Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron/Gogan
← Rhyddid a Hoen | Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron gan Anhysbys |
Hiraeth → |
Gogan
BRITH yw sêr ar noswaith olau,
Brith yw meillion Mai a blodau,
Brith yw dillad y merchedau,
A brith gywir ydynt hwythau.
Mae gennyf gariad yn Llanuwchllyn
A dwy siaced a dau syrcyn,
A dwy het ar ei helw ei hun
A dau wyneb dan bob un.
Mae fy nghariad wedi sorri,
Ni wn yn wir pa beth ddaeth ati,
Pan ddaw'r gwybed bach â chywion
Gyrraf gyw i godi 'i chalon.
Mi ddarllenais ddod yn rhywfodd
I'r byd hwn wyth ran ymadrodd;
Ac i'r gwragedd (mawr lles iddynt),
Fynd â saith o'r wyth-ran rhyngddynt.
Tebyg yw dy lais yn canu
I gog mewn craig yn dechrau crygu,
Dechrau cân heb ddiwedd arni,—
Harddach fyddai iti dewi.
On'd ydyw yn rhyfeddod
Fod dannedd merch yn darfod,
Ond, tra bo yn ei genau chwyth,
Na dderfydd byth mo'i thafod?
Peth ffein yw haul y bora',
Peth ffein yw blodau'r 'fala',
Peth ffein yw cariad fo gerllaw,
Dyn helpo'r sawl fo bella.
Dacw 'nghariad yn mynd heibio,
A cheffyl glas ei feistr tano,
A'i ddwy law ar ben ei glun
Fel pe bae'n farch iddo'i hun.
Ni buasai raid it, ferch fonheddig,
'Liwied imi 'ngheffyl benthyg;
Maen' hw'n dwedyd hyd y pentre
Y gallwn gael dy fenthyg dithe.
Rhodio'r coed erioed yr oeddwn,
A chael dewis pren a fynnwn,
Fe ddewisais fonyn draenen
Yn lle llithrig lathraid onnen.
Pa waeth imi lodes wledig
Gyda'r nos na merch fonheddig?
Fe eill honno fod yn fwynach,
Ond bod crys y llall yn feinach.
Maen' hw'n dwedyd ac yn dwndwr
Mai yn y coed y bûm i neithiwr,
Gwir y dwedant wrth ddweud felly—
Coed oedd deunydd pyst fy ngwely.
Gorau, gorau, gorau, gorau,
Gael y wraig yn denau, denau,
Ac yn ddrwg ei lliw a'i llun—
Mi gaf honno i mi fy hun.
Tri pheth sy'n uchel ryfedd—
Cader Idris draw'n y Gogledd,
Pen Pumlumon, hynod fynydd,
A merch â het o'r ffasiwn newydd.
Tri pheth sydd hawdd eu siglo—
Llong ar fôr pan fo hi'n nofio,
Llidiart newydd ar glawdd cerrig,
A het ar gorun merch fonheddig.
Tri pheth a fedra' i orau—
Canu telyn heb ddim tannau,
Darllen papur gwyn yn groyw,
A marchogaeth ceffyl marw.
Tri pheth sy gas wrth garu—
Oeri traed a cholli cysgu,
Tan y bargod yn dal defni,
A'r ferch yn chwerthin yn y gwely.
Tri pheth sydd anodd nabod—
Dyn, derwen a diwrnod,
Mae'r dydd yn hir a'r pren yn gau
A'r dyn yn ddau wynebog.
Mi feddyliais, ond priodi,
Na chawn ddim ond dawnsio a chanu;
Ond beth a ges ar ôl priodi,
Ond siglo'r crud a sïo'r babi.
Mi rois fy llaw mewn cwmwl dyrys,
Deliais fodrwy rhwng fy neufys;
Dywedais wers ar ôl y person,—
Y mae'n edifar gan fy nghalon.
Mi rois goron am briodi:
Ganwaith bu'n edifar genni;
Mi rown lawer i ryw berson,
Pe cawn i 'nhraed a'm dwylo'n rhyddion.
Gwyn fy myd pe Iwfiai'r gyfraith
Imi briodi dau ar unwaith;
'Rwyf yn caru dau 'r un enw,
Siôn ŵr ifanc, Siôn ŵr gweddw.
Gwae fi na bawn yn gwybod
Am ffordd, heb ddod yn briod,
I gael y canpunt sydd yn stôr
Gan ferch yn ochor Llwydcoed.