Prif Feirdd Eifionydd/Wrth fyned i gysgu
← Y cnu gwlân | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Y bore wrth godi → |
Wrth fyned i gysgu.
I TI, Dad, eto dodaf—ogoniant
Ac yna mi gysgaf;
Ac wedi nos codi wnaf.
Am Dduw eilwaith meddyliaf.
Dyro Iesu dy nawdd drosof,—maddeu
Fy meddwl a'm hangof;
Rhin dy waed nac aed o'm côf,
Gwnaed gannaid enaid ynnof.