Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron/Rhyddid a Hoen
← Doethineb Profiad | Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron gan Anhysbys |
Gogan → |
Rhyddid a Hoen
CANU wnaf a bod yn llawen
Fel y gog ar frig y gangen;
A pheth bynnag ddaw i'm blino
Canu wnaf a gadael iddo.
Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon',
Weithiau i'r môr ac weithiau i'r mynydd,
A dod adre yn ddigerydd.
Peth braf yw haf a hawddfyd,
Peth braf yw ysgawn iechyd,
Peth braf yw arian yn y pwrs,
Peth braf yw cwrs yr ienctid.
Diofal yw'r aderyn,
Ni hau, ni fed un gronyn,
Heb ddim gofal yn y byd,
Ond canu hyd y flwyddyn.
Fe fwyty 'i swper heno,
Ni ŵyr ym mhle mae'i ginio,
Dyna'r modd y mae e'n byw,
A gado i Dduw arlwyo.
Fe eistedd ar y gangen,
Gan edrych ar ei aden,
Heb un geiniog yn ei gôd,
Yn llywio a bod yn llawen.
Da gan adar mân y coedydd,
Da gan ŵyn feillionog ddolydd,
Da gen i brydyddu'r hafddydd
Yn y llwyn a bod yn llonydd.
Gwyn fy myd pe medrwn hedeg
Bryn a phant a goriwaercd,
Mynnwn wybod er eu gwaetha
Lle mae'r gog yn cysgu'r gaea'.
Yn y coed y mae hi'n cysgu,
Yn yr eithin mae hi'n nythu;
Yn y llwyn tan ddail y bedw,
Dyna'r fan y bydd hi farw.
Llawer gwaith bûm yn dyfalu
Lle mae'r adar bach yn cysgu,
Bcth a gânt y nos i'w swper,
Pwy a'u dysgodd i ddweud eu pader.
Canmol deryn bach am ganu,
Canmol deryn bach am ddysgu,
Eto hyn sydd yn rhyfeddol—
Nid â deryn bach i'r ysgol.
Y sawl a dynno nyth y frân,
Fe gaiff fynd i uffern dân;
Y sawl a dynno nyth y dryw,
Ni chaiff weled wyneb Duw.
Mi fûm lawer bore difyr
A dechreunos yn fwy sicir,
Rhwng Penceint a Phlas Penmynydd
Yn gwrando ar fwynion bynciau'r hedydd.
Llawer gwaith y bu'n fy mwriad
Gael telynor imi'n gariad,
Gan felysed sŵn y tanne'
Gyda'r hwyr a chyda'r bore.
Rhaid i gybydd gadw'i gaban,
Rhaid i ienctid dorri allan,
Hyd fy medd mae'n rhaid i minnau
Ganlyn mwynion dynion dannau.
Mwyn yw peraidd leisiau'r adar
Ar y clyw ar fore claear,
Gwell gen i yw clywed englyn
Mewn aceniad gyda'r delyn.
Hwyl i'r dwylo chware'r delyn,
Hwyl i'r pennill, hwyl i'r englyn,
Hwyl i yrru'r beirdd o'u hwyliau,
Hwyl i'w nôl hwy yn eu holau.
Da gan ddiogyn yn ei wely
Glywed sŵn y droell yn nyddu,
Gwell gen innau, dyn a'm helpo,
Glywed sŵn y tannau'n tiwnio.
Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd, cân ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf tirion
Sy yn y nef ymhlith angylion.
Yr un ni charo dôn a chaniad
Ni cheir ynddo naws o gariad;
Fe welir hwn, tra byddo byw,
Yn gas gan ddyn, yn gas gan Dduw.
Mae Ffair y Borth yn nesu,
Caf deisen wedi ei chrasu,
A chwrw poeth o flaen y tân,
A geneth lân i'w charu.