Prif Feirdd Eifionydd/Y cnu gwlân

Y Gwanwyn Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Wrth fyned i gysgu

Y Cnu Gwlan.

DYMA glod am y gwlan,—i Robert Hughes.
Mae'r bri teg yn gyfan;
Canu mud am y cnu mân,
O daw eisiau dwy hosan!

O edefyn cochddu dafad,—gellir
A phum gwiallen wastad,
Wych blethu a chwbl weithiad
Hosan glws nes synnu gwlad.

Hifiwyd draw'r ddafad druan,—â gwellaif
Hi gollodd ei phurwlan;
Och! fynnu gwisg ei chefn gwan
I'w hasio i mi'n hosan.


Nodiadau golygu