Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron/Angau
← Gofid | Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron gan Anhysbys |
→ |
Angau
NID af ddim i'm gwely heno,
Nid yw'r un 'rwy'n garu ynddo,
Mi orweddaf ar y garreg,—
Tor, os torri, 'nghalon fwyndeg.
Nid oes rhyngof ag ef heno
Onid pridd ac arch ac amdo,
Mi fûm lawer gwaith ymhellach,
Ond nid erioed â chalon drymach.
Yr ochor hyn i'r clochdy
Mae'r atgor gora yng Nghymru,
A rhwng hynny â min y môr
Mae calon oer yn llechu.
Cleddwch fi, pan fyddwyf farw,
Yn y coed dan ddail y derw,
Chwi gewch weled llanc penfelyn
Ar fy medd yn canu'r delyn.
Rhodio'r oeddwn fynwent eglwys
I 'mofyn am le teg i orffwys,
Trawn fy nhroed wrth fedd oedd yno,
Clywn fy nghalon drom yn neidio.
Gofyn wnes i'r gynulleidfa,
"Pwy yw'r un a gladdwyd yma? '
Ac atebai rhyw ddyn ynfyd,
"Dyma'r fan lle mae d' anwylyd."
Mae cyn amled yn y farchnad
Groen yr oen â chroen y ddafad,
A chyn amled yn y llan
Gladdu'r ferch â chladdu'r fam.
Pan basio gŵr 'i ddeugain oed,
Er bod fal coed yn deilio,
Fe fydd sŵn 'goriadau'r bedd
Yn peri i'w wedd newidio.
* * *
Ar ryw noswaith yn fy ngwely,
Ar hyd y nos yn ffaelu cysgu,
Gan fod fy meddwl yn ddiama'
Yn cydfeddwl am fy siwrna'.
Galw am gawg a dŵr i 'molchi,
Gan ddisgwyl hynny i'm sirioli,
Ond cyn rhoi deigryn ar fy ngruddiau
Ar fin y cawg mi welwn Angau.
Mynd i'r eglwys i weddïo,
Gan dybio'n siwr na ddeuai yno,
Ond cyn im godi oddi ar fy ngliniau
Ar ben y fainc mi welwn Angau.
Mynd i siambar glos i ymguddio,
Gan dybio'n siwr na ddeuai yno,
Ond er cyn glosied oedd y siambar
Angau ddaeth o dan y ddaear.
Mynd i'r môr a dechrau rhwyfo,
Gan dybio'n siwr na fedrai nofio,
Ond cyn im fynd dros lyfnion donnau
Angau oedd y capten llongau.