd honno! Aed y darllennydd allan am dro ar noswaith serenog, glir, dawel, yn y mis hwn. Sylwed ar y constellations disglaerwych yn araf symud (i'n golwg ni) dros feusydd ehangfaith y ffurfafen. Dacw'r Pleiades (y "Tŵr Tewdws ") a'i osgorddlu. Ar ei ol daw Orion ("Llathen Fair") a'i sêr tanbaid; ar ei aswy y mae Castor a Pollux (y ddau efaill). Mewn cwr arall y mae yr Arth Fawr (Saith Seren y Llong) fel mynegfys yn cyfeirio at Seren y Gogledd. Ond rhaid i ni ymatal. Digon ydyw dweud fod teuluoedd y sêr wedi eu dosrannu a'u lleoli, a bod y rhan fwyaf o'r planedau wedi eu darganfod yn y cyfnod hwn, —cyfnod y llygad noeth.
Ond yr oedd cyfnod arall yn ymyl, ac yr oedd "gwaith ei fysedd Ef" i ddisglaerio mewn goleuni mwy llachar nag erioed. Adwaenir hwnnw fel cyfnod y Teliscop, a Galileo oedd ei apostol cyntaf. Fel hyn y bu. Clywsai fod gwneuthurwr llygad-wydrau, Ellmyniad o genedl, wedi digwydd rhoddi dau wydr—un yn concave, a'r llall yn convex—ar gyfer eu gilydd, ac iddo gael eu bod yn dwyn y pell yn agos! Felly y cafwyd gafael yn y syniad cyntaf am y teliscop. Lluniodd Galileo offeryn iddo ei hun. Gwnaeth lawer cynnyg. Ond, un noson, gosododd ei deliscop ar y lleuad, ac am y waith gyntaf yn hanes dyn, efe a ganfu fynyddoedd y lloer! Beth oedd ei deimladau ar y pryd? Hawdd credu fod ei galon yn dirgrynnu gan lawenydd, a'i ysbryd athrylithgar yn ategu geiriau y Salmydd "Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist, Arglwydd ein Iôr! mor ardderchog yw dy enw . . .yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd."
Teliscop bychan oedd un Galileo. Nid oedd dim cymhariaeth rhyngddo a'r eiddo Arglwydd Ross, neu Arsyllfa Greenwich. Ond efe oedd rhagredegydd yr oll, a datguddiodd ryfeddodau. Llwyddodd Galileo i ddarganfod lleuadau Iau; cafodd gipdrem ar fodrwyau Sadwrn, a chanfu yr ysmotiau rhyfedd sydd yn symud dros wyneb yr haul.
Ond wedi iddo dreulio blynyddau o astudiaeth, a nosweithiau digwsg, i egluro Bibl y ffurfafen, cafodd yntau brofi gofidiau pob diwygiwr, a phob darganfyddwr gwirioneddol. Cafodd ei rybuddio gan y Vatican i ymattal rhag lledaenu ei ddysg newydd; ond fel yr apostolion gynt, nis gallai beidio. Angenrhaid a roed arno i fynegi ei argyhoeddiadau. Aeth y frwydr yn boethach. Dygwyd ef, yn hen ŵr deg a thriugain oed, gerbron y Chwilys Pabaidd. Cafodd ei boenydio, a'i wisgo mewn sachlian, a pherswadiwyd ef mewn moment wan i arwyddo datganiad oedd yn hysbysu ei fod yn ymwrthod â'i olygiadau, ac yn cofleidio athrawiaeth yr Eglwys Gatholig, er i honno fod yn groes i dystiolaeth ffeithiau anwrthwynebol. Ond pan yng ngharchar, a'i lyfrau yn gollfarnedig, dywedir iddo sibrwd y frawddeg (gan gyfeirio at gylchdro y ddaear),—
E pur si muove
"Er hyn oll, y mae yn troi!"
A'r dystiolaeth hon sydd wir, er i holl lysoedd y byd geisio ei gwadu. Cafodd ddychwel i Padua, gyda rhybudd i beidio gadael terfynau gosodedig ei breswylfod. Cyn hir daeth profedigaeth arall i ymosod arno, ac un o'r rhai llymaf iddo ef. Pallodd ei olwg. Nis gallai ddilyn ei hoff efrydiau, ac yn raddol aeth yn hollol ddall. Ond yr oedd llygaid ei feddwl yn ddigwmwl, ac yr oedd ei ymddiddanion yn ysbrydoli ereill i garu y gwaith yr oedd efe wedi cysegru ei oes i'w gyflawni.
Syrthiodd y llen i lawr ar ei fywyd yn y flwyddyn 1642, ac efe yn 78 mlwydd oed. Bu farw mewn hedd, a'i bwys ar yr Hwn y daeth Doethion y Dwyrain i'w addoli yn Methlem Juda; a chafodd ei roesawu i'r Ddinas Wen "na raid iddi wrth yr haul na'r lleuad i oleuo ynddi; canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw yr Oen." Ac yno y "rhai cyfiawn a lewyrchant fel yr haul yn nheyrnas eu Tad."
DEWI SANT.
MAWRTH (?)
"Glaniaw rhag llid gelynion
Wnai saint yn yr ynys hon:
I fwynhau, i fyw yn ol
Cywir foddion crefyddol.
Os oedd ofergoelion syn
Hudolus yn eu dilyn,
Eu rhinwedd oedd er hynny
Drwy fraint, fel goleudy fry:
Rhyw wawr wan, yr oreu oedd
Acw yn asur cynoesoedd:
Gwawr o ras, goreu'r oesau,
Nid oedd hi ond yn dyddhau !"
—Islwyn.
Y MAE Cymru Fu wedi bod yn dra enwog am ei Saint. Oni chladdwyd dros ugain mil o honynt yn Ynys Enlli? Ac onid yw eu henwau wedi eu cysylltu â phob eglwys a llan o fewn y Dywysogaeth? Ac iddynt hwy yr ydym yn ddyledus am ein dyddiau gwyl,—Gwyl Ifan, Gwyl Domas, Gwyl Mihangel, &c. Dyna rai o honynt; ac od yw y darllenydd yn awyddus i astudio y mater, ymofyned â chalendr yr Eglwys Sefydledig. Ond tra y mae amryw o'r gwyliau hyn, a fwriedid er coffa y Saint yng Nghymru, wedi mynd yn lled ddi-son am danynt, y mae un o honynt yn dod yn fwy-fwy adnabyddus bob blwyddyn,—Dydd Gwyl Dewi.
Ar y cyntaf o fis Mawrth y mae'r Cymry diledryw ym mhob cwr o'r ddaear yn gwisgo'r geninen, neu efelychiad o honi; yn ymgyfarfod i gynnal arwestau, ac i gynyg llwnc-destynau, gan gyffesu eu hymlyniad wrth ddefion, iaith, a gwladgarwch Cymreig. Ac y mae y pethau hyn yn cael eu cysylltu â Dewi,—nawdd-sant y Dywysogaeth. Yn awr, gan fod dydd Gwyl Dewi yn meddu y fath ddylanwad arnom fel cenedl, y mae'n ddyddorol ini ymofyn,—Pwy oedd Dewi ei hun? Pa bryd yr oedd yn byw? Pa beth a wnaeth i fytholi ei enw? A sut y daeth efe yn brif sant ei genedl?
Y mae'r cwestiynau hyn, a'u cyffelyb, yn haws eu gofyn na'u hateb. Ac yn fwy felly heddyw nag erioed. Fe fu adeg pan ydoedd Bucheddau y Saint yn cael eu credu yn ddiamheuol. Ac yn ol y rhai hynny yr oedd Dewi Sant yn ŵr rhyfeddol iawn. Cysylltir llu mawr o "wyrthiau" â'i hanes. Ymysg pethau ereill, adroddir am dano yn pregethu ar "dir gwastad," mewn mangre a ddaeth i gael ei hadnabod wedyn wrth yr enw Llanddewibrefi. Ac yn gymaint a bod y cynhulliad yn rhy luosog i fedru gweled a chlywed y pregethwr, fe "gyfododd y llawr, megis mynydd uchel dan ei draed, fel y gwelodd pawb ef, ac y mae y bryn yn weledig hyd yn bresennol." Dywedir i'r rhyfeddodau hyn gymeryd lle yn rhywle tua'r bumed ganrif, yr hon a elwir gan Mr. O. M. EDWARDS yn "Gyfnod y Saint." Ond ni chafodd buchdraeth y Sant ei ysgrifenu hyd y ddeuddegfed ganrif, a hynny gan Gerallt Gymro, gŵr oedd yn berchen dychymyg tra ffrwythlawn. Dodwyd enw Dewi ar restr saint canonaidd eglwys Rhufain yn 1120, a daeth y fynachlog lle y bu farw yn gyrchfa pererinion o bob parth o Gymru, ac o wledydd tramor. Bu brenhinoedd fel Gwilym y Gorchfygwr, Harri yr Ail, Edward y Cyntaf, yn penlinio yn ymyl creirfa Dewi Sant yn Mynwy. Ond erbyn heddyw, y mae yr uwchfeirniadaeth hanesyddol wedi bod ar waith yn y cyfeiriad hwn. Chwalwyd y tyrau llwch; ysgubwyd gwe y pryf copyn oddiar draddodiadau y canrifoedd, ac y mae adail Gerallt Gymro wedi syrthio i'r llawr! Nid y "gwyrthiau honedig yn unig sydd wedi mynd i ffordd yr holl ddaear, ond y mae personoliaeth y sant ei hunan wedi mynd yn rhywbeth anelwig a disylwedd. A fu y fath un a Dewi Sant yn bodoli o gwbl? A ydoedd yn gymeriad hanesyddol? Ai myth ydyw,—darn o chwedloniaeth dlos y cynoesoedd? Gellid meddwl mai dyna yr olwg a gymer yr "uwchfeirniaid" llenyddol ar y pwnc. Ond beth a roes fôd i'r traddodiad? Pa fodd y daeth enw Dewi Sant yn ddylanwad mor fawr ar genedl y Cymry? Oni fu yno ŵr yn y Deheubarth, mewn oes foreu yn hanes ein gwlad yn bregethwr cyfiawnder, a'i fywyd pur, diwair, fel goleuni santeiddrwydd yng nghanol caddug ofergoeledd ac anfoes? Oni hauodd efe hâd da yn naear meddwl a chymeriad ei oes,—hâd sydd yn para i dyfu hyd y dydd hwn? Yn nhreigliad amser, ymgasglodd traddodiadau o gwmpas ei enw, fel y mwsog o gwmpas bôn y pren. Daeth yn arwr rhamant a chân.
Nid oedd y pethau hyn yn wir llythyrennol, fel y multiplication table, neu osodiadau Euclid. Ond oni allent gynnwys gwirioneddau delfrydol (ideal truths)? Dichon nad ydyw yr hanes am Arthur, ei farchogion, a'i lŷs, yn meddu ystyr lythrennol, ond y mae yna ddelfrydau ardderchog yn gorwedd ynddo. Yr un modd am y chwedloniaeth sydd wedi tyfu oddeutu enw Dewi Sant. Y mae'r amwisg dlos, ramantus, yn cynnwys gwirioneddau delfrydol sydd i ennill nerth ar feddwl ein gwlad. Os ydyw Arthur i ddod yn ol i adfer puredd a gogoniant bywyd, y mae Dewi Sant i adgyfodi drachefn gyda gwladgarwch Cymru.
Beth ydyw ystyr y chwedl ddarfod i fryn gwyrddlas godi dan ei draed? Onid dameg ydyw o ddylanwad ei ysbryd a'i waith? Ac onid dyna y rheswm paham mai efe,—yn anad un o arwyr y gorffennol,—a gofir gennym ar uchel wyl gwladgarwch? Dyna genadwri Dewi Sant, apelio at galon ac ymdrech y Cymro ym mhob rhan o'r byd i wneud ei oreu i godi "bryn gwyrddlas ei genedl o wastadeddau y gorffennol,—"codi'r hen wlad,"—nid yn "ei hol," ond yn ei blaen, yn uwch, yn well, yn burach nag y bu erioed. Ac ar y cyfrif hwn y mae "Dydd Gwyl Dewi " yn haeddu y warogaeth a delir iddi bob blwyddyn. Gall yr hen lenyddiaeth sydd wedi croniclo ei wyrthiau golli ei hystyr gyntefig; ond y mae y delfryd gwladgarol sydd wedi bod yn llechu rhwng ei phlygion, i aros mewn gogoniant a swyn. Gallwn roesawu'r traddodiad ar gyfrif yr ideal sydd ynddo, yng ngeiriau ein cyd-wladwr,-Syr Lewis Morris,—
"Draddodiad mwyn ein dysgu'r wyt
Am gadarn fraich a llais,
Sydd eto i adferu'n gwlad
O rwymau trymion trais.
"Tyrd, Bresenoldeb dedwydd,
Gwisg dy oleuni mâd,"
Mae Cymru'n disgwyl; tyrd yn wir
I godi'n hanwyl wlad!"
OLIVER CROMWELL.
EBRILL 25. 1599.
"Ond oes ryfeddach na chyffredin oedd yr oes honno mewn llawer ystyr, pan oedd pob math o egwyddorion yn ymweithio yn erbyn eu gilydd mewn llawn nerth, ac yn gwneuthur yr holl deyrnas yn dryblith drwyddi: pan o'r diwedd y torwyd pen tra-arglwyddiaeth yn mherson Siarl y Cyntaf, ac y dyrchafwyd yr ynys hon dan lywyddiaeth Cromwell i uwch bri yn ngolwg cenhedloedd y ddaear nag y buasai erioed o'r blaen.Yr oedd yn ddinystr cyffredinol ar ffurfiau difywyd, ac o gyfiro alaethus yn mhlith y pryfed copyn wrth weled eu gweoedd yn cael eu hysgubo ymaith mor ddiarbed."—DR. LEWIS EDWARDS.
HENFFYCH, Ebrill! mis y blodau, y gawod, a'r gân. O dan dy deyrnasiad di yr adfywia anian a dyn; adeg briallu a meillion, dyddiau dedwydd y wennol a'r gog. Tra yn bwrw golwg dros dy hanes yn yr amser a fu, nid rhyfedd gennyf fod aml i athrylith wedi ei geni i'r byd, yn ystod dy ymweliad adfywiol di. Ar y rhestr y mae enwau beirdd ac arlunwyr, proffwydi y tlws a'rOLIVER CROMWELL
swynol, mewn meddwl ac iaith. Dyna George Herbert (1593), y bardd crefyddol mwyn; Raphael (1486), yr arlunydd byd-glodus, a Shakespeare (1564), tywysog yr awenwyr oll. Ond y mae yna ambell i gymeriad yr ydys yn cysylltu rhywbeth tra gwahanol i heulwen Ebrill â'u henwau, ac â'u gwaith. Dyna Bismark, y dyn gwrolfryd, a haiarnaidd hwnnw. Hawdd fuasai credu iddo ddod i'r byd yn nghanol ystormydd y gauaf, ond cymerodd y digwyddiad pwysig le ar y cyntaf o Ebrill (1815). Na haered neb mwy mai "ffyliaid " sydd wedi meddiannu y cyfryw ddydd!
Ac un o enedigion Ebrill ydoedd Oliver Cromwell, y gŵr a greodd y fath chwyldroad mewn byd ac eglwys; un o'r cymeriadau hynotaf, grymusaf, ar lechres hanes maith ein gwlad. Ie, ar y 25ain o'r mis hwn, yn y flwyddyn 1599, y ganwyd Cromwell, yn Swydd Huntingdon, Deheubarth Lloegr. O du ei dad, yr ydoedd yn Gymro. Hanai ei wehelyth o sir Forganwg; eu cyfenw ydoedd Williams; ond drwy gysylltiad priodasol mabwysiadodd un ohonynt yr enw Cromwell, ac aeth y "Williams" o'r golwg. Ond y mae'r ffaith yn aros. Yr oedd y gwaed Cymreig yng ngwythienau Cromwell, gwaed brŵd, cyffrous, hen dywysogion y Deheubarth. O du ei fam, yr oedd yn perthyn i linach y Stuarts, ac yn garenydd, yn ol y cnawd, i Charles I., y brenhin cyndyn a ddibenodd ei yrfa dan fwyell y dienyddwr.
Treuliodd Cromwell fore ei fywyd mewn neillduaeth. Cafodd addysg dda, ac wedi dod i oedran gŵr troes ei fryd at amaethyddiaeth. Nid meudwy mohono, ond nid ymollyngai i rysedd ac anfoes. Daeth dan ddylanwadau crefyddol dyfnion. Bwriodd ei goelbren gyda'r Piwritaniaid, a daeth i feddwl yn ddwys ar y materion oedd yn ymweithio yn y deyrnas yn y blynyddau hynny. Ffynai yr ysbryd Pabyddol yn y llysoedd uwchat. Amcanai y brenhin lywodraethu ar wahan i farn cynrychiolwyr y bobl. Yr oedd rhyddid gwladol, a llais cyd- wybod ar faterion crefyddol, yn cael eu sarhau, eu torfynyglu, a'u llethu, ar bob llaw.
Yn ystod yr adeg, cafodd Cromwell ei anfon i'r Senedd fel aelod dros Swydd Huntingdon, a thrachefn fel aelod dros Gaergrawnt. Ychydig o ran a gymerai yn y Tŷ. Siaradodd unwaith neu ddwy,-dyna'r oll. Aeth y Brenhin i gredu y gallai wneyd yn well heb Senedd o gwbl, a dychwelodd Cromwell adref. Nid oedd yr alwad effeithiol wedi dod eto. Ond yr oedd pethau yn mynd waeth waeth yn y deyrnas. Yr oedd Laud, Stafford, a'r brenhin yn cyd- ymgais i sicrhau unbenacth gormesol a thrahaus. Meddyliai Cromwell am ymfudo i'r Amerig, o ganol y gormes a'r blinderau oedd yn gordoi y wlad. Beth fuasai ei hanes ef, a hanes ein teyrnas, pe rhoddasai ei fwriad mewn grym? Ond cyffrodd ysbryd y wlad, a dechreuwyd arwyddo y Gwrthdystiad Mawr gan filoedd. Ni fynai y Brenhin wrando. Diddymodd y Senedd, a dechreuodd y Rhyfel Cartrefol. Dyna fu'n achlysur i alw Cromwell o'i neilltuaeth yn St. Ives. Yr oedd yn llawn deugain mlwydd oed cyn gwisgo'r cledd yn erbyn y Brenhin, ac o blaid y Wladwriaeth. Nid ydoedd wedi cael ymarferiad milwrol, a chasbeth oedd ganddo adael ei deulu, a'i hwsmonaeth wledig. Ond anghenrhaid a osodwyd arno i ymaflyd yn y gwaith oedd ar ei gyfer. Nid oedd ond efe a fedrai ei gyflawni. "Dau beth," meddai S. R. Gardiner, yr hanesydd manylgraff, a'r awdurdod uwchaf, o bosibl, ar y cyfnod hwn,-" dau beth oedd yn nodweddu Cromwell,-nerth ewyllys a phenderfyniad ar un llaw, ac arafwch eithriadol ar y llaw arall." Yn araf iawn y gwnai ei feddwl i fyny. Nid dyn penboeth, gwaedwyllt, chwyldroadol mohono. Bu yn hir cyn cymeryd ochr yn erbyn y Brenhin. Ond wedi ei ar- gyhoeddi fod achos crefydd, rhyddid, ac iawn- der yn y glorian, taflodd ei hun gorff ac enaid i'r ymgyrch, ac nid oedd dim a safai o'i flaen. Daeth i'r maes heb unrhyw allu daearol o'i du. Credai yn ei "achos," a chasglodd fyddin o wŷr oeddynt yn credu fel yntau,—dynion dibrofiad mewn ystyr filwrol, ond yn meddu ffydd yn Nuw, a glewder dihafal i gyflawni eu dyledswydd. Dyna'r Ochrau Dur,—yr Ironsides. Aethant allan gan orchfygu, ac i orchfygu. Ymladdwyd brwydr Marston Moor, a Naseby, a chyn pen ychydig fisoedd yr oedd enw Cromwell yn ddychryn ac yn arswyd drwy yr holl deyrnas. Ffodd Charles i'r Alban, a gwerthodd yr Ysgotiaid ef i'r Saeson. Ceisiodd Cromwell ei ddarbwyllo o'i ynfydrwydd, ond nid oedd dim yn tycio. Dodwyd y Brenhin dan brawf, a chafodd ei gondemnio i farw. Dienyddiwyd ef yn Ionawr, 1649, a daeth Cromwell yn arweinydd y Weriniaeth newydd. Ond blin a fu ei yrfa. Yr oedd nerthoedd cryfion yn ei erbyn. Yr oedd iddo elynion ffyrnig yn y Senedd,—y "Senedd Hir," fel y gelwir hi. Ond aeth Cromwell i'r Tŷ un dydd; rhoddes orchymyn i symud y mace oddiar y bwrdd; troes yr aelodau allan bob un, clodd y drws, a rhoddodd yr agoriad yn ei logell.
Troes yr Ysgotiaid yn ei erbyn, a daeth byddin gref dros y ffindir. Cyfarfu y cadau yn Dunbar, ac enillodd Cromwell frwydr fwyaf ei oes. Ond yr oedd cynyrfiadau yn parhau i gymeryd lle, weithiau yn Nghymru, a phryd arall yn Iwerddon; ac er rhoddi y tân allan, ar y pryd, yr ydoedd yn para i losgi, ac i ail enyn yn rhywle yn barhaus. Methodd Cromwell a sicrhau y Weriniaeth a sefydlwyd ganddo. Meddai allu i dynu i lawr, i ddiorseddu gormes a thrais, ond ni feddai ddawn i adeiladu. Nis gellid llywodraethu gwlad drwy nerth milwrol. Fel y dywedai Napoleon,—"You can do anything with bayonets except sit on them." Gwnaeth Cromwell waith ardderchog yn ngrym ei fidogau, ond methodd a sylfaenu gorsedd arnynt, iddo ei hun, nac i neb arall.
Codwyd ef gan Ragluniaeth ar gyfer amseroedd enbyd. Ymddiriedwyd iddo am waith anhawdd. Cyflawnodd ei genadwri yn onest, yn wynebagored, ac yn llwyr. Nid oedd uchelgais yn ei holl feddyliau. Nid diafl ar ffurf dyn ydoedd, fel yr honai ei elynion am lawer cenhedlaeth. Dengys ei hanes gan Carlyle, hanes wedi ei sylfaenu ar ei lythyrau, ei areithiau, a'i weithredoedd, fod Cromwell yn un o ddynion mawr Prydain, yn arwr rhyddid ac iawnder, ac yn gymeriad pur ac ardderchog. Gellir beirniadu ei gynlluniau a'i ffurf-lywodraeth, ond disglaeria ei gymeriad fwy-fwy fel y mae y canrifoedd yn treiglo ymlaen.
Yr oedd John Miltwn yn edmygydd dwfn ohono yn ei oes, ac y mae gwŷr o safle Arglwydd Rosebery a John Morley, yn y dyddiau hyn yn cysegru eu hamser a'u galluoedd i ddadorchuddio bywyd a gwaith Oliver Cromwell.
FLORENCE NIGHTINGALE.
'MAI, 1820.
"Dyner Fai! dy dywydd distaw
A'th awelon meddfol sydd
Yn dwyn pawb i'th gynhes garu:
Gado ei ystafell wely
Wna'r cystuddiol, llwyd ei rudd
Estyn iddo gwpan iechyd,
Dan dy wenau ymgryfhâ,
Ei holl lesgedd yrri ymaith,
Gwasgar hadau meddyginiaeth
Yw dy orchwyl,—blentyn Hâ!"
Y MAE genedigion mis Mai yn llu mawr, ac yn perthyn i bob cylch o fywyd a gwaith. Dyma restr ohonynt ar antur, John Hampden, y gwladgarwr (1594); Owain Glyndwr (1349); William Pitt (1759); Dr. Jenner, y meddyg enwog (1749); Huxley, y gwyddonydd (1825); Charles Kingsley (1819); Spurgeon (1834). Ac yn ystod y mis hyfryd hwn y ganwyd nifer o'r beirdd, hen a diweddar,—Dante yn 1265; Emerson yn 1803; Browning yn 1812; Whitman yn 1819; Pope yn 1688, &c.
Hyfryd gennym fuasai ysgrifennu rhyw gymaint am un neu fwy o'r enwogion uchod, oherwydd y mae amryw ohonynt wedi bod gymdeithion gwerthfawr am flynyddau. Ond y mae blodau Mai wedi ein hud-ddenu i lwybr gwahanol. Yr ydym yn adgofio mai yn ystod y mis hwn, yn y flwyddyn 1819, y ganwyd y Dywysoges fach a ddaeth wedi hynny i ddal teyrnwialen Prydain am flwyddi maith,—ein diweddar rasusaf Frenhines Victoria. Ond yn gymaint a bod amryw wedi cymeryd mewn llaw i ysgrifennu am ei bywyd a'i theyrnasiad hi, yr ydym yn ymatal rhag sangu ar faes ein cymydog.
Ond nid llai clodfawr yn ei ffordd oedd, ac ydyw y foneddiges ag y mae ei henw uwchben ein hysgrif,—Florence Nightingale. Ganwyd hi yn 1820, a hynny yn ninas enwog Florence, er mai Saesones ydoedd o ran cenedl a gwaed. Yr oedd ei thad yn foneddwr, ac yn berchen palas o'r enw Lea Hurst, yn Swydd Derby. Yno y treuliodd Florence ddyddiau dedwydd maboed. Amgylchynid hi gan gysuron a llawnder. Ond yn yr adeg honno dadblygodd yr elfennau a ddaethant wedi hynny mor amlwg, mor werthfawr yn ei bywyd. Meddai gydymdeimlad â phopeth oedd yn dioddef, ac yr oedd ei thiriondeb at greaduriaid mud yn ddiarhebol. Adroddir am dani yn adfer bugeilgi oedd wedi ei anafu yn dost, ac yn gwneyd llawer cymwynas oedd yn datguddio "tannau euraidd tynerwch" yn ei chalon. Cafodd addysg dda, a hawdd y gallasai dreulio ei hoes fel boneddiges uchel-waed, mewn ysblander a hunanfoddhad. Ond yr oedd y drychfeddwl o gynorthwyo yr adfydus, ac o weini ar gleifion ac anafusion wedi cymeryd meddiant o'i hysbryd. Awyddai am waith.
"Get leave to work
In this world: 'tis the best you get at all."
Ond beth a fedrai hi wneyd? Ei phrif ddymuniad oedd bod yn weinyddes (nurse) i'r cleifion. Ond yr adeg honno nid oedd y gelf gain yna wedi ei darganfod yn y deyrnas. Yr oedd y gwaith ei hun yn cael edrych i lawr arno fel rhywbeth anheilwng o'r rhyw fenywaidd. Codwyd Florence Nightingale gan Ragluniaeth i weddnewid hyn oll; a hynny, yn benaf, drwy ei hesiampl odidog ei hun. Yr oedd wedi cymhwyso ei hunan at y gorchwyl, ac wedi treulio rhan o'i hamser mewn sefydliadau meddygol ar y cyfandir. Ac yn y man, daeth yr amser i ddangos ac i ogoneddu drychfeddwl llywodraethol ei bywyd.
Yn 1854, yr oedd newyddiaduron y deyrnas hon yn llawn o hanes echrys y Crimea. Yr oedd ein milwyr dewr yn dioddef, yn marw wrth y cannoedd o ddiffyg ymgeledd. Yr oedd yr hen ysbyty hagr yn Scutari, ar lan y Môr Du, yn llawn o glwyfedigion, ond nid oedd yno neb i ofalu yn briodol am danynt. Aeth y lle yn gynweirfa y pla a'r haint, ac yr oedd rhestr y marwolaethau beunyddiol yn yr ysbyty yn 60 y cant!
Yn yr argyfwng hwn y cynygiodd Florence Nightingale ei gwasanaeth i'r Llywodraeth fel hospital nurse i'r milwyr. Derbyniwyd ei chynygiad gyda llawenydd a diolchgarwch. Hwyliodd allan, gyda nifer o foneddigesau ereill o gyffelyb feddwl. Gwynebodd yr holl anhawsderau, yr hinsawdd, y clefydon, a'r caledwaith gydag ysbryd gwronaidd. Nid oedd ond merch ieuanc dyner a diamddiffyn, ond yr oedd ei holl symudiadau yn hawlio parch ac edmygedd. Ymosododd ar yr aflendid a'r anhrefn yn yr Ysbyty fythgofiadwy honno. Ymlidiodd y trueni ymaith, a dygodd oleuni cysur a gobaith i'r dioddefwyr. Ar rai adegau yr oedd ganddi filoedd o dan ei gofal, ond ni phallodd ei hymdrech. Yr oedd pob milwr yn gwybod fod un a feddai dynerwch mam, a medr y meddyg goreu, yn gofalu am dano. Aberthodd ei hun ar allor dyngarwch. Daeth yn angyles trugaredd i'r sawl oedd ar ddarfod am danynt. Nid oes neb wedi darlunio ei gwaith yn fwy tyner a desgrifiadol na Longfellow, y bardd Americanaidd, mewn canig fechan, anfarwol—.
Lo! in that house of misery,
A lady with a lamp I see
Pass through the glimmering gloom
And flit from room to room.
"And slow, as in a dream of bliss,
The speechless sufferer turns to kiss
Her shadow as it falls,
Upon the darkening walls."
Bu o fewn ychydig i golli ei bywyd yn ngrym ei hymdrech. Ymaflodd y dwymyn ynddi, a dwys oedd y pryder yn ei chylch. Ond cafodd ei hadfer i berffeithio y gwaith a'i gwnaeth mor anwyl gan bob gradd. Daeth adref i'r wlad hon, a chwenychid ei hanrhydeddu fel gwrones y Crimea. Ond ni fynai y cyfryw anrhydedd. Ei dymuniad ydoedd am i ereill o'i rhyw gael eu cymhwyso i garu yr un gwaith. Ac er ei bod wedi treulio blynyddau maith mewn neillduaeth, yn ddioddefydd parhaus ond tawel, y mae ei dylanwad wedi bod yn ddifesur ar sefydliadau dyngarol. Dyrchafodd y swydd o nurse, ac agorodd ffordd i filoedd o'i chwiorydd i wasanaethu eu hoes yn y cyfeiriad hwn.
Beth ydyw y Red Cross Society? Beth ydyw y Queen's Nurses, a'r Nightingale Home yn Ysbyty St. Thomas? Beth ydyw y gofal a'r sylw arbennig a delir i'r gorchwyl o weini ar y claf a'r adfydus? Y mae'r oll yn dystiolaeth i ysbryd ac esiampl Florence Nightingale, un o ferched ardderchocaf Prydain; un y gellir dweyd am dani, fel Olwen, fod blodau yn tyfu yn ol ei throed, un ag y mae ei henw persain wedi ei gydblethu â hanes goreu ein gwlad,—
"A lady with a lamp shall stand
In the great history of the land:
A noble type of good
Heroic womanhood."
"A lady with a lamp." Ac wedi i'r foneddiges ei hun gilio o'r golwg fe erys y lamp,-y llusern fechan, gannaid honno i oleuo, ac i ddi-ddanu meddyliau ysig am lawer cenhedlaeth ac oes. Amlycach na brwydrau y Crimea fydd y lamp yn ysbyty Scutari.
JOHN WESLEY.
MEHEFIN 28, 1703
AC yr oedd gŵr wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan." Gellid dweud hynny am lawer Ioan yn ystod y canrifoedd Cristionogol, ac y mae y gair yn hollol addas i'w gymhwyso at hanes a llafur John Wesley, sylfaenydd un o'r cyfundebau crefyddol mwyaf grymus yn y deyrnas hon, ac ar gyfandir yr Amerig.
Ganwyd ef yn mhersondŷ Epworth, Swydd Lincoln, ar yr 28ain o Fehefin, 1703. Clerigwr oedd ei dad, Samuel Wesley, a chlerigwyr oedd ei hynafiaid. Yr oedd John yn un o bedwar ar bymtheg o blant, ond nid yw y byd yn gwybod heddyw namyn am ddau o'r teulu lluosog hwn, —John a Charles. Erys eu henwau hwy tra y bydd Methodistiaeth Wesleyaidd yn un o forces y byd Cristionogol. Y mae emynau'r naill, ac ysbryd diwygiadol y llall, wedi hydreiddio i awyrgylch grefyddol ein teyrnas. Yr oeddynt fel Paul ac Apolos, y naill yn plannu, a'r llall yn dyfrhau, a Duw yn rhoddi y cynydd.
John oedd yr hynaf o'r ddau. Cafodd ei fagu o dan ddylanwadau tyner a phur. Yr oedd ei fam yn un o ragorolion y ddaear. Addefa pob hanesydd fod Susannah Wesley yn gymeriad nodedig. Yr oedd ei gofalon yn lluosog, ond drwy ei threfnusrwydd, ei meddylgarwch, a'i serchawgrwydd, llywodraethai dylwyth ei thŷ gyda doethineb a phurdeb. Yr ydoedd yn fren- hines ar yr aelwyd, a'i deddfau yn seiliedig ar gariad a thynerwch. Etifeddodd John Wesley alluoedd meddyliol ei fam; yr oedd trefn a chynllun wedi eu cydwau â'i natur, ac yn ngrym y ddawn yna y llwyddodd i osod ei waith ar linellau sicr a pharhaol. Dyna sylfaen "Trefn- yddiaeth yr enwad sydd yn bytholi ei enw.
Pan ydoedd yn blentyn, digwyddodd i berson- dŷ Epworth fynd ar dân. Mawr oedd y cyffro, oherwydd yr oedd y teulu yn gorffwys ar y pryd. Llusgwyd y plant allan ganol nos, ond wedi eu cyfrif, canfu y tad pryderus fod un ar ol! Yr un hwnnw oedd John. Yn y man, gwelid ef yn sefyll yn ffenestr y llofft. a'r fflamau yn prysur nesau ato. Ond dyna ddau gymydog yn anturio at y mur, ac yn llwyddo i'w waredu o'i berygl. Cyn pen ychydig funudau buasai wedi mynd yn aberth i angerdd y tân. Yr oedd y ddihangfa yn ernes o lawer dihangfa arall a gafodd yn ystod ei oes faith. Nid rhyfedd ei fod yn hoff o'r adnod honno,-"Onid pentewyn ydyw hwn wedi ei gipio o'r tân?" Meddyliai ei fam fod y waredigaeth yn amnaid o rywbeth mwy,-fod gan Dduw waith arbenig iddo i'w gyflawni drosto Ef. Ac onid oedd ei dyfaliad yn llawn o ystyr? Derbyniodd ei addysg yn y Charterhouse, ac wedi hynny yn Rhydychen. Daeth yn ysgolor gwych, yn fedrus fel ymresymydd, ac yn gyfarwydd iawn yn llenyddiaeth glasurol yr hen oesoedd. Ac yr oedd ei fywyd personol yn bur a diwair. Ymgadwai rhag rhysedd ac anfoes, a chymhwysodd ei hun i fod yn glerigwr yn eglwys Locgr. Etholwyd ef yn gymrawd o goleg Lincoln, a derbyniodd urddau eglwysig. Yn yr adeg hon y ffurfiwyd y gymdeithas fechan honno a ddaeth yn hedyn y diwygiad Methodistaidd. Cyfarfyddai amryw o wŷr ieuainc yn eu hystafelloedd yn Rhyd- ychen i ymddiddan am bethau crefydd. Yr oedd agwedd crefydd yn dra isel ar y pryd. Teyrnasai anffyddiaeth ac anuwioldeb yn y cylchoedd uchaf, ac nid oedd derfyn ar ysbrydiaeth wallgof a phechadurus yr oes. Cafodd y gwŷr ieuainc a geisient adfer difrifwch a phurdeb i fywyd y brif-ysgol eu llysenwi yn "Fethodistiaid," enw sydd bellach wedi ei ddyrchafu o ddinodedd, ac wedi dod yn rhywbeth i ym- ffrostio ynddo, ac i'w arddel gan filoedd.
Pan oedd John Wesley yn lled ieuanc, cafodd ar ei feddwl i fynd drosodd i'r Amerig fel cenhadwr. Ar ei fordaith yno daeth i gyffyrdd- iad â'r Morafiaid, ac arweiniodd hyny i ganlyniadau pwysig yn ei hanes. Rhoddent hwy y pwys mwyaf ar grefydd brofiadol, a thystiolaeth fewnol yr Ysbryd yn enaid dyn. Ar y pryd, yr oedd Wesley yn eglwyswr,-yn uchel eglwyswr. Rhoddai y sylw manylaf i ddefodau, ympryd, dyddiau gwyl, &c. Ac ni fynai gydnabod neb ond y sawl oedd wedi eu hordeinio gan ddwylaw esgobol. Ychydig fu ei lwydd fel cenhadwr yn Georgia. Yr oedd ei olygiadau yn gwrthdaro yn erbyn syniadau dyfnaf y bobl.
Daeth yn ol i Lundain, a dechreuodd gyfeillachu â'r Morafiaid yn Fetterlane. Daeth dan ddylanwad Peter Bohler, ac yn raddol torodd goleuni newydd ar ei feddwl, goleuni oedd i weddnewid ei holl hanes. Nis gallwn ymdroi gyda'r pwynt hwn, er ei fod yn allwedd i lafur John Wesley. Yr oedd yn cynnwys ymwybyddiaeth o'r gwirionedd a bregethid gan Paul,
Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig; trwy ffydd, a hynny nid ohonoch eich hunain."JOHN WESLEY YN PREGETHU ODDIAR GARREG FEDD EI DAD.
Iachawdwriaeth yn gwbl o ras, ac yn ddigonol i'r penaf o bechaduriaid. Yn ngrym yr argyhoeddiad newydd hwn (oherwydd dyna ydoedd yn ei olwg ef), enynwyd ynddo awyddfryd i bregethu yr efengyl, a hynny i bawb, mewn amser ac allan o amser. Dyna ddechreu y mudiad a wnaeth gymaint i ddyrchafu y bobl,-pregethu yn yr awyr agored. Dechreuodd y gwaith da hwn yn Bristol; ac yno yn mis Mai, 1739, y gosodwyd careg sylfaen y capel cyntaf gan y Methodistiaid. Yn y flwyddyn ddilynol y rhoddwyd bôd i'r Gymdeithas Wesleyaidd yn Moorfields, Llundain. Y mae hanes Wesley fel efengylydd yn debyg i'r eiddo Howell Harris yn Nghymru. Teithiai o'r naill dref a phentref i un arall, ar bob tywydd, a chyhoeddai yr efengyl i bawb a ddeuai i wrando arno. Cafodd ei erlid, ei faeddu, ei boeni mewn mil o ffyrdd. Gwaredwyd ef o grafangau dinystr; ond yr oedd ei sel yn llosgi ac yn goleuo, a daeth y bobl yn raddol i lawenychu yn ei oleuni. Meddai ar benderfyn- iad gwronaidd, a gallu i gyfaddasu ei hun ar gyfer pob argyfwng y caffai ei hunan ynddo. Edrychai ar y byd fel ei " blwyf." "The whole world is my parish" oedd ei arwyddair. Aeth i Epworth ar ei hynt, lle y bu ei dad yn glerigwr, ond rhwystrwyd ef i fynd i'r eglwys. Pregethodd yntau oddiar gareg fedd ei dad, ac yr oedd miloedd yn ei wrando. Daeth i Gymru, a chyd- lafuriodd lawer gyda Whitfield a Howell Harris. Mae'n wir iddynt ysgar oddiwrth eu gilydd ar gyfrif gwahaniaeth golygiadau athrawiaethol: Ond yr oeddynt yn coledd y serch puraf y naill at y llall.
Croesodd y Sianel i'r Iwerddon dros ddeugain o weithiau, er mwyn mynd â'r efengyl i drigolion truain yr Ynys Werdd.
Ac heblaw ei lafur anhygoel fel pregethwr teithiol, yr oedd yn gwasanaethu ei bobl mewn llawer cyfeiriad arall. Ysgrifenodd yn helaeth ar faterion cymdeithasol. Condemniodd y gaeth fasnach, a'r fasnach mewn diodydd meddwol, cyn i'r un diwygiwr arall godi ei lef. Dysgai yn bendant nad oedd gan y Llywodraeth hawl i godi ei chyllid oddiar fasnach oedd yn darostwng ac yn dinystrio y bobl. Bu yn parotoi, ac yn lledaenu llenyddiaeth iachus a rhad cyn i'r Tract Society gael ei bôd. Ac y mae ei ysgrifeniadau ef ei hun yn llu mawr. Dywed y beirniaid fod ei "Ddydd-lyfrau " (Journals) yn gyfryw o ran teilyngdod ag i'w gosod yn mysg clasuron crefyddol yr iaith Seisnig.
Cafodd oes faith, ac ni phallodd ei nerth hyd y diwedd. Yr oedd yn pregethu ac yn gofalu am fuddiannau Methodistiaeth yn mhell wedi croesi rhiniog pedwar ugain oed. Ond daeth yr adeg i orffwys. Wedi teithio dros ddau cant a phump ar hugain o filoedd o filldiroedd gyda gwaith ei Waredwr, wedi traddodi hanner can' mil o bregethau, wedi bod yn llywydd y Conference am 47 o flynyddau, wedi cynllunio, arolygu, ac arwain y cyfundeb Methodistaidd am gymaint o amser,—daeth y diwedd. Ei destyn olaf ydoedd," Ceisiwch yr Arglwydd tra y galler ei gael Ef." Aeth haul ei fywyd cysegredig i lawr yn dawel ac esmwyth yn mis Mawrth, 1793. Yr oedd y gobaith gwynfydedig yn anadlu drwy ei eiriau ymadawol,— "Ac yn goron ar y cwbl, y mae Duw gyda ni." Yn yr ymwybyddiaeth yma y cauodd John Wesley ei lygaid ar ei waith, cyn myned ohono i dderbyn ei wobr.
JOHN CALVIN.
GORPHENAF 10, 1509.
Oh, for an hour of Luther now!
Oh, for a frown from Calvin's brow!
Once they broke the Papal chain,
Who shall break it now again?"
—Baptist Noel.
AR y degfed dydd o fis Gorphenaf, yn y flwyddyn 1509,—yn agos i bedair canrif yn ol, yn Noyon, tref fechan o fewn talaeth Picardy, yn Ffrainc,—y ganwyd John Calvin,—un o dri chedyrn cyntaf y diwygiad Protestanaidd. Cyfreithiwr eglwysig oedd ei dad, a chafodd y bachgen fanteision addysg oreu y cyfnod hwnnw. Aeth i Paris yn bur ieuanc, a phrofodd fod ynddo ddefnydd ysgolhaig manwl a galluog. Daeth bywoliaeth eglwysig i'w ran cyn bod yn ugain oed, ond ni chafodd ei urddo yn ffurfiol i'r offeiriadaeth. Yr oedd ei dad yn awyddus iddo astudio y gyfraith, gan y credai fod ynddo allu i ragori fel dadleuydd cyhoeddus. Ac yr oedd Calvin ieuanc yn gogwyddo mwy at y ddeddf nag at yr Efengyl. Rhoddes y fywoliaeth eglwysig i fyny; aeth drachefn i Orleans i astudio cyfraith gwlad. Yr oedd ei gynydd yn gyflym a sicr. Enillodd y gradd o doctor of laws. Ond yr oedd dylanwadau ereill yn cylchynu ei fywyd. Daeth i gyffyrddiad âg ysbryd y diwygiad, a dechreuodd astudio ei Fibl. Daeth o dan argyhoeddiadau dyfnion, dwys. Ni bu chwyldroad yn ei fywyd fel Luther, ond yr oedd ei lwybr fel y goleuni tawel, yn cynyddu yn raddol, o'r wawr i gyfeiriad canol dydd.
Wedi marw ei dad, ymsefydlodd am gyfnod yn ninas Paris, gan ymroi i astudio duwinyddiaeth. Yr oedd athrawiaethau y diwygiad yn prysur lefeinio meddyliau. Daeth Calvin yn fuan i'r golwg ar gyfrif ei alluoedd a'i waith. Taflodd ei hun i'r ymdrech, ymgodymai âg arweddwyr y Babaeth, a chynhyrfodd ysbryd erledigaeth fel y bu raid iddo ffoi o Paris i Basle yn Switzerland, ac yno, yn y flwyddyn 1536, y cyhoeddodd ei Institutes anfarwol. Addefir fod hwn yn un o'r llyfrau mwyaf grymus a gynyrchwyd yn hanes duwinyddiaeth. Erys yn gofadail aniflanol i alluoedd ei awdwr. A'r hyn sydd yn rhyfedd ydyw, nid oedd Calvin ond gŵr ieuanc pump ar hugain oed pan ymddanghosodd yr Institutes. Rhaid fod ei feddwl wedi cyrhaedd rhyw addfedrwydd eithriadol, oherwydd ni farnodd yn mhen blynyddau fod eisieu cyfnewid dim ar gynwys na mynegiant y llyfr.
Ar ei hynt yr adeg hon, daeth ar ddamwain i Geneva, heb feddwl am aros yno ond un noson. Gwahanol, fodd bynnag, oedd bwriadau Rhagluniaeth. O hyny allan, yr oedd Calvin a Geneva i ymuno mewn glân briodas; yno yr oedd i fyw, yno yr oedd i farw, ac oddiyno yr oedd i ddylanwadu ar feddwl ei oes a'r byd. Ydyw; y mae y dref ar lan y llyn, yn nghanol gogoniant mynyddau Switzerland, wedi dod i feddu swyn hanes o ddyddiau Calvin hyd heddyw. "Nid oes un lle yn Europe," ebai Dr. Edwards, "wedi effeithio mwy ar y byd, mewn ystyr grefyddol a moesol, na Geneva. Oddiyma y bu Calvin yn dylanwadu ar holl deyrnasoedd cred, trwy ei ymddiddanion â'r dieithriaid a gyrchent ato o'r gwahanol wledydd, ac yn fwy na hynny trwy ei ysgrifeniadau. Yma y cafodd llawer o'r diwygwyr nodded yn nyddiau Mari waedlyd, pa rai, yn amser Elizabeth, a ddygasant olygiadau Calvin yn ol gyda hwynt, ac oblegid eu hymdrech i lân—buro yr eglwys a alwyd yn Biwritaniaid; a diau mai y rhai hyn yn nghyda'u holynwyr sydd wedi bod yn Lloegr yn halen y ddaear hyd heddyw."
Ni chafodd Calvin mo Geneva yn Baradwys mewn un modd, ac ni fu ei ymdrechion yntau i wneyd y lle yn Baradwys yn rhyw lwyddianus iawn. Ond yr oedd grym ei ysbryd a'i ddysgeidiaeth yn anwadadwy. Ni fu gelyn mwy ffyrnig i anfoesoldeb, a chyfeiliornad mewn barn a buchedd. Defnyddiai y gallu gwladol i roddi disgyblaeth eglwysig mewn grym. Yr oedd llygredigaeth eglwys Rhufain yn peri i'r diwygwyr fynd i'r eithaf arall; ond, camgymeriad oedd defnyddio grym cyfraith i orfodi dynion i ufuddhau. Yr oedd heresi a chabledd yn cael eu trafod yr un fath ag anonestrwydd neu ddynladdiad. Dyna ddygodd Servetus dan farn condemniad, a chafodd ei losgi wrth y stanc. Y mae enw Calvin yn cael ei gablu ar gyfrif y weithred hon; ond nid oedd efe yn fwy cyfrifol nac ereill o arweinwyr y Diwygiad. Dyna syniadau yr oes; nid oedd rhyddid barn a llafar wedi ei ddeall yn briodol,—mai i'w Arglwydd ei hun y mae pob meddwl yn sefyll, neu yn syrthio, mewn materion moesol a chrefyddol.
Ond yr oedd dylanwad Calvin yn cryfhau yn feunyddiol. Llafuriai mewn amser ac allan o amser. Pregethai, darlithiai, cyfansoddai yn ddiball. A gwnai hyn oll yn nghanol gwendid a llesgedd. Yr oedd yn ddioddefwr mawr, ac yn gorfod cyfansoddi llawer o'i weithiau ar ei glaf-wely. Pa ryfedd i ganwyll ei fywyd losgi allan cyn cyrhaedd hen-oed? Bu farw yn mis Mai, 1564, yn yr oedran cynar o 55. Dodwyd y gweithiwr enwog i orffwys yn mynwent yr eglwys lle y buasai yn traddodi ei bregethau argyhoeddiadol; ond ni ddodwyd un maen na chofnod i ddangos man ei fedd. Dyna oedd ei ewyllys ef ei hun. Nid oedd maen mynor yn cydweddu â syniadau Calvin. Erys ei weithiau i fytholi ei enw a'i athrylith. Onid efe oedd meddyliwr mwyaf y cyfnod Protestanaidd? Luther oedd yr areithydd hyawdl; Melancthon oedd yr ysgolhaig manwl, ond Calvin oedd y meddyliwr,—y duwinydd, a'r esboniwr dihafal. Ni fedrai efe ysgwyd torf fel Luther, ni feddai y brwdfrydedd ysbryd, yr afiaeth orfoleddus oedd ynddo ef, ond yr oedd cynyrch ei feddwl i wneyd argraffiadau dyfnach ar efrydwyr y Bibl yn ystod y canrifoedd. "Y mae pob dyn gwir fawr, beth bynnag fyddo ei farn bersonol, megis Hooker a Horsley, yn ei gydnabod fel un o'r ysgrifenwyr galluocaf a ymddangosodd mewn un oes. Os oedd Luther, fel Pedr, yn rhagori mewn parodrwydd a brwdfrydedd; os oedd Melancthon yn meddu ar gariad Ioan; nid gormod yw dweyd, heb un amcan i godi y naill yn uwch na'r llall, mai Calvin oedd y tebycaf i Paul, o ran grymusder ac ehangder ei feddwl,JOHN CALVIN.
WILLIAM CAREY.
COF gennyf glywed y diweddar Barch. D. Charles Davies yn galw sylw at y cyfeiriadau aml sydd yn emynau Pantycelyn at yr India fel maes cenhadol. Y mae'r wlad yn ymrithio ger ei fron yn wastad," yr India ehang fras,—"caethion duon India," &c. Ac onid oedd ysbryd proffwydoliaeth wedi cyffwrdd â'i awen? Pan oedd efe yn edrych dros y "bryniau tywyll niwlog," nid oedd un cenhadwr o'r wlad hon wedi cychwyn ar ei hynt; nid oedd un gymdeithas genhadol wedi ei ffurfio, ond yr oedd awen danllyd Pantycelyn yn canfod ar y gorwel flaen y wawr, ac yn clywed sŵn yr addewidion fel tonnau y Werydd yn "chwyddo byth i'r lan."
A thra yr oedd efe yn canu am y "boreu wawr" a'r cadwynau'n myn'd yn rhydd," yr oedd Rhagluniaeth, mewn cwr arall o'r deyrnas, yn parotoi y dyn oedd i gorffori y drychfeddwl, ac i gludo y newyddion da i'r India bell. Ei enw ydoedd WILLIAM CAREY. Ganwyd ef yn mis Awst, 1761, mewn pentref bychan yn Swydd Northampton. Un o blant y bwthyn ydoedd, ac ni chafodd nemor ddim o fanteision addysg. Ond ут oedd yn hoff o natur, yn caru blodau ac adar â'i holl galon. Un o ddifyrion penaf ei faboed oedd crwydro'r meusydd a'r coedwigoedd mewn ymchwil am flodau gwylltion. Daeth yn naturiaethwr heb yn wybod iddo ei hun. Ni feddai lyfrau, ac ni chafodd hyfforddiant gan arall, ond meddai ddawn i sylwi, a daeth y wybodaeth a gasglodd yn y dyddiau hyny yn dra gwerthfawr iddo, wedi ymfudo i India'r Dwyrain.
Pan yn bur ieuanc prentisiwyd ef i'r grefft sydd yn gosod hynodrwydd ar dref Northampton. Onid hi ydyw Llanerchymedd Lloegr, —prif ddinas y cryddion? Ac ar fainc y crydd yr oedd William Carey i dreulio blynyddau, mewn ymdrech galed am ei fywoliaeth. Ond yr oedd dylanwadau ereill ar waith, er yn ddistaw a chudd. Daeth y gŵr ieuanc i wybod am argyhoeddiadau crefyddol dwys. Enynwyd ynddo awydd am wybodaeth; a thra yn trwsio esgidiau ei gymdogion, yr oedd yn darllen, ac yn myfyrio, yn trwsio ei feddwl ei hun â'i holl egni. A mawr oedd ei awydd i oleuo ac i ddysgu ereill. Gwahoddai y plant a'r ieuenctyd ato i'r gweithdy, a rhoddai iddynt wersi addysg, tra yn dilyn ei orchwyl. Un o bynciau yr addysg oedd daearyddiaeth,—hanes gwledydd a chenhedloedd. Ac un o'r pethau penaf oedd yn gofidio ei ysbryd ydoedd y syniad fod rhanau mor fawrion o'r byd yn gorwedd mewn anwybodaeth, y bobl yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, heb glywed gair erioed am y "tosturi Dwyfol fawr, at lwch y llawr sy'n bod."
Dechreuodd bregethu, ond yr oedd sefyllfa y paganiaid yn pwyso ar ei feddwl ddydd a nos. Ceisiai berswadio ei gyd—grefyddwyr, a'i frodyr yn y weinidogaeth, i wneyd rhywbeth i anfon yr Efengyl i dywyll-leoedd y ddaear. Ond nid oedd nemawr un yn cydymdeimlo â'i feddyliau. nac yn deall ei genadwri. Yr oedd y fath syniad yn ymylu ar wallgofrwydd! Nid oedd yr ysbryd cenhadol wedi ei ddeffro yn y wlad; ac yr oedd Carey yn cael ei gyfrif yn benboethyn gan ei gydnabod. Ond yr oedd y tân wedi cyneu ar allor ei galon ef, ac nis gallai dewi. Yn mhen amser, ac oherwydd ei daerni, rhoed caniatad iddo bregethu ar y pwnc mewn cwrdd arbenig yn Northampton. Yr oedd hyny yn 1792. Ei destyn ydoedd Esaiah liv. 23, ac y mae penau ei bregeth wedi dod yn arwyddeiriau cenhadol dros byth,—
DISGWYLIWN BETHAU MAWR ODDIWRTH DDUW.
CEISIWN GYFLAWNI PETHAU MAWR DROS DDUW.
Cafodd oedfa nerthol; a pha ryfedd? Dyn ar dân yn dweyd ei neges ydoedd. Dyna'r gwasanaeth drosodd, a'r brodyr yn ymwasgaru heb wneyd dim. Llifai y dagrau mawr dros ruddiau y pregethwr; ymaflodd yn mraich Andrew Fuller, a gofynodd,—" A ydych am ymado heb geisio gwneyd rhywbeth i anfon yr Efengyl i baganiaid y byd?" Galwyd y brodyr yn ol, a threfnwyd cyfarfod arall yn mhen tri mis ar yr un pwnc. A chyfarfod cofiadwy oedd hwnnw; un o'r rhai mwyaf nodedig o ran ei ganlyniadau. Cynulliad bychan ydoedd o ran rhif, yn cael ei gynnal yn nhŷ gwraig weddw yn Kettering. Ond y mae ei goffadwriaeth i barhau drwy y canrifoedd. Pam? Am y rheswm mai yn y lle hwnnw y rhoddwyd bôd i'r gymdeithas genhadol gyntaf yn Mhrydain. Dyna ffynhonell y mudiadau mawrion sydd erbyn heddyw yn ymestyn dros bum cyfandir. Yno yr hauwyd yr hâd; yno y planwyd yr eginyn oedd i dyfu yn bren mawr, dail yr hwn oedd i iachau y cenhedloedd. Cafodd Andrew Fuller ei ethol yn ysgrifenydd, ac yr oedd swm y casgliad,—blaenffrwyth yr holl gasgliadau cenhadol,—yn £13 2s. 6c. Ond pa le y ceid y cenhadwr? Pwy a ä drosom? Ac i ble? Cynygiodd Carey ei hun i'r gwaith. "Af fi i lawr i'r pwll," meddai, "ond rhaid i chwithau ddal y rhaff." Ac addawsant wneyd hyny; yn eu gweddiau, yn eu cynorthwy, yr oeddynt yn addunedu y byddai iddynt hwy, cynrychiolwyr eglwysi Prydain,—"ddal y rhaff." Y maes a ddewiswyd oedd India'r Dwyrain, gwlad oedd wedi ei meddianu, mewn rhan, gan Brydain, gwlad oludog a ffrwythlawn, yr East Indies. A dyna broffwydoliaeth Pantycelyn yn dechreu ymagor! Gwrthodwyd caniatad i Carey i fynd yno mewn llong Brydeinig. Nid oedd yr awdurdodau yn ffafriol i genhadwr roddi ei droed i lawr yno, ac yr oedd y syniad yn cael ei wawdio gan ysgrifenwyr y dydd. Ond cododd ymwared o le arall. Cafwyd llong dan faner Denmarc yn barod i gludo y cenhadwr i lanau y Ganges. Y mae'r gymwynas yn werth ei chofio. Ymsefydlodd Carey yn Serampore, ychydig o'r tu allan i Calcutta. Ymroes i ddysgu iaith y wlad, a dangosodd fedr arbenig at y gorchwyl. Yn mhen peth amser, dechreuodd gyfieithu yr Ysgrythyr Lân i'r Bengalaeg. Efe oedd y cyntaf i drosglwyddo Gair Duw i ieithoedd India. Daeth dau genhadwr arall i'w gynorthwyo yn ei lafur,—Marshman a Ward, a bu y riawd yn cydlafurio am flynyddau maith. Nid oedd Cymdeithas y Beiblau wedi ei geni pan oedd Carey yn darparu Bibl i breswylwyr Bengal. Yr oedd yn rhaid i'r cenhadon wneyd y papyr, darparu y llythyrenau, ac argraffu y gwaith eu hunain. Yn y flwyddyn 1800, yr oedd llenni cyntaf Efengyl Matthew yn barod. Dodwyd y copi yn wlyb o'r wasg ar yr allor yn y capel cenhadol, a gofynwyd am ei fendith Ef ar yr antur fawr. Wedi cael y Dwyfol Air yn iaith y bobl, ymroes y cenhadon i bregethu â'u holl egni, ac yr oedd bendith Duw yn amlwg ar eu llafur. Yr oedd y dychweledigion yn lluosogi, a gair yr Arglwydd yn rhedeg, ac yn cael gogonedd. Cwrddasant â gwrthwynebiadau lawer, ac â cholledion mawrion oddiwrth lifogydd, daeargrynfaoedd, &c. Un adeg, aeth y weithfa lle y cedwid yr argraffwasg, a'r holl bapyrau, ar dân. Ond yr oedd ysbryd Carey yn anhyblyg, a'i ffydd yn anorchfygol. Ni fu erioed weithiwr mwy difefl. Yr oedd yn cyfieithu, pregethu, addysgu yn ngholeg Calcutta; yn gohebu, ac yn trin ei ardd enwog,—y Botanic Garden,—yn ddyddiol, drwy gydol y blynyddau. Son am ei ardd. Daeth yn awdurdod ar lysieueg India, a llwyddodd i drawsblanu llawer o gynyrchion y wlad hon ar lanau y Ganges. Un ohonynt, ac un o'r rhai hoffaf ganddo, ydoedd blodyn llygaid y dydd,—y daisy. Yr oedd edrych arno mewn gwlad bell yn ei adgofio am feusydd ei febyd. Ond beth bynnag oedd ei hoffder o flodau natur, gwaith mawr ei fywyd yn India oedd dweyd am Rosyn Saron" a "lili y dyffrynoedd."—
"Blodau hyfryd
Sy'n disglaerio dae'r a nef."
Llafuriodd yn India'r Dwyrain am dros ddeugain mlynedd, a hynny heb ddychwelyd unwaith i'r wlad hon. Cafodd fyw i weled y Bibl wedi ei gyfieithu i lu mawr o ieithoedd brodorol India; gwelodd greulonderau y Juggernaut yn diflannu; canfu ernes o'r adeg pan y bydd baner y Groes yn chwifio yn fuddugoliaethus
"O aelgerth Cashgwr hyd i garth Travancore."
Fel yna, cafodd y bachgen tlawd a aned yn mhentref Panlerspery, ac a dreuliodd ei faboed mewn dinodedd yn ngweithdy'r crydd, ei wneyd yn llestr etholedig i gludo Efengyl y tangnefedd i eithafoedd y byd. Daeth yn apostol India'r Gorllewin, ac yn un o ragredegwyr yr ardderchog lu o genhadon oeddynt i ymaflyd yn yr un gwaith, ac i anturio " pethau mawr dros Dduw."
Machludodd haul ei fywyd yn dawel a gogoneddus. Deuai ei gyfeillion i edrych am dano, gan ei gyfarch fel Dr. Carey. Peidiwch a sonWILLIAM CAREY YN EI WEITHDY.
Lle nad oes cyn'lleidfa yn ysgar.
Na diwedd i'r Sabboth yn bod."
CEIRIOG.
MEDI 25, 1832
Mab y mynydd ydwyf innau
Oddi cartref yn gwneyd cân,
Ond mae'm calon yn y mynydd
Efo'r grug a'r adar mân!"
—Ceiriog.
"Ceiriog ydyw prif fardd telynegol y ganrif. . . . Y mae miwsig yn yr oll o'i ganeuon. Symledd, dychymyg chwim a chwareus, a chydymdeimlad byw â natur,—dyna brif nodweddion Ceiriog."
—W. Lewis Jones ("Caniadau Cymru ")
"Braint y bardd yw breuddwydio yr oes ar ei ol. Os cododd Ceiriog y llen llwyd—oer oddiar Gymru Fu, safodd hefyd yn y ffenestr ddeheuol i weled gobeithion Cymru Fydd."
—Elfed.
AR un ystyr, hawdd fuasai llanw oriel mis Medi â chymeriadau enwog, hen a diweddar. Yn ystod teyrnasiad y mis hwn,—mis melus y ffrwythau addfed, a'r ydlan lawn, y gwelodd llu o lenorion a beirdd oleuni dydd. Yn mis Medi y ganed James Thompson (1700), bardd y "Tymhorau," un feddai fedr arbenig i ddesgrifio allanolion Anian. Yn ystod yr un mis, a'r un ganrif, y ganed Samuel Johnson (1709); John Foster (1770), a Felicia Hemans (1793), barddones dlos, ac un a garai Gymru, ei hanes, a'i golygfeydd.
CEIRIOG A'I FERCH MYFANWY
Hyawdledd dwfn y sêr sydd gyda'r wawr yn tewi."
Torrodd y naill a'r llall lwybrau newyddion a thra gwahanol. Yr oedd y ddau yn greawdwyr cyfnodau ym marddoniaeth Cymru. "Nant y mynyddoedd awen Ceiriog, yn llawn ynni a nwyf; afon y dyffryn oedd awen Islwyn, a sŵn llanw'r môr yn murmur ar ei glannau.
Treuliodd Ceiriog ei faboed o dan gysgodion y Berwyn, mewn ardal wledig, hollol Gymroaidd, y tu cefn i'r byd. Yn yr un fro y treuliasai Huw Morus, Pont y Meibion, dorraeth ei oes. Lle ardderchog i feithrin bardd,-bardd anian, yn enwedig. Ac yr oedd Ceiriog wedi ei encinio i'r swydd. Suddodd yr olygfa i'w galon, i'w gôf. Yno, yn nghanol gwylltineb y bryniau, a hudoledd yr encilion tawel, y derbyniodd efe yr argraffiadau oeddynt i osod eu delw ar ei ganeuon, ac i gadw ireidd-dra ieuenctyd yn ei feddylddrychau.
Yn gynnar ar ei oes, gadawodd ddyffryn Ceiriog a neillduaeth y mynyddoedd, ac aeth i Fanceinion; a hyny at orchwyl rhyddieithol dros ben. Onid gwaith felly ydyw bod yn glerc mewn swyddfa rheilffordd? Pa berthynas sydd rhwng barddoniaeth ac invoice a time tables? Gallesid tybio, ymlaen llaw, y buasai yr alwedigaeth yn ddiweddglo i dueddiadau barddol y llanc o fro y Berwyn. Ond fel arall y bu. Yn Manceinion y deffrodd awen Ceiriog. Adgyfododd yr hen lanerchau, a daethant yn adgofion byw, yn drylawn o brydferthwch a cheinder. Fel y dywed Elfed yn ei lyfr gwerthfawr ar Athrylith Ceiriog,—" Nid wrth syllu yn ngwyneb y prydferth y mae y bardd yn breuddwydio ei freuddwydion goreu; ond wrth ddal y prydferth yn ngoleuni dwys—dyner Adgof. . . . Yn mynwes hiraeth y mae yr awen wedi breuddwydio lawer gwaith, ac ar wefus hiraeth y clywodd hi gyntaf lawer mabinogi dyddanus." Fel yna y bu gyda Cheiriog. Yn Manceinion, yn nghanol berw y rheilffordd, a mwrllwch y ddinas, y daeth argraffiadau mebyd yn brofiad, ac yn farddoniaeth i'w ysbryd,
"Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun,
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd."
Yno y gwelodd efe y mynyddoedd yn eu gwir ogoniant,
Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron,
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda'r ardal dawel hon."
Yno y clywodd efe fiwsig y ffrydlif fynyddig honno sydd wedi dod yn rhan o lenyddiaeth ei wlad,
Nant y mynydd groew, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant.
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O. na bawn i fel y nant!"
Ac oddiyna y crwydrai ei ddychymyg at y "Garreg Wen," o felus gof,
"Fy mebyd dreuliais uwch y lli
Yn eistedd yno arni hi,
A mwy na brenin oeddwn i
Pan ar fy Ngharreg Wen!"
Yno, hefyd, y deuai cyngor ei fam, fel angel gwarcheidiol i'w gadw rhag llwybrau yr ysbeilydd,
Mae ysbryd yr oes, megis chwyddiad y môr,
Yn chwareu â chreigiau peryglon,
O'm hamgylch mae dynion a wawdiant Dduw Iôr,
Wyf finnau ddiferyn o'r eigion:
Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffôl,
Ond tra ar y dibyn echryslon,
Atelir fi yno gan lais o fy ol,
Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.'"
Ac yno, bryd arall, y gwelai
. . . Bren yn dechreu glasu,
A'i ganghenau yn yr ardd,
Ac yn dwedyd wrth yr adar,
Do, fe ddaeth y Gwanwyn hardd."
Ond y mae difynu Ceiriog yn orchwyl anorffen. Onid oedd ei ganiadau yn "fil a phump?" Canodd ar lawer o fesurau, ac ar lawer o destynau. Canodd awdlau, cywyddau, rhiangerddi, marwnadau, tuchangerddi, ac emynau. Ond y mae cuddiad ei gryfder yn ei Ganeuon. Rhoddes safle newydd i'r gân, y delyneg, yn marddoniaeth Cymru. Ac y mae Caneuon Ceiriog yn meddu rhyw briodoleddau o'r eiddynt eu hunain. Gellir eu hadwaen ar unwaith. Mae delw ac argraff arbenig arnynt. Nis gellir ei ddeffinio yn fanwl, hwyrach, ond teimlir ei fod, er hyny. Beth yw nodweddion ei ganiadau ef, rhagor pawb arall? Naturioldeb, dyna un peth amlwg. Ond y mae hwnnw yn gynyrch diwylliant, a choethder. Er mor syml yr ymddengys ei ganeuon, o ran ffurf, a geiriau, y mae y symledd hwnnw yn gorwedd ar ddeddfau manylaf celf. Beth yn fwy syml na'r gân i'r "Eneth Ddall,"
"Siaradai'r plant am gaeau
A llwybrau ger y lli,
Ac am y blodau dan eu traed,
Ond plentyn dall oedd hi!"
Beth yn fwy perffaith o ran syniadaeth a mynegiant?
Dwy ffrwd yn tarddu o'r un ffynon ydyw tynerwch ac arabedd." Yr oedd y naill a'r llall yn rhedeg yn glir drwy ganeuon Ceiriog. Y mae y wên a'r deigryn yn pelydru drwyddynt. Canodd lawer o bethau ysmala, digrifol; ond odid fawr na cheir rhyw gyffyrddiad tyner yn cloi y gân. A phan yn canu ar destynau hiraethus, pruddaidd, y mae y wên yn goleuo'r tywyllwch, ac yn balmeiddio'r gofid,
"Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried i'r nefoedd mae'r weddw a'i phlant;
Ni fedd yr holl gread un plentyn a wâd
Fod byd anweledig os collodd ei dad."
Nis gallwn aros gyda'i riangerddi poblogaidd, ei eiriau gwladgarol ar hen alawon Cymru. Dichon mai yn y rhain y bydd efe byw. Dyma drwydded ei anfarwoldeb. Cododd yr hen alawon cain o ddinodedd; treiddiodd i'w gwir ysbryd, a chorfforodd draddodiadau a dyhead ei genedl yn y miwsig pêr oedd wedi bod yn disgwyl cyhyd am ryw fardd i'w cyflwyno i sylw y wlad. Dyna a wnaeth Ceiriog, a bu ei ymdrech yn llwyddianus. Deffrodd wladgarwch yn ysbryd ei genedl. Canodd am hanes gwych ei gorffenol; canodd ddelfrydau ei dyfodol. Safodd yn "ffenestr ddeheuol" y gweledydd, a chanfu "obeithion Cymru Fydd." Cana am "Yr Ysgol Sul a'r Beibl," am " Lili wen y dŵr," "Dynerwch at y gwan a'r ieuanc,"
"Bydd dyner wrth y plentyn bach
Fel ton ar dyner dant,
'Does dim ond cariad Iesu Grist
Yn fwy na chariad plant."
Ni chafodd Ceiriog ddychwel i fro ei febyd. Aeth o Fanceinion i Lanidloes, ac oddiyno i Gaersŵs fel arolygydd y Van Railway. Ac yno, yn Ebrill, 1887,—naw mlynedd ar ol Islwyn, y bu efe farw, yn 55 mlwydd oed. Ond yn ei farddoniaeth, yn ei ganeuon, y mae yn fyw, a'i enw'n ymledu i lenyddiaeth y byd. Darllenir, adroddir ei" Fyfanwy " a'i "Alun Mabon " gan oes newydd. Y mae cyfaredd yn gorffwys ar ei ganeuon. Dichon iddo ganu rhai pethau salw, israddol, ond aiff y rhai hyny o'r golwg. Ond am Ceiriog, yn ei fanau goreu, Ceiriog dan eneiniad yr awen, nid oes marw na bedd yn ei hanes. Gellir dweud am dano, fel yr ehedydd ar riniog y nef,
"Canu mae, a'r byd a glyw
Ei alaw lon o uchel le;
Cyfyd hiraeth dynol ryw
Ar ei ol i froydd ne,
Yn nes at ddydd, yn nes at Dduw,
I fyny fel efe!
MATHEW HENRY.
YN nyddiau Siarl y Cyntaf yr oedd perllan odidog yn perthyn i balas brenhinol Whitehall, Llundain. Ceidwad y berllan oedd John Henry, ac efe oedd Gymro. I'r John Henry hwnnw yr ydoedd mab,—unig fab,yn dwyn yr enw Philip. Treuliodd y bachgen ei faboed yn ngerddi y Whitehall, yn cydchwareu â bachgen arall oedd i gael ei adwaen mewn hanes fel Siarl yr Ail. Gwelodd lawer o bethau yn ystod ei arhosiad yn amgylchoedd y palas. Bu yn gwneyd negesau i'r Archesgob Laud. Cafodd ei addysgu gan Dr. Owen a Goodwin. Bu yn llygad-dyst o'r olygfa brudd yn Whitehall pan ddienyddiwyd Siarl y Cyntaf. Bwriodd ei goelbren gyda'r Piwritaniaid, a chafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Presbyteriaid. Ymsefydlodd yn Worthenbury, plwyf bychan yn y rhan honno o Swydd Fflint sydd yn llechu yn mynwes Sir Gaer, yn nghwmwd Is y Coed. Praidd bychan oedd o dan ei ofal, mân-dyddynwyr, gan mwyaf; a'r mwyafrif ohonynt yn ddigon dwl ac anwybodus. Yr oedd yn gryn gyfnewidiad i ŵr fel Philip Henry i gyfnewid bywyd y palas am fywyd gwledig, gwerinaidd; a chael ei ysgar oddiwrth gylchoedd cydnaws a'i wrteithiad meddyliol. Ond yr oedd y gweinidog ieuanc yn meddu argyhoeddiadau cryfion. Rhoddes ei oreu i bobl ei ofal. Ymhyfrydai mewn pregethu ac addysgu ei wrandawyr. Ac yr oedd yn y fro honno balasdy o'r enw Broad Oak, ac yno yr oedd boneddiges ieuanc, weddeiddlwys,—aeres yr etifeddiaeth. Taflodd serch ei hudlath dros y ddau. Yr oedd ei thad yn anfoddlawn ar y dechreu. "Priodi dyn diarth," meddai; "'does neb fedr ddweud o ble y daeth o." "Y mae hyny yn wir," ebai y ferch ieuanc, "ond er nas gwn o ble y mae yn dyfod, mi a wn i ble y mae yn myned, ac mi hoffwn fynd i'w ganlyn." Ac felly y bu. Ymsefydlodd Philip Henry yn y Broad Oak; yno yr oedd ei gartref am ran fawr o'i oes. Ac yno, ar Hydref 18, yn y flwyddyn 1662, y ganwyd Mathew Henry. Blwyddyn dywell oedd honno; blwyddyn troi allan y Ddwy Fil, am na phlygent i ewyllys y Brenin. Ac un o'r ddwy fil oedd Philip Henry. Da iddo erbyn hyny fod y Broad Oak yn gysgod iddo. Gwaherddid iddo bregethu; cafodd ei amddifadu o'i fywoliaeth, ond cysegrodd ei neillduaeth i ddibenion ardderchog. Cafodd Mathew ieuanc yr addysg oreu, a'r meithriniad mwyaf gofalus, ar aelwyd ei rieni. Ac yr oedd gogwydd ei feddwl yntau yn bob mantais i'r addysg. Cafodd ei wreiddio mewn gwybodaeth a deall, a derbyniodd ddeuparth o ysbryd ei dad yn ei hoffder at yr Ysgrythyrau.
Gyda threigliad y blynyddau, ciliodd cysgodion gormes, ac estynwyd terfynau rhyddid. Dechreuodd Mathew Henry bregethu yn 1685, ac ymsefydlodd fel gweinidog yr Efengyl yn Nghaerlleon. Parhaodd y cysylltiad am chwarter canrif. Yr oedd cylch ei ofal yn fawr, yn cynnwys tua deg ar hugain o eglwysi. Yr oedd yn bregethwr teithiol yn ystyr oreu y gair. Ond yn ystod ei oes weinidogaethol, pregethodd unwaith bob mis, yn ddifwlch, yn ei eglwys ei hun yn Nghaerlleon. Ei arfer yno oedd pregethu y Bibl o'i gwr, rhan o'r Hen Destament yn y boreu a chyfran o'r Testament Newydd yn yr hwyr. Ac yr oedd ei holl bregethau yn cyfranogi o'r elfen esboniadol,—nid esboniad sych, cywrain, ond yr esboniad hwnnw sydd yn cynhesu y galon tra yn goleuo y deall, "gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol." Heblaw hyny, yr oedd ganddo ei weekly lecture,—darlith ar noson waith ar fater Biblaidd. Testyn y gyfres hon ydoedd, "Cwestiynau y Bibl," a pharhaodd am ugain mlynedd! Dechreuodd yn Hydref, 1692, gyda'r cwestiwn—"Adda, pa le yr wyt ti?" ac aeth rhagddo yn gyson a diorffwys hyd y cwestiwn olaf yn llyfr y Datguddiad. Pa lwydd fuasai ar gynllun fel yna yn y dyddiau hyn? Ond dyna ddull Mathew Henry o wneyd ei waith,—pregethu, darlithio, cateceisio yn ddibaid; a'r cyfan yn canolbwyntio yn y Bibl. Nid oes angen dweud ei fod yn efrydydd caled a dyfal. Codai am bump yn y boreu, a daliai ati hyd y prydnawn, ac eto nid. meudwy mohono. Yr oedd yn oludog mewn cyfeillion, ac yn un o'r dynion mwyaf cymdeithasgar yn ei oes.
Ond ei waith mawr,—y gwaith sydd yn cadw ei enw yn wyrdd yn mysg ei gydwladwyr,—oedd ei Esboniad adnabyddus ar y Bibl. Pa ddarllenydd Biblaidd na ŵyr am Esboniad Mathew Henry? Yr oedd y gwaith wedi tyfu o'i feddwl, o'i lafur gweinidogaethol, ond yr oedd y dasg yn un anhawdd a maith; yn enwedig pan gofir gynifer o ddyledswyddau ereill oedd yn galw am ei amser a'i nerth. Dechreuodd ar y gorchwyl yn mis Tachwedd, 1704, a daliodd ati yn ddifefl. Yr oedd y gwaith wedi ei lwyr feddianu, ac yr oedd pob munud o hamdden yn cael ei droi drosodd i wasanaeth yr Esboniad. Dywedir y byddai Pantycelyn yn codi gefn nos, lawer pryd, i ysgrifennu pennill newydd—greedig rhag ofn iddo ddiflanu cyn y boreu. Yr oedd Mathew Henry yn gweithredu yr un fath. Pan ar ei deithiau pregethwrol, cludai y celfi ysgrifennu gydag ef, a phan giliai cwsg oddiwrth ei amrantau, codai i'w ystafell, a threuliai yr amser yn felus gyda gwaith dewisol ei fywyd. Onid ar un o'r ysbeidiau nosawl hyn y dywed traddodiad i "ysbryd " ymrithio iddo yn un o hen balasau sir Gaer? Cododd yr esboniwr ei olygon yn dawel, a gofynodd i'r ymwelydd beth oedd ei neges. Hysbysodd yntau yr achos ei fod yn "trwblo" y palas, a diflanodd. Aeth yr esboniwr rhagddo mor hamddenol a chynt, heb ofn nac arswyd, fel gŵr yn meddu y ddawn i "brofi yr ysbrydion."
Parhaodd y gwaith i ddod allan yn gyfrolau trwchus hyd y flwyddyn 1714. Ond wedi i'r awdwr dyfal a duwiolfrydig gyrraedd llyfr yr Actau, daeth y wŷs i orffwys. Yr oedd actau ei fywyd yntau fel eiddo yr apostolion ar ben. Dibenodd ei yrfa yn sydyn, pan ar daith bregethwrol. Yr oedd wedi bod yn pregethu i gynulleidfa fechan yn Nantwich ar noson hafaidd ym Mehefin, a sylwid fod ei ynni arferol wedi ymado. Yn ystod y nos, cafodd ergyd o'r parlys, ac ehedodd ei ysbryd pur i'r orffwysfa lonydd. Nid ydoedd ond deuddeg a deugain oed; ond y fath waith oedd wedi ei grynhoi i flynyddau ei einioes. Gwasanaethodd ei genhedlaeth ei hun gydag ymroad difefl fel gweinidog ac athraw; ond yn ei Esboniad, cyflawnodd wasanaeth i lawer cenhedlaeth ac oes. Y mae ei waith yn arcs; nid ydyw dwy ganrif o'r bron wedi ei ddiorseddu. Cyfododd ereill ar ei ol i ysgrifennu yn fwy beirniadol, ac yn fwy ysgolheigaidd, ar ranau arbenig o'r Gair Dwyfol. Ond fel esboniad sydd yn treiddio i galon yr Ysgrythyrau, yn tynu allan wersi ac addysgiadau o holl gynnwys y Bibl, nid oes hafal i'r eiddo Mathew Henry. Gwerthfawrogid ef gan y dysgedig a'r darllenydd cyffredin, ac nid yw ei boblogrwydd yn lleihau dim fel y mae amser yn dirwyn ymlaen. Y mae yn hen, heb heneiddio; ni chiliodd ei ireidd-dra, ni phallodd ei olygon. A thra yr erys blas ar ddarllen ac efrydu y Bibl, fe erys Esboniad Mathew Henry yn gydymaith, yn arweinydd, ac yn drysor gwerthfawr yn llenyddiaeth ei genedl a'i wlad. Efe ydyw, ac a fydd, Esboniad y Bobl.
WILLIAM COWPER.
TACHWEDD 15, 1731.
"Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr
Yn dwyn Ei waith i ben,
Ei ystafelloedd sy'n y môr,
Mae'n marchog gwynt y nen."
HWYRACH mai fel awdwr yr emyn uchod,—emyn a weddnewidiwyd i'r Gymraeg gan y diweddar Dr. Lewis Edwards heb golli dim o'i grym cyntefig,—y mae enw Cowper yn adnabyddus i luaws. Ceir rhyw nifer o'i emynau ym mhob casgliad.
A thra y cân yr addolydd Cymreig am y "gwaed a redodd ar y groes," bydd yr addolydd Seisnig yn canu'n llafar linellau Cowper,
"There is a fountain fill'd with blood."
Ond heblaw cyfansoddi emynau nad ânt byth i dir anghof, gwnaeth Cowper argraff arhosol ar lenyddiaeth, ac yn ei weithiau ef y ceir porfeydd gwelltog barddoniaeth y ddeunawfed ganrif. Y mae hanes ei fywyd yn gymysgedd o'r tywyll a'r goleu; ambell i gyfnod pygddu, fel noson ystormus yn nhrymder gaeaf, a rhanau ereill yn oleu a thyner fel wybren Ebrill a Mai.
Ganed of ar y pymthegfed o fis Tachwedd, 1731, yn Berkhampstead, Swydd Herts, deheubarth Lloegr. Clerigwr oedd ei dad. Collodd ei fam pan yn chwech oed, ond arhosodd yr adgof am dani yn ei feddwl ar hyd ei oes. Cafodd addysg a hyfforddiant ar aelwyd ei dad, ac wedi dod i oedran addas, anfonwyd ef i Westminster School, lle y dioddefodd lawer oddiwrth ei gyd-ysgolheigion ar gyfrif ei yswildod, a'i amharodrwydd i ymuno yn mabolgampau a chwareuon y dydd. Wedi hyny aeth i astudio y gyfraith, a chymhwysodd ei hun i fod yn fargyfreithiwr. Ond ychydig o addasder oedd ynddo at y gwaith. Dyn neillduedig ydoedd, yn cilio oddiwrth bob cyhoeddusrwydd. Nid oedd yn berchen ynni na gwroldeb. Yr oedd yn dyner, yn addfwyn, ond yn amddifad o uchelgais, ac o'r beiddgarwch hwnnw sydd yn torri ei ffordd drwy rwystrau fyrdd. Meddai gysylltiadau da, a pherthynasau o ddylanwad; ac yn yr oes honno, fe wyddis mai nawddogaeth (patronage) oedd yn teyrnas mewn byd ac eglwys. Cafodd yntau, drwy ddylanwad perthynas
WILLIAM COWPER A'I YSGYFARNOGOD DOF.
uchelradd, gynyg ar swydd ysgafn, ond enillfawr, yn Nhŷ yr Arglwyddi. Yr oedd un peth, fodd bynag, yn ei gwneyd yn anhawdd iddo ef; yr oedd yn ofynol iddo gyflawni rhyw gymaint o waith cyhoeddus, megis darllen cofnodau, ym mhresenoldeb y Tŷ; ac yr oedd y syniad hwnnw fel hunllef ar ei ysbryd. Yr oedd y rhagolwg yn creu arswyd o'i fewn, ac aeth y peth i bwyso mor drwm ar ei feddwl fel y collodd ei bwyll, a dyrysodd ei synhwyrau.
Ond o'r anffawd flin, dorcalonus yna, y mae y byd, o bosibl, yn ddyledus am y farddoniaeth odidog a gynyrchodd William Cowper. Gwiriwyd ei linellau adnabyddus yn ei hanes ef ei hun,
"Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr
Yn dwyn ei waith i ben."
Bu am ddwy flynedd mewn neillduaeth, dan ofal meddygol, ac wedi iddo wellhau, ac i gymylau duon anobaith ymwasgar oddiar ffurfafen ei fywyd, ymsefydlodd yn Swydd Huntingdon, ym mhentref Olney, yn nghanol gwastadedd canolbarth Lloegr. Yno daeth dan gronglwyd garedig, ac yr oedd y lle yn gydnaws â'i anian. Ffurfiodd gyfeillach agos â'r Parch. John Newton, gŵr a hanes iddo; wedi treulio bore ei oes ar y môr, yn ddigon anystyriol, ond wedi ei gyfnewid drwy ras, ac yn llawn o sel ac ymroad fel clerigwr. Dau gymeriad tra gwahanol oedd John Newton a William Cowper, y naill yn gryf ac eon, a'r llall yn llednais ac ofnus, ond yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol; ac ar anogaeth a chymhellion John Newton y cyfansoddodd Cowper yr emynau melus a adwaenir fel yr "Olney Hymns." Un felly oedd Cowper,—yr oedd yn rhaid ei symbylu at ei orchwyl. Ychydig o gred oedd ganddo ynddo ei hun, nac yn ei alluoedd. Y mae ei holl weithiau wedi eu hawgrymu, neu eu hysbrydoli gan arall. Anogwyd ef gan Mrs. Unwin, ei letywraig hynaws, i gyfansoddi y Table Talk, a gwnaeth hyny. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyfrol fechan, ond derbyniad lled oeraidd a roed iddi gan yr adolygwyr. Yr un pryd, y mae rhai darnau o'r gwaith wedi aros, ac yn cael eu cyfrif heddyw ym mysg ceinion yr awen.
Ond yr oedd Cowper i gyfansoddi gwaith mwy, gwaith oedd i gymeryd ei le yn y dosbarth blaenaf o farddoniaeth. Ac i ddamwain, fel yr ymddangosai ar y pryd, yr ydys yn ddyledus am y dernyn newydd ac ardderchog hwn. Yr oedd John Newton, bellach, wedi gadael Olney, a chymerwyd ei annedd gan foneddiges lengar o'r enw Lady Austen. Meddai gydymdeimlad â llenyddiaeth, a pherswadiodd Cowper i ganu caniad newydd. "'Does gen i yr un testyn," meddai y bardd neillduedig. "Os felly," ebai y foneddiges, "mi ymgymeraf a rhoddi testyn i chwi, ar yr amod fod yn rhaid i chwi ganu arno. Cewch gymeryd eich ffordd eich hun, dewis eich mesur, a mynd mor bell a fynoch oddicartref." "Beth ydyw?" ebai y bardd. "Rhoddwch chwi y dasg, ac mi ganaf innau goreu medraf." "Wel," ebai'r foneddiges â gwên yn ei llygaid, dyma'r testyn,—"Y SOFA!" Pwy glybu am y fath beth fel testyn barddonol? Beth oedd a wnelo dodrefnyn rhyddieithol felly âg awen bardd? Ond ymgymerodd Cowper â'r gorchwyl, a dyna ddechreu y gwaith barddonol a gofir mwy dan yr enw,—The Task.
Yr oedd Cowper ar y pryd yn hanner cant oed, ond o dan gyfaredd y gwaith oedd wedi ei ymddiried iddo, adnewyddodd ei ieuenctid. Dyna wanwyn ei awen; blagurodd ei alluoedd a'i ddoniau, a chynyrchodd ddernyn newydd a gorffenedig, gwaith oedd i gadw ei enw yn wyrddlas am lawer oes. Torodd lwybr newydd. Gadawodd yr hen ffurfiau barddol, ac aeth ar ei union at natur ei hun. Yr oedd Pope a'i efelychwyr yn son am Natur, yn awr ac eilwaith; ond golwg gyfyng a chelfyddydol oedd arni yn nrych eu barddoniaeth hwy. Math o ardd flodau ydoedd, wedi ei dosranu yn ofalus, ond heb ddim o'i gwylltineb a'i hoenusrwydd gwreiddiol.
Ond aeth Cowper at anian fel yr oedd, ac fel y mae. Dechreuodd gyda'r sofa, ond blinodd yn fuan; cymerodd ei hynt i'r awyr agored. Darluniai fywyd y wlad, yn yr haf a'r gaeaf.. Dug ni i lan yr afon, ac i'r goedwig, a gesyd. swyn a harddwch ar olygfeydd gwledig a chyffredin. Darlunia'r coediwr yn mynd at ei waith ar fore yn y gaeaf, ei fwyell ar ei ysgwydd, a'i gi wrth ei ledol, tra y disglacria yr eira canaid ar gangenau'r coed. Yr ydys yn ei weld, ac yn teimlo yr awel oer, adfywiol, yn chwythu ar ein grudd. Desgrifia y llythyrgludydd yn dod i'r pentref ar ddiwrnod gaeafol, fel y gwnai yn y dyddiau gynt. Dacw fe yn croesi y bont, a'r bobl yn y drysau yn disgwyl am dano,
"Mae'n dod hysbysydd yr aflonydd fyd,
A throediad trwm, côb laes, rhewedig farf;
Helyntoedd byd yn hongian draws ei gefn.
Mae'n ffyddlon idd ei siars,—y llwythog gôd,
Er hyn, i'w chynwys difraw yw, ei nôd
Yw'r gwesty hen, lle rhydd ei faich i lawr.
Chwibianu wna, druanddyn ysgafn fron,
Mae'n siriol, er yn oer; cenhadwr ing
I luoedd yw, llawenydd ddug i rai;
Ond poen neu londer, dibwys ganddo ef.
Aneddau'n llosg, gostyngiad llôg y banc,
Y geni a'r marw-restr, nodau'n wlyb
Gan ddagrau, wlychent ruddiau trist,
Mor aml a'r geiriau dwysion ynddynt sydd,—
Dwys-ocheneidiau serch cariad-lanc pell,
Neu ateb gŵyl y ferch.—un effaith gâ
Y cwbl arno, dideimlad yw i'r oll!"
Onid yw y darlun yn fyw? Ac y mae yn y gerdd lu o ddarluniau cyffelyb, mor ffyddlon a natur, mor wir a hanes, ac wedi eu cyfleu yn y modd mwyaf gofalus, y lliwiau wedi eu cymysgu, a'u cyd-dymheru yn gynil ac yn fresh, heb ddim gwrthuni na rhodres. Y mae y Task yn un o'r darnau hawddgaraf mewn barddoniaeth Seisnig. Drwy y gwaith hwn, enillodd Cowper ei wir safle fel bardd,—bardd yr aelwyd, apostol cartref, a dehonglydd bywyd gwledig; y bywyd pur, caredig, sydd yn cadw ffynhonellau cymdeithas yn loew ac yn lân. Y mae'r gwaith drwyddo yn gwirio ei linell ef ei hun,
"God made the country, man made the town."
Ei orchwyl nesaf oedd cyfieithu Homer, gwaith caled a dwys, a derbyniodd fil o bunnau am dano gan y cyhoeddwr. Ni oddef ein terfynau i ni fanylu ar ei fân ganiadau difyrus ac adloniadol. Pwy nas gŵyr am " John Gilpin,"—un o'r cerddi doniolaf a wnaed erioed, ac y mae'n rhyfedd meddwl mai Cowper brudd-glwyfus oedd ei hawdwr.
Ond daeth yr Hydref wedyn dros ei feddwl. Dychwelodd y cysgodau, ac yr oedd ei flwyddi olaf yn ddi-oleuni iddo ef ei hun. Fflachiai ambell i belydr drwy odreuon y cymylau. Daeth un ohonynt heibio iddo tra yn edrych ar ddarlun ei fam,—y fam a gollasai pan yn chwech oed. Edrychai arno drwy niwloedd hanner canrif a mwy, a dyma ei ymson wrth ei ddal yn ei law,
"Oh that those lips had language! Life hath pass'd
With me but roughly since I heard thee last:
Those lips are thine,—thine own sweet smiles I see,
The same that oft in childhood solaced me:
Voice only fails: else, how distinct they say,—
Grieve not, my child, chase all thy fears away.'"
A chyda darlun ei fam yn ei law, a'r adgof am dani yn ei galon, yr aeth efe drwodd o fyd y gofidiau i fro'r goleuni; gyda gwirionedd yr emyn, fe gredwn, yn ei fynwes,
"Tu cefn i lèn rhagluniaeth ddoeth
Mae'n cuddio gwyneb Tad."
Bu farw ar drothwy canrif,—yn y flwyddyn 1800. Daeth canrif arall ar ei hynt, ond y mae enw William Cowper yn aros yn amlwg yn oriel farddol ei wlad. Bu yn foddion i dori gefynnau caethiwed ac undonaeth barddoniaeth Seisnig yn y ddeunawfed ganrif; ac yn ei Task, bu yn paratoi y ffordd i gyfnod newydd, cyfnod Wordsworth a Tennyson. A thra yr erys llygad i weld anian, a chalon i'w charu, erys William Cowper yn gydymaith diddan a serchog yn oriau tawel min yr hwyr.
THOMAS CARLYLE.
YN y Traethodydd am 1853, ysgrifenai Dr. Edwards, Bala, am y gŵr ydys wedi ei ddethol o fysg genedigion enwog mis Rhagfyr, fel y canlyn, "Cawr o ddyn yw Carlyle; a phan y mae yn cyfeirio ei amcan i wrthwynebu drwg moesol, y mae bron bob amser yn taraw yr hoel ar ei phen. Hyfrydwch gwirioneddol yw edrych arno, â'i bastynffon anferthol, yn curo i lawr ddelwau twyllodrus yr oes, ac yn eu malurio yn gyrbibion mân. Llwyddiant iddo i ddinoethi pob peth gau, pa un bynag ai gau fawredd ac awdurdod, ai gau dosturi a haelioni, ai gau wybodaeth a dysgeidiaeth, ai gau grefyddolrwydd."
Dyna dystiolaeth un o arweinwyr meddyliol Cymru yn 1853, a dyna ddedfryd hanes ar ddechreu canrif arall. Cawr o ddyn ydoedd Thomas Carlyle, a gwnaeth waith cawraidd yn ystod ei oes droiog a maith. Ceisiwn linellu ei yrfa a'i lafur, er yn gwybod fod y gorchwyl yn rhy fawr i fedru gwneyd dim amgen na chodi ymyl y llen ar yr olygfa.
Ganed ef ar y pedwerydd o Ragfyr, 1795, mewn pentref sydd wedi dod yn fyd-enwog ar gyfrif y ffaith,—Ecclefechan, yn Ysgotland. Dyna hanes dynion mawr; y maent yn dyrchafu mannau dinôd ynddynt eu hunain i sylw ac enwogrwydd. Gellir dweud am lawer pentref yn y deyrnas hon, fel y dywedodd y proffwyd am Bethlehem Ephrata,—"Nid lleiaf wyt canys ohonot ti y daeth tywysog" mewn meddwl a moes. Tywysog a aned yn Ecclefechan, yn ymyl diwedd y ddeunawfed ganrif, nid mewn palas, ond mewn bwthyn; a dechreuodd ei fyd dan amgylchiadau digon cyffredin. Nid oedd cywilydd ganddo ei drâs, oherwydd yr oedd ei rieni yn meddu ar gymeriad nas gellir ei brynu er aur coeth lawer.
Yr oedd ei fachgendod yn debyg i'r eiddo ereill mewn pentref gwledig, ond caed arwyddion cynnar ei fod yn berchen meddwl. Yr oedd ynddo awydd a syched am wybodaeth; darllenai bob peth a ddelai o fewn ei gyrraedd, ac yr
THOMAS CARLYLE.
oedd ei gof yn afaelgar a diollwng. Meddyliodd ei dad y gellid "pregethwr" ohono, a chyda'r bwriad hwnnw rhoddes ei fryd ar ei addysgu, a'i gymhwyso ar gyfer y weinidogaeth. Ond nid arfaeth ei dad oedd i gael ei chyflawni ar y mater hwn. Onid dyna hanes cyffredin arfaethau dynol? Yn ol yr arfaethau bychain hyn, yr oedd Calfin i fod yn gyfreithiwr, Robertson o Brighton yn filwr, a Thomas Carlyle yn weinidog. Ond daeth Rhagluniaeth ymlaen i'w harwain ar hyd ffordd arall.
Aeth Carlyle ieuanc i brifysgol Edinburgh pan yn bedair-ar-ddeg oed. Yr oedd ganddo dros bedwar ugain milldir o ffordd, a cherddodd hi bob cam. Caled oedd ei fyd, ond yr oedd brwdfrydedd athrylith yn llosgi yn ei enaid, ac ni fynai droi yn ol. Ar faes rhifyddiaeth y rhagorai ym more ei oes; ac wedi gado y brifysgol, ymsefydlodd mewn rhanbarth wledig fel ysgolfeistr. Nis gellir honni iddo lawer o lwydd yn y cymeriad hwn, ond enillodd dipyn o geiniog i ddod yn ol i Edinburgh, lle y dechreuodd lenydda, yr hyn oedd i fod yn brif orchwyl ei oes. Ysgrifenai i'r cylchgronau, ac efe oedd un o'r rhai cyntaf i ddehongli Goethe, bardd mawr yr Almaen, i ddarllenwyr y wlad hon. Yn 1826, efe a ymbriododd â Jane Welsh, boneddiges lachar ei doniau, a symudodd i fyw i neillduaeth Craigenputtock, lle unig, a bron anghyfanedd, heb unrhyw gymundeb o'r braidd rhyngddo â'r byd mawr, llydan. I'r fan honno y daeth Emerson, brawd-lenorydd enwog, ar ei ymdaith, a dyddorol yw ei ddesgrifiad o'r daith. Yr oedd Carlyle wedi ymgladdu yn ei lyfrau, a'i waith llenyddol, a'i briod yn gwneyd goreu medrai gyda gwaith y tŷ. Ond nid yn Craigenputtock yr oedd yn meddwl treulio ei fywyd. Yr oedd ei fryd ar brif-ddinas Llundain, lle y gallai lwyr ymroddi i waith dewisol ei fywyd. Aeth yno yn 1834, a'r copi gwreiddiol o'r llyfr dieithriol ei gynnwys a adwaenir fel Sartor Resartus yn ei logell. Cynygiodd ef i wahanol gyhoeddwyr, ond nid oeddynt yn barod i ymgymeryd â'i argraffu. Daeth allan ar y cyntaf yn benodau mewn cyhoeddiad misol, a gwrthdystiai y darllenwyr yn y modd mwyaf pendant yn erbyn y fath gymysgfa anealladwy. Ni ddarfu i Carlyle gymeryd y byd llenyddol by storm. Nis gallai efe, fel Byron, gyffesu iddo ddeffro ryw fore, a chael ei hun yn enwog. Araf a blin oedd ei ymdrech. Ond yr oedd ganddo benderfyniad adamantaidd, ac ewyllys anhyblyg. Taflodd ei hunan gorff ac enaid i waith llenyddol, a phenderfynodd o'r dechreu nad ysgrifenai un linell ond yr hyn a gredai â'i holl galon.
Traddododd nifer o ddarlithiau ar Wroniaid a Gwron-addoliaeth, a dechreuodd y rhôd droi. Darganfyddwyd y wythien gyfoethog oedd yn Sartor, a daeth y meddylwyr i ddeall fod grym newydd wedi dechreu ysgogi yn llenyddiaeth yr oes. Daeth ei breswylfod yn 5, Cheyne Row," Chelsea, yn gyrchfan llenorion, ac yr oedd gwrando ymddiddanion Carlyle yn un o foethau bywyd. Ysgrifenodd ar y "Chwyldroad Ffrengig," a rhoddes fenthyg y memrwn oedd wedi costio mor ddrud iddo mewn ymchwil a llafur, i'w gymydog John Stuart Mill. Ond drwy anffawd flin, llosgwyd y papyr gan forwynig ddifeddwl. Y fath drychineb i'r awdwr! Nid oedd ganddo gopi arall o'r gwaith, a gorfu iddo ei ysgrifenu, neu yn hytrach ei gyfansoddi bob llinell drachefn. Effeithiodd y dasg ar ei ysbryd, ac ar ei iechyd, ac os dywedodd bethau celyd ar y pwnc, yr oedd yn dra esgusodol. Cafodd y llyfr dderbyniad teilwng, ac aeth y llenor rhagddo i ysgrifenu bywgraffiad John Sterling, a'r cyfrolau llafurfawr ar Oliver Cromwell. Bu y gwaith gorchestol hwn yn foddion i osod cymeriad a gwaith Cromwell mewn goleuni newydd, ac yr oedd ei amddiffyniad i un ag yr oedd haneswyr blaenorol wedi ymuno i'w ddylroni a'i bardduo, yn dystiolaeth i onestrwydd a gwroldeb yr awdwr. Ni chawn ond enwi ei Latterauy Pamphlets, a'i gyfrolau hanesyddol,—deg mewn nifer,—ar Frederic Fawr. Fel hanesydd, yr oedd ganddo amynedd diderfyn i chwilio am ddefnyddiau, a gallu desgrifiadol na welwyd ei hafal, o bosibl. Y mae'r amgylchiadau a'r personau yn ail fyw dan gyffyrddiad ei ddarfelydd godidog. Ac yr oedd yr oll a ysgrifenodd yn ffrwyth ymroad ac egni beunyddiol. Yr oedd ei lyfrau yn gynyrchion gwynias ei feddwl, ac wedi dod, yn ol ei ddywediad ef ei hun, yn red-hot o ffwrnais ei fyfyrdod. Delfryd mawr ei fywyd fel awdwr oedd gwirionedd, veracity. Chwiliai am y gwir diffuant, ac os caffai hwnnw, yr oedd wedi cael gwreiddyn y mater. Ond pan oedd hwnnw yn absennol, nid oedd un addurn na dawn yn ddigonol i lanw ei le. Yr oedd ei gasineb at ffug a geudeb yn angerddol, a chodai ei "bastynffon geinciog at bob sham mewn byd ac eglwys. Gwnaeth waith ardderchog, a daeth yr oes i ddeall fod llenor Chelsea yn broffwyd, ac yn weledydd, yn ystyr uwchaf y gair. Dichon nad ydoedd yn arweinydd diogel ym mhob cyfeiriad. Y mae ei lyfr ar "Wroniaid" yn cynnwys athrawiaeth nas gellir ei derbyn yn awr. "The history of mankind is the history of great men," oedd ei arwyddair. Ond y mae gwir hanes dynoliaeth yn cynnwys y bach a'r mawr; ac nid yw y mawredd a glodforir gan Carlyle yn perthyn i'r dosbarth uwchaf. Y mae yn gorffwys, lawer pryd, ar seiliau anianyddol, ac yn anwybyddu yr elfen foesol mewn bywyd. Yn ngeiriau Dr. Edwards o'r Bala,—"Gyda phob parch i Carlyle, nis gallwn beidio meddwl fod ei olygiadau am ansawdd gwir fawredd yn dra amherffaith. Er cymaint a ysgrifenwyd ganddo yn erbyn ymddangosiadau, nid oes neb wedi talu mwy o sylw i fawredd ymddangosiadol. . . Y mawredd penaf ar ddyn yw mawredd moesol. Yn yr ystyr yma, y mae lluoedd, a aethant drwy y byd mor ddistaw ag y gallent, yn sefyll yn uwch na'r gwroniaid enwocaf y mae son am danynt ar dudalenau hanesyddiaeth."
Y mae ei olygiadau crefyddol yn anhawdd eu deffinio. Ysgrifenai gyda pharch am y Bibl, ac y mae ei gyfeiriadau at yr Iesu yn llawn o dynerwch a gwylder.
Gwelodd a phrofodd yn helaeth o flinderau bywyd, ac yr oedd ei flynyddau olaf yn eithaf pruddaidd a digalon. Cerddodd lawer, yn oriau trymaidd y nos, hyd finion y Dafwys, gerllaw Chelsea, a chysgodau afon arall ar ei feddwl, a sŵn ei thonau yn ei glyw. Tremiai yn ddwysfyfyrgar i'r dyfodol, gan gredu fod dyrysbwnc bywyd i gael ei esbonio, a bod i obeithion dyfnaf y galon loewach nen. Daeth y diwedd ar y pumed o Chwefror, 1881, a theimlai pob meddyliwr fod goleuni mawr a gogoneddus wedi gadael y byd. Cloddiwyd ei fedd, nid yn mynachlog Westminster, ond yn ol ei ddymuniad ef ei hun, yn mynwent Ecclefechan, cartref ei faboed, yn ymyl ei dad a'i fam. O'r adeg honno hyd yn awr y mae llu o lyfrau wedi eu hysgrifenu am dano,—digon i wneyd llyfrgell lled barchus; ac y mae ei annedd yn Cheyne Row wedi dod yn Mecca lenyddol i ymwelwyr o bob rhan o'r byd.
JOHN BUNYAN.
"A mi yn tramwy trwy anialwch y byd hwn,
daethum i fan yr oedd ffau ynddo; ac ynddo y
gorweddais, a phan y cysgais y breuddwydiais
freuddwyd."
DYNA eiriau cyntaf y breuddwyd rhyfedd sydd, bellach, yn fydadnabyddus, breuddwyd sydd wedi defnynnu cysur a dyddanwch i filoedd,breuddwyd a gyfrifir fel darn o lenyddiaeth ym mysg y ceinion,―breuddwyd John Bunyan.
Y mae breuddwydio, ynddo ei hun, yn beth eithaf cyffredin. Y mae pawb ohonom yn treulio llawer awr ym mro breuddwydion. Yn yr adegau hyny byddwn yn rhodio'n rhydd yng ngwlad hud a lledrith; weithiau yn mwynhau gwynfyd pur, a phryd arall yng nghanol golygfeydd brawychus ac anaearol. Ond, fel rheol, nid ydyw breuddwydion namyn cysgodau disylwedd a diflanedig. Erbyn deffro bydd y weledigaeth wedi ffoi, ac y mae hanes dynion, ym mhob oes, yn bur debyg i'r eiddo brenhin Babilon gynt,—wedi anghofio y breuddwyd a'i ddehongliad.
Ond y mae ambell freuddwyd yn aros, ac yn dod, mewn rhyw wedd neu gilydd, yn un o ddinasyddion y byd hwn. Cafodd gair ei ddweud yn lled gynnar yn hanes y byd, am un o gymeriadau prydferthaf yr Hen Destament, "Wele y breuddwydiwr yn dyfod." Cafodd ei lefaru mewn gwawd, ond yr oedd ynddo elfen o wirionedd, gwirionedd cudd ar y pryd. Yr hyn a brofai hyny ydoedd y ffaith syml, fod y breuddwydion oll wedi dod i ben. Dyna hanes pob drychfeddwl, pob athrylith, pob arweinydd newydd. Dedfryd gyntaf ei oes am dano ydyw yr eiddo brodyr Joseph,—" Wele y breuddwydiwr." Ac ond odid na theflir ef i'r pydew, ac y gwerthir ef i'r Ismaeliaid. Ond nis gall pydew camwri na charchar atal ei hynt. Fe ddaw cyn bo hir yn llywydd y wlad, a gwelir ei frodyr diffydd yn ymgrymu, fel ysgubau, ger ei fron.
Fel yna yn hollol y bu gyda Breuddwyd Bunyan. Ar y cyntaf, tybid nad oedd yn ddim amgen na chynyrch meddwl amrwd, gwyllt, ac aniwylliedig. Nid oedd yr awdwr wedi cael manteision dysg. Ni fu yn aelod o unrhyw Brifysgol yn y deyrnas. Nid ydoedd ond eurych o ran ei grefft, a Phiwritan o ran ei olygiadau crefyddol. Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth? Gallai y Breuddwyd daro chwaeth y werin, ond prin y gellid disgwyl iddo gael ei ddarllen a'i fawrygu gan y penaethiaid llenyddol. Ond erbyn heddyw dyna ydyw ei safle gydnabyddedig. Y mae'r prif feirniaid, o ddyddiau Dr. Johnson i ddyddiau Macaulay, Carlyle, a Froude, wedi cyduno i osod y gwaith a ysgrifenwyd mewn cell fechan yng ngharchar Bedford, yn gyfochrog o ran athrylith greadigol â Choll Gwynfa Milton, ac yn rhestru ei awdwr yn un o feddylwyr disgleiriaf, ffrwythlonaf, yr eilfed-ganrif-ar-bymtheg.
Canrif ryfedd, eithriadol oedd honno; canrif ydoedd yn rhoddi bôd i hanes, ac nid yn byw ar adgofion y gorffennol. Gwelwyd ynddi amseroedd blinion, chwyldroadol; teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun. Clywid sŵn brwydrau a chelanedd, a chafodd llawer maes a dôl eu troi yn faes y gwaed. Ond yn y blynyddau enbyd a chyffrous hyny y rhoddwyd i lawr sylfeini rhyddid gwladol a chrefyddol. Dyna'r pryd yr hauwyd hâd gwerthfawr sydd yn dal i dyfu hyd y dydd hwn. Ac mewn amseroedd o'r fath,—amseroedd enbyd y blynyddau chwyldroadol,—y cynhyrchir ac y meithrinir cymeriadau cryfion, a dynion mawr. Plant haf-ddydd ydyw y blodau a'r helyg, plentyn yr ystorm ydyw y dderwen. Ac yr oedd yr ail ganrif-ar-bymtheg, mewn ystyr arbenig, yn ganrif y derw. Yr oedd cewri ar y ddaear. Ond o fysg y goedwig oll,—coedwig y derw preiffion a thalgryf, dichon mai y tri brenhinbren mwyaf adnabyddus erbyn heddyw ydyw Oliver Cromwell, John Milton, a John Bunyan. Gwasanaethodd un ei oes fel milwr, cadlywydd, a rheolwr gwladol. Daeth y ddau arall yn enwog fel awdwyr,—y naill fel bardd,—bardd Paradwys; a'r llall fel creawdwr y Breuddwyd anfarwol,—" Taith y Pererin."
Ganwyd John Bunyan yn y flwyddyn 1628, 275 o flynyddau yn ol,—mewn annedd ddiaddurn ym mhentref Elstow, ar bwys Bedford. Eurych oedd ei dad, a chafodd yntau ei ddwyn i fyny gyda'r un grefft. Treuliodd foreuddydd ei oes yn eithaf difeddwl ac anystyriol. Yr oedd ystor o nwyf ac ynni yn ei natur, a'i ddewisbethau oedd chwareuon poblogaidd y dydd. "Lle y bydd camp bydd rhemp," ebai dihareb. Lle y byddo meddwl byw, llawn o wefr a dyfais, rhaid iddo gael rhoddi vent i'w adnoddau cyforiog ei hun. Dyna hanes Bunyan yn nyddiau maboed. Yr oedd yn arwr y chwareufa, yn flaenaf ym mhob afiaeth, a'i hoff orchwyl ar y Sabboth oedd ymuno â'i gyfoedion yn y gorchwyl swnfawr o ganu clych y llan.
Pan yn bur ieuanc, efe a ymunodd â'r fyddin. Yr oedd y rhyfel cartrefol, y rhyfel gwaedlyd hwnnw rhwng y brenin a'r senedd, yn ei anterth ar y pryd. Bu llawer o ddadleu yn mysg yr haneswyr ar ba ochr yr oedd Bunyan. Ond y mae lle cryf i dybied mai golygiad Macaulay sydd yn iawn; fod Bunyan wedi bwrw ei goelbren gyda byddin Cromwell, ac y mae yn dra phosibl mai o fysg y milwyr glewion hyny,—yr Ironsides, y cafodd efe yr anelwig ddefnydd i rai o'r cymeriadau sydd wedi eu cyd-blethu yn ei "Freuddwyd."
Y mae un ffaith, fodd bynnag, yn cael ei chrybwyll ganddo ef ei hun am yr adeg hon yn ei fywyd. Yr oeddynt yn gwarchae tref Leicester. Un noson, yr oedd efe i fod yn un o'r gwyliedyddion, ond am ryw reswm, dymunodd cyfaill iddo gyfnewid âg ef, ac felly y bu. Ym mhen ychydig oriau wedi hyny cafodd ei gynrychiolydd ei saethu yn farwol yn ei ben. Pe digwyddasai Bunyan fod ar y wylfa y noswaith honno, buasai y byd heb "Daith y Pererin," ac ni fuasid yn gwybod dim am ei enw. Ond yr oedd Bunyan yn "llestr etholedig" gan Ragluniaeth, ac yr oedd ei ben ef i wasanaethu pwrpas amgenach na bod yn nôd i fwledi y gelyn.
Peth arall a wnaeth pan yn dra ieuanc ydoedd priodi. Nid oedd ganddo nemawr ddim at "ddechreu byw," ac unig gynysgaeth ei briod ydoedd dau lyfr o waith y Piwritaniaid. Ond yr oedd Bunyan yn ŵr ieuanc diwyd, gonest, a medrus gyda'i orchwyl beunyddiol. Er yn ddieithr hyd yma i ddylanwadau crefyddol, nid oedd yn afradloni ei amser a'i dda yn y gyfeddach, ac yr oedd ei dymher fywiog, serchog, yn ei wneyd yn boblogaidd ym mysg ei gym'dogion. Bu y ferch ieuanc a briododd yn gynorthwy gwerthfawr iddo ym mhob ystyr. Drwy ei hofferynoliaeth hi y dysgodd efe ddarllen ac ysgrifennu, a daeth i fynychu y gwasanaeth crefyddol ar y Sabboth. Ond er yn ddyn arall, nid oedd yn ddyn newydd. Glynai wrth arferion bore oes, ond nid gyda'r un blas. Yr oedd cydwybod wedi deffro o'i fewn, a dychrynfeydd barn a byd arall yn ymruthro ger ei fron, nes ei yrru ar adegau i ymylon gwallgofrwydd. Profodd ingoedd argyhoeddiad yn ei enaid. Gwelwyd yntau, fel y Pererin a ddarlunir ganddo, yn ceisio ffoi o Ddinas Distryw. Gwyddai am Gors Anobaith, a bu yn rhodio Glyn Cysgod Angau. Dyna sydd yn gwneyd y Breuddwyd yn llyfr mor werthfawr i bererinion pob oes a gwlad. Y mae yn ddelweddiad byw, ffyddlawn o brofiad ei awdwr. Daeth allan, fel yntau, o'r cystudd mawr. Ond yn araf, yn raddol, torrodd y wawr ar ei feddwl, a throes cysgod angau yn foreu ddydd.
Ymunodd â'r eglwys fechan Ymneillduol yn Bedford, a chyn hir cafodd ei alw ganddi i bregethu yr Efengyl. A phrofodd ei weinidogaeth ymroddedig ei fod wedi ei alw gan yr "Hwn sydd yn ben uwchlaw pob peth i' eglwys;" ei fod yntau, megis Saul o Tarsus, yn apostol nid o ddynion, na thrwy ddynion, ond trwy ewyllys Iesu Grist." A pha beth bynnag oedd ei fedr i drwsio crochanau, ac i ymgeleddu llestri alcan, yr oedd ganddo allu diamheuol i drin llestri y cysegr, ac i ddarparu i'r Arglwydd bobl barod, i fod yn llestri aur ei deml Ef.
Ond yng nghanol ei ddefnyddioldeb fel pregethwr, cafodd ei lafur gwerthfawr ei atal, a bu yntau am flynyddoedd yn gennad mewn cadwyn. Yr oedd hyny yn ystod teyrnasiad Siarl yr Ail. Yr oedd hen ddeddfau gorthrwm wedi eu hadgyfodi. Un ohonynt oedd Deddf y Tŷ Cwrdd, deddf yn gwahardd cyd-gynulliad o Ymneillduwyr. Cauid eu haddoldai, a gorfodid y gweinidogion a'u cynulleidfaoedd i gyfarfod yn ddirgelaidd mewn coedwigoedd a thai annedd neillduedig ar hyd y wlad. Tra yn pregethu yn un o'r cyrddau gwaharddedig hyn, ym mis Tachwedd, 1660, cafodd Bunyan ei ddal gan y swyddogion gwladol. Gwysiwyd ef o flaen y Frawdlys, a chynygiwyd ei ryddhau ar yr amod iddo beidio pregethu a chynnal cyfarfodydd crefyddol. Ond nis gallai Bunyan gydsynio â'r cyfryw gais. Anghenrhaid a osodwyd arno i bregethu Efengyl Crist. Dedfrydwyd ef i garchar Bedford. Am beth? Am wrthod ufuddhau i gyfraith ormesol ac anghyfiawn. Gwell oedd ganddo wynebu carchar ac adfyd gyda chydwybod ddirwystr na mwynhau rhyddid ar draul sarnu yr ymddiriedaeth oedd wedi ei gosod ynddo.
Ond nid peth hawdd iddo oedd mynd i garchar, heb un rhagolwg am ryddhad. Nid oedd ond 32 mlwydd oed, a'i galon yn llosgi gan awydd i wneyd gwaith ei Feistr. Pryderai yn nghylch ei deulu. Pwy gymerai eu gofal hwy, ac, yn enwedig, yr eneth fechan ddall? " Ond ni chafodd achos i edifarhau. Bu yr Hwn sydd yn gofalu am aderyn llwyd y tô, a chywion y gigfran pan lefant, yn dyner wrtho ef a'r eiddo drwy gydol blwyddi ei garchariad. Treuliai ran o'i amser i geisio ennill ychydig tuagat gynnal ei dylwyth. Ei orchwyl, meddir, oedd gwneyd pwynteli ar garai esgidiau. Buasem yn mynd ym mhell i weld un ohonynt. Ond yn fwy na'r oll, cafodd hamdden i feddwl,—i edrych i mewn iddo ei hun; a thra yn myfyrio, enynnodd tân. Cynyrch y tân sanctaidd hwnnw, —tân athrylith gysegredig,—ydyw Breuddwyd Bunyan.
Ysgrifennodd lawer yn ystod ei oes. Yr oedd yn awdwr tra chynyrchiol. Y mae rhif ei lyfrau, mawr a bach, yn driugain, un ar gyfer pob blwyddyn o'i oes. Ond ei Freuddwyd a'i gwnaeth yn fyd-hysbys. Dyna'r gwaith sydd yn aros yn newydd, yn ieuanc, ac yn iraidd,
"Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy."
Mewn poblogrwydd a dylanwad, nid oes ond Llyfr y Llyfrau wedi cael y fath ledaeniad mewn gwledydd gwareiddiedig. A'r hyn sydd yn rhyfedd ar un olwg ydyw, nad oedd yr awdwr ei hun yn ymwybodol o neillduolrwydd y gwaith. Yr oedd ar ganol ysgrifenu llyfrau ereill, ar bynciau athrawiaethol; ond er mwyn adloni ei feddwl, a thorri ychydig ar undonaeth y carchar, dechreuodd ysgrifennu hanes y Pererin. Ac, er ei syndod, dyna'r meddyliau a'r golygfeydd yn dechreu crowdio o'i gwmpas. Yr oeddynt yn ymryson â'u gilydd am le ar y papur. Prin yr oedd yn medru ysgrifennu yn ddigon cyflym. Onid dyna gyfrinach y Breuddwyd? Yroedd yn gynyrch oriau ysbrydoledig, oriau euraidd. Yr oedd yr awdwr fel un wedi cael ysglyfaeth lawer, ac yn mynd rhagddo wrth ei fodd. Nid gwaith gosodedig ydoedd, ond gweledigaeth nefol yn ymdorri ar ei feddwl, gan ei dywys ymlaen at byrth y ddinas sydd a'i heolydd o aur pur.
Yroedd carchar Bedford, lle y cedwid Bunyan, wedi ei leoli ar ganol y bont oedd yn croesi yr afon Ouse. Benthyciwn ei gerbyd ef ei hun am eiliad, —cerbyd chwim, distaw—olwynol, dychymyg. Dyma ni ar lan yr afon. Y mae llenni'r nos yn ymestyn dros y dref. Y mae'r carcharor newydd ffarwelio â'i deulu, ac wedi bod yn sibrwd gweddi, â'i law ar ben cyrliog yr enethig ddall. Clywir porth trystiog y carchar yn rhugl-droi ar ei golyn, a'r ceidwad yn mynd a'r agoriadau i'w ystafell ei hun. Daeth awr hûn a gorffwys.
Ond welwch chwi y gell gul acw uwchben yr afon? Y mae yna lusern fechan ar y bwrdd, ac yn ei hymyl y mae dau lyfr agored,—y Bibl ydyw un, a Hanes y Merthyron ydyw y llall. Dyna holl lyfrgell Bunyan; ond уг oedd ynddi bob cyflenwad ar gyfer ei feddwl a'i fryd. Sylwch ar y gŵr sydd yn eistedd yn y gadair acw. Y mae ysgrifell yn ei law, a thân athrylith yn ei lygaid. A ydyw efe yn meddwl am ei gell, ac yn teimlo ei fod yng ngharchar? Dim o'r fath! Y mae ei draed yn y Mynyddoedd Hyfryd. Y mae yn syllu ar swynion y Palas Prydferth, ac y mae yr afon ddu, bruddglwyfus, sydd yn rhedeg heibio ei gell wedi ei gweddnewid am afon y Bywyd, disglaer fel y grisial, ac yn dyfod allan dan orseddfainc Duw a'r Oen. Ac y mae llef ddistaw, nefolaidd, yn sibrwd yn ei glust,"Ysgrifenna! yr hyn a welaist ac a glywaist; yr hyn a brofaist yn eigion dy galon dy hun,". ac yn y per-lewyg hwnnw y rhoddwyd bôd i Daith y Pererin! "Felly y deffroais, ac wele, breuddwyd oedd."
Y TADAU PERERINOL
YMHLITH dyddiau hynod, yn ystod y canrifoedd diweddaf, y mae dau ddyddiad na ddylai un hanesydd eu hanwybyddu. Er fod dros gan' mlynedd yn gorwedd rhyng ddynt, y maent yn dal perthynas agos a dibynol ar eu gilydd. Un ydyw Hydref 12, 1492, dydd glaniad Columbus ar draeth y Gorllewin, pan y daeth cyfandir Amerig yn ffaith brofedig. Y mae hanes ymdrechion y darganfyddwr hwn yn darllen fel rhamant. Cafodd brofi nerth anwybodaeth ac ofergoeledd yn ei wlad ei hun. A phan yn croesi'r Werydd, bygythid ef yn feunyddiol gan lwfrdra y morwyr; ond yn nerth ei ysbryd, a chyda swyn ei hyawdledd, hwyliodd rhagddo am 70 o ddyddiau nes dyfod i olwg y tir pell,—y Byd Newydd,—yr oedd ei ddychymyg gwyddonol wedi ei linellu er ys llawer dydd.
Y dyddiad arall ydyw Tachwedd 9, 1620. Dyna'r adeg y glaniodd y Mayflower, gyda'r fintai gyntaf o'r "Tadau Pererinol" ar gyffiniau Plymouth Rock, yn y rhandir hwnnw ddaeth i gael ei adnabod fel Lloegr Newydd. Yr oedd y dydd hwn yn ddechreu cyfnod. Cafodd yr ymfudwyr hyny, a'u holynwyr, eu defnyddio gan Ragluniaeth i osod i lawr sylfeini cymdeithas, llywodraeth, a chrefydd yn y Gorllewin. Eu bywyd a'u hegwyddorion hwy oedd haenau isaf cyfansoddiad y Weriniaeth fawr, gyfluniol, sydd bellach yn ymestyn o'r Werydd i'r Tawelfor, ac yn rhifo ei myrddiynau. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng neges Columbus a neges y Mayflower. Anturiaethwr oedd y naill, a'i fryd ar estyn terfynau gwyddor, a therfynau llywodraeth Hispaen yr un pryd; ond pererinion oedd yn y Mayflower, pobl yn ceisio gwlad, nid er mwyn concwest na chlôd, eithr er mwyn rhyddid cydwybod,ac oblegid eu hargyhoeddiadau crefyddol. Hyn yn unig a barodd iddynt wynebu peryglon y cefnfor, a chyrchu i fro bell, estronol, lle nad oedd ganddynt un hawlfraint na dylanwad,— dim ond eu diwydrwydd eu hunain, ac amddiffyn eu Duw. Ond yr oeddynt yn etifeddion ffydd, ac yn olynwyr yn yr addewid,—" Dos allan o'th wlad, ac oddiwrth dy genedl, a thŷ dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti. A mi a'th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a'th fendithiaf; mawrygaf, hefyd, dy enw, a thi a fyddi yn fendith." Cafodd hyn ei wirio yn eu hanes a'u dyfodol hwythau. Daeth eu bywyd a'u llafur yn allu ac yn fendith yn y Byd Newydd. Rhodder i Columbus yr anrhydedd o'i ddarganfod; ond i'r Tadau Pererinol y perthyn y clôd o osod i lawr sylfeini crefydd a llywodraeth, crefydd rydd, ddilyffethair, llywodraeth ddemocrataidd, a'i hanfod yn ewyllys gyfunol yr holl bobl.
Yn yr olwg ar eu gwaith a'u dylanwad, y mae yn naturiol i ni deimlo dyddordeb yn eu hanes a'u helyntion. Yr hyn a'u dygodd i sylw ydoedd eu golygiadau crefyddol. Yr oeddent yn meddwl yn wahanol ar bynciau Cred i'r hyn oedd yn cael ei orchymyn gan lysoedd eglwysig a gwladol eu hoes. Yr oedd eu barn am eglwys y Testament Newydd yn peri iddynt ymwrthod âg offeiriadaeth ddynol. Credent yn offeiriadaeth gyffredinol yr holl saint; ac mai hanfod eglwys ydyw cynulleidfa o Gristionogion yn 'cyfarfod i ddibenion crefyddol, gan sefyll yn y rhyddid â'r hwn y rhyddhaodd Crist hwy. Lle bynag y mae Ysbryd yr Arglwydd Iesu, yno y mae rhyddid, —rhyddid cydwybod, rhyddid barn. Nid oedd hyn yn cael ei gydnabod na'i ganiatau yn yr Eglwys Wladol,—yr Eglwys oedd wedi ei sefydlu yng ngrym cyfraith, ac yn cael ei hamddiffyn gan ddeddfau o osodiad dyn. Am hyny yr oedd y sawl nas gallent gydffurfio â defodau ac â seremoniau yr Eglwys Wladol dan orfod i ymwahanu,—bod yn Anghydffurfwyr. Wrth wneyd felly yr oeddynt yn dyfod dan ŵg yr awdurdodau, a nerth y gyfraith yn cael ei droi yn eu herbyn. Ond yr oedd ysbryd y Diwygiad Protestanaidd yn ymledu, a'r gwirionedd am ryddid yn prysur lefeinio meddyliau. Y mae cymdeithasau crefyddol yn cael eu cychwyn yma a thraw, ac er fod llaw drom y gallu gwladol yn disgyn arnynt yn fynych, eto y maent yn lliosogi, fel cenedl Israel yn amser y gorthrwm, er gwaethaf llid y gelyn. Mewn cymdeithas fechan o'r fath, yr hon a gynhelid mewn pentref ar dueddau dwyreiniol Lloegr, y tarddodd y mudiad a gysylltir â'r Tadau Pererinol. Dyna eu cartref gwreiddiol, er fod amryw wedi ymuno â hwy o barthau ereill o'r deyrnas.
Dichon mai yr olwg gyntaf a gawn ar y Tadau ydyw yn Gainsborough, pentref tawel ar lan y Trent, oddeutu ugain milldir o'r môr. Lle neillduedig, allan o lwybr trafnidiaeth, ond yn gyrchfan adnabyddus i'r Piwritaniaid. Yno, yn yr Henblas, y preswyliai William Hickman, boneddwr a Phrotestant, ac efe a sefydlodd Gymdeithas Ymneillduol yn ei dŷ. Y gweinidog cyntaf ydoedd John Smyth, M.A. Deuai pobl o'r pentrefi cylchynol, ac yn enwedig o Scrooby, i'r cyfarfodydd crefyddol yn yr Henblas, er fod ganddynt dros ddeuddeng milldir o ffordd. Yn eu plith yr oedd William Brewster a William Bradford; a chan ystyried pellder y siwrnai Sabbothol, y maent yn meddwl am sefydlu cymdeithas gyffelyb yn Scrooby, lle yr oeddynt ill dau yn trigiannu. Desgrifi ef fel pentref digyffro, yng nghanol doldir ffrwythlon a ffrydiau gloewon. Y mae tair o siroedd yn cyfarfod yn y fangre,—Nottingham, York, a Lincoln. Y mae Scrooby ei hun yn Swydd Nottingham. Yn oes y Tadau yr ydoedd yn lle mwy adnabyddus nag ydyw heddyw. Safai ar y brif-ffordd oedd yn arwain i Berwick ac i Ysgotland. Yr hyn sydd yn meddu dyddordeb i'r hanesydd crefyddol ydyw yr Hen Faenordy. Mewn blynyddau diweddar, y mae llawer wedi dyfod ar bererindod o'r Gorllewin i weld annedd lle bu y Tadau yn y ymgynnull, ac yn cydaddoli cyn gorfod gadael eu gwlad. Yn y Maenordy y preswyliai William Brewster, gŵr ag y mae ei enw yn gysegredig, arweinydd y fintai fechan aethant dros y Werydd yn y Mayflower. Cafodd ei addysgu yn Nghaergrawnt, ac ym more ei oes daeth i gysylltiad â'r Llys. Bu am yspaid yn Holland. Ond nid yn y Llys a'i ysgafnder yr oedd i dreulio ei fywyd. Dewisodd yntau adfyd pobl Dduw yn hytrach na mwyniant ac anrhydedd daearol. Dychwelodd i Scrooby. Cafodd y swydd o "Post" fel olynydd i'w dad. Nid oedd llythyrdy, na son am dano, yn y cyfnod hwn. Ond yr oedd negeseuon y Llys yn cael eu cludo i wahanol ranau y deyrnas. Yr oedd pedair prif-ffordd yn cael eu cadw i'r amcan hwn,—o Lundain i Beaumaris, i Plymouth, i Dover, ac i Berwick. Ar y ffyrdd hyn yr oedd gwestai, lle y cedwid meirch a chysuron ar gyfer y llythyrgludwyr. Gelwid y sawl oedd yn gofalu am y cyfryw yn "Post," ac yr ydoedd yn swydd a gydnabyddid yn lled dda. Un o'r gwŷr hyn ydoedd William Brewster; a dyna ar y pryd oedd y Maenordy, gwesty i genhadau y Goron, &c. Ymddengys fod cryn hanes i'r hen Faenordy. Ar un adeg yr oedd yn balas i Archesgob York. Ynddo y bu Cardinal Wolsey am fisoedd, ynghyd â Bonner, yr erlidiwr dihafal, yn ceisio llethu y Lutheriaid yn y wlad. Ond ym mhen ychydig flynyddau, gwelwyd eglwys Anghydffurfiol wedi ymgynnull yn y lle y bu'r Cardinal yn taranu ei anathema yn erbyn rhyddid barn a llafar. Tybir mai yn yr hyn sydd yn awr yn ystabl y cynhelid y cyfarfodydd. Gweinidogion cyntaf yr eglwys oedd Richard Clyfton a John Robinson. Y mae'r olaf, yn arbenig, yn cael ei gyfrif yn dad a chynghorwr i'r Pererinion. Bu am gyfnod yn offeiriad, ond methodd a chartrefu yn Eglwys Loegr. Bwriodd ei goelbren gyda'r Anghydffurfwyr.
Ond nid oedd y gymdeithas grefyddol yn y Maenordy i gael dianc rhag ysbryd erlidiol yr oes. Cafodd Brewster ei ddirwyo yn drwm am roi nawdd i'r cyfarfodydd, a chafodd amryw o'i aelodau eu bwrw i garchar. Dan yr amgylchiadau, penderfynasant groesi y môr i Holland, lle y gobeithient gael llonyddwch i ddilyn eu hargyhoeddiadau. Yn yr adeg honno, fodd bynnag, nid oedd rhyddid i ymfudo heb drwydded, ac nid oedd y drwydded honno i'w chael i'r bobl hyn; felly yr oedd yn rhaid gwneyd hebddi, rywfodd. Yn Hydref, 1667, rhoddasant eu bryd ar gychwyn yn ddirgelaidd o Boston, hen dref hynod ar fin y môr, yn Swydd Lincoln. Ond, druain, cawsant eu bradychu gan gadben y llong. Cymerodd yr adyn hwn eu harian, a gwerthodd hwy i swyddogion y Llywodraeth yr un pryd. Gyda'u bod ar y bwrdd, dyna yr erlynwyr ar eu gwarthaf, a chawsant eu cymeryd yn ol i'r dref i aros eu prawf. Bu yr ynadon yn dirion wrthynt, ond nis gallent eu rhyddhau heb orchymyn oddiwrth y Cynghor yn Llundain. Buont yng ngharchar am dymor, ond nid oeddent wedi colli golwg ar eu hamcan. Gwnaethant ymdrech i ymfudo drachefn. Wedi cytuno ar lecyn neillduedig, ar lan y môr, cyrhaeddasant yno gyda'u teuluoedd. Ond cyn i'r oll fynd i'r llong oedd yn eu haros, daeth y milwyr ar eu gwarthaf. Cychwynodd y llestr gyda rhan o'r ymfudwyr, a'r lleill yn cael eu gyrru yn ol gan yr erlynwyr. Mawr oedd eu trallod a'u helbulon, ond nid oedd pall ar eu dewrder; ac ym mhen yspaid o amser llwyddasant hwythau i ddianc, a chafodd yr holl gwmni gyfarfod eilwaith ar ddaear estronol.
Gwyddis fod Holland, yn y blynyddau y cyfeiriwn atynt, wedi bod yn dra charedig tuag at y sawl a erlidid o achos cyfiawnder. Yr oedd y wlad wedi bod mewn rhyfel maith gyda'r Hispaen, ac wedi sefyll yn bur i achos Protestaniaeth. Dan deyrnasiad William y Tawel yr oedd rhyddid crefyddol yn cael ei estyn i bawb yn ddiwahardd. Yn yr adeg hon aeth lliaws o Anghydffurfwyr gore Lloegr drosodd i Holland am gysgod a nodded, hyd nes yr elai yr aflwydd heibio. Un o'r rhai cyntaf i alw eu sylw at hyny oedd John Penri, y Merthyr Cymreig. Ychydig cyn cael ei ddienyddio, ysgrifenodd lythyr i ffarwelio â'i frodyr yn y ffydd; ac yn wyneb y creulonderau oedd yn ymosod arnynt, y mae yn eu hannog i ymfudo i wlad lle y cawsent ryddid a llonyddwch i addoli Duw. Y mae, hefyd, yn deisyf arnynt fod yn dyner wrth ei weddw a'i blant. I'r sawl sydd wedi talu sylw i hanes Penri, y mae'r cwestiwn wedi ymgynnyg,—Beth a ddaeth o'i deulu ar ol ei farwolaeth gynarol ef? Y mae'r cwestiwn yn cael ei ateb yn hanes y Pererinion. Cafodd gwraig a dwy ferch John Penri eu cymeryd drosodd ganddynt i Holland, a thrachefn, o bosibl, i wlad y Gorllewin.
Yn y modd hwn, daeth Amsterdam yn gyrchfan yr erlidiedig o Brydain a manau ereill. Bu y ddinas honno ar ei mantais o'u plegid. Yr oedd y ffoaduriaid yn cynrychioli goreuon cymdeithas; pobl rinweddol, fedrus, a diwyd gyda'u goruchwylion. Bu eu harhosiad yn Amsterdam yn foddion i ddyrchafu y ddinas ac i helaethu ei dylanwad. Wedi aros yno flwyddyn, symudodd y Pererinion i dref arall,—Leyden.
Safai Leyden ar oddeutu hanner cant o ynysoedd bychain wedi eu ffurfio gan yr afon Rhine, oddeutu deng milldir ar hugain o Rotterdam. Yr oedd poblogaeth y lle, yn nechreu yr ail ganrif ar bymtheg, yn gan' mil.
Yr oedd yn ddinas dêg a dymunol. Cysgodid ei heolydd gan goed deiliog, a phontydd heirdd yn croesi yr afon. Yr oedd yr adeiladau cyhoeddus yn fawreddog, a'r holl ddinas yn delweddu darbodaeth, cynildeb, a chysuron. Ei phrif addurn oedd y Brifysgol, yn yr hon yr oedd dros ddwy fil o efrydwyr. Cafodd y Pererinion nodded yn y ddinas hon, ond yr oedd eu hanhawsderau yn lliosog. Gorfu iddynt ddysgu crefftau newyddion, mewn trefn i allu cynnal eu hunain a'u teuluoedd. Ond nid pobl yn llwfrhau yn amser cyfyngder oeddent hwy. Daeth rhai yn seiri meini, ereill yn wehyddion, yn argraffwyr, &c. Ac er fod eu byd yn galed, llwyddasant i ennill eu bara beunyddiol heb ofyn elusen na chardod i neb. Eu gweinidog yn Leyden oedd John Robinson. Ymhen amser llwyddasant i brynu tŷ a gardd yn agos i eglwys gadeiriol y ddinas. Yn y tŷ hwnnw yr oedd y gweinidog yn trigiannu, ac yn un o'r ystafelloedd y cynnelid y gwasanaeth crefyddol. Bu y Pererinion yn Leyden am ddeuddeng mlynedd; ac yn ystod yr holl amser ni pharasant unrhyw ofid na thramgwydd. Ni ddygwyd cwyn yn eu herbyn; a rhoddwyd llawer tystiolaeth i'w rhagoriaeth fel dinasyddion.
Ond nid oedd iddynt yno "ddinas barhaus." Rhyw lety a chysgod dros amser oedd Leyden, ond yr oedd y Pererinion yn chwilio am gartref. Pa le yr oedd hwnnw? Nid yn yr hen wlad, er mor anwyl ydoedd i'w serchiadau. Gorthrwm oedd yn oruchaf yno. Pa le, ynte? Ai yn y Byd Newydd, yn y Gorllewin pell? Ai yno yr oedd eu ffydd i gael lle i roddi ei throed i lawr? Ai yno yr oeddent i weithio allan yr ymddiriedaeth grefyddol oedd wedi ei rhoddi iddynt? Y mae y syniad hwn yn cryfhau yn eu mynwesau. Fel y gwelir yr adar ar ddiwedd haf yn ymdyru at eu gilydd, yn ngrym rhyw ddirgel reddf, felly yr oedd y Pererinion ymfudol hyn. Y maent yn penderfynu gadael Holland, a chroesi y Werydd gyda'u gilydd.
Yr oedd yna resymau cymdeithasol dros iddynt adael Leyden. Yr oeddent mewn perygl o ymgolli yn y bywyd oedd o'u hamgylch, bywyd y Cyfandir. Nis gallent ddygymod â hyny. Peth arall, yr oedd sefyllfa wladol Holland yn ansicr. Yr oedd arwyddion rhyfel ar y gorwel, a buasai hyny yn creu chwyldroad yn y deyrnas. Yr oedd y rhesymau hyn yn bod, ond yr oedd llaw anweledig y tu ol i'r llen, yn eu harwain ar hyd ffordd nis gwyddent. Rhaid oedd ymado, er fod y dyfodol yn dywyll ac aneglur. Yr oedd eu bryd ar y Gorllewin. Meddylient am Virginia. Yr oedd trefedigaeth Brydeinig wedi ei chychwyn yno dan awdurdod y Brenin Iago. Ond deallasant fod deddfau caethiwus Lloegr yn ymestyn i Virginia. Nis gallent wladychu yno heb wadu eu hegwyddorion. O'r diwedd, cawsant ganiatad i ymsefydlu ar lan yr afon Hudson. Cwrddasant âg anhawsderau mawrion ynglŷn â chael llong, a rhyw ddarpariaeth ar gyfer y daith. Wedi dyfod i gytundeb â chwmni masnachol yn Llundain, ar delerau eithaf celyd, cawsant addewid am ddwy long i'w cludo drosodd,—y Speedwell a'r Mayflower. Aeth y Speedwell i'w cyrchu o Holland i Southampton. Yr oeddent yn gadael gwlad y camlesydd yn haf y flwyddyn 1620, ac yn gobeithio gallu croesi y cefnfor yn ddiymdroi fel y byddai eu ffoedigaeth cyn y gaeaf. Ond yr oedd y merchants yn cellwair gyda'r mater, ac yn oedi arwyddo y cytundeb. Wedi eu cadw mewn pryder am wythnosau, cawsant ar ddeall o'r diwedd fod y llongau yn barod. Rhif y Pererinion oedd ugain a chant. Aeth 90 ar fwrdd y Mayflower, a 30 ar fwrdd y Speedwell, ac felly y cychwynasant. Wedi hwylio am rai dyddiau, gwelwyd fod y Speedwell yn gwbl wahanol i'w henw. Ffrydiai y dwfr drwy ei hystlysau, a gorfu iddynt ddychwelyd i dir. Wedi cyrraedd Plymouth, gwelid yn eglur nas gallai y Speedwell wynebu'r fordaith. Erbyn hyn yr oedd deunaw o'r ymfudwyr wedi digaloni, a gwrthodasant ymuno â'r anturiaeth. Trosglwyddwyd deuddeg i'r Mayflower, yr hon oedd eisoes yn rhy lawn. Aethant allan i'r môr drachefn, a chawsant hindda am enyd. Ond yn bur fuan daeth gwyntoedd yr Hydref i guro arnynt. Ysgytid y llong fel pluen ar frig y dòn. Hyrddid hwy o flaen yr ystorm. Toddai eu calon gan flinder, a'u doethineb a ballodd. Buont am naw wythnos ar y cefnfor garw; ond ar y nawfed o fis Tachwedd y maent yn gweld y tir. Nid y tir y disgwylient am dano, ond y bau mawr a adwaenir fel Cape Cod Bay. Yr oedd eu rhagolygon yn dywyll i'r eithaf. Nid oedd tŷ na chysgod yn eu haros,—dim ond arfordir noeth a llwm. Yr oedd yr hin yn aeafol, ac afiechyd wedi tori allan ar fwrdd y llong. Ond y maent yn glanio, ac yn syrthio ar eu gliniau ar y traeth i gydnabod Duw y nefoedd am eu gwaredu o beryglon y môr, a'u dwyn yn y diwedd i gilfach a glan. Ni chawn ddilyn eu hanes ymhellach. Caiff yr aralleiriad a ganlyn o gân Mrs. Hemans wasanaethu i ddangos eu sefyllfa, eu gwroldeb, a'r neges odidog oedd i'w hanturiaeth,
Ymdorai'r tonau brigwyn, erch,
Ar fynwes oer y graig;
A sŵn y storom ar y traeth
Adseiniai yn yr aig.
Mor ddu a phruddaidd oedd y nos
Deyrnasai dros y tir,
Pan laniai'r Pererinion llesg
Ar ol eu mordaith hir!
"'R oedd yno rai â'u gwallt yn wyn,
A rhai mewn mebyd mad;
Paham crwydrasant hwy mor bell
O'u genedigol wlad?
"Beth geisient hwy ar estron dir?
Ai perlau teg eu gwawr?
Na, ceisio'r oeddent le i'w ffydd
I roi ei throed i lawr.
"Byth galwer hwn yn sanctaidd dir,
Lle cysegredig yw;
Pwrcaswyd yno ryddid dyn
I wasanaethu Duw."
DOETHION GROEG.
I BAWB sydd wedi talu sylw i hanesiaeth, yn enwedig hanesiaeth y cynoesoedd, y mae cyfaredd o swyn yn enw Groeg. Gwlad a fu am ganrifoedd yn frenhines teyrnasoedd, ac yn ganolbwynt gwybodaeth a gwroldeb, cryd aur gwyddoniaeth a chelfyddyd, mamaeth rhyfelwyr, athronwyr, a beirdd; "The land," ys dywed Byron,
"Where burning Sapho loved and sung,
Where grew the arts of war and peace.
Land of lost gods and god-like men."
Groeg yn nyddiau ei gogoniant! Dyna faes bras i ddychymyg ymdroi o'i gylch, pan oedd y duwiau yn byw ar Olympus, pan oedd yr awenesau yn ymdrochi yn ffynhonau Helicon, pan oedd y temlau mynor yn disgleirio ar bob bryn, a phan oedd Athen yn gyrchfan doethion, yn brif-ysgol gwyddor a chelf, ac yn llygad Groeg.
Onid y gwledydd lleiaf o ran maintioli sydd wedi bod yn fagwrfa i enwogion? Dyna Gymru, gwlad ein tadau, bechan ydyw o ran maint, ac eto mae athrylith wedi ei chysegru â'i phresenoldeb drwy yr oesau. Uniawn y gelwir hi yn "wlad beirdd a cherddorion, rhyfelwyr o fri," gwlad Taliesin a Llywelyn, magwrfa Inigo Jones, a John Gibson, a llu ereill sydd wedi cerfio eu henwau â phin o haiarn yng nghraig anfarwoldeb dros byth.
Drachefn, dyna wlad Canan; nid ydyw hithau ond ysmotyn yn ymyl cyfandiroedd Asia ac Affrica, eto, pa mor gyfoethog mewn enwogion? Uniawn y galwyd hi gan yr ysbiwyr gynt yn "wlad y cewri." Dyna ydyw wedi bod yn ystyr uwchaf y gair; gwlad Dafydd a Solomon, gwlad Esaiah a Daniel, gwlad Paul yr Apostol, ac Ioan y Difeinydd, a gwlad wedi ei chysegru â phresenoldeb Emmanuel mewn cnawd!
Y mae yr un peth yn gymhwysiadol at wlad Groeg. Nid ydyw hithau ond bechan iawn o'i' chymharu â'r gwledydd y bu gynt yn llywodraethu arnynt; ac eto, meithrinodd dô ar ol tô o wroniaid. Y mae yn hynod ar gyfrif ffrwythlondeb ei thir mewn ystyr anianyddol, ac y mae mor hynod am ffrwythlonder ei henwogion. Yn mysg ei beirdd y ceir Homer, Hesiod, Pindar, Sapho, ac Anacreon; yn mysg ei haneswyr y mae Herodotus, a Xenophon; yn mysg ei hathronwyr y mae Socrates, Aristotle, Diogenes, a Plato; ac yn mysg ei rhyfelwyr y mae Alcibiades, Pericles, a Leonidas.
Where sprung the arts of war and peace."
Y mae'r desgrifiad yna yn gywir. Rhestrir rhyfeloedd Groeg yn mysg y pymtheg brwydrau mawrion fu yn foddion i newid gwyneb teyrnasoedd. Yno yr ymladdwyd brwydr ofnadwy Marathon a Thermopolo. Pob parch i'r chwe' chant dewrion yn Balaclava,—" Honour the charge they made!
"Into the valley of death
Rode the six hundred."
Ond nid oedd y charge yn fwy gogoneddus na gwrthsafiad arwrol tri chant o Roegwyr, dan lywyddiaeth Leonidas, yn nyffryn cul Thermopolo, pan yn ceisio atal ymgyrch byddin anferth y Persiaid. Er fod yr ymladdfa yn un mor anghyfartal, a phob gobaith am ennill y dydd allan o'r cwestiwn, eto safodd pob un yn ei le fel derwen, ymladdasant hyd yr anadl olaf, a gorfu i'r Persiaid wneyd eu ffordd i Groeg ar draws cyrff y dewrion hyn. Y mae beddargraff felly yn Ffrainc, uwch ben bedd milwr, —"Siste Viator, heroem calcas!"—(Yn araf, ymdeithydd! Yr wyt yn sangu ar wron). Gwroniaid fel yna oedd Leonidas a'i fyddin ddewr. Ym mhen llawer canrif ar ol hyn, safai Byron ar y llecyn, ac wrth fyfyrio ar yr orchest a wnaed yno, llanwyd ei ysbryd nes peri iddo floeddio allan,
"Of the three hundred, grant but three,
To make a new Thermopolœ."
Fe gynyrchodd Groeg ryfelwyr, ond y mae yn enwog, hefyd, am ddosbarth arall o ddynion mawr, sef y dosbarth hwnnw sydd yn caru heddwch, yn cysegru eu dyddiau i efrydiaeth a myfyrdod.
Dyna Socrates, y penaf o athronwyr Groeg. Ganwyd ef yn Athen tua'r flwyddyn 470 c.c. Hanai o deulu cyffredin, ond yn ngrym ei ddoniau daeth yn un o ddysgawdwyr ei oes, ac yn wrthrych edmygedd a pharch pob oes ddilynol. Disgyblion iddo ef oedd y rhai a wnaethant enwau iddynt eu hunain yn y cyfnod hwn, megys Plato, Xenophon, Euclid, ac Alcibiades. Fe eglurai Socrates ei olygiadau mewn ymddiddan; ni ysgrifenodd linell erioed ei hun; yr ydym yn ddyledus am hyny i'w ddisgybl, Plato, yr hwn a groniclodd luaws mawr o'i ymddiddanion. Dysgai Socrates foes—wersi uchel a phur, a gellir meddwl fod ei ymarweddiad yntau yn hynod ddiwair a diargyhoedd. Credai yn modolaeth Duw anweledig, llywodraethwr pobpeth, ond ni anturiai fynegi nemawr am ei natur na'i briodoleddau. Credai hefyd yn anfarwoldeb yr enaid. Ar y pryd, addolid llu o dduwiau yn Groeg, a darfu i waith Socrates yn dysgu am Dduw arall, anweledig, ei arwain i afaelion erledigaeth dost. Dygwyd cynghaws o gabledd yn ei erbyn; profwyd ef yn euog, a dedfrydwyd ef i farw. Y ddedfryd a osodwyd arno ydoedd yfed gwenwyn. Cyfarfyddodd â'i dynged yn y modd mwyaf tawel ac urddasol.
Ganwyd Aristotle tua 384 c.c., yn nhref Stagira. Yr oedd yn ieuengach na Phlato; a bu yn ddisgybl iddo am ugain mlynedd. Yn wahanol i Plato, yr hwn a ddilynasai olygiadau ei athraw, Socrates, darfu i Aristotle ffurfio cyfundrefn o athroniaeth o'i eiddo ei hun. Bu Aristotle yn dra ffodus yn nechreu ei yrfa gyhoeddus i gael ei ddewis yn athraw i Alexander Fawr, oedd y pryd hyny yn fachgen. Bu yn ei ddysgu am wyth mlynedd, ac aeth yn ddwfn iawn i'w serchiadau. Wedi i Alexander esgyn i'r orsedd, dychwelodd Aristotle i Athen, a sefydlodd ysgol mewn llecyn coediog o'r enw Lyceum. Ei ddull o gyfranu addysg ydoedd drwy gerdded yn ol a blaen yn y rhodfeydd, ac am hyny gelwid ei ddisgyblion yn Peripatetics (cerddedwyr). Ysgrifenodd nifer anferth o lyfrau, amryw o ba rai sydd ar gof a chadw hyd y dydd hwn. Ysgrifenodd hanner cant o gyfrolau ar anianyddiaeth naturiol. Darfu i'w ddisgybl, Alexander Fawr, anfon allan filoedd o bobl i wahanol barthau o'r byd i gasglu specimen o greaduriaid byw, a ffrwyth yr anturiaeth ydyw y gwaith y cyfeiriwyd ato. Er heb fod yn fardd ei hun, ysgrifenodd lyfr ar "Reolau Barddoniaeth." Gallesid meddwl mai Plato fuasai yn ymgymeryd â gwaith o'r fath, oblegid y mae yn amlwg fod ei feddwl ef yn un awenyddol; y mae barddoniaeth yn disgleirio yn ei ryddiaith; ond am Aristotle, meddwl clir, ond oer, y rhesymegydd oedd yr eiddo ef, ac eto y mae yn ysgrifenu ar reolau barddoniaeth.
Ond Plato ydyw y mwyaf adnabyddus a'r helaethaf ei ddylanwad o holl athronwyr Groeg. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 429 c.c. Nid oedd ei ddechreuad yn ddinod fel Socrates; hanai o deulu pendefigaidd. Ei enw ar y cyntaf oedd Aristocles, ond cafodd ei newid i Plato. Ystyr yr enw ydyw llydan. Mae llawer o chwedlau yn cael eu dweud am dano yn ei febyd. Dyma un,—Tra yr oedd ei rieni yn offrymu i'r duwiau ar fynydd Hymettus, gadawsant y plentyn i orwedd ar wely o fyrtwydd. Yn y cyfamser, disgynodd haid o wenyn ar ei wefusau, ond ni wnaethant y niwed lleiaf iddo. Amcan y chwedl, dybygid, ydyw rhag-gysgodi melusder a swyn ei hyawdledd. Gallasai Plato, ar gyfrif ei safle gymdeithasol, ddringo i swyddi uchel yn y Llywodraeth, ond dewisodd neillduaeth. Yr oedd ei wlad ar y pryd newydd gael ei llethu gan ryfeloedd y Pelopponesus, ac yn cael ei harwain gan werinwyr penboeth, y rhai a geisient yr eiddynt eu hunain yn hytrach na lles y lluaws. Parodd sefyllfa pethau i Plato gashau bywyd swyddogol, ac ymneillduodd i efrydu gwladlywiaeth. Ffrwyth y llafur meddyliol hwn ydyw y Republic,—un o'r llyfrau hyny sydd yn cynnwys egwyddorion cyfansoddiadol pob teyrnas gyfiawn a da. "Y mae y deyrnas hon," ebai ef ei hun, "wedi ei sylfaenu ar reswm, ac nid ar nwydau dynion, ond nid ydyw i'w chael yn un man ar y ddaear." Mae'n gwestiwn a ydyw delfryd y Republic wedi ei gyrraedd eto. Pan yn ddyn ieuanc, daeth i gyffyrddiad â Socrates. Y mae chwedl dlos yn cael ei dyweyd ynglŷn â hyn. Dywedir i Socrates freuddwydio breuddwyd, a gwelai alarch ieuanc yn ehedeg tuag ato oddi ar allor un o'r duwiau, ac wedi gorffwys enyd ar ei fynwes, ehedodd i fro y cymylau, ac oddi yno arllwysai y fath fiwsig melodaidd nes swyno duwiau a dynion. Drannoeth, cafodd Plato ei ddwyn ger ei fron, a theimlai Socrates ar y pryd fod ei freuddwyd wedi cael ei gyflawni. Fel yna, y mae rhamant wedi paentio y berthynas oedd rhwng y ddau athronydd. Cafodd Plato ei symbylu at bynciau mawrion athroniaeth gan Socrates; ond ni fuasai Socrates byth yn cyrraedd y fath ddylanwad oni bai am waith Plato yn casglu, yn addurno, ac yn grymuso ei olygiadau. Bu efe am ddeng mlynedd yn eistedd wrth draed Socrates, hyd farwolaeth y doethawr. Wedi hyny, ymneillduodd i dref o'r enw Megara, dipyn o bellder o Athen, lle yr ymgysegrodd i'r gorchwyl o ysgrifenu y gweithiau hyny sydd yn meddu y fath ddylanwad ar efrydwyr athronyddol ym mhob parth o'r byd hyd heddyw, ac a barhant i lefeinio meddyliau hyd ddiwedd amser.
Gwnaeth Plato wasanaeth mawr i'w oes trwy ddyrchafu meddyliau dynion at yr ysbrydol a'r anweledig. Y mae crefydd yn ffurfio rhan fawr o'i athroniaeth. Yn mysg pethau ereill, sonia yn fynych am anfarwoldeb. Ceir hyn, yn benaf, yn y llyfr a elwir Ymddyddanion. Yn hwnnw, y mae yn siarad gan mwyaf ym mherson Socrates. Fel y nodwyd o'r blaen, cafodd Socrates ei ddedfrydu i farw oblegid ei olygiadau crefyddol. Ond cafodd adeg ei farwolaeth ei ohirio dros dymor, am y rheswm a ganlyn,—Arferai yr Atheniaid anfon llong unwaith yn y flwyddyn i Delos, yn llwythog gydag anrhegion i'r duw Apolo. A phan gychwynai y llestr, yr oedd y dref i gael ei phuro; nid oedd un dienyddiad i gymeryd lle hyd nes y deuai yn ol. Condemniwyd Socrates pan oedd y llestr hon ar fin cychwyn, a bu yn hwy nag arferol ar ei thaith. Yn y cyfamser, yr oedd cyfeillion Socrates yn bur awyddus i'w ryddhau trwy lwgr-wobrwyo y ceidwad, ond ni wnai efe gydsynio â hynny. Ei resymau dros beidio cydsynio oedd, yn gyntaf, ei ddyledswydd tuag at ei wlad, os oedd yr awdurdodau wedi ei gondemnio, dylasai ufuddhau, a phlygu i'w dynged; yn ail, os troseddai ddeddfau ei wlad, y byddai ei chwaer ddeddfau yn sicr o'i gondemnio mewn byd arall. Gofynwyd iddo ar un achlysur, a ydoedd yn credu y byddai yr enaid fyw byth. Atebodd yn gadarn ei fod; ond, fel y gallesid meddwl, hynod o eiddil ydyw ei resymau. Nid oedd bywyd ac anllygredigaeth wedi cael eu dwyn i oleuni y pryd hyn. Ambell i belydryn oedd yn tywynnu ar y meddwl dynol trwy nos paganiaeth. Dyma un o resymau Socrates. Beth sydd yn cadw bywyd yn y corff? meddai. Ateb,—Yr enaid. A ydyw bywyd yn un o elfenau hanfodol yr enaid? Ydyw. Yna, nis gall yr enaid ei hun farw. Fel yna yr oeddynt hwy yn ymresymu y pwnc. Nid ydyw Plato yn gallu dirnad y gwirionedd fod yn rhaid i ddrwg gael ei gosbi, fod llywodraeth foesol Duw yn gofyn am ryw ystad lle y caiff pob camwri ei uniawni, rhinwedd ei wobrwyo, a'r lle y caiff y bywyd dynol ymddatblygu yn oes oesoedd.
Yr oedd Socrates a Phlato, yn ol y goleuni a feddent, yn credu mewn anfarwoldeb personol, ac yn dyheu am dano. Mae lle i ofni fod doethion Groeg yn peri cywilydd wyneb i luaws o ddoethion yr
oes oleu hon." Mae llawer o honynt hwy yn diddymu anfarwoldeb personol, ac yn gwynfydu uwchben yr hyn a elwir ganddynt yn anfarwoldeb dylanwad. Eu hiaith ydyw,
"May I reach
That purest heaven, and be to other souls
That cup of strength in some great agony.
Be the sweet presence of a good diffused,
And in diffusion ever more intense,
So shall I join the choir invisible,
Whose music is the gladness of the world."
Yn ol yr athrawiaeth yna, nid oes dim yn bod wedi'r "cyfnewidiad rhyfedd" ond enw, ac yn ol fel y byddo dyn wedi llwyddo i wneyd marc yn y byd, y cedwir hwnnw rhag cael ei olchi ymaith yn llwyr gan dònau amser. Anfarwoldeb yn wir! Gwell genym anfarwoldeb Plato a Socrates na hwnyna; ond mwy gogoneddus a mil melusach ydyw athrawiaeth yr Hen Lyfr na'r cwbl ynghyd,—" Ac nis gallant farw mwyach." Diolchwn am y goleuni sydd yn ein meddiant, a rhodiwn ynddo.
*******
Bellach, yr ydym yn terfynu y gyfrol fechan hon o enwogion gwahanol wledydd a chyfnodau. Yr ydym wedi eu dethol o lawer dosbarth a gradd. Yn eu mysg, ceir yr esboniwr, y seryddwr, y gwladweinydd, y duwinydd, y llenor, a'r bardd. Hyderwn fod aros yn eu cwmni wedi bod yn foddion i weini rhyw gymaint o fwynhad, ac i gynyrchu edmygedd at yr hyn sydd fawr, a da, a dyrchafedig.
GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.
Nodiadau
golyguBu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.