Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron/Gofid

Hiraeth Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron

gan Anhysbys

Angau

Gofid

O F'ANWYLYD, cyfod frwynen
Ac ymafael yn ei deupen;
Yn ei hanner tor hi'n union,
Fel y torraist ti fy nghalon.

Maen' hw'n dwedyd y ffordd yma
Nad oes dim mor oer â'r eira;
Rhois ychydig yn fy mynwes,
Clywn yr eira gwyn yn gynnes.

Dod dy law, on'd wyt yn coelio,
Dan fy mron, a gwylia 'mrifo;
Ti gei glywed, os gwrandewi,
Sŵn y galon fach yn torri.

Llun y delyn, llun y tannau,
Llun cyweirgorn aur yn droeau,
Tan ei fysedd O na fuasai
Llun fy nghalon union innau.

Gwynt ar fôr a haul ar fynydd,
Cerrig Ilwydion yn lle coedydd,
A gwylanod yn lle dynion,
Och, Dduw, sut na thorrai 'nghalon?

Ow, fy nghalon, tor os torri,
Pam yr wyt yn dyfal boeni
Ac yn darfod bob yn 'chydig
Fel ia glas ar lechwedd llithrig?


Dacw lwyn o fedw gleision,
Dacw'r llwyn sy'n torri 'nghalon,—
Nid am y llwyn yr wy'n ochneidio
Ond am y ferch a welais ynddo.

Pe bai un o'r meini mwya
Sy oddi yma i droed yr Wyddfa
Yn fy mol lle bu fy nghalon,
Fe'i gwnâi dristwch hwnnw'n sgyrion.

Mae fy nghalon i cyn drymed
A'r maen mwya sy yn y pared,
A chyn llawned o feddyliau
Ag yw'r gogor mân o dyllau.

Fe gwn yr haul pan ddaw boreddydd,
Fe gwn y tarth oddi ar y dolydd,
Fe gwn y gwlith oddi ar y meillion,
Gwae fi, pa bryd y cwn fy nghalon?

Mi wrthodais, ffôl yr oeddwn,
Ferch a garai'r tir a gerddwn,
Ac a gerais, do, 'n garedig,
Ferch a'm gwerthodd am ychydig.

Maent yn dwedyd am yr adar
Nad oes un o'r rhain heb gymar—
Gwelais dderyn brith y fuches
Heb un gymar na chymhares.


Mynd i'r ardd i dorri pwysi,
Pasio'r lafant, pasio'r lili,
Pasio bwns o rosys cochion—
Torri bwns o ddanadl poethion.

Ni chân cog ddim amser gaea',
Ni chân telyn heb ddim tanna',
Ni chân calon, hawdd ich wybod,
Pan fo galar ar ei gwaelod.


* * *

Mae 'nghalon i cyn drymed
A'r march sy'n dringo'r rhiw
Wrth geisio bod yn llawen—
Nis medraf yn fy myw.
Mae f'esgid fach yn gwasgu
Mewn man nas gwyddoch chwi,
A llawer gofìd meddwl
Sy'n torri 'nghalon i.