Prif Feirdd Eifionydd/Hercwlff a'r Certwynwr

Yr Asyn a'r Colwyn Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Y Fam a'r Blaidd

Hercwlff a'r Certwynwr.

Yr oedd gynt amaethydd.
Yn gyrru certwyn drom,
Ar hyd ffordd serth a chleilyd,
Yn llawn o laid a thom:
Fe lynai yr olwynion
Mewn rhigol lawn o glai;
Nid âi'r ceffylau 'mhellach,
Ac nid oedd arnynt fai.
Ar hyn y swrth Gertwynwr

Heb ymdrech dim ei hun,
Weddïai ar i Hercwlff
Ddod ato mewn rhyw lun:

"O Hercwlff, gwrando'm llefain,
A thyn y drol o'r baw;
Y cryfaf wyt o'r duwiau;
Anorfod nerth dy law."

Disgynai Hercwlff ato
Mewn munud awr o'r nef,
Ac â lleferydd sarrug
Yn llym ceryddai ef:
"Ai disgwyl 'rwyt i'r duwiau
Roi help i'th ddiogi di,
Y dyn a 'mdrecho'n unig
Gaiff gymorth gennym ni.

Dod d' ysgwydd wrth yr olwyn,
Ac arfer egni'th nerth,
Gan fod y ffordd yn anhawdd,
Yn gleilyd ac yn serth;
Os methi a llwyddo felly,
Gweddïa am help y nef;
Ond am y weddi segur,
Gwrthodir gwrando'i llef."

Nodiadau golygu