Prif Feirdd Eifionydd/Y Gwybed a'r Llestr Mêl

Pwyllgor y Llygod Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Y Llew a'i Gynghorwyr

Y Gwybed a'r Llestr Mel.

GOSODODD gwraig masnachydd
Yr hon a flinid beunydd.
Gan wybed mân yn drygu'r bwyd a'r eiddo,
Lestryn o fel, i'w dal ac i'w distrywio.
Aroglent hwythau hwn, ac aent i'w ganol,
Heb ddeall dim o'r brâd na'r amcan marwol
Bychan y gwyddent hwy mai magl oedd hon
I ddal a lladd eu bywyd bychan llon.
Hwy sugnent y mêl yn awyddus;
O! 'r ydoedd e'n bêr ac yn flasus!
"Dyma felys bryd!
Deuwn yma beunydd:
Dyma hufen byd!"
Meddent wrth eu gilydd.

Ond glynodd, druain! yn y mêl eu coesau,
A glynodd eu hadenydd bach ynghyd:
Nis gallai egni bach eu hymdrechiadau
Eu cael yn rhydd drwy foddion yn y byd:
Tagasant oll ym moddfa'r melusderau.
VOnd clywyd un yn sibrwd ar y pryd,
"Mor wael ac mor ofer
Fu'n gwaith ac mor ynfyd!
Am funud o bleser
Collasom ein bywyd!"


Nodiadau golygu