Prif Feirdd Eifionydd/Y Morgrugyn a Sioncyn y Gwair
← Y Bwch a'r Llwynog | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Y Dyn a'r Epa → |
Y Morgrugyn a Sioncyn y Gwair.
Ryw dro, fel mae'r gair,
Daeth Sioncyn y gwair
(A gyfenwir yn Geiliog y Rhedyn,)
A'i wep yn brudd-lwyd,
O newyn am fwyd,
At daclus dŷ clyd y Morgrugyn.
'Roedd eira tew gwyn
Ar bant ac ar fryn,
A 'sgrytian gan anwyd 'roedd Sioncyn.
"A gaf fi ddarn o heidden,
I mi a'r plant rhag angen,—
'Rwy'n farw bron gan oerni a phoen,—
Neu ddarn o groen pytaten?"
"Lle'r oeddit ti, 'r cnaf,
Ar dywydd teg, braf,
Yn lle casglu digon ar hinon yr haf?"
Wel, gyd a'ch cennad, Ewa.
Nid oeddwn i'n segura,
Ond canu'n fwyn mewn rhos—wair tew,
Nes daeth y rhew a'r eira."
"He! felly!—'r neb sy ffoled
A dilyn cerdd a baled,
Yn lle hel trysor yn yr haf,
Drwy dymor gaeaf dawnsied."