Prif Feirdd Eifionydd/Morglawdd Madog

Beddargraff Mrs Jones, Abercin, Llanystumdwy Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Eben Fardd

Morglawdd Madog.

DRAW ar led drwy y gwledydd—mewn monwent,
Mewn maenawr a gelltydd,
Drwy Eifion a Meirionydd,
Gwiw son am Dre Madog sydd.

Cnydau perllannau llawnion—a gwenith,
Os nid gwinwydd ffrwythlon,
Gerddi a dolydd gwyrddion.
Sy'n awr lle bu'r dyrddfawr don.

Trwy fâd lafurwaith Madog,—er mawrlen
Lle bu'r morlif tonnog,
Dilys ceir coedydd deiliog,
A byr—gyll man lle cân cog.

Am faith lafurwaith drwy for—y sonir
Dros wyneb ein goror,
Er gorfod tonnau garwfor,
Gwneir morglawdd dan nawdd ein Ior.

Drwy Brydain der ei brodir,
Ni chaf, ni welaf yn wir,
Ail yn hawdd i'r morglawdd mawr
Yn derfyn cenllif dirfawr.

Deued Mon a Meirionydd—dir eirioes,
Doed Eryri fynydd,
Doed Arfon ag Eifionydd
I'r gwaith ar daith yr un dydd.


Nodiadau golygu