Prif Feirdd Eifionydd/Y Gwanwyn (Nicander)

Cywydd i ofyn Cosyn Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Y Bwch a'r Llwynog

Y Gwanwyn.

GWANWYN Eden sy'n gwenu
Ar lawr ein gwlad geinfad gu;
Blodau o hadau Eden
Ddaeth yma i Walia wen;
Ein llafar adar ydynt
Hil perchen gwig Eden gynt;
Ein mwyalchen, cywen cyw
Mwyalchen Eden ydyw.
Yn Eden ein ehedydd
A bynciai pan dorrai'r dydd;
Cân yn awr acw'n y nen
Beroriaeth odiaeth Eden.


Nodiadau golygu