Rhamant Bywyd Lloyd George (Testun cyfansawdd)

Rhamant Bywyd Lloyd George (Testun cyfansawdd)

gan Beriah Gwynfe Evans

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Rhamant Bywyd Lloyd George

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Beriah Gwynfe Evans
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
David Lloyd George
ar Wicipedia



RHAMANT BYWYD

LLOYD GEORGE





GAN

BERIAH GWYNFE EVANS

AWDWR

"Dafydd Dafis, Hunan-Gofiant Ymgeisydd Seneddol," "Diwygwyr Cymru,",
."Arwisgiadau Tywysogion Cymru,",

Y Dramodau Hanesyddol "Caradog." "Llewelyn Ein Llyw Olaf,"
"Glyndwr, Tywysog Cymru," "Esther." (Drama Ysgrythyrol), etc., etc

UTICA, NEW YORK, U. S. A.

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN

THOMAS J. GRIFFITHS, SWYDDFA'R "DRYCH"

1916

Copyrighted 1916, by Thomas J. Griffiths,

Utica, N. Y.

CYNWYSIAD

DARLUNIAU

Cartref Maboed Mr Lloyd George yn Llanystumdwy
A Counter-Attack (Cartoon)
Mr William George, tad Mr George
Mrs George, mam Mr Lloyd George
Mr Richard Lloyd, Ewythr Mr Lloyd George
Mr Lloyd George Gartref
Mrs Lloyd George
The Archdruid of Downing Street (Cartoon)
Syr Henry Dalziel, Mr Herbert Lewis a Mr Lloyd George yn Buenos Aires
Major Richard Lloyd George
Miss Lloyd George mewn Gwisg Gymreig
Lieutenant Gwilym Lloyd George
Miss Megan Lloyd George
Mr Wm George, unig frawd Mr Lloyd George
Mr Lloyd George a'i Fab yn Golffio
A Hungry Brood (Cartoon)

GAIR AT GYMRY'R AMERICA.

PAN yn cyflwyno "Rhamant Bywyd Lloyd George" i'w gyd-wladwyr yn yr Unol Dalaethau, gweddus yw i'r awdwr roi gair o eglurhad paham y ceisia ddwyn gwron Cymru i sylw ei gefndryd yr ochr draw i'r Werydd, a phaham yr anturia'r awdwr yntau eu hanerch. Am y cyntaf o'r ddau, nid oes angen ymddiheurad o gwbl. Hyd yn nod pe na bae Mr. Lloyd George yn ddim ond Cymro enwog, yn ddim ond gwr i "Gymru fechan dlawd," buasai rhaid i galon fawr "Cymry yr America" gynesu tuag ato. Canys mae pob gwir Gymro yn yr Unol Dalaethau, yn ogystal a'i frawd yn Nghymru, yn medru canu o'i galon "Mae Hen Wlad fy Nhadau yn anwyl i mi." Gan nad i ba le bynag yr elo, ac yn mha un o bedwar ban byd y bo ei breswyl.

"Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ol"

i'r hen "Ynys Wen," i "Baradwys y Bardd," i wlad Llewelyn ac Owain Glyndwr, ac i'r fro o'r hon y daeth ei dadau yntau.

Ond heblaw hyny, mae Mr. Lloyd George erbyn heddyw wedi tyfu i fod yn fwy na dyn cenedl, yn fwy hyd yn nod na dyn Ymerodraeth. Rywsut mae cenedloedd rhydd y byd megys yn hawlio rhan yn Lloyd George fel arwr gwerin, ac nid fel dyn lle. O'r werin y cododd, y werin a'i carodd a gerir ganddo yntau. Ac yn sicr yn ngweriniaeth fawr America, ac yn enwedig i'r rhan hono o'i dinasyddion a hanant o'r un gwaed Cymreig ag yntau, rhaid fod enw a gweithredoedd, rhinweddau a ffaeleddau, pethau da a phethau drwg Lloyd George yn meddu dyddordeb a swyn.

Ceisir gosod y rhai hyn oll allan yn deg, yn onest, yn dyner, ac yn ddi-wenwyn, yn y llyfr hwn.

Ni chafodd yr un llyfr a ddaeth allan o'r wasg Seisnig o fewn yr ugain mlynedd diweddaf dderbyniad mor gyffredinol a di-eithriadol gynes gan feirniaid llenyddol Lloegr a Chymru, yr Alban a'r Werddon, ag a gafodd "The Life Romance of Lloyd George."[1] Cydnebydd pawb o honynt mai hwn yw y darlun mwyaf cywir, teg, cyflawn, a byw o'r Cymro byd-enwog, a gyhoeddwyd erioed.

Am danaf fy hun y prif gymwysder a feddwn i ysgrifenu'r llyfr oedd y cysylltiad agos a fodolodd am gynifer o flynyddoedd rhyngwyf a Mr. Lloyd George. Bum fwy yn ei gwmni, ac yn agosach yn ei gyfrinach, na nemawr i neb arall. Cydymgyngorasom ganwaith am ei bolisi a'i waith ar ran Cymru, y wlad a garem ein dau mor fawr ac mor angerddol. Nid oedd unrhyw ran nac arwedd o actau Apostol Cymru na wyddwn am dano mor llwyr ag y gwyddwn am fy ngweithredoedd fy hun. Felly, er nad wyf yn bradychu unrhyw gyfrinach yn y llyfr hwn, yr wyf yn adrodd rhai pethau na chyhoeddwyd mo honynt erined o'r blaen, ac na wyddai neb am danynt ond Mr. Lloyd George ei hun, ei gareion agosaf, a minau.

Pan geisiodd perchenog y "Drych" genyf droi'r gwaith i'r Gymraeg i'w gyflwyno i Gymry'r America, cydsyniais am ddau reswm mawr. Y cyntaf oedd fod Lloyd George yn anwyl gan Gymry'r America. Yr ail yw, fod America a'i Chymry yn anwyl iawn genyf finau. Tir cysegredig i mi yw yr Unol Dalaethau. Yna mae fy Ogof Macpelah, ac er nad tebyg y gwelaf byth mo'r wlad a llygad o gnawd, yn ei phriddellau hi y gorwedd llwch anwyl fy nhad a mam, fy nhaid a fy nain, a llu o'm cyfathrach agosaf. Mae i mi heddyw ddeg o berthynasau agos yn ol y cnawd yn yr Unol Dalaethau am bob un o'r cyfryw ag sydd genyf yn Nghymru. Ymfudodd fy nheulu yn mron yn gyfan i'r Unol Dalaethau dros bedwar ugain mlynedd yn ol, gan mwyaf o ardal gysegredig Llangeitho. Hwynthwy a sefydlasant, a ddadblygasant, ac yn ymarferol, a berchenogasant, swydd Jackson, Ohio. Erbyn heddyw, mae eu plant a'u hwyrion wedi gwasgaru dros hyd a lled y Weriniaeth fawr. O bryd i bryd daeth eraill o'm perthynasau agosaf dros y Werydd i wlad fawr machlud haul; fel, erbyn heddyw, nid oes odid dalaeth yn y Gogledd na'r De, yn y Dwyrain na'r Gorllewin, na cheir ynddi rai o'm llinach. Er nad yw fy enw i, o bosibl, yn adnabyddus i lawer o Gymry'r America o'r tu allan i gylch fy nghyfathrach, yr oedd enw fy nhad yn adnabyddus i filoedd lawer o honynt, a gwn fod ei enw nid yn unig yn barchus, ond yn anwyl heddyw ar aml i aelwyd na chlywodd erioed son am danaf fi. Yn nyddiau eu henaint daeth fy nhad a fy mam i'r wlad yna, at fy unig chwaer, priod "Caradog Gwent," a breswyliai y pryd hwnw yn Jackson, O. Symudasant wedi hyny i Arkansas, lle y claddwyd fy nhad, fy mam, a'm brawdyn-nghyfraith. Mae fy chwaer, a hithau bellach yn tynu ar ei 80 mlwydd oed, yn fyw pan mae y llinellau hyn yn cael eu hysgrifenu.

Fel Evan Evans, Nantyglo' yr adwaenid fy nhad yn y wlad hon ac yn yr Unol Dalaethau. Pregethodd yn ei ddydd yn mhob capel yn Nghymru perthynol i'r Annibynwyr ac i'r Methodistiaid Calfinaidd. Pregethodd yn nghapeli y ddau enwad drachefn wedi symud i'r America. Nid gormod yw dweyd nad oes yn fyw heddyw yn mhlith Cymry'r America yr un gweinidog a ymwelodd yn bersonol a mwy o sefydliadau Cymreig, a deithiodd drwy fwy o nifer o Dalaethau gwahanol, nac a bregethodd mewn mwy o gapeli gwahanol yn yr Unol Dalaethau, nag a wnaeth fy nhad, y Parch. Evan Evans, Nantyglo. Boed bendith Duw ar y wlad a roddodd iddo dderbyniad mor barod, croesaw mor gynes, a pharch mor drylwyr ac haeddianol.

A bum inau yn mron a dod yn ddinesydd o'r Unol Dalaethau. Tua deugain mlynedd yn ol, bum o fewn ychydig i gytuno i fod yn olygydd y "Drych." Ond cododd rhwystrau, a phenderfynodd Rhagluniaeth fod fy mywyd i gael ei dreulio yn Nghymru.

Maddeued y darllenydd i mi am son am y pethau hyn; ond gan nad oedd genyf neb arall i'm "hintrodiwsio" i Gymry'r America, rhaid oedd i mi wneyd hyny fy hun modd y gwypont pwy, a pha fath un, yw yr hwn sy'n cyflwyno "Rhamant Bywyd Lloyd. George" i'w sylw.

BERIAH GWYNFE EVANS.

Caernarfon, Gogledd Cymru.
Rhagfyr, 1915.

A COUNTER-ATTACK

The Tory Party: "Deary me! What a dreadful, savage, dangerous creature! And we were only beating him with a broomstick!"

(The Tory criticism of Mr. Lloyd George's speech at the National Liberal Club on Tuesday is on the lines of "Cet animal est mechant; quand on l'attaque; il se defend.")
Drwy Ganiatad "The Westminster Gazette" (Gorphenaf 3, 1913).

RHAMANT BYWYD

LLOYD GEORGE

PENOD I.

Y DYN A'I NODWEDDION.

NID anfri ar athrylith Mr. Lloyd George yw dweyd mai trwy ddyoddefiadau pobl eraill yr ysbrydolwyd ef, ac mai i aberth eraill y rhaid iddo ddiolch am ran helaeth o'i lwyddiant. Nid yw y "cyhoeddusrwydd di-dosturi" y soniai yr Arlywydd Wilson am dano, a'r hwn fel chwil-oleu tanbaid a fyn dreiddio i bob cell ddirgel o'i fywyd, yn ddim amgen na rhan o'r pris y gorfu i Mr. Lloyd. George, fel pob gwr cyhoeddus arall, dalu am ddringo i safle mor uchel; eto gwelir yn y goleu dysglaer hwnw effeithiau a'n galluogant i ddeall yn well ddadblygiadau ei ddeng mlynedd ar hugain o waith cyhoeddus, a throion dyrys ei yrfa yn y Senedd am chwarter canrif.

Yn ngoleuni y cyhoeddusrwydd hwn gwelir ei fod, o'i fabandod, yn nodedig o barod i gymeryd argraff dylanwad ei amgylchfyd. Cyffroid ef bob amser gan unrhyw arddangosiad o ormes; apeliai cri y gorthrymedig yn gryf ato erioed. Gwelodd yr ormes a chlywodd y cri hwnw pan yn blentyn; cyferchir ef heddyw ganddynt. Gwelodd ffermwyr Cymru yn cael eu troi allan o'u tiroedd yn 1868 am ddarfod iddynt bleidleisio yn ol eu cydwybod ond yn groes i ddymuniad eu meistri tir; cymellodd hyny ef yn foreu i gynyrfu am ddiwygio Deddfau'r Tir yn Nghymru. Gwaith Germani yn treisio Belgium yn 1914 a'i trawsffurfiodd i fod yn un o gefnogwyr mwyaf brwd y Rhyfel yn Ewrop, fel y gwnaeth goresgyniad y Transvaal gan Brydain ef yn Apostol Heddwch yn 1900. Cri y milwr Prydeinig yn y ffosydd yn Ffrainc sydd heddyw wedi ei wneyd yn Weinidog Cyfarpar Rhyfel, yn creu magnelau anferth a phylor nerthol megys a gair ei enau.

Ymdrinir yn llawnach a'r dadblygiadau hyn, ac eraill, yn mhellach yn mlaen; ond dylid dweyd yn y fan yma y rhaid meddu adnabyddiaeth bersonol agos iawn a Mr. Lloyd George i sylweddoli beth yw'r dyn mewn gwirionedd. Canys pell iawn yw efe o fod yr hyn y'i darlunir ef gan gyfaill a chan elyn yn y wasg. Er engraifft, nid y gwr anwladgar y mynai'r 'mob' wallgof yn Birmingham ei labyddio bymtheng mlynedd. yn ol, yw; nac ychwaith y nef-anedig fab i Thor y mynai'r un bobl heddyw ei addoli. Nid y bradwr i Brydain a gondemnid gynt gan Arglwydd Curzon ac Arglwydd Derby mo hono, nac ychwaith waredwr yr Ymerodraeth fel y portreant ac y bendithiant ef heddyw. Nid yr afradlon dibwyll a fynai gamblo ymaith gredyd ei wlad fel y darlunid ef gan y sawl a gashaent ei Gyllideb Fawr yw, nac ychwaith y cyllidydd cyfrwys y mynai arianwyr Llundain heddyw ei goroni wedi methu o honynt ei groeshoelio. Mewn gair, nid yw holl athrylith Machiaveli, na holl ffalsedd Mephistopheles, nac ychwaith yr holl briodoleddau dwy fol, yn eiddo iddo ef, er ddarfod i'r un personau briodoli yr holl feiau a rhinweddau hyn iddo o dro i dro.

Nid ei elynion politicaidd yn unig ychwaith a gamddeallasant y gwr a'i weithredoedd. Syrthiodd ei gyfeillion gwleidyddol ar adegau i'r un amryfusedd. Gwahanol iawn y sonir am dano heddyw gan newyddiaduron Rhyddfrydol Prydain, i'r hyn a wnaent ychydig flynyddoedd yn ol. Bu adeg, yn wir, pan na fynai papyrau ei blaid ei hun goffhau ei eiriau na'i weithredoedd, ei gynlluniau na'i bolisi, tra heddyw canmolir ef i'r uchelderau gan y wasg a reolir gan Arglwydd Northcliffe. Nid oes newyddiadur o unrhyw blaid heddyw na rydd le mor amlwg i Mr. Lloyd George ag a ga Mr. Asquith ganddynt; tra yma yn yr America, yn Canada fel yn yr Unol Dalaethau, cyhoeddir ei areithiau mawr air yn air gan brif newyddiaduron y cyfandir.

Trwy ba foddion, tybed, yr enillodd efe lwyddiant? Priodola un gwleidyddwr enwog a fu mewn cysylltiad agos ag ef yn y Weinyddiaeth, lwyddiant Mr. Lloyd George i bedwar achos mawr-beiddgarwch, hyawdledd, gwneyd defnydd deheuig o'r wasg, a 'supreme smartness.' Os olrheinir ei hanes o'i fachgendod gwyllt hyd ei wladweiniaeth aeddfed, ceir fod pob un o'r pedwar peth a nodwyd wedi cynorthwyo i gyfeirio ei ffawd. Ni ameuodd neb erioed mo'i wroldeb beiddgar. Cymerer ychydig o'r engreifftiau mwyaf adnabyddus. Yr un oedd y gwroldeb a wynebai'r mob sychedai am ei waed yn Birmingham, ag a gymellodd y bachgenyn yn yr ysgol yn Llanystumdwy i arwain gwrthryfel yn erbyn trindod awdurdod y plwyf—yr ysgolfeistr, yr offeiriad, a'r sgweier. Pan yn dechreu ei yrfa fel cyfreithiwr heriodd y fainc yn Mhwllheli, tra yn Nghaernarfon gorfodwyd cadeirydd yr Ynadon, gair yr hwn a arferai fod yn ddeddf, i ymneillduo o'r llys. Pan aeth gyntaf i'r Senedd, ni foddlonai ar ddim llai na herio mewn dadl brif areithwyr Ty y Cyffredin, Mr. Balfour a Mr. Chamberlain. Ond yn mhob brwydr o'r fath gwasgai i'r amlwg ryw egwyddor fawr. Ac yn mhellach "talai" yr oll yn dda iddo. Gwnaeth y gwrthryfel yn yr ysgol ef yn arweinydd y pentref, ac wedi hyny yn anhebgorol i'r mudiad drwy yr hwn yr enillodd Ymneillduwyr y fro eu hannibyniaeth. Drwy orchfygu cadeirydd yr Ynadon yn y llys, daeth i'w law fusnes eangach fel cyfreithiwr; ac yn fuan wed'yn mewn canlyniad i'r poblogeiddrwydd a enillodd. felly, cafodd ei ddewis fel ymgeisydd Rhyddfrydol Bwrdeisdrefi Arfon. Drwy ymladd gornest a Balfour a Chamberlain yn Nhy'r Cyffredin gwnaeth iddo ei hun enw fel dadleuydd yn y Senedd a ddylanwadodd ar holl gwrs ei fywyd, ac mae i'r gwroldeb hwn nodwedd arbenig y Celt mewn rhyfel, sef ei fod yn fwy dysglaer pan yn ymosod na phan bo'n amddiffyn. Gwelir hyn yn amlwg yn hanes cyhoeddus Lloyd George. Pan ymosodir arno, yn lle sefyll ar yr amddiffynol, ymesyd yntau yn chwyrn ar yr ymosodwr. Drwy hyn llwyddodd dro ar ol tro yn y Senedd i enill buddugoliaeth lle y bygythid ei orchfygu-heblaw ei fod drwy ymosod yn gorchuddio'r man gwan at yr hwn yr anelodd y gelyn. Nid oes angen profi grym a dylanwad ei hyawdledd; gwyr y byd yn dda am hwnw. Ar yr un pryd dylid cofio mai nid yn ei hyawdledd ysgubol ar y llwyfan yn unig y gorwedd prif gudd-der ei nerth. Yn ystafell y pwyllgor a'r gynadledd ceir fod ei dafod arian pan yn cynorthwyo ei feddwl ystwyth a'i synwyr cyflym, yn fwy i'w ofni na'i areithyddiaeth. I'r gallu sydd ganddo i ddarbwyllo mewn ymgom breifat, yn fwy nag i'w areithyddiaeth ar y llwyfan neu hyd yn nod ei allu fel dadleuydd ar lawr Ty'r Cyffredin, y mae yn ddyledus. am ei safle bresenol a dyfodol, yn y Weinyddiaeth Ddwyblaid yn Mhrydain.

Ni cheir neb yn mhlith dynion cyhoeddus ei wlad yn fwy dyledus i'r wasg nag yw Mr. Lloyd George, na neb a wyr yn well nag ef pa fodd oreu i'w defnyddio at ei bwrpas ei hun. Nid am ei fod ei hun yn ysgrifenwr medrus. Ei dafod yn hytrach na'r ysgrifbin yw ei hoff arf. Gwir ddarfod iddo ar ddechreu ei yrfa ysgrifenu llawer i'r wasg leol, a nodweddid ei "Lythyrau o'r Senedd" i'r "Genedl Gymreig" gan gryn graffder a bywiogrwydd. Ond mae ysgrifenu iddo ef, fel yr oedd cardota i'r goruchwyliwr annghyfiawn yn y ddameg, bob amser yn atgas. O'r dydd yr aeth gyntaf i'r Senedd hyd o leiaf nes y daeth yn ddigon arianog i gadw ysgrifenydd preifat i ofalu am ei ohebiaeth, ceid ei gloer yn Nhy'r Cyffredin bob amser yn llawn o lythyrau yr oll heb eu hateb, a llu o honynt heb erioed eu hagor! Arferai ddweyd y pryd hwnw fod llythyr a droid o'r neilldu, fel rheol, yn ateb ei hun o fewn y pythefnos. Yr unig ffordd i gael ateb oddiwrth Lloyd. George yn y dyddiau cyn ei ddyrchafu i'r Cabinet, oedd i chwi amgau yn eich llythyr ato ddau bost-card, ac ysgrifenu "Ie" ar un a "Nage" ar y llall-neu gyfystyron y geiriau hyn fel y byddai'r angen. Os byddech wedi stampio'r ddau, ac ysgrifenu eich cyfeiriad eich hun arnynt, o bosibl y dychwelai un o'r ddau i chwi. Ond, fel y dywedir yn gywir genyf yn "Dafydd Dafis," nid oedd hyn bob amser yn beth y gellid ymddibynu arno, canys weithiau postiai'r ddau lythyr-gerdyn, un yn dweyd "Ie" a'r llall "Nage," ar yr un pryd. Ond er mor atgas ganddo ysgrifenu llythyr, yr oedd o leiaf ddau eithriad i'r rheol o esgeuluso. Treuliais lawer o amser yn ei gwmni yn teithio Cymru o Gaergybi i Gaerdydd, gan gyd-letya ag ef ar ein teithiau; a chan nad pa mor hwyr y nos a pha mor lluddedig bynag y byddai, nid elai byth i'w wely heb ysgrifenu llythyr at ei wraig, nac heb ateb llythyr a gawsai oddiwrth ei ewythr, Richard Lloyd, am yr hwn y sonir yn helaethach yn y benod nesaf. Er ei holl bechodau gohebiaethol, rhaid cyfrif y ddau eithriad uchod yn gyfiawnder iddo.

Ni ysgrifenodd lawer ei hun erioed i'r wasg Seisnig, ac ni chyfranodd nemawr gwerth son am dano at lenyddiaeth ei oes. O bosibl mai yr ysgrif bwysicaf a geir yn dwyn ei enw fel awdwr, yw un a ymddangosodd tuag ugain mlynedd yn ol mewn cylchgrawn Seisnig adnabyddus. Teitl yr ysgrif oedd "The Welsh Political Program," ac nid yw yr ysgrif hono erbyn hyn namyn beddfaen i nodi'r man lle y claddwyd gobeithion dysglaer Cymru! Ond nid oes ddyn ar y ddaear heddyw a wnaeth ddefnydd mwy effeithiol o'r wasg. Mae ei ddyled ef iddi yn fwy o bosibl na'r eiddo neb byw. Ar gychwyniad cyntaf ei yrfa gofalai fod adroddiad manwl o'i areithiau a'i weithredoedd yn cael ei yru i'r wasg Gymreig a Seisnig. Fel rheol, mynai gael gweled y "copi" ei hun cyn yr ai i'r wasg. Yn Gymraeg y siaradai fel rheol yn ei sir ei hun (Caernarfon). Mynai weled a chywiro y cyfieithiad Seisnig cyn y caffai'r cysodydd roi ei fys arno. Anwybyddid. ei areithiau yn aml y pryd hwnw gan y papyrau dyddiol. Ond pan ddaethant hwythau yn ddigon call i weled fod ei safle yn y byd gwleidyddol yn hawlio sylw, cymerai yntau gymaint o ofal ag erioed na wnai'r gohebwyr gam a'r hyn a ddywedai. Awr neu ddwy cyn y traddodai ei araeth, cynaliai fath o rehearsal preifat o'r araeth i ohebwyr y papyrau yn ei lety. Yno cyfarfyddent, ryw haner dwsin o honynt, i gymeryd mewn llaw fer yr anerchiad y bwriadai efe ei draddodi y noson hono. Nid darllen ei araeth iddynt a wnai, eithr ei thraddodi "o'r frest" fel yr arferai cewri pwlpud Cymru eu pregethau. Nid oedd ganddo i'w gyfarwyddo namyn haner dwsin o nodiadau wedi eu hysgrifenu ar gefn amlen llythyr. Tra yn traddodi yn y rehearsal, cerddai ol a blaen ar hyd yr ystafell, gan dori weithiau ar draws ei araeth i wneyd rhyw sylw pert ond hollo! anmherthynasol i'w destyn, wrth y naill neu'r llall o'r gohebwyr. Pan ddyrchafwyd ef yn Weinidog y Goron cyfnewidiodd ei ddull, yn lle myned ei hun i ystafell y gohebwyr, gyrai ei ysgrifenydd. preifat yno, a darllenai hwnw yr araeth o gopi oedd ganddo wedi ei deipreitio. Drwy y trefniant hwn yr oedd ei araeth yn aml wedi cael ei phellebru, ac yn cael. ei chysodi yn Llundain a threfi Lloegr cyn iddo ef ei thraddodi yn Nghymru.

Rhaid boddloni ar un engraifft eto, yn mhlith y diweddaraf, o'r gofal mawr y myn gymeryd er sicrhau na wna gohebydd na golygydd gam ag ef yn ei fater. Ddechreu haf, 1915 (Mehefin 3ydd) traddododd yn Manceinion (Manchester) ei araeth gyhoeddus gyntaf wedi derbyn o hono y swydd o Weinidog Cyfarpar Rhyfel. Yr oedd y wlad a'r byd megys ar flaenau eu traed i glywed beth oedd ei genadwri. Ni pharotodd gopi yn mlaen llaw i'r wasg, ond mynodd, cyn dechreu'r oedfa, ei gwneyd yn amod nad oedd ei araeth i gael ei chyhoeddi hyd nes caffai efe ei hun gywiro y "copi." Siaradodd am awr gyfan namyn pedwar mynyd. Yn mhen teirawr wedi iddo orphen siarad yr oedd copi cyflawn o'r araeth wedi ei deipreitio yn ei law, ac yntau yn cywiro hwnw cyn y caffai ei gysodi. Llanwai'r araeth bedair colofn hir yn y papyrau dyddiol dranoeth.

Sieryd mor rhwydd a llithrig yn Saesneg ag a wna yn Gymraeg. Fel rheol, pan yn anerch cyfarfod yn Nghymru, llefara yn Gymraeg. Ar adegau neillduol yn ddiweddar er mwyn y Philistiaid ar y wasg Seisnig, traddoda gorff ei araeth yn Saesneg, gan lefaru aml i frawddeg yn Gymraeg, ac fel rheol bydd yn rhoi'r diweddglo oll yn Gymraeg. Eithr pan wna efe hyny gofala ei ysgrifenydd fod "cyfieithiad awdurdodedig" i'r Saesneg o'r diweddglo hwnw yn cael ei estyn i'r gohebwyr.

Defnyddia'r wasg hefyd mewn cyfeiriadau eraill i raddau helaethach lawer nag a wnaeth yr un deddfwneuthurwr erioed o'i flaen. Pan wthiodd gyntaf ei Ddeddf Yswiriant i'r dyfnder, cymerodd fesurau effeithiol i dawelu ystorm y farn gyhoeddus. Taenwyd drwy'r deyrnas gyfres faith o bamffledi yn egluro pob rhan a phob agwedd o'r Ddeddf newydd a dyrys. Yn y Gaelaeg a'r Wyddelaeg yn y Gymraeg a'r Saesneg, argraffwyd y rhai hyn wrth y canoedd o filoedd a gwasgarwyd hwynt yn rhad fel nad oedd coty na phalas drwy'r deyrnas oll na chafodd y goleuni fedrai'r wasg daflu ar ddarpariadau'r Ddeddf.

O'r olaf o'r pedwar achos o'i lwyddiant a nodwyd, "supreme smartness," dyry gwahanol bapyrau aralleiriad o'u heiddynt eu hunain. Geilw y "Nation" ef yn "brilliant but hasty intelligence," gan felly led awgrymu nad yw bob amser yn edrych cyn neidio. Dywed y "New Statesman" mai "sheer political adroitness, producing a record of enormously energetic and courageous muddle" yw nodwedd amlycaf ei waith cyhoeddus. Dyry un cylchgrawn i ni erthygl ar "Ochr Ddynol Lloyd George" gan led awgrymu fod i Lloyd George, fel ag y sydd gan y Caisar, "Ochr Ddwyfol" ac "Ochr An-nynol!" Lle bo doctoriaid mawr fel hyn yn methu cytuno, prin y mae yn gweddu i wr gwylaidd fel myfi i amlygu barn. Eto, pan fyddwyf yn y penodau sy'n dylyn, wedi nodi ffrwythau y "brilliant but hasty intelligence" hwn, ca'r darllenydd well mantais i farnu pa un o'r doctoriaid hyn sydd agosaf i'w le wrth fesur a phwyso gwaith a gallu Mr. Lloyd George.

PENOD II.

DYLANWADAU BOREU OES.

PENDERFYNWYD cwrs bywyd Mr. Lloyd George gan amgylchfyd ei febyd. Mab y pentref Cymreig yw—er iddo gael ei eni yn Lloegr (Manchester). Yn ol naturiaeth yn fab ysgolfeistr y pentref; drwy fabwysiad yn fab crydd y pentref; mewn credo wleidyddol yn fab cenedlaetholwr y pentref; o ran ei ddaliadau crefyddol yn blentyn y symlaf o gapeli'r pentref; yn mhob dim hanfodol i'w dyfiant a ffurfiad ei gymeriad, cynyrch y pentref Cymreig yw y gwladweinydd byd-enwog; ond y pentref a fu erioed yn asgwrn cefn gallu Prydain Fawr ar for a thir, mewn llys ac mewn dysg; a'r pentref sydd heddyw yn gyru'r gwaed bywiol yn ffrwd gynes drwy wythienau Ymneillduaeth Cymru, Y boreuaf o'r dylanwadau a luniasant gwrs dyfodol ei fywyd, oedd eiddo'r fam—y fam a anwylwyd ganddo hyd ei bedd, y fam a wnaed yn weddw pan nad oedd ef ond tair blwydd oed, y fam a brofwyd mor llym ac a fendithiwyd mor helaeth. Ceid yn Mrs. George holl geinder delfrydol cymeriad mam dda, fel hefyd y cafodd ei gwr hi yn ymgeledd gymwys dros gyfnod byr ond hapus eu bywyd priodasol. Yr oedd hi yn un o'r cymeriadau prydferth, ond prin hyny fedrant amgylchu eu hunain ag awyrgylch ffydd a gobaith, a naws dewrder a chymwynasgarwch, gan feddu ysbrydoliaeth a gymellai i ddaioni bawb a ddeuent i'w chyfrinach agos. Dyma ddarluniad o honi gan gyfaill mynwesol iddi hi a'i phriod:—

"Mor siriol, mor loew, mor beraroglus oedd ei chymeriad, heb fyth gwmwl ar ei gwedd, ond bob amser yn rhadlon rasusol! Yr oedd yn meddu hefyd y math hwnw o goethder, yr hwn gyda gras Duw mor amlwg yn ei chalon, a'i gwisgai megys a rhod santaidd i'w hamgylchu, gan ddylanwadu ar bawb a fwynhaent y fraint o'i chyfeillach. Nefoedd yn wir oedd byw yn ei chwmni."

Collodd ei phriod yn sydyn, ar ol wythnos fer o selni, gan adael i'w gofal ddau blentyn amddifad, a thrydydd plentyn, William, a aned yn mhen ychydig amser wedi claddu'r tad. Dychwelodd hithau a'i phlant amddifaid. i'w hen gartref yn mhentref tawel Llanystumdwy. Profwyd nerth ei chymeriad yn llym yn nhymor hir ei gweddwdod, ond daeth drwy'r prawf megys aur wedi ei buro drwy dan. Ac eto mor dawel a diymhongar, mor wylaidd a hunanymwadol ydoedd yn ei holl weithredoedd, fel nad oes ond ychydig o'i chyfeillion agosaf a wyr hyd y dydd heddyw am yr ysbryd dewr a arddangoswyd gan y fam Gristionogol goeth hon wrth ddwyn ei phlant amddifaid i fyny ar hyd llwybrau cyfiawnder ac yn ofn yr Arglwydd.

Nid yw stori boreu oes Lloyd George erioed wedi cael ei hadrodd, ac nis gellir yma ond awgrymu y darlun. Pan ddelo'r amser i hyny, ac y gellir adrodd y stori yn rhydd ac yn llawn, ceir engraifft arall o wiredd y gair mai "y llaw sy'n siglo'r cryd sydd hefyd yn llywio'r byd."

Llanwyd lle y tad, William George, gan Richard Lloyd, ewythr Lloyd George, brawd ei fam. Gydag ef y cartrefodd y weddw a'i thri phlentyn amddifad, a gyda hwynt y rhanodd yntau ei holl dda. Ni bu ramant prydferthach erioed na rhamant hunan—aberth Richard Lloyd ar ran ei chwaer a'i phlant bach. Er mai dim ond crydd y pentref ydoedd, eto yr oedd yn un o'r eneidiau ysbrydoledig hyny geir weithiau yn llunio ffawd cenedl gyfan. Gweiniai Richard Lloyd i angenion ysbrydol "Eglwys y Dysgyblion," sect fechan o Fedyddwyr, yn y pentref. Gwelir dylanwad bendithiol y gwr Duw hwn ar holl fywyd Lloyd George o'i febyd hyd o leiaf y dydd yr aeth i Gabinet Prydain Fawr. Cydgasglwyd megys yn Richard Lloyd holl ragoriaethau llinach hir o wladwyr Cymreig. Nerth corfforol, yni meddyliol, cywirdeb moesol, gwelediad ysbrydol, ymwybyddiaeth feunyddiol o bresenoldeb a dylanwadau y byd anweledig a'r pethau hyn oll yn bur, ac heb erioed eu hanmharu gan ruthr a gwanc y byd am safle a chyfoeth. Yn y pethau hyn preswyliai Richard Lloyd ar wastadlawr uwch na'r byd o'i amgylch. Ni fedr neb sylweddoli yn llawn gymaint a olygai cyfathrach agos a beunyddiol a gwr mor dda i'r plentyn. pan yn tyfu yn ddyn. Dyma ddywed Mr. Lloyd George ei hun am lwyr ymgyflwyniad ei ewythr i'r teulu bach:—

"Ni phriododd fy ewythr erioed. Ymgymerodd a magu, a meithrin, ac addysgu plant ei chwaer fel dyledswydd santaidd oruchaf. I gyflawni y ddyledswydd hono yr ymgyflwynodd ei fywyd, ei amser, ei nerth, a'i eiddo oll."

Er mwyn cynorthwyo'r plant yn eu gwersi ysgol, rhaid oedd i Richard Lloyd astudio ac addysgu ei hun. Efe a arweiniodd y bachgenyn Dafydd Lloyd George gerfydd ei law i'r Cysegr, efe a'i dysgodd i ddarllen ac i garu'r Beibl, efe a'i cyfarwyddodd yn ei wersi; a phan y dechreuodd y llanc Dafydd astudio'r gyfraith, rhaid oedd i'r ewythr yn nghyntaf droedio llwybrau disathr y ddysgeidiaeth hono ei hun er mwyn eu gwneyd yn rhwyddach i'r nai a garai i'w teithio.

Ni welais yn fy mywyd gymeriad mwy pur, mwy prydferth, nag eiddo Richard Lloyd. Yn ei gwmni y sylweddolais beth yw cymdeithas sant. Adlewyrcha ei wyneb rhychiog oleuni dysgleirdeb Mynydd y Gweddnewidiad. Nid yw chwarter canrif o gyfeillgarwch. agos ag ef ond wedi dyfnhau fy edmygedd o hono dwyshau fy mharchedigaeth iddo. Pa beth ynte rhaid fod dylanwad cymeriad mor gryf, gyda'i symlrwydd calon a gloewder ei ysbryd, ar feddwl tyner y plentyn, y bachgenyn, a'r llanc oedd yn ddyledus iddo am bob dim ar a feddai?

Fel y tyfodd y bachgen Samuel yn nhy Eli, felly y tyfodd David Lloyd George yn nhy ei ewythr, Richard Lloyd. Yn wir, bu yn mron iddo, fel Samuel, ddylyn. ei athraw yn yr alwedigaeth santaidd. Bu yn pregethu droion pan yn wr ieuanc. Oni bae fod galwad y Bobl wedi profi yn gryfach na galwad y Pwlpud, buasai Cymru wedi cynyrchu George Whitfield arall yn lle Lloyd George! Mor wahanol yn hyn ydoedd i'r Cymro mawr arall hwnw, y Parch. Hugh Price Hughes, i'r hwn yr ymdebyga Lloyd George mewn yni, areithyddiaeth, a chyneddfau meddyliol. Pan ddewisodd Hugh Price Hughes y pwlpud fel maes ei lafur, dywedodd yr hen Gristion gloew hwnw, ei dad, wrtho: "Da machgen i! Gwell fyddai genyf dy weled yn bregethwr Wesley, na dy weled yn Arglwydd Gangellydd Prydain. Fawr!"

Temtir fi i ddarlunio bywyd y cartref hwnw, ei brydferthwch, ei gynildeb, ei awyrgylch o lafur a chrefydd, ond rhaid boddloni ar un o'r brasddarluniau goleu hyny a dynir weithiau gan bwyntil cyflym Lloyd George ei hun. Dywed ef am ddyddiau ei febyd:—

"Ambell waith y profem gig ffres. Yr wyf yn cofio yn dda mai yr ameuthyn mwyaf genym ni fel plant oedd cael o honom bob un haner wy i frecwast boreu Sul."

Difetha'r darlun a fyddai ychwanegu llinell ato. Cyflea fyd o feddwl. Edrycher arno gan ddal bywyd moethus Llys y Brenin o'r tu ol iddo, a gwelir y gagendor ofnadwy rhwng byd y plentyn tlawd a byd y gwladweinydd mawr.

Heb feiddio o honom ysbio i gysegr santeiddiolaf ei fywyd boreuol, gellir dweyd fod y golofn uchel ar ben yr hon y saif Lloyd George heddyw yn ngwydd y byd, a'i sail a'i sylfaen yn hunan—ymwadiad ac yn hunanaberth eraill er ei fwyn. Ni freintiwyd neb erioed yn fwy nag ef yn ei gysylltiadau teuluaidd, nac mewn cyfeillion teyrngar. Gofalodd ei ewythr na chaffai byth weled eisieu tad; yn ngwyliadwriaethau tywyll y nos cynlluniai ei fam weddw ar gyfer y dydd goleu a dysglaer yn yr hwn yr oedd ei mab i ymddadblygu mewn llawenydd ac anrhydedd. Ond heblaw y rhai hyn yr oedd iddo frawd, yr hwn a gadwynodd ei hun wrth y ddesc yn y swyddfa modd y caffai Dafydd ei frawd well cyfle i ymddangos yn deilwng yn nysgleirdeb bywyd cyhoeddus; bu iddo chwaer a chwareuodd ran y "fam fach" iddo am flynyddoedd; mae iddo wraig dyner a gymer ar ei hysgwyddau ei hun faich ei dreialon cyfrin, gan ei alluogi yntau yn well i ddwyn baich anrhydedd y byd; ie, a'r cyfeillion a wnaethant benyd am ei bechodau ef, modd y medrai'r achos a gerid ganddynt hwy ac yntau lwyddo yn well. Bu i'r rhai hyn oll eu rhan a'u cyfran yn ngwneuthuriad y Lloyd George a adwaenir gan y byd heddyw.

Gwr tra gwahanol i Richard Lloyd oedd Michael D. Jones, y Bala, tadmaeth gwleidyddol Lloyd George. Ysid enaid Michael Jones gan ei ymwybyddiaeth o ddyoddefiadau ffermwyr Cymru. Gwr milwraidd ei ysbryd, yn llosgi gan sel gor-werinol ei syniadau a chenedlaethol ei ddyheadau, yn meddu ysbryd a gafaelusrwydd y targi a medr a dewrder penaeth haid of bleidgarwyr ydoedd; ymddangosai Michael Jones i dirfeddianwyr Cymru a'u cynffonwyr fel ymgorfforiad byw o bob peth oedd iddynt hwy yn ddychryn yn Ymneillduaeth werinol Cymru ei oes. Efe oedd y ffigiwr mawr amlwg yn ngwrthryfel gwleidyddol cyntaf gwladwyr Cymru. Taniwyd enaid y bachgenyn Lloyd George gan y gwron, a disgynodd mantell Michael Jones ar Lloyd George, yr hwn wedi hyny a bregethodd efengyl yr apostol mawr o'r Bala, diwygio Deddfau'r Tir, i'r cenedloedd Seisnig, ac a gorfforodd rai o egwyddorion sylfaenol yr efengyl hono yn ei Gyllideb

MR. WILLIAM GEORGE, TAD MR. LLOYD GEORGE

(Ar y dde.)

Fawr. Cydnebydd Mr. Lloyd George ei hun Michael Jones fel ei dad yn y ffydd wleidyddol, ac i'r athraw o'r Bala y mae Bwrdeisdrefi Arfon yn ddyledus am eu haelod, a Phrydain am ei gwladweinydd enwog. Fel y darfu i'r proffwyd Samuel nodi allan Ddafydd arall o blith ei frodyr fel eneiniog yr Arglwydd i lywodraethu dros Israel, ac i'w gwaredu oddiwrth ormes y Philistiaid, felly nododd Michael Jones y Dafydd hwn fel gwr wedi ei gyfaddasu gan Dduw i arwain cenedl y Cymry o'u caethiwed. "Dyma," ebe Michael Jones rai blynyddoedd cyn dewis Lloyd George i'r Senedd, "y gwr i Fwrdeisdrefi Arfon. Efe a ordeiniwyd i fod yn arweinydd Cymru yn Senedd Prydain." Ac ni bu proffwyd mwy ysbrydoledig erioed.

Er's cenedlaethau mae Bethel y pentref yn Nghymru wedi llywio a lliwio bywyd y genedl. Yn ddiameu ffurfiodd, a lluniodd, a chyd-dymerodd holl gymeriad y plentyn, a'r bachgen, a'r llanc David Lloyd George. Yn ol arferiad teuluoedd Ymneillduol Cymru mynychai ty Richard Lloyd y Cysegr yn rheolaidd deirgwaith ar y Sul. Yn y capel bychan hwnw o dan weinidogaeth ei ewythr, gwelai y bachgen bob peth goreu Ymneillduaeth Cymru wedi ei fan-ddarlunio ger bron ei lygaid. Llaw ei ewythr a'i harweiniai yn blentyn bychan o'r cartref syml i'r capel oedd mor syml a'r cartref. Nid oedd yno nag adeilad gwych, na defodaeth rwysgfawr, nac offeiriadaeth mewn gwisgoedd gwynion. Syml yw y gwasanaeth Ymneillduol yn mhob capel Cymreig, ond symlach fyth y gwasanaeth lle y gweinidogaethai Richard Lloyd. Myn enwadau eraill, ac hyd yn nod sectau eraill yn yr un enwad, weinidog wedi ei godi mewn coleg, yn aml wedi graddio yn y Brifysgol bob amser yn ordeiniedig, ac yn derbyn cyflog fel bugail arosol, ac yn gweithredu mwy neu lai o awdurdod dros y frawdoliaeth corfforedig yn yr eglwys. Ond nid felly "Dysgyblion Crist," fel y galwai y praidd bychan hwn eu hunain. Ni chydnabyddir ganddynt wahaniaeth rhwng aelod a gweinidog. Brodyr ydynt oll, pawb yn gydstad, pawb yn mwynhau yr un breintiau, cymundeb o Gristionogion cyntefig mewn gwirionedd. Yn yr eglwys fechan hono yr oedd yr holl aelodau yn ddiwahaniaeth yn cael eu cyfrif "megys meini bywiol, wedi eu hadeiladu yn dy ysbrydol, yn offeiriadaeth santaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu. Grist." Nid oedd y ffaith fod Richard Lloyd yn cyflawnu dyledswyddau yr offeiriadaeth santaidd, gan offrymu o wythnos i wythnos yr aberthau ysbrydol yn y cysegr bychan hwnw, yn rhoddi iddo nac awdurdod na braint ar ni fwynheid gan bob aelod arall; a'r unig dal a gaffai oedd parch gwirfoddol ei gyd-ddysgyblion, ac edmygedd cyffredinol ei gymydogion. Iddynt hwy oll yr oedd offeiriadaeth Richard Lloyd mor wirioneddol, a'r parch a delid iddo mewn canlyniad mor ddwfn, a phe y gwisgai feitr Esgob neu het goch Cardinal. Defnyddid dysgyblaeth Biwritanaidd lem yno. Deuai cadwraeth y Sabboth, mynychu moddion gras, darllen y Beibl ac ufuddhau i'w gyfarwyddiadau, megys yn ail natur i'r aelodau. O dan y cyfryw ddysgyblaeth y dadblygodd y plentyn i fod yn fachgenyn, a'r bachgenyn i fod yn llanc, ac a gynyddodd yn yr ysbryd yr hyn a nodweddai ddysgeidiaeth yr eglwys hono, "Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd" oedd arwyddair y bobl yn mhlith y rhai y bwriwyd ei goelbren. Yr oedd yn fwy hyddysg yn ei Feibl nag ydoedd yn ei lyfr ysgol. Yr oedd geiriau a brawddegau'r Ysgrythyr bob. amser ar ei dafod, a chlywir hwynt yn aml hyd y dydd heddyw yn ei areithiau cyhoeddus ar y llwyfan ac yn Nhy'r Cyffredin.

Ond nid oedd holl ddylanwadau boreu oes yn ddaionus; ceir rhai o honynt yn wenwynig. Cyfnod gormes i'r werin ydoedd; dyoddefent anfanteision mewn addysg, cymdeithas, crefydd a gwleidyddiaeth; a dylanwadodd hyn lawer ar ei fywyd cyhoeddus.

Prin iawn oedd manteision addysg ieuenctyd y dosbarth y perthynai ef iddo. Daeth Deddf Addysg 1870 i weithrediad yn fuan wedi iddo ddechreu mynd i'r ysgol ond yr unig ysgol o fewn cyraedd iddo oedd Ysgol yr Eglwys, awdurdodau yr hon a'i cyfrifent ef megys yr ethnig a'r publican o herwydd heresi ei Ymneillduaeth. Nid oedd modd i rieni tlawd roi addysg ganolradd i'w plant. Ni cheid addysg Prif Ysgol ond yn Rhydychain a Chaergrawnt—a phell iawn oedd y ddau le hyn o'i gyraedd ef a'i fath. Felly cyfyngwyd cwrs addysg Lloyd George i'r hyn a gafodd yn ysgol fach y pentref, lle hefyd yr arweiniodd efe wrthryfel mawr er mwyn cydwybod. Ei High School oedd siop y crydd—ac ni adeiladwyd cryfach cymeriadau erioed gan Dr. Arnold, meistr enwog Rugby, nag a wnaeth Richard Lloyd y crydd yn mhentref bach Llanystumdwy. Ni bu ar Lloyd George erioed gywilydd cydnabod prinder yr addysg a gafodd. Ebe fe:—

"Anniolchgar iawn fuaswn pe na ddywedwn yn groew nad oes arnaf ddyled i'r Brifysgol. Nid oes arnaf ddyled ychwaith i'r Ysgolion Canolradd. I'r capel bach yn y pentref yr wyf yn ddyledus am yr oll."

Ond erbyn hyn mae Prifysgolion Cymru a Rhydychain wedi rhoddi iddo urddau anrhydeddus yn mysg dysgedigion byd—gan gydnabod o honynt felly y geill ysgol fach y pentre, a'r capel gwledig syml, os manteisir ar eu cyfleusderau gan dalent naturiol y Cymro, gynyrchu aur teilwng i ddwyn nod arian bathol byd dysgeidiaeth.

Dyoddefodd hefyd yn ei berson ei hun, tra yn blentyn ac yn llanc, holl anfanteision Ymneillduwyr y cyfnod, a gwingodd yntau yn erbyn y symbylau, er mai caled oedd hyn. Er yn gyfoethog mewn profiad ysbrydol, tlodion fel rheol oedd Ymneillduwyr yr oes yn nghyfrif y byd. Gwelai Lloyd George ei ewythr, yr hwn a berchid gan y werin, yn cael ei ddirmygu gan y gwyr mawr. Gwelai yr enwadau Ymneillduol yn trethu eu hunain i gynal eu gweinidogion, ac yn gorfod talu degwm a threth eglwys at gynal Eglwys y cyfoethog er na thywyllent byth mo'i drws, ac er na alwent am wasanaeth ei chlerigwyr. Ni fedrai hyd yn nod fwynhau breintiau addysg ysgol y pentref, heb wadu o hono yn ei wersi yno yr egwyddorion oeddent o'i fabandod wedi tyfu i fod yn rhan o hono ef ei hun. Ymwybyddiaeth o hyn a'i cymellodd tra eto yn fachgenyn yn yr ysgol i arwain ei gyd-sgoleigion mewn dau wrthryfel, gan lwyddo o hono drwyddynt i ddileu prawflwon enwadol yn ysgol y pentref.

Mae'r ddau ddygwyddiad yn nodweddiadol o'i gymeriad, ac yn hanesyddol bwysig, ac felly yn haeddu cael eu gosod yma ar gof a chadw. Am un o'r ddau ddygwyddiad cefais yr hanes yn bersonol gan un o'i ganlynwyr yn y gwrthryfel, canys anhawdd yw cael gan Mr. Lloyd George ei hun i adrodd helyntion ei fachgendod gwyllt. Mae y ffeithiau a nodir isod yn rhai na chyhoeddwyd erioed o'r blaen mo honynt.

Arferid yn y dyddiau gynt gymeryd holl blant yr ysgol yn orymdaith ddefosiynol i'r Eglwys ar Ddydd Mercher y Lludw. Teimlai David Lloyd George nad gweddus i ddeiliaid y capeli, er mai plant oeddent, fyned felly i blygu glin yn nhy Ramon Esgobyddiaeth. Trefnodd gyda nifer o fechgyn yn ei ddosbarth i ffoi o'r orymdaith pan yn agoshau at yr Eglwys. Ymgymerodd ef a rhoi'r arwydd ei hun. Felly, pan yn troi congl ar y ffordd i'r Eglwys, cododd waedd sydyn: "Rwan, lads!" a ffwrdd ag ef fel ewig tua'r goedwig gyfagos. Dylynwyd ef gan ei gydwrthryfelwyr. Taflwyd yr orymdaith i annhrefn. Ceisiodd rhai o'r athrawon redeg ar ol y bechgyn i'w cael yn ol. Ond yr oedd Dafydd bach wedi dewis ei le a'i adeg yn rhy dda. Yn y goedwig yr oeddent yn ddyogel. Felly, tra yr aeth gweddill bach yr orymdaith yn mlaen i'r Eglwys, treuliodd y gwrthryfelwyr bychain foreu braf yn y goedwig.

Eto, daeth arnynt yn nghanol eu mwynhad yr hyn a ddywedai'r offeiriad oedd yn farn Duw arnynt am eu pechod rhyfygus. Yr oedd Lloyd George yn arfer bod yn arweinydd yn mhob direidi plant y pentref. Wedi gweled yr orymdaith yn diflanu yn mhorth yr Eglwys, penderfynodd y bechgyn dreulio awr y gwasanaeth mewn chwareu "Follow my leader." Yn y chwareu hwn dysgwylir i bob aelod o'r cwmni ddylyn yr arweinydd i ba le bynag yr a, a gwneuthur hefyd bob. peth a wna yntau. Wedi dod at fan yn y goedwig lle tyfai'r coed yn agos i'w gilydd, ac y plethai eu cangenau y naill yn y llall, dringodd Dafydd Lloyd George un o'r coed, a gwnaeth ei ffordd o gangen i gangen, ac o goeden i goeden, yn mrigau'r coed am gryn bellder heb. ddisgyn i'r ddaear o gwbl. Rhaid oedd i'r bechgyn eraill oll ei ganlyn fel Indiaid Cochion ar lwybr rhyfel. Aeth pobpeth yn iawn am dipyn, ond pan yn myned ar hyd cangen gryn uchder o'r ddaear, dygwyddai fod tri o'i ganlynwyr ar yr un gangen ag ef. Bu pwysau eu cyrff, neu eu pechodau, yn rhy drwm i'r gangen; torodd hono oddi tanynt, a syrthiodd y pedwar yn bendramwnwgl i'r ddaear. Diangodd Lloyd George ei hun yn ddianaf, ond torodd un o'i ganlynwyr ei fraich, a mawr fu'r helynt i'w gael adref. Ond ni orfodwyd. plant Ymneillduwyr byth wedyn i fyned i wasanaeth yr Eglwys ar Fercher y Lludw.

Yr ail wrthryfel oedd gwrthod adrodd y Credo. Ar ddydd gwyl yr ysgol cynullai holl fawrion y plwyf i'r ysgoldy i glywed y plant yn adrodd eu gwersi. Yno y deuai y sgweier a'i deulu, yr offeiriad, ac urddasolion eraill. Edrychid ar David Lloyd George fel un o'r dysgyblion dysgleiriaf yn yr ysgol. Dechreuid y seremoniau drwy i'r dosbarth adrodd y Credo yn unllais. Ond yr oedd Lloyd George wedi trefnu gyda'r dosbarth nad agorai neb o honynt ei enau i adrodd y Credo y dwthwn hwnw. Felly dosbarth o fechgyn mud a welodd yr urddasolion pan alwyd am y Credo. "Dewch, fechgyn, dewch!" ebe'r Ysgolfeistr druan. "I believe in God the Father" i'w help, debygai. Eithr mudion oeddent oll, a llygaid Lloyd George yn fflamio rhybuddion rhag tori o neb y rheng. Yr oedd gofid yr athraw mor fawr, a pherchid ef gymaint gan y bechgyn, nes i un o'r bechgyn lleiaf godi ei lais rhwng wylo ac adrodd gan ddweyd, "I believe in God the Father"—a tharawodd yr holl ddosbarth mewn yn unllais ag ef, oddigerth yn unig Lloyd George. Y bachgen anufudd oedd William George, ei frawd. Ar ddiwedd yr ysgol galwodd Lloyd George hwynt ato, ac yn eu gwydd hwynt oll rhoddodd i'w frawd y gurfa waethaf a gafodd yn ei fywyd!

Nid oedd ymddygiad y Wladwriaeth, na'r Eglwys, na'r Ysgol, at yr Iaith Gymraeg, ychwaith, yn tueddu i enyn ynddo barch at eu hawdurdod. Carai iaith ei fam yn angerddol. Hi oedd unig gyfrwng ei gymdeithas ef yn y teulu, unig gyfrwng ei addysg Feiblaidd, unig gyfrwng ei ymarferiadau crefyddol. Yn Gymraeg yr ysgrifenai Ceiriog, ac Islwyn, a Mynyddog, eu telynegion a'u caneuon gwladgarol. Yn Gymraeg y pregethai Gwilym Hiraethog, a'i frawd Henry Rees. ac Owen Thomas, a chewri eraill pwlpud Cymru, ar glywed y rhai ni flinai byth. Mor bell ag yr oedd a fynai y bachgenyn newidiai ddau fyd pan groesai drothwy yr ysgol ddyddiol. Yr oedd ysgol y Wladwriaeth, ac Eglwys y Wladwriaeth, a swyddogaeth y Wladwriaeth, un ac oll, yn ddim amgen na chyfryngau i Seisnigeiddio Cymru. Ni fynai i'r naill na'r llall gydnabod gwahanfodaeth cenedlaethol Cymru. Mewn aml i ysgol ddyddiol, hyd yn nod yn y parthau mwyaf Cymreig, cosbid pob plentyn a feiddiai ddweyd gair of Gymraeg o fewn oriau yr ysgol.

Lle ail raddol a roddid i'r iaith Gymraeg; edrychid ar siarad Cymraeg fel nod o israddoldeb cymdeithasol. Ceid yr offeiriaid yn y plwyfi tlotaf, efallai, fel eu brodyr y gweinidogion Ymneillduol, yn pregethu yn Gymraeg; ond Saeson oedd uchelwyr yr Eglwys, a Saesneg oedd y gwasanaeth yn mhob Eglwys Gadeiriol yn Nghymru. Cymraeg a siaredid gan yr hwn oedd yn trin y tir; ond Saesneg gan y meistr tir a'i oruchwyliwr. Estynai yr un gwahaniaeth—fel ag a wnaethai gynt yn Lloegr ar ol y goresgyniad Normanaidd- i lawr i'r byd anifeilaidd. Canys tra yn Gymraeg y gorchymynid y ci defaid, yr hwn a gynorthwyai y ffermwr i dalu ei rent, ni ddeallai y cwn hela ar y rhai y gwariai y meistr tir y rhent hwnw ddim ond Saesneg. Os clywid Cymraeg weithiau yn y plas, yn y gegin y'i clywid, a byth yn yr ystafell ginio neu'r drawing room; gallai'r forwyn fach yn y gegin o bosibl siarad Cymraeg, ond nid oedd yn cydfyned ag urddas y pentrulliad i wneuthur hyny. Tarawodd Esgob Llanelwy yr hoel ar ei phen pan ddywedodd mai "Iaith y bara haidd yw'r Gymraeg; Saesneg yw iaith y bara gwyn."

Dyna amgylchfyd ieithyddol Lloyd George pan yn fachgen. Ond, fel y gwrthryfelodd y Saeson ganrifoedd yn ol yn erbyn iau iaith y Norman yn eu gwlad, ac y mynasant gael Saesneg yn lle'r Ffrancaeg i'r Llys, i'r Eglwys, ac i'r Ysgol, felly y dechreuodd yr ysbryd. Cymreig gynyrfu yn nghalon y llanc Lloyd George. Chwareuodd ef a'i frawd ran flaenllaw yn y mudiad i sicrhau hawl y Cymro i roi tystiolaeth yn Gymraeg yn y llys gwladol. Pan ddaeth fy nghefnder, y diweddar Barch, Daniel Thomas, M. A., Wymore, Neb., ar daith i Gymru rai blynyddoedd yn ol, aethym ag ef i weled Llys Barn yn Nghymru. Tarawyd ef a syndod i weled y tystion a'r cyfreithwyr, a'r swyddogion, a'r Ynadon ar y fainc, oll yn cario'r holl weithrediadau yn mlaen yn Gymraeg. Lloyd George oedd un o'r rhai cyntaf i fynu yr hawl hwnw yn y llysoedd. Erbyn heddyw mae yn beth digon cyffredin. Yn nghyfarfod cyntaf y Cyngor Sir, i'r hwn yr etholwyd ef yn henadur, pasiwyd yn unfrydol fod rhyddid i'r neb a fynai ddefnyddio'r Gymraeg yn holl weithrediadau'r cyngor. Cymraeg yw iaith swyddogol Pwyllgor Yswiriant y Sir o dan ddeddf Lloyd George. Hawlia Undeb y Cymdeithasau Cymreig heddyw gael y Gymraeg yn iaith swyddogol pob awdurdod cyhoeddus yn Nghymru. Ni ellir heddyw benodi nac Esgob, na Barnwr Llys Sir, nac Arolygwr Ysgolion, yn Nghymru os na bydd yn medru Cymraeg.

Pan unwyd Cymru a Lloegr gan Harri'r Seithfed, dechreuwyd creu gagendor rhwng y palas a'r bwthyn, rhwng perchen y tir a'r neb a'i llafuriai. Erbyn geni Lloyd George yr oedd y gagendor hwnw wedi myned yn fawr. Yr oedd bonedd Cymru, disgynyddion yr hen Dywysogion Cymreig, wedi myned yn Saeson yn mhob peth ond yn ffynonell eu cyfoeth. Yr oedd eu hiaith, a'u harferion, a'u syniadau, oll yn Seisnig, tra'r arosai eu deiliaid a gwerin eu gwlad mor Gymreig ag a fu eu tadau erioed. Daeth Deddfau Helwriaeth i'w rhanu yn mhellach. Gwnaed y drwg yn waeth drwy i Ddeddf y Cytiroedd gau oddiwrth y werin, y mynydddir a'r comin a arferent gynt fod yn agored iddynt. Yn erbyn hyn oll llosgai enaid Lloyd George, wedi dysgu o hono gan Michael Jones y Bala.

Maethid ysbryd gwrthryfel yn ei fynwes hefyd gan yr Adfywiad Cenedlaethol hynotaf a welwyd erioed yn hanes Cymru—Diwygiad mewn Crefydd, adfywiad mewn Dysg, deffroad mewn Gwleidyddiaeth, a'r tri yn mron yn gydamserol.

Pan sefydlodd Lloyd George gyntaf yn Nghymru yr oedd y werin yn dechreu adfeddianu ei hun ar ol Diwygiad Mawr 1859. Yr oedd gallu pwlpud Cymru y pryd hwnw yn ei fan goreu. Er mor enwog yw Cymru, ac a fu erioed, am ser dysglaer ei phwlpud, ni welwyd y pwlpud erioed yn gymaint dylanwad ag ydoedd yn moreu oes Lloyd George. Erys dylanwad areithyddiaeth Pwlpud Cymru yn ei natur hyd y dydd. hwn. Cefnogwyd yr adfywiad mewn dysg ac yn llenyddiaeth Cymru gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yr hon a dynai i'w gwasanaeth oreuon llen, barddoniaeth, cerddoriaeth, ac areithyddiaeth y genedl.

Er y geill ymddangos ar ryw olwg yn hynod, eto mae yn ffaith, mai y pethau yr edrychid arnynt gan uchelwyr Cymru gyda dirmyg, ac a gyfrifid i Lloyd George yn anfanteision—sef ei grefydd, a'i iaith—a fuont yn foddion effeithiol i'w ddyrchafu. Yr iaith a alltudid o'r ysgol brofodd y moddion goreu i oleuo ei ddeall ac i goethi ei feddwl; a'r capel dirmygedig oedd yr unig awdurdod yn y lle a drefnai gyfleusderau iddo ef a'i gyd-ieuenctyd ymarfer y ddawn o areithyddiaeth ac i loewi eu galluoedd mewn dadl.

A siarad yn gyffredinol, y capel Ymneillduol, ac nid eglwys y plwyf a ddarparai i ieuenctyd y gynulleidfa, a'r ardal gyfleusderau i ymarfer eu doniau yn y cyfeiriadau a nodwyd. Gwyr darllenydd y llyfr hwn nodwedd arbenig yr Ysgol Sul Gymreig, a'r gwahaniaeth rhyngddi a'i chwaer sefydliad Seisnig. O herwydd egwyddor seiniol orgraff ein hiaith, gellir dysgu darllen Cymraeg mewn llai na chwarter yr amser a gymer i ddysgu darllen Saesneg. Y canlyniad yw fod gwerin Cymru drwy ei newyddiaduron, a'i chylchgronau, a'i llyfrau Cymraeg, yn mhell ar y blaen i'r werin Seisnig mewn gwybodaeth am ddygwyddiadau a dysgeidiaeth y byd. Mae'r gweithiwr Cymreig, mewn canlyniad, yn wr goleu a dysgedig o'i gymharu a'i frawd Seisnig o'r un dosbarth mewn cymdeithas. Meithrinid yr awydd hwn am oleuo'r meddwl ac eangu cylch gwybodaeth, gan y Gymdeithas Lenyddol a geid fel rheol yn mhob ardal yn Nghymru, ac yn aml yn nglyn a phob capel yno. Gyda hyn ceid yn gyffredin Gymdeithasau'r Cymrodorion, a'r cyffelyb, a arweinient y Cymry ieuainc i feusydd pellach o astudiaeth.

Manteisiodd Lloyd George yn helaeth ar yr holl gyfleusderau hyn, a daeth yn fuan i gael ei gydnabod fel dadleuydd blaenaf y pentref. Ond nid yn y Cymdeithasau yn unig y dysgai i drin arfau areithyddiaeth. Yn ei ddyddiau ef, ac eto i raddau yn yr ardaloedd gwledig, efail y gof oedd senedd y pentref, a siop y crydd oedd dadleudy philosophi. Dyma ddywed Lloyd George ei hun:

"Gefail y gof yn y pentref oedd fy Senedd-dy cyntaf. Yno nos ar ol nos cyfarfyddem a'n gilydd, gan ymdrin a dyrys bynciau a dyfnion bethau o bob math perthynol i'r byd hwn a'r nesaf, mewn gwleidyddiaeth, duwinyddiaeth, philosophyddiaeth, a gwyddoniaeth. Nid oedd dim yn rhy fawr, dim yn rhy eang a chynwysfawr, i ni ei ddadleu yno."

Mae'r hen efail hono, Senedd-dy cyntaf Lloyd George, wedi ei malurio er's blynyddoedd. Heddyw, nid oes iddi gareg ar gareg ar nis datodwyd. Ond ceir yma ddarlun cywir o'r hen adeilad, yr unig un sydd ar gael, ac na chyhoeddwyd erioed o'r blaen mo hono, ac a dynwyd ychydig ddyddiau cyn gwneyd yr adeilad yn garnedd.

Ac na thybied neb mai Mr. Lloyd George yw unig gynyrch dysglaer efail y gof a siop y crydd. I enwi dim ond un allan o lawer eraill, dyna'r Proffeswr Syr Henry Jones, Prif Ysgol Glasgow, olynydd yr enwog Drummond[2], a gydnabyddir fel un o philosophyddion blaenaf y byd heddyw. Priodola yntau, fel y gwna Lloyd George, ei ddadblygiad meddyliol i'r un cyfryngau syml. Mab ydyw Syr Henry Jones i grydd y pentref ar gyffiniau Dinbych a Maldwyn[3]. Dechreuodd ddadblygu yn yr Ysgol Sul a Chymdeithas Lenyddol ei gapel. Perffeithiwyd y gwaith da mewn dadleuon philosophyddol dwfn yn siop ei dad, y crydd. Nid oes neb ond a gymerodd ran ei hun mewn dadleuon o'r fath o dan gyffelyb amgylchiadau, a fedr fesur maint a gwerth y ddysgyblaeth meddwl a geid gynt, ac a geir eto weithiau, yn y lleoedd syml a dinod hyn. Gwawdia rai acen Gymreig amlwg Mr. Lloyd George a Syr Henry Jones pan siaradant Saesneg, fel pe bae acen Gymreig yn rhywbeth gwaeth nag acen Wyddelig, neu Ysgotaidd, neu ei bod yn annghymwyso dyn at fywyd cyhoeddus. Ond ni cheir heddyw yn y byd nemawr i ddyn yn medru gwell Saesneg, yn meddu gallu greddfol i ddewis y gair mwyaf cymwys, neu i roi y tro mwyaf pwrpasol i frawddeg Seisnig, na'r ddau Gymro enwog hyn.

Felly, pan ddechreuodd Mr. Lloyd George yn ei alwedigaeth fel cyfreithiwr i ddadleu yn y llysoedd, yr oedd ei arfau ganddo yn barod, wedi cael eu gloewi ac wedi cael gosod min arnynt yn y dadleudai syml a nodwyd. Yr oedd mewn gwirionedd felly wedi cael ei arfogi yn llawer gwell at y gwaith oedd ganddo i'w gyflawnu nag ydoedd y graddedigion o'r prifysgolion a'i gwrthwynebent yn y llysoedd.

Er nad oedd y diwygiad crefyddol na'r adfywiad mewn unrhyw fodd yn gwisgo gwedd wleidyddol, eto amlwg yw ddarfod i'r ddau ddylanwadu yn anrhaethol ar ddadblygiad syniadau gwleidyddol Cymru. Anffawd yr uchelwyr oedd fod yr adfywiad yn ymarferol gyfyngedig i'r werin. Hanai y beirdd a'r pregethwyr ysbrydoledig yn mron yn ddieithriad o ddosbarth y gwladwr a'r gweithiwr; ac i'r dosbarth hwnw yr oedd y Saesneg yn iaith mor estronol ag yw Groeg a Lladin i'r glowr neu'r llafurwr Seisnig heddyw. Felly, tra yr oedd y Beirdd yn deffroi o'r newydd yn nghalonau gwerin Cymru ddyheadau cenedlaethol, ac yn rhoi mynegiant i hen ddyheadau traddodiadol y genedl mewn barddoniaeth swynol, seinber, yr oedd cewri Pwlpud Cymru hwythau yn cyffroi megys a sain udgorn yr hyn a elwir heddyw yn "gydwybod Ymneillduol," gan ddysgu dyledswydd dyn at ei gyd-ddyn yn ogystal a thuag at ei Dduw.

Deallodd Lloyd George hyn yn dda. Dyma ddywed efe am ei gydwladwr enwog, Hugh Price Hughes, ar yr hwn yr edrychai fel yn cynrychioli cewri pwlpud ei febyd yntau:

"Teimlai ddyddordeb byw yn y trueiniaid a sethrid dan draed cymdeithas. Gwyddai fod uffern yn dechreu ar y ddaear i filiynau o bobl. Rhoddai ei gefnogaeth alluog i bob mudiad at buro cymdeithas, at ysgubo ymaith o'r byd y tlodi, a'r budreddi, a'r pechod, a'r afiechydon. Addawodd Crist y caffai ei ganlynwyr y can cymaint yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol. Gwarth Protestaniaeth yw ei bod weithiau yn anwybyddu y rhan gyntaf o'r addewid wrth bregethu yr ail. Ceisiodd Hugh Price Hughes ei oreu i symud y gwarthrudd hwnw. Gwyddai ef fod y miliynau mud a dyoddefgar yn dysgwyl yn amyneddgar am weled y llogran (dividend) cyntaf yn cael ei ranu yn y byd hwn: ac, hyd nes y cant ef, prin y medrwch ddysgwyl iddynt gredu fod y llogran gohiriedig (deferred dividend) yn eu haros yn y byd a ddaw."

Ac wrth gyffroi y gydwybod Ymneillduol ceisiai pregethwyr mawr plentyndod Lloyd George sicrhau i'r werin eu llogran gyntaf yn ol addewid Crist, tra yn y cyfamser yn pregethu yn ffyddiog y deuai y llogran arall yn ei amser priodol.

Felly, pan yn blentyn pum mlwydd oed, gwelodd Lloyd George wyrth yr Adfywiad yn Nghymru, drwy yr hwn am y tro cyntaf, y gwnaed Ymneillduaeth Gymreig a Chenedlaetholdeb Cymreig yn eiriau cyfystyr, pob un o'r ddau yn cael ei ysbrydoli gan yr un amcan, ac wedi ymgyflwyno i'r un genadaeth fawr-dyrchafu gwerin Cymru. Yn nyddiau mebyd Lloyd George ysgydwid esgyrn sychion Ymneillduaeth wleidyddol oeddent wedi gorwedd yn dawel yn nyffryn darostyngiad er dyddiau Walter Cradoc a Vavasor Powell ddau can mlynedd cynt. Yr oedd llef y pwlpud fel sain udgorn yn galw asgwrn at ei asgwrn; giau a roddwyd arnynt, a'r cig a gyfododd arnynt, a chyflawnwyd y wyrth pan anadlodd ysbryd Cenedlaetholdeb arnynt, ac y buont fyw, ac a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn. A'r llu adgyfodedig a feddianodd y dwthwn hwnw wersyll y Philistiaid yn nghynrychiolaeth Seneddol Cymru, ac Ymneillduaeth sydd yn dal y gynrychiolaeth hono hyd y dydd hwn.

Henry Richard, y gweinidog Annibynol, mab Ebenezer Richard, y gweinidog Methodistaidd o Dregaron. oedd y gwr a arweiniodd genedl y Cymry o Dy y Caethiwed. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Ferthyr Tydfil. Efe a roddodd am y tro cyntaf erioed lais i Ymneillduaeth Cymru yn Nhy'r Cyffredin yn 1868, a Lloyd George y pryd hwnw yn bum mlwydd oed. Gwan ar y cyntaf oedd cyffroadau cenedlaetholdeb yn enaid Henry Richard, ond cyn hir cynyddodd, a deuai gryfach gryfach fel yr elai ei gorff yn wanach gwanach. Cefais y fraint o gynorthwyo dadblygiad yr ysbryd cenedlaethol yn ei fynwes, ac o'i gyfarwyddo pa fodd i'w ddefnyddio yn ymarferol er lles Cymru yn Nhy'r Cyffredin. Yn mhob etholiad ar ol hyny, cryfhau a wnaeth y galluoedd Cenedlaethol yn etholaethau Cymru, gan gyfnewid yn sicr a pharhaol holl wyneb cynrychiolaeth y werin yn y Senedd. Gellir dweyd mai yn 1886 y daeth y gallu newydd i'w etifeddiaeth, pan etholwyd Tom Ellis, yr Ymneillduwr Cenedlaethol pybyr, mab y pentref a'r bwthyn, yn Aelod Seneddol.

Ni chyfyngwyd y deffroad Ymneillduol yn 1868 i Ferthyr Tydfil, eithr lledodd fel tan gwyllt drwy'r holl Dywysogaeth. Yn mhob cyfeiriad torwyd i lawr yr hen argaeau, a thaflwyd ymaith am byth yr ymlyniad traddodiadol wrth y gyfundrefn wriogaethol o dan yr hon y cadwynid y gwladwr gynt. Enillwyd sedd ar ol sedd yn mhob rhan o'r Dywysogaeth gan Ymneillduaeth Ryddfrydol ddeffroedig. Gwrthryfel ydoedd, a gwrthryfel llwyddianus yn erbyn y drindod—yr offeiriad, y sgweier, a'r meistr tir, y rhai hyd y pryd hwnw a feddent yr holl awdurdod gwleidyddol, ac a feddianent yn llwyr gynrychiolaeth Cymru yn y Senedd. Ond costiodd y fuddugoliaeth yn ddrud i luoedd o ffermwyr bychain Cymru. Pleidlais agored oedd y bleidlais y pryd hwnw, ac felly gwyddai'r meistr tir a'i oruchwyliwr pwy a bleidleisiodd yn erbyn yr hen oruchwyliaeth. Yr oedd y cyfryw yn hollol wrth drugaredd y meistr tir, a'r canlyniad oedd dyoddefiadau yn mron annesgrifiadwy i ganoedd o deuluoedd. Trowyd y ffermwyr o'u tiroedd a'u tai, nid am na thalent y rhent, ond am ddarfod iddynt bleidleisio yn ol eu cydwybod ac yn

MRS. GEORGE, MAM MR. LLOYD GEORGE[4]

groes i ewyllys y meistr tir. Mewn llawer amgylchiad, lle yr oedd teulu wedi byw am genedlaethau ar yr un tyddyn, ac yn aml wedi helaethu'r tyddyn yn ddirfawr drwy arloesi tir gwyllt gerllaw iddo, taflwyd hwynt allan i'r heol yn ddidrugaredd. Taflwyd eu dodrefn allan ar eu hol. Gan nad oedd ganddynt le arall i roi pen i lawr, buont fyw—a marw—lawer o honynt mewn hen ystablau ac ysguboriau, neu mewn pebyll ar ymyl y ffordd. Daeth afiechyd ac angeu i'w canlyn yno. Ymfudodd llawer i'r Unol Dalaethau, a cheir eu plant a'u hwyrion yn mhlith derbynwyr cyson y "Drych," a gwyddant hwy mai gwir yw y dystiolaeth hon am ddyoddefiadau eu tadau—a'r llygaid hyn a welsant y dyoddefiadau hyny. Yr oedd yr holl ddygwyddiad yn ddychrynllyd yn ei faintioli, yn ei amlygiad o ormes didrugaredd, ac yn y dyoddef a'u canlynodd.

Yn mhlith adgofion cyntaf boreu oes Lloyd George yr oedd y golygfeydd arswydus hyn o erlid a dyoddef o herwydd cydwybod. Gwelodd hwynt, gwyddai am danynt, clywodd hwynt yn cael siarad am danynt yn feunyddiol yn ngweithdy ei ewythr. Fel y tyfodd mewn dyddiau tyfodd hefyd mewn gwybodaeth ac amgyffrediad o honynt. O angenrheidrwydd gadawsant argraff annileadwy ar ei feddwl ac ar ei gof. Lliwiasant ei holl welediad gwleidyddol. Gwelir cysgodion y dygwyddiadau alaethus hyny yn ei ymgyrch i ddiwygio Deddfau'r Tir, ac yn ei Gyllideb Fawr, yn ogystal ag yn ei areithiau gwleidyddol a goffheir yn y benod nesaf.

PENOD III.

Y CENEDLAETHOLWR.

RHAID oedd i ddysgybl Michael Jones o'r Bala ddadblygu yn Genedlaetholwr aiddgar —neu fel y galwai Michael ei hun y gair yn "Genhelwr."

Trwy gymorth ei ewythr, astudiaeth galed, a gallu meddyliol, aeth y llanc David Lloyd George yn llwyddianus drwy y gyfres arholiadau a safent fel rhes o byrth cauedig ar y ffordd sydd yn arwain i alwedigaeth cyfreithiwr yn Nghymru. Yn feddianol ar ddawn siarad naturiol, arferai er yn fachgenyn bach ddifyru, os nad adeiladu, ei gyfoedion drwy ddynwared rhai o'r pregethwyr a welodd ac a glywodd, gan adrodd yn rhigl ddarnau helaeth o'u pregethau—ac nid yn anaml yn asio darnau o'i eiddo ei hun wrthynt. Maethwyd, cryfhawyd, a blaenllymwyd y dawn hwn drwy ddefnyddio y cyfryngau a nodwyd eisoes.

Wedi ymsefydlu fel cyfreithiwr, nid hir y bu cyn enill enw fel dadleuwr medrus yn y llysoedd. Ychwanegid at ei glod gan y ffaith na chymerai ei ddychrynu na'i osod i lawr gan neb yn y llys. Dywedir am dano ei fod yn nyddiau cyntaf ei ymddangosiad yn y llysoedd, yn arddangos cyfuniad o ysbryd ymladdgar ceiliog 'bantam,' a gafael ddi-ollwng y targi (bulldog). Deuai felly yn fynych i wrthdarawiad a'r Fainc Ynadol, am y rhai nid oedd yn malio dim—er fod cyfreithwyr eraill, hyn nag ef, yn swatio bob amser iddynt. Rhaid cofio hefyd fod y Fainc Ynadol y pryd hwnw, o ran eu plaid wleidyddol a'u daliadau crefyddol, yn byw yn y pegwn pellaf oddiwrth y Radical Ymneillduol Lloyd George. Yr oedd eu cysylltiadau cymdeithasol hefyd, a'u cydymdeimlad, yn naturiol gyda'r tir feistri a'r urddasolion y rhai a edrychent ar Radical fel gelyn. Naturiol hefyd oedd i'r werin a ddelid yn rhwyd y gyfraith, redeg at y cyfreithiwr Radicalaidd i'w cael yn rhydd. Felly, nid hir y bu ei swyddfa yn Mhorthmadog cyn dod fel Ogof Adulam gynt i Ddafydd arall, yn fan lle yr "ymgynullodd ato bob gwr helbulus, a phob gwr a oedd mewn dyled, a phob gwr cystuddiedig o feddwl, ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy."

Ac, o dan ddeddfau gorthrymus y Tir a'r Helwriaeth, ceid llawer iawn o'r cyfryw. Eto dosbarth oeddent a ddygent iddo fwy o enw fel cyfreithiwr nag o elw mewn arian. Cydnebydd ef ei hun fod un gwall mawr yn perthyn iddo fel cyfreithiwr. Dywed: "Nid oeddwn byth yn gyru allan filiau cyfreithiwr. Y canlyniad oedd fy mod heb arian." Dywed hefyd mai pan yr ymunodd ei frawd, Mr. William George, ag ef fel cyfreithiwr, o dan yr enw "Lloyd George & George," y dechreuodd pethau wella. "Ac ni ddyoddefodd y ffirm byth wedyn oddiwrth y gwendid hwn," ebe Lloyd George gyda llygad chwareus.

Yn mhlith ei gwsmeriaid cyntaf ceid aml i droseddWr o Ddeddfau Helwriaeth—nid herw-helwyr (poachers), yn gymaint a dynion a dybient y caent hwy wneyd fel y gwnaeth eu tadau o'u blaen am genedlaethau, sef dal ambell i bysgodyn yn yr afon, neu wningen ar y graig neu'r maes, fel help i lenwi'r cwpbwrdd bwyd. Ato ef hefyd y deuai ffermwyr ag oedd ganddynt gwyn yn erbyn y meistr tir neu ei oruchwyliwr; ac eraill a ormesid gan y gwyr mawr. Llwyddodd yn well na neb o'i flaen i fynu chwareu teg i'r bobl hyn, ac enillodd aml i achos a ystyrid yn hollol anobeithiol. Drwy hyn, nid yn unig enillodd y gair o fod yn gyfreithiwr smart, ond daeth ei enw ar flaen tafod pawb fel "un sydd yn siwr o ddod yn mlaen." Ystyrid ef yn arwr y werin—ac nid peth dibwys oedd hyn i ddyn a'i lygad ar y Senedd.

Yr enwocaf o'r achosion a roddwyd i'w ofal yn nechreu ei yrfa fel cyfreithiwr oedd yr un a adwaenir hyd y dydd heddyw fel "Achos Claddu Llanfrothen." Gall amgylchiadau'r hanes ymddangos yn annghredadwy i drigolion yr Unol Dalaethau, lle y ceir perffaith gyfraith rhyddid yn gweithredu. Ond er mor anhygoel y stori, mae yn hollol wir. Dyma'r ffeithiau yn fyr, a chynorthwyant Gymry'r America i gael rhyw syniad am yr ormes a ddyoddefid yn dawel gynt yn yr Hen Wlad, yn ogystal ag am feiddgarwch y cyfreithiwr ieuanc Lloyd George.

Bu farw hen chwarelwr, yr hwn ar ei wely angeu a ddeisyfodd gael gorwedd yn medd ei ferch yr hon a gladdesid yn mynwent y plwyf. Yr oedd Deddf Claddu Osborne Morgan newydd ddod i rym. Cyn cael y Ddeddf hono nid oedd hawl gan neb ond offeiriad y plwyf, neu ei giwrad, i wasanaethu wrth y bedd. O dan Ddeddf Osborne Morgan rhoddid hawl i weinidog Ymneillduol gynal gwasanaeth ar lan y bedd os rhoddid rhybudd ysgrifenedig, a hyny yn mlaen llaw i'r offeiriad. Pan aeth y perthynasau i chwilio am ganiatad i'r hen wr gael ei gladdu yn medd ei ferch, ni soniasant air mai gwasanaeth Ymneillduol a fwriedid ei gynal. Rhoddodd yr offeiriad ganiatad i agor bedd y ferch i dderbyn corff ei thad. Ond pan gafodd y rhybudd swyddogol mai gwasanaeth Ymneillduol a fyddai wrth y bedd, rhoddodd yr offeiriad orchymyni'r torwr beddau i lanw drachefn fedd y ferch, a thori bedd newydd i'r tad mewn congl neillduedig, lle yr arferid claddu'r cyrff a geid ar y traeth wedi eu boddi yn y mor. Pan glywsant hyn, aeth y perthynasau at Lloyd George, yr hwn a'u hysbysodd fod ganddynt hawl yn ol y gyfraith i gladdu'r tad yn meddrod ei ferch. Ar gyfarwyddyd Lloyd George aeth y perthynasau i'r fynwent, ac ail agorasant y bedd cyntaf, yr hwn a gauasai'r offeiriad. Ond pan gyraeddodd yr angladd at y fynwent, cafwyd fod y pyrth wedi cael eu cau a'u cloi, fel nad allai neb fyned i mewn. Yr oedd Ll. G. yn yr angladd, ac archodd ddwyn barau heiyrn a thori'r ffordd i'r angladd fyned i'r fynwent. Gwnaed felly. Aeth yr angladd i'r fynwent, cynaliwyd gwasanaeth Ymneillduol ar lan y bedd, a rhoddwyd yr hen chwarelwr druan i orphwys gyda'i ferch. Dygodd yr offeiriad gyngaws yn erbyn y perthynasau. Amddiffynwyd hwynt gan Lloyd George. Collodd yr achos yn y Llys cyntaf, ond apeliodd at yr Uchel Lys lle y llwyddodd. Drwy hyn cyfreithlonodd ei wrthryfel yn erbyn awdurdodau nef a daear. Enillodd iddo ei hun enw drwy'r holl wlad fel cyfreithiwr oedd yn gwybod ei fusnes.

Cymellwyd ef gan ei gydymdeimlad a'r ffermwyr gorthrymedig i gymeryd rhan flaenllaw mewn sefydlu "Undeb Ffermwyr"—y cyntaf o'r fath yn y sir, yn 1886, pan nad oedd ond 23 mlwydd oed. O hyn y daeth Dirprwyaeth Tir i Gymru drwy law Mr. Gladstone yn mhen chwe mlynedd. Yn nglyn ag Undeb y Ffermwyr ffurfiwyd hefyd gangen o Gyngrair y Gwrth-Ddegymwyr. Amcan y Cyngrair hwn oedd dileu y Degwm a delid at gynal yr Eglwys Sefydledig. Ffurfiwyd cangen yn sir Gaernarfon, gyda Mr. Lloyd George yn ysgrifenydd. Yno y cyneuwyd tan a ledodd yn ffagl drwy Gymru benbaladr cyn pen blwyddyn. Prif arweinwyr y mudiad hwn oedd Thomas Gee, perchen a golygydd "Y Faner," a John Parry, amaethwr cyfrifol yn Llanarmon. Teg yw dweyd er holl areithyddiaeth danllyd Lloyd George pan yn anerch cyfarfodydd y ffermwyr, achubwyd sir Gaernarfon rhag y tywallt gwaed a nodweddodd y mudiad mewn siroedd eraill, yn enwedig siroedd Dinbych, Caerfyrddin, a Phenfro. Yr oeddwn ar y pryd yn Ohebydd Arbenig i bapyr dyddiol Seisnig dylanwadol, a dylynais Ryfel y Degwm a'i frwydrau drwy Gymru oll. Gwelais y brwydro a'r tywallt gwaed, ac nid yw ond teg i mi sicrhau y darllenydd na chymerasai y golygfeydd ofnadwy hyny le oni bae am ynfydrwydd yr awdurdodau yn dwyn lleng o heddgeidwaid dyeithr, a llu o filwyr cotiau cochion, i'r ardaloedd gwledig er ceisio dychrynu'r gwladwyr, y rhai oni bae am bresenoldeb y rhai hyn ni fuasent yn debyg o godi cweryl.

Wedi ymgymeryd felly a Rhyfelgyrch Diwygio Deddfau'r Tir, gweithiodd Lloyd George yn galed drosto mewn gwahanol gyfeiriadau. Gall y darllenydd farnu oddiwrth y dyfyniadau isod beth oedd natur golygiadau Lloyd George yn y cyfnod hwnw, 30 mlynedd yn ol. Wrth siarad mewn cyfarfod mawr yn Ffestiniog, pan yr oedd Michael Jones o'r Bala yn gadeirydd, a Mr. Michael Davitt, y Gwyddel enwog, yn brif siaradwr, dywedodd Lloyd George:—

"Yr ydych yn cofio dameg y gwr a syrthiodd yn mhlith lladron. Wel, mae ffermwyr Cymru wedi syrthio yn mhlith lladron yn awr. Ond y mae offeiriaid Cymru yn llawer gwaeth na'r offeiriad yn y ddameg. Myned heibio yr ochr arall heb gymeryd sylw o'r truan a ysbeiliwyd ac a orweddai yn ei waed, a wnaeth yr offeiriad yn y ddameg, ond mae'r offeiriaid yn Nghymru wedi ymuno a'r lladron!"

"Tra bo gweithwyr Cymru yn newynu o eisieu bwyd, ceir ein gwyr mawr yn gwario yr arian a enillir iddynt drwy chwys wyneb y gweithiwr, i brynu i'w helwriaeth y bwyd sydd ar y werin ei angen, gan gyflawnu felly yn llythyrenol y gair fod 'bara y plant yn cael ei daflu i'r cwn.' Ymunwch a'ch gilydd, ac ni eill dim eich gwrthsefyll. Hyderaf yr ymunwch un ac oll yn aelodau o Gyngrair y Tir yn Nghymru."

Mae y dyfyniadau hyn yn nodweddiadol o'i areithiau boreuol, ac, fel y gwelir, adlewyrchir y syniadau hanfodol a geir ynddynt, yn ei Ymgyrch i Ddiwygio Deddfau'r Tir ddwy flynedd yn ol. Ceir yn araeth Ffestiniog un frawddeg arall sydd yn meddu dyddordeb neillduol heddyw, pan fo'r holl Ymerodraeth Brydeinig yn dwyn arfau yn erbyn Germani. Dywedodd:—

"Ceir rhai pobl yn beio Mr. Gee am ddwyn Michael Davitt i Gymru. Ac eto ceir y bobl hyn yn myned ar eu gliniau o flaen tywysogion nad ydynt amgen na Germaniaid cymysgryw i grefu arnynt ddod yn llywyddion Eisteddfodau Cymru."

Dair blynedd yn ddiweddarach, pan oedd etholiadau cyntaf Cyngorau Sir wedi gosod yr awdurdod lleol drwy Gymru oll yn nwylaw'r Cenedlaetholwyr Cymreig, dywedodd mewn araeth yn Lerpwl:—

"Ymddibyna Cymru am ei chynaliaeth ar adnoddau'r ddaear, ei hadnoddau mwnawl ac amaethyddol. Perchenogir y ddaear hono gan fonedd Toriaidd. Plaid y torthau a'r pysgod a'r cerdod Nadolig, yw y Blaid Doriaidd yn Nghymru. Canolbwyntiwyd ac angerddolwyd y dylanwadau llygredig hyn oll yn etholiad y Cyngorau Sir. Ymladdai pob sgweier nid yn unig dros Doriaeth, ond dros ei ddyrchafiad personol; a thrwy hyd a lled y Dywysogaeth defnyddiodd Sgweieryddiaeth ei ddylanwad yn ffyrnicach nag erioed o'r blaen. Ond, ar waethaf pob ymgais i'w dychrynu a'i brawychu, glynodd Cymru yn dyn wrth egwyddorion rhyddid gydag ymgyflwyniad godidog. Gymru Fechan Ddewr!"

Dyna gyweirnodau ei areithiau boreuol oll, ac maent wedi aros yn nodau llywodraethol yn ei areithiau politicaidd byth oddiar hyny—Cenedlaetholdeb yn cael ei lywodraethu gan ysbryd gwrthryfel yn erbyn Sgweierlywiaeth ac Eglwyslywiaeth gyda phrofiad helaethach. Daeth yn gliriach ei amgyffrediad am Genedlaetholdeb. Yr oedd yr amser yn aeddfed i wneyd mynegiad croew a phendant ar hawliau cenedlaethol y Cymry. Yr oedd pob peth yn ffafrio hyny. Yr oedd erthyglau Mr. T. E. Ellis (Cynlas) yn y "South Wales Daily News" cyn iddo fyned i'r Senedd, a'i areithiau ar ol myned yno, wedi cyffroi y genedl i'w gwaelodion. Gwisgai delfrydau cenedlaethol ffurf ymarferol ar bob llaw. Am y tro cyntaf erioed yr oedd polisi cenedlaethol clir yn cael ei osod o flaen y wlad. Sefydlwyd tri Choleg Cenedlaethol. Cydweithiodd addysgwyr blaenaf y Dywysogaeth i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, i'r hon y'm galwyd inau i fod yn Ysgrifenydd a Threfnydd. Hawliai hon ar i'r Iaith Gymraeg gael ei chydnabod, ei defnyddio, a'i dysgu, yn yr Ysgolion. Sicrhawyd hyny yn gyffredinol. Ffurfiwyd hefyd Undebau Ysgolion Sul Cymreig yn yr ardaloedd gweithfaol Seisnig. Cododd Cymdeithasau Cenedlaethol i fyny ar bob llaw. Lledodd y mudiad i feithrin yr iaith, dros y terfyn i Loegr, gan feddianu y trefi mawr yn Lloegr, megys Llundain, Manchester, Birmingham, Liverpool, ac eraill lle y ceid poblogaeth Gymreig gref.

I'r ddaear hon oedd eisoes wedi cael ei gwrteithio mor dda, y bwriodd Mr. Lloyd George had ei bolisi Cenedlaethol. Ei gynllun oedd meddianu y Cymdeithasau Rhyddfrydol Swyddogol, gan eu trawsffurfio i fod yn Gymdeithasau Cenedlaethol. Lle methai eu henill, yr oedd yn barod i'w malurio, ac i godi ar eu hadfeilion gyfundrefn o Gymdeithasau Cenedlaethol i lywodraethu pob etholiad Lleol a Seneddol drwy Gymru oll. Dyna oedd cyffrawd creadigol mudiad mawr Cymru Fydd. Cafwyd yr amlygiad cyhoeddus cyntaf o'r polisi Cenedlaethol hwn mewn anerchiad gan Lloyd George yn Nghaerdydd yn 1890. Dengys y dyfyniadau a ganlyn rediad ei ddadl:—

"Os dadleuir dros ddeddfwriaeth arbenig i gyfarfod ag angenion neillduol Cymru, rhaid i ni hawlio Deddfwrfa arbenig i'r pwrpas hwnw. Fel y mae pethau yn y Senedd ar hyn o bryd cymer o leiaf ddwy genedlaeth cyn y medr Senedd Prydain Fawr symud achos cwynion Cymru. "Drwy gael Ymreolaeth i Gymru, yn unig y geill y genedlaeth hon fedi o ffrwyth ei hymdrechion politicaidd. Mae pob rhesymeg a ddefnyddir heddyw dros Ymreolaeth i'r Werddon yn llawn mor gymwysiadwy at achos Cymru. Nid oes un o'r prif wrthwynebiadau a godir yn erbyn rhoi Ymreolaeth i'r Werddon, yn gyfryw ag y gellid ei godi yn erbyn rhoi Ymreolaeth i Gymru.

"Cymerer y ddadl fawr fod y Gwyddelod yn genedl wahanfodol. Golyga cenedl wahanfodol fod i'r genedl hono dueddiadau, amcanion, galluoedd, ac amgylchiadau nodweddiadol, ac y dylai felly gael Deddfwrfa iddi ei hun. Ond os yw hyn yn wir am y Werddon, mae yn llawer mwy gwir am Gymru. Collodd y Werddou un o'i hawl-weithredoedd i genedlaetholdeb pan gollodd ei hiaith frodorol. Ond cadwodd Cymru yr hawl hwn yn gyflawn.

"Rhoddwyd eisoes i'r Werddon ffafrau deddfwriaethol a fuasent wedi gwneyd ffortiwn Cymru. Nid oes cymaint ag un mesur mawr wedi cael ei basio gan y Senedd Ymerodrol i gyfarfod ag angenion arbenig Cymru. Mae pob dadl y gellir ei dwyn yn mlaen dros Ymreolaeth i'r Werddon yn gryfach lawer dros Ymreolaeth i Gymru. Nid oes un o'r rhwystrau mawr a geir ar ffordd rhoi Ymreolaeth i'r Werddon yn rhwystr o gwbl i roi Ymreolaeth i Gymru. Ofna rhai y byddai rhoi Ymreolaeth i'r Werddon yn ail-sefydlu Pabyddiaeth fel crefydd genedlaethol y Werddon. Nid felly yn Nghymru. Dyna wedyn fwgan ac anhawsder Ulster. Ni cheir yr un Ulster yn Nghymru.

"Yr ydych wedi ymrwymo i brogram mawr, Dadgysylltiad, Diwygo Deddfau'r Tir, Dewisiad Lleol, a gwelliantau mawr eraill. Ond er eu maint nid ydynt yn cyffwrdd ond megys ymylon y cwestiwn mawr cymdeithasol y rhaid ei wynebu yn fuan. Mae amser pwysfawr gerllaw. Yr ydys yn craff chwilio cyfandir mawr camwri, a cheir ysbryd cenadol yn ei deithio er ei enill yn ol i deyrnas iawnder. Cyhoeddwyd 'rhyfel santaidd' yn erbyn y cam a wna dyn a'i gyd-ddyn, a gwelir pobloedd Ewrop yn cyrchu i'r groesgad. Y cwestiwn mawr y rhaid i ni ei benderfynu yw: Pa beth a wna Cymru yn yr Armagedon hon? A foddlonwn ni ar gario lluman cenedl arall? Neu ynte a fynwn ni gael yr hen Ddraig Goch i arwain ein cenedl unwaith eto i ryfel ac i ymladd dros iawnderau?"

Mae chwarter canrif wedi pasio er pan glywais Lloyd George yn traddodi yr araeth yna; am naw mlynedd mae ef ei hun wedi bod yn aelod o Gabinet Prydain. Ond, cyn belled ag y mae rhoi deddfwriaeth arbenig i Gymru yn y cwestiwn, gallasai'r araeth, fel y'i thraddodwyd chwarter canrif yn ol, fod wedi ei thraddodi ddoe! Dengys y dyfyniadau uchod:—

1. Fod Lloyd George, hyd yn nod y pryd hwnw, cyn myned o hono erioed i'r Senedd, a'i olwg ar ddeddfwriaeth diwygiad cymdeithasol.

2. Nad yw'r mesurau mawr y cymerodd efe fel Gweinidog y Goron ran flaenllaw i'w pasio drwy'r Senedd—megys Dadgysylltiad, Diwygio Deddfau'r Tir, Dirwest—yn ei farn ef ond megys yn cyffwrdd ag ymylon y cynllun mawr o ddiwygio cymdeithas a dybiai ef y pryd hwnw y rhaid ei ddwyn oddi amgylch. 3. Ond, hyd yn nod felly gosodai Ymreolaeth i Gymru o flaen pob peth, am y tybiai mai trwy sicrhau Ymreolaeth i Gymru yn gyntaf y gellid yn oreu gael y diwygiadau cymdeithasol.

Eto, mor bell ag y mae a fyno cydnabod gwahanfodaeth cenedlaethol Cymru, yr unig ran o'r weledigaeth a gafodd bum mlynedd ar hugain yn ol a sylweddolwyd hyd yn hyn, ac y gellir dweyd y rhaid ei briodoli i'w symbyliad personol ef yw, y ceir yn yr Armagedon fawr i'r hon y cyrcha pobloedd Ewrop heddyw—er mai Armagedon wahanol iawn yw i'r un oedd ganddo yn ei feddwl y pryd hwnw—milwyr Cymru yn ymladd o dan luman y Ddraig Goch. Crewyd Bataliwn o Life Guards Cymreig, a gosodwyd hi ar yr un tir a'r Batal— iynau Cenedlaethol o eiddo cenedloedd eraill Prydain; a bod Byddin Gymreig o dan lywyddiaeth swyddogion yn medru siarad Cymraeg, wedi cael ei chodi, ac iddi ran mor bendant yn yr Armagedon fawr ag a roddwyd i fwawyr Cymru yn mrwydrau mawr Cresi a Poitiers. Yn ol rhif ei phoblogaeth, cynygiodd mwy o drigolion Cymru eu gwasanaeth yn wirfoddol i'r fyddin nag a wnaeth un rhan arall o'r deyrnas. Er y gall hyn oll borthi balchder y genedl, eto i gyd o safbwynt Cenedlaethol, nid yw ond cynauaf teneu iawn i'w fedi ar ol chwarter canrif o waith yn y Senedd, a naw mlynedd yn y Cabinet, i wr fel Lloyd George, uchelgais yr hwn oedd bod yn arweinydd cenedl y Cymry, ac Apostol Heddwch Prydain.

Cyfranogodd ei ganlynwyr o'i ysbryd milwriaethus a'i ddyhead am ryddhau Cymru o hualau llywodraeth y Sais. Grisialwyd yr ysbryd hwn yn ffurf "Rhyfelgan Lloyd George" a ganwyd yn mhob etholiad gyda brwdfrydedd mawr:—

"Hurrah! Hurrah! We're ready for the fray!
Hurrah! Hurrah! We'll drive Sir John away!
The 'Grand Young Man' will triumph,
Lloyd George will win the day—
Fight for the Freedom of Cambria!"

Cenid y geiriau hyn ar yr Alaw Americanaidd adnabyddus "Marching through Georgia" a rhyfedd yr effaith a gaffai bob amser ar y dorf.

Er mor aiddgar dros Ymreolaeth i Gymru, ni bu Lloyd George yn selog dros Ymreolaeth i'r Werddon. Gellir canfod hyny yn y dyfyniadau a roddwyd eisoes o'i araeth yn Nghaerdydd. Yr oedd yn barod, mae'n wir, i ganiatau Ymreolaeth i'r Werddon, ond nid ar ei phen ei hun, eithr fel rhan o gynllun cyfunol a roddai Ymreolaeth ar yr un pryd i Loegr, yr Alban, a Chymru. Heddyw (Rhagfyr, 1915) ymddengys yn dra thebyg na cha'r Werddon Ymreolaeth ond fel rhan o'r cynllun mwy oedd yn mryd Lloyd George chwarter canrif yn ol.

Mae yn deilwng o sylw fod mantell Lloyd George fel Proffwyd Ymreolaeth i Gymru ar linellau Cyngreiriol, wedi syrthio ar ysgwyddau Aelod Cymreig arall, Mr. E. T. John, yr hwn sydd yn cynrychioli Dwyreinbarth Sir Ddinbych yn y Senedd, syniadau yr hwn ar y cwestiwn ydynt gyffelyb i eiddo Lloyd George bum mlynedd ar hugain yn ol. Disgynodd deuparth o ysbryd Lloyd George ar E. T. John, ac nid anmhosibl yw mai yr olaf a sicrha eto i Gymru yr hyn a obeithiai Lloyd George gynt ei enill iddi. Dyddorol i Gymry America fydd gwybod fod gan Mr. E. T. John fuddianau masnachol pwysig yn yr Unol Dalaethau, a'i fod mor hysbys yn symudiadau y fasnach haiarn a dur yn yr Unol Dalaethau a neb o fasnachwyr America.

PENOD IV.

DYDDIAU'R YMDRECH.

MAE llawer mwy o ramant yn newisiad ac etholiad y cyfreithiwr ieuanc o Griccieth i fod yn Aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Arfon, nag y sydd yn y ffaith fod Arweinydd y Blaid Gymreig wedi myned yn Weinidog y Goron yn y Cabinet. Mwy o lawer oedd y cam cyntaf na'r ail. Daeth ef o'r lle a ddesgrifir ganddo fel "y plwyf Toriaidd duaf yn y wlad." Mor gryf oedd yr hen oruchwyliaeth yno fel y dywedir mai ei ewythr, yn nghoty yr hwn y'i magwyd ef, oedd "yr unig Ryddfrydwr yn y pentref." Ac eto i gyd o'r pentref ac o'r plwyf hwnw y daeth y llanc Dafydd hwn allan i ymladd gornest hyd farw yn erbyn y Sgweier, gair yr hwn oedd yn ddeddf yn myd plentyndod Lloyd George. Brwydr ydoedd yn wir rhwng Dafydd a Goliath yr oes a'r wlad. Nid fod ei wrthwynebydd, Mr. (yn awr Syr Hugh) Ellis Nanney ei hun yn Philistiad rheibus gormesol; ond cynrychiolai, yn ei ymgeisiaeth, holl ormes y Philistiaeth hwnw y gwrth- ryfelodd Ymneillduaeth Cymru i'w erbyn.

Hynod, i ddechreu, oedd y ffaith i Mr. Lloyd George gael ei ddewis fel ymgeisydd Rhyddfrydol o gwbl. Ni feddai ddim a'i cymeradwyai i arweinwyr y Blaid hono. Nid oedd hyd yn nod ei Annghydffurfiaeth yn gymorth iddo. O'r pedwar enwad yn yr etholaeth, y gwanaf mewn aelodau, mewn dylanwad, ac mewn cyfoeth bydol, oedd yr un y perthynai Lloyd George iddo; ac edrychai'r enwadau y pryd hwnw yn ddrwg-dybus ar eu gilydd, pob un o honynt yn eiddigeddu wrth lwyddiant y llall. Llwyddodd ef i'w huno, gan fod felly yn rhagredegydd i Gyngrair yr Eglwysi Rhydd, y gallu geisia uno yr enwadau a'u gilydd. Yr oedd y Blaid Doriaidd, plaid y gwaed uchelryw a'r cyfoeth, eisoes wedi gwrthdystio yn erbyn "anfadwaith" sir Feirionydd yn anfon i'r Senedd Tom Ellis (mab y Cynlas, fferm fechan ger llaw'r Bala, yr hwn a ddaeth wedi hyny yn Brif Chwip y Llywodraeth o dan Arglwydd Rosebery), ac yntau, meddent, "yn ddim ond bachgen tlawd a gafodd ei fagu mewn coty." "Ah!" ebe Lloyd George pan glywodd fod hyn yn cael ei ddanod i Feirion, "Nid yw'r Toriaid wedi sylweddoli fod dydd y bachgen tlawd a mab y coty ar wawrio!" Ac yn fuan profodd, yn ei berson ei hun, fod y dydd hwnw wedi dod.

Gan nad beth a fu Lloyd George wedi myned o hono i'r Cabinet, camenw oedd ei alw yn "Rhyddfrydwr" yn nyddiau cyntaf ei fywyd gwleidyddol, canys yr oedd yn fwy ac yn llai na Rhyddfrydwr. Daeth allan yn syml fel Cenedlaetholwr Cymreig. Apeliai hyny yn gryf at elfen filwriaethus gref yn yr etholaeth. Dywedai un o'r arweinwyr y pryd hwnw: "Gwell genyf golli y sedd o dan arweiniad Cenedlaetholwr da, na'i henill gydag ymgeisydd glasdwraidd." Gan nad pa gyhuddiad a ddygir byth i'w erbyn, ni ellir ei gyhuddo yn deg o fod yn "lasdwraidd" mewn dim ar a ymaflo ynddo. "Ni enillir etholiadau byth gan Ryddfrydiaeth ddelffaidd (humdrum Liberalism)" ebe fe yn 1885. A dyna ei syniad o hyd. Pan yn ymgyngori a mi yn nghylch ei ragolygon yn etholiad 1902, ar ol iddo sefyll mor gryf yn erbyn y Rhyfel yn Ne Affrica, ebe fe wrthyf:

"Sylwch chwi ar fy ngeiriau; mae 'Trwyadledd' bob amser yn bolisi dyogel; mae 'Cyfaddawd' bob amser yn beryglus. Nid y dynion eithafol sydd yn colli mewn etholiad, ond y sawl na safant wrth eu gynau."

Ofnai rhai o'r hen arweinwyr y byddai syniadau eithafol yr ymgeisydd ieuanc yn colli'r sedd iddynt. Cysurwyd hwynt ychydig gan Mr. S. T. Evans, y pryd hwnw yn Aelod Seneddol dros Ganolbarth Morganwg, yn awr Syr Samuel Evans, Llywydd Llys Ysgariaeth. Ebe fe:

"Peidiwch blino dim am hyny. Fe gyll Lloyd George haner ei Radicaliaeth Cenedlaethol yn Nhy'r Cyffredin!"

Arwyddair Lloyd George yn yr etholiad oedd: "Crefydd Rydd, i Bobl Rydd, mewn Gwlad Rydd!" Cymerodd ef yn mron air yn ngair o enau yr Arwr Cenedlaethol, y "Gwrthryfelwr" Owain Glyndwr. Ysgubodd fel corwynt drwy'r etholaeth gan gario pob peth o'i flaen. Dangosodd am y tro cyntaf y bywydoldeb enfawr, yr yni diflino ac anwrthwynebol a'i nodweddasant byth wed'yn yn ei yrfa boliticaidd. Yr arwyddair "Cenedlaetholdeb" a enillodd iddo'r sedd, ac a osododd gadair Prif Weinidog Prydain o fewn ei gyraedd. Enillodd iddo fwy nag ymlyniad

MR. RICHARD LLOYD, EWYTHR MR. LLOYD GEORGE

(Oddiwrth Ddarlun gan Mr. Christopher Williams.)

Cymru Fydd y Bwrdeisdrefi. Tarawyd yr holl Dywysogaeth gan yr un pla o Genedlaetholdeb. Troai llygaid pawb at Arfon. Teimlid o bosibl mwy o bryder am lwyddiant Lloyd George y tu allan i'w etholaeth nag a deimlid yn y Bwrdeisdrefi ei hun.

Daeth ei ddewisiad yn ymgeisydd Seneddol fel rhodd Nadolig iddo yn 1888. Cymerodd yr etholiad ei hun le tua dwy flynedd ar ol hyny. Heddyw, yn anterth ei ddydd, ac yntau yn eilun y bobl, a'r byd yn chwenych ei anrhydeddu, anhawdd sylweddoli fod adeg wedi bod yn ei hanes y gellid dweyd yn llythyrenol am dano, fel ag y dywedwyd am Un mwy nag ef: "At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyniasant ef." Fwy nag unwaith bu yn llythyrenol heb le i roi ei ben i lawr yn mhlith hyd yn nod ei bobl a'i enwad ef ei hun. Nodaf ddau engraifft. Yn Nefyn, un o'r chwech Bwrdeisdref a gynrychiolir ganddo yn y Senedd, dygwydda fod ei enwad ei hun-y Bedyddwyr-yn gymharol gryf. Dygwyddent hefyd, yn dra gwahanol i Ymneillduwyr eraill, i fod y pryd hwnw yn dra Thoriaidd eu daliadau. Pan gynaliodd Lloyd George ei gyfarfod cyhoeddus cyntaf yno fel ymgeisydd Rhyddfrydol, er iddo sicrhau presenoldeb a chefnogaeth y Parch. Dan Davies, gweinidog poblogaidd gyda'r Bedyddwyr (y pryd hwnw o Fangor, yn awr o Abergwaun), nid yn unig trodd y cyfarfod yn siomedig, ond nid oedd yr un Bedyddiwr yn y gynulleidfa a gynygiai lety nos iddo. Nid oedd y pwyllgor, ychwaith, wedi trefnu llety iddo, na'r un aelod o'r Pwyllgor yn barod i'w gymeryd i'w dy! Yn yr argyfwng hwn daeth Mr. W. O. Evans yn mlaen gan dosturio wrth y gwr ieuanc, ac a roddodd iddo fwyd a llety dros nos. Hynod iawn yw mai yn yr un ty, yr Henblas, y cafodd yr efengylydd enwog Howell Harris, lety ac ymgeledd rhag ei erlidwyr gant a haner o flynyddoedd cyn hyny.

Cyffelyb a fu profiad Lloyd George yn Nghaerdydd ychydig cynt. Yr oedd yno Gynadledd Ryddfrydol fawr o bob parth o Gymru, a Mr. Lloyd George yno dros Griccieth. Yn y cyfarfod cyhoeddus yn nglyn a'r gynadledd hono y gwnaeth yr araeth fawr y rhoddwyd dyfyniadau o honi eisoes yn y benod ddiweddaf. Gwr dyeithr oedd efe yno, heb neb yn ei adwaen, na neb yn chwenych ei gwmni. Yr oedd llety wedi cael ei ddarparu i'r cynrychiolwyr eraill oll—ond dim iddo ef. Ar ddiwedd yr oedfa, gan weled y gwr ieuanc o Griccieth yn cael ei adael heb neb yn cynyg lle iddo, aeth Gogleddwr ieuanc arall—y Parch. O. L. Roberts, Caerdydd y pryd hwnw, ond yn awr yn olynydd i'r enwog Dr. John Thomas, yn eglwys y Tabernacl, Liverpool, ato, ac wedi deall o hono nad oedd ganddo lety, anturiodd geisio llety iddo gyda Mr. Alfred Thomas, Aelod Seneddol. Gyda'i sirioldeb lletygar arferol, cydsyniodd Mr. Thomas, ac yn y Bronwydd y cafodd Lloyd George le i orphwys. Dyna ddechreu cysylltiad politicaidd dau Gymro enwog. Y Mr. Alfred Thomas hwnw a ddaeth wedi hyny yn Syr Alfred, ac yn Gadeirydd y Blaid Gymreig yn y Senedd. Ei enw heddyw yw Arglwydd Pontypridd.

Heddyw, nid oes blasdy yn y deyrnas, nac o bosibl Blas Brenin nac Arlywydd yn y byd, nad agorai ei ddor yn llydan a llawen i dderbyn gwrthodedig Nefyn a Chaerdydd.

O ddechreu ei ymgeisiaeth gosododd ei nod arbenig ei hun ar yr ymgyrch. Yr oedd y camwri a ddyoddefasai ei gydwladwyr, a'i gyd—Annghydffurfwyr ar hyd yr oesau, wedi suddo i'w enaid yntau. Gwelai y byd megys wyneb yn waered. Dymunai weled pethau yn cael eu troi i'r gwrthwyneb—a chredai yn ddiysgog mai efe oedd y gwr i wneyd hyny. Ymosododd felly yn ddiarbed ar yr holl gyfundrefn fel yr oedd yn nglyn a'r Eglwys, y Wladwriaeth a'r Tir. Fel engraifft o'i syniadau a'i arddull y pryd hwnw, sylwer ar y dyfyniad a ganlyn o araeth o'i eiddo yn Bangor yn fuan ar ol ei etholiad cyntaf:

"Gwastreffir miliynau o gyfoeth y wlad hon gan dirfeddianwyr na wnaethant gymaint a throi tywarchen i greu y cyfoeth hwnw. Ceir cyfalafwyr yma yn gwario miliynau aneirif o gynyrch mwnfeydd a gweithfeydd Cymru heb erioed hollti craig, na thrin peiriant, i adeiladu'r cyfoeth hwn.... Rhanwyd tir y wlad hon rhwng rhagflaenwyr y bobl hyn i'r dyben arbenig o'u galluogi i drefnu a chynal cyfundrefn filwrol i ymladd dros y wlad. Y tir oedd i gynal hefyd y freniniaeth, ac i ddwyn treuliau'r llysoedd a chadw trefn drwy'r deyrnas. Ond pa beth a ddygwyddodd? Erys y tir yn eiddo yr ychydig freintiedigion, ond pwy sydd heddyw yn dwyn baich cynal y fyddin, y freniniaeth, y llysoedd, a threfn? Mae'r baich wedi cael ei symud oddiar ysgwyddau perchenogion y tir, ac wedi cael ei daflu ar ysgwyddau gweithwyr y deyrnas.

"Rhoddwyd y degwm i'r Eglwys ar yr amod ei bod hithau i gynal y tlawd, yn cadw'r prif ffyrdd yn briodol, ac yn gofalu am addysg i'r bobl. Ond mae offeiriadaeth Eglwys Loegr wedi meddianu'r degwm i'w phwrpas ei hun. Pa beth a ddaeth o'r tlawd, o'r heolydd, ac o addysg y werin? Gosodwyd trethi trymion ar y wlad i wneyd y gwaith y dylasai'r offeiriadaeth ei gyflawnu, ac am yr hwn waith hefyd y'u telir hyd heddyw!

"Gwelwch fod beichiau wedi cael eu taflu ar gynyrchwyr cyfoeth y dylasai y sawl sy'n gwario'r cynyrch hwn eu dwyn. Rhaid i holl bwysau cynal y dosbarth nad yw yn cynyrchu dim ei hun, ddisgyn ar y sawl fo'n gweithio. Nid oes modd cael arian lawer i ddynion na fynant weithio eu hunain, heb i chwi ostwng cyflogau, ac estyn oriau gwaith, a gormesu a thlodi y rhai fo'n llafurio yn galed am eu bara beunyddiol. Os mynwch gael gwell oriau, gwell cyflog, gwell amgylchiadau bywyd, rhaid gwneyd hyny drwy leihau rhenti enfawr y perchenogion tir, a derbyniadau anferth y cyfalafwyr."

Dyna'r eginyn glas egwan yn dechreu dangos drwy ddaear Cenedlaetholdeb Cymreig, a ddaeth yn dywysen yn araeth enwog Limehouse, ac y dechreuwyd medi y grawn yn Nghyllidebau Mawr Lloyd George, yn ei Ddeddfwriaeth Gymdeithasol, ac yn ei ymgyrch anaddfed i ddiwygio Deddfau'r Tir. Ataliwyd medi'r cynyrch toreithiog gan y Rhyfel Mawr yn Ewrop. Sylwer na bu Mr. Chamberlain erioed yn fwy llym yn ei ymosodiadau ar y dosbarth cyfoethog, y rhai, ebe fe, "nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu," nag y bu Lloyd George, nid yn unig ar ddechreu ei yrfa ond hyd yn mron y dyddiau presenol.

Enillodd y frwydr yn yr etholiad cyntaf gyda mwyafrif o 18 pleidlais yn unig. Gwyddai y byddai rhaid iddo ymladd yn galetach fyth yn yr Etholiad Cyffredinol, a dechreuodd astudio pa fodd i enill drachefn. Sylweddolasai yn hir cyn hyn allu a dylanwad y wasg. Yr oedd ganddo eisoes ran yn rheolaeth papyr bychan yn Mhwllheli, ond nid digon hwnw i ateb ei bwrpas yn awr. Chwiliodd am rywbeth mwy effeithiol, ac i gyraedd cylch eangach. Ffurfiodd Gwmni Cyfyngedig, o dan yr enw "Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig, Cyfyngedig;" a phrynodd "Y Genedl Gymreig," "Y Werin," a'r "North Wales Observer and Express"—tri phapyr wythnosol i'w cyhoeddi yn yr un swyddfa yn Nghaernarfon. Hawliai'r "Genedl" y cylchrediad eangaf yn Nghymru y pryd hwnw; papyr i'r gweithiwr yn benaf oedd "Y Werin," ac i'r Saeson wrth gwrs yr oedd yr "Observer and Express."

Yr oeddwn ar y pryd yn Nghaerdydd, yn olygydd y "Cardiff Times," ac yn olygydd cynorthwyol y "South Wales Daily News." Yr oedd cyfrifoldeb a gwaith golygyddiaeth y "Daily News" ar fy ysgwyddau gan fod y prif olygydd, Mr. Sonley Johnson, yn wael yn ei afiechyd olaf. Yr oedd y Toriaid yn Nghaernarfon wedi dewis i wrthwynebu Mr. Lloyd George y tro hwn Mr. (wedi hyny Syr) John Puleston, yr hwn oedd yn Aelod Seneddol dros Devonport. Cymro o waed, calon a thafod oedd Mr. Puleston, un o'r dynion mwyaf rhadlon a chymwynasgar a fu erioed. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn yr Unol Dalaethau, lle y gwnaeth ei ffortiwn. Diameu fod eto'n aros yn mhlith Cymry'r America rai sydd yn cofio am John Puleston, a'r rhan a gymerodd yn nglyn a'r Rhyfel Cartrefol rhwng Gogledd a De yn y Talaethau. Wedi dychwelyd o hono i Brydain, cymerodd ddyddordeb mawr mewn pethau Cymreig. Daethym inau i'w gyfrinach agos. Cydweithiasom mewn nifer o fudiadau Cymreig o nodwedd genedlaethol, ond heb fod o natur boliticaidd. Ag eithrio ei ddaliadau gwleidyddol yr oedd Mr. Puleston yn gystal Cymro a Mr. Lloyd George ei hun, ac wedi gwneyd llawer i hyrwyddo mudiadau Cymreig. Mudiad cyfrwys o eiddo'r Toriaid oedd dewis gwr o'r fath i wrthwynebu Lloyd George. Ychydig cyn yr etholiad llwyddasant hefyd i gael gan y Llywodraeth (Doriaidd) i wneuthur Mr. Puleston yn farchog, ac yn Gwnstabl Castell Caernarfon o dan y Brenin—swydd o anrhydedd a chwenychid gan fawrion Cymru ac a gododd Mr. Puleston i fri a dylanwad mawr yn yr etholaeth.

O dan ymdeimlad dwys o'r perygl oedd felly yn ei fygwth yn yr Etholiad Cyffredinol oedd bellach yn ymyl, daeth Mr. Lloyd George ar genadaeth arbenig ataf yn Nghaerdydd i grefu am fy nghymorth. Taer erfyniodd arnaf i roi fy lle ar y "South Wales Daily News" i fyny, ac ymgymeryd a rheolaeth a phrif olygyddiaeth y tri phapyr a brynwyd ganddo yn Nghaernarfon. Ymgyngorasom yn hir yn nghylch y polisi, a chefais ei fod ef yn dal cyffelyb olygiadau i'm heiddo inau ar holl brif bynciau'r dydd, ac yn enwedig ar yr hyn y dylai Cymru gael, a'r hyn a ddylai Cymru wneyd i'w gael. Felly, cydsyniais a'i gais, gadewais Gaerdydd a sicrwydd cadair prif olygydd y papyr dyddiol mwyaf ei ddylanwad yn y Dywysogaeth a Gorllewin Lloegr, a symudais i Gaernarfon i ymgymeryd a golygyddiaeth papyrau lleol yn Nghaernarfon—er mwyn Cymru a'i hawliau. Cymerodd Syr John Puleston hi yn chwith iawn fy mod i, oeddwn yn gyfaill mor fynwesol ganddo, wedi symud i Gaernarfon i gynorthwyo ei wrthwynebydd Mr. Lloyd George. Yn yr etholiad enillodd Lloyd George gyda mwyafrif dros ddengwaith gymaint a'r tro o'r blaen. Chwerwodd Syr John Puleston yn aruthr, a phan gyhoeddwyd y ffigyrau yn ystafell y cyfrif, trodd at Mr. Lloyd George, gan ddweyd:

"Mor bell ag y mae a fyno chwi a minau, Mr. Lloyd George, gadawn i'r hyn a fu fyned yn annghof. Ond am Beriah, nis gallaf faddeu iddo tra fyddwyf byw am iddo eich cynorthwyo i'm gorchfygu."

Cadwodd Syr John Puleston ei air am flynyddoedd; ac ychydig amser cyn ei farw yn mhen hir flynyddoedd wedi hyny, y siaradodd air ac yr ysgydwodd law gyntaf a mi ar ol yr etholiad hwnw. Teg a Mr. Lloyd George yw dweyd ei fod yntau, fel Syr John, yn priodoli ei fuddugoliaeth i raddau helaeth i ddylanwad y tri phapyr.

Anhawdd i'r sawl na welsant boethder y brwydrau hyny amgyffred chwerwedd y teimladau a gynyrfid o bob tu. Yn ei ddydd-lyfr ceir y nodiad hwn gan Mr. Lloyd George:

"Rhybuddiwyd fi fod y Toriaid yn bygwth fy lladd."

Taflwyd pelen o dan i gerbyd Mr. a Mrs. Lloyd George un noson pan yn gyru yn araf drwy brif heol. dinas Bangor. Syrthiodd y belen dan ar ben Lloyd George, gan daro ei het ymaith; yna rholiodd y belen yn fflamio o hyd, ar arffed Mrs. Lloyd George. Ymaflodd yntau yn y belen a'i ddwylaw noeth gan ei thaflu allan o'r cerbyd, ac yna diffoddodd wisg ei wraig a rug y cerbyd. Oni bae am ei hunanfeddiant ef buasai hi wedi llosgi. Drylliwyd ffenestri y Penrhyn Hall, Bangor, yn chwilfriw pan oedd ef yn cynal cyfarfod yno.

Ni chyfyngwyd cynddaredd y Toriaid i ddialedd personol arno ef. Perygl bywyd ambell dro oedd cefnogi Mr. Lloyd George. Am rai wythnosau cyn yr etholiad, dygais allan bapyr dyddiol "Gwerin yr Etholiad" yr unig bapyr dyddiol Cymreig a gyhoeddwyd erioed. Cynwysai newyddion diweddarach na'r un papyr dyddiol Seisnig a ddeuai i Gymru, gan ein bod yn medru argraffu rai oriau yn ddiweddarach na hwynt. Deuai'r papyr allan o'r wasg rhwng pedwar a phump o'r gloch y boreu. Arferwn aros yn y Swyddfa fy hun i weled y papyr ar y machine, ac yna cerddwn tuag adref. Yn mhen amryw wythnosau wedi i'r perygl fyned heibio y daethym i wybod mai teyrngarwch personol y gweithwyr yn y Swyddfa oedd wedi fy nyogelu rhag cael fy lladd. Ymddengys fod fy ngweithwyr wedi dod i ddeall am gyd-fradwriaeth yn mhlith nifer o wehilion Toriaidd y dref, i ymosod arnaf pan yn cerdded adref wrthyf fy hun yn nhywyllwch tawel oriau man y boreu. Felly, trefnodd y dwylaw yn y Swyddfa i nifer o honynt, pawb yn ei dro, gerdded yn ddystaw o'r tu ol i mi, a minau heb wybod, i'm gweled yn ddiangol drwy ddrws fy nhy bob boreu tra parhaodd yr helynt a'r perygl. Duw a'u bendithio am eu teyrngarwch dystaw a dirgel.

Bu bywyd Mrs. Lloyd George mewn enbydrwydd mawr yn etholiad 1895. Ar ol cyhoeddi ffigyrau'r polio, aeth Mr. Lloyd George ymaith gyda'r tren i gynorthwyo ei gyfaill, Mr. Herbert Lewis, yn Mwrdeisdrefi Fflint. Aeth Mrs. Lloyd George gyda'i phriod i'r depot yn Nghaernarfon. Wedi iddo ef fyned ymaith, a thra yr oedd hi, ac ychydig gyfeillion yn sefyll yn siarad ar y platform, yn aros tren arall iddi fyned adref, dygwyddodd i'r ymgeisydd Toriaidd, Mr. Ellis Nanney, ddod yno i gyfarfod y tren hwnw oedd yn myned tua'i gartref ef a chartref Mrs. Lloyd George yn Nghriccieth. Daeth tyrfa fawr o wehilion y dref gydag ef i'r platform, gan waeddi ac ysgrechian fel Indiaid Cochion, a llawer o honynt yn fwy na haner meddw. Pan welsant Mrs. Lloyd George, rhuthrodd haid o honynt yn wyllt tuag ati i ymosod arni. Gwelsom ei pherygl mewn pryd, gwthiasom hi i mewn i'r Parcel Office yn y depot, gan sefyll yn gylch o'r tu allan i'r drws i'w hamddiffyn. Cymellodd awdurdodau y rheilffordd hi i beidio teithio gyda'r un tren a Mr. Ellis Nanney rhag ofn ymosodiadau pellach. Yn cael ei hamgylchu gan nifer o gyfeillion, aethym a hi i'm ty, ac yno y bu nes i'r twrw yn y dref beidio, a chyda'r nos aethom a hi yn ddirgel drachefn i'r depot, ac aeth adref yn ddiangol. Pan ddeallodd y roughs yn y depot fod Mrs. Lloyd George wedi dianc o'u dwylaw, bwriasant eu llid ar Mr. J. R. Hughes, aelod blaenllaw o bwyllgor Mr. Lloyd George, oedd yn y depot. Er mwyn amddiffyn Mr. Hughes rhag cael ei ladd gan y roughs gwallgof, cadwodd awdurdodau'r rheilffordd ef am oriau wedi ei gloi mewn ystafell yn y depot lle na fedrai'r dorf ddod ato. Aml i ddygwyddiad cyffelyb a fu yn y dyddiau cynyrfus hyny.

PENOD V.

YR AELOD SENEDDOL ANNIBYNOL.

RHENIR Ty'r Cyffredin yn Mhrydain, fel Cydgyngorfa'r Unol Dalaethau yn wahanol bleidiau politicaidd.

Hyd yn gymharol ddiweddar dwy blaid fawr a geid yn Senedd Prydain, sef y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr. Toriaid a Whigiaid oeddent haner can mlynedd yn ol. Yna gelwid hwynt yn Geidwadwyr a Radicaliaid. Pan gymerodd y rhwyg mawr le yn y Blaid Ryddfrydol (neu Radicalaidd) ar gwestiwn Ymreolaeth i'r Werddon, newidiwyd yr enwau drachefn i "Undebwyr" (Unionists) ac "Ymreolwyr" (Home Rulers). Ond i bob dyben ymarferol gwna "Toriaid" a "Rhyddfrydwyr" y tro i'w deffinio. Ymffurfiodd yr Aelodau Cenedlaethol o'r Werddon yn Blaid ar ei phen ei hun, a gelwir hwynt yn "Blaid Wyddelig." Yn ddiweddarach mynodd Llafur gynrychiolaeth ar wahan, a galwyd y cynrychiolwyr hyn yn "Blaid Llafur." Ceisiodd yr Aelodau Cymreig, hwythau, o dro i dro, ffurfio "Plaid Gymreig" ar linellau'r "Blaid Wyddelig," ond gan mai "Rhyddfrydwyr" fel rheol, yw yr aelodau Cymreig cysylltir hwynt yn swyddogol a'r "Blaid Ryddfrydol." Yn y rhan fwyaf o faterion pleidleisia'r Gwyddelod a'r Aelodau Llafur gyda'r Blaid Ryddfrydol; ond maent er hyny yn bleidiau ar wahan, ac yn aml yn gweithredu yn annibynol ar y Rhyddfrydwyr. Ceir felly heddyw bedair plaid yn Nhy'r Cyffredin, sef (1) Yr Undebwyr neu'r Toriaid; (2) y Rhyddfrydwyr; (3) y Blaid Wyddelig; a (4) Plaid Llafur. Dysgwylir i bob aelod fod yn ffyddlon i'w blaid, i ufuddhau i Chwip y blaid, ac i bleidleisio bob amser gyda'i blaid gan nad beth a fo ei ddaliadau personol ar y mater y pleidleisir arno. Ceir weithiau er hyny yn mhob plaid ambell un annibynol ei farn, na fyn fod yn beiriant pleidleisio, a dim ond hyny. Gwrthyd weithiau ufuddhau i Chwip ei blaid; ac, os bydd yn wr o argyhoeddiad cryf ac o galon ddewr, ac yn gweled ei blaid yn cymeryd cwrs na fedr ef ei ganlyn na'i gymeradwyo, gwrthyd "dderbyn" Chwip y blaid. Golyga hyny ei fod yn tori ei gysylltiad a'r blaid ac yn gweithredu fel aelod annibynol. Bydd hyn yna o eglurhad yn gymorth i'r darllenydd annghyfarwydd a pheirianwaith gwleidyddol Prydain, ddeall yn well yr hyn a ganlyn.

Cyn erioed iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol, yr oedd Mr. Lloyd George wedi dangos ei fod yn meddu ar argyhoeddiadau cryfion, yn ddyn o feddwl annibynol, ac o ysbryd diofn. Yr oedd felly yn hollol annghymwys i fod yn aelod ufudd, yn party hack, yn y Senedd. Yr oedd ei ragflaenydd Cenedlaethol, Mr. T. E. Ellis (neu "Tom Ellis" fel y'i gelwid gan bawb) wedi dadleu cyn, ac ar ol, cael ei ethol i'r Senedd, dros i'r Aelodau Cymreig fod yn fwy unol ac annibynol yn y Senedd. Ond yn lle gweithredu ar linellau y blaid Wyddelig, gan feddu eu Chwip eu hunain ar wahan oddiwrth y blaid Ryddfrydol, ni wnaeth yr aelodau Cymreig yn nydd Tom Ellis ond yn unig ymffurfio yn "Bwyllgor Cymreig," gyda Chadeirydd ac Ysgrifenyddion (yn lle "Chwips"). Cyn ei fyned, ac wedi ei fyned i'r Senedd, mynai Lloyd George i'r Aelodau Cymreig fyned yn mhellach na hyn, ac ymffurfio o honynt yn "Blaid Gymreig Annibynol" ar gynllun y Blaid Wyddelig. Ond golygai hyny gladdu uchelgais personol, canys ni allai neb ond aelodau ufudd i'r Llywodraeth ac i'r Blaid a reolai'r Llywodraeth fyth obeithio cael mwynhau y torthau a'r pysgod, mewn swyddi ac anrhydedd, a theitlau o bob math y gallai'r Llywodraeth ranu i'r neb y mynai. Fel rheol, edrych yn mlaen am daledigaeth y gwobrwy, cael lle yn y Llywodraeth, neu swydd gyflogedig, neu'r teitl o Farchog, neu Farwnig, neu Arglwydd, a wnai pob gwr uchelgeisiol yn y Senedd.

Ond meddwl am Gymru, ac nid am na swydd, nac anrhydedd, na theitl a wnai Lloyd George pan yr aeth efe gyntaf i'r Senedd. Digiai yn aruthr wrth y Blaid Ryddfrydig am esgeuluso Cymru, ac wrth yr Aelodau Cymreig am ganiatau o honynt i'r Llywodraeth eu hanwybyddu hwy a hawliau eu gwlad. Mewn cyfarfod mawr yn Nghaerdydd, yn agos i bum mlynedd ar ol iddo gael ei ethol i'r Senedd, dywedodd:

"Am y 26 mlynedd diweddaf, mae mwyafrif mawr aelodau Cymru wedi bod yn Rhyddfrydwyr. Am 14 mlynedd o'r 26 mlynedd hyn, Llywodraeth Ryddfrydig oedd mewn awdurdod, ac am y rhan fwyaf o'r amser hwnw dybynai'r Llywodraeth Ryddfrydig ar ewyllys da aelodau Cymru am ei bodolaeth. Ond er hyn oll ni chafodd Cymru, yn ystod yr holl amser, gymaint ag un Mesur ar gyfer ei hangenion. Nid oes, yn nghorff y 14 mlynedd, gymaint ag wythnos of amser wedi cael ei ganiatau i ddadleu materion Cymru pe y cyfrifid pob dim ar a wnaed yn y Senedd ar ran Cymru. Ufuddheir yn ddioed i orchymynion Lloegr. Rhaid i'r cenedloedd Celtaidd hefyd wasgu ar y Llywodraeth, ac er mwyn gwneyd y gwasgu hyny yn beth effeithiol, rhaid i ni ddwyn holl nerth y genedl i fewn i un gyfundrefn. Yn ngwyneb rhagfarn a nwyd na welsom ni eu tebyg, llwyddodd yr unig genedl Geltaidd (y Gwyddelod) a wnaeth felly, i fynu cael gan Dy'r Cyffredin gyfres o'r Mesurau Diwygiadol mwyaf a basiwyd ganddo erioed."

Y Blaid Wyddelig felly oedd ei batrwm o Blaid Gymreig. Y diwygwyr mawr y mynai ef eu hefelychu oedd Owen Glyndwr (yr hwn a saif i Gymru rywbeth cyffelyb i'r hyn yw George Washington i'r Unol Dalaethau); ac Oliver Cromwell, rhyddhawr Lloegr. Dryllwyr delwau oedd y ddau, a gwnaethant Lloyd George hefyd yn ddrylliwr delwau o bob math. Ni chredai un o'r tri air y bardd, "Mae pob peth ar y sydd, yn iawn." Gwelent eill tri fod aml i beth "sydd" yn mhell o fod yn "iawn"; a chan gredu nad oedd yn iawn, gwrthwynebent roddi iddo y parch a'r ymlyniad a hawlid iddo gan yr awdurdodau. Bu Owen Glyndwr yn gyfaill a chydfilwr i Harri Bolingbroke (y Brenin Harri IV.), ond cododd mewn gwrthryfel i'w erbyn er mwyn Cymru; bu Glyndwr yn cydeistedd ag Arglwydd Grey o Ruthin yn Nghyngor y Brenin yn Westminster, ond y mynyd y daeth hawliau Cymru i'r cwestiwn ymosododd ar ei hen gyfaill, a thaflodd ef yn ngharchar. Torodd Oliver Cromwell ben yr Archesgob Laud a'r Brenin Siarl I., heb unrhyw betrusder, pan deimlodd fod buddianau'r bobl yn gofyn eu symud o'r ffordd. Felly y teimlai Lloyd George—ni chai dim fod yn gysegredig yn ei olwg os byddai'r peth hwnw yn rhwystr i fuddianau cenedlaethol Cymru.

Gwneyd Cymru'n un, a'i rhyddhau o iau y Sais oedd uchelgais Glyndwr. Mynai Lloyd George wneyd yr un peth yn ei ddydd yntau. "Cymru Gyfan" oedd ei arwyddair, a rhyddhau y Blaid Genedlaethol yn Nghymru oddiwrth rwymau'r Blaid Ryddfrydol yn Lloegr oedd ei nod. Ni phetrusodd Owen Glyndwr erioed ymosod ar na phenaeth na thywysog o Gymro a osodai deyrngarwch i Frenin Lloegr o flaen teyrngarwch i Gymru. Ni phetrusai Lloyd George yntau ymosod ar Lywodraeth Ryddfrydol a aberthai hawliau Cymru er mwyn hyrwyddo amcanion y Blaid Ryddfrydol. Cyn y ceid Cymru Gyfan mewn ystyr wleidyddol rhaid oedd cael Plaid Gymreig Annibynol yn Nhy'r Cyffredin. Golygai hyny nid yn unig ymwrthod ag awdurdod Chwip y Llywodraeth, ond hefyd. creu yn Nghymru beiriant ac awdurdod gwleidyddol hollol annibynol ar y Blaid Ryddfrydol yn Lloegr.

Dyna oedd sail a gwreiddyn mudiad "Cymru Fydd." Er mwyn sefydlu'r gyfundrefn newydd rhaid oedd yn gyntaf dileu yr hen. Yr oedd dau Gyngrair Rhyddfrydol yn Nghymru, y naill yn y Gogledd a'r llall yn y De. Galwodd Mr. Lloyd George ar bob un o'r ddau i gyflawnu hunanladdiad, gan addaw iddynt adgyfodiad gwell ar ffurf Cyfundrefn Genedlaethol Cymru Fydd. Anmharod oedd yr hen Ryddfrydwyr Cymreig i wneyd hyn. Gwrthwynebwyd Mr. Lloyd George yn benderfynol yn y Gogledd gan Mr. (yn awr y Barnwr) Bryn Roberts; ac yn y De gan Mr. D. A. Thomas. Yr oedd Mr. Bryn Roberts yn aelod dros ran o sir Gaernarfon, ac felly yn gydaelod a Mr. Lloyd George.yn y sir. Yr oedd cysylltiad agosach na hyny rhwng Lloyd George a D. A. Thomas. Dyddorol neillduol i Gymry'r America yw'r ffeithiau am gysylltiadau Lloyd George a D. A. Thomas—y gwr sydd yn awr yn yr Unol Dalaethau yn gweithredu ar ran Mr. Lloyd George a Llywodraeth Prydain i sicrhau cyfarpar rhyfel i Brydain. Ceir rhai o'r manylion am y ddau yn y benod ar "Lloyd George a Chymry'r America." Digon yw dweyd yma mai Dafydd a Jonathan a fu Lloyd George a D. A. Thomas am flynyddoedd yn y Senedd. Ymwahanasant ar gwestiwn Cymru Fydd a difodi'r Cyngreiriau Rhyddfrydol yn Nghymru—a buont am flynyddoedd heb brin siarad a'u gilydd. Llwyddodd Lloyd George i ddileu Cyngrair y Gogledd; methodd ladd Cyngrair y De. Rhanedig iawn oedd yr Aelodau Cymreig ar y cwestiwn, rhai yn glynu wrth Lloyd George a Chymru Fydd, ac eraill wrth D. A. Thomas a'r Cyngreiriau Rhyddfrydig.

Dyddorol yw sylwi wrth fyned heibio pa beth a wnaeth Joseph i'w frodyr wedi iddo gael ei ddyrchafu i fod yn ail mewn awdurdod yn llys y Brenin. Yn mhlith canlynwyr mwyaf selog Mr. Lloyd George yn y brwydrau dros Gymru Fydd yr oedd Mr. Alfred Thomas; gwnaed ef yn nghyntaf yn Farchog, gyda'r teitl o "Syr Alfred," ac wedi hyny dyrchafwyd ef i Dy'r Arglwyddi gyda'r teitl o "Arglwydd Pontypridd." Mr. Frank Edwards, yr aelod dros Faesyfed; gwnaed ef yn Farwnig, "Syr Francis Edwards." Mr. Herbert Lewis, yr aelod dros Fflint, yr hwn sydd yn awr yn Is-ysgrifenydd Bwrdd Addysg. (Y diweddar) Mr. William Jones, a ddaeth yn aelod dros Arfon, ac a wnaed yn un o Chwips y Llywodraeth. Mr. Wynford Philipps, a ddaeth yn aelod dros sir Benfro, ac yna a ddyrchafwyd i Dy'r Arglwyddi gyda'r teitl "Arglwydd Ty Ddewi." Mr. William Brace, un o arweinwyr y Glowyr, a ddaeth yn aelod dros Dde Morganwg, ac sydd yn awr yn Is-ysgrifenydd Cartrefol. Mr. Llewelyn Williams, a ddaeth yn Aelod dros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin, ac sydd yn awr yn Gofiadur Dinas Caerdydd. Yn mhlith eraill o hen ddylynwyr Lloyd. George sydd yn awr yn y Senedd gellir enwi Mr. John Hugh Edwards, yr aelod dros Ganol Morganwg, a'r Parch. J. Towyn Jones, yr aelod dros Ddwyreinbarth Caerfyrddin. Maent oll yn enwau adnabyddus yn myd cyhoedd Prydain. Gwelir mai nid eiddilod oedd y rhai a gasglwyd gan Lloyd George o dan ei faner.

Ond a siarad yn gyffredinol, methiant a fu mudiad Cymru Fydd. Tegwch a D. A. Thomas yw dweyd ei fod yn gymaint o Genedlaetholwr ag ydoedd Lloyd George, ac mai ei brif wrthwynebiad i gyfundrefn Cymru Fydd oedd ei bod yn gofyn cael un corff canolog i'r oll o Gymru, tra yr oedd anhawsderau teithio rhwng Gogledd a De yn ei gwneyd yn ofynol, yn ei farn ef, i gael dau bwyllgor, un i'r Gogledd a'r llall i'r De. Heddyw ceir Cymdeithas Ryddfrydol, neu enw o un yn mhob etholaeth yn Nghymru, a "Chyngor

Darlun gan Mr. Geo. Boardman.

MR. LLOYD GEORGE GARTREF

Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymreig," gydag Arglwydd Ty Ddewi yn llywydd iddo, yn arolygu yr oll, ac yn swatio yn ufudd bob amser i orchymynion Rhyddfrydwyr Lloegr. Ond er mai methiant a drodd mudiad Cymru Fydd fel cyfundrefn y pryd hwnw, deffrodd Lloyd George yn Nghymru ysbryd o wrthryfel yn erbyn awdurdod Rhyddfrydiaeth swyddogol Lloegr, sydd yn fyw ac yn effro hyd y dydd hwn, ac yn ei gwneyd yn anmhosibl i'r Llywodraeth Ryddfrydol gael ei dewis-ddyn ei hun yn aelod dros nemawr i etholaeth yn Nghymru. Gwrthododd fwy nag un etholaeth yn Nghymru dderbyn y gwr a ddymunai'r awdurdodau yn Llundain iddynt ei ethol. Yn sir Gaerfyrddin gorchfygodd y Parch. Towyn Jones fab Arglwydd Ty Ddewi. Yn Nosbarth Abertawe gwrthryfelodd y werin yn erbyn y Gymdeithas Ryddfrydol am dderbyn o honi Mr. Masterman, Sais, a chyn-aelod o'r Cabinet, er i Mr. Lloyd George ei hun ysgrifenu yn daer at etholwyr y lle yn crefu arnynt i ddewis Mr. Masterman. Gorfu i Masterman gilio o'r maes, ac etholwyd Mr. T. J. Williams, Treforris, yn ddiwrthwynebiad. Cafodd Mr. Lloyd George felly fyw i weled yr ysbryd a alwyd ganddo ef i fodolaeth dros ugain mlynedd yn ol, yn dal yn ffyddlon at y ddelfryd a osododd efe y pryd hwnw o flaen Cymru, ac yn troi i'w erbyn ef pan dybiodd gwerin Cymru ei fod ef wedi ymgysylltu ag eilunod Philistiaeth Lloegr.

Nodweddid blynyddoedd cyntaf Mr. Lloyd George yn y Senedd gan wrthryfel ar ol gwrthryfel o'i eiddo ef ac ychydig o ymlynwyr personol, yn erbyn pob awdurdod yn y Senedd. Efe a Mr. (yn awr Syr) S. T. Evans a ymladdodd yn erbyn Mesur y Degwm. Lloyd George gyda Tom Ellis, S. T. Evans a D. A. Thomas— ac weithiau Wynford Philipps a Mr. (yn awr Syr) Henry Dalziel, a ymladdodd yn gyndyn yn erbyn Mesur Dysgyblaeth Offeiriaid. Llwyddodd y pedwar Cymro, gyda help achlysurol y ddau aelod a nodwyd o'r Alban, i herio holl allu y Llywodraeth Doriaidd, er i gorff Rhyddfrydwyr Lloegr gynorthwyo'r Toriaid. Bum yno lawer noson yn y Ty yn edrych ar y frwydr, ar bedwar Cymro yn gallu rhwystro chwe chant o aelodau eraill i basio'r Mesur. Awr ar ol awr, nos ar ol nos, am wythnosau, y llwyddasant i ddal "y ffosydd" yn y rhyfel Seneddol hynod hwn. Ni bu na chynt na chwedyn gyffelyb wrhydri erioed yn Senedd Prydain. Fawr.

Pan ddaeth Etholiad Cyffredinol 1892 i'r golwg, tybiodd Lloyd George fod buddugoliaeth yn aros y Rhyddfrydwyr. Yr oedd wedi bod yn Aelod Seneddol y pryd hwnw am tua dwy flynedd. Yn yr etholiad hwn y gorchfygodd efe Syr John Puleston, fel y gwelir yn y benod o flaen hon. Yr oedd Lloyd George wedi bod yn ddigon hir yn y Senedd i ganfod fod gallu'r Weinyddiaeth i wobrwyo y sawl a ufuddhaent iddi, yn andwyol i annibyniaeth barn a gweithred aelodau Seneddol. Penderfynodd felly cyn y deuai yr Etholiad Cyffredinol ffurfio o leiaf gnewyllyn Plaid Gymreig Annibynol. Cafodd Tom Ellis, S. T. Evans a Herbert. Lewis i gyduno ag ef. Ymrwymodd y pedwar na dderbyniai yr un o honynt swydd yn, nac o dan, y Llywodraeth, heb gydsyniad y tri arall. Etholwyd y pedwar yn aelodau yn yr Etholiad Cyffredinol yn 1892. Yr oedd Mr. Gladstone wedi canfod, yn ymddygiad adran fechan o'r aelodau Cymreig pan oedd y Toriaid mewn awdurdod, y posibilrwydd iddynt achosi trafferth i Weinyddiaeth Ryddfrydol. Felly, pan yn yr etholiad y cafodd y Rhyddfrydwyr fwyafrif clir yn Nhy'r Cyffredin, ac y galwyd yntau i fod yn Brif Weinidog, cymerodd fesurau i gadw'r Aelodau Cymreig yn dawel. Gan mai dim ond 40 oedd mwyafrif Gladstone, a chyfrif aelodau Cymru yn eu plith, gwelai y medrai'r aelodau Cymreig os ymunent a'r Toriaid i'w erbyn, ei orchfygu ef a'i Weinyddiaeth. Yn wir, dyma'r cyfle y dysgwyliasai Lloyd George am dano. Ond gwr cyfrwys oedd Mr. Gladstone. Pan yn ffurfio ei weinyddiaeth cynygiodd y swydd o Chwip i Tom Ellis, gan gredu o hono mai Tom Ellis oedd y mwyaf ei ddylanwad yn mhlith yr aelodau Cymreig, ac y medrai Tom felly berswadio'r lleill i fod yn blant da. Ond yr oedd anhawsder ar ffordd Tom Ellis i dderbyn y swydd, yn gymaint a'i fod wedi ymgyfamodi a'r tri arall a nodwyd uchod, i beidio derbyn swydd heb eu cydsyniad hwy. Yn yr argyfwng hwn, galwyd cyfarfod o'r pedwar i gael ei gynal yn fy nhy i yn Nghaernarfon. Methodd S. T. Evans ddod, ond amlygodd barodrwydd i gydsynio a'r hyn y penderfynid arno. Daeth Ellis, Lloyd George, a Herbert Lewis. Ymgyngorasom yn hir ac yn bryderus. Dadl Lloyd George oedd y buasai Cymru yn debycach o gael Dadgysylltiad a breintiau eraill wrth sefyll o'r tu allan i'r Blaid Ryddfrydol, a bygwth Mr. Gladstone a'i Weinyddiaeth os na chaffai Cymru chwareu teg. Dadl Tom Ellis oedd, yn nghyntaf, na cheid yr oll o'r Aelodau Cymreig i ymuno yn erbyn Gladstone; ac yn ail, y buasai'r ffaith ei fod ef, Ellis, yn y Weinyddiaeth ei hun, ac yn Chwip i'r Llywodraeth, yn rhoi mantais iddo ef ddylanwadu ar Gladstone a'r Cabinet i wneyd yr hyn oedd yn iawn i Gymru. Tueddai Herbert Lewis i fod o'r un farn a Lloyd George, er nad oedd mor bendant. Ar ol hir ymdrafod y cwestiwn yn ei wahanol agweddau, a gweled fod Ellis yn teimlo awydd mawr i dderbyn y cynyg, boddlonodd Lloyd George a Herbert Lewis ei ryddhau ef o'i ymrwymiad iddynt hwy, er na fedrent gymeradwyo ei waith yn derbyn swydd. Felly gwnaed Tom Ellis yn "Junior Whip" yn Ngweinyddiaeth Gladstone; a phan ymneillduodd yr hen arwr ac y cymerodd Arglwydd Rosebery ei le, dyrchafwyd Ellis i fod yn Brif Chwip. Yr oedd hyn yn beth na wnaed erioed o'r blaen. Arferid rhoi'r swydd o Chwip bob amser i wr cyfoethog o deulu urddasol, ac yr oedd meddwl am weled mab i ryw ffermwr bychan yn Nghymru yn gallu gweithredu awdurdod dros filiwnyddion ac urddasolion Prydain yn gyru ias o ddychryn drwy'r holl bendefigaeth. Ond felly y bu. Gwnaeth T. E. Ellis, er mai Cymro tlawd ydoedd, gystal Chwip a'r cyfoethocaf o aelodau'r bendefigaeth a fu erioed yn y swydd uchel hono y chwenychasai goreuwyr y deyrnas ei chael. Cyn pen ychydig fisoedd wedi derbyn o hono y swydd, dylanwadodd Ellis ar Gladstone i ddod i lawr i Gymru, ac yno i addaw penodi "Dirprwyaeth y Tir i Gymru" gyda'r amcan o symud achos y cwynion oedd gan ffermwyr Cymru ag yr oedd Lloyd George wedi ymddiofrydu i fynu gweled eu symud. Penodwyd y Ddirprwyaeth; gwnaeth ymchwiliad manwl ac adroddiad maith. Cymeradwyai'r Ddirprwyaeth welliantau pwysig yn Neddfau'r Tir-ond ni chafwyd byth mo honynt. Taflwyd y Rhyddfrydwyr allan yn yr etholiad canlynol (1895), a chladdwyd adroddiad Dirprwyaeth y Tir yn Nghymru gan y Llywodraeth Doriaidd a ddaeth i awdurdod y pryd hwnw, ac ni chafodd hyd y dydd heddyw adgyfodiad gwell.

Yn fuan wedi i Mr. T. E. Ellis ddechreu ar ei swydd fel Prif Chwip i Lywodraeth Rosebery, arweiniodd Mr. Lloyd George dri o'i gydaelodau dros Gymru mewn gwrthryfel yn erbyn y Llywodraeth, sef Mr. D. A. Thomas (Merthyr), Mr. Frank Edwards (Maesyfed), a Mr. Herbert Lewis (Fflint). Gwrthododd y pedwar gydnabod awdurdod eu cyfaill a'u cyd-Genedlaetholwr Tom Ellis, na derbyn ei chwips. Achos y cweryl oedd anfoddogrwydd y pedwar gwrthryfelwr at y dull yr ymddygai'r Llywodraeth at Fesur Dadgysylltiad. Gwrthododd yr Aelodau Cymreig eraill gydweithredu a'r pedwar yn eu gwrthryfel, ond cafodd y gwrthryfelwyr gydymdeimlad a chefnogaeth y wlad.

Gan mai dim ond pedwar wrthryfelodd, a bod mwyafrif y Llywodraeth yn 40, nid oedd berygl yn y byd i'r Llywodraeth oddiwrth y gwrthryfel. Ond, pe y llwyddasai Mr. Lloyd George, fel y dymunai wneyd. i gael gan yr holl aelodau Rhyddfrydol Cymreig i ymuno yn y gwrthryfel, gorchfygasent y Weinyddiaeth, a rhaid fuasai i Rosebery ymddiswyddo. Pan ofynwyd y cwestiwn yn gyhoeddus yn Nghymru i Mr. Lloyd George a oedd efe yn barod i daflu'r Weinyddiaeth Ryddfrydol allan ar y cwestiwn hwn o Ddadgysylltiad, ac felly aberthu y mesurau diwygiadol eraill oedd ar raglen y Blaid, atebodd:

"Nid ydym am gynorthwyo'r Llywodraeth i dori eu gair i Gymru. Os myn y Llywodraeth barhau y polisi (o osod Mesurau eraill o flaen Mesur Dadgysylltiad) boed eu gwaed ar eu penau hwy eu hunain!"

Mewn llythyr at gyfaill, cyfiawnhaodd Mr. Lloyd George y gwrthryfel ar y tir fod y Llywodraeth wedi gwrthod rhoi ymrwymiad pendant y pasient Ddadgysylltiad y flwyddyn hono, nac hyd yn nod i roddi'r flaenoriaeth i Fesur Cymru ar bob mesur arall oddigerth y Gyllideb a Chofrestraeth. Ond rhoddodd Tom Ellis, y Prif Chwip, yr ymrwymiad pendant a ganlyn ar ran Arglwydd Rosebery a'r Weinyddiaeth:

"Eir yn mlaen a Mesur Dadgysylltiad i Gymru, a mynir ei gario drwy Dy'r Cyffredin, er na ellir, mor gynar a hyn yn y flwyddyn, ddweyd a fydd rhaid i'r Senedd eistedd yn yr Hydref ai peidio er sicrhau hyny."

Er i'r ymrwymiad pendant hwn gael ei gadarnhau gan y Prif Weinidog, Arglwydd Rosebery, mewn araeth yn Birmingham, pan y dywedodd y mynai'r Llywodraeth basio Mesur Dadgysylltiad trwy Dy'r Cyffredin cyn y ceid Etholiad Cyffredinol, cynygiodd Mr. Lloyd George, yn nghyfarfod o'r Aelodau Cymreig, benderfyniad yn amlygu "argyhoeddiad nas gall y Llywodraeth, o dan yr amgylchiadau gwleidyddol presenol, byth obeithio cyflawnu yr addewid hon, heb iddynt gyfnewid eu program."

Ffromodd Lloyd George yn aruthr at holl agwedd Arglwydd Rosebery tuag at Gymru. Yr oedd Rosebery wedi son am y Cymry fel "brodorion y Dywysogaeth." Ebe Lloyd George:

"Sonia Arglwydd Rosebery am genedl y Cymry fel pe baem lwyth o Walabees yn nghanolbarth Affrica. Twyllodd Stanley frodorion Affrica drwy roi 'jampots' gwag iddynt yn gyfnewid am eu gwasanaeth. Dyna a fu erioed bolisi Llywodraeth Ryddfrydol tuag at Gymru, rhoi i ni y 'jam-pots' gwag ar ol i bobl eraill gymeryd y 'jam' i gyd o honynt."

Rhaid, ebe Lloyd George, i Gymru gael jam pots llawn, neu ynte byddai iddi wneyd ei gwaethaf yn erbyn y Llywodraeth. Ebe fe:

"Ein bwriad yw cael Plaid Gymreig at amcanion cenedlaethol. Cewch weled hyn wedi dod yn ffaith ar ol yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Mae'r syniad o genedlaetholdeb yn gryf ac yn tyfu yn ein plith. Fel plaid unol byddwn yn gallu sicrhau fod y Blaid Ryddfrydol yn talu sylw buan i'n gofynion; a gyda hyny byddwn yn gallu 'gwasgu' ffafrau oddiwrth y Toriaid pan font hwy yn dal swydd."

Ond, Ow! mor frau yw gobaith dyn! Ni ddaeth y "Blaid Annibynol Gymreig" byth yn sylwedd. Ffleiriodd y "Gwrthryfel" allan. Mewn cyfarfod mawr yn Nghaerdydd derbyniodd Arglwydd Rosebery y pedwar Mab Afradlon yn ol i'w freichiau. Y flwyddyn ganlynol (1895) darllenwyd Mesur Cymru yr ail waith yn Nhy'r Cyffredin, a hyny yn briodol iawn ar Ddydd Ffwl Ebrill. Yn mis Awst y flwyddyn hono, pan oedd Lloyd George a'i gyfeillion yn cydgynllunio mesurau. pellach yn erbyn y Llywodraeth, rhanwyd Ty'r Cyff- redin ar gwestiwn "Cordite" Mr. (wedi hyny Syr) Henry Campbell Bannerman. Gorchfygwyd y Llywodraeth drwy fwyafrif o saith yn unig. Nid oedd ond tri o'r holl Aelodau Cymreig yn y Ty yn pleidleisio gyda'r Llywodraeth. Pe bae Mr. Lloyd George a'i gyfeillion yno ac yn pleidleisio, achubasid y Llywodraeth. Dywedodd Lloyd George ei hun wedi hyny fod saith o aelodau'r Weinyddiaeth ei hun yn absenol o'r pleidleisio. Yn ol arfer a defod y Senedd pan orchfygir Gweinyddiaeth, ymddiswyddodd Arglwydd Rosebery a'r Llywodraeth Ryddfrydol.

Yn yr Etholiad Cyffredinol (1895) tarawyd y Blaid Ryddfrydol gan ei gelynion y Toriaid "glin a borddwyd, o Dan hyd yn Beerseba" yn mhob rhan o Brydain. Fawr oddigerth Cymru. Daliodd Cymru ei thir yn gadarn. Cadwodd Lloyd George ei sedd yn Mwrdeisdrefi Arfon, er i'w fwyafrif syrthio ychydig yn is na'r tro o'r blaen. Pan gymerodd ei sedd yn y Senedd. newydd, a'r Toriaid mewn awdurdod, dangosodd nad oedd ei gledd wedi colli dim o'i awch, na'i dafod ei fin. Nis gallai neb ddysgwyl i'r gwr oedd wedi gwrthryfela yn erbyn Arglwydd Rosebery fod yn fachgen da o dan Mr. Balfour a'i Weinyddiaeth Doriaidd, nac ychwaith i dalu llawer o barch i orchymynion Syr Henry Campbell Bannerman, yr hwn oedd yn arweinydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol yn Nhy'r Cyffredin. Ymgyflwynodd Lloyd George i'r gwaith o flino'r Llywodraeth Doriaidd yn ddibaid, a dyrysu ei holl gynlluniau. Yn arbenig ymgymerodd ag ymosod bob cyfle a gai ar Mr. Joseph Chamberlain, yr hwn yn awr oedd yn Ysgrifenydd y Trefedigaethau. Mewn amser ac allan o amser, heb aros am ganiatad ei arweinydd Syr Henry Campbell Bannerman, nac ymgyngori ag awdurdodau'r Blaid Ryddfrydol o gwbl, ymosodai yn ddibaid a diarbed ar y Weinyddiaeth. Yr oedd ei dafod llym a pharod, ei arabedd, ei feddwl cyflym, a'i feiddgarwch diofn, yn ogystal a'i allu areithyddol, yn ei wneyd yn elyn peryglus; tra y medrai hefyd, er holl lymder ei ymosodiad, fod yn hollol ddiwenwyn. Daeth felly yn ffafrddyn ac yn siaradwr poblogaidd yn y Senedd. Efe yn wir a gadwodd fywyd yn y Blaid Ryddfrydol yn y Senedd, gan gyflawnu ei hun y gwaith y dylasai Arweinydd y Blaid, Syr Henry Campbell Bannerman, fod wedi ei wneuthur. Ar hyd oes Senedd 1895 Mr. Lloyd George ac nid Syr Henry oedd yn ymarferol yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn Nhy'r Cyffredin.

Cafodd gyfle nodedig i ddangos ei allu fel ymladdwr, ac i wneyd gwasanaeth anmhrisiadwy i'w Blaid, pan ddygodd y Toriaid Ddeddf Trethiant Amaethyddol ger bron. Er i Syr William Harcourt, Mr. John Morley, Mr. Asquith, Syr Henry Bannerman, ac eraill o'r Rhyddfrydwyr blaenaf, gymeryd rhan yn y dadleuon, cydnabyddid yn gyffredinol fod araeth Mr. Lloyd George ar yr ail ddarlleniad yn rhagori arnynt oll mewn grym, mewn llymder, mewn rhesymeg, mewn pwysau, ac mewn effeithiolrwydd. Pan ddygwyd y Mesur i'w drin gan Bwyllgor y Ty, drachefn, gwnaeth Lloyd George ei hun fwy o waith ac o wrhydri Seneddol na'r pedwar arweinydd enwog uchod gyda'u gilydd. Dro ar ol tro y rhwystrodd y Mesur i fyned dim rhagddo, ar waethaf holl ymdrechion y Llywodraeth. Yr oedd byth a beunydd ar ei draed yn codi rhyw bwynt newydd, neu yn gwneuthur araeth faith, a hyny mor fynych ac mor effeithiol fel y gallasai dyeithrddyn a fa'i yn ymweled a Thy'r Cyffredin y dyddiau hyny dybied mai "one man show" oedd y Senedd, ac mai Lloyd George oedd y Showman!

Ac yr oedd ganddo nod ac amcan clir o'i flaen yn yr oll. Yr oedd o bwrpas yn ceisio gyru'r Llywodraeth Doriaidd i wneuthur rhywbeth a'u dangosent yn llygaid y wlad fel rhai yn ceisio mygu dadl ar Fesur o Drethiant—man tyner iawn gan drethdalwyr y deyrnas! A llwyddodd nid yn unig i wneyd i'r Llywodraeth ymddangos fel ar fai yn ngolwg y wlad, ond i ddyrchafu ei hunan fel arwr ac amddiffynydd cam y werin. Cadwodd y Ty i eistedd drwy'r nos, bob nos am wythnos. Am bedwar o'r gloch y boreu, pan oedd pawb ond Lloyd George wedi alaru ar y cwestiwn ac wedi hen flino ar y dadleu ofer, rhoddodd y Llywodraeth y "cloadur" mewn grym. Trefniant yw'r "cloadur" drwy yr hwn y geill y Llefarydd, neu Gadeirydd y Ty neu'r Pwyllgor, os barna efe fod digon o ddadleu wedi bod ar unrhyw bwnc, roi terfyn ar y ddadl ar y pwnc hwnw drwy orchymyn rhanu'r Ty a chymeryd pleidlais heb ragor o siarad arno. Yn ol deddf y Senedd, rhaid i bob aelod o'r Ty fo yno pan y cymerir pleidlais, fyned i'r Lobby bleidleisio, i'r dde neu'r aswy, i bleidleisio "Ie" neu "Nage" i'r mater y rhenir y Ty arno. Rhaid clirio'r ystafell yn llwyr, ac ni chaniateir i neb o'r aelodau aros yn ei le, rhaid myned i'r "Division Lobby." Mae gwrthod pleidleisio yn weithred bendant o wrthryfel, ac ni ellir cyfrif y pleidleisiau os erys cymaint ag un o'r aelodau yn yr ystafell heb fyned i'r Lobby. Gan wybod hyn, a chyda'r bwriad pwyllog o godi row yn y Ty, eisteddodd Lloyd George yn ei le yn yr ystafell pan ganodd.

clychau'r rhaniad yn galw pawb i'r Lobby i bleidleisio. Eisteddodd Mr. Herbert Lewis, ei gyfaill cywir, wrth ei ochr; a phan welsant hyn, wele dri o'r Aelodau Gwyddelig—Mr. Dillon, Dr. Tanner, a Mr. Sullivan— hwythau fel pob Gwyddel yn hoffi cymeryd rhan mewn row, yn troi yn ol ac eistedd gyda'r ddau Gymro. Felly, dyma bump o aelodau yn herio'r chwe chant arall!

O dan y cyfryw amgylchiadau rhaid oedd galw'r Llefarydd yn ol i'r Gadair i alw'r troseddwyr i gyfrif. Gofynodd y Llefarydd (Mr. Gully) am eglurhad y pump. Cododd Lloyd George i ateb drostynt, gan ddweyd:

"Yr wyf yn gwrthod pleidleisio, fel gwrthdystiad yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn mynu cau y ddadl heb ganiatau amser digonol i drafod mater pwysig o drethiant."

Yna, yn ol rheolau'r Ty, wele Mr. Balfour, ar ran y Llywodraeth, yn codi ar ei draed ac yn cynyg fod y pump gwrthryfelwr yn cael "eu cadw yn ol o gymundeb" am wythnos; hyny yw, eu cau allan o'r Ty am hyny o amser. Felly y gwnaed. Cafodd Lloyd George a Herbert Lewis wythnos o wyliau ar ganol gwaith caled y Senedd; aethant i lawr i Gymru, lle y derbyniwyd y ddau fel arwyr mawr hawliau'r werin. Pe bae etholiad wedi cymeryd lle yr wythnos hono, buasai mwyafrif y ddau wrthryfelwr yn orlethol.

Dau ddyn mawr y Rhyddfrydwyr y pryd hwn oeddent Arglwydd Rosebery, y cyn-Brif Weinidog, a Syr William Harcourt, cyn-Gangellydd y Trysorlys. Nid oedd gan y naill na'r llall lawer o achos i garu Lloyd George. Efe oedd y gwr oedd wedi gwrthryfela i'w herbyn ac wedi eu cyhuddo yn gyhoeddus o fradychu achos Cymru. Ond gwnaeth wasanaeth mor fawr wrth ymladd yn erbyn y Llywodraeth Doriaidd, fel yr argyhoeddwyd hwynt mai gwell fyddai gwneyd ffryndiau ag ef rhag iddo beri trafferth eto i'r Rhyddfrydwyr pan ddeuai'r Blaid hono drachefn i awdurdod. Felly, wele'r bachgen a fagwyd yn shop crydd y pentref yn cael ei wahodd fel ymwelydd anrhydeddus i Gastell Dalmeny, cartref Arglwydd Rosebery yn yr Alban; a Syr William Harcourt yn dweyd fod mwy o synwyr Seneddol yn mys bach Lloyd George nag mewn un haner cant o aelodau Seneddol eraill. Yn wir, yr oedd y bachgen drwg a wrthryfelodd yn erbyn y Llywodraeth Ryddfrydol, mewn perygl o gael ei "spwylio" gan foethau prif awdurdodau'r blaid—er na ddymunai y rhai hyny ddim yn well na chael y cyfle o roddi eitha chwipio iddo am ei aml droseddau i'w herbyn.

Yn y Senedd dymor canlynol drachefn parhaodd yr un cwrs yn erbyn y Llywodraeth Doriaidd yn nglyn a Mesur Ysgolion Enwadol. Mesur oedd hwn yn rhoddi mwy o arian y wlad i gynorthwyo ysgolion enwadol, ysgolion Eglwys Loegr ac ysgolion Pabyddol, dros y rhai nid oedd gan y cyhoedd unrhyw reolaeth nac awdurdod. Teimlid hyn gan Ymneillduwyr yn gamwri a gormes. Eu dadl hwy oedd, os oedd arian y cyhoedd yn myned i gynal yr ysgolion hyn, y dylasai y cyhoedd drwy eu cynrychiolwyr gael eu rheoli hefyd. Cododd y teimlad yn uwch ac yn fwy angerddol yn Nghymru gan fod Ymneillduwyr yno yn fwyafrif mawr y bobl.

Yn nglyn a'r Mesur hwn y daeth Mr. Lloyd George i wrthdarawiad cyhoeddus a'r Aelodau Gwyddelig. Mae'r Werddon mor Babyddol ag yw Cymru yn Ymneillduol. Felly, er nad oedd y Mesur newydd yn cyffwrdd dim a'r Werddon, eto, yn gymaint a'i fod yn rhoi arian i gynal ysgolion Pabyddol yn Lloegr a Chymru, cefnogai'r Blaid Wyddelig y mesur er mai Llywodraeth Doriaidd a'i dygai yn mlaen, ac er y rhaid i'r Gwyddelod felly bleidleisio yn erbyn eu cyfeillion oeddent am roi Ymreolaeth i'r Werddon. Danododd Lloyd George hyny i nifer o'r Aelodau Gwyddelig. Atebwyd ef yn swta:

"Rhaid i ni yn y Werddon edrych ar ol ein buddianau ein hunain."

"Oh!" ebe Lloyd George, "Rwy'n gweld! Ac 'rwy'n tybio ei bod yn llawn bryd i ninau yn Nghymru a Lloegr felly edrych ar ol ein buddianau ninau a meddwl llai am fuddianau'r Werddon!"

Gwelodd y Gwyddelod fod y Cymro yn bygwth myned yn erbyn Mesur Ymreolaeth i'r Werddon, a dechreuasant feddwl eu bod wedi gwneyd camgymeriad. Ond fel mater o ffaith, ni bu Lloyd George erioed yn bleidiwr cryf i Ymreolaeth i'r Werddon oni chaffail Cymru hefyd Ymreolaeth yr un pryd a hi.

Methai Syr Henry Campbell Bannerman fel arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn Nhy'r Cyffredin, gadw Lloyd George mewn trefn. Mynai'r Cymro fyned yn mlaen yn ei ffordd feiddgar ei hun—ac er dychryn i Syr Henry, dylynwyd y gwrthryfelwr gan nifer mawr o'r Aelodau Rhyddfrydol. Ai y Cymro yn mhellach hyd yn nod na hyn, gan ymosod yn gyhoeddus ar lawr y Ty ar ei Arweinydd ei hun. Yn adeg Rhyfel y Boeriaid annghytunai Lloyd George yn hollol a Syr Henry. Un tro aeth mor bell a gwneyd gwawd cyhoeddus of hono yn Nhy'r Cyffredin drwy ddweyd:

"Mae Arweinydd y Rhyddfrydwyr, Syr Henry Campbell Bannerman, wedi cael ei ddal a'i gymeryd yn garcharor gan. y gelyn (y Toriaid). Maent wedi stripio pob egwyddor Ryddfrydol oddi am dano, ac yna wedi ei adael yn noeth ar y velt (prairie Affrica) i geisio gwneyd ei ffordd yn ol at Ryddfrydiaeth goreu y medro."

Rhaid boddloni ar un engraifft arall o feiddgarwch Seneddol Lloyd George yn y cyfnod hwn. Yn Senedd dymor 1904 y cymerodd hyn le. Yr oedd y Toriaid yn dal o hyd mewn swydd, ac wedi dwyn yn mlaen "Mesur Gorfodaeth Cymru." Mesur oedd hwn i gymeryd arian dyledus at gynal Ysgolion y Cyngor, a reolid gan y trethdalwyr, a'i drosglwyddo i ysgolion yr Eglwys a reolid gan yr offeiriaid. Eglurir hyn yn mhellach mewn penod arall, ond dengys yr uchod gnewyllyn pwnc y ddadl.

Gwrthwynebai Lloyd George a'r Aelodau Cymreig y mesur yn gyndyn a phenderfynol. Yr oedd y Llywodraeth, hwythau, lawn mor benderfynol y mynent basio'r miesar. Ceisiodd Mr. Balfour osod y cloadur pan, yn marn yr aelodau Cymreig, nid oedd haner digon o amser wedi cael ei ganiatau i ddadleu'r pwnc. Fel y gwnaeth ar achlysur tebyg o'r blaen, gwrthododd Lloyd George fyned i'r Lobby i bleidleisio. Apeliodd y Cadeirydd, Mr. Lowther, ato. Atebodd yntau:

"Nid wyf yn gweled un rheswm mewn cymeryd rhan mewn coegchwareu fel hyn er mwyn boddio Teulu Cecil. Nid yw ond gwawd i'n rhwystro fel hyn i ddadleu mater sydd a wnelo a iechyd y plant. Mae yn ofnadwy o beth!"

Yna galwyd y Llefarydd i'r gadair fel y tro o'r blaen, ac ebe Lloyd George:

"Rhaid i ni wrthdystio yn y modd mwyaf pendant yn erbyn y cwrs annheg a gymer y Cadeirydd ar gais y Prif Weinidog (Mr. Balfour). Barnwn ni fod y Cadeirydd wedi ein rhwystro i ddadleu cwestiynau o'r pwys mwyaf i'n hetholwyr, ac nis gallwn, yn gyson a'n dyledswydd iddynt hwy, gymeryd unrhyw ran pellach yn y gwawd-chwarae hyn yn y Senedd."

Gellir egluro mai un o deulu Cecil (Arglwydd Salisbury) yw Mr. Balfour, ac mai'r teulu hwnw oedd y mwyaf aiddgar i basio'r Mesur hwn. Mr. Asquith oedd ar y pryd yn arwain y Blaid Ryddfrydol yn y Ty. Aeth at Lloyd George i ymresymu ag ef, ond yn lle llwyddo i berswadio'r Cymro, perswadiwyd Mr. Asquith gan Lloyd George, a'r diwedd fu i'r ddau godi ar eu traed, a cherdded allan o'r Ty fraich yn mraich yn cael eu canlyn gan yr holl Blaid Ryddfrydol heb bleidleisio, gan adael felly yr holl gyfrifoldeb am basio Mesur Gormes Cymru ar y Toriaid yn unig.

PENOD VI.

APOSTOL HEDDWCH.

NI bu erioed dangnefeddwr mwy ymladdgar na Mr. Lloyd George. Adeg y rhyfel yn Ne Affrica ymladdodd mor ffyrnig yn erbyn y rhyfel ag yr ymladdai'r Boeriaid yn erbyn y Prydeinwyr. Arddangosodd gymaint dewrder yn Mhrydain ag a wnaeth milwyr Prydain lanau'r Tugela; a gwynebodd angeu mor dawel yn Birmingham a lleoedd eraill yn ei frwydr fawr dros heddwch, ag a wnaeth y milwyr yn Spion Kop a Moder River. Achosodd y rhyfel gagendor mor fawr rhwng dwy adran o'r Blaid Ryddfrydol yn Mhrydain, ag a wnaeth rhwng y Boer a'r Prydeiniwr yn y Transvaal. Achubodd Lloyd George gymeriad Rhyddfrydiaeth yn Mhrydain mor sicr ag yr achubodd Arglwydd Roberts enw byddin Prydain yn Affrica fel y gallu sydd bob amser yn enill yn y pen draw.

Fel arwr Annghydffurfiaeth rhaid oedd i Lloyd George fod hefyd ar y blaen yn taenu egwyddorion heddwch. Cydweithiai Henry Richard, ymneillduwr Cymreig cyntaf Ty'r Cyffredin,[5] yn egniol gydag Edward Miall i bregethu efengyl heddwch ar ol Rhyfel y Crimea, gan enill Ymneillduwyr Cymru yn ymarferol oll i'r un golygiadau ag yntau. Pregethid

Darlun gan Saronie.

MRS. LLOYD GEORGE[6]

egwyddorion heddwch yn mhob capel drwy Gymru, ac ni phregethid hwynt yn fwy cyson ac argyhoeddiadol nag a wnaed yn nghapel bach Dysgyblion Crist yn Llanystumdwy, lle y magwyd Lloyd George. Daeth cariad at heddwch felly yn rhan hanfodol o'i gyfansoddiad moesol, a phlanwyd yn ei enaid atgasedd at bob math o ormes a gorthrwm.

Dygwyddai fod ar daith yn Canada pan dorodd y rhyfel allan yn y Transvaal. Dychwelodd adref ar frys. Cafodd y Blaid Ryddfrydol mewn cyflwr truenus. Yr oedd twymyn rhyfel wedi cael gafael mor gyffredinol ar werin Lloegr, a theimladau wedi poethi a chwerwi cymaint, fel na feiddiai neb o'r Arweinwyr Rhyddfrydol godi llais yn erbyn y rhyfel. Cefnogai llawer o honynt yn ddystaw, rhai o honynt yn gyhoeddus, bolisi rhyfelgar Mr. Chamberlain. Gwrthwynebid pob ymgais at bregethu heddwch mor benderfynol gan Arglwydd Rosebery, Mr. Asquith, Syr Edward Grey, Syr Henry Fowler, ac eraill o'r arweinwyr Rhyddfrydol, ag a wnaed gan Arglwydd Salisbury, Mr. Balfour, neu Mr. Chamberlain. Y pryd hwnw fel yn awr ymddangosai y Rhyfel fel pe wedi difodi canolfur y gwahaniaeth rhwng y pleidiau politicaidd. Annghofiodd y Rhyddfrydwyr eu hegwyddorion am y tro, ac er fod Syr Henry Campbell Bannerman, arweinydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol ei hun, o bosibl, yn dal at hen egwyddorion ei blaid, ofnai ei rhwygo wrth ddod allan ei hun i bregethu egwyddorion heddwch.

Ond pan ddychwelodd Lloyd George o Canada, daeth tro ar fyd. Heb betruso dim na meddwl nac am ei ddyogelwch personol ei hun, na lles y Blaid Ryddfrydol, nac hyd yn nod fuddianau Prydain ei hun yn y Rhyfel, ymdaflodd gyda'i holl frwdfrydedd arferol i'r gwaith o wrthwynebu llanw mawr a chryf teimlad y werin o blaid rhyfel. Ceisiai yn arbenig ddeffroi y gydwybod Ymneillduol. Pe bae'r adeg ychydig yn fwy ffafriol, pe na bae Prydain eisoes wedi dechreu ymladd, pe na bae cynifer o'i milwyr wedi colli eu bywydau yn y rhyfel, o bosibl y cawsai well gwrandawiad, ac y llwyddasai i grynhoi o'i gwmpas gwmni of ddewrion egwyddorol tebyg iddo yntau. Ond fel y dygwyddai yr oedd llawer o'r Ymneillduwyr blaenaf eisoes wedi ymrwymo i'r blaid a fynai gario'r Rhyfel allan yn fuddugoliaethus i'r terfyn-cwrs oedd i gostio yn ddrud i Ymneillduaeth Lloegr a Chymru cyn hir.

Nid oedd Cymru ei hun wedi dianc rhag haint ysbryd rhyfel. Syrthiodd y pla yn drwm iawn ar etholaeth Lloyd George ei hun, Bwrdeisdrefi Arfon. Pleidid y rhyfel yn gryf gan nifer o aelodau mwyaf blaenllaw Pwyllgor Etholiadol Lloyd George. Gwelir felly fod pob peth, lles y blaid, esiampl ei arweinwyr, cysylltiadau politicaidd, ystyriaethau cyfeillgarwch, hunan les, un ac oll yn ei gymell i fod yn ddystaw os na fedrai gefnogi y Rhyfel.

Eithr nid ymgyngorodd efe a chig a gwaed. Y pryd hwnw o leiaf yr oedd dylanwad dysgeidiaeth y capel, a phroffes ei ffydd yn rhy gryf i ganiatau iddo wadu egwyddorion ei oes. Felly, heb eistedd i lawr a bwrw'r draul, heb gyfrif o hono y canlyniadau posibl iddo ef ei hun, o bosibl o dan gymelliad ei ysbryd ymladdgar naturiol ef ei hun, ymdaflodd a'i holl yni, a'i holl nerth, a'i holl enaid, i'r frwydr o blaid heddwch. Ymgymerodd a rhyfelgyrch mawr i bregethu heddwch o'r naill gwr o'r deyrnas i'r llall, gan ddechreu yn Jerusalem Ty'r Cyffredin, lle y traddododd araeth rymus yn mhen wythnos wedi agor Senedd-dymor 1899-1900. Aeth o'r Senedd i'r wlad, gan gario fflamdorch rhyfel o blaid heddwch. Daeth yn y man yn nod pob saeth wenwynig, yn ganolbwynt pob ymosodiad. Ond trwy'r cwbl parhaodd i deithio llwybr cul ac union yr egwyddorion a broffesasai ar hyd ei oes. Apeliai yn ofer at werin y deyrnas, gan eu sicrhau y golygai'r rhyfel ohirio am flynyddoedd y Blwydd-dal i Hen Bobl oedd Joseph Chamberlain wedi addaw iddynt. Ebe fe, yn ei ddull desgrifiadol a tharawiadol ei hun:

"Nid oes ffrwydrbelen lydeit yn ffrwydro ar fryniau Affrica nad yw yn chwythu ymaith flwydd-dal rhyw hen bererin yn y wlad hon."

Ac ni chafwyd Blwydd-daliadau am ddeng mlynedd. Wrth y Cymry dywedai:

"Gohiria y rhyfel hwn pob gobaith am gael Dadgysylltiad am chwe mlynedd."

Mae un deg a chwech o flynyddoedd wedi pasio oddi ar pan lefarodd y broffwydoliaeth, ond megys a chroen ei ddanedd y diangodd Mesur Dadgysylltiad eleni. Ymosododd Lloyd George yn ffyrnig ar y landlordiaid a'r cyfalafwyr. Ebe fe:

"Gwthiwyd y Rhyfel hwn arnom gan Lywodraeth sydd wedi rhanu tair miliwn o bunau yn mhlith ei chefnogwyr. Cariwyd hyny mewn Ty (Ty'r Arglwyddi) cyfansoddedig o landlordiaid, nad oes gan ddeiliaid y deyrnas hon lais yn eu dewisiad. A dyna'r Ty, a dyna'r Llywodraeth, sy'n gwario miliynau o bunoedd yn awr er mwyn cael, meddent hwy, weinyddiaeth bur a gonest yn y Transvaal!"

Ceisiwyd y pryd hwnw—fel y gwnaeth y Weinyddiaeth o'r hon y mae efe ei hun yn aelod yn awr—gloi pob genau a chylymu pob tafod fel nad ynganai neb air yn erbyn y rhyfel. Ond pan geisid gwahardd cynal cyfarfodydd cyhoeddus i wrthdystio yn erbyn y Rhyfel yn 1900, atebodd Lloyd George mai dyledswydd dyn oedd goleuo'r wlad ar gwestiynau o ffaith ac egwyddor, pa un bynag a fyddai Rhyfel ar droed ai peidio. Ebe fe:

"Yr ydym yn ymladd dros Ryddid Barn a Llafar."

Gwrthodai gydnabod fod angenion y Llywodraeth, na'r fyddin, na'r genedl, na dim, yn ddigon i gyfiawnhau amddifadu'r wlad o'i hawl cynenid i draethu ei barn yn gyhoeddus. Pan gymellwyd ef gan ei Gymdeithas Etholiadol ef ei hun yn Mwrdeisdrefi Arfon i beidio cynal cyfarfod cyhoeddus yn y Bwrdeisdrefi, atebodd y rhoddai ei swydd fel Aelod Seneddol i fyny cyn yr ildiai ei hawl i siarad. Cynaliodd ei gyfarfod. cyhoeddus cyntaf yn Nghymru yn nhref Caerfyrddin. Amlwg ar y cychwyn fod y dorf yn wrthwynebol iddo. Ond ebe fe:

"Pe na chymeraswn y cyfle cyntaf, a phob cyfle, i wrthdystio yn erbyn peth a ystyriwyf sydd yn warthrudd ac yn waradwydd, cyfrifaswn fy hun yn llwfryn gwael ger bron Duw a dynion. Ac yr wyf yn gwrthdystio yma, yr awr hon, ie, pe gorfyddai i mi ymadael o Gaerfyrddin yfory heb fedru cyfrif i mi gymaint ag un cyfaill yn y lle."

Sylwyd eisoes nad oedd dim yn rhoi mwy o bleser iddo nag ymosod ar Mr. Chamberlain. Gan dybied o hono mai Chamberlain o bawb oedd yn gyfrifol am y Rhyfel, adnewyddai yn awr ei ymosodiadau ar y gwr mawr ac enwog hwnw. Ebe fe, yn un o'r ymosodiadau ffyrnig hyn:

"Nid yw bywyd yr Ymerodraeth mewn perygl yn y Rhyfel hwn fwy nag ydoedd yn adeg y Rhyfel a'r Trefedigaethau Americanaidd yn nyddiau George Washington. Mae un araeth o eiddo Mr. Chamberlain yn gwneyd mwy i beryglu Ymerodraeth Prydain nag a wna dwsin o frwydrau fel Nicolson's Nek (lle y collodd y Prydeinwyr). Gwna'r Rhyfel hwn les annhraethol i ni os dysga ni i sylweddoli ynfydrwydd areithiau Mr. Chamberlain a'r polisi a ddynodant. Sonia am y Transvaal fel 'y wlad a grewyd genym ni!' Rhaid i'r Blaid Ymerodrol bellach gael argraffiad newydd o'r Beibl, argraffiad Birmingham, ac yn dechreu fel hyn: 'Yn y dechreuad y creodd Joseph Chamberlain nefoedd a daear!'"

Galwyd ef yn "Pro-Boer" am gyfrif o hono y Rhyfel yn gamgymeriad mawr. Nid oedd hyny, meddai, amgen na'r tegell yn dweyd fod y crochan yn ddu. Aeth yn mlaen:

"Gwrthwynebid Rhyfel yn erbyn y Zwlwiaid gan Mr. Chamberlain. Ai 'niger' oedd Mr. Chamberlain am wneuthur o hono hyny? Cyhuddodd Mr. Chamberlain Syr Frederick (yn awr Arglwydd) Roberts, a Byddin Prydain o farbareiddiwch yn Zwlwland. Ai bradwr oedd efe am wneuthur felly?"

Wedi etholiad "Khaki" 1900 cyhuddodd Mr. Chamberlain ei fod:

"Yn lladrata pleidleisiau'r tlawd drwy addaw iddynt Flwydd-dal i Hen Bobl; ond pan ddaeth yr adeg i gyflawnu'r addewid, ni roddodd ddim iddynt ond cyfle i fyfyrio ar y velt dibendraw."

Pan gofir fod Mr. Chamberlain yn cael ei barchu, ei anwylo, a'i addoli gymaint yn Birmingham ag y perchid, yr anwylid, ac yr addolid Mr. Lloyd George yn Nghymru, gellir deall yn well, er y rhaid i mi barhau i gondemnio, ymosodiad ynfyd mob gwallgof Birmingham ar y torwr delwau a feiddiai fel hyn yn barhaus ddryllio eu delw hwy. Ac, a dweyd y gwir, ni allai na Mr. Lloyd George na Chamberlain daflu careg at y llall am ymddygiadau eu cefnogwyr, canys, er na ellir dal y naill na'r llall yn gyfrifol am weithredoedd eu hetholwyr, eto rhaid cofio fod addolwyr Chamberlain yn Birmingham, ac addolwyr Lloyd George yn Mwrdeisdrefi Arfon, y naill fel y llall, wedi llabyddio y sawl na blygai lin i'w heilun.

Er mai cythrwfl Birmingham brofodd y mwyaf difrifol o'r un, eto cafodd Lloyd George ei erlid mewn cyffelyb fodd yn mron yn mhob dinas yr elai iddi y dyddiau hyny fel Apostol Heddwch, a dyddorol yw sylwi mai'r bobl fwyaf ymladdgar o bawb oedd yn bleidwyr ac yn amddiffynwyr iddo ar ei daith genadol o blaid heddwch. Yn Glasgow, Mr. Keir Hardie, ac yntau yn ymladdwr mor bybyr a Lloyd George, a'i hamddiffynodd rhag ymosodiad y dorf ffyrnig. Yn Bryste, rhaid oedd cael corfflu o Wyddelod a'u ffyn (shilelaghs) yn osgorddlu iddo o'i lety i'r neuadd lle y siaradai, ac yn ol drachefn. Yn Liskeard, yn Nghernyw (Cornwall), er fod gwr mor boblogaidd a'r nofelydd enwog Mr. (yn awr Syr) Quiller Couch ("Q") yn gadeirydd, a Mr. (yn awr Arglwydd) Courtney, yr Aelod Seneddol dros y dref hono, yn cymeryd rhan gydag ef yn y cyfarfod, ymosododd y dorf ar y llwyfan, gan ysgubo'r cadeirydd a'i gadair, yr areithwyr a'u hareithiau ymaith fel man us o flaen y gwynt. Hyd yn nod yn ei etholaeth ei hun, yn ninas Bangor, drylliwyd ffenestri'r neuadd lle y cynaliai ei gyfarfod, ac ar ol dod allan pastynwyd ef ar brif heol y ddinas. Dengys y ffeithiau hyn rym ei argyhoeddiad a'i benderfyniad.

Saif dau o'i gyd-apostolion y pryd hwnw allan mewn goleuni cryf fel beirniaid llym i bolisi'r Weinyddiaeth bresenol yn nglyn a'r Rhyfel yn Ewrop. Peryglodd Mr. Keir Hardie ei fywyd ei hun i amddiffyn Mr. Lloyd George ar ei genadaeth heddwch yn Glasgow. Daliodd Keir Hardie yn gryf at yr un argyhoeddiadau wedi trawsnewid Lloyd George o fod yn Apostol Heddwch i fod yn Weinidog Cyfarpar Rhyfel. Am Mr. Courtney, a beryglodd ei sedd yn Nghernyw wrth dderbyn Apostol Heddwch 1900 yno, traddododd yntau araeth yn ddiweddar yn Nhy'r Arglwyddi (lle yr eistedd efe yn awr fel Arglwydd Courtney) ar gwestiwn y Rhyfel yn Ewrop, a greodd gyffro drwy'r deyrnas. Gorchwyl dyddorol, ond efallai difudd, a fyddai ceisio amgyffred pa beth a wnaethai Mr. Lloyd George yn awr, oni bae ei fod yn rhwym draed a dwylaw fel aelod blaenllaw o'r Weinyddiaeth sydd yn cario y Rhyfel yn mlaen. Ond hyn sydd sicr, gwelir gwrthgyferbyniad cryf rhwng natur ei areithiau ar Ryfel 1914-15 a'r hyn a draddododd ar Ryfel 1900. Tegwch ag ef yw nodi, er hyny, fod gwahaniaeth dirfawr rhwng achosion ac amgylchiadau'r ddau Ryfel. Amddiffyn cenedl fach yn Affrica yn erbyn trais ei wlad ei hun a wnaeth Lloyd George yn 1900; amddiffyn cenedloedd bychain Ewrop yn erbyn trais y Kaiser a wna yn awr.

Daeth Etholiad Cyffredinol 1900—yr Etholiad Khaki fel y'i gelwid—pan oedd Lloyd George ddyfnaf yn ei anmhoblogeiddrwydd. Credai pawb, ei gyfeillion yn ogystal a'i elynion, mai ei orchfygu a gaffai yn yr etholiad hwnw. Cyfnod tywyll du ydoedd hwnw i'w gefnogwyr; gwynebau athrist a welid gan bawb o aelodau ei Bwyllgor Etholiad. Yr unig wyneb siriol, llawen, gobeithiol, yn mhob cyfarfod o'r Pwyllgor oedd gwyneb Lloyd George ei hun. Yr oedd aml un o'i hen gyfeillion wedi troi cefn arno. Dywedid fod un o'r chwech Bwrdeisdref—Nefyn—wedi ei lwyr adael.

Er y gwyddai fy mod yn annghytuno a'i bolisi ar gwestiwn y Rhyfel, daeth ataf pan edrychai pethau dduaf, gan grefu arnaf wneyd dau beth drosto ac er ei fwyn, sef (1) Ymweled yn bersonol a rhai Ymneillduwyr dylanwadol a fuont gynt yn gefnogwyr cynes ac yn aelodau o'i Bwyllgor Etholiadol, ond oeddent wedi troi eu cefn arno yn awr, ac yn myned i bleidleisio i'w erbyn; a (2) Myned gydag ef i gynal cyfarfod yn Nefyn, lle yr ofnid fod corff mawr yr etholwyr wedi troi i'w erbyn. Boddlonais wneyd y ddau ar yr amod fy mod yn rhydd i gael dweyd a fynwn yn y cyfarfod yn Nefyn.

"O'r goreu," ebe fe gyda'i wen arferol. "Dywedwch a fynoch, a beirniadwch fi faint a fynoch. Yr ydych chwi a minau wedi gwynebu'r gelyn ysgwydd yn ysgwydd yn rhy aml mewn llawer brwydr boeth i chwi droi cledd i'm herbyn yn awr."

Aethym fel cenadwr drosto at yr hen aelodau o'r Pwyllgor, ac er i mi fethu cael addewid pendant ganddynt i siarad drosto yn gyhoeddus, fel yr oeddwn i yn gwneyd fy hun, eto ymgymerasant i beidio ei wrthwynebu mewn na gair na phleidlais. Yn y cyfarfod yn Nefyn dywedais fy mod, fel hen ysgolfeistr, am gymeryd cyffelybiaeth dau fachgen yn ceisio am ysgoloriaeth.

"Mae deg sum yn cael eu rhoddi i'r ddau fachgen," meddwn. "Mae un o'r ddau yn gwneyd un sum yn iawn, a'r naw sum arall yn wrong. Mae'r llall yn gwneyd y sum fawr gyntaf yn wrong, ond y naw sum arall yn right. Pa un o'r ddau a ddylai gael yr ysgoloriaeth?"

"Yr olaf!" llefai'r dorf.

"Dyna chi!" meddwn inau. "Yn awr cymerwch ddeg cwestiwn politicaidd mawr y dydd yn y rhai yr ydych chwi yn credu. Mae Lloyd George yn wrong ar gwestiwn y Rhyfel, ond yn right ar y naw cwestiwn arall. Mae ei wrthwynebydd yn right ar gwestiwn y Rhyfel, ond yn wrong ar y naw arall."

Gwelodd y dorf y pwynt, a chwarddodd pawb. Eisteddais ar hyny i roi lle i Lloyd George yr hwn a ddaeth yn mlaen gyda gwen, gan ddweyd:

"Mae'n dda genyf glywed yr Inspector yn dweyd fod naw sum genyf yn right. 'Rwy'n credu fod y degfed yn right hefyd, ac mi ddwedaf wrthych pam." Ac yna yn mlaen ag ef ar y cyweirnod hwnw, ac o dipyn i beth yn enill cydymdeimlad y dorf. Ar ddiwedd y cyfarfod yr oedd wedi enill ei hen gyfeillion yn mron oll yn ol. Pan ddaeth dydd y polio, yn lle colli ei sedd fel y tybiai pawb y gwnai, chwyddodd ei fwyafrif ddeg a deugain y cant. Ond er iddo ef enill, colli wnaeth y Rhyddfrydwyr yn yr etholiad hwnw yn y deyrnas.

Mae yn deilwng o sylw fod pobl Prydain mor hyderus wrth ddechreu y Rhyfel yn Ne Affrica ag ydoedd y Caisar wrth ddechreu y Rhyfel yn Ewrop. "Bydd y Rhyfel drosodd yn mhen deufis," ebe Llywodraeth Prydain pan yn dechreu ymosod ar Kruger—ond parhaodd am dair blynedd. "Byddaf fi yn Paris yn orchfygwr yn mhen tri mis," ebe'r Caisar yn Awst, 1914. Ni chyraeddodd yno eto.

Ar ol yr etholiad parhaodd Lloyd George i ymosod ar y Jingoes yn y Ty ac allan o'r Ty. Dyddorol yma. yw adgoffa'r ffaith fod Arglwydd Kitchener wedi cymeradwyo i'r Llywodraeth wneyd heddwch a'r Boeriaid fisoedd lawer cyn iddynt wneyd. Y gwleidyddwyr, ebe Lloyd George, a safent ar y ffordd i orphen y Rhyfel tra'r oedd y Maeslywyddion yn barnu y dylid cael heddwch. Tybia rhai mai felly y bydd eto, ac y ceir Kitchener yn barod i derfynu y Rhyfel yn Ewrop cyn y bydd y gwleidyddwyr yn y Weinyddiaeth o'r hon y mae Lloyd George yn aelod, yn barod i wneyd.

Nodweddiadol iawn oedd ei ymosodiad ar Archesgob Caerefrog, yr hwn yn nghanol y rhyfel, a alwai am Ddydd o Ymostyngiad Cenedlaethol. Ebe Lloyd George:

"Dywedodd aelod o'r Cabinet yn ddiweddar y mynwn ni enill y Rhyfel hwn ar waethaf pobpeth ar y ddaear isod ac yn y nefoedd uchod. Ond gwel y Llywodraeth erbyn hyn na fedrant orfodi Duw i ildio yn ddiamodol. Felly rhaid i ni gael Dydd o Ymostyngiad—ond eto ymostwng ar amodau yn unig a wnawn. Rhaid i ni agoshau at orseddfainc Duw gan ddweyd: 'Wele ni, yr Ymerodraeth fwyaf ar dy ddaear Di, Ymerodraeth ar yr hon nad yw Dy haul Di byth yn machlud, yn agoshau ger dy fron Di, ac yn ymostwng o'th flaen am ddiwrnod cyfan, ond ar yr amod Dy fod Dithau yn ein cynorthwyo i wneyd ymaith am byth a'r creadur hwn sydd yn ein blino, y Naboth yma, modd y caffom ni fwynhau ei winllan.

"Rhaid oedd wrth Esgob, wrth Archesgob yn wir, i awgrymu y fath gabledd i'r genedl! Yn hytrach na hyn, bydded i ni weddio 'Gwneler Dy ewyllys, ie, yn Affrica fel yn mhob man arall ar y ddaear!'"

Aeth mor bell yn ei wrthwynebiad i'r Rhyfel nes y siaradodd ac y pleidleisiodd yn erbyn y Vote of Supply o ugain miliwn o bunau (20,000,000p.) at ddwyn treuliau Rhyfel De Affrica—costia Rhyfel Ewrop i Brydain yn unig yn awr ddim llai nag ugain miliwn o bunau mewn pedwar diwrnod, neu bum miliwn of bunau'r dydd. Yn yr araeth hono defnyddiodd un frawddeg y cofir am dani yn awr pan fo'r Llywodraeth Ryddfrydol wedi ei chwalu a Cabinet newydd o'r ddwyblaid, y Rhyddfrydwyr a'r Toriaid wedi cymeryd ei lle. Eb efe:

"Fel yn Rhyfel y Crimea ac yn mhob Rhyfel arall, rhaid i'r Cabinet ei hun dalu am fethu. Nid yw hyny yn golygu rhoi y Rhyfel i fyny, ond gall olygu newid y Cabinet, a rhoi siawns i ryw un arall."

Ond pwy rai o'r Cabinet presenol ga dalu ar ol llaw am fethu o honynt achub Serbia nac agor y Dardanels, sydd gwestiwn nad oes ond y dyfodol a eill ei bender- fynu.

Dywed yr hen ddiareb fod adfyd yn dwyn i ddyn gydwelywyr rhyfedd. Achosa hefyd rwygo hen gyfeillgarwch. Yn mhlith cyfeillion goreu a chefnogwyr penaf Lloyd George fel Apostol Heddwch yr oedd Keir Hardie a Mr. (yn awr y Barnwr) Bryn Roberts. Syrthiodd Lloyd George allan a'r ddau yn chwerw iawn wedi hyny. Ar y llaw arall, eistedda heddyw yn gydaelod o'r un Cabinet a'i elynion penaf bymtheng mlynedd yn ol, Mr. Balfour a Mr. Awstin Chamberlain.

Yn wir, bu y Blaid Ryddfrydol mor agos a myned yn llongddrylliad ar graig Rhyfel De Affrica ag yr ymddengys mewn perygl o fyned yn awr ar gwestiwn Rhyfel Ewrop. Fel y dangoswyd eisoes, Mr. Lloyd George achubodd enw da ac a gadwodd enaid y Blaid Ryddfrydol adeg Rhyfel Affrica. Pa beth a wnaethai efe heddyw oni bae ei fod yn y Cabinet? Neu pe bae yna Lloyd George arall yn mhlith Rhyddfrydwyr Senedd Prydain heddyw, ai tybed y goddefasai y Blaid i Ddalilah "Llywodraeth Genedlaethol" ei suo hi i gysgu, ac y caniateid ffurfio Cabinet Ddwyblaid yn cynwys fel mae ddynion fel Mr. Balfour ac Arglwydd Lansdowne, heb son am Syr Edward Carson a Mr. F. E. Smith, i gydeistedd gyda Rhyddfrydwyr fel Mr. Asquith a Mr. Lloyd George? Sicr yw pe caent ddyn fel ag ydoedd Lloyd George bymtheng mlynedd yn ol i'w harwain, ni oddefasai na'r Aelodau Gwyddelig na'r Aelodau Cymreig y fath briodas anachaidd.

Cyfeiriwyd eisoes at gythrwfl mawr Birmingham, a'r ymosodiad a wnaed ar Lloyd George yno. Dilys cofio fod Lloyd George ei hun, drwy ei ymosodiadau ar Chamberlain, wedi chwerwi pobl Birmingham a'u gyru yn gynddeiriog i'w erbyn. Pan hysbyswyd ei fod ef i gynal cyfarfod yn neuadd y dref, cododd yr holl ddinas megys i'w erbyn. Ceisiodd Prif Gwnstabl y ddinas berswadio Mr. Lloyd George i beidio cynal y cyfarfod, am y buasai yn peryglu ei fywyd wrth fyned ar y llwyfan yno yn nghanol y fath deimladau. Ond nid un o blant Ephraim oedd Lloyd George i droi ei gefn yn nydd y frwydr. Dywedodd yn syml fod y cyfarfod i gael ei gynal a'i fod yntau yn myned yno i siarad.

Cymerodd yr awdurdodau bob rhagofal oedd yn bosibl. Amgylchynwyd y neuadd gan gorff cryf o heddgeidwaid, a gosodwyd corff cryf arall o honynt yn nghudd yn y neuadd ei hun. Ond ar waethaf pob rhagofal, mynodd y dyrfa wallgof ei ffordd. Drylliwyd ffenestri prydferth y neuadd, torwyd y drysau i lawr; rhuthrwyd y llwyfan; anafwyd amryw o'r heddgeidwaid, a chollodd un dyn ei fywyd. Buasai'r dorf, oddi fewn neu oddi allan i'r neuadd, yn ddiameu wedi lladd Lloyd George pe cawsent afael ynddo. Ond perswadiodd y Prif Gwnstabl ef i ymneillduo yn ddirgel i ystafell o'r neilldu, ac i wisgo dillad un o'r heddgeidwaid. Yna, fel heddgeidwad, yn nghanol llu o wir heddgeidwaid, martsiodd allan o'r neuadd ac ar hyd yr heol drwy ganol y dorf. Tybiodd un o'r dorf iddo ei adwaen, a gwaeddodd allan:

"Dacw fo! Dacw Lloyd George! Y plisman bach yna yn y canol!"

Ond chwarddodd y dorf am ben y syniad, ac felly y diangodd Lloyd George megys o safn angau.

Cadwodd yr heddgeidwaid wyliadwriaeth fanwl drwy'r nos ar y ty lle y lletyai, a boreu tranoeth aed ag ef yn dawel i gyfarfod a'r tren heb i'w erlidwyr wybod. Ysgrifenodd at ei briod wedi cyraedd dyogelwch:

"Methasant gosod cymaint a chrafiad arnaf, er bygwth o honynt y mynent fy lladd!"

Nid oedd Mr. Asquith y pryd hwnw yn gyfaill i Mr. Lloyd George. Annghytunai yn hollol ag ef ar bwnc y Rhyfel, ond pan gafwyd yn y papyrau newydd hanes am yr hyn a gymerodd le yn Birmingham y dwthwn hwnw, daeth y Prif Weinidog presenol allan yn gryf mewn araeth gyhoeddus. Dywedodd:

"Cyflawnwyd trosedd gwarthus yn erbyn hawliau elfenol dinasyddiaeth. Dydd drwg fydd y dydd hwnw pan na chaniateir i ddyn ddweyd ei farn yn y wlad hon, pan y ceisir ei osod i lawr drwy rym braich, drwy ddychryn. Nid oes dim a werthfawroga y Sais yn fwy na'r hawl anmhrisiadwy ac annhrosglwyddiadwy hon—rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar."

Ond ar waethaf pob peth, y genadaeth beryglus hon fel Apostol Heddwch a enillodd i Lloyd George le yn y Weinyddiaeth Ryddfrydol pan y daeth hono i awdurdod yn mhen tair blynedd wed'yn. Profodd ei hun yn ddyn na chymerai ei ddenu gan weniaith na'i ddychrynu gan fygythion, ac yn un a fedrai sefyll i fyny yn ngwyneb pob gwrthwynebiad. Efe yn wir a gadwodd lamp egwyddorion Rhyddfrydiaeth yn oleu drwy ddyddiau tywyll Rhyfel De Affrica.

PENOD VII.

RHYDDID CYDWYBOD.

ANMHOSIBL yw i'r Cymro Americanaidd na phrofodd, ac na welodd erioed, beth a olyga gormes crefyddol, sylweddoli angerddolrwydd dyhead Ymneillduwyr Cymru am weled rhyddhau yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth. Yn nyddiau mebyd Lloyd George yr oedd y caethiwed yn galed a blin i'w gyd-grefyddwyr; Eglwys Loegr lywodraethai yn mhob cylch, er mai Ymneillduwyr oedd corff mawr y werin. Eglwyswyr oedd y perchenogion tir, y meistri gwaith, yr ynadon ar y fainc, swyddogion y llywodraeth, yn ymarferol pawb oedd mewn awdurdod. Yr oedd y ffaith fod dyn yn Ymneillduwr yn ddigon i'w gau allan o bob swydd o anrhydedd, o elw, ac o awdurdod. Plygai aml un ei ben yn nhy Rimmon, er mwyn ei le neu ei swydd, pan oedd ei galon gyda'i deulu yn addoli Duw yn y capel bach diaddurn.

Aeth Lloyd George i Senedd Prydain a'i galon yn llawn gobaith a gwroldeb, ac o dan yr ymdeimlad fod buddianau ei wlad yn gorphwys ar ei ysgwyddau. Ymddiriedwyd iddo genadwri mor bendant a digamsyniol ag a roddwyd erioed i unrhyw un o broffwydi yr Hen Destament; ac mor ddiameuol a hyny magwyd ac addysgwyd a dysgyblwyd ef o'r cryd i gyflawnu y genadaeth bwysig hono. Ni chafodd uchelgais personol le o gwbl yn ei feddyliau—gweled cyflawni gobaith Cymru oedd y cwbl ganddo. "Eglwys Rydd, i Bobl Rydd, mewn Gwlad Rydd"—arwyddair mawr Owen Glyndwr, a lenwai ei galon a'i enaid. Rhyddhau ei gyd-grefyddwyr oddiwrth eu caethiwed o dan Eglwyslywiaeth estronol o ran ei tharddiad, ei gydwerinwyr oddiwrth ormes Sgweierlywiaeth estronol o ran ei syniadau, a'i gydwladwyr oddiwrth rwymau plaid wleidyddol estronol o ran ei chydymdeimlad— dyna'r amcanion mawr a lenwai ei fryd pan aeth gyntaf i'r Senedd.

O'r tri hyn ystyriai yr olaf fel moddion effeithiol er sicrhau y ddau flaenaf. Cysylltai bob amser y landlord a'r offeiriad fel cyngreiriaid, yn cyduno a chydweithredu i orthrymu gwerin Cymru. Rhaid deall hyn er mwyn deall agwedd meddwl, a natur geiriau, a dyhead politicaidd Lloyd George yn y cyfnod hwnw Am y Werddon dywedai: "Mae yn gorwedd o dan glwyfau a achoswyd gan landlordiaid Satanaidd." Gwaeth hyd yn nod na hyny, meddai, oedd cyflwr Cymru. "Yma yn Nghymru," meddai, "cawn yr offeiriad, yr hwn a ddylasai gynorthwyo ac ymgeleddu yr archolledig, yn ymuno a'r landlord i'w ysbeilio." Ac nid fel rhyw gorn-y-gynen i'r werin oddi ar y llwyfan adeg etholiad, y defnyddiai y geiriau celyd a'r brawddegau chwerw hyn. Llefarai eiriau cyffelyb yn Nhy'r Cyffredin. Yno yn y flwyddyn 1899, wedi bod am naw mlynedd yn Aelod Seneddol, dywedai:

THE ARCH-DRUID OF DOWNING STREET

A Musical Correspondent at the Eisteddfod writes: "Mr. Lloyd George then obliged with Land of My Fathers.' The Chancellor of the Exchequer, in his rendition of the famous Land song, gave its full site value to every note."

Trwy Ganiatad Perchenogion y "Punch."

"Mae'r Sgweier a'r Offeiriad wedi tori clawr Blwch y Tlodion, wedi lladrata'r cynwys, a rhanu'r arian rhyng- ddynt. Mae 'Tammany Ring' y Landlordiaid a'r Offeiriaid yn rhanu gweddillion olaf yr arian cydrhyngddynt."

Yr oedd ei holl gysylltiadau, ac am hyny ei holl gydymdeimlad ef, a'r bobl y credai ef oedd yn cael eu gormesu; y gormesedig oedd ei gydwladwyr a'i gydgrefyddwyr; y gormeswyr oeddent ei elynion ef fel yr eiddynt hwythau. O'i gryd i fyny dysgwyd ef i weled perygl i'r werin yn nghysylltiad anachaidd yr Eglwys a'r Wladwriaeth. I'w ddychymyg byw ef pan yn blentyn, y gweinidog Ymneillduol oedd "Mawrgalon" Bunyan; pregethai'r dewrddyn hwn o'r pwlpud hawliau dyn a rhyddid cydwybod, ac ar y llwyfan ac ar ddydd y polio, ymladdai'r pregethwr gyda'i bobl i enill y pethau hyn iddynt.

Anhawdd yn wir yw i'r neb na aned o honynt, neu na fu byw yn eu plith ac na bu drws cysegr eu meddyliau mwyaf dirgel yn agored iddynt, sylweddoli yr hyn a olyga Dadgysylltiad i'r cenedlaetholwr Cymreig, ac nid Ymneillduwyr hwynt oll. Ceir cenedlaetholwyr Eglwysig, deiliaid ffyddlon Eglwys Loegr yn Nghymru, filoedd o honynt yn dyheu am Ddadgysylltiad er mwyn rhyddhau "Hen Eglwys y Cymry" o'r rhwymau a'r rhai y delir hi yn gaeth gan olynydd Awstin Fynach. Cred yr eglwyswr Cymreig a fo hefyd yn Genedlaetholwr, y dadblygai'r Eglwys i fod eto fel cynt, yn "Eglwys y Genedl" pe y rhyddheid hi o hualau y Llywodraeth, pe y caffai ddewis ei hoffeiriaid a'i hesgobion ei hun, a dadblygu mewn cydymdeimlad a gwerin Cymru. Credant yn wir pe ceid hyny, y "deuai y gwenyn yn ol i'r hen gwch," y peidiai enwadaeth a bod yn Nghymru, ond y byddai yno yn llythyrenol "un gorlan ac un bugail."

Eithr golyga Dadgysylltiad fwy o lawer na hyn i'r Ymneillduwr. Iddo ef golyga dori iau caethiwed y canrifoedd; dileu anfanteision dinasyddol; sylweddoli gobeithion cenedlaethau; tori i lawr pob clawdd terfyn cymdeithasol yn nglyn a chrefydd; cydnabod hawl cyfartal pob dinesydd i fwynhau breintiau cyfartal mewn byd ac eglwys.

Yntau, Lloyd George, a aned o'r bobl hyn; bu byw fel hwythau; cafodd ei demtio yr un ffunud a hwythau; cydgyfranogodd o'u treialon; dyoddefodd eu holl anfanteision mewn addysg, mewn bywyd cymdeithasol, mewn gobaith enill swydd, mewn sarhad a dirmyg crefyddol, mewn pob peth. Pa ryfedd felly iddo ddadblygu mor foreu yn Ddadgysylltwr mor aiddgar, a bod gwleidyddiaeth a chrefydd wedi eu cydblethu yn anatodadwy yn ei feddwl a'i galon?

Pe y gelwid arno ef, neu unrhyw Ymneillduwyr egwyddorol arall, i ddeffinio ei safle ar y cwestiwn mawr o ryddid cydwybod, hyn a fyddai mewn byr eiriau:

"Nid oes gan y Wladwriaeth, fel y cyfryw, hawl of gwbl i ymyryd mewn modd yn y byd a golygiadau crefyddol neb pwy bynag, lle na bo'r golygiadau hyny yn golygu hefyd berygl i'r Wladwriaeth ei hun. Nid yw felly yn ddyledswydd ar y Wladwriaeth, ac nid oes ganddi hawl i ddysgu crefydd, nac i ddangos ffafr i unrhyw enwad fwy na'i gilydd, nac i waddoli un enwad na'r holl enwadau, llawer llai ynte i osod neb o dan unrhyw anfantais fel dinesydd am broffesu, neu am wrthod proffesu, o hono unrhyw gredo grefyddol pa fodd bynag."

Yn nglyn a'r uchod dylid yma egluro fod cyfundrefn ddysg Prydain, ac yn enwedig yn Nghymru, yn dwyshau teimlad Ymneillduwyr yn erbyn yr Eglwys. Ceir dau fath o ysgolion dyddiol, sef yr ysgol enwadol, ac ysgol y trethdalwr. Cyn y flwyddyn 1902 at yr olaf yn unig y telid treth leol, ond rhoddid grants y Llywodraeth at gynal y ddwy. Y trethdalwyr, drwy eu cynrychiolwyr etholedig a reolent un (Ysgol y Bwrdd y gelwid hi y pryd hwnw, am mai Bwrdd Ysgol a'i rheolai); yr enwad a berchenogai'r adeilad, yn unig a reolai y llall. Gwrthwynebai Ymneillduwyr egwyddorol fod arian y Llywodraeth, hyny yw, arian y cyhoedd drwy'r trethi Ymerodrol, yn myned i gynal ysgol unrhyw enwad. Yn 1902, gwnaed pethau yn waeth fyth, yn gymaint ag i'r Llywodraeth Doriaidd fanteisio ar "Etholiad Khaki" 1900 (yn yr hwn y'i cynorthwywyd gan yr Ymneillduwyr a gymeradwyent y Rhyfel yn Affrica) i basio Mesur Addysg a osodai ar y trethdalwyr yn mhob sir y cyfrifoldeb a'r ddyledswydd o gynal yr ysgolion enwadol, er mai yr enwad a gaffai eto yr hawl i benodi yr athrawon, ac i reoli yr ysgol. Gan mai Ysgolion yr Eglwys oedd mwyafrif ysgolion enwadol Cymru, golygai hyny fod Ymneillduwyr, o bob enwad, heblaw talu treth at gynal ysgol y trethdalwr (a elwid yn awr yn Ysgol y Cyngor, am mai y Cyngor Sir a'i rheolai), yn gorfod hefyd dalu treth at gynal ysgol yr Eglwys er na chaffai'r trethdalwyr reoli yr ysgol hono, ac er na chaffai neb ond Eglwyswyr ddal swydd fel athraw ynddi.

Gwelir felly fod cwestiwn yr Eglwys a chwestiwn yr Ysgol yn Nghymru yn anwahanadwy gysylltiedig a'u gilydd. Yr hwn a wrthwynebai dalu'r dreth eglwys gynt at adgyweirio muriau Eglwys y Plwyf, a wrthwynebai yn awr, ac am yr un rheswm, dalu treth at brynu dodrefn i Ysgol yr Eglwys. Y rhai a wrthodent gynt dalu degwm at gyflog offeiriad Eglwys Loegr am bregethu egwyddorion yr eglwys hono o'r pwlpud ar y Sul, a wrthodent yn awr dalu treth at gyflog athraw Eglwys Loegr, yr hwn a ddysgai egwyddorion yr eglwys hono i'r plant yn yr Ysgol ar hyd yr wythnos. Os gwrthdystiai dyn o argyhoeddiad yn erbyn gwaith y Wladwriaeth yn penodi gwr i fywoliaeth Eglwysig am ei fod yn pregethu credo yr Eglwys hono, gwrthdystiai yr un mor gadarn yn erbyn cau Ymneillduwr allan o'r swydd o athraw mewn ysgol a gynelid yn gyfangwbl gan arian y Wladwriaeth.

Mewn gair edrychid ar waith y Wladwriaeth yn sefydlu a gwaddoli crefydd, pa un bynag ai yn yr eglwys ai yn yr ysgol, neu hyd yn nod waith y Wladwriaeth yn cydnabod unrhyw enwad crefyddol mewn modd neillduol, yn drosedd a gormes ar gydwybod y sawl na pherthynent i'r enwad hwnw. Sylwer mai nid gwrthwynebu rhoi addysg grefyddol a wnai Ymneillduwyr Cymru, ond gwrthwynebu fod y Wladwriaeth yn ymgymeryd a chyfranu yr addysg grefyddol ei hun neu drwy weision a delid ganddi am wneyd hyny. Nid yw Ymneillduwyr Cymru yn gwrthwynebu gwaddoli crefydd; gellir, meddant, waddoli crefydd—ond nid gan y Wladwriaeth, mewn cyffelyb fodd ag y mae yn iawn i roi addysg grefyddol i'r plant ond nid ar draul y trethi. Mor bell ag y mae gwaddoliadau cenedlaethol, hyny yw, arian a roddwyd gynt at wasanaeth y genedl, yn y cwestiwn, daliant mai at amcanion cenedlaethol, ac nid at amcanion enwadol, y dylai'r arian hyny fyned. Mor bell ag y mae a fyno'r trethi, lleol neu ymerodrol, a'r cwestiwn, hawliant y rhaid eu defnyddio at amcanion y cyhoedd yn gyffredinol, ac o dan reolaeth gyflawn a dilyffethair y cyhoedd drwy eu cynrychiolwyr etholedig. Mor bell ag y mae a fyno penodi i swydd gan, neu o dan, y Wladwriaeth yn myned, daliant na ddylai'r ffaith fod dyn yn proffesu neu yn gwrthod proffesu, unrhyw gredo crefyddol o gwbl fod yn rheswm dros benodi, na gwrthod penodi, neb i'r cyfryw swydd.

Dyna yn syml grynodeb o ddaliadau Ymneillduwyr Cymru ar y cwestiwn o ryddid cydwybod. Gwelir eu bod yn seiliedig ar yr egwyddorion mawr hanfodol dros, ac o herwydd, y rhai y gadawodd y Tadau Pereriniol wlad eu genedigaeth yn agos i dri chan mlynedd yn ol, ac yr hwyliasant yn y Mayflower i draethau Lloegr Newydd. O'r planigyn egwan hwnw y tyfodd derwen fawr, gadarn, Unol Dalaethau yr America, o dan gangenau preiffion, llydan, yr hon y blagura ac y blodeua rhyddid cydwybod yn ddirwystr. I fynu Siarter cydwybod i Ymneillduwyr Cymru yr etholwyd Lloyd George i Senedd Prydain. Dros y siarter hwnw yr ymladdodd mor egniol yn Nhy'r Cyffredin ar hyd y blynyddoedd. Ni flinai byth ddwyn ar gof i'r Senedd mai lleiafrif bychan iawn o drigolion Cymru oedd deiliaid Eglwys Loegr yno, a bod urddasolion yr Eglwys hono nid yn unig heb feddu cydymdeimlad a dyheadau y genedl, ond yn gwneyd pob peth a fedrent i lethu y dyheadau hyny.

Pan ddadleuid y collai'r genedl ei chrefydd pe dadsefydlid yr Eglwys, atebai:

"Ni chyll y genedl byth mo'i chrefydd tra y ceidw ei pharch at bethau ysbrydol; ac os cyll cenedl ei dyddordeb mewn crefydd, ni bydd cadw cysylltiad swyddogol a chrefydd yn y ffurf o Eglwys Sefydledig trwy rym cyfraith, yn ddim amgen na rhagrith ffiaidd na thwyllir na Duw na dyn ganddo."

Siaradai yr un mor ddifloesgni ar gwestiwn y Gwaddoliadau. Pan gyhuddid ef, a Dadwaddolwyr eraill, eu bod yn "ysbeilio Duw" drwy gymeryd y gwaddoliadau oddi ar yr Eglwys, atebai, gan gyfeirio at y Diwygiad Protestanaidd yn Lloegr yn nyddiau Harri VIII., pan sefydlwyd Eglwys Loegr gyntaf ar seiliau hen Eglwys Rufain:

"Ysbeiliasant hwy (Eglwys Loegr) yr Eglwys Babaidd; ysbeiliasant y mynachlogydd; ysbeiliasant yr allorau; ysbeiliasant yr elusendai; ysbeiliasant y tlodion; ysbeiliasant y meirw. Yna deuant yma, pan fo'm ni yn ceisio cael rhan o'r ysbail hwn yn ol i'r tlodion at wasanaeth y rhai y'i rhoddwyd ar y cychwyn, a beiddiant ein cyhuddo ni o ysbeilio Duw, tra mae eu dwylaw hwynt eu hunain yn dyferu gan frasder cysegr—ysbeiliad!"

Er mwyn sicrhau Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru y gwrthryfelodd yn erbyn gweinyddiaeth Gladstone a Rosebery, ac y cododd ei sawdl yn erbyn ei hen gyfaill Tom Ellis. Er mwyn rhyddhau yr Ysgol o awdurdod yr offeiriad y trefnodd wrthryfel yn erbyn y Llywodraeth, y cydfradwrodd a holl awdurdodau lleol Cymru i wneyd y gwrthryfel yn un cenedlaethol Cymreig, ac y casglodd drysorfa rhyfel i gario'r gwrthryfel yn mlaen.

Ni ellir yn deg gyhuddo dyn a wnaeth hyn, o fod yn ddifater ar gwestiwn rhyddid cydwybod. Ac eto mor gyflym y rhed ffrydiau bywyd, mor gyfnewidiol yw ei ragolygon, fel y darfu i fethiant Lloyd George, wedi myned o hono ef ei hun yn Aelod o'r Cabinet, i gyflawnu yr addewidion a wnaeth ef ei hun cyn ei fyned yno, ac ymrwymiadau mynych y Blaid Ryddfrydol, a'r Llywodraeth o'r hon y mae yn aelod, yn mron colli iddo ymddiriedaeth y bobl a aberthasant gymaint drosto ac er ei fwyn, a'u gyru hyd at fin bygwth peidio ei gefnogi o hyny allan. Adgofient y ffaith y gallent fod wedi cael Dadgysylltiad 30 mlynedd yn ol pe bae Ymneillduwyr Cymru yn barod i werthu eu hegwyddorion, canys pan yr aeth yn rhwyg rhwng Gladstone a Chamberlain ar gwestiwn Ymreolaeth i'r Werddon yn 1885, daeth Chamberlain ei hun i Gymru gan addaw dadgysylltu a dadwaddoli yr Eglwys yn Nghymru os cefnogai aelodau Cymru ef mewn gwrthwynebu Gladstone ar gwestiwn y Werddon. Yr oedd Chamberlain, y pryd hwnw, yn ddiameu yn ddigon gonest yn cynyg, ac yn ddigon galluog i gyflawnu yr addewid pan ddaeth y Toriaid i awdurdod. Ond gwrthod y fargen a wnaeth Cymru, gan barhau i roi llaw o help i'r Werddon ar draul colli y cyfle i gael y mesur a chwenychai hi ei hun gael.

Dangoswyd eisoes (Penod V.) fod Lloyd George wedi gwrthryfela yn erbyn Rosebery am oedi o hwnw basio Mesur Dadgysylltiad. O'r dydd hwnw hyd y dydd yr aeth ef ei hun yn Aelod o'r Cabinet, ni pheidiodd Lloyd George nos na dydd i wthio Dadgysylltiad i'r ffrynt. "Oh!" llefai Hugh Price Hughes unwaith, "Paham na byddai Duw mewn mwy o frys!" Tueddai Lloyd George i waeddi yr un peth am Fesur Dadgysylltiad a gwnaeth bob peth ar a fedrai dyn byth ei wneyd i brysuro gwaith Duw gyda'r Mesur. Ond o fewn y naw mlynedd er pan aeth efe i'r Cabinet, mae ei hen gyfeillion wedi danod iddo dro ar ol tro ei hen olygiadau ar ddyledswydd Llywodraeth Ryddfrydol, ei hen fygythion aneirif am fod Gladstone a Rosebery yn anwybyddu Cymru, ei hen ymosodiadau llym ar Chamberlain a'r Llywodraeth Doriaidd am dori o honynt hwy eu haddewidion i'r wlad. Dygwyd yr holl bethau hyn yn ol yn awr i'w erbyn. "Mae'r Cymry yn drwgdybio'r Llywodraeth," ebe Lloyd George pan oedd y Cymro pur Tom Ellis yn Brif Chwip i'r Llywodraeth; ond pan ddrwgdybiodd yr un bobl, gyda mwy o achos, y Weinyddiaeth o'r hon yr oedd efe yn aelod, ffromodd yn aruthr. Gwrthryfelodd ef yn erbyn Cabinet Rosebery am dori o hwnw addewid a roddwyd i Gymru gan Gyngrair Cenedlaethol Rhyddfrydol Lloegr; ond nid oedd enw digon brwnt na gair digon cas ganddo i'w defnyddio at y sawl a anogent Ymneillduwyr Cymru i wrthryfela yn erbyn Cabinet Campbell Bannerman, er tori o hwnw eilwaith a thrachefn ei addewid ef am leoliad yr un Mesur.

Pan feiddiodd Mr. Ellis Jones Griffith, yr aelod dros Sir Fon, ameu gwaith Cabinet Campbell Bannerman yn gwthio cwestiynau eraill o flaen Dadgysylltiad bygythiodd Lloyd George osod ei gydaelod yn y "guard-room" i'w gosbi am anufudd-dod; pan wrthdystiodd cyfundebau crefyddol Cymru yn erbyn y bygythiad hwn o'i eiddo, cyhuddodd hwynt o "gamddarlunio yn faleisus," gan eu ceryddu yn llym "am feiddio cyfarwyddo'r Cabinet am yr amser a'r modd "iddo ymosod ar y gelyn." Rhoddodd gerydd hyd yn nod i Gadeirydd yr Aelodau Cymreig am feiddio o hwnw ddweyd "na all yr Aelodau Cymreig barhau i gefnogi'r Llywodraeth os na roddir lle amlwg i Fesur Dadgysylltiad, a'i ddwyn i mewn yn fuan." A rhoddodd yr holl sen hyn ar y bobl a ddysgwyd ganddo ef ei hun i wrthryfela, a'r holl gerydd hyn am droseddau llawer llai yn erbyn y Cabinet na'r rhai y bu ef ei hun yn euog o'u cyflawnu.

Ond rhaid priodoli hyn oll i'r ffaith fod ei safbwynt o edrych ar bethau wedi newid. Yr hyn y methodd ei gefnogwyr yn y wlad, ei gyd-aelodau yn y Ty, ac o bosibl yntau ei hun hefyd, o leiaf am dymor ei sylweddoli, oedd y ffaith fod ei fynediad ef i'r Cabinet o angenrheidrwydd yn newid natur ei hen gysylltiad a'r Dywysogaeth, ac o angenrheidrwydd yn newid hefyd y safbwynt oddiar yr hwn yr edrychai efe ar bethau. Ni allai unrhyw gwestiwn Cymreig, ddim hyd yn nod Dadgysylltiad, ymddangos yn hollol yn yr un goleu i aelod o'r Cabinet ag ydoedd i aelod Cymreig o'r tu allan i'r Cabinet. Canys nid fel yr edrych dyn o Gymro yr edrych Aelod o'r Cabinet ar bethau. Dyrchafodd Lloyd George i enwogrwydd fel arweinydd Cymreig. Gwir na bu erioed yn gadeirydd yr Aelodau Cymreig, eto i gyd yn y blynyddoedd cyn myned o hono i'r Cabinet, cariai fwy o ddylanwad ar aelodau Cymru nag a wnai neb arall. Dros bolisi milwriaethus yr oedd ei holl ddadl pan oedd y Toriaid yn dal awenau'r Llywodraeth; ond pan syrthiodd yr awenau i ddwylaw'r Rhyddfrydwyr, ac yntau yn y Cabinet yn eu dal, defnyddiodd ei holl ddylanwad i gadw'r aelodau Cymreig yn dawel. Dangosodd ei hen gyfaill D. A. Thomas gnewyllyn y peth pan ddywedodd y byddai mor anmhosibl i Lloyd George barhau yn arweinydd Cymreig wedi myned o hono i'r Cabinet, ag a fuasai i Parnell fod yn Gadeirydd y Blaid Wyddelig ac ar yr un pryd yn Ysgrifenydd y Werddon yn y Cabinet. Gwrthodai Lloyd George gydnabod hyn; ac i hyn, a hyn yn unig, y rhaid priodoli y pellhad graddol a gymerodd le rhyngddo a rhai o'i hen gyfeillion goreu pan, wedi myned o hono i'r Cabinet, y mynent hwy barhau i wthio Dadgysylltiad i'r ffrynt, ac y mynai yntau, er yn Aelod o'r Cabinet, fynychu cyfarfodydd preifat yr Aelodau Cymreig a cheisio dylanwadu yno arnynt i beidio blino'r Cabinet.

Er o bosibl yn anymwybodol iddo ef ei hun, dechreuodd Dadgysylltiad gilio yn ol yn ei feddwl ef o'r safle blaenllaw a arferai ei ddal. Dechreuodd y cyfnewidiad hwn, yn wir, cyn myned o hono i'r Cabinet. Yn 1904, dysgai drwy'r wasg fod Ymreolaeth i Gymru yn bwysicach ar hyny o bryd na hyd yn nod Dadgysylltiad. Yn 1905, digiodd wrth Gadeirydd yr Aelodau Cymreig, Syr Alfred Thomas (Arglwydd Pontypridd yn awr) am i hwnw ddweyd y dylai Dadgysylltiad gael y flaenoriaeth hyd yn nod ar y Mesur Gwella Deddf Addysg 1902, a dileu Deddf Gorfodaeth Cymru a basiwyd yn 1904. Ond er hyny wele Fesur Dadgysylltiad wedi cael ei basio, tra'r ddau Fesur arall, y mynai ef eu gwella neu eu dileu cyn pasio Dadgysylltiad, yn aros o hyd mewn grym heb eu newid, ac yn arfau peryglus yn llaw Cabinet Toriaidd pan ddaw hwnw eto i awdurdod. Yn 1906 rhybuddiai ei gyfeillion yn Nghymru i beidio gwthio Dadgysylltiad o flaen mesurau cymdeithasol. Yn 1907 daliodd y rhaid yn gyntaf benrwymo Ty'r Arglwyddi, a'i osod mewn cadwyni haiarn cyn ceisio o ddifrif basio Dadgysylltiad na dim arall. Ac eto, rai blynyddoedd cyn hyny (1896) gwrthodai gydsynio ag Arglwydd Rosebery pan ddywedodd hwnw mai Ty'r Arglwyddi oedd "y llew a safai ar lwybr Deddfwriaeth Ryddfrydol."

Ond er fod ei hen gyfeillion yn y wlad yn tueddu. yn gryf i'w feirniadu yn llym, ac yn parhau i rodio llwybr gwrthryfel fel y dysgodd ef hwynt gynt i wneyd, nid felly corff ei gydaelodau Cymreig yn y Senedd. Deuai y rhai hyn i gyffyrddiad beunyddiol ag ef, o dan swyn ei gwmni a dylanwad ei eiriau a'i safle. Rhwyddach oedd iddo ef berswadio yr aelodau Cymreig yn y Senedd i beidio blino'r Cabinet nag ydoedd. iddo osod mwgwd ar eneuau ei hen ddysgyblion o'r tu allan i'r Senedd. Pan ganfu y rhai hyn mai cilio pellach yn ol, a myned is-is ar raglen deddfwriaeth y Cabinet yr oedd Mesur Cymru, dechreuasant aflonyddu. Danfonwyd dirprwyaeth ar ol dirprwyaeth at yr Aelodau Cymreig. Yn cael eu symbylu felly i wneuthur rhywbeth, aethant hwythau at y Cabinet a'u cwynion, ond llonyddwyd a thawelwyd hwynt fel pe baent blant crintachlyd. Gan fod yn ufudd i ddysgyblaeth Lloyd George, annghofiodd yr aelodau Cymreig y gwersi a ddysgodd efe gynt iddynt hwy ac i'w hetholwyr, sef fod deddfwriaeth yn gyffelyb i deyrnas nefoedd yn gymaint ag mai treiswyr sydd yn ei chipio hi. Gwyddai ef, er na sylweddolasant hwy, fod dylanwad Aelodau Seneddol ar y Weinyddiaeth i'w fesur yn ol mesur yr hyn y mae yr aelodau hyny yn barod i wneyd er mwyn mynu cael yr hyn a ofynai yr etholwyr. Gwnaeth iddynt hwy, ac o bosibl iddo ef ei hun, gredu mai yr un oedd Lloyd George mewn swydd uchel yn y Cabinet yn 1907, a Lloyd George y gwrthryfelwr yn 1894, a Lloyd George y penaeth ymbleidwyr a ymladdai yn erbyn y Llywodraeth yn 1900. Heb farnu dim am y dylanwadau o dan y rhai y gweithredai yr Aelodau Cymreig, digon yw dweyd eu bod yn ymddiried mwy i bresenoldeb Lloyd George a Mr. McKenna yn y Cabinet, a Mr. Herbert Lewis a Mr. Wm. Jones yn y Weinyddiaeth, er y tu allan i'r Cabinet, nag a wnaent ynddynt hwy eu hunain a'u gallu i orfodi'r Cabinet i gadw eu gair ac i gyflawnu eu haddewid i Gymru.

Gellir cymeryd golwg arall ar y safle heb wneyd cam a'r Aelodau Cymreig nac a Mr. Lloyd George. Fel aelod o'r Cabinet nid gweddus nac anrhydeddus iddo ef a fuasai myned i gyfarfod o'r Aelodau Cymreig i'w cymell i wrthryfela yn erbyn y Cabinet, o'r hwn yr oedd ef yn aelod. O deyrngarwch camsyniol tuag ato ef bu yr Aelodau Cymreig yn dawel a thawedog, pan ddylasent fod yn effro ac yn cynyrfu. Y camwri mwyaf a fedrent wneyd a Lloyd George oedd bod yn ddystaw yn nghylch hawliau Cymru. Athrod ar Lloyd George yw tybied na ddarfu iddo ef son am achos Cymru yn y Cabinet. Ond pe y gwasgai ef yn y Cabinet am i Fesur Dadgysylltiad ddod yn mlaen yn ddioed, buasai gan y Prif Weinidog ac Aelodau eraill y Cabinet ateb parod a digonol. Gallasent ddweyd: "Gyda phob parch i'ch barn bersonol chwi, Mr. Lloyd George, nid oes yr un prawf o'n blaen ni fod Cymru yn gwasgu llawer am hyn yn awr. Pe amgen buasai yr Aelodau Cymreig yn aflonyddu, ac yn ein blino, fel yr arferech chwi wneyd; ond nid ydynt. Felly, gadawn y mater am ychydig yn rhagor."

Yn hyn y gwahaniaethai'r Aelodau Cymreig oddiwrth Lloyd George; pobl "swil" iawn oeddent, heb lawer iawn o hunanymddiried. Ni chafodd neb le i gyhuddo Lloyd George erioed o un o'r ddau bechod hyn. Ni phallodd ffydd Lloyd George ynddo ei hun erioed. Petae ef yn eistedd yn nghadair y Pab o Rufain buasai wedi gorfodi pob Pabydd drwy'r byd i broffesu ffydd yn anffaeledigrwydd y Pab, neu i chwilio am le mewn rhyw eglwys arall!

Hoff ydoedd Lloyd George o adgofio dywediad Napoleon Bonaparte gynt. Wedi goresgyn o hono yr Eidal, dywedodd Napoleon:

"Er fod ugain miliwn o bobl yn yr Eidal, ni chyfarfyddais ond a dau ddyn yno erioed."

Awgrymai felly mai eiddilod, ac nid dynion teilwng o'r enw, oedd y gweddill oll. Ni chyfarfyddodd Lloyd George yn holl gwrs ei fywyd gwleidyddol ond ag ychydig o "ddynion" yn ystyr Napoleon o'r gair. Yn mhlith ei gydaelodau Seneddol cyfarfyddodd ag o leiaf ddau "ddyn" a safent i fyny i baffio ag ef bryd y mynai—Mr. Bryn Roberts yn y Gogledd, a Mr. D. A. Thomas yn y De. Ond nid oedd un o'r ddau yn aelod. o'r Senedd pan oedd Lloyd George yn y Cabinet. Ond pan gyfarfyddai Lloyd George a "dyn" yn yr ystyr Napoleonaidd, byddai ffrwgwd yn debyg o ganlyn. Ar un achlysur dywedodd:

"Yr wyf yn cyfarfod a dynion Hugh Price Hughes yn mhob man."

Golygai wrth hyny fod y Wesley enwog wedi gadael ei argraff yn ddofn ar ambell un yn y wlad. Yn awr, er nad oedd yr un "Lloyd George" yn mhlith yr Aelodau Cymreig wedi iddo ef fyned i'r Cabinet, cafodd fod aml un o "ddynion Lloyd George" yn aros yn y wlad, er na wyddai ddim mwy am danynt nag a wyddai Elias gynt am y saith mil na phlygasant eu gliniau i Baal. A rhoddodd y rhai hyn drafferth; ni fedrent hwy annghofio y gwersi a ddysgodd efe iddynt gynt. Yr oedd yn eu plith rai na fynent weled gwahaniaeth rhwng Gweinyddiaeth Ryddfrydol o dan Rosebery ag un o dan Campbell Bannerman, na llawer iawn o wahaniaeth rhwng Tom Ellis fel Prif Chwip un Cabinet a Lloyd George fel Aelod o'r llall. Ac os oedd yn iawn i Lloyd George wrthryfela yn erbyn y cyntaf, nis gallai fod yn bechod iddynt hwythau wrthryfela yn erbyn yr ail.

Ac o hyn y cododd helynt. Bygythiai yr enwadau mawr yn Nghymru ymwrthod a'i arweinyddiaeth ef os na cheid Mesur Dadgysylltiad yn ddioed. Undeb Annibynwyr Cymru oedd y cyntaf i seinio yr udgorn, ac ni roddodd sain anhynod. Gan wybod beth oedd yn eu bwriad i wneyd, danfonodd Mr. Lloyd George ddau lysgenad dylanwadol i ymbil arnynt ymbwyllo. Daeth y Parch. Elfed Lewis, a'r (diweddar) Barch. Machreth Rees i'r Undeb, a llythyr personol oddiwrth Lloyd George yn rhoi addewid newydd ar ran y Llywodraeth, ac yn eu hanog i weithredu ffydd yn y Cabinet yr oedd ef yn aelod o hono. Er hyn i gyd, amlygodd y Gynadledd fawr hono benderfyniad di-ildio; gwrthododd gymeryd ei throi oddiar ei llwybr gan genadwri Lloyd George. Ffurfiwyd yno y dwthwn hwnw "Gyngrair Ymneillduwyr Cymru," unig amcan bodolaeth yr hwn oedd mynu gweled pasio Mesur Dadgysylltiad i Gymru.

Amlygodd yr enwadau eraill, Cymdeithasfa'r Methodistiaid Calfinaidd, Undeb Bedyddwyr Cymru, a Synod y Wesleyaid Cymreig, un ac oll eu parodrwydd i ymuno a'r Cyngrair newydd. Trefnodd y Cyngrair i gynal yn Nghaerdydd y gynadledd Genedlaethol fwyaf, a mwyaf cynrychioliadol, a welwyd erioed yn Nghymru. Cafodd y mudiad yn ddioed effaith mawr ar arweinwyr Rhyddfrydiaeth Lloegr. Ysgrifenodd Dr. Roberston Nicoll fel a ganlyn yn y "British Weekly":

"Mae Cymru wedi dadweinio'r cledd er enill rhyddid crefyddol. Gwnaeth Cymru ei meddwl i fyny nad yw achos Dadgysylltiad yn ddyogel yn nwylaw'r Weinyddiaeth hon. A oes gymaint ag un Cymro yn credu y bydd i'r Llywodraeth bresenol basio Mesur dadgysylltiad?"

Ceisiodd Mr. Lloyd George ar y cyntaf anwybyddu, yna dirmygu, y Gynadledd. Cyhoeddodd yn mhapyrau. Llundain mai myfi oedd gwreiddyn yr holl ddrwg, ac mai myfi yn unig oedd yn cyffroi y wlad ac yn trefnu'r gynadledd. Nis gallai dalu teyrnged uwch o barch i ddylanwad personol neb na hyn, canys daeth dros ddwy fil (2,000) o ddynion blaenaf pob enwad yn Nghymru i'r Gynadledd, a hwynt hwy oll wedi cael eu hethol gan yr eglwysi a'r cyfundebau. 'Rwy'n ofni, er hyny, y rhaid i mi ymwadu a'r clod uchel y mynai Lloyd George dalu i mi. Nid wyf yn credu y medrai efe ei hun, chwaethach gwr gwylaidd fel myfi, wneyd i ddwy fil o oreugwyr Cymru adael pob un ei faes a phob un ei fasnach am dridiau i deithio o Gaergybi i Gaerdydd, oni bae fod y wlad yn berwi gan deimlad chwerw. Cyn i ddydd y Gynadledd wawrio, newidiodd Mr. Lloyd George ei farn am dani. Mynodd gael ei ethol yn gynrychiolydd i'r Gynadledd modd y byddai ganddo hawl i siarad ynddi. Y noson o flaen y Gynadledd, ac ar ei gais ef ei hun, cynaliwyd cyfarfod o Bwyllgor y Cyngrair Annghydffurfiol, i'r hwn y daeth ef a'i gyfaill, Mr. Herbert Lewis. Ar ol ymdrin a'r mater, a siarad yn blaen ond yn gyfeillgar a'n gilydd, tynais allan mewn ysgrifen ar gais Mr. Lloyd George, yr ymrwymiad pendant a ganlyn, yr hwn a roddai ef fel Aelod o'r Cabinet, ar ran y Llywodraeth:

SYR HENRY DALZIEL MR HERBERT LEWIS A MR LLOYD GEORGE
YN BUENOS AIRES

"Dygir Mesur Dadgysylltiad i mewn i Dy'r Cyffredin gan y Llywodraeth, a sicrheir ei basio drwy'r Ty hwnw yn y pedwerydd Senedd-dymor (h. y. 1909) o'r Senedd bresenol, os na bydd y Senedd-dymor hwnw yn cael ei gymeryd i fyny yn llwyr gan y frwydr rhwng Ty'r Arglwyddi a'r Bobl, neu gan Ddeddfwriaeth yn ymwneyd a Chyfraith yr Etholiadau."

Dranoeth, yn y Gynadledd Fawr, siaradodd Mr. Lloyd George, a chadarnhaodd y Gynadledd y cytundeb uchod a wnaed rhwng Mr. Lloyd George ar ran y Cabinet, a'r Pwyllgor ar ran y Gynadledd. Atebodd y Gynadledd felly yr amcan oedd iddi, er na chyflawnwyd yr ymrwymiad pendant hwn hyd gyfnod diweddarach ac mewn Senedd newydd.

Bydd Mr. Lloyd George ar adegau yn fyrbwyll. Bu felly pan fynodd gael dirprwyaeth eglwysig i holi i mewn i faterion yn nglyn a Dadgysylltiad, a thrachefn pan benododd y Barnwr Vaughan Williams yn Gadeirydd i'r Ddirprwyaeth. Oedodd hyny Fesur Dadgysylltiad am rai blynyddoedd.

Gwnaeth gamgymeriad mwy fyth pan, ar ol i Fesur Dadgysylltiad gael ei basio gan y Senedd, y cefnogodd efe ymgais i basio y "Mesur Oedi" a achosodd gymaint cynwrf. Mesur oedd hwn i oedi dwyn Dadgysylltiad i weithrediad, a'r drwg oedd i'r Llywodraeth ei ddwyn. i mewn heb ymgyngori o gwbl a'r Aelodau Cymreig. Cododd y wlad megys un gwr i wrthdystio. Cymerodd yr Aelodau Cymreig galon, a rhoddasant ar ddeall i'r Cabinet y gwrthryfelent yn gyhoeddus yn Nhy'r Cyffredin. Ymwelodd Mr. Lloyd George, a dau aelod arall o'r Cabinet, yn nghyd a Mr. Herbert Lewis a Mr. William Jones, oeddent yn y Weinyddiaeth ond heb fod yn y Cabinet, a'r Aelodau Cymreig i geisio eu darbwyllo i ganiatau i'r Mesur Oedi gael ei basio. Ond safodd yr Aelodau Cymreig yn gadarn, gan ddal y byddai pasio'r Mesur Oedi yn fracychiad digywilydd o achos Cymru gan y Llywodraeth o'r hon yr oedd Mr. Lloyd George yn aelod. Chwerwodd yntau, gan lefaru geiriau celyd yn erbyn gweinidogion mwyaf poblogaidd a dylanwadol Cymru, a'u galw yn "ddynion bach mewn lleoedd mawr." Cyhuddodd hefyd ei gydaelodau Cymreig ar lawr y Ty eu bod yn ymddwyn yn "fychan a gwael" yn y mater. Cynaliwyd cynadleddau mawr yn Rhyl i Ogledd Cymru, ac yn Nghaerdydd i'r De, i gynal breichiau yr Aelodau Cymreig yn y frwydr yn erbyn Lloyd George a'r Llywodraeth. Dywedwyd geiriau celyd am dano ef a'r Cabinet gan y dynion i'r rhai yr oedd ef yn ddyledus am ei sedd a'r Cabinet am eu swydd.

Profwyd unwaith yn rhagor mai "trech gwlad nag Arglwydd," hyd yn nod nag Arglwydd fel Lloyd George o ddewisiad y wlad ei hun. Yn ngwyneb yr ystorm yn y wlad a gwrthwynebiad annghymodlawn yr Aelodau Cymreig, dropiodd y Llywodraeth y Mesur Oedi, a sicrhawyd Mesur Dadgysylltiad ar ddeddflyfrau Prydain. Dyma yn ddiameu y fuddugoliaeth. fwyaf nodedig a enillwyd erioed gan yr Aelodau Cymreig yn y Senedd. Tra ragorai mewn maint a phwysigrwydd ar fuddugoliaeth Lloyd George ei hun ar Weinyddiaeth Rosebery yn 1894.

Erys y ffaith fawr hanfodol, fod Cymru ar ol haner canrif o frwydro, o'r diwedd wedi mynu sefydlu cydraddoldeb crefyddol o fewn ei therfynau. Er i genedlaethau a aberthasant yn mron pob peth a feddent er mwyn enill rhyddid cydwybod, fyned i'w beddau heb weled cyflawnu eu gobaith, ac er "wedi cael tystiolaeth trwy ffydd ni dderbyniasant yr addewid;" eto nid aeth eu llafur a'u haberth yn ofer, na'u gweddiau yn ddieffaith. Mae Cymru heddyw yn parotoi balm i wella'r archollion a'r clwyfau a gafwyd gan y ddwy blaid yn y frwydr hirfaith hon, gan obeithio gweled yn fuan Gymru gyfan mewn ystyr llawnach o'r gair nag a welwyd er dyddiau Llewelyn Fawr.

Brwydr yr Ysgol oedd y rhan arall o'r ymdrech fawr dros ryddid cydwybod. Edrychai Mr. Lloyd George ar Frwydr yr Ysgol fel rhan hanfodol o Frwydr Dadgysylltiad, a phob un o'r ddwy yn ddyledswydd genedlaethol ac yn hanfodol tuag at orfodi y cenedloedd Prydeinig eraill i gydnabod gwahanfodaeth, ac i barchu urddas cenedlaethol y Cymry. Mewn cynad- ledd fawr yn Nghaerdydd yn 1904, ar ganol brwydr fawr yr Ysgol yn Nghymru, ebe fe:

"Yr ydym ni yn Nghymru yn ymladd am gydraddoldeb crefyddol. Ymgymerodd cenedl y Cymry a'r frwydr hon, nid fel unigolion, nac fel aelodau o unrhyw blaid, nac hyd yn nod fel aelodau o'r Eglwysi Rhydd, eithr fel cenedl. Daeth Cymru allan i'r frwydr hon ar ran yr achos mwyaf cysegredig a ymddiriedwyd erioed i unrhyw genedl-Achos Mawr Rhyddid Cydwybod."

Yn 1902 y pasiwyd Deddf Addysg Balfour-rhan o'r pris uchel y gorfu i Ymneillduwyr dalu am gefnogi o honynt y Llywodraeth Doriaidd yn "Etholiad Khaki" 1900. Y Ddeddf hono achubodd Ysgolion Eglwys Loegr yn Nghymru rhag cael eu llwyr ddifodi. Yr oedd Ysgolion y Bwrdd yn lledu yn gyflym drwy yr holl Dywysogaeth, ac Ysgolion yr Eglwys yn marw o un i un o ddiffyg arian i'w galluogi i gystadlu ag Ysgolion y Trethdalwyr. Cyfryngodd y Llywodraeth Doriaidd i'w cadw yn fyw, ac i'w gosod ar sylfaen gadarnach nag erioed, drwy y Mesur Addysg hwn. Gosodwyd ar y trethdalwyr yn mhob sir, drwy y Cyngor Sir, y rheidrwydd o gadw a chynal pob ysgol enwadol yn ogystal ag ysgolion y trethdalwyr. Parhaodd ysgol y trethdalwyr dan reolaeth y trethdalwyr, parhaodd yr ysgolion enwadol fel gynt dan lywodraeth yr enwadau, er y caniatawyd i'r trethdalwyr benodi lleiafrif o reolwyr y cyfryw; arosai yr awdurdod felly, a'r hawl i benodi athrawon, ac i gyfranu addysg enwadol, yn ymarferol fel o'r blaen, yn nwylaw yr offeiriad. Yr unig wahaniaeth a wnaed oedd gorfodi'r trethdalwyr i gynal yr ysgolion enwadol. Fel y dywedodd Lloyd George wrth symio'r Mesur i fyny:

"Yr offeiriad sydd i benodi yr athrawon. Y trethdalwyr sydd yn gorfod eu talu."

A'r athraw, a benodid gan yr offeiriad, ond a delid gan y trethdalwyr, a roddai addysg grefyddol yn Nghredo ei Eglwys ei hun i blant y trethdalwyr bob dydd o'r wythnos. Dysgai'r athraw yn ysgol yr Eglwys egwyddorion Eglwys Loegr; dysgai'r athraw yn ysgol y Pabyddion egwyddorion Eglwys Rufain; gwnai y cyntaf hyn o dan gyfarwyddyd offeiriad y plwyf, a'r ail o dan gyfarwyddyd yr offeiriad Pabaidd; talai'r trethdalwyr y ddau. Gwelir felly fod yma dreth gyhoeddus at gynal Eglwys Loegr ac Eglwys Rufain RHYDDID CYDWYBOD yn cael ei gosod ar y wlad, ac Ymneillduwyr Protestan- aidd Cymru yn gorfod ei thalu. Ar yr un adeg gosod- odd y Llywodraeth dreth newydd ar yr yd. Cysylltodd Mr. Lloyd George y ddwy dreth mewn un frawddeg ddesgrifiadol:

"Bara drud-Catecism rhad!"

Cyffrowyd holl Ymneillduaeth y deyrnas. Yn Lloegr gwrthododd llu o Ymneillduwyr dalu'r dreth. Arweiniwyd hwynt gan yr henafgwr Dr. Clifford, a gweinidogion bydenwog eraill. Atafaelwyd eu dodrefn o'u tai; cynaliwyd arwerthiantau ar eu heiddo; taflwyd canoedd i garchar, a'r oll am wrthod o honynt fel Ymneillduwyr cydwybodol, dalu treth at ddysgu egwyddorion crefyddol nas gallent hwy eu derbyn.

O dan arweiniad ac ysbrydoliad Lloyd George, gwnaeth Cymru yn wahanol, gan osod y Cyngorau Sir i ymladd y frwydr dros egwyddor, yn lle gyru personau unigol i wrthdarawiad a'r awdurdodau gwladol. Gwnaeth ei "Apel at Gymru" gyntaf ar y ffurf o Ragymadrodd i'm Llawlyfr i ar Ddeddf Addysg 1902. Yn y Rhagymadrodd hwnw, rhoddodd fanylion pa fodd y gallai Cyngorau Sir Cymru gadw llythyren y gyfraith tra yn ymwrthod yn llwyr a'i hysbryd, ac y gallent wrthod codi dimai o dreth ar neb at gynal yr Ysgolion Enwadol. Tuag at sicrhau hyn rhaid oedd yn gyntaf sicrhau mwyafrif effeithiol o Genedlaetholwyr Cymreig ar bob Cyngor Sir drwy'r Dywysogaeth. Trefnwyd holl alluoedd cenedlaethol ac Ymneillduol Cymru o Gaergybi i Gaerdydd erbyn dydd yr etholiad. Yn mhob plwyf drwy'r wlad, gofynid i bob ymgeisydd am sedd ar y Cyngor Sir, rwymo ei hun i'r tri pheth a ganlyn:

I. I fynu cael yr holl hawl i'r cyhoedd i lywodraethu pob Ysgol a gynelid ag arian y cyhoedd

2. I ddileu pob prawflwon crefyddol yn nglyn a phenodiad athrawon.

3. I wrthod pleidleisio ceiniog o arian y trethdalwyr i gynal unrhyw ysgol enwadol.

Pan ddaeth dydd yr etholiad cariodd polisi newydd Lloyd George y dydd. Cafwyd mwyafrif mawr o Genedlaetholwyr, digon o fwyafrif yn mhob sir ond un, a mwyafrif gorlethol mewn llawer o honynt. Fel y dywedodd Lloyd George pan ddaeth y ffigyrau allan:

"A'r Philistiaid, yr offeiriaid, a darawyd glin a borddwyd, o Dan hyd Beerseba!"

Naturiol oedd iddo ymffrostio, canys ni bu buddugoliaeth genedlaethol tebyg i hon erioed o'r blaen. Gwnaeth yr etholiad hwn Gymru oedd gynt yn wahanedig, yn Gymru gyfan mewn gwirionedd.

Gan weled o hono ddydd tranc ysgolion yr Eglwys yn agoshau, ceisiodd Dr. Edwards, Esgob Llanelwy, gytuno a'i wrthwynebwr ar frys. Bu ymdrafodaeth faith rhwng yr Esgob (yr hwn sydd un o'r dynion. mwyaf hirben a galluog a fagodd Eglwys Loegr erioed yn Nghymru), a Mr. Lloyd George, gyda'r amcan o geisio dod i gyd-ddealldwriaeth. Adwaenir y cytundeb y boddlonodd Lloyd George iddo fel "Concordat Llanelwy." Hanfod y cytundeb oedd.

1. Fod y cyhoedd i gael hawl i lywodraethu ysgolion yr Eglwys, ac i benodi yr athrawon.

2. Fod yr Eglwys ei hun i drefnu am roi'r addysg grefyddol, ac i ddwyn y draul o hyny.

3. Fod y trethdalwyr i ddwyn traul yr addysg fydol yn unig—ond fod yr ysgoldai yn parhau yn eiddo yr Eglwys.

Dyna'r adeg y dechreuodd dylynwyr ffyddlonaf Lloyd George ei ddrwgdybio. Cyfrifa llawer fod ei ddirywiad wedi dechreu gyda'r gyfathrach rhyngddo ag Esgob cyfrwys Llanelwy. Mewn cyffelyb fodd drwgdybiai'r offeiriaid fod yr Esgob mewn perygl o gael ei ddal yn rhwyd Lloyd George. Llwyddodd Lloyd George i gael gan ei ganlynwyr ef dderbyn y telerau. Gwrthododd yr offeiriaid roi i fyny yr hawl i benodi'r athrawon; a mynent wneyd aelodaeth yn Eglwys Loegr yn amod pendant penodiad pob athraw. Felly syrthiodd yr ymgais at heddwch i'r llawr; ond erys yr Esgob a Mr. Lloyd George, yn gyfeillion mynwesol hyd y dydd hwn. Gwregysodd Lloyd George ei lwynau bellach i'r frwydr. Mewn Cynadledd fawr yn Nghaerdydd dywedodd:

"Gweinyddwn bob peth da sydd yn y Ddeddf, yn ol llythyren y Ddeddf, ac heb drugaredd. Gallwn ei gweinyddu yn y fath fodd ag i sicrhau gradd o lywodraeth dros yr ysgolion enwadol. Cymeradwyir i'r Cyngorau Sir wneyd felly—gweinyddu y gyfraith, cadw o fewn llythyren y gyfraith, ond heb roi ceiniog o arian y trethdalwyr at gynal ysgol sy'n gwrthod roi hawl i'r cyhoedd i'w llywodraeth, ac sydd yn mynu arosod prawflwon enwadol ar yr athrawon. Rhoddwn i'r offeiriaid yr hyn a hawlia'r ddeddf; cant eu 'pound of flesh'—ond dim ond hyny. Dyna'r modd yr ymddygwn at y Shylocks Eglwysig hyn. Ond ca oesoedd a ddel farnu yr hyn a wnaeth Cymru. A phan bo'r frwydr drosodd, a buddugoliaeth wedi ei henill, bydd gan Gymru y boddhad o wybod ei bod hi wedi sefyll ar flaen y fyddin a enillodd i barhau oesau'r ddaear yn y cyfansoddiad Prydeinig, yr egwyddor fawr na cha neb ddyoddef unrhyw anfantais am ddal o hono unrhyw gredo o gydwybod mewn materion a berthynant i'w enaid ef ei hun.'

Dyna eiriau dewr, aruchel, gynesent a gwrolent bob calon onest drwy Gymru benbaladr. Ond ni sylweddolwyd erioed mo'r gobaith. Mae dros ddeng mlynedd er pan y'u llefarwyd; am naw mlynedd mae Lloyd George ei hun wedi bod yn y Cabinet; ond erys Deddf Addysg 1902 eto mewn grym. A gwaeth na hyny, pasiwyd deddf orthrymus arall, caletach na hi, ac erys hono hefyd heb ei dileu er fod Llywodraeth Ryddfrydol a rwymodd ei hun trwy lw i'w dileu, wedi bod mewn awdurdod bellach am naw mlynedd.

Os cyfrwys a fu Lloyd George i weled pa fodd y gallai Cyngorau Sir Cymru weinyddu Deddf Addysg 1902 heb godi treth at gynal Ysgolion Enwadol, bu'r Toriaid hefyd yn ddigon cyfrwys i ddarganfod ffordd i wneyd ei ymgais ef yn ofer. Gwnaethant hyn drwy ddeddf gorfodaeth Cymru 1904. Er mwyn deall pa fodd y gwnaethant hyn, rhaid cofio fod yr Ysgolion yn derbyn eu cyllid o ddwy ffynonell fawr, sef (1) Oddiwrth y Llywodraeth drwy grants, a (2) Oddiwrth y Cyngorau Sir drwy'r trethi lleol. Telir y grants gan y Llywodraeth ar gyfer pob ysgol ar ei phen ei hun, yn un swm i'r Cyngor Sir; a gwneir y diffyg yn y draul o gadw'r ysgol hono i fyny gan y Cyngor o dreth y Sir. Cyfrifai Lloyd George, a'r Cyngorau Sir, yn naturiol ddigon, y byddai'r Llywodraeth yn talu'r grants fel o'r blaen; rhoddai'r Cyngor y grants a enillid gan ysgolion yr Eglwys i lywodraethwyr yr ysgolion hyny, ond heb ychwanegu atynt o'r trethi, gan ddefnyddio arian y dreth at amcanion ysgolion y trethdalwyr yn unig. Ond, o dan Ddeddf Gorfodaeth Cymru, 1904, trefnodd y Llywodraeth fod yr holl grants a enillid gan holl ysgolion y sir, ysgolion y trethdalwyr yn ogystal ag ysgolion yr Eglwys, yn cael eu talu gan y Llywodraeth i lywodraethwyr ysgolion yr Eglwys yn unig hyd nes y cyflawnid eu hangen hwy. Hyny yw, os byddai eisieu mwy o arian at gynal ysgol yr Eglwys nag a ddeuai fel grants i'r ysgol hono, gwnelid y diffyg i fyny o'r grants a enillid gan ysgolion y trethdalwyr. Felly cymerid arian a enillid gan blant Ymneillduwyr yn ysgolion y trethdalwyr i gynal ysgolion yr Eglwys.

Pasiwyd y Ddeddf hon ar waethaf pob gwrthwynebiad cyndyn o eiddo Lloyd George a'r Aelodau Cymreig. Dyfeisiodd Lloyd George gynllun newydd i wrthweithio'r Ddeddf orthrymus hon. Wedi cytuno ar ein cynllun ceisiodd genyf hysbysu'r trefniadau newydd drwy holl wasg y deyrnas. Gwnaethym inau hyny. Hanfod y cynllun hwn oedd:

1. Sefydlu ysgol y trethdalwyr i gystadlu ag ysgol yr Eglwys yn mhob ardal yn Nghymru. (Yr oedd rai canoedd o ardaloedd lle na cheid ond yn unig ysgol yr Eglwys).

2. Tynu plant yr Ymneillduwyr o ysgol yr Eglwys drwy'r holl wlad. (Plant Ymneillduwyr oeddent mwyafrif mawr y plant mewn canoedd o ysgolion yr Eglwys).

Cyn y gellid, o dan y gyfraith, sefydlu ysgol y trethdalwyr lle y bodolai ysgol arall eisoes, rhaid oedd bod ysgoldy ac ysgol mewn bod y gellid eu trosglwyddo i'r Cyngor Sir. Golygai hyn godi adeilad, a chyflogi athrawon, i'r ysgol newydd, a'i chadw mewn bod am flwyddyn, cyn y gellid ei chydnabod o dan y ddeddf. Golygai hyn filoedd o bunau o draul. Gwnaed apel at Ymneillduwyr Cymru yn mhob capel o bob enwad—a chodwyd trysorfa fawr at ymgyrch newydd Lloyd George. Gwrthwynebid ef gan rai Ymneillduwyr blaenllaw, megys Mr. (yn awr y Barnwr) Bryn Roberts, yr hwn, fel cyfreithiwr, a ddadleuai fod Mr. Lloyd George yn ymddwyn yn annghyfansoddiadol, ac yn arwain y Cyngorau Sir i gors anobaith.

Er i nifer o'r ysgolion newydd gael eu sefydlu, ac er i drysorfa fawr gael ei chasglu, methiant a fu yr ymgyrch newydd. Gwir fod nifer o ysgolion Eglwysig wedi cael eu cau mewn gwahanol ardaloedd, eto erys y mwyafrif mawr o honynt. Gwaeth na hyny, nid yn unig erys Deddf Addysg Balfour, 1902, a Deddf Gorfodaeth Cymru, 1904, o hyd mewn grym, ond erbyn hyn mae yn ymarferol yr holl Gyngorau Sir trwy Gymru yn codi treth at gynal yr ysgolion enwadol. Parha Ymneillduwyr mewn gwahanol fanau yn Nghymru a Lloegr i weled eu heiddo yn cael ei werthu i gyfarfod a'r dreth hono, a llawer o honynt yn myned

i garchar blwyddyn ar ol blwyddyn er mwyn cydwybod.

PENOD VIII.

GWEINIDOG Y GORON.

CEIR yn Llywodraeth Prydain ddau fath o Weinidogion y Goron. Yn uchaf saif Aelodau y Cabinet. Hwynthwy sydd yn penderfynu polisi y Llywodraeth ar bob cwestiwn. Yr ail dosbarth yw y gweinidogion o'r tu allan i'r Cabinet, y rhai, gan mwyaf, a elwir yn "Is-ysgrifenyddion" yn ngwahanol adranau'r Llywodraeth. Fel rheol, pan wneir aelod cyffredin o'r Senedd am y tro cyntaf yn Weinidog y Goron, i'r ail ddosbarth yr a, a dyrchefir ef, os bernir ef yn gymwys ar ol ei brofi yn y swydd is, i'r swydd uwch yn y Cabinet. Anaml yr a Aelod Seneddol yn uniongyrchol i'r Cabinet heb wasanaethu am dymor yn y swydd is. Un o'r eithriadau anaml hyn yw Mr. Lloyd George. Pan aeth gyntaf i'r Senedd 25 mlynedd yn ol gwawdiai ei wrthwynebwyr y syniad o weled rhyw gyfreithiwr bach cyffredin yn y wlad yn myned yn Aelod Seneddol o gwbl. Gwyr mawr, cyfoethogion y wlad a phendefigion y bobl, yn unig a fernid yn gymwys i fod yn Aelodau Seneddol, ond etholwyd y cyfreithiwr tlawd ar eu gwaethaf oll. Hyd yn nod am aelodau ei blaid ei hun, edrych i lawr, braidd a wnaent arno pan aeth gyntaf i'w plith yn y Senedd. Ychydig o sylw a dalent iddo, a lle isel a gaffai ar raglen cyfarfodydd yn y rhai y cymerai efe a hwythau ran. Pa safle bynag a enillodd efe wedi hyny, anrhaith yw a enillwyd gan ei fwa a'i waewffon ef ei hun, yn nghyd a'r ffaith fod gwerin gwlad Gwalia o'r tu cefn iddo. Dangosasant hwy eu cydymdeimlad a'i dlodi ef, a'u hedmygedd. o'i gymwysderau ef, drwy danysgrifio dro ar ol tro at dreuliau ei etholiadau. Ni bu traul un etholiad iddo yn llai, dyweder, na phum cant o bunau; codai weithiau lawer yn uwch. Ni fedrai efe fforddio talu hyny o arian, ond daeth ei etholwyr yn mlaen gan gymeryd y baich oddi ar ei ysgwyddau. Felly yr aeth i'r Senedd. dro ar ol tro.

Fel y gwelwyd ni chafodd fanteision na choleg na Phrif Ysgol—dim ond ysgol fach y pentref, a'r Ysgol Sul a'r Gymdeithas Lenyddol, a'r dadleuon o nos i nos yn shop y crydd ac yn efail y gof. Ond erbyn hyn mae ganddo hawl i wisgo gown y Doctoriaid uchaf yn Mhrifysgol Rhydychain ac yn Mhrifysgol Cymru. Gosododd y ddwy arno yr anrhydedd o fod yn "D. C. L." Wrth gyflwyno'r teitl hwn iddo yn Rhydychain, desgrifiai'r areithiwr cyhoeddus ar ran y Brif Ysgol hynaf yn y byd[7] ef fel:

"Gwr llawn o yni, wedi ei ysbrydoli gan ddawn danbaid, a'r hwn a ddanfonwyd gan Gymru fechan ddewr i lenwi swydd o awdurdod eang."

Pan yn fachgenyn arferai edrych gydag arswyd ar furiau uchel, cryf, Castell Caernarfon. Pan ddaeth i ddeall ystyr hanes, arferai gyfeirio ei fys at y Castell cadarn fel prawf na fedrai gallu estronol, boed gryfed ag y mynai, byth ladd bywyd cenedl fel cenedl y Cymry. Codwyd y castell hwnw dros bum can mlynedd. yn ol i'r amcan o lethu'r Cymry, a lladd eu cenedlaetholdeb. Ond heddyw wele'r genedl fechan hono yn fwy byw nag erioed, a'i chynrychiolydd dewisedig a dewisol hi yn dal allweddau y Castell hwnw yn rhwym wrth ei wresgys, ac fel Cwnstabl y Castell yn agor y Porth Mawr i dderbyn Brenin Prydain ac Ymerawdwr yr Ymerodraeth fwyaf yn y byd i mewn, ac yn cymeryd rhan yn arwisgiad Tywysog Cymru oddi fewn i'r muriau.

Pan syrthiodd gweinyddiaeth Doriaidd Mr. Balfour yn 1905, yr oedd Mr. Lloyd George wedi dringo i safle mor amlwg fel dadleuydd ac ymladdwr yn mhlith y Rhyddfrydwyr fel y cytunai pawb y rhaid iddo gael lle yn mhlith Gweinidogion y Goron yn ngweinyddiaeth. Ryddfrydol Syr Henry Campbell Bannerman, ond ychydig a dybiai neb y caffai fod ar unwaith yn Aelod o'r Cabinet. Ond felly bu; gwnaed ef yn Llywydd Bwrdd Masnach, o bosibl y swydd olaf yn yr holl Weinyddiaeth y gallesid meddwl ei fod ef yn gymwys iddi.

Mewn ysgrifau eraill yr wyf wedi tynu cyffelybiaeth rhwng gyrfa Mr. Chamberlain ag eiddo Mr. Lloyd George. Yma gellir dweyd fod y ddau wedi myned i'r Cabinet heb wasanaethu awr mewn swydd is. Aeth y ddau i gymeryd arolygiaeth Bwrdd Masnach. Gwnaeth pob un o'r ddau ei arolygiaeth yno yn hanesyddol nodedig.

Cyn myned o hono erioed i'r Cabinet gwyddai ei gyfeillion ei syniadau am swyddogion parhaol y Llywodraeth. Mae yn wahanol yn Mhrydain i'r hyn yw yn yr Unol Dalaethau. Pan ddaw plaid boliticaidd i awdurdod yn lle plaid wrthwynebol yn Mhrydain, ni newidir neb o swyddogion y llywodraeth, ond yn unig weinidogion y Goron, yn y Cabinet ac o'r tu allan iddo, ac ychydig iawn o swyddi llai. Erys corff mawr swyddogion y Llywodraeth, yn y Senedd a thrwy'r wlad oll, yn eu swyddi gan nad pa blaid boliticaidd a fo mewn awdurdod. Gelwir hwynt felly yn swyddogion parhaol. Pan elo gweinidog y Goron am y tro cyntaf i arolygu yr adran a ymddiriedwyd iddo, mae efe, i raddau pell, yn gorfod ymddibynu ar swyddogion parhaol yr adran hono i'w gyfarwyddo yn nghylch y gwaith. Geill y swyddogion parhaol hyn hwylysu neu rwystro llawer ar waith y gweinidog fo'n eu harolygu, fel y geill blaenoriaid neu ddiaconiaid mewn eglwys Ymneillduol hwylysu neu rwystro gwaith gweinidog newydd yr eglwys. Erys y swyddogion parhaol i Weinidog y Goron, fel yr erys blaenoriaid eglwys Ymneillduol i weinidog yr eglwys, yn eu swydd ar hyd eu hoes. Yn awr, credai Mr. Lloyd George cyn iddo fyned yn Weinidog y Goron, fod y swyddogion parhaol hyn yn rhwystr mawr ar ffordd pob ymgais ar ran Gweinidog y Goron i ddwyn gwelliantau pwysig i mewn, pa un bynag ai yn yr adran hono ei hun ai ynte yn neddfau'r wlad. Credai fod mwy o fai ar y swyddogion parhaol nag oedd ar Mr. Balfour yn bersonol am fod Cymru wedi gorfod ddyoddef cymaint o dan y Weinyddiaeth Doriaidd, a chymerodd ei lw os byth y deuai efe yn Weinidog y Goron y mynai symud y sawl a fu'n rhwystr i ddeddfwriaeth Ryddfrydol. Er na lwyddodd i wneyd hyny, os ceisiodd, eto llwyddodd i gael mwy of waith allan o swyddogion ei adran nag a gafodd neb o'r blaen. Galwai ei swyddogion parhaol ef (yn ei gefn) "Yr Afr Gymreig" am ei fod, meddent, "yn medru ysboncio mor gyflym ac mor rhwydd o un pwynt i'r llall!"

Bu yn "optimist" erioed, yn un a fynai edrych ar ochr oleu yn lle ochr dywell pob cwestiwn. Felly nid oedd nac anhawsder na gwrthwynebiad o fath yn y byd byth yn ei ddigaloni. Os soniai'r swyddogion parhaol am greigiau rhwystr ar y ffordd, dywedai yntau fod yna lwybr hyd yn nod drwy'r creigiau, a bod yn rhaid ei deithio. Os dangosent iddo gymylau duon ar y ffurfafen, tynai yntau eu sylw at yr awyr las tu draw i'r cymylau, a'r haul yn tywynu yno. Felly, rhwng bodd ac anfodd gorfodwyd hwy i edrych ar bob peth o'i safle ef, yn lle eu bod hwy yn ei orfodi i weled pethau drwy eu gwydrau hwy. Mor ddeheuig hefyd y profodd ei hun i dynu'r Weinyddiaeth yr oedd ef yn aelod o honi allan o ddyryswch neu berygl yn Nhy'r Cyffredin, fel y daeth i gael edrych arno fel "dyn lwcus" y Weinyddiaeth. Dangosodd ei hun hefyd mor alluog yn awr i amddiffyn y Llywodraeth yn y dadleuon yn y Ty, ag y bu gynt o beryglus yn ei ymosodiadau arni. Enillodd yn fuan iddo ei hun yr enw o fod yr ymladdwr goreu yn y Weinyddiaeth Ryddfrydol. Yr oedd mor feiddgar yn ymosod, mor heinyf ac ystwyth yn dianc o grafangau ei elynion pan geisient ei rwydo, fel y gelwid ef yn "De Wet y Rhyddfrydwyr."

Ond profodd ei hun hefyd mor werthfawr i'r Wladwriaeth ag ydoedd i'w blaid. Gwnaeth waith digyffelyb yn ei adran ei hun—Bwrdd Masnach. Ni ddylynai byth y llwybrau ystrydebol yr arferai gweinidogion eraill eu cerdded. Pan arfaethai ddwyn rhyw gyfnewidiad mawr i weithrediad, neu basio Deddf newydd a fuasai yn effeithio ar wahanol ddosbarthiadau, galwai ato arweinwyr y dosbarthiadau hyny i ymgyngori a hwynt cyn gwneyd dim. Meddai ar allu nodedig i weled safbwynt dyn arall, medrai megys osod ei hunan yn lle y neb a ymresymai ag ef; yr oedd yn feddianol ar allu'r ddynes i dreiddio i feddwl arall. Felly, pan gynelid cynadledd o'r gwahanol ddirprwyaethau yn ystafell Bwrdd Masnach, mynai gael goleu ddydd iddo ei hun ar bob pwnc, a mynai fyned at wreiddyn pob anhawsder. Gan ddeall o hono safbwynt y naill ochr a'r llall, chwiliai ei feddwl treiddgar, cyflym, am ryw fan canol rhyngddynt, am ryw ffordd y gallent gyfamodi heb aberthu egwyddor hanfodol, a chyn dyfod i'r gynadledd ei hun, ceisiai ddod i ddeall pob peth posibl yn nghylch y pwnc a fyddai dan sylw. Nid dyn yw yn hoffi ymdrafferthu a manylion dim, a ar ei union at egwyddor sylfaenol y cwestiwn os bydd modd yn y byd. Galwai i'w wasanaeth yr ymenyddiau c'iriaf a'r penau mwyaf llawn o wybodaeth y medrai ddod o hyd iddynt. Ymborthai yntau ar ffrwyth eu hymenyddiau, gan droi yr oll yn faeth i'w ymenydd ef ei hun.

MAJOR RICHARD LLOYD GEORGE

Gyda hyn oll, drachefn, yr oedd yn feddianol ar allu yn mron digyffelyb i berswadio dynion. Pan ddeuai'r ddwy blaid wyneb yn wyneb yn ei bresenoldeb ef, dywedai wrthynt:

"Yn awr, foneddigion, cyn dod at y pwyntiau ar y rhai yr ydych yn gwahaniaethu, gadewch i ni weled ar ba bwyntiau yr ydych yn cydolygu. Cawn setlo'r gweddill wedi hyny."

A thrwy ddylanwad ei dafod deniadol, a'i wen siriol, a'i ymddangosiad o fod ei hun yn cytuno a chwi ond ar yr un pryd yn dymuno arnoch i ddod gam bach yn mlaen gyfarfod a'r ochr arall, perswadiai'r ddwy blaid i gredu eu bod yn cytuno ar lawer fwy o phwysicach pwyntiau na'r rhai yr annghytunent arnynt. Yna dywedai:

"Wel, wir, nid yw'r gwahaniaeth rhyngoch prin yn werth son am dano. Dowch, dowch, holltwch y gwahaniaeth, a gadewch i ni wneyd bargen fel hyn."

Ac yna awgrymai linellau cytundeb yn y fath fodd fel y credai pob un o'r ddwy blaid mai ei hochr hi ei hun oedd wedi cario. Yn wir, clywais Arweinwyr Llafur yn dweyd fwy nag unwaith :

"Y lle mwyaf peryglus i Arweinydd Llafur yw bod mewn cynadledd gyda Lloyd George yn ganolwr. Awn i mewn i'r Gynadledd yn wrol ddigon, yn dal argyhoeddiadau cryf, ond pan ddeuwn allan cawn ein bod wedi gadael ein hegwyddorion oll ar ol yn ystafell y Gynadledd."

Ond os medrai fod yn wen ac yn wenieithus pan dybiai y talai hyny y ffordd iddo, gallai fod yn llym, ac yn arw, ac yn sarhaus ddigon pan fyddai hyny yn angenrheidiol. Un tro daeth dirprwyaeth bwysig ato yn cynwys Arglwydd Burleigh, Arglwydd Hugh Cecil, a mawrion eraill y deyrnas, i siarad ag ef am dreialon ac anhawsderau landlordiaid Lloegr. Yn lle ymbil ag ef, na hyd yn nod ei anerch yn barchus fel Gweinidog y Goron, cofiasant mai urddasolion y Deyrnas oeddent hwy, ac mai cyfreithiwr bach o'r wlad oedd yntau, a dechreuasant ei geryddu. Gwelodd yntau ar amrantiad beth oedd yn eu meddyliau, a stopiodd hwy ar unwaith gan ddweyd:

"Mi a'ch derbyniais heddyw i wrandaw eich cwynion ac unrhyw resymau a allech eu dwyn yn mlaen. Nid lle dirprwyaeth fo'n ceisio ystyriaeth gan y Llywodraeth yw difrio'r Llywodraeth. 'Rwy'n ofni fod eich addysg yn y cyfeiriad hwn wedi cael ei esgeuluso."

Pan ymosodwyd arno gan un golygydd mewn papyr enwog a dylanwadol, cyfeiriodd Mr. Lloyd George yn gyhoeddus at hwnw fel "ymhonwr gwagfalch, disylwedd." Ni pharchai'r cyfoethog fwy na'r tlawd. Haner duw i'r Prydeiniwr yw'r miliwnydd, ac o'r holl dduwiau hyn y diweddar Arglwydd Rothschild, yr arianydd bydenwog oedd y mwyaf. Dywedid am Arglwydd Rothschild fod ei ddylanwad y fath ar gyfoeth gwledydd daear, fel y medrai achosi rhyfel neu ei atal bryd y mynai. Beiddiodd Arglwydd Rothschild ar un achlysur siarad dipyn yn fombastaidd am yr hyn a ddylai ac ni ddylai, ar yr hyn y caffai ac ni chaffai'r Llywodraeth ei wneyd. Rhaid i'r Llywodraeth, ebe'r Iuddew cyfoethog hwn, beidio dwyn Mesur Dirwest yn mlaen rhag niweidio masnach bragwyr a'r darllawyr; rhaid iddynt beidio gosod trethi trymion ar ystadau eang rhag niweidio masnach amaethyddiaeth; rhaid iddynt beidio rhoi blwydd-dal i hen bobl, na gwneyd hyn neu arall, am, meddai Lloyd George, eu bod yn cyffwrdd a llogell Arglwydd Rothschild. Yna aeth y Cymro rhagddo i ddweyd:

"Yr ydym yn cael llawer iawn gormod o Arglwydd Rothschild. Mi a hoffwn wybod ai penrheolwr y Deyrnas hon yw yr Arglwydd Rothschild hwn? A ydym i weled pob llwybr at ddiwygiad, arianol a chymdeithasol, yn cael ei flocio yn ein herbyn gan rybudd yn dweyd: 'Ni ellir tramwy y ffordd hon. Drwy orchymyn Nathaniel Rothschild'."

Gwnaeth y Cymro bach tlawd yr Iuddew mawr cyfoethog yn destyn gwawd a chwerthin yr holl deyrnas, ac eto pan fu farw Arglwydd Rothschild ni thalodd neb deyrnged mor uchel o barch i'w allu a'i goffadwriaeth ag a wnaeth Lloyd George, ond mae cof y cyhoedd, fel cof y gwr cyhoeddus, yn fyr a brau. Bu marsiandiwyr mawr Llundain yn traddodi Lloyd George i dan tragywyddol am bechodau ei Gyllideb, ond eleni syrthient i lawr i'w addoli ef fel gwaredwr arianol yr Ymerodraeth. Bu un papyr Toriaidd yn hoff o'i wawdio fel un na wyddai ddim am fyd arian, a'r mwyaf annghymwys o bawb i fod yn Gangellydd y Trysorlys; ond wele yr un papyr yn ddiweddar yn crochfloeddio drwy'r byd mai Lloyd George yw'r unig ddyn yn y Cabinet heddyw sydd yn werth ei halen, a'r unig wr y geil Prydain ddibynu arno yn nydd ei chyfyngder.

Rhaid oedd fod gwr o'r fath yn gadael ei argraff ar bob dim yr ymwnelai ag ef. O dan ei law ef daeth Bwrdd Masnach, y lleiaf ei nod yn mhlith Adranau'r Llywodraeth, yn ganolbwynt mawr bywyd gweithfaol a masnachol yr Ymerodraeth oll. Taflodd ei ysbryd ei hun i'w adran, a gwnaeth hi yn feddygfa lle y trinid ac y ceisid gwella pob afiechyd yn nghyfansoddiad gweith faol a masnachol y deyrnas.

Yn mhlith y clwyfau a feddyginiaethwyd, priodolir iddo gymodi gwyr y rheilffordd pan fygythid streic gyffredinol ganddynt drwy'r deyrnas. Iddo ef hefyd y priodolir terfynu streic glowyr Deheudir Cymru ar ganol y Rhyfel. Amrywia barn yn nghylch gwerth y cytundebau a wnaed ar yr achlysuron hyn, ond yn ddi-ddadl symudasant, o leiaf am y tro, berygl mawr a bygythiol i'r deyrnas. Efe sefydlodd y Byrddau Cymod gorfodol mewn gwahanol alwedigaethau, ac nid peth bach oedd perswadio'r meistr a'r gweithiwr i dderbyn dyfarniad Bwrdd o'r fath. Dichon mai mewn amser eto i ddod y gwelir ffrwyth gwaith arall o'i eiddo yn nglyn a Chonsuls Prydain mewn gwledydd tramor; ac mae yn bosibl y gwelir, pan elo'r rhyfel presenol heibio, ad-drefniad gwell a mwy effeithiol o fasnach Prydain a gwledydd tramor. Sefydlodd adran newydd hefyd, adran cyfrif cynyrch y deyrnas, a alluogodd y Wladwriaeth i wybod holl fanylion cynyrch pob gweithfa drwy'r wlad.

Ceir mewn penod arall fanylion am ei ddeddfwriaeth yn nglyn a chwestiynau cymdeithasol, ond gellir cyfeirio yma at dri Mesur mawr yn ymwneyd a bywyd masnachol y deyrnas.

Y cyntaf o'r rhai hyn oedd Mesur Porthladd Llundain. Anhawdd, heb feichio'r llyfr a manylion sych, fyddai egluro yn llawn yr hyn a wnaeth y mesur hwn i hyrwyddo marsiandiaeth dramor a chartrefol dinas Llundain. Yr oedd yr anhawsderau ar ffordd trefniant effeithiol mor fawr fel na feiddiodd neb o'i ragflaenwyr anturio ymgymeryd a'r gwaith, er y teimlid ei fawr angen. Lle yr ofnent hwy, anturiodd ef; lle y methai arall, llwyddodd yntau. Un o'i wrthwynebwyr politicaidd ffyrnicaf yw Arglwydd Milner, ond gorfu iddo ef dalu teyrnged anfoddog o barch i allu Lloyd George yn y peth hwn pan gydnabyddodd yn gyhoeddus mai mesur Lloyd George oedd "y ffordd oreu i setlo y cwestiwn mawr, dyrys, ac anhawdd hwn."

Yr ail fesur mawr ei ddylanwad ar fasnach Prydain oedd Deddf y Breintebau (Patents Bill). Amcan cydnabyddedig y mesur hwn oedd rhoi rhagor o waith i weithwyr Prydain yn Mhrydain. Masnach Rydd yw credo Prydain a Lloyd George, a swm a sylwedd y mesur oedd gwrthod hawlfraint mewn mathau neillduol o nwyddau os na fyddai i'r nwyddau hyny "gael eu gwneuthur i raddau digonol" yn Mhrydain. Er galluogi'r darllenydd i ddeall yr amgylchiadau, dylid egluro mai yr arferiad cyn pasio'r Mesur oedd hyn: Gallai gwneuthurwr unrhyw nwydd, neu ddyfeisydd unrhyw offeryn neu beiriant, dyweder yn Germani, sicrhau hawlfraint (patent) ar y nwydd neu'r peth hwnw yn Mhrydain. O dan y cyfryw hawlfraint ni chai neb yn Mhrydain, wneuthur y nwydd hwnw, ni chai neb ond agents perchen yr hawlfraint ei werthu yn Mhrydain; ni chai neb yn Mhrydain ei brynu mewn gwlad arall a'i ddefnyddio yn Mhrydain; gallai perchen yr hawlfraint osod yr amodau a fynai ar y neb a'i defnyddiai; perchen yr hawlfraint a benodai'r pris am yr hwn y rhaid ei werthu, ac fel rheol yr oedd y pris hwnw yn uwch yn Mhrydain nag mewn gwlad arall. Gosododd Mesur Lloyd George derfyn ar hyn oll. Ni ellir cael "breinteb" mwyach yn Mhrydain ar nwydd, nac offeryn, na pheiriant, o fath yn y byd, os na wneir y cyfryw yn hollol, neu mewn rhan ddigonol, yn Mhrydain. Canlyniad naturiol hyn oedd gorfodi breintebwyr Germani a gwledydd eraill i sefydlu gweithfeydd yn Mhrydain. Gwelir fod y Mesur, o ran ei egwyddor, yn gyffelyb i Ddeddf Hawlysgrif yn yr Unol Dalaethau.

Ond y pwysicaf o'r tri oedd Mesur y Llongau Masnach. Bu cynadledda mawr a mynych rhwng Lloyd George a chynrychiolwyr y morwyr ar y naill law, a chynrychiolwyr perchencgion llongau ar y llall, cyn iddo dynu allan brif linellau y Mesur mawr. Effaith y Mesur oedd gwella amgylchiadau bywyd y morwr, a gwella safle'r perchenog. Rhoddai i'r morwr well llety ar y llong, gwell bwyd, hawl i gael gofal meddygol, a'r hawl i gael ei gludo yn ol i Brydain pe y diswyddid ef o'i le ar y llong mewn gwlad estronol. Ni cha tramorwyr, amgen na deiliaid Prydeinig, na fedrant yr iaith. Saesneg, eu cyflogi ar long Brydeinig. Am longau teithwyr gwnaed rheolau er sicrhau dyogelwch a chysur i'r teithwyr, yn enwedig yn y steerage; gorfodai longau tramor a lwythent mewn porthladd yn Mhrydain i ddod o dan yr un rheolau a llongau Prydain ei hun.

Wedi gwneyd enw iddo ei hun yn y Bwrdd Masnach, dyrchafwyd ef yn Ebrill, 1908, i fod yn Gangellydd y Trysorlys y swydd nesaf mewn awdurdod ac anrhydedd i'r Prif Weinidog ei hun. Er syndod i bawb, ac er dychryn i'w gyfeillion, trodd y Wasg Doriaidd i'w ganmol, ond nid hir y parhasant i wneyd hyny. Pan ddaeth ei Gyllideb Fawr ger bron y Senedd, dychrynodd y cyfoethogion a'r landlordiaid yn aruthr, am fod darpariadau'r Gyllideb yn gyfryw ag oedd yn godro yn helaeth o'u heiddo hwy.

Ond pwysicach hyd yn nod na'r darpariadau hyn oedd y ffaith ddarfod i'r Gyllideb Fawr hon brofi yn foddion i gyhoeddi rhyfel rhwng Gwlad ac Arglwydd. Cyn hyn yr oedd hawl ac awdurdod gan Dy'r Arglwyddi i daflu allan unrhyw Fesur a basiai Dy'r Cyffredin. Y bobl sydd yn ethol Ty'r Cyffredin; drwy etifeddiaeth yn unig, ac heb gael eu hethol gan neb, y ceir hawl i sedd yn Nhy'r Arglwyddi. Cyfoethogion, a landlordiaid mawr, ac urddasolion y deyrnas, yw mwyafrif mawr Ty'r Arglwyddi; aelodau o Eglwys. Loegr, neu o Eglwys Rufain ydynt oll oddigerth llai na haner dwsin; Toriaid cul, eithafol, yw y mwyafrif mawr o honynt. Felly, er cael etholiad ar ol etholiad, ac er dychwelyd i Dy'r Cyffredin ddynion a geisient ddiwygio deddfau gorthrymus, ac er cael mwyafrif gorlethol yno dros y cyfryw ddiwygiadau, eto medrai, ac yn aml gwnai Ty'r Arglwyddi daflu'r mesurau hyny allan, gan wneyd felly holl lafur Ty'r Cyffredin a holl ymdrech etholwyr y deyrnas, yn ofer. O ddechreu ei yrfa yr oedd Lloyd George wedi ymddiofrydu y mynail osod terfyn bythol ar allu ac awdurdod unbenaethol Ty'r Arglwyddi. Eb efe wrth Gymru:

"Llys unochrog yw Ty'r Arglwyddi, yn eistedd mewn barn parhaol ar hawliau miliynau o Ymneillduwyr, gan y rhai nid oes obaith cael cyfiawnder yn y llys hwn."

Pan daflodd yr Arglwyddi allan Fesur Addysg y Rhyddfrydwyr cymellodd Lloyd George y Weinyddiaeth Ryddfrydol i roi her i awdurdod a gallu Ty'r Arglwyddi y pryd hwnw, ond gwrthododd y Cabinet. Wedi hyny, taflodd yr Arglwyddi Fesur y Trwyddedau allan, er i Archesgob Caergaint, a nifer o Esgobion Eglwys Loegr oeddent yn aelodau o Dy'r Arglwyddi, ddeisyf ar yr Arglwyddi i'w basio. Y pryd hwnw dywedodd Lloyd George:

"Edmygaf wrthsafiad cadarn Archesgob Caergaint yn ngwyneb bygythion brwnt y bragwyr, y rhai a dybient y medrent brynu pawb ag arian, ac nad oedd eisieu iddynt ond myned at offeiriad, a dweyd wrtho: 'Wele check; cewch hwn os gadewch y plant i gael eu sathru i'r llaid o dan draed y ddiod feddwol."

Yr oedd nifer o gwmniau o fragwyr a darllawyr wedi hysbysu drwy'r wasg y peidient danysgrifio mwyach at yr Eglwys a'i helusenau, am fod yr Esgobion yn pleidio Mesur y Trwyddedau. Gwnaed y drwg yn waeth gan Arglwydd Lansdowne, arweinydd y Toriaid yn Nhy'r Arglwyddi. Galwodd Lansdowne gyfarfod preifat o'r Arglwyddi Toriaidd i'w dy yn Llundain cyn penderfynu pa beth a wnai yr Arglwyddi a'r Mesur Trwyddedau. Penderfynodd y cyfarfod. preifat hwnw daflu'r mesur allan yn ddiseremoni, er fod y wlad yn galw am dano a'r esgobion yn ei gefnogi. Torodd Lloyd George allan fel hyn:

"Cymerodd Arglwydd Lansdowne iddo ei hun hawl na feiddiodd yr un Brenin ei gymeryd er dyddiau bygythiol Siarl I. Gyrir gorchymyn allan o Lansdowne House na yrai'r Brenin byth o Balas Buckingham."

Ond pan daflodd yr Arglwyddi Gyllideb Fawr Lloyd George allan, "Cyllideb y Werin" fel y'i gelwid, yn 1909, cyflawnasant fesur eu hanwiredd. Bu Ty'r Cyffredin yn eistedd am wyth mis i'w ddadleu; rhanwyd y Ty 550 o weithiau arno; ymladdai'r Toriaid yn ffyrnig i'w erbyn, ond cariodd Lloyd George ef yn ddiangol gyda mwyafrif mawr a chyson drwy holl stormydd Ty'r Cyffredin. Gelwid ef yn "lleidr" a phob rhyw enw drwg. Wedi methu o honynt ei orchfygu ef a'r werin, apeliasant at Dy'r Arglwyddi. Taflodd y Ty hwnw y mesur allan, gan droseddu o honynt felly ddeddf anysgrifenedig y Cyfansoddiad Prydeinig na fedrai'r Arglwyddi ymyryd a Mesur Trethiant.

Cododd y wlad fel un gwr yn erbyn yr Arglwyddi. Lloyd George oedd arwr mawr y werin drwy'r deyrnas; edrychai'r bobl arno fel eu noddwr a'u hamddiffynydd. Gwelodd Lloyd George ei gyfle wedi dod i roi ergyd marwol i Dy'r Arglwyddi. Cafwyd etholiad cyffredinol, a Mr. Asquith a'r Weinyddiaeth Ryddfrydol yn amlygu yn gyhoeddus na ddaliai yr un o honynt swydd mwyach heb gael o honynt sicrwydd yr amddifedid yr Arglwyddi o'r hawl oedd ganddynt hyd yn hyn i daflu allan, neu i rwystro, mesurau Rhyddfrydol. Yn yr etholiad cafodd y Rhyddfrydwyr fwyafrif mawr drwy'r holl deyrnas.

Pan gyfarfu'r Senedd drachefn yn 1910 dygodd y Prif Weinidog gyfres o benderfyniadau ger bron Ty'r Cyffredin yn gosod allan yr egwyddorion a ganlyn:

1. Fod Ty'r Arglwyddi yn cael ei amddifadu o bob hawl i ymyryd a materion arianol y deyrnas.

2. Fod rhaid cyfyngu hawl Ty'r Arglwyddi i rwystro mesurau a besir gan Dy'r Cyffredin.

3. Fod rhaid cyfnewid cyfansoddiad Ty'r Arglwyddi fel ag i'w wneyd yn Dy etholedig yn lle yn Dy etifeddedig.

Wedi cael eu dychrynu wrth weled tymer y wlad, pasiodd yr Arglwyddi yn dawel y Gyllideb a daflwyd. allan ganddynt y flwyddyn o'r blaen. Ond safent yn gyndyn yn erbyn y penderfyniadau uchod, y rhai, fel y gwelir, a dorent o dan sail eu holl awdurdod.

Yna apeliodd Mr. Asquith at y wlad drachefn ar gwestiwn Ty'r Arglwyddi yn ngoleuni y penderfyniadau uchod, a thrachefn cefnogwyd ef gan y wlad, ond hyd yma safai awdurdod yr Arglwyddi fel cynt. Ni allai Ty'r Cyffredin orfodi Ty'r Arglwyddi i weithredu yn groes i'w ddymuniad ef ei hun. Ond yr oedd un arf eto gan y Prif Weinidog. Gall y Brenin, pan gymeradwya'r Prif Weinidog hyny, greu y neb a fyno yn "Arglwydd," yn meddu hawl i eistedd a phleidleisio yn Nhy'r Arglwyddi. Gallasai felly greu, ar gais y Prif Weinidog, bum cant o Arglwyddi newydd, digon i gario'r Mesur trwy bleidlais yn Nhy'r Arglwyddi. Gallasai wneyd y neb a fynai yn Arglwydd, y gweithiwr ar y fferm, y glowr yn y pwll, y torwr ceryg ar yr heol, y torwr beddau yn y fynwent, os mynai. Buasai creu cynifer o Arglwyddi newydd yn gostwng gwerth y teitl o "Arglwydd" yn marchnad anrhydedd y deyrnas, a'r byd. Felly, er mwyn osgoi'r gwaradwydd hwn, llyncodd Ty'r Arglwyddi "Fesur Diwygio Ty'r Arglwyddi," ac y mae bellach yn ddeddf. O dan y mesur hwnw bydd unrhyw fesur a besir dair gwaith, mewn tri senedd-dymor olynol, gan Dy'r Cyffredin, yn dod yn ddeddf Prydain Fawr hyd yn nod os gwrthodir ef bob tro gan Dy'r Arglwyddi.

O dan y ddeddf hon y daeth Mesur Dadgysylltiad i Gymru a Mesur Ymreolaeth i'r Werddon, yn ddeddf. Pasiwyd y ddau deirgwaith gan Dy'r Cyffredin; taflwyd hwynt allan gan Dy'r Arglwyddi, eto o dan y "Parliament Act" maent heddyw yn ddeddfau ar waethaf Ty'r Arglwyddi. Felly y torwyd pen Goliath gormes yn Senedd Prydain, a'r llanc Dafydd Lloyd George, y Cymro bach dewr, a'i torodd!

PENOD IX.

DIWYGIWR CYMDEITHASOL.

BRAWD Bach y Dyn Tlawd!" Dyna'r enw roddodd ei wrthwynebydd mawr Mr. Bonar Law, arweinydd presenol y Blaid Doriaidd yn Nhy'r Cyffredin, ar Mr. Lloyd George, ac o bob enw, da a drwg, a gafodd gan gyfaill a gelyn erioed, dyna'r enw yr ymffrostia fwyaf ynddo. Cafodd yr enw o herwydd ei ymdrechion i basio deddfau fuasent yn diwygio cyflwr cymdeithas, yn ysgafnhau beichiau'r tlawd, yn gwneyd henaint ac afiechyd yn llai o fwganod i'r gweithiwr gonest. Nid oes wleidyddwr mewn unrhyw wlad heddyw a gwell hawl ar gyfrif ei ddeddfwriaeth, i'r enw. Cafodd eraill yr hyn a eilw y byd yn urddas, ac anrhydedd, a chyfoeth; ni offrymwyd cynifer o weddiau ar ran neb, ac ni ddeisyfwyd cymaint o fendith y nef ar ben neb gan bobl sy'n cael cyn lleied o fwyniant bywyd eu hunain, ar a offrymwyd ar ran ac a ddeisyfwyd i ddisgyn ar ben Lloyd George.

Dau Fesur mawr at leddfu dyoddefaint y tlawd sydd yn gysylltiedig a'i enw—Blwydd-dal i'r Hen, ac Yswiriant yn erbyn afiechyd a bod allan o waith. Rhoddi mynegiant wnaeth y ddau Fesur pwysig hyn i gydymdeimlad a losgai yn ei fynwes o ddyddiau ei febyd a'r caledi o bob math a ddyoddefid gan y werin dlawd a dyfal o'i gwmpas. Mewn gwlad a orlifai gan gyfoeth gwelodd yn ei blentyndod y tlawd yn dwyn. beichiau anhawdd a thrymion—a chyfranogodd ei hunan yn eu hanfanteision. Er pan ddaeth allan gyntaf i fywyd cyhoeddus sylweddolodd fod gan y werin hawl i fwy o sylw'r ddeddfwriaeth. Y cyhuddiad cyntaf a ddygodd erioed yn erbyn y Blaid Ryddfrydol oedd nad oeddent yn talu sylw digonol nac effeithiol i angenion y gweithiwr. "Nid oes gri gan Ryddfrydiaeth i'r dref!" ebe fe—gan olygu fod drygau cymdeithasol yn y trefi y dylesid eu symud, ac y cawsai'r blaid boliticaidd a geisiai eu symud gefnogaeth y bobl. Yr oedd hyn bum mlynedd cyn iddo fyned yn Aelod Seneddol. Am y gwelai fod bryd y Blaid Ryddfrydol yn fwy ar gyraedd amcanion politicaidd nag ar symud drygau cymdeithasol, y cododd ar ddechreu ei yrfa y cri am Ymreolaeth i Gymru, gan gysylltu a hyny gri am wella amgylchiadau'r werin. Gwyddai fod Cymru yn aeddfetach o lawer na Lloegr i ymgymeryd a mesurau diwygiadol o bob math, bod anianawd y Cymro yn ei wneyd yn fwy parod i symud yn mlaen i ddiwygio'r byd nag ydyw'r Sais, tuedd naturiol yr hwn yw bod yn geidwadol, ac i adael pob peth fel ag y mae. Yn un o'i areithiau dywedodd:

"Aed Rhyddfrydiaeth rhagddi i adeiladu teml rhyddid yn y wlad hon, ond na foed iddi annghofio y rhaid i'r addolwyr yn y deml hono gael modd i fyw. Gwir mai nid ar fara yn unig y bydd byw dyn. Ond mae mor wir a hyny na fedr dyn fyw heb fara."

Beirniadai yn llym yr hen Ryddfrydwyr y rhai, ebe fe, "pan waeddai'r werin am fara diwygiad cymdeithasol a roddent iddynt gareg diwygiadau politicaidd yn unig." Cyhuddai'r Blaid o ddefnyddio angen y werin. fel moddion i gynorthwyo'r Blaid i hyrwyddo amcanion politicaidd. Ebe fe:

"Defnyddia'r Rhyddírydwyr anfoddogrwydd naturiol y werin yn eu cyflwr o dlodi ac angen fel gallu ysgogol er enill iddynt well safle yn ninasyddiaeth eu gwlad enedigol."

Nid oedd hyn, ebe fe, yn ddigon o lawer. Cyn y gallai Rhyddfrydiaeth haeddu ymddiriedaeth y werin, rhaid i'r Blaid "symud achos yr anfoddogrwydd." Gan ameu a oedd Rhyddfrydiaeth Lloegr yn barod i wneyd hyn, a chan wybod y gwnai cenedlaetholdeb Cymru hyny ar frys unwaith y caffai'r gallu, hawliai:

"Rhyddhad y gwladwr Cymreig, y llafurwr Cymreig, y glowr Cymreig, oddiwrth ormes y gyfundrefn heneiddiedig, ddiffrwythol, a darostyngol daliadaeth y tir."

Daliai bob amser fod deddfau gorthrymus y Tir wrth wraidd yr holl ddrygau cymdeithasol. Dyna lle y ceir yr allwedd i'w holl bolisi cyhoeddus. Ebe fe:

"Y gyfundraeth wrogiaethol (feudalism) yw gelyn mawr. y werin."

Y gyfundraeth hono a safai ar ffordd pob cynydd, pob diwygiad, pob ymgais i wella cyflwr y werin. Amddiffynfa gadarn y gyfundraeth hono, ebe fe, yw Ty'r Arglwyddi. Rhaid enill yr amddiffynfa gref hono, a gwneyd eu muriau cedyrn fel muriau Jericho yn gydwastad a'r llawr cyn byth y gellid gwella cyflwr ac amodau bywyd y werin. Felly rhaid edrych ar ei ymgyrch i ddiwygio deddfau'r tir, ac hyd yn nod ei ymosodiad beiddgar ar Dy'r Arglwyddi, fel rhan hanfodol o'i bolisi o ddiwygiad cymdeithasol.

Rhaid edrych hyd yn nod ar y modd y cariai y rhyfel yn mlaen, y pethau a wnaeth ac a enillodd iddo ddigter ei wrthwynebwyr a cherydd ei gyfeillion, fel wedi ei fwriadu ganddo at yr un amcan. Tybia'r Caisar fod y creulonderau a gyflawnir gan ei fyddin yn help iddo enill y rhyfel. Tybiai Lloyd George fod ei eiriau llym a'i ymosodiadau didrugaredd yntau ar landlordiaeth a chyfalaf, yn help i sicrhau y diwygiadau y gosododd efe ei fryd ar eu cael i'r bobl. Credai bob amser y rhaid cyffroi'r bobl, eu llenwi a brwdfrydedd o blaid unrhyw fudiad mawr, cyn y gellid sicrhau llwyddiant i'r mudiad hwnw. Hyn, a'i hen elyniaeth annghymodlawn yn erbyn cysylltiad agos landlordiaeth ac eglwys-lywiaeth, yn arbenig yn Nghymru, sy'n cyfrif am chwerwedd ei ymosodiadau ar y ddau.

Ceir engraifft o hyn yn nglyn a brwydr yr ysgol yn Nghymru (gwel Penod VII.). Hysbys i bawb yw fod ysgoldai yr eglwys, o ran eu hadeiladwaith, eu cyfleusderau, a'u pob peth o safbwynt iechyd, yn annghyfaddas o'u cymharu ag ysgoldai y trethdalwyr. Rhan hanfodol o'i ymgyrch ef yn erbyn Deddf Addysg. 1902 oedd gorfodi'r eglwys i adgyweirio eu hysgoldai, a'u gosod mewn cyflwr tebyg i ysgoldai'r Trethdalwyr, yr hyn yn wir a ofynid hefyd gan lythyren y Ddeddf. Ond golygai hyny draul fawr, ac nid oedd gan y perchenogion eglwysig arian at y cyfryw ddiben. Ebe Lloyd George:

"Rieni Cymru! Mynwch ddyogelu eich plant rhag effeithiau niweidiol awyr afiach yr ysgoldai hyn! Ond! Ow! Os mynwch lenwi ysgyfaint y plant ag awyr iach yn yr ysgoldy, rhaid gwaghau pyrsau'r offeiriad o aur melyn da!"

Fel rheol cysylltai'r tir a'r eglwys a'u gilydd fel rhwystrau mawr pob cynydd. Er fod Llywodraeth Doriaidd wedi addaw Blwydd-dal i'r Hen, eto i gyd, meddai, methu wnaethant gyflawni'r addewid "o herwydd cydfradwriaeth Tammany Ring yr offeiriaid a'r landlordiaid." Daliai yr eglwysi Cristionogol o bob enwad yn gyfrifol am ganiatau i'r slums barhau mewn bod yn y trefi. Y slums, meddai, "yw cosbedigaeth y gwr, ond merthyrdod y wraig!" Wrth son am ddyled- swydd yr eglwysi mewn perthynas i Dy'r Arglwyddi, dywedai:

"Treulir bywyd y tlawd o dan ffurfafen drymaidd o anobaith, heb yr un pelydryn o oleuni llawenydd. Ai nid oes gyfrifoldeb ar yr eglwysi am gyflwr y werin dlawd ydynt yn rhy wan i waeddi am gynorthwy? Yr wyf yn dywedyd i chwi, eglwysi'r tir, ag y mae yr holl drueni hyn yn tarddu allan yn lleidiog o gwmpas eich temlau mwyaf gorwych os na fedrwch brofi na arbedasoch nac ymdrech nac alerth i yru'r drwg ar ffo, i buro y tir oddiwrth y gwancusrwydd a'r gormes sydd yn ei achosi, yna erys y cyfrifoldeb am y dyoddefaint hwn am byth ar allorau eich ffydd, ac ar y penau noeth a ymgrymant ger bron yr allorau. hyny."

Caffai y cyfoethog, ac yn enwedig y landlordiad, bob amser y gair caletaf ganddo. Desgrifiodd Chamberlain y cyfoethog fel rhai "nad ydynt yn llafurio nac yn nyddu." Aralleiriodd Lloyd George hyn drwy ddweyd mai "gwr boneddig nad yw yn enill ei gyfoeth yw landlord." Cyfeiriai ei watwareg llymaf bob amser at y bendefigaeth a wrthwynebent drethu eiddo. Desgrifiai Arglwydd Lansdowne (yr hwn sydd yn awr yn gydaelod ag ef o'r Cabinet), fel yn gwaeddi:

MISS LLOYD GEORGE[8] MEWN GWISG GYMREIG

Drwy ganiatad arbenig, oddiwrth ddarlun gan Mr. Ellis Roberts.

"Oh! peidiwch codi treth ar y landlord! Trethwch y plant bach yn lle hyny!" Yn ei Gyllideb Fawr, darparai am arian o'r trethi i dalu am y Drednots, y llongau rhyfel mawr, newydd. Pan daflodd Ty'r Arglwyddi y Gyllideb hono allan, desgrifiai ef yr Arglwyddi fel yn gwaeddi: "Ffwrdd a chwi! Peidiwch dod atom ni am arian i dalu am y Drednots! Ewch a thorth fara y gweithiwr i'r pawnshop i gael arian!" Ac, meddai, dyma'r ateb a roddai yntau: "Na, fy Arglwyddi! Cyn y cymerwn ni y bara o enau'r gweithiwr, gwnawn ffwrdd a chwi a'ch Ty!" Yn mhob araeth o'i eiddo ar Ddiwygiad Cymdeithasol, yn mron, daw yn ol at broblem y Tir fel y cwestiwn mawr y rhaid ei benderfynu cyn y gellir gwella cyflwr y werin. Er engraifft:

"Mae diwydianau pwysig wedi cael eu llethu a'u newynu gan hawliau afresymol perchenogion tir. Dyna'r rheswm paham y mae ffarmwriaeth mor isel."

"Ni chrewyd ac ni roddwyd tir y deyrnas erioed i fod yn waddol at gynal urddas a rhoi mwyniant i ddosbarth bychan. Rhoddwyd y tir er lles plant y tir."

"Mae digon o adnoddau yn y wlad hon i ddarparu bwyd, a dillad, a llety i'n miliynau o bobl dlawd. Oes, ac o'u hiawn ddefnyddio, i gynal miliynau lawer yn ychwaneg."

Yna, gan aralleirio y Bardd Goldsmith yn ei "Deserted Village," ebe fe:

"Ceir yn y wlad hon gyfoeth wedi croni i raddau hel- aethach nag a welwyd erioed yn hanes y byd; ond casglwyd y cyfoeth hwn ar draul gwastraffu dynion. Yr ydym wedi bod yn sugno nerth ein hardaloedd gwledig. Y nerth hwnw oedd ein cyfalaf, ac yr ydym wedi bod yn ei afradloni. Mae yn hen bryd i'r genedl wneyd ymdrech mawr, egniol, penderfynol, i'w adgyflenwi."

Ar y syniad hwn y seiliodd ei awgrymiad am development grants—arian a roddir gan y Llywodraeth at ddadblygu adnoddau a chyfleusderau'r wlad. Ebe fe:

"Mae pob erw o dir a ddygir o dan driniaeth, pob erw o dir a wneir i gynyrchu mwy, yn golygu mwy o waith i'r dynion, mwy o fwyd, a bwyd rhatach a rhagorach."

Ond ni chyfyngai ei sylw i'r wlad yn unig. Meddyliai hefyd am y trefi. Gwelai landlordiaeth a'i rhaib yno yn llindagu'r bywyd allan o'r bobl, yn llyffetheirio y gweithfeydd mawr, ac yn gormesu pob ymdrech mewn masnach. Gan gyfeirio at effaith hyn ar dai a iechyd y gweithiwr yn y dref, dywedodd:

"Mae ysbryd rhaib landlordiaeth yn amlycach yn y dref nag yw hyd yn nod yn y wlad. Un canlyniad yw fod tir yn cael ei gadw allan o'r farchnad sydd yn hanfodol er mwyn iechyd y dref. Cyfyngir y tir adeiladu, pentyra'r bobl ar benau eu gilydd mewn tai drudfawr ond digysur. Gymaint iachach a fuasai'r preswylwyr pe y trefnid y trefi ar gynllun eangach, gan ganiatau tir rhesymol i gael gardd at bob ty, lle i'r plant i chwareu, lle i godi llysiau bwyd, a'r cyffelyb.'

Rhoddodd engreifftiau ofnadwy o raib landlordiaeth yn codi crogbris am y tir. Nododd engraifft yn Woolwich, lle yr oedd ystad fechan o 250 erw a gyfrifid yn werth $15,000; ond wedi sefydlu yno weithfeydd i'r Llywodraeth, ac y rhaid adeiladu 5,000 o dai gweith- wyr, cododd pris y tiro $15,000 i ddwy filiwn o bunau (2,000,000p.). Nododd hefyd "Y gors euraidd" darn o dir gwlyb, corsog, rhwng yr afon Lea a'r afon Tafwys; arferid gosod y tir hwn am ddwy bunt yr erw, ond gwerthwyd ef yn awr am 8,000p. (wyth mil o bunau) yr erw. Gofynodd Lloyd George:

"Pwy greodd yr ychwanegiad yna yn ngwerth y tir? Pwy wnaeth y gors euraidd hon? Ai y landlord? Ai ei yni ef a'i gwnaeth yn well? Ai ei ymenydd neu ei ragofal ef? Nage, ond cydweithrediad y bobl sydd a fynont a gwaith a masnach porthladd Llundain, y masnachwr, y perchen llongau, y gweithiwr yn y dociau—pawb ond y landlord ei hun!"

Gwerthwyd darn o dir yn Charing Cross Llundain yn ol dros filiwn o bunau yr erw; a darn yn Cornhill yn ol dwy filiwn a haner o bunau yr erw; a darn arall yn y ddinas yn ol tair miliwn a chwarter o bunau (3,250,000p.) neu dros un filiwn ar bymtheg o ddoleri ($16,000,000) yr erw. Gwerthwyd tir am bedwar ugain punt (neu bedwar can doler) y droedfedd ysgwar. Cyfeiriai at byllau glo Deheudir Cymru, gan ddweyd:

"Derbynia'r landlordiaid yno wyth miliwn o bunau'r flwyddyn mewn royalties. Am beth? Nid hwynthwy osododd y glo yn y ddaear. Pwy a sylfaenodd y mynyddoedd? Ai y landlord? Ac eto wele'r landlord, drwy ryw 'hawl ddwyfol, yn mynu cael toll o wyth miliwn o bunau'r flwyddyn am ddim ond caniatau i'r glowr y ffaír o beryglu ei fywyd wrth dori y glo."

Rhoddodd engreifftiau o gwmniau yn gwario chwarter miliwn o bunau (250,000p.) i agor pwll glo, a methu cael glo yno yn y diwedd. "Pan fethodd arian y cwmni," ebe Lloyd George, "beth wnaeth y landlord? Rhoi'r beiliaid i mewn i gymeryd meddiant o'r eiddo. Un engraifft eto, darn o ddiweddglo ei araeth fawr ar "Doll y Landlord ar Ddiwydiant."

"Pwy a ordeiniodd fod landlordiaid i gael tir Prydain yn fael dygwydd (perquisite)? Pwy a wnaeth ddeng mil o bobl yn berchenogion y ddaear, a'r miliynau eraill o honom sydd yn byw yma yn drespaswyr yn ngwlad ein genedigaeth? Pwy sydd gyfrifol am fod un dosbarth o'r bobl yn gorfod malu ei gorff mewn llafur caled ddyddiau ei oes i enill prin ddigon o fwyd i'w gadw yn fyw, tra dosbarth arall na wna ergyd o waith yn ei fywyd yn derbyn bob awr o'r dydd a'r nos, yn nghwsg ac yn effro, fwy o arian nag a ga ei gymydog tlawd am weithio blwyddyn gron? O ba le y daeth llech y gyfraith yna? Bys pwy a'i hysgrifenodd? Yn yr atebion i'r cwestiynau yna gwelir y perygl i'r trefniant cymdeithasol a gynrychiolir gan yr Arglwyddi, ond ceir ynddynt addewid am ffrwythau adfywiol i enau sychedig y werin sydd wedi bod yn troedio'r ffyrdd llychllyd drwy dywyllwch yr oesau, ond ydynt heddyw yn dod i gyraedd y goleuni."

O fewn y blynyddoedd diweddaf hyn yn unig y gwelwyd Lloyd George yn y cymeriad hwn gan y byd Seisnig. Eithr nid peth newydd yw yn ei hanes. Cof genyf, yn agos i chwarter canrif yn ol, fod Lloyd George, a'i gyfaill mynwesol Mr. Herbert Lewis, A. S., a minau, yn eistedd ddydd ar ol dydd ar y creigiau ysgythrog ar lan y mor heb fod neppell o'i dy, Bryn Awelon, Criccieth, yn siarad, ac yn trin, ac yn dadleu yr holl gwestiynau hyn. Yr oedd Lloyd George y pryd hwnw yn trefnu ymgyrch mawr trwy Gymru benbaladr, ac yn cyd-drefnu i gyhoeddi llenyddiaeth i'r werin er dangos i etholwyr Cymru gymaint y byddai Cymru ar ei mantais o gael Ymreolaeth. Mae y ffigyrau a roddir yn y dyfyniadau uchod wrth gwrs yn wahanol i'r ffigyrau a weithiwyd allan genym ein tri ar yr hir ddyddiau haf hyny, ond mae hanfod yr ymresymiad, ac hyd yn nod y frawddegaeth, yn y dyfyniadau uchod, yn gyffelyb i'r hyn a siaradem y pryd hwnw.

Gwelir mai ar y syniadau a'r golygiadau a draethir yn yr areithiau hyn y sylfaenir polisi cyllidol o ddiwygiad cymdeithasol Lloyd George. Sylweddolodd yn gynar na wnai y feddyginiaeth ddiniwed a geid yn meddygiadur Rhyddfrydiaeth swyddogol nemawr ddim lles i wella'r drwg yn nghyfansoddiad cymdeithasol Prydain. Yr oedd y drwg hwnw fel y canser wedi gyru ei wreiddiau yn rhy ddwfn i'r corff i'w godi ymaith drwy ddefnyddio eli tyner ar y wyneb. Rhaid oedd cael cyllell lem y llawfeddyg beiddgar i dori'r drwg allan o'r cyfansoddiad. Rhaid ar yr un pryd. oedd cynal nerth y claf drwy borthiant maethol a chyffyr cynyrfiol; ac yr oedd yntau yn feddianol ar y medr a'r dewrder angenrheidiol i ddefnyddio'r gyllell felly. Rhaid, ebe fe, i Ryddfrydiaeth gymwyso ei hun i gyfarfod ag amgylchiadau newydd yr oes. Rhaid myned i mewn am blatform o ddiwygiad eang.

Pe ceid gwell amodau byw i'r werin, meddai, gwnelid i ffwrdd a'r segurwyr, y segurwyr diwaith yn un pen, a'r segurwyr cyfoethog yn y pen arall. Fedrai'r wladwriaeth byth gynal y ddau ddosbarth segur hyn, a rhaid cymeryd mesurau i'w dileu. Sylweddolodd, fel y gwnaeth Mr. Chamberlain o'i flaen, mai trwy'r trysorlys y rhaid ymosod ar gastell gorfaeliaeth, a gosod diwygiadau cymdeithasol ar sylfaen gadarn a pharhaol. Ond gwahaniaethai'r ddau am y dull goreu i sicrhau yr arian angenrheidiol. Cofier fod Mr. Chamberlain mor aiddgar a Mr. Lloyd George am gael blwydd-dal i'r hen, a deallai y rhaid cael miliynau lawer o bunau i sicrhau hyny iddynt. Llyncodd Rhyfel De Affrica arian Chamberlain cyn y medrai osod ei law arno; megys a chroen ei ddanedd y diangodd Lloyd. George rhag cyffelyb anffawd, canys pe bae y rhyfel yn Ewrop wedi tori allan cyn pasio'r ddeddf i roi blwydddal i'r hen, buasai yn anmhosibl iddo yntau ei roddi iddynt. Buasai yntau, felly, fel ei ragflaenydd enwog, yn agored i gael ei gyhuddo o dwyllo'r tlawd ag addewidion gau.

Credai Mr. Chamberlain mewn diffyndolliaeth, Mr. Lloyd George mewn masnach rydd. Barnai'r cyntaf mai drwy osod toll ar nwyddau o wledydd tramor y ceid rwyddaf yr arian at wella cyflwr yr hen bobl dlawd. Daliai Lloyd George mai y werin a fyddai raid talu'r tollau yr amcanai Mr. Chamberlain eu codi at y pwrpas, a bod y gweithiwr, druan yn talu digon eisoes at gyllid y deyrnas. Credai mai gosod trethiant trymach ar y cyfoethogion oedd y peth tecaf a goreu i'w wneyd. Gwir ddarfod iddo ddweyd: "Dylynaf unrhyw arweinydd a ddwg i'r werin rawnsypiau Ascalon." Ond nid oes neb a ameua y cadwai Lloyd. George lygad gwyliadwrus ar yr arweinydd, a phe gwelai ef yn gwyro yn ol i gyfeiriad anialwch Sin Diffyndolliaeth, ac i gaethiwed Aifft y deddfau yd, buasai yn ddioed yn chwilio am arweinydd arall, neu yn cymeryd yr arweinyddiaeth ei hun.

Felly, yn ei Gyllideb Fawr, gosododd i lawr yr egwyddorion hanfodol a ganlyn fel sail i'w drethiant:

1. Rhaid i'r trethiant fod o natur helaethol, hyny yw y cyfryw ag a dyfai i gyfarfod a chynydd gofynion y rhaglen gymdeithasol.

2. Rhaid i'r trethiant fod o'r cyfryw natur fel na niweidiai mewn un modd y diwydiant a'r fasnach ydynt yn ffynonell cyfoeth y deyrnas.

3. Rhaid i bob dosbarth gyfranu at y cyllid.

Cymwysodd yr egwyddorion hyn yn ei gyllideb mewn trethi newydd fel a ganlyn:

Treth ar Automobiles a Petrol ... 600,000p
Toll ar Stamps o bob math ... 650,000p
Treth newydd ar y Tir ... 500,000p
Toll ar Etifeddiaethau ... 2,850,000p
Treth yr Incwm ... 3,500,000p
Toll ar Wirodydd ... 1,600,000p
Toll ar Dybaco ... 1,900,000p
Treth ar Drwyddedau Diodydd Meddwol ... 2,600,000p
Cyfanswm y trethi newydd ... 14,200,000p

Dadleuai nad oedd y trethi newydd hyn yn gosod baich o gwbl ar enillion y gweithiwr nac ar angenrheidiau bywyd. Trethi y cyfoethog, yr hyn oedd gan bobl yn ngweddill, moethau bywyd, ydoedd, meddai. Nid oedd yr un o'r trethi newydd, meddai, yn ei gwneyd yn fwy anhawdd cael dau pen y llinyn yn nghyd i neb, a holl amcan y trethiant newydd hyn oedd gwella cyflwr y werin. Dyma sut y darlunia'r angen am hyn:

"Pa beth yw tlodi? A brofasoch ef eich hun? Os naddo, diolchwch i Dduw am arbed i chwi ei ddyoddefaint a'i brofedigaeth. A welsoch chwi eraill yn dyoddef tlodi? Yna gweddiwch ar Dduw i faddeu i chwi os na wnaethoch eich goreu i'w esmwythau. Daw'r dydd pan yr echryda'r wlad hon wrth feddwl ddarfod iddi oddef y pethau hyn a hithau mor gyfoethog. Ar wahan oddiwrth fod hyn yn annynol, ac yn hanfodol annghyfiawn, nid yw amgen na lladrad, atafaelu cyfran deg y gweithiwr o gyfoeth y wlad hon."

Naturiol oedd i'r dosbarthiadau hyny a drethid yn drwm gan ei gyllideb, wingo yn erbyn y symbylau. O'r pedair miliwn ar ddeg o bunau a godai mewn trethi newydd, cymerai wyth miliwn yn uniongyrchol oddiar y cyfoethogion, a dros chwe miliwn oddi ar y landlordiaid. Deuai dros bedair miliwn oddiwrth y diodydd a'r gwirodydd meddwol, ac yn agos i ddwy filiwn oddiwrth yr ysmygwyr. Chwerwodd y cyfoethog, y landlord, y bragwr, a'r darllaw-wr yn aruthr. Dywedodd Arglwydd Rosebery fod Lloyd George yn arfer hen ddull y canoloesoedd o gosbi ei wrthwynebwyr. Desgrifid yr Arglwyddi gan Lloyd George fel yn rhegi fel gwyr ceffylau. Gwawdiai'r Cangellydd y Ducod, a'r Iarllod oeddent yn gwingo yn ngafaelion tyn ei gyllideb. Ebe fe:

"Gofynasom iddynt roi rhyw gardod fechan i gadw'r gweithiwr allan o'r tloty. Gwgant arnom. Pan ofynwn iddynt: 'Rhowch cent i ni, dim ond hyny!' Atebant yn swrth. Y lladron!' A hysiant y cwn arnom, a chlywir y rhai hyny yn cyfarth bob boreu o'r newydd."

Cyfeiriad oedd y frawddeg olaf yn nghylch y "cwn yn cyfarth" at y wasg a reolid gan yr urddasolion hyn, megys y "Times," a'r "Daily Mail." Efe ei hun a gaffai fwyaf o'i ddamnio o neb. Dyma ddywed:

"Troant arnaf gan waeddi: "Y lleidr sut ag wyt ti! Yr wyt yn waeth na lleidr, yr wyt yn gyfreithiwr.' A gwaeth na'r cwbl yr wyt yn Gymro! Dyna'r gair olaf a gwaethaf yn eu difriaeth o honwyf. Wel, nid yw yn ddrwg genyf mai Cymro ydwyf; nid wyf yn ymddiheuro am fod yn Gymro. 'Doedd genyf fi ddim help am hyny—ond mi ddywedaf hyn pe medrwn i newid i beidio bod yn Gymro, wnawn i ddim! 'Rwy'n falch o'r Hen Wlad fach fynyddig. Rhaid iddynt hwythau wynebu'r Cymro y tro hwn!"

Yr amcanion at hyrwyddo y rhai y bwriedid y trethiant newydd oeddent Rhoddion at Ddadblygu Gwelliantau Cyhoeddus; Cyfnewidfeydd Llafur er cael gwaith i rai allan o waith; Yswiriant Cenedlaethol Iechyd; a Blwydd-dal i'r Hen. Yn mhlith y gwelliantau cyhoeddus y ceid rhoddion i'w hyrwyddo yr oedd sefydlu ysgolion mewn coedwigaeth; planu coedwigoedd arbrofiadol; trefnu ffermydd i wneyd arbrofiadau mewn cnydau neillduol; gwella stoc fferm; rhoi addysg mewn ffarmwriaeth; hyrwyddo cydweithiad (co-operation); gwella moddion teithio yn y wlad; adenill tir gwyllt; sefydlu daliadau bychain; a moddion eraill i dynu'r boblogaeth yn ol o'r dref i'r ardal wledig, a thrwy hyny leihau y gwasgu a'r gor-cydymgais am dai ac am waith yn y trefi.

Rhan oedd y Gyfnewidfa Llafur o'r cynllun mawr cenedlaethol i yswirio gweithiwr rhag bod allan o waith. Ffurfiai hyny ran o Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol Iechyd. O dan y ddeddf hono talai'r gweithiwr, a'i gyflogydd, swm bychan bob wythnos at drysorfa'r yswiriant; a phan fyddai dyn allan o waith, cynorthwyai'r Gyfnewidfa ef i gael gwaith drachefn, a derbyniai yntau swm penodol bob wythnos i'w gynal pan allan o waith. Aeth tair miliwn o bunau'r flwyddyn o'r trethi newydd at yr amcan hwn. Dyddorol yw sylwi mai trwy y Gyfnewidfa Llafur y cafodd Lloyd George ganoedd o filoedd o weithwyr y misoedd diweddaf i weithfeydd y Llywodraeth i wneyd cyfarpar rhyfel i gyfarfod a'r Caisar.

Darparai Blwydd-dal yr Hen i roi pum swllt bob wythnos i bawb dros 70 mlwydd oed nad oedd ganddynt foddion eraill cynaliaeth. Ceisid ei wasgu i wneyd yr oed yn 65 yn lle 70, ond gwrthwynebai ar y tir mai gwastraff a fyddai hyny yn gymaint ag y byddai yn rhoi arian i ganoedd o filoedd o bobl nad oedd ei angen arnynt am y medrent weithio tan yn 70 mlwydd oed. Nid oes raid i neb gyfranu tuag at y drysorfa hon fel at drysorfa y diwaith. Telir yr holl arian gan y Llywodraeth drwy y Llythyrdy yn mhob ardal. Deddf Yswiriant Cenedlaethol Iechyd oedd y bwysicaf, a'r anhawddaf i'w phasio o honynt oll. Cyfarfyddodd y mesur hwn a gwrthwynebiad annghymodlawn drwy ei holl yrfa drwy'r ddau Dy. Gosododd Lloyd George bedair egwyddor fawr sylfaenol fel yn hanfodol i'w gynllun, sef:

1. Rhaid i'r cynllun fod yn orfodol ar bawb; hyny yw, ni chai neb ddewis i yswirio neu beidio; rhaid oedd i bawb yswirio.

2. Rhaid i'r dosbarthiadau oedd a fynent a'r yswiriant, oll gyfranu yn uniongyrchol at y drysorfa.

3. Rhaid i'r Wladwriaeth ychwanegu at y cyfraniadau hyn swm digonol i sicrhau y swm angenrheidiol.

4. Rhaid i'r Clybiau a'r Cymdeithasau Cyfeillgar oedd eisoes mewn bod gael eu cefnogi yn hytrach na'u niweidio.

Rhaid oedd o dan y ddeddf hon i bob gweithiwr, a phob cyflogydd, drwy'r deyrnas dalu swm bychan bob wythnos i drysorfa'r yswiriant. Gwnaed hyn drwy osod stamp a geid yn y llythyrdy i'r pwrpas, ar gerdyn pob gweithiwr bob wythnos. Rhaid oedd dangos y cardiau hyn i swyddog y Llywodraeth pa bryd bynag y gofynid am danynt. Cesglid hwynt bob chwarter blwyddyn. Caffai pob gweithiwr yswiriedig wasanaeth meddyg yn rhad ac am ddim yn mhob rhyw glefyd. Os tystiai'r meddyg fod dyn yn analluog, drwy afiechyd neu ddamwain, i ddylyn ei alwedigaeth, caffai swm of arian bob wythnos i'w gynal hyd nes y byddai yn gallu ail ymaflyd yn ei waith. Dyna yn fyr brif ddarpariadau'r ddeddf fawr hon, un o'r rhai pwysicaf er budd y gweithiwr a basiwyd gan unrhyw Senedd erioed.

Eto gwrthwynebwyd y mesur ar bob llaw. Gwrthwynebai'r Sosialwyr am y rhaid i'r gweithiwr gyfranu at y drysorfa; gwrthwynebai'r cyfalafwyr am fod y ddeddf yn orfodol ar y cyflogwr; gwrthwynebai'r feistres am y rhaid iddi hi wlychu'r stamp i'w rhoi ar y cerdyn, a'r forwyn am fod ychydig geiniogau yn cael eu cadw yn ol o'i chyflog; gwrthwynebai y Clybiau a'r Cymdeithasau Cyfeillgar am yr ofnent golli eu haelodau; gwrthwynebai'r meddygon am y collent rai o'u cleifion preifat, gan waeddi "Mawr yw Diana yr Ephesiaid." Cyfarfyddodd Lloyd George a phob un o'i wrthwynebwyr ar ei dir ei hun. Gyda'r meddygon y bu y frwydr waethaf; bygythiodd Undeb y Meddygon fyned ar streic. "O'r goreu," ebe Lloyd George, "ewch a'ch croesaw. Sefydlaf finau Wasanaeth Meddygol Gwladwriaethol; hyny yw, codir a chyflogir gan y Llywodraeth y meddygon angenrheidiol i ofalu am holl gleifion y deyrnas, a phan y ca claf feddyg i weini arno am ddim, pwy fydd mor ffol a thalu i chwi?" Ac ildiodd y doctoriaid. Derbynia miloedd o ddoctoriaid heddyw fwy o dan Ddeddf yr Yswiriant nag a dderbyniasant erioed o'r blaen; a cha pob gweithiwr claf feddyg rhad, a chyfle i orphwys a gwella yn llwyr cyn ail-ymaflyd yn ei waith.

Cyhuddid ef gan rai ei fod yn Sosialydd am ei fod yn pasio mesurau o natur y rhai hyn. Telir heddyw tua deuddeng miliwn o bunau'r flwyddyn yn Flwydddal i'r Hen; dros dair miliwn at gynal gweithwyr allan o waith; dros bedair miliwn i weini i reidiau y gweithiwr pan yn glaf. A chymeryd yr oll, telir, o dan ddeddfwriaeth Lloyd George yn Mhrydain heddyw, dros ugain miliwn o bunau'r flwyddyn er mwyn ysgafnhau baich y gweithiwr a'r tlawd. Pan soniai'r Toriaid am Ddiffyndolliaeth fel meddyginiaeth i dlodi'r deyrnas, dywedodd:

"Yr ydym am alltudio angen am byth o aelwyd y gweithiwr. Yr ydym am yru'r tloty allan o lygad meddwl y gweithiwr. Yr ydym am ysgubo ymaith y bobl a fynant rwystro hyn canys pa beth sydd ganddynt hwy i'w gynyg i'r gweithiwr yn lle y breintiau hyn? Ei orfodi i dalu toll o ddau swllt yn rhagor ar ei fara!"

Ond mewn atebiad i'r cyhuddiad ei fod yn Sosialydd, gellir dyfynu a ganlyn o un o'i areithiau yn Nghymru:

"Ofna rhai y mudiad Llafur, hyny yw, Plaid Annibynol Llafur. Gallaf ddweyd wrth Ryddfrydwyr y ffordd i wneyd Plaid Annibynol Llafur yn fudiad mor gryf nes yr ysguba Rhyddfrydiaeth ymaith yn mhlith pethau eraill. Os ar ol dal swydd am nifer o flynyddoedd y ceir fod Llywodraeth Ryddfrydol heb wneyd dim i gyfarfod ag angenion cymdeithasol y bobl heb wneyd dim i symud ymaith y gwarthrudd cenedlaethol o weled slums, a thlodi, ac angen mewn gwlad sy'n dysgleirio gan gyfoeth; os bydd y Llywodraeth hono ag ofn ymosod ar y drygau ydynt yn achos yr holl drueni hyn, ac yn arbenig y fasnach feddwol a chyfundrefn y tir; ei bod heb roi atalfa ar y gwastraff of adnoddau'r genedl wrth dreulio yn ddiraid ar arfau rhyfel; os na ofalant am foddion cynaliaeth i hen bobl; os caniatant i Dy'r Arglwyddi dynu pob da allan o bob mesur diwyg- iadol, yna y cyfyd gwaedd drwy'r deyrnas am greu plaid newydd, ac ymunai llawer o honom ninau yn y waedd hono."

Ond nid oes ofn Plaid Llafur ar Lloyd George, ac yn enwedig Plaid Llafur yn Nghymru. "Nid yw Plaid Llafur yn peryglu dim ar Genedlaetholdeb Cymreig," ebe efe. Mae un o bob pump o aelodau Seneddol. Cymru heddyw yn aelodau Llafur, a thebyg yw y bydd mwy yn y dyfodol. Ond gwawdia Lloyd George y syniad y geill Sosialaeth lwyddo os bydd Rhyddfrydwyr yn gall. Ebe fe:

"Ni eill un blaid obeithio enill y dydd yn y wlad hon os na cha ymddiriedaeth y dosbarth canol. Ni ellir gwneyd Sosialwyr ar frys o ffermwyr, a siopwyr, a doctoriaid y wlad hon; ond gellwch ddychrynu'r dosbarthiadau hyn a'u gyru felly i wersyll eich gwrthwynebwyr. Cynorthwyant ni yn awr i sicrhau deddfwriaeth o blaid Llafur; cynorthwyant ni yn nes yn mlaen i ddiwygio deddfau'r tir, a mesurau eraill er budd y werin sy'n gweithio. Hyd yn hyn, nid oes yr un ymgais gyfundrefnol wedi cael ei gwneyd i wrthweithio cenadaeth y Sosialwyr yn mhlith y gweithwyr. Pan wneir y cyfryw ymgais cewch weled y cefnogir chwi gan weithwyr y wlad. A ydych mor ffol a meddwl y gwelir yn ein dydd ni awdurdod a fyn drwy orfodaeth genedlaetholi y tir, a'r rheilffyrdd, y glofeydd, y chwareli, y ffatrioedd, y gweithdai, yr ystordai, a'r siopau?"

Mae llai na naw mlynedd er pan draddododd Lloyd. George yr araeth yna. Erbyn heddyw mae Caisar Germani wedi sylweddoli i raddau pell freuddwyd y Sosialydd yn Mhrydain, drwy orfodi Lloyd George i fod yn offeryn yn llaw'r Llywodraeth bresenol i wneyd. yr hyn a dybiai efe naw mlynedd yn ol oedd yn anmhosibl.

PENOD X.

GWEINIDOG CYFARPAR.

YN mhlith holl gyfnewidiadau mawr a rhyfedd ei yrfa, nid oes yr un wedi taro meddwl y cyhoedd yn fwy syn na gweled Apostol Heddwch 1900 yn ymdrawsffurfio i fod yn Weinidog Cyfarpar Rhyfel yn 1915. I bob ymddangosiad, efe o bawb oedd y mwyaf annhebyg o weinidogion y Goron i gael ei alw i gyflenwi byddin Prydain ag angenrheidiau rhyfel, a'r mwyaf annghymwys o bawb at y gwaith. Yr oedd wedi cael ei godi o'r cryd i fod yn Apostol Heddwch. Efengyl heddwch a bregethasai ar hyd ei oes; yn y Cabinet efe oedd gwrthwynebydd mwyaf penderfynol pob ymgais i ychwanegu'r draul ar arfogaeth y genedl. Saith mis cyn dechreu y Rhyfel, bu yn mron iddo syrthio allan a'i gyd-weinidogion, os nad bygwth ymddiswyddo, ar gwestiwn y treuliau hyn, i'r rhai yr oedd mor annghymodlawn wrthwynebol. Ei unig gysylltiad a'r fyddin oedd ei fod wedi gwasanaethu fel gwirfoddolwr am un haf pan yn llanc ieuanc.

Ond cymhlethiant rhyfedd o annghysonderau yw ac a fu Lloyd George ar gwestiwn rhyfel. Ymladdai yn erbyn rhyfel; am hyny bu yn mron iddo gael ei groeshoelio bymtheng mlynedd yn ol. Melldithid ef gan "y rhai sydd dda ganddynt ryfel." Heddyw mae yn gymaint eilun gan y "Jingoes" ag yw Syr John French, ac yn fwy o dduw i'r "Yellow Press" nag yw Arglwydd Kitchener. Pan ymwelodd y Caisar a Phrydain rai blynyddoedd yn ol, aeth allan o'i ffordd i dalu sylw i Lloyd George; heddyw cyfrifa'r Caisar y Cymro a anwyd mewn coty fel ei elyn penaf yma yn y byd.

Dysgodd lawer yn Germani ac oddiwrth Germani. Yno y bu yn astudio problemau blwydd-dal i'r hen, ac yswiriant cenedlaethol; ac eto, er treulio o hono amser yn ngwlad y Caisar, ni welodd ddim o barotoadau aruthrol Germani ar gyfer y rhyfel presenol. Daeth yn ei ol i Brydain yn fwy sicr nag erioed yn ei feddwl mai gwlad yn caru heddwch oedd Germani, ac nad oedd angen i Brydain i ychwanegu dim at ei harfogaeth rhag ofn rhyfel a'r wlad hono byth. Credai yn ddiysgog mai cenadaeth ac amcan mawr Germani yn y byd oedd lledaeniad ei masnach, a bod parhad heddwch rhwng gwledydd daear yn anhebgorol angenrheidiol i hyny. Wedi dod yn ol i'r Senedd, gwawdiai Lloyd. George yno rybuddion difrifol a pharhaus gwr mor bwyllog a Mr. Balfour, yr hwn a ddaliai o hyd fod y Caisar yn parotoi ac yn cynllunio rhyfel, ac mai unig ddyogelwch Prydain oedd parotoi i'w gyfarfod. Ni fynai Lloyd George dderbyn y cyfryw heresi, yr oedd ei ffydd yn mwriadau heddychol y Caisar mor ddiysgog y pryd hwnw ag oedd ffydd yr Arlywydd Wilson yn nhirionwch trugarog y Caisar pan suddwyd y Lusitania.

Parhaodd i siarad yn gryf dros beidio chwyddo trefniadau arfogaeth Prydain, yn mron yn ddibaid o 1908 hyd o fewn ychydig iawn o amser i'r adeg pan y dechreuodd Germani ei rhuthr ofnadwy yn erbyn heddwch y byd. Mynai dynion llygadgraff eraill heb law Mr. Balfour weled y cwmwl du yn codi dros ffurfafen heddwch, ac er nad oedd y pryd hwnw ond megys cledr llaw gwr ar y gorwel yn Germani, credent mai lledu a wnai nes taflu ei gysgod dros holl Ewrop, ac y torai yn genllysg tan drwy'r byd. Dywedai Arglwydd Faer Llundain yn 1909, mai dyledswydd Prydain oedd. "gwneuthur ei hun fel gwr cryf arfog gan nad beth a fyddai'r gost." Y pryd hwnw, yr oedd lefiathan cyntaf y llongau rhyfel, y Drednot, newydd gael ei ddyfeisio. Yn ei araeth ar y Gyllideb y flwyddyn hono, dangosodd Lloyd George y buasai adeiladu dwy Drednot yn golygu ceiniog y bunt yn ychwanegol ar dreth yr Incwm bob blwyddyn am y ddwy flynedd a gymerent i'w hadeiladu. Buasai adeiladu wyth drednot, fel y gwaeddai y wlad am wneyd, yn golygu ychwanegu grot y bunt at y dreth. Ebe fe yn yr araeth hono:

"Gweithred o wallgofrwydd pechadurus yn fy nhyb i a fyddai taflu ymaith wyth miliwn o bunau (yr hyn a gostiai pedair Drednot) i adeiladu llynges enfawr ddiraid i gyfarfod a rhyw lynges ffugiol nad oes iddi fodolaeth, a hyny pan fo arnom gymaint o angen yr arian at ddybenion eraill. Er mai gwlad gyfoethog yw Prydain nis gall fforddio adeiladu llynges yn erbyn hunllef. Mae yn waith rhy ddrudfawr o lawer. Buasai taflu ymaith filiynau o bunau pan nad oes dim yn galw am hyny, yn ddim amgen nag afradloni ein cyfoeth a lleihau ein hadnoddau pan ddaw gwir angen am danynt."

Ond yn anffodus proffwyd gau ydoedd y pryd hwnw. Erbyn hyn mae y "llynges ffugiol" wedi gwisgo llun materol, a'r "hunllef" wedi dod yn berygl

byd. Gwir fod llynges Prydain wedi llwyddo i gadw llynges Germani yn y cyffion yn nghamlas Kiel ac yn Wilhelmshaven, ond y Drednots na fynai efe dreulio arian i'w hadeiladu, sydd wedi cadw y gelyn o dan glo hyd y dydd hwn.

Fel mater o degwch a Lloyd George, dylid nodi dwy ffaith bwysig yn y cysylltiad hwn. Y cyntaf yw, ei fod yn gydwybodol argyhoeddedig nad oedd dim i'w ofni oddiwrth Germani. Nid oes neb yn ameu y buasai y pryd hwnw mor barod a neb i gymeryd pob mesur angenrheidiol i wrthsefyll Germani, pe y credasai fod perygl. Yn yr un araeth ag a ddyfynwyd o honi eisoes, dywedai:

"Mae pawb o honom yn gwerthfawrogi y ffaith fod y wlad hon wedi ac yn mwynhau dyogelwch rhag erchyllderau goresgyniad gan y gelyn, gymaint fel na fynem beryglu y dyogelwch hwnw o eisieu rhagbarotoi mewn pryd. Am ein bod wedi diane cyhyd yr ydym wedi gallu ychwanegu cymaint at ein cyfoeth cenedlaethol. Golyga'n dyogelwch hwn sicrwydd diymod ein rhyddid a'n hannibyniaeth cenedlaethol. Ein safle ddyogel ni fel gwlad a fu lawer pryd yn unig ddyogelwch hawliau gwerin Ewrop pan y'u bygythid. Nid yw yn ein bwriad i beryglu dim ar uchafiaeth Prydain ar y mor; mae yr uchafiaeth hono yn anhebgorol i'n bodolaeth ni fel cenedl, ac i fuddianau hanfodol gwareiddiad."

Yn y brawddegau yna dengys y dyn fel y mae heddyw, yn mlaenaf yn mhlith gwladweinwyr Prydain yn ymladd dros hawliau dynoliaeth, ac yn gwneyd llynges Prydain yn amddiffynfa, ie, i'r Unol Dalaethau, yn erbyn llifeiriant cynddaredd kultur barbaraidd Germani yn ei rhaib gwallgof am lywodraethu'r byd i gyd.

Ond er hyn oll, yr oedd yn mhen blwyddyn wed'yn, yn 1910, yn condemnio mor ddiarbed ag erioed y cyd-ymgais i arfogi. Dywedai fod gwledydd y byd yn gwario 450 miliwn o bunau bob blwyddyn ar arfau dinystriol. Heddyw, yn mhen pum mlynedd ar ol traddodi'r araeth hono, mae y Cabinet o'r hwn y mae ef yn un o'r ddau aelod mwyaf eu dylanwad, yn gwario, ar ran arfogaeth Prydain yn unig, gymaint dair gwaith ag ydoedd holl wledydd daear gyda'u gilydd yn wario pan y traddododd yr araeth yn condemnio hyny.

Y ffaith arall y dylid gadw mewn cof yw, ddarfod iddo yn mhen blwyddyn arall—yn 1911—draddodi araeth fu yn mron bod yn achlysur rhyfel rhwng Prydain a Germani. Ni welwyd nemawr erioed well engraifft o watwareg ffawd nag a welwyd pan osodwyd Lloyd George, apostol heddwch, cyfaill y Caisar, y gwr yr oedd ei ffydd mor gref yn amcanion diniwed ac heddychol Germani, i siarad ar ran cabinet Prydain i fygwth rhyfel yn erbyn Germani!

Achlysur hyn oedd yr hyn a adwaenir fel "Helynt Agadir." Porthladd yw Agadir yn Moroco, Gogledd Affrica. Yn y wlad hono yr oedd cydgystadleuaeth fasnachol rhwng Germani, Ffrainc, a'r Ysbaen. Er na feddai Prydain fodfedd o dir yno, yr oedd cryn lawer o fasnach ganddi yn y wlad, a hawliai felly lais mewn unrhyw ad-drefniant gwleidyddol a fynai gwledydd Ewrop wneyd yn Moroco. Amlygodd Germani fwriad i ddanfon llong rhyfel i Agadir er mwyn "dyogelu buddianau Germani." Gwyddai pawb beth allasai fod canlyniad danfon llong rhyfel Germani i borthladd a dybid yn eiddo Ffrainc; buasai yn sicr o olygu gwrthdarawiad buan rhwng Germani a Ffrainc. Heblaw hyny, golygai fod Germani yn bwriadu anwybyddu Prydain mor llwyr ag yr anwybyddwyd yr Unol Dalaethau gan y Caisar yn ei fradlofruddiaeth ar y mor. O dan yr amgylchiadau hyny gosododd y Cabinet Lloyd George i draddodi araeth ar y pwnc yn ngwledd Arglwydd Faer Llundain. Ebe fe:

"Mae yn hanfodol angenrheidiol, nid yn unig er mwyn Prydain ei hun, ond hefyd er mwyn buddianau goreu'r byd, i Brydain fynu cadw ei safle a'i dylanwad yn mhlith Galluoedd Mawr y byd. Bu y dylanwad hwnw lawer tro yn y gorphenol, a geill fod eto yn yr amser a ddaw, yn anmhrisiadwy i hawliau dynoliaeth. Mwy nag unwaith cadwodd gallu Prydain rai o genedloedd Ewrop rhag trychinebau. arswydus, ac hyd yn nod rhag difodiant cenedlaethol. Gwnawn lawer o aberth er mwyn cadw heddwch, ond pe y gwthid ni i'r cyfryw sefyllfa fel na byddai yn bosibl cadw heddwch ond ar draul ildio o honom y safle o gymwynaswr a enillodd Prydain drwy ganrifoedd o ymdrech arwrol, ac ar draul caniatau i eraill ein hanwybyddu fel gwlad nad yw yn werth ei chyfrif yn nghabinet cenedloedd byd, yna, dywedaf yn bendant a chroew, na fedrem fel gwlad dalu pris mor warthus a darostyngol hyd yn nod am heddwch. Nid cwestiwn plaid yw anrhydedd y genedl. Bydd heddwch y byd yn llawer fwy tebyg o gael ei ddyogelu os sylweddola'r cenedloedd beth y rhaid i amodau yr heddwch hyny fod."

Dyna osod safle gwlad a chenedl fel noddwr hawliau dynoliaeth a gwareiddiad, mewn goleu clir a digamsyniol. Gwelir hwynt heddyw yn dysgleirio er anrhydedd Prydain oesau'r ddaear yn ngoleuni rhuddgoch fflamau y rhyfel mwyaf erchyll a welodd y byd erioed. Buasai mor rhwydd i Brydain, ag y bu i America, gadw allan o'r rhyfel yn Ewrop. Ond, fel y dywedodd Lloyd George, buasai hyny yn golygu talu pris mor fawr yn narostyngiad gwaradwyddus y genedl Brydeinig yn llygaid byd gwareiddiedig, fel na fedrai Prydain, na'i Llywodraeth ddychymygu am ei oddef.

Gwelir nad oes yn yr araeth a ddyfynwyd air o son am Germani na Moroco, nac, ar y wyneb, unrhyw gyfeiriad uniongyrchol at y naill na'r llall, ond rhyw siarad wrth y post er mwyn i'r llidiard gael clywed ydoedd. Clywodd y Caisar, a deallodd. Deallodd Ffrainc, a'r Ysbaen, a phob gwlad arall beth oedd gwir ystyr geiriau ymddangosiadol ddiniwed Lloyd George. Golygent, a deallodd pawb eu bod yn golygu, yr ai Prydain i ryfel yn erbyn Germani cyn y caniateid ganddi i Germani anwybyddu Prydain na pheryglu hawliau cenedloedd eraill. Am rai dyddiau bu yr argyfwng yn un peryglus, a'r amser yn bryderus. Yr oedd Prydain mor anmharod i ryfel yn 1911 ag ydoedd yn 1914, ac mor anmharod ag ydoedd Unol Dalaethau yr America pan dorodd y rhyfel allan yn Ewrop, ond cyffrodd a deffrodd yr holl wlad. Yn y dyddiau cyntaf ar ol araeth Lloyd George yr oedd Prydain yn brysur ymbarotoi i ryfel; rhoddwyd gorchymyn i'r holl fyddin a'r tiriogaethwyr i fod yn barod. Dysgwylid y buasai. llynges Germani yn gwneyd rhuthr sydyn ar lanau dwyreiniol Lloegr. Gyrwyd corff cryf o filwyr i wylio'r glanau hyny. Dengys yr hyn a gymerodd le wedi hyny yn Belgium a Ffrainc y buasai unrhyw fyddin y medrai Prydain ei gosod ar y maes mewn amser mor fyr yn hollol annigonol i gyfarfod a llengoedd creulawn Germani. Eto ni phetrusodd neb. Cefnogid. araeth filwriaethus Lloyd George gan gydwybod, a chalon, ac ysbryd y deyrnas.

Unig wir ddyogelwch Prydain yn y dyddiau bygythiol hyny oedd ei llynges—y llynges yr oedd Lloyd George ei hun flwyddyn cyn hyny mor anfoddlawn i wario arian i'w pherffeithio a'i chryfhau. Ond nid oedd parotoadau Germani wedi eu gorphen yn 1911. Gwir ei bod yn llawer mwy parod nag ydoedd Prydain, gan fod y drindod mawr Germanaidd—y Caisar, a Krupp, a Von Tirpitz—wedi bod yn gweithio yn egniol am lawer blwyddyn faith i barotoi byddin a llynges, a chyflegrau, a chyfarpar, o bob math, ond nid oedd y trefniadau wedi eu llwyr orphen, na Germani mewn canlyniad yn hollol barod i daro yr ergyd yn 1911. Felly swatiodd Germani. Ni ddanfonwyd yr un llong rhyfel ganddi i Agadir, a gohiriwyd dydd. cyhoeddi rhyfel.

Testyn syndod i bawb erbyn hyn yw, sut y medrodd Cabinet Prydain barhau mor ddiofal ar ol araeth Lloyd George yn 1911, canys diofal a fu. Wedi i ystorm Agadir chwythu heibio, syrthiodd pob peth yn ol i'r un cyflwr o ddifaterwch ag o'r blaen. Y canlyniad oedd pan gyhoeddwyd rhyfel yn Awst, 1914, yn erbyn Germani, yr oedd Prydain mor anmharod ag ydoedd. yn 1911. Byddin fechan oedd byddin Prydain yn Awst, 1914; "contemptible little Army" y galwodd y Caisar hi pan feiddiodd sefyll ar draws llwybr ei lengoedd arfog a dirif ar wastadeddau Belgium anrheithiedig. Nid oedd y Tiriogaethwyr, a godwyd drwy ragofal a rhagwelediad Arglwydd Haldane, wedi arogli powdwr, na gweled gwaed dyn yn llifo erioed. Yr oedd glanau Prydain o fewn cyraedd ergyd i allu mawr Germani, eto ni phetrusodd y wlad, na'r genedl, na'r Llywodraeth, am foment.

Adgofiaf yma ffaith ddyddorol na chyhoeddwyd mo honi o'r blaen, ond y bydd yn dda gan Gymry'r America ei gwybod. Teifl oleuni ar wir reswm Prydain dros fyned i ryfel yn erbyn Germani. Mae y rheswm wedi cael ei gyhoeddi ganwaith, ond dichon y dealla Cymry'r America ysbryd eu cydwladwyr yn Nghymru yn well yn ngoleuni'r ffaith wyf yn awr yn gofnodi. Dylai fod yn ysbrydoliaeth i'r neb a'i darlleno.

Boreu Sul, Awst 2, 1914, daeth Prydain i wybod fod rhyfel wedi cael ei gyhoeddi rhwng Germani a Ffrainc, a rhwng Germani a Rwsia. Daeth cenadwri i bob capel Ymneillduol yn nhref Caernarfon y boreu hwnw am gyhoeddi cyfarfod o'r trefwyr yn neuadd y dref i'w gynal y nos Sul hwnw. Daeth torf yn nghyd. Deallwyd fod Mr. Lloyd George yn y Cabinet, yn gwrthwynebu a'i holl egni yr adran o'i gydaelodau oeddent am i Brydain hefyd gymeryd rhan yn y rhyfel. Dyna hefyd oedd safle'r cyfarfod yn Nghaernarfon, a safle Cymru benbaladr y nos Sul hwnw; cafwyd amryw areithiau yn dangos beth fyddai canlyniadau alaethus y rhyfel i ni pe cymerai Prydain ran ynddo. Yr oedd y cyfarfod yn unfrydol ar y pwnc. Pasiwyd penderfyniad yn galw ar y Cabinet i ymgadw rhag cymeryd rhan yn y rhyfel. Pellebrwyd hwnw i'r Cabinet, a dygwyd yr un penderfyniad ger bron y gynulleidfa yn mhob capel yn y dref y noson hono, a phasiwyd ef yn unfrydol ganddynt oll. Pellebrwyd y penderfyniadau hyny drachefn yr un noson i'r Cabinet, ac i Lloyd George. Aeth pawb i orphwys y noson hono yn esmwyth eu meddwl ac yn dawel eu cydwybod.

Dranoeth daeth y newydd fod Germani wedi tori ei hymrwymiad i barchu annibyniaeth Belgium, ac wedi treisio y wlad fechan ddiamddiffyn hono. Yn y man trodd Prydain, a Chymru oll, y bobl a bleidleisiasant nos Sul yn crefu ar y Cabinet i ymgadw rhag dwyn Prydain i drobwll gwaedlyd rhyfel Ewrop, oeddent yn awr, wedi gweled trais Germani ar Belgium, yn gwaeddi yn groch ac yn unllais am i'r Cabinet gyhoeddi rhyfel yn erbyn Germani. A hyny a wnaed!

Heddyw, pan mae dros haner miliwn (500,000) o ieuenctyd goreu Prydain wedi cael eu lladd, neu eu clwyfo, neu eu carcharu, yn y rhyfel ofnadwy hwn, ni cheir nemawr neb, hyd yn nod yn Nghymru heddychlawn, yn edifarhau ddarfod i Brydain sefyll i fyny dros hawliau dynoliaeth a gwareiddiad yn erbyn gallu mwyaf gormesol a llygredig yr oesoedd. Ac nid yn unig yn Mhrydain, ond yn ei holl diriogaethau tu draw i'r mor, yn Canada, De Affrica, India, Awstralia, New Zealand, yn mhob man lle ceid deiliaid Prydain, ceid cyffelyb ysbryd, cyffelyb barodrwydd i anturio ac i aberthu pob peth er mwyn amddiffyn cam y gwan, cadw yn fyw genedloedd bychain Ewrop, a dyogelu hawliau dynoliaeth ac anrhydedd gwareiddiad y byd.

Ac o holl adranau teyrnas ac ymerodraeth eang Prydain, ni cheid yr un yn barotach i aberthu na Chymru wen. Dyma'r genedl fwyaf heddychlawn ar wyneb daear. Nid casach rhyfel gan neb na chan genedl y Cymry, ond wele, am y tro cyntaf er's canrifoedd bellach, fyddin Gymreig, a'i chadfridogion a'i swyddogion oll yn Gymry o waed, o galon, ac o dafod.

Un dydd aeth Cymro o sir Fon, Owen Thomas, mab y Neuadd, Cemaes, Mon, i fyny i Lundain i ymweled a Lloyd George. Mab fferm oedd Owen Thomas, wedi bod yn dal yr aradr, a'r bladur, a'r cryman, ei hun; Ymneillduwr o'i febyd, ei daid yn weinidog gyda'r Annibynwyr, ac yntau ei hun yn ddiacon gyda'r Annibynwyr yn nghapel bach Llanfechell, Mon. Yr oedd wedi llwyddo yn y byd, drwy ymdrech, dyfalwch, gallu, a ffyddlondeb. Adeg rhyfel De Affrica cododd gorfflu o feibion a gweision ffermydd Mon, ac enillodd ef a hwythau glod ac anrhydedd yn y rhyfel. Ar ddiwedd y rhyfel, gwnaeth wasanaeth mawr drwy ddadblygu adnoddau amaethyddol talaeth eang yn Ne Affrica. Cyn dechreu rhyfel Ewrop cydnabyddid ef fel un o awdurdodau blaenaf yr Ymerodraeth ar gwestiynau tir ac amaethyddiaeth. Dyna'r gwr aeth i fyny o sir Fon i weled Lloyd George yn Llundain pan dorodd y rhyfel allan yn Ewrop ac y daeth gwaedd drwy'r tir am fechgyn i'r fyddin. Gosododd Owen Thomas y mater oedd ganddo gerbron Lloyd George. Yna aeth y ddau i'r Swyddfa Rhyfel at Arglwydd Kitchener, gan drefnu eu mater eill dau ger ei fron. Daeth Cyrnol Owen Thomas allan o'r Swyddfa Rhyfel yn Faeslywydd (General) Owen Thomas, gydag awdurdod i godi byddin Gymreig—y fyddin wir a gwahanfodol Gymreig gyntaf a welwyd er y dydd yr arweiniodd Syr Rhys ap Thomas, wyr Myrddin, Brycheiniog, a Cheredigion i Faes Bosworth, ac y gosododd yr hen Gymro o Abermarlais goron Lloegr ar ben Harri Tudur, y Cymro o Ben Mynydd, Mon, a adwaenir heddyw mewn hanes fel y Brenin Harri VII.

Wedi cael yr hawl i godi byddin o Gymry, ymdaflodd Lloyd George ac Owen Thomas i'r gwaith. Atebwyd eu gwaedd mor aiddgar gan fechgyn Cymru ag yr atebodd cyndeidiau y rhai hyny ganrifoedd yn ol alwad Owen Glyndwr. Er's misoedd rhifa byddin Cymru yn unig fwy o filwyr nag oedd rhif holl fyddin Prydain ymladdodd o dan Wellington yn Waterloo. Enillodd catrodau o honynt glod anfarwol am wrhydri dihafal yn Ffrainc a'r Dardanels. Yna creodd y Brenin Sior V. gorff o "Welsh Guards," y cyntaf erioed mewn hanes. Yr oedd English, Scotch, ac Irish Guards o'r blaen, ond dyma'r Welsh Guards cyntaf, a'r Brenin ei hun yw eu Cyrnol a'u penaeth. Yna drwy orchymyn pendant Swyddfa Rhyfel, gosodwyd yr Iaith Gymraeg yn iaith gydnabyddedig Byddin Cymru.

Ymrestrodd mwy o fechgyn Cymru, mewn cyfartaledd i'r boblogaeth, nag a wnaeth o feibion unrhyw genedl arall yn yr Ymerodraeth, a heddyw, wele'r Maeslywydd Owen Thomas yn codi ail Fyddin Cymru, ac yn gyru allan apel at ei gydgenedl sydd wedi gwefreiddio'r wlad. Yr wythnos hon (yr wythnos gyntaf yn Rhagfyr, 1915), bydd Mr. a Mrs. Lloyd George yn ymweled ag adran fawr o Fyddin Cymru cyn myned o honi allan i faes y gwaed, ac yn mhlith y rhai y ffarwelia Lloyd George a hwy bydd ei ddau fab, y Cadben Richard Lloyd George, a'r Is-gadben Gwilym Lloyd George.

Dywedwyd eisoes fod Prydain yn anmharod i ryfel pan ddechreuodd Germani ar ei galanastra yn Ewrop. Dau can mil (200,000) o filwyr oedd Prydain wedi ymrwymo i'w danfon i'r Cyfandir—ac yr oedd hyny yn fwy nag a yrwyd o Brydain i wlad dramor erioed o'r blaen. Erbyn heddyw mae'r "fechan wedi myned yn fil, a'r wael yn genedl gref." Erbyn y gwanwyn nesaf bydd Cymru fach ei hunan wedi codi mwy o filwyr nag a fwriadai Ymerodraeth Prydain Fawr oll ar y dechreu eu gyru i'r rhyfel. Cyn dechreu'r haf nesaf bydd ugain o filwyr gan Brydain am bob un oedd hi wedi addaw. Yn lle dau can mil (200,000) rhifa byddin Prydain heddyw dros dair miliwn (3,000,000); erbyn dechreu'r haf nesaf, bydd dros bedair miliwn (4,000,000), heb gyfrif y rhai fydd wedi cael eu lladd, eu clwyfo, neu eu carcharu cyn hyny.

Dyry y ffigyrau hyn ryw syniad gwan o aruthredd y gwaith o barotoi cyfarpar rhyfel iddynt oll. Gwaith rhwydd oedd cyflenwi rheidiau dau can mil; gwaith aruthrol oedd cyflenwi rheidiau pedair miliwn mewn bwyd, dillad, arfau, a chyfarpar o bob math. Gwelodd y Cabinet y rhaid gwneyd darpariaeth arbenig at gyfarfod a'r angen mawr, newydd, annysgwyliadwy hyn. Penderfynwyd felly sefydlu "Gweinyddiaeth Cyfarpar" (Ministry of Munitions). Rhaid oedd cael yn benaeth i'r adran newydd wr o yni, ac o benderfyniad, a fedrai ysbrydoli dynion i weithio a'u holl egni, a'r Cymro Lloyd George a ddewiswyd i'r gwaith mawr a rheidiol hyn—y nesaf mewn pwysigrwydd mewn cysylltiad a'r rhyfel i swydd Arglwydd Kitchener ei hun.

Ymneillduodd felly o Gangelloriaeth y Trysorlys, ac ymdaflodd a'i holl nerth a'i holl enaid i'r gwaith newydd. Yr oedd busnes cyfarpar Prydain fel gwyneb y ddaear yn moreuddydd creadigaeth, "yn afluniaidd a gwag." Gwaith cyntaf Lloyd George oedd cael pethau i drefn, a gwaith oedd hwnw fuasai yn tori calon gwr llai penderfynol. Rhaid oedd ymgodymu a phob rhyw fath o rwystrau, a'u gorchfygu oll. Yr oedd eiddigedd yn codi ei phen ac yn chwythu fel neidr; yr oedd priodelw cyflogwyr a marsiandiwyr ar y naill law, a rhagfarn a drwgdybiaeth y gweithiwr ar y llaw arall, yn noethu danedd yn fygythiol; a'r fasnach feddwol fel llew rhuadwy yn barod i'w larpio, canys yr oedd ei waith newydd yn cyffwrdd a buddianau y rhai hyn oll. Yr oedd Adran Cadoffer (Ordinance Department) mewn bod eisoes, a chan yr adran hono ei gwaith, a'i swyddogion ei hun. Ymyrai adran newydd Lloyd George yn uniongyrchol a hono. Aeth yn ymgodymu, a'r wythnos hon, ar ol misoedd o ymdrech, daw yr "Ordinance Department" o'r diwedd o dan lywodraeth y "Ministry of Munitions."

Cyffrodd y swydd newydd waelodion dyfnaf a chwerwaf cweryl diorphwys cyfalaf a llafur. Yn Mhrydain fel yn yr America, myn cyfalaf gael llafur rhad os medr; myn llafur ar y llaw arall well cyflog a gwell amodau gwaith. Gymaint oedd angen ein byddin fawr am gyfarpar o bob math, fel y galwai yr angen hwnw am i bob gweithdy droi allan bob dydd gymaint byth ag oedd yn bosibl. Milwriai rheolau Undebau Llafur drachefn yn uniongyrchol yn erbyn hyny. Tuedd rheolau Undebau Llafur yw lleihau swm cynyrch gweithdy yn hytrach na'i chwyddo. Galwai angen y deyrnas am roi gwaith i bob dyn a dynes y gellid cael lle iddynt yn y gweithdai; gwaharddai rheolau Undebau Llafur gyflogi neb na fyddai yn aelod o'r Undeb. Dyna ran o'r problem a wynebai Lloyd George yn ei swydd newydd. Hyd yma cyfrifid ef bob amser o du'r gweithiwr; yr oedd pob araeth gyhoeddus o'i eiddo a gyffyrddai a chwestiwn cyfalaf a llafur, yn dangos yn glir fod ei gydymdeimlad gyda'r gweithiwr. Ond yn awr, yn ei araeth gyntaf ar y cwestiwn of gyflenwi angen y fyddin, dywedodd:

"Gallai'r gweithwyr yn rhwydd ddigon droi allan o leiaf 25 y cant yn rhagor o gynyrch o'r gweithdai nag a wnant; gallant gyflenwi hyny yn rhagor o bob cyfarpar rhyfel os ymryddhant yn awr ar adeg rhyfel, o'r arferion a'u llywodraethant yn amser heddwch."

Diameu ei fod yn dweyd y gwir, ond gwir chwerw ydoedd, a gwir oedd yn myned hyd at wraidd holl egwyddorion Undebau Llafur. Holl amcan Undeb Llafur yw amddiffyn y gwan. Byddin fawr yw gweithwyr gwlad, a byddin ddysgybledig yw lle bo Undebau Llafur teilwng o'r enw. Pan fo byddin o filwyr yn teithio, rheolir cyflymder y daith yn ol gallu y gwanaf a'r eiddilaf yn mhlith y llwythau. Pe symudai byddin ar ei thaith yn ol gallu y cryfaf a'r cyflymaf, buan y gadewid haner y fyddin ar ol. Nid yw byddin byth yn gadael ei gweiniaid ar ol ond pan naill ai yn rhuthro i ymosod ar y gelyn neu pan yn ffoi oddiwrtho. Felly am swyddogion byddin llafur; gwahardda eu rheolau i'r gweithiwr da a chyflym droi allan yr holl waith y medr ef wneyd; rhaid rheoli cyflymdra ei waith ef wrth fedr cyfangorff ei gydweithwyr. Mae hyn yn wir am bob cylch o waith a reolir gan Undeb Llafur.

Gwelai Lloyd George felly ddwylaw'r gweithiwr wedi eu rhwymo, fel na chaffai'r dyn, hyd yn nod pe y dymunai hyny, wneyd cymaint o waith ag a fedrai, er fod ei frodyr ar faes y gwaed yn cael eu lladd wrth y miloedd o ddiffyg y pethau y medrai'r gweithiwr gartref eu troi allan pe rhoddai ei holl egni ar waith. Byddai dyn cyffredin yn tori ei galon pe caffai ei hun wyneb yn wyneb a'r fath graig rwystr. Eithr nid felly Lloyd George. Fel arfer, aeth at wraidd y drwg. Apeliodd at yr Undebau Llafur am roi o'r neilldu, tan ddiwedd y rhyfel, y rheolau a gaethiwent ryddid y gweithiwr, modd y gallai pob gweithdy ddyblu ei ddiwydrwydd a'i gynyrch er cyfarfod ag angen y genedl a'r milwyr. Cyhoeddodd y rhybudd a ganlyn i holl weithwyr y deyrnas:

"Mae angen y wlad i fod goruwch pob peth arall. Geilw am y mwyaf a'r goreu a fedr pob gweithiwr yn holl weith- dai cyfarpar y wlad ei wneuthur. Bydd unrhyw weithiwr a ymgeidw rhag gwneyd ei oreu, yn darostwng angen y wlad i'w fuddiant personol ef ei hun."

Ond rhaid oedd cael caniatad yr Undebau Llafur eu hunain cyn y medrai'r gweithiwr gydsynio a chais Lloyd George ac ateb cri y milwyr yn y ffosydd. Ac nid yn hawdd yr enillwyd cydsyniad yr Undebau. Pe na bae dim ond cwestiwn y Rhyfel mewn dadl, dymuniad pob gweithiwr fuasai gwneyd ei oreu glas yn ddiameu. Mae gweithwyr Prydain, fel dosbarth, mor barod ag unrhyw ddosbarth i wneyd pob aberth posibl er sicrhau buddugoliaeth i fyddin Prydain, ond ofnent, ac nid heb achos, fod eu gelynion gartref yn ceisio manteisio arnynt, ac o dan gochl angen cenedlaethol yn eu cymell i roddi i fyny arfau oedd wedi bod yn amddiffyniad i'r gweithiwr yn yr amser a fu, ac a fyddai yn amddiffyniad eto yn yr amser oedd i ddod. Yr oedd sicrhau y dyogelwch a'r breintiau a olygir mewn Undeb Llafur, ei gyfundrefn, ei gydweithrediad, a'i reolau amddiffynol, wedi costio yn ddrud i weithwyr Prydain, a nid hawdd ganddynt amddifadu eu hunain o'r pethau hyn. Ofnent gyda hyny, a thrachefn nid heb achos, y byddai meistri yn ymgyfoethogi mwy fyth ar draul y gweithiwr pe y rhoddai efe i fyny arf amddiffynol rheolau Undebau Llafur.

Ceisiodd Lloyd George gyfarfod a'r ddau anhawsder. Ymrwymodd ar ran y Llywodraeth yn y lle cyntaf, na chaffai yr Undebau Llafur, na neb o'u haelodau, ddyoddef, ar ddiwedd y rhyfel unrhyw anhawsder o fath yn y byd am ddarfod iddynt roi heibio am dro reolau yr Undebau. Ar derfyn y Rhyfel, caffai'r Undeb ail osod yr holl reolau hyny mewn grym fel cynt, ac fel pe na baent wedi cael eu rhoi o'r neilldu erioed. Ymrwymodd yn yr ail le na chaffai'r meistr wneyd elw afresymol ar draul gwaith ychwanegol y gweithiwr. Fel mater o ffaith, ar hyn o bryd, allan o bob ceiniog o elw a wna'r meistri yn awr yn fwy nag a wnaent cyn y rhyfel, cymer y Llywodraeth ddimai at bwrpas y Wladwriaeth.

Er yn anfoddlawn, cydsyniodd yr Undebau Llafur a'r cais ar ol aml i gynadledd a Lloyd George. Cafwyd engraifft o anhawsderau'r Llywodraeth a Lloyd George yn streic fawr Glowyr Deheudir Cymru ar ganol y rhyfel. Yr oedd y mesur a ddygwyd i'r Senedd gan Lloyd George, "Mesur Cyfarpar Rhyfel," yn rhoi awdurdod a gallu eithriadol, ac o'i gamddefnyddio, gormesol iawn, yn ei law. Yn mhlith pethau eraill byddai'r neb a elai ar streic fel ag i beryglu gallu unrhyw weithdy i droi allan gyfarpar rhyfel fel o'r blaen, yn agored i gael ei erlyn a'i ddirwyo yn drwm. Trefnid fod Byrddau Cyflafareddol Gorfodol i setlo pob achos o annghydfod rhwng meistr a gweithiwr, ond er mai rhwydd a fyddai dirwyo neu gosbi un gweithiwr anufudd, neu ddwsin, neu ugain, peth gwahanol iawn a fyddai cosbi, neu geisio cosbi mil, neu ddeng mil, neu ddau can mil o honynt a ddeuent allan ar streic gyda'u gilydd. Aeth yn streic yn holl lofeydd Deheudir Cymru, a daeth dau can mil o'r glowyr allan. O dan y ddeddf a basiwyd drwy'r Senedd gan Lloyd. George ei hun, rhaid oedd cosbi'r dynion hyn, ond rhwyddach dweyd mynydd na myned drosto, a rhwyddach bygwth y glowyr mewn deddf na chosbi cynifer o honynt o dan y ddeddf hono, felly, yn lle cario allan ofynion ei gyfraith ei hun, aeth Lloyd George i'r Deheudir i siarad a'r glowyr. Setlwyd y streic—drwy i Lloyd George roddi i'r glowyr yn ymarferol bob peth a geisient pan aethant allan ar streic. Fel y dywedai un o arweinwyr y glowyr: "Nid oedd angen streic o gwbl. Gallesid fod wedi setlo'r holl gwestiwn ar y dechreu ar y telerau a roddodd Lloyd George i ni ar y diwedd."

Y trydydd gelyn oedd ganddo i'w wynebu oedd y tafarnwr. Cafwyd profion fod y ddiod feddwol yn gwneyd mwy o niwed na dim arall i'r dynion a'r gwaith yn ngweithdai cyfarpar; yn achosi colli amser, ac yn lleihau yn ddirfawr allu'r gweithiwr i droi gwaith allan yn brydlon a chyflym. Yn gynar yn y flwyddyn eleni awgrymodd Lloyd George i'r Llywodraeth ddwyn Deddf Gwaharddiad i weithrediad dros gyfnod y rhyfel. Derbyniwyd yr awgrym gyda brwdfrydedd gan y wlad. Pe tae'r Llywodraeth wedi dwvn y Mesur i mewn y pryd hwnw cawsai ei basio yn rhwydd gyda chymeradwyaeth y wlad, ond oedwyd nes rhoi cyfle i'r tafarnwyr drwy'r deyrnas drefnu eu rhengoedd hwythau i'r ymgyrch, a daeth y gwrthwynebiad mor fygythiol nes na feiddiodd y Llywodraeth ddwyn y mesur yn mlaen. Collwyd felly gyfle na welir eto ei gyffelyb i wneyd gwaharddiad y diodydd meddwol yn gyfraith Prydain. Ond dywed y ddiareb fod dau gynyg i Gymro. Anturiodd Lloyd George eilwaith, a llwyddodd yr ail dro. Byrhawyd oriau gwerthu diodydd meddwol yn yr ardaloedd lle y ceid gweithdai cyfarpar. Trefnwyd yr oriau hyny yn y fath fodd fel nad ymyrent ond i'r graddau lleiaf a gwaith y dynion.

Er lleied hyn, cyfarfyddodd a gwrthwynebiad annghymodlawn. Ymgyngreiriodd y tafarnwyr a

dosbarth o'r gweithwyr i ymladd hyd yr eithaf yn erbyn llyffetheirio Syr John Heidden, ac yn erbyn cyfyngu dim ar "ryddid y gweithiwr" i feddwi. Ffurfiwyd "Pwyllgor Gwrthdystiad Undeb Llafur"—enw mawr, ond ffugiol, gan nad oedd a fyno Undebau Llafur a'r mudiad. Ond difriai y Pwyllgor Lloyd George, gan ei alw yn "Ginger Beer Cromwell"—yn "Cromwell" am ei fod fel yr hen Ymneillduwr dros ddau canrif a haner yn ol, yn mynu gormesu'r gormeswr; ac yn "Ginger Beer" o herwydd ei ddaliadau dirwestol. "Political charlatan" y geilw ysgrifenydd y pwyllgor hwnw Lloyd George. Dengys y dyfyniad a ganlyn o lythyr o'i eiddo i'r wasg ansawdd meddwl a chymeriad y pwyllgor a'i ysgrifenydd:

"Mae'r gwagffrostiwr gwleidyddol Lloyd George yn twyllo'r gweithiwr. Twyllodd eraill cyn hyn. Pe bae Lloegr wedi bod yn gall buasai wedi taflu Lloyd George i'r scrap heap fel y gwnaeth Ffrainc a Caillaux, a'r Eidal a Giolitti. Ond yn awr, mae yn ymaflyd yn ein gyddfau. Na chamgymered y wlad biboriad y capel am ruad y werin!"

Geilw'r cyfeiriad at "biboriaid y capel" i gof y ffaith fod Mr. Lloyd George wedi troseddu egwyddorion ei febyd a'i gapel yn nglyn a chadwraeth y Sabboth. Dychrynwyd ei hen gydnabod pan ddaeth lawr i Gymru i areithio mewn chwareudy yn Bangor ar y Sul. Baich ei genadwri oedd galw ar weithwyr Cymru i wneyd eu goreu yn nglyn a'r rhyfel, ac yn enwedig i roi atalfa ar y niwed a wnaed gan y fasnach feddwol, yr hon, ebe fe, oedd i'w hofni yn fwy na byddinoedd y Caisar. Y Sabboth dylynol, darfu i un pregethwr mewn capel Cymreig ar ei weddi o'r pwlpud ddanod hyn i'r Hollalluog, gan ddweyd:

"O Arglwydd Mawr! Yr ydym yn synu atat am oddef o honot hyd yn nod Lloyd George i dori Dy Sabboth sant- aidd Di drwy gynal cwrdd cyhoeddus ar Dy Ddydd Di."

Hyd yn ddiweddar gweithiai yr holl weithdai cyfarpar ar y Sul fel ar ddiwrnod arall er mwyn troi allan gymaint o waith ag oedd yn bosibl, ond mae pwyllgor o feddygon newydd wneyd ymchwiliad i'r mater, ac wedi cael allan y gwneir mwy o waith gan ddyn wrth weithio chwe niwrnod, a gorphwys ar y seithfed dydd, nag a wna wrth weithio saith dydd yn mhob wythnos. Felly gorchymyn Lloyd George i'w ganoedd o filoedd o weithwyr heddyw yw: "Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith, a'r seith fed dydd y gorphwysi."

Erbyn heddyw mae yn agos i ddwy fil o weithdai mawr drwy'r deyrnas o dan reolaeth uniongyrchol. Lloyd George, yn troi allan gyfarpar rhyfel. Yn y rhai hyn oll mae pob gweithiwr o dan lywodraeth filwrol. Ni cha adael ei waith, na symud i le arall, ond yn unig trwy ganiatad y Llywodraeth. Os esgeulusa ei waith, os erys ymaith oddigerth o dan orchymyn meddyg, os peidia a gwneyd cymaint o waith ag y bernir y medr wneyd, bydd yn agored i gosb. Anhygoel yn mron yw. gweled hyn mewn gwlad fel Prydain a ymffrostia yn rhyddid ei deiliaid. Ond trwy gydsyniad cyfangorff y gweithwyr drwy eu harweinwyr, yn unig y llwyddwyd i osod y caethiwed hyn arnynt, er mwyn enill y rhyfel. Mewn canlyniad i hyn, nid oes brinder mwyach ar gyfarpar. Dywed Arglwydd Kitchener fod Prydain heddyw yn medru cynyrchu digon o gyfarpar o bob math i gyfarfod ag angenion deng miliwn o filwyr! Bydd pedair miliwn o fyddin Prydain o dan arfau y gwanwyn nesaf, a chwe miliwn o filwyr newydd yn myddin Rwsia, a bydd Prydain yn gofalu am gyfarpar iddynt oll!

Er i'r glowyr orchfygu Mesur Cyfarpar Lloyd George adeg y streic, eto cyffyrddwyd a'u calonau gan ei anerchiadau brwd. Mae rhai o'r pethau a ddywedodd yn haeddu cael eu hysgrifenu a phin o haiarn ac o blwm yn y graig dros byth. Mewn araeth fawr yn Llundain i gynrychiolwyr glowyr Prydain, dywedodd:

"Glo wedi ei ddistyllio yw'r gwaed sydd yn rhedeg drwy wythienau pob diwydwaith yn y deyrnas heddyw. Y Brenin Glo sydd yn Arglwydd Goruchaf ar bob diwydwaith mewn heddwch a rhyfel. Yn y rhyfel mae glo yn fywyd i ni, ac yn angeu i'r gelyn. Glo sydd yn gwneyd defnyddiau rhyfel, yn ogystal a'r peirianau sy'n eu cludo. Golyga'r glo y dur, a'r reiffl, a'r magnelau. Rhaid cael glo i wneyd y shells, a glo i'w llenwi, glo sydd yn eu cludo i faes y frwydr i gynorthwyo ein milwyr yno. Glo yw'r gelyn mwyaf ofnadwy, a'r cyfaill galluocaf o bawb. Lladdwyd neu glwyfwyd 350,000 (erbyn hyn maent yn 500,000) o filwyr Prydain gan lo Germani—drwy fod glowyr Westphalia mewn cydweithrediad a pheirianwyr Prwsia, yn gosod eu holl egni at wasanaeth eu gwlad. Glo achosodd y lladd a'r clwyfo hyn. Ie, a phan welwch y moroedd yn glir, a baner Prydain yn chwifio heb neb i'w herio ar holl foroedd y byd, pan welwch faner Germani wedi gorfod cilio oddiar wyneb y dyfnder yn mhob man, pwy wnaeth hyn? Glowyr Prydain yn cynorthwyo morwyr Prydain, a'i gwnaeth!"

Wedi dwyn i'w meddyliau bwysigrwydd galwedigaeth y glowr, dygodd adref i'w cydwybodau y ddyledswydd orphwysai ar eu hysgwyddau yn ngwyneb angen eu gwlad:

"Rhaid i ni dalu pris buddugoliaeth os ydym am enill, canys mae i fuddugoliaeth ei phris. Nid oes ond un cwestiwn y rhaid i bawb o honom, o bob gradd ac o bob dosbarth, ofyn iddo ei hun, A ydyw yn gwneyd digon i enill buddu- goliaeth, sef bywyd ein gwlad. Golyga dynged Rhyddid am oesau i ddod. Nid oes yr un pris yn ormod i ni dalu am fuddugoliaeth os yw yn ein gallu i'w dalu. Mae Rhyddid yn golygu yr hawl i ymgilio oddiwrth eich dyledswydd. Ond nid dyna'r ffordd i enill buddugoliaeth. Nid yn Fflanders yn unig y ceir y ffosydd yn y rhyfel hwn. Mae pob pwll glo yn ffos, yn rhwydwaith o ffosydd yn y rhyfel hwn. Mae pob gweithdy yn wrthglawdd, a phob lle fedr droi allan gyfarpar yn gastell. Y gaib, y rhaw, y morthwyl—maent oll yn gymaint o arfau yn y rhyfel hwn ag yw'r fidog a'r reiffl; ac mae'r dyn na wna ei oreu wrth weithio, yn methu yn ei ddyledswydd lawn cymaint ag yw'r milwr sy'n troi ei gefn mewn brwydr ac yn ffoi."


Yr oedd un apel o'r fath yna at ddosbarth o ddynion, y glowyr, oedd wedi gyru 250,000 o wirfoddolwyr i ymladd ar faesydd gwaed Ewrop dros hawliau dyn a gwareiddiad, yn ddengwaith mwy effeithiol nag unrhyw ddeddf othrymus a gorfodol. Yr oedd y diweddglo yn deilwng o'r dyn ac o'r achlysur:

"Daeth yr amser i bob dyn, ie, a phob merch, a fedr wneyd, i gynorthwyo'r wlad. Mae 250,000 o lowyr dewrion. yn y ffosydd draw yn gwynebu cynddaredd angeu yr awrhon, ac yn clustfeinio yn bryderus am glywed swn olwynion y cerbydau yn dod o Loegr i'w cynorthwyo. Mae'r wageni yn aros y tu allan i'r iardiau, yn aros i gael eu llenwi. Dowch! Llanwer hwynt! Dowch! Gyrwn hwynt yn mlaen i'r ffrynt." "Yna, pan wneir hyn, bydd yn ysgrifenedig mewn llyth- yrenau o dan y benod ardderchocaf yn holl hanes y deyrnas fawr hon; ac yn y benod hono adroddir y modd, pan ostyng- odd Baner Rhyddid am foment o dan ymosodiadau ffyrnig gelyn didrugaredd, y cododd bechgyn a merched Prydain, ac y daethant i gynorthwyo y milwyr, gan osod o honynt Faner Rhyddid yn uchel ac yn gadarn ar graig o'r lle ni all yr un gormes byth mwy ei thynu i lawr!"

Dyna Weinidog Cyfarpar Prydain yn ei fan goreu.


PENOD XI.

LLOYD GEORGE AG AMERICA

ODDIAR gychwyniad cyntaf ei fywyd cyhoeddus, mae holl gyfandir America wedi meddu swyn i Lloyd George. Un o ddyheadau ei fywyd a fu, ac eto yw, cael cyfle a hamdden i dalu ymweliad personol a'r Unol Dalaethau, a gweled Cymry'r America yn eu cartrefi. Mae wedi talu dau ymweliad a'r Cyfandir. Y cyntaf i Argentina yn nyddiau cyntaf ei fywyd Seneddol, a'r ail dro i Canada yn nyddiau cyntaf Rhyfel De Affrica. Ni chafodd nemawr hamdden yn y naill na'r llall o'r ymweliadau hyn, ac nid yw ei freuddwyd am gael gweled Cymry yr Unol Dalaethau gartref hyd yn hyn wedi cael ei chyflawni. Beth sydd yn ei aros yn y dyfodol nid oes neb a fedr ddweyd, ond gellir dweyd hyn gyda sicrwydd, y buasai Cymry America mor falch o gael ei groesawu ef ag a fuasai yntau i dalu ymweliad a hwy.

Hoffai yn y blynyddoedd gynt astudio, a siarad am ran y Cymry yn nhrefedigiad cyntaf y cyfandir mawr. Credai yn gryf y pryd hwnw y chwedl am Madoc, y Tywysog Cymreig, yn sefydlu trefedigaeth o Gymry yn Ngogledd America yn mhell cyn i Columbus groesi'r Werydd. A yw yn dal i gredu yr un stori ar ol datguddiadau Thomas Stephens sydd gwestiwn arall. Swynid ef gan yr adroddiadau mynych a gaed flynyddoedd lawer yn ol am Indiaid Cymreig yr ochr draw i'r Mississipi. Nid wyf yn sicr y credai yr adroddiadau hyny, ond teimlai ddyddordeb mawr ynddynt. Yr oedd bob amser yn falch o'r rhan flaenllaw a gymerodd Cymry yn sefydliad cyntaf Lloegr Newydd, ac yr oedd enw a hanes Roger Williams yn aml ar ei dafod. Ymfalchiai hefyd yn y ffaith fod Cymry wedi arwyddo Ardystiad Annibyniaeth yr Unol Dalaethau. "Dyna chwi," meddai, "ysbryd yr Hen Gymry, a'u dyhead am ryddid, yn tori allan mewn gweithred. Pa ryfedd fod yr Unol Dalaethau yn dadblygu i fod yn amddiffynydd rhyddid y byd!"

Cyfeiriais mewn penod flaenorol (Penod V.) at ei gysylltiad a Mr. D. A. Thomas, eu cyfeillgarwch, eu cyd-wrthryfel, y rhwyg a'u gwahanodd, ac aduniad yr hen gysylltiadau. Yn y cysylltiad hwn mae dau beth yn ddyddorol i Gymry'r America. Y cyntaf yw mai y rhwyg rhyngddo ef a D. A. Thomas a'i cadwodd rhag talu ymweliad a'r Unol Dalaethau ar genadaeth genedlaethol ugain mlynedd yn ol. Yr ail yw mai yr Unol Dalaethau a fu yn foddion anuniongyrchol i gyfanu y rhwyg rhwng y ddau.

Mae yr hanes yn ddyddorol, ac mor bell ag y mae cysylltiad yr Unol Dalaethau, ac yn enwedig Cymry America, a'r helynt yn myned, yn newydd i'r cyhoedd ar y ddau Gyfandir, gan na chyhoeddwyd erioed o'r blaen mo hono.

Pan ddaeth Mr. D. A. Thomas a Mr. Lloyd George i gysylltiad gyntaf a'u gilydd, ffurfiwyd rhyngddynt gyfeillgarwch cynes tu hwnt i'r cyffredin. "Dafydd a Jonathan" y'u gelwid—ond gan mai "Dafydd" oedd enw bedydd pob un o'r ddau anhawdd dweyd pa un o'r ddau oedd "Jonathan." Tebyg na fuaswn lawer allan o'm lle pe y dywedwn mai David Alfred Thomas, neu "D. A." fel y'i gelwid, ac y gelwir ef hyd heddyw gan bawb,oedd Jonathan, yn gymaint a bod ei safle cymdeithasol yn dra gwahanol i eiddo Lloyd George. Mab y coty oedd Lloyd George; mab y plas oedd D. A. Fel "etifedd y 'Sguborwen" yr adwaenid D. A. pan ddaethym gyntaf i gyffyrddiad ag ef. Yr oedd hyny cyn iddo fyned i'r Senedd, o bosibl cyn iddo ef ei hun feddwl am wneyd hyny. Achos llawenydd i mi hyd y dydd heddyw yw fod i mi ran fechan yn ei gymell i ddod allan yn ymgeisydd Seneddol dros Merthyr ac Aberdar.

Gan mai fel Llys Genad Lloyd George a Gweinidogaeth y Cyfarpar yr ymwelodd D. A. Thomas ag America y tro hwn, ac mai efe yw y Cymro sydd yn bersonol adnabyddus oreu i fyd masnach America, dyddorol fydd gosod yma grynodeb byr o'i hanes. Ceir yn wir aml i beth cyffelyb yn nodwedd cymeriad Lloyd George a "D. A." Ymneillduwyr yw'r ddau, o waed ac o argyhoeddiad. Gweinidog Ymneillduol oedd taid pob un o'r ddau, y naill gyda'r Annibynwyr a'r llall gyda'r Bedyddwyr. Er fod cyfoeth anferth wedi dod i ran y naill, ac anrhydedd mawr i'r llall, erys y ddau yn ffyddlon i draddodiadau crefyddol eu tadau. Anhawdd dweyd pa un o'r ddau yw'r Cenedlaetholwr goreu. Diwygwyr o anianawd yw y ddau, ac ymladdwyr di-ail a di-ildio. Cara pob un o'r ddau ei wlad yn angerddol. Medda pob un o'r ddau ddylanwad yn mron anfesurol ar y gweithiwr yn Nghymru. Nid oes neb, efallai, wedi beirniadu Arweinwyr y Glowyr yn llymach, nac wedi eu cystwyo yn drymach, nag a wnaeth D. A. dro ar ol tro. Nid oes feistr glo yn y deyrnas a ofnir, a berchir, ac a gerir, yn fwy gan y glowyr na D. A. Thomas. Medda ef yn bersonol fwy o ddylanwad ar lowyr Morganwg na holl Bwyllgor Cyngrair Glowyr y Deheudir gyda'u gilydd. Ni apeliodd erioed yn ofer am eu pleidlais. Dychwelwyd ef bob tro mewn etholiad ar ben y pol gyda mwyafrif gorlethol. Pe dymunai ddychwelyd i'r Senedd yfory, caffai ddrws agored yn mron lle y mynai yn myd y glowyr. Cymaint yw ei ddylanwad, er nad yw ei hun heddyw yn y Senedd, fel y gall benderfynu yn ymarferol, pe y dewisai wneyd, pwy ga gynrychioli o leiaf bedair os nad pump o etholaethau Deheudir Cymru. Cyfrifir ef fel "the smartest business man" a gododd Cymru erioed. Dechreuodd fel perchen un lofa gymarol fechan. Heddyw efe yw "Coal King" cydnabyddedig Cymru. O fewn y blynyddoedd diweddaf hyn, talodd aml ymweliad ag America, lle y pwrcasodd eiddo glofaol mawr a gwerthfawr yn yr Unol Dalaethau a Canada. Mae ei fywyd yn gymaint rhamant ag yw eiddo Lloyd George. Pe bae wedi talu haner cymaint o sylw i bolitics ag a wnaeth i fasnach, nid oes swydd yn y deyrnas a fuasai allan o'i gyraedd, a dyddorol fyddai ceisio dyfalu pa beth a ddygwyddasai i Lloyd George pe bae yr hen gyfeillgarwch rhyngddo a D. A. wedi parhau yn ddifwlch, a Mab y 'Sguborwen wedi aros yn Aelod Seneddol, ac wedi ymroddi i bolitics fel yn gwnaeth ei gyfaill o Griccieth. Heb fyned i fanylu gellir dweyd gyda sicrwydd y buasai dau Gymro yn lle un yn adnabyddus dros y cyfanfyd heddyw fel gwladweinydd galluog a llwyddianus.

Wedi bod yn gyfeillion mynwesol am rai blynyddoedd, aeth yn rhwyg rhwng y ddau ar gwestiwn Trefniant Gwleidyddol Cymru. D. A. Thomas oedd "Boss" y Deheudir; efe a lywodraethai Gyngrair Rhyddfrydol y De. Mynai Lloyd George gael "Cymru Gyfan" o dan reolaeth un Pwyllgor neu Gyngor Canolog. Ameuai D. A. a fyddai hyny yn ymarferol, o herwydd anhawsderau teithio yn Nghymru. Credai yntau, fel Lloyd George, yn gryf mewn Plaid Gymreig Annibynol. Parhaodd yn y ffydd hono yn hwy na Lloyd George. Hono yw ei gredo heddyw. Ond methodd y ddau gyduno ar gynllun o gydweithrediad wrth ddyfeisio gwelliantau yn y peiriant etholiadol yn Nghymru. Credai Mr. Lloyd George gan ddarfod iddo lwyddo i ddifodi Cyngrair Rhyddfrydol y Gogledd ar waethaf Mr. Bryn Roberts, y medrai wneyd yr un peth a Chyngrair y De ar waethaf D. A. Thomas. Camgymerodd yn fawr. Methodd ladd Cyngrair y De, er iddo ei wanhau yn ddirfawr. Yn anffodus i Genedlaetholdeb Cymru gwanhaodd ar yr un pryd ei hoff beiriant gwleidyddol ei hun, Cymru Fydd (gwel Penod V). O'r dydd hwnw hyd o fewn ychydig fisoedd yn ol, parhaodd y rhwyg rhwng y ddau y bu gynt mor gu y naill y llall.

Cyn dygwydd o'r rhwyg hwn, a phan yr ymddangosai yn debyg y llwyddai i sefydlu Cyfundrefn Cymru Fydd fel peiriant etholiadol cydnabyddedig Cymru gyfan, yr oedd Lloyd George wedi arfaethu codi Trysorfa Genedlaethol ar gynllun Trysorfa'r Blaid Wyddelig. Yr oedd yn ei fwriad, ar ol dechreu yn Nghymru, wneyd apel at Gymry America. Ymgyngorasom yn nghylch "Cenadaeth Genedlaethol dros Ymreolaeth i Gymru" at Gymry'r America. Y syniad oedd iddo ef ei hun, gyda Mr. Herbert Lewis, ac eraill o'r Aelodau Cymreig o gyffelyb ffydd genedlaethol, groesi'r Werydd ar daith genadol drwy'r Unol Dalaethau, gan apelio at wladgarwch Cymry'r Unol Dalaethau. "Chawn ni byth," meddai, "Blaid Gymreig Annibynol hyd nes y medrwn efelychu'r Gwyddelod. Mae dau beth yn hanfodol cyn y gellir gwneyd hyny. Rhaid i ni allu eu hethol i'r Senedd, a'u cadw yno; a'u gwneyd yn annibynol ar Drysorfa'r Blaid Ryddfrydol yn Lloegr, ac ar lwgrwobrwyaeth swydd o dan y Weinyddiaeth. Mae trysorfa'r Blaid Ryddfrydol yn Lloegr yn cyfarfod a threuliau etholiad ymgeisydd Seneddol o dan amodau neillduol, ond pan dderbynio ymgeisydd gymorth o'r fath gesyd ei hun yn gaeth i'r Blaid, ac i Chwips ei Blaid. Cyll ei annibyniaeth yn llwyr. Nid buddianau ei etholwyr fydd yn llywodraethu ei bleidlais mwyach, eithr angenion y Blaid a dalodd dreuliau ei etholiad. Os ydym ni, ynte, i gael Plaid Gymreig, rhaid i ni fod yn barod i wneyd fel y gwna'r Gwyddelod, cael Trysorfa Genedlaethol fo'n ddigon i gyfarfod costau ymladd ac enill pob etholaeth yn Nghymru, ac i dalu cyflog i gadw'r aelodau hyny yn deilwng yn y Senedd. Pe caem ni gan Ymneillduwyr Cymru i gyfranu at eu politics fel y cyfranant at eu capeli, buasai yn ddigon rhwydd, ond nid yw'r Cymro eto wedi dysgu talu am ei bolitics fel y mae am ei grefydd. Eto i gyd, os medr y Gwyddel greu trysorfa, paham na fedr y Cymro? Mae'r teimlad cenedlaethol mor fyw yn Nghymru ag ydyw yn y Werddon. Mae'r Cymro oddi cartref yn caru Cymru Wen mor gynes ag y car y Gwyddel oddi cartref yr Ynys Werdd, a cheir, yn Unol Dalaethau'r America, ugeiniau o filoedd o Gymry gwladgarol, cynes galon, yn mhob cylch o gymdeithas. Ceir cyfoethogion o Gymry yn amlach yno na chyfoethogion o Wyddelod, ac os yw gweithwyr Gwyddelig, a merched gweini o Wyddelesau wedi ateb mor hael ac mor barod i apeliadau mynych Parnell, ai tybed na etyb Cymry'r America i apel cyffelyb oddiwrthym ninau os awn at y gwaith o ddifrif, yn benderfynol, a chyda chynllun perffaith."

Dyna'r Genadaeth Genedlaethol at Gymry'r America a laddwyd yn yr esgoreddfa drwy fethiant Lloyd George i sefydlu Cyfundrefn Genedlaethol Cymru Fydd fel peiriant etholiadol Cymru Gyfan. Siom bersonol ydoedd iddo ef fethu cyflawnu y pryd hwnw ei fwriad o dalu ymweliad a'i gydgenedl yn yr America. Yr oedd yn awyddus i astudio amryw bethau yn yr Unol Dalaethau yn dal cysylltiad a gwleidyddiaeth, ac a bywyd cymdeithasol. Gwerinwr, yn hytrach na Breniniaethwr ydoedd ef y pryd hwnw, a dymunai gael gweled ei hun beirianwaith llywodraeth, gwladweiniaeth, a chymdeithasiaeth y wlad. Meddai pob peth y wlad swyn arbenig iddo. Gan deimlo mor angerddol ag ydoedd ar gwestiwn yr Eglwys a'r Tir yn Nghymru, edrychai ar yr Unol Dalaethau, "gwlad y sefydliadau rhydd" fel y galwai hi, fel paradwys wleidyddol a chymdeithasol, lle y caffai pob dyn gyffelyb fantais, gan nad beth a fyddai ei gredo crefyddol neu ei safle gymdeithasol. Tra yn gredwr cryf yn effeithiolrwydd y peiriant etholiadol oedd gan y ddwy Blaid Fawr, y Democratiaid a'r Gwerinwyr, nid oedd yn edmygu rhai o ddulliau a ffrwythau y peirianwaith hwnw. Credai y cawsai wersi pwysig mewn gwleidiadaeth a chyfundrefnaeth pe medrai weled pethau drosto ei hun yna, ac astudio a deall eu dull o weithio. Yr oedd cwestiynau mawr cymdeithasol yn llenwi ei fryd, perthynas cyfalaf a llafur, bywyd y gweithiwr, tai y gweithwyr yn y dref, amgylchiadau'r tlodion a'r hen bobl angenus, a llawer o broblemau cyffelyb. Gwyddai y rhaid fod gwahaniaeth hanfodol rhwng y pethau hyn a'u cyffelyb yn America i'r hyn oeddent yn Nghymru, a chredai y caffai oleuni newydd arnynt o'u gweled ei hunan mewn ymarferiad. Canys fel y gwelwyd mewn penodau blaenorol, credai bob amser mewn myned ei hunan i lygad y ffynon, a gweled tarddle pob peth. Dyna paham, pan aeth gyntaf yn Weinidog y Goron, y mynai gael ymgyngoriad personol a'r gweithwyr a'u cyflogwyr, a'r marsiandiwyr a'r cludwyr, a'r morwyr ac a pherchenogion y llongau, cyn trefnu o hono linellau deddfwriaeth oedd a wnelo a hwynt. Am yr un rheswm yr aeth i Germani i gael gweled yno sut y gweithiai cyfundrefn y wlad hono o Yswiriant Blwydd-dal i'r Hen, Rheoli Rheilffyrdd a Glofeydd gan y Wladwriaeth, a'r cyffelyb.

Gwelir yn yr hyn a wnaeth fel Gweinidog Cyfarpar ei syniad uchel am allu America i gynorthwyo Prydain yn y Rhyfel Mawr dros ryddid dyn. Pan benodwyd ef yn Weinidog y Cyfarpar, trodd ei lygad at America fel ffynonell a allai wneuthur i fyny ddiffyg gweithdai Prydain. Dywedai mewn effaith: "Er fod yr Arlywydd yn anmharod i sefyll ochr yn ochr a ni yn y rhyfel dros wareiddiad, rhaid fod ei gydymdeimlad ef, a phawb teilwng o'r enw dyn yn y Weriniaeth Fawr, gyda ni yn ein hymdrech ofnadwy yn erbyn gormes a militariaeth sydd yn peryglu rhyddid pob cenedl yn y dyfodol. Ac mae adnoddau celfyddydol a gweithfaol yr Unol Dalaethau mor enfawr, fel y dylasem yn sicr allu sicrhau adgyflenwadau gwerthfawr oddi yno."

Nid cynt y daeth y syniad i'w feddwl nag y chwiliodd am ffordd i'w weithio allan. Gwelodd y rhaid cael dyn o safle, o brofiad, ac o allu tu hwnt i'r cyffredin i gynrychioli Gweinidogaeth Cyfarpar yn y genadaeth bwysig hon. Gorweddai ei ddewis rhwng dau ddyn, a'r ddau yn Gymry, oeddent eisoes wedi enill lle yn rheng flaenaf tywysogion masnach y byd, a'r ddau yn meddu eiddo gweithfaol eisoes yn yr Unol Dalaethau, y naill yn specialist mewn glo, a'r llall yn gymaint specialist mewn haiarn a dur. Ei hen gyfaill, ei hen gyd-wrthryfelwr, ei hen gyd-ymgeisydd a'i wrthwynebydd, Mr. D. A. Thomas, oedd y naill; ei gyd-aelod, ei gydgenedlaetholwr, y gwr ar ysgwydd yr hwn y disgynodd mantell a deuparth o ysbryd Lloyd George fel Ymreolwr Cymreig, Mr. E. T. John, yr Aelod Seneddol dros Ddwyreinbarth sir Ddinbych, oedd y llall. Syrthiodd y dewisiad ar y cyntaf, yn benaf am y ffaith ei fod ar y pryd mewn ymdrafodaeth bersonol a nifer o bersonau a chwmniau masnachol blaenaf yr Unol Dalaethau a Canada, yn nglyn a phrynu tiroedd ac eiddo mwnawl helaeth.

Yn angen Prydain annghofiodd y ddau eu hen annghydwelediad. Gofynodd Mr. Lloyd George i Mr. D. A. Thomas a weithredai efe dros Brydain yn yr Unol Dalaethau ac yn Canada fel Llysgenad masnachol arbenig. Cydsyniodd yntau yn ddiymdroi, gan roddi felly engraifft nodedig arall o'r ysbryd sydd yn medd- ianu pob dosbarth yn Mhrydain yn nglyn a'r Rhyfel. Yr oedd yr amgylchiadau yn eithriadol. Yr oedd D. A. Thomas newydd ddychwelyd o'r America, lle yr oedd wedi bod am fisoedd lawer am y trydydd tro o fewn tair neu bedair blynedd, yn nglyn a'r materion masnachol perthynol i'w gwmni, y cyfeiriwyd atynt uchod. Yr oedd ei brif reolwr yn Mhrydain, Mr. Llewelyn, eisoes wedi cael ei alw i wasanaethu'r Llywodraeth yn Ngweinyddiaeth Cyfarpar, a mwy o angen nag erioed am bresenoldeb ac arolygiaeth bersonol D. A. Thomas yn y fasnach enfawr sydd ganddo yn Nghymru. Yr oedd ef, a'i unig ferch, yr Arglwyddes Wentworth, yn mhlith y teithwyr ar y Lusitania anffodus, ac wedi prin dianc a'u bywydau, gan fod y ddau wedi bod am oriau yn y tonau wedi suddo'r llong cyn iddynt gael eu hachub. Yr oedd D. A. ei hun, yn ogystal ag Arglwyddes Wentworth, yn dyoddef oddiwrth effeithiau hyn pan ddaeth y cais am ei wasanaeth i'w wlad. Ond ni phetrusodd. Er i'r meddyg ddweyd y peryglai ei fywyd wrth ymgymeryd a thaith mor fawr yn ei gyflwr ar y pryd, ymgymerodd a'r Genadaeth, a chychwynodd yn ei ol i New York yn ddiymdroi.

Gwnaeth D. A. Thomas gystal gwaith yn America ag a wnaeth Lloyd George yn Mhrydain i sicrhau adgyflenwad o gyfarpar o bob math yn yr Unol Dalaethau ac yn Canada. Tra y cedwir, hyd yn hyn, fanylion ei weithrediadau yn y ddwy wlad yn gyfrinach, gwyddis ei fod wedi gosod archebion aruthrol yn y ddwy wlad, a'u bod yn cyflenwi angen Ffrainc yn ogystal a Phrydain, yn gymaint a bod Prydain wedi ymgymeryd a gweithredu, mewn cyfeiriadau neillduol dros ei Chyngreiriaid. Nid oes manylion am swm y gwahanol fathau o gyflenwadau a geir o'r Unol Dalaethau nac o Canada fel ffrwyth cenadaeth D. A. Thomas, ond sicr yw eu bod wedi rhoi bywyd newydd yn llaw-weithfeydd y ddwy wlad. Mae wedi bod yn iachawdwriaeth gyllidol i Canada, ac yn ddiameu wedi cadw aml i anturiaeth weithfaol yn yr Unol Dalaethau yn fyw, ac wedi rhoi adgyfodiad i eraill oeddent naill ai wedi marw neu ar ddarfod am danynt. Dengys ffigyrau cyllid Canada y graddau helaeth i'r rhai y mae hi wedi manteisio ar genadaeth D. A. Thomas. Dengys adroddiad Gweinidog Cyllid Canada fod y wlad hono wedi newid dau fyd mewn ystyr arianol. Ddwy flynedd yn ol yr oedd Canada yn talu tri chan miliwn o ddoleri yn fwy am nwyddau a brynid ganddi o wledydd eraill, nag a dderbyniai am nwyddau a werthid ganddi i wledydd tramor. Pan wneir y ffigyrau i fyny am y flwyddyn 1915, ceir y bydd Canada wedi gwerthu llawer mwy nag a brynodd, ac er nas gellir cyfrif yr oll o'r gwahaniaeth i ymweliad D. A. Thomas, eto rhaid y bydd cyfran helaeth iawn o elw Canada ar waith y flwyddyn i'w briodoli i hyny. Ac os yw hyn yn wir am Canada, sicr yw y bydd yr elw o'r drafnidiaeth i'r Unol Dalaethau yn llawer iawn mwy, pe ond yn unig am y rheswm fod cyfleusderau a chynyrch ei gweithdai o bob math. gymaint yn helaethach nag eiddo Canada.

Ac nid yr ardaloedd gweithfaol yn rhanau dwyreiniol y dwy wlad yn unig sydd wedi manteisio. Ceir fod ffermwyr y Gorllewin wedi cael gwell marchnad nag a gawsant erioed. Dengys ffigyrau swyddogol fod y Canadian Pacific Railway wedi gwneyd, yn y tri mis Medi, Hydref a Thachwedd, 1915, fwy o fusnes mewn cludo yd nag a wnaed mewn unrhyw dri mis gan unrhyw reilffordd yn y byd erioed o'r blaen. Cyfrifir fod y rheilffordd hono yn unig wedi cario ar gyfartaledd mil o fwsieli (1,000 bushels) o rawn, gwenith, &c., bob mynyd o bob dydd am y 90 diwrnod hyny. Nid oes angen pwysleisio effaith a dylanwad masnach mor helaeth ar gylchoedd eraill cymdeithas heblaw ffermwyr Canada.

Eithr a chyfarpar rhyfel yn hytrach nag a chynyrch amaethyddol yr oedd a fyno cenadaeth D. A. Thomas ar ran Lloyd George, ac os oedd dyn ar wyneb daear a

fedrai symbylu masnach a chynyrch y peirianau hyny, D. A. Thomas yw hwnw. Dywedir fod yr archebion a roddodd D. A. Thomas am Gyfarpar Rhyfel yn Canada yn unig, yn werth pum can miliwn (500,000,000) o ddoleri! A hyny am shells yn unig! Ond cyfarfu D. A. Thomas a chyffelyb rwystrau yn Canada i'r rhai a wynebodd Lloyd George yn Mhrydain. Gorphwysai dwy ddyledswydd arbenig ar D. A. fel cynrychiolydd Cabinet Prydain, sef sicrhau gymaint ag oedd yn bosibl o gyfarpar o Canada, a gofalu na chaffai neb wneyd elw gormodol o'r gwaith a ymddiriedid iddynt. Wrth geisio sicrhau yr olaf daeth i wrthdarawiad a thraddodiadau swyddogol ac a "vested interests." Cynrychiolid y blaenaf gan y Cymro da "Sam" Hughes, gweinidog Milisia Canada. Arferai "Sam" Hughes fod yn "boss" ar bethau yn nglyn a chyfarpar. Ffurfiwyd yn Canada Bwyllgor Cyfarpar, yr hwn a roddai allan y contracts i'r gwahanol gwmniau. Nid oedd y pwyllgor hwn yn gyfrifol ond i Sam Hughes, yn ol arferiad traddodiadol Canada. Ond nid oedd hyn yn cydfyned a syniadau "D. A." Cabinet Prydain oedd yn rhoi yr archebion, Cabinet Prydain oedd yn talu, a Cabinet Prydain ddylai weithredu y rheolaeth a arferai fod yn llaw Gweinidog y Milisia. Aeth yn ymgodymu rhwng y ddau Gymro, D. A. Thomas, Brenin Glo Cymru, a Sam Hughes, Boss Cyfarpar Canada. Arferai Sam fynu ei ffordd bob amser yn Canada. Arferai D. A. fynu ei ffordd yntau bob amser yn Mhrydain. Nid yw yn anfri yn y byd ar y Cymro Sam Hughes i ddweyd mai y Cymro D. A. Thomas drechodd yn yr ymgodymu, canys mae "D. A." wedi trechu pawb yr ymgodymodd ag ef erioed-oddigerth Lloyd George, fel ag y mae Lloyd George, yntau wedi arfer trechu pawb oddigerth "D. A."!

Cyfeiriwyd eisoes at ymweliad Lloyd George ag Argentina yn 1894. Nid oedd a fynai gwleidyddiaeth a'r ymweliad hwnw. Ymgyrch masnachol ydoedd, gyda'r amcan o ddadblygu mwnglawdd aur ar odre'r Andes. Ffurfiwyd cwmni yn Nghymru i'r pwrpas. Bu Mr. W. J. Parry, Coetmor, Bethesda, enw yr hwn sydd yn adnabyddus i Gymry America, yn enwedig yn yr ardaloedd llechi, yn parotoi y ffordd yn Buenos. Ayres, a phan ddelo'r adeg iddo adrodd holl hanes a helynt, a helbulon yr anturiaeth, bydd yn taflu goleuni llachar ar lawer o bethau tra dyddorol. Anffodus a fu'r anturiaeth i Lloyd George ei hun. Collodd fwy of aur nag a gafodd o'r Andes.

Fel yr adroddwyd eisoes ar ymweliad a Canada yr oedd Lloyd George pan dorodd Rhyfel De Affrica allan. O herwydd yr amgylchiadau a nodwyd eisoes (Penod VI.) gorfu iddo dori ei daith ar ei haner a throi yn ol tuag adref. Er na chyflawnodd ei fwriad o wneyd apel at Gymry'r Unol Dalaethau am gymorth arianol ar ran Ymreolaeth i Gymru a Phlaid Gymreig Annibynol yn y Senedd, gwelwyd yn ddiweddarach ddylanwad y syniad hwnw yn ei feddwl, a chafwyd profion amlwg mor gynes y teimla calon Cymry America at eu brodyr yn yr Hen Wlad, ac mor awyddus ydynt i estyn llaw o gymorth iddynt yn eu hadfyd a'u cyfyngder.

Credaf y gallaf hawlio adnabyddiaeth mor llwyr ag eiddo neb byw o sefyllfa Cymru. A gallaf ddweyd yn ddibetrus nad oes dim wedi cyffwrdd yn fwy a'i chalon erioed, na pharodrwydd Cymry America i ddangos. cydymdeimlad sylweddol a hi pan mewn angen. Cafwyd dau amlygiad nodedig iawn o hyny yn y blynyddoedd diweddaf. Y cyntaf, er nad oedd a fyno Lloyd George yn uniongyrchol a hwnw, oedd yr apel a'r Genadaeth yn nglyn a'r Pla Gwyn, y Darfodedigaeth, yn Nghymru.

Dyma yn ddiau y mudiad dyngarol gwirfoddol mwyaf yr ymgymerodd Cymru ag ef erioed. Mr. David Davies, Llandinam, wyr i'r Dafydd Dafis, Llan- dinam cyntaf, oedd prif ysgogydd y mudiad daionus hwn. Yr oedd ef wedi talu ymweliad personol a'r Unol Dalaethau.

Am yr ail engraifft, cymorth parod Cymry America i ddyoddefwyr y Rhyfel yn Nghymru, i haelioni digymell gwladgarwyr dyngarol yr Unol Dalaethau, yn hytrach nag i apel uniongyrchol o Gymru, y rhaid diolch am y cymorth a gafwyd. Ni bu erioed, yn ol pob hanes, unrhyw fudiad cyffelyb i hwn, ar raddfa mor eang, yn apelio yn ymarferol at bob dosbarth a chylch o fywyd Cymreig yn yr Unol Dalaethau, yn grefyddol, yn llafurawl, ac yn gymdeithasol, ag a fu y mudiad mawr elusengar digymell hwn. Llawen fydd gan y cyfranwyr at Drysorfa Dyoddefwyr Cymru wybod fod eu haelioni parod wedi ysgafnhau beichiau a lleddfu dyoddefaint canoedd o deuluoedd yn mhob rhan o Gymru. Mr. Lloyd George a wnaed yn gyfrwng i estyn rhoddion hael Cymry America i'w gydwladwyr angenus.

I'r angenus gartref y bwriadwyd y drysorfa hon. Ond mae trysorfa arall i estyn cysuron i Fechgyn Cymru yn y Rhyfel. Araeth o eiddo Lloyd George yn Llundain fisoedd yn ol a roddodd gychwyniad i'r drysorfa hon. Mae amryw danysgrifiadau ati wedi dod oddiwrth Gymry America. Cyfanswm derbyniadau hon hyd ddechreu Rhagfyr, 1915, oedd 23,000p. O'r cyfanswm hwn mae 13,000p. wedi cael eu derbyn mewn arian, a gwerth 10,000p. arall mewn nwyddau o bob math yn rhoddion i'r milwyr Cymreig. Oni bae am y Rhyfel yn Ewrop mae yn dra thebyg y buasai Mr. Lloyd George wedi talu ymweliad a'r Unol Dalaethau y flwyddyn hon. Arfaethai ddod i'r Eisteddfod Gyd-Genedlaethol yn Pittsburg dair blynedd yn ol. Rhoddodd addewid amodol i'r Ddirprwyaeth oddiwrth Gymry America ymwelodd ag ef yn Downing Street. Cyflwynwyd y Ddirprwyaeth iddo gan y Cymro gwladgarol y diweddar Henadur Edward Thomas (Cochfarf) cyn-faer Caerdydd, yr hwn yntau oedd wedi bod ar ymweliad a'r Unol Dalaethau. Rhwystrau anorfod yn nglyn a'i waith fel Gweinidog y Goron, sy'n cyfrif iddo siomi dysgwyliadau ei gydwladwyr yn America. Nid oedd yr addewid mor bendant am ymweled ag Eisteddfod San Francisco yn 1915, ond y Rhyfel yn Ewrop a siomodd ei obeithion ef am ddod yno. Dichon, wedi yr elo storm y Rhyfel heibio, y daw cyfle eto i Gymro enwocaf ei oes dalu ymweliad a'r bobl y mae iddynt le mor gynes yn ei

galon—Cymry'r America.

PENOD XII.

DYFODOL LLOYD GEORGE.

YN y penodau blaenorol darluniwyd gorphenol Lloyd George—ei "ddoe." Am ei "heddyw" gellir dweyd mai efe yw Cymro enwocaf ei ddydd, y ffigiwr amlycaf yn ngwleidyddiaeth Prydain, a'r gwr mwyaf poblogaidd yn y byd, o leiaf yn y gwledydd lle yr arferir yr iaith Saesneg. Ond beth am ei "yfory?" Cwestiynau naturiol i'w gofyn yw: "Beth sydd yn ei aros eto? Beth sydd gan y dyfodol iddo ef? Beth sydd ganddo yntau i'r dyfodol?"

Cwestiynau rhwydd i'w gofyn ond anhawdd i'w hateb gyda sicrwydd pendant. Y goreu a ellir ei wneyd yw ceisio gwneyd fel ag a wneir yn myd pob gwybodaeth, sef sylfaenu ar yr hyn a wyddir amgyffrediad o'r hyn nis gwyddir. Felly rhaid i ni edrych ar ddyfodol Lloyd George yn ngoleuni ei bresenol ar ol astudio ei bresenol yn ngoleuni ei orphenol. Canys iddo ef, fel i bawb o honom, bu ei "ddoe" yn "heddyw" iddo, a bydd ei "yfory" yn fuan yn "heddyw" eto. Dywedwyd eisoes ei fod yn eithriadol o agored i ddylanwadau ei amgylchfyd. Mae cyfnewidiadau mawr a welwyd eisoes yn ei amgylchfyd yn mron o angenrheidrwydd wedi achosi cyfnewidiadau cyfatebol yn ei ddull o feddwl, ac yn ei safbwynt o edrych ar gwestiynau mawr. Ond er hyn ceir ambell gynddawn wedi ei blanu yn ei natur, ambell argyhoeddiad wedi gwreiddio mor ddwfn, ambell i ddelfryd yn rhan mor hanfodol o hono, fel na ellir eu taflu o'r neilldu fel gwisg nad oes mwy o'i hangen, na'u gwadu fel pe baent gyffes ffydd gwleidyddwr heb argyhoeddiadau. Erys rhai o'r cynddoniau, a'r argyhoeddiadau, a'r delfrydau hyn gydag ef o hyd, glynant wrtho, ac yntau wrthynt hwythau, drwy holl droion dyrys ei yrfa. Rhaid yw y bydd i'r rhai hyn aros, ac o aros iddynt liwio'r oll sydd eto o'i flaen. Yn amlwg yn eu plith gwelir ei Genedlaetholdeb, ei Annghydffurfiaeth, a'i ffydd ddiysgog yn yr egwyddor lywodraethol o Fasnach Rydd. Os nad. gwr diegwyddor yw, byddai mor rhwydd i'r Ethiop newid ei groen neu'r llewpard ei frychni, ag a fyddai i Lloyd George droi ei gefn ar y pethau mawr hyn.

Dyna ei genedlaetholdeb. Byddai mor rhwydd codi'r Wyddfa oddiar ei sylfeini a'i thaflu i'r Werydd ag a fyddai dileu o galon a chydwybod Lloyd George yr ymwybyddiaeth o'i Genedlaetholdeb a'i ymlyniad wrtho Geill ei amgyffrediad o'r ffurf ddylai ei Genedlaetholdeb gymeryd, o'r moddau drwy y rhai y dylai weithredu, gyfnewid gydag amser, fel y newidir wyneb yr Wyddfa gan waith dyn yn y chwareli llechi. Ond, o'i chymaru a sylfeini yr Wyddfa, nid yw hyd yn nod chwarel fawr Dinorwic, y fwyaf heddyw yn y byd, ond megys crafiad ar wyneb yr Eryri dragwyddol, erys y sylfaen yn ddigryn. Felly y rhaid iddi fod gyda Chenedlaetholdeb Lloyd George, ei syniadau am dano a'i ddelfrydau o hono. Er engraifft, dyna'r Fyddin Gymreig a grewyd mewn rhan drwy ei ymdrech ef. Rhaid yw fod y syniad o greu Byddin Gymreig yn wrthun i'w feddwl fel Apostol Heddwch; mae fel y domen rwbel yn anharddu prydferthwch y mynydd; ond hyd yn nod felly profa fodolaeth y graig o'r hon y'i cloddiwyd. Dichon nad yw ei wybodaeth o lenyddiaeth Gymreig yn eang, nac o'i chlasuron yn ddwfn iawn; dichon nad yw wedi astudio Hanes Cymru yn drwyadl na manwl, ond edmyga'r Lenyddiaeth a'r Hanes er hyny. Felly hefyd ei serch at Gymru, ei phobl, ei harferion, ei chan, ei beirdd, ei phobpeth cenedlaethol gwahanfodol. Am y rhai hyn oll, teimla mewn ystyr ei fod yn Ymddiriedolwr, ac ni fynai pe medrai fradychu'r ymddiriedolaeth. Ni chyll byth gyfle i'w clodfori, ac i amlygu ei falchder ei fod yn Gymro. Wele engraifft hollol nodweddiadol, diweddglo anerchiad a draddododd i gynulleidfa o Saeson yn nghanol Lloegr pan oedd ei frwydr a Thy'r Arglwyddi yn agoshau at awr anterth:

"Gwaed y Celt sydd yn fy ngwythienau. Mae llawer mwy o waed y Celt yn ngwythienau'r Sais hefyd nag y mae efe yn barod i gydnabod. Pe tynech bob dafn o waed Celtaidd o wythienau'r Sais, ychydig o ddim gwerth son am dano a geid ar ol. A dyna hoffai'r Arglwyddi ei wneyd. Heb ei waed Celtaidd byddai'r Sais yn rhy wan i wrthsefyll yr Arglwyddi. Ymddygant ataf fi fel pe bawn dramorwr. Ond yr oedd fy hiliogaeth i yma dair mil o flynyddoedd yn ol. Ond dywedaf wrthych paham y mae'r Arglwyddi yn cashau y Celt. Am fod y Celt yn caru Rhyddid! Gellir ei sathru dan draed—gwnaed hyny cyn hyn. Gellir ei ormesu—a Duw a wyr fe wnaed hyny hefyd. Ond ni ellir byth dori ei syched am Ryddid! Sathrwch ef yn y llaid, a chyfyd ei blant, a phlant ei blant, o'r llaid drachefn ac arwyddair Rhyddid yn eu geneuau! Wele fi yn dod atoch yma fel disgynydd o'r hiliogaeth a ymladdodd yn erbyn Iwl Caisar, i erfyn arnoch i sefyll yn ddewr yn erbyn ymosodiad mwy peryglus na hwnw i ryddid, i iawnderau, ac i freintiau trigolion Ynysoedd Prydain!"

Yr ymdeimlad hwn o genedlaetholdeb ysbrydolodd ei araeth fawr o blaid "Hawl y Cenedloedd Bychain" a draddodwyd ganddo yn Neuadd y Frenines yn Llundain, Medi, 1914. Cyfieithwyd a chyhoeddwyd yr araeth yn mron bob tafodiaith wareiddiedig yn byd. Ceir argraffiadau o honi yn Saesneg, Cymraeg, Bwlgaraeg, Danaeg, Is-Ellmynaeg, Ffrancaeg, Germanaeg, Groeg, Eidalaeg, Portugeaeg, Rwmanaeg. Rwsiaeg, Serbiaeg, Ysbaenaeg, a'r Swedaeg. A wnaed hyn ag unrhyw anerchiad cyhoeddus erioed o'r blaen, ag eithrio rhai o'r hen glasuron Groegaidd? Rhaid boddloni ar un dyfyniad byr yn unig:

"Mawr yw dyled y byd i'r cenedloedd bychain. Celf fwyaf cain y byd, gwaith cenedloedd bychain yw. Llenyddiaeth anfarwol y byd, cenedloedd bychain a'i cynyrchodd. Cynyrchodd Lloegr ei llenyddiaeth aruchelaf pan nad oedd ond cenedl fechan fel Belgium, ac yn ymladd yn erbyn Ymerodraeth fawr. Y gorchestion arwrol sy'n gwefreiddio dynoliaeth-y cenedloedd bychain a'u gwnaethant pan yn ymladd dros ryddid. Ie, a thrwy genedl fach y daeth iachawdwriaeth dynolryw. Dewisodd Duw genedloedd bychain yn gostrelau i gludo ei win mwyaf dewisol at wefusau plant dynion i lawenychu eu calon, i ddyrchafu eu golygon, it symbylu a nerthu eu ffydd. A phe y safasem o'r neilldu pan y gwesgid ac y malurid y ddwy genedl fach (Belgium. a Serbia) gan ddwylaw bwystfilaidd Anwariaeth, adseiniai y son am ein cywilydd yn oesoesoedd!"

Agos gysylltiedig a'i Genedlaetholdeb ac yn seiliedig ar yr un egwyddor sylfaenol, ceir ei Annghydffurfiaeth. Sugnodd ei serch at y ddau o fron ei fam. Y bachgen a dyfodd ac a gynyddodd ar y bwyd caled a ddeuai i ran Ymneillduwyr ei febyd, yn blentyn ac yn llanc cyfranogodd o'u caledfyd, a dyoddefodd eu holl brofedigaethau. Ond caledodd hyny y gewynau, cryfhaodd ei nerth, tynhaodd pob gieuyn moesol iddo. Oddiwrth Hampdeniaid Cymru y cafodd ei ysbrydoliaeth; wrth draed cewri Pwlpud Ymneillduol Cymru y dysgodd ei wersi cyntaf am hawliau cenedloedd bychain. Gwrandewch ar yr hyn a ddywedodd yn Neuadd y Frenines bum mlynedd cyn llefaru o hono y dyfyniad uchod:

"Mi a adwaen fy ngwlad fach fy hun—Cymru. Yr hyn a'm tarawa wrth edrych arni yw hyn: Ar y naill law gwelir castell cadarn y barwnig a phlasdy mawr y landlord; ac ar yr ochr arall adeilad bychan o briddfeini coch, gyda gair ar astell o'i flaen, naill ai 'Methodist,' neu 'Annibynwr,' neu Fedyddiwr.' Ond gellwch fod yn sicr o hyn yn y capel bach hwnw y ceir yr unig rai yn y pentref feiddiant sefyll i fyny yn erbyn y Castell. Yno y ceir pawb sy'n gwrthod cynffona. Y capeli bychain hyn yw cysegr ac amddiffynfa annibyniaeth y pentref. I ymladd dros hawliau'r bobl y saif y capeli bychain hyn yno—a gwnaed hyny!"

Ac nid rhyw argraffiadau diflanedig yw y syniadau a'r delfrydau hyn am Genedlaetholdeb ac Annghydffurfiaeth. Duw a'u planodd ynddo pan y'i ganed. Ni wnaeth dyn a'i actau, ai o'r capel ai o'r castell y deuent, ddim ond eu dyfnhau fel y tyfai yntau i'w deall a'u sylweddoli. A'r hyn a roddodd Duw iddo, a'r hyn a dyfodd gyda'i dyfiant yntau, ac a gynyddodd yn ei enaid fel y cynyddai ei gorff yntau, ni all yr un amgylchfyd politicaidd byth ei ysgubo ymaith na'i foddi. Rhaid i'r hyn a blanwyd felly yn ei natur aros yn eiddo iddo byth, gan liwio a dylanwadu, os na fedr reoli a chyfeirio, ei holl ddyfodol politicaidd.

Y trydydd peth arosol yn argyhoeddiadau Lloyd George yw ei ffydd ddiysgog mewn Masnach Rydd. Os, fel y dywed rhai, y gwthir ef gan droion dyrys y Rhyfel i rwyd Diffyndolliaeth, yn ei ymdrech i gael cyllid newydd i dalu treuliau y Rhyfel, fe gyfyd ei holl orphenol i'w gondemnio. Dywedir fod gwaith yn lladd drychiolaethau; ond ni fedrai yr un gwaith, bydded mor galed ag y bo, byth ladd ysbrydion cyffesiadau ei orphenol o gredo Masnach Rydd. Ni bu Cobden na Bright erioed yn dal y ffydd hono yn gadarnach na Lloyd George. Yn ei frwydrau am Flwydd Dal i'r Hen, ac am Yswiriant Cenedlaethol i'r gweithiwr, ymladdai o angenrheidrwydd byth a hefyd yn erbyn heresi Diffyndolliaeth.

Cyfeiriwyd eisoes at y gyffelybiaeth rhwng gyrfa Lloyd George ac eiddo Joseph Chamberlain. Ceisia rhai, ar sail y gyffelybiaeth hono, broffwydo dyfodol i'r Cymro tebyg i eiddo y gwr mawr o Birmingham. Yn ddiameu ceir llawer o bethau tebyg yn hanes y ddau; y perygl yw cario'r gyffelybiaeth yn rhy bell, ac anwybyddu y gwahaniaethau fodolant hefyd. Magwyd y ddau ar fronau Ymneillduaeth. Addolid y ddau gan eu cydgenedl a'u hetholwyr. Edrychid i lawr ar y ddau am nad oeddent wedi arfer troi mewn cylch uchel o gymdeithas nac wedi mwynhau breintiau addysg Prifysgol. Gwthiodd pob un o'r ddau drwy rym personoliaeth cryf, ddrysau yn agored oedd gynt wedi cael eu cau a'u bolltio yn erbyn eu dosbarth. Daeth y naill fel y llall gyntaf oll yn destyn gwawd, yna yn ddychryn, ac yn olaf yn eilun y bendefigaeth gref y tyngodd efe lw y mynai ei dymchwelyd. Defnyddiodd y naill fel y llall beirianwaith ei Blaid boliticaidd gyhyd ag yr oedd hwnw yn ateb ei bwrpas ef, ac yna trodd i'w ddarnio. Daeth pob un o'r ddau i amlygrwydd buan yn y Senedd, aeth o fainc yr Aelod Cyffredin ar ei union i gadair Gweinidog yn y Cabinet; yr un swydd gafodd y ddau ar y dechreu; priodolir i'r ddau fel eu gilydd y pechod o ddymchwelyd y Weinyddiaeth y perthynai iddi; daeth y naill fel y llall yn aelod o Gabinet Ddwyblaid, yr hon na ddeuai byth i fod oni bae am ei gymorth ef, a byddai bywyd y Cabinet hwnw ar ben pe troai efe i'w erbyn.

A ellir cario'r gyffelybiaeth yn mhellach? Gorfu i bob un o'r ddau nid yn unig gladdu'r fwyell, ond gosod ei law yn yr un ddysgl a'i hen elynion. Gorfu i bob un o'r ddau, er mwyn heddwch yn y Cyd-Gabinet, lyncu os nad gwadu rhai o'i hen egwyddorion. Cydsyniodd Mr. Chamberlain i basio Deddf Addysg a droseddai yr egwyddorion sylfaenol a'i dygodd gyntaf i anrhydedd. Nid yn unig cydsyniodd, ond cymerodd Lloyd George y cyfrifoldeb am Ddeddf oedd yn arosod gorfodaeth ar ddosbarth dros ryddid y rhai yr ymladdasai erioed. Bu ei ymgais cyntaf i osod y ddeddf hono mewn grym yn fethiant truenus. Chwarddodd Glowyr Deheudir Cymru Fesur Gorfodaeth Lloyd George allan o fodolaeth. Adferodd yntau heddwch yn eu plith drwy ganiatau iddynt eu holl ofynion. Cydnabyddasant hwythau hyny drwy orymdeithio heolydd Caerdydd gan ganu un o'i ganeuon etholiadol: "Lloyd George ydy'r gora', y gora', y gora!" Er condemnio o hono orfodaeth filwrol erioed, cyfrifir ef yn mhlith yr aelodau hyny o'r Cabinet a fynent gael Gorfodaeth (Conscription) i godi byddin yn awr. Yr oedd pob un o'r ddau arwr yn boblogaidd gyda'r werin, a phob un yn ymarferol yn gweithredu awdurdod ar nifer lluosog o etholaethau, Mr. Chamberlain yn Nghanolbarth Lloegr a Mr. Lloyd George yn Nghymru. Ond yr oedd y gwahaniaeth hanfodol hyn rhyngddynt; tra yr aeth holl etholaethau Canol Lloegr drosodd gyda Mr. Chamberlain i wersyll y gelyn, ni alwyd ar Mr. Lloyd George hyd yn hyn i droedio'r llwybr peryglus hwnw; unwaith yn unig yr anturiodd ymgeisio at hyny gyda Mesur Oedi Dadgysylltiad, a chlywodd yn y fan ruad daeargryn a fygythiai ddymchwelyd ei orsedd.

Ar yr un pryd rhaid cydnabod fod Mr. Lloyd George, ar hyn o bryd, yn fwy poblogaidd yn ngwersyll ei hen elynion nag ydyw yn mhlith ei hen gyfeillion. Pan welant holl bapyrau Toriaidd y deyrnas yn ei glodfori, naturiol yw i'w gefnogwyr gynt ddechreu ei ddrwgdybio. Priodolir iddo ran flaenllaw yn nhrawsffurfiad y Cabinet Rhyddfrydol, yr hwn a drowyd yn Gyd—Gabinet o Ryddfrydwyr a Thoriaid. Digiodd nid yn unig Cenedlaetholwyr Cymru ond Ymneillduwyr Lloegr hefyd wrtho, am ei waith yn cyduno a theulu Cecil—arch Doriaid eglwysyddol Lloegr—i oedi'r amser y deuai Mesur Dadgysylltiad i weithrediad. Digiodd Blaid Llafur drwy geisio o hono eu gorfodi yn groes i'w hewyllys. Ameuodd dosbarth mawr o'r Radicaliaid ef pan welsant ef yn cyduno a'r rhai a fynent wthio gorfodaeth milwrol ar y wlad. Mae'r Blaid Wyddelig yn ei ddrwgdybio o fwriad i'w gwerthu hwythau. Rhwng pob peth, yn y gwersyll Toriaidd, gwrth-werinol, gwrth-genedlaethol, seinir clodydd Lloyd George uchaf y dyddiau hyn. I'r fath raddau mae hyn yn wir fel y cyhoeddodd newyddiadur dyddiol adnabyddus yn ddiweddar yn iaith Wall Street: "Lloyd George stock is badly down!"

Ond ni welwyd neb erioed yn fwy medrus na Lloyd George i ddianc o gongl beryglus. Yn wir, dywedi am dano ei fod fel rheol "yn medru enill clod o'i gamgymeriadau."

Ceisiodd rhai ei wthio i gystadleuaeth a Mr. Asquith am gadair y Prif Weinidog. Effaith uniongyrchol yr ymgais hwnw fu gwneyd Mr. Asquith yn fwy poblogaidd, ac yn sicrach yn ei awdurdod, nag erioed. Mae gwahaniaeth dirfawr rhwng gallu Mr. Asquith ac eiddo Mr. Lloyd George. Dyma ddesgrifiad y diweddar W. T. Stead o'r Prif Weinidog:

"Mae Mr. Asquith can oered a'r grisial, mor ddeheuig a'r cythraul; dur (steel) wedi ei galedu yw ei ddeall; perchir ef gan bawb; ofnir ef gan luaws."

Adgofiwyd y wlad gan yr ymgais i'w droi o'i swydd, o'r gwasanaeth mawr a wnaeth efe iddi dro ar ol tro. Cofiodd Ymneillduwyr mai Asquith a laddodd y cydfradwriaeth oedd a'i amcan i rwystro Cymru i gael Dadgysylltiad. Adgofiodd y Gwyddelod ei fod ef wedi sefyll fel y dur dros hawliau cenedloedd bychain.

Yn ngwyneb y Gynadledd a alwyd yn ddiweddar gan yr Arlywydd Wilson i gyfarfod yn Washington i ystyried y cwestiwn o ffurfio "Cyngrair o holl Wledydd America," dyddorol yw galw i gof fod Mr. Asquith wedi awgrymu y posiblrwydd o sefydlu, ar ddiwedd y rhyfel presenol, Gyngrair cyffelyb o holl deyrnasoedd Ewrop. A yw yn bosibl mai un o ganlyniadau mawr ac annysgwyliadwy y Rhyfel yn Ewrop fydd ffurfio dau Gyngrair mawr, Cyngrair Unol Dalaethau Holl Gyfandir America, a Chyngrair Unol Dalaethau Holl Gyfandir Ewrop! Pe gwelid hyn, byddai'r Milflwyddiant yn y golwg!

Gwnaeth yr ymgais i droi Mr. Asquith o'r naill du, a gosod Mr. Lloyd George yn Brif Weinidog yn ei le, barhad Mr. Asquith fel Prif Weinidog, o leiaf hyd ddiwedd y Rhyfel, yn sicr ac anocheladwy. Ond pan elo'r Rhyfel heibio, beth wed'yn? Ni all Mr. Asquith, yn ol cwrs natur, ddal swydd o'r fath am yn hir eto. Pwy ynte a fydd ei olynydd? Pa beth a ddygwydd? A ail doddir y pleidiau politicaidd yn Mhrydain? Amlwg yw fod Mr. Lloyd George yn credu y gwneir. Dywedodd hyny yn mron yn bendant yn Nhy'r Cyffredin yr haf 1915. Ebe efe:

"Mae y Rhyfel wedi codi cwestiynau o'r pwys mwyaf, cwestiynau na feddyliodd neb am danynt, cwestiynau a benderfynant nid yn unig holl fywyd Prydain, ond dyfodol yr hil ddynol am genedlaethau. Cwestiynau mawr fydd y rhai hyn o ad-drefniant, a lanwant feddwl y genedl, pob dosbarth o honi pan elo'r Rhyfel heibio."

Rhoddir mwy nag un dehongliad i'r freuddwyd yna o eiddo Lloyd George. Nid wyf am anturio penderfynu a yw yr un o'r dehongliadau yn gywir. Ond pan edrychir ar orphenol Lloyd George gwelir ei fod yn wr o uchelgais beiddgar, yn afreolus ei hun ond yn hoffi rheoli eraill, ac yn mynu cael ei law yn rhydd pan mewn awdurdod. Dangosodd yr olaf pan y gwnaeth hyny yn amod cyn derbyn o hono y swydd o Weinidog Cyfarpar. Dywedir ddarfod iddo fygwth ymddiswyddo o'r Cabinet oni chaffai yr holl awdurdod yn yr adran newydd yn ddilyffethair yn ei ddwylaw ei hun. Na feier ef am hyny. Mae pob arweinydd mawr a welodd y werin erioed wedi bod yn wr o ysbryd unbenaethol. Gan nad beth felly ddygwydd i'r pleidiau politicaidd yn Mhrydain ar derfyn y Rhyfel, amlwg yw y bydd Lloyd George yn ddyn rhy gryf i'r naill na'r llall o'r pleidiau allu fforddio ei anwybyddu. Sibrydir weithiau y bydd yn debyg o wneyd fel y gwnaeth Chamberlain-myned drosodd at y Toriaid. Eithr os felly ni all y Toriaid gynyg dim llai na chadair y Prif Weinidog iddo. Ond os erys yn y Blaid Ryddfrydol, beth wed'yn? Nis gellir dychymygu am dano yn boddloni gwasanaethu o dan unrhyw Brif Weinidog arall na Mr. Asquith mwyach. Ond a gaffai efe ei wneyd yn Brif Weinidog ar ol Mr. Asquith? Ddim heb wrthwynebiad cryf gan fwy nag un dosbarth o'r Rhyddfrydwyr am y rhesymau a nodwyd eisoes.

Gwelir felly y posibilrwydd o'r naill ochr fel y llall. Mae dyn o allu a dylanwad Lloyd George yn anmhrisiadwy werthfawr i'r blaid y perthyna iddi. Ymddibyna ei werth ar ddau beth, sef ei allu fel dadleuydd ar y llwyfan ac yn y Ty, a'i ddylanwad yn yr etholaethau. Dyna'r ddau beth a osodasant werth ar Mr. Chamberlain i'r Toriaid, ei allu fel siaradwr, a'r sicrwydd y medrai gario etholiaethau y Midlands gydag ef i ba le bynag yr elai. Ond beth am Mr. Lloyd George? Erys ei werth fel siaradwr, fel dadleuwr, ac fel ymladdwr, tra parhao ei alluoedd corfforol heb eu hamharu. Ond beth am yr ail? A fedrai efe gario Cymru gydag ef i wersyll Toriaeth pe y penderfynai ef ei hun ymuno a'r Blaid hono? Atebaf yn ddiamwys; Na fedrai! Mae yn dra thebyg y glynai ei etholaeth ef ei hun, Bwrdeisdrefi Arfon, wrtho gan nad pa bechod gwleidyddol y ceid ef yn ei gyflawnu. Ond am gorff gwerin Cymru, mae hono a'i hegwyddorion yn sylfaenedig ar graig rhy gadarn, mae ei delfrydau yn rhy ddyrchafedig, i ganiatau iddi byth wneuthur hyny. Cafwyd profion diameuol eisoes y medr Lloyd George nid yn unig uno ond arwain holl etholaethau Cymru gyfan, 33 mewn nifer, eithr yn unig tra yr arweinia efe ar hyd y llwybr y dysgwyd hwynt ganddo ef ei hun i'w gerdded. Adgoffaodd ef Mr. Gladstone fwy nag unwaith fod Cymru yn fwy sefydlog yn ei barn, yn fwy ffyddlon i'w hegwyddorion gwleidyddol, na'r un rhan arall o'r deyrnas. Anmhosibl yw credu y byddai yn anffyddlon yn awr hyd yn nod pe y gorchymynai Lloyd George iddi wadu ei hegwyddorion. Mae'r ffaith syml hon yn tynu yn ol yn ddirfawr oddiwrth ei werth i'r Blaid Doriaidd pe medrai efe annghofio proffes a daliadau oes, a throi ei gefn ar ei hen gefnogwyr.

Ceir yn Mhrydain heddyw nifer o gwestiynau cartrefol o'r pwys mwyaf, rhai o honynt yn mron cael eu setlo, ac eraill yn gwaeddi yn uchel am hyny pan dorodd y Rhyfel allan. Ni ellir anwybyddu y rhai hyn pan orphena'r ymladd ar y Cyfandir. Rhaid talu sylw dioed iddynt can gynted ag y caffo'r wlad ei hun yn rhydd o'r helynt mawr a Germani. Mae y ffaith fod

Rhyddfrydwyr a Thoriaid yn cydeistedd ar hyn o bryd fel cyd-aelodau o'r un Cabinet yn gwneyd gwaith Mr. Lloyd George, pan ddelo'r amser i ymaflyd eto yn y cwestiynau hyn, yn rhwyddach gyda rhai ac yn anhawddach gydag eraill o honynt. Cafwyd, o fewn y dyddiau diweddaf hyn, nad yw'r Ethiop Toriaidd wedi newid ei groen, na'r llewpard Rhyddfrydol ei frychni, wrth fod y ddwy blaid yn cydeistedd yn yr un Cabinet i gyd-reoli materion y Rhyfel.

Bu yn mron myned yn rhwyg ar gwestiwn parhad oes y Senedd bresenol. Yn ol trefn natur yr oedd y Senedd hon i farw ddiwedd mis Rhagfyr, 1915, ac Etholiad Cyffredinol i gymeryd lle yn Ionawr, 1916. Gan nad dymunol a fyddai cael berw etholiad ar ganol y Rhyfel, bwriadai'r Cabinet ddwyn Mesur arbenig i mewn yn estyn oes y Senedd bresenol drwy ddarparu nad oedd adeg y Rhyfel i gyfrif fel rhan o oes y Senedd hon. Golygai hyny na fuasai raid cael etholiad am o leiaf flwyddyn ar ol diwedd y Rhyfel. Ar y wyneb ymddengys yn drefniant doeth. Ond yr oedd Mesur pwysig o dan Parliament Act Lloyd George wedi pasio mewn dau Senedd dymor ar waethaf Ty'r Arglwyddi. Pe ceid blwyddyn ar ol y Rhyfel i'r Senedd hon, gallasai'r Mesur hwnw ddod yn ddeddf ar waethaf Ty'r Arglwyddi.

Mesur yr Aml Bleidlais oedd yn darparu na chaffai neb, gan nad faint o eiddo eill fod ganddo, bleidleisio mewn mwy nag un etholaeth. Fel y mae ar hyn o bryd geill gwr cyfoethog y bo ganddo eiddo mewn gwahanol fanau bleidleisio yn mhob etholaeth y bo ganddo eiddo ynddi. Amcan y Mesur dan sylw oedd gosod y cyf- oethog a'r tlawd ar yr un tir, a buasai Mesur y Cabinet i estyn oes y Senedd yn sicrhau hyny. Ond cododd gwrthwynebiad yn mhlith y Toriaid, am y rheswm syml y buasai estyn oes y Senedd yn ddiamodol yn sicrhau pasio Mesur yr Aml Bleidlais ar waethaf yr Arglwyddi. Gohiriwyd Mesur y Cabinet felly am rai wythnosau.

Pan adferir heddwch yn Ewrop rhaid fydd talu sylw i rai o'r cwestiynau cartrefol dyrys hyn. Daw'r Aml Bleidlais, Ad-drefnu'r Etholiadau, Pleidlais y Merched, ac hyd yn nod Ymreolaeth i'r Werddon, yn mhlith eraill, i waeddi yn groch am sylw. O bosibl y gellir cytuno ar rai o honynt, er fod y gwrthwynebiad a nod- wyd i Fesur yr Aml Bleidlais yn gwneyd hyny yn ameus. Sicr yw Sicr yw y bydd y ffaith fod, er engraifft, Lloyd George a Balfour wedi cydeistedd wrth yr un bwrdd yn yr un Cabinet am gymaint o amser, yn rhwym o gyfnewid i raddau helaeth safbwynt y naill a'r llall o edrych ar bethau. Lleiheir y pellder rhyng- ddynt. Daw pob un o'r ddau yn nes i'r llall. Bydd gan Balfour lai o wrthwynebiad i rai syniadau Rhyddfryd- ol, a bydd Lloyd George yn llai milain yn ei ymosodiad ar fuddianau cyfoeth, megys yn ei ymdrech i Ddiwygio Deddfau'r Tir, er engraifft.

Gesyd hyn oll Mr. Lloyd George mewn sefyllfa anhawdd iawn yn nglyn a chwestiynau cartrefol ar ddiwedd y Rhyfel. Cymerer y cwestiwn o sicrhau cyllid i dalu treuliau y Rhyfel er engraifft. Pa Blaid bynag fyddo mewn awdurdod, rhaid fydd gwynebu y cwestiwn hwn, a rhaid, drwy hyny, godi unwaith eto y frwydr fawr rhwng dwy egwyddor lywodraethol byd masnach. Nid yw yn anmhosibl y orofa'r Rhyfel ei hun yn foddion i derfynu y frwydr rhwng Masnach Rydd a Diffyndolliaeth, mor bell ag y mae a fyno Prydain ac Ewrop. Dywedir mai Rhyfel i osod diwedd ar Ryfel yw Rhyfel Mawr Ewrop, eithr ni cheir heddwch ond ar dir cyfiawnder rhwng cenedloedd. Golyga cyfiawnder ryddid, a chyfiawnder cyd-genedlaethol gyfartal hawliau a breintiau, hyny yw hawliau a breintiau y naill yn agored i'r llall hefyd i'w mwynhau. Dywedai Lloyd George yn un o'i areithiau mai hyrwyddwr goreu heddwch yw marchnad agored. "Gadewch i genedloedd y byd," ebe fe, "gyfarfod a'u gilydd ar yr un tir, mewn marchnad agored i bawb, pawb yn mwynhau yr un manteision a'u gilydd i wneyd busnes a'u gilydd ar dir ac amodau cyfartal, ac ni bydd llawer o berygl y torir yr heddwch rhwng y gwledydd hyny." Soniai yn y Senedd ar ddechreu'r Rhyfel, am "y fwled arian" gan ddal mai arian benderfyna gwrs a therfyn y Rhyfel. Dengys yr adroddiadau a geir y dyddiau hyn o Germani ac Awstria yn arbenig, mor glir oedd rhagwelediad y Cymro ddeunaw mis yn ol. Ceir profion diymwad yn amlhau o ddydd i ddydd, mai un o amcanion mwyaf Germani wrth gyhoeddi rhyfel oedd sicrhau iddi hi ei hun lywodraeth ar fasnach a marchnadoedd y byd, a hi yw y wlad lle y cerir egwyddor Diffyndolliaeth i'w heithafion pellaf. Yn ngohebiaeth yr Arlywydd Wilson a'r Caisar sonir am "Ryddid y Moroedd," ond gan nad beth a feddyliai yr Arlywydd wrth y

ei wrthwynebwyr; canys ni ddichon neb wasanaethu dau Arglwydd.

Dug hyn ni gam yn mhellach drachefn. Amlwg yw fod Lloyd George, pan yn son am "fesurau mawr o ad-drefniant i'r genedl Brydeinig" yn ei araeth fawr yn y Senedd, yn rhagweled cyfnewidiadau mor fawr fel yr ant i lawr hyd at seiliau Cyfansoddiad yr Ymerodraeth. Bydd "Teyrnas Prydain Fawr" yn llai ar ol y Rhyfel nag oedd o'r blaen; ond bydd "yr Ymerodraeth Brydeinig" yn llawer mwy nag erioed. Y "Deyrnas" gyhoeddodd y Rhyfel; yr "Ymerodraeth" sydd yn ymladd. A phan enillir y fuddugoliaeth, ac nid oes neb yn y Deyrnas na'r Ymerodraeth yn ameu am foment y llwyr orchfygir Germani-yna, nid y "Deyrnas" ond yr "Ymerodraeth" fydd yn setlo amodau heddwch.

Mae yn annghredadwy y boddlona Canada, a De Affrica, a'r India, ac Awstralia, a New Zealand, i bethau barhau ar ol y Rhyfel fel yr oeddent cyn iddynt hwy gyflwyno o'u trysor ac aberthu afonydd mor fawr o waed eu bechgyn dewraf a goreu i enill buddugoliaeth. Ac, yn wir, pan siaredir a'r bechgyn o'r gwledydd hyn sydd yn y ffrynt heddyw, deallir mai nid dros y "Deyrnas" ond dros yr "Ymerodraeth" y maent hwy yn brwydro. Ac amlwg yw, oddiwrth yr hyn a gymerodd le eisoes mewn cylchoedd swyddogol uchel yn Mhrydain Fawr a'r Trefedigaethau, mai "Yr Ymerodraeth Brydeinig" ac nid Cabinet Prydain Fawr, fydd yn penderfynu cwestiynau mawr y dyfodol, a pherthynas yr Ymerodraeth a gwledydd eraill.

Mae meddwl Prydain a'r Trefedigaethau heddyw yn aeddfedu ar y cwestiwn o gael Cabinet Ymerodrol yn ngwir ystyr y gair; Cabinet yn yr hwn y ca y Trefedigaethau lais fel eiddo Prydain ei hun. Golyga hyny addrefnu yr holl Gyfansoddiad Prydeinig—cyfnewidiad aruthrol fawr. Ond er mor fawr yw, cynwysir ef yn rhwydd yn rhagolwg Mr. Lloyd George yn yr araeth y cyfeiriwyd ati eisoes.

Dyna'r peth a rydd derfyn bythol ar gweryl Ymreolaeth. Daw yr holl ymerodraeth i mewn i'r cwestiwn. Ca Lloegr, yr Alban, y Werddon, a Chymru, bob un lywodraethu ei materion cartrefol ei hun heb ymyriad neb o'r tu allan iddi—fel y gwna y Trefedigaethau mawrion eisoes, ac fel y gwna pob talaeth yn yr Unol Dalaethau. Yna, uwch ben yr oll, yn arolygu yr oll, yn penderfynu polisi cyffredinol yr oll mewn pethau a berthyn i'r oll, bydd Senedd Brydeinig a Chabinet Ymerodrol, fel y mae y Gydgyngorfa a'r Senedd yn Washington yn rheoli pethau a berthyn i holl Dalaethau'r Weriniaeth gyda'u gilydd.

Ac yn y Senedd a'r Cabinet Ymerodrol hyny y mae, o bosibl, lle, a swydd, a gwaith dyfodol Lloyd George. Bu yn arweinydd Cenedlaetholwyr Cymru; tyfodd yn rhy fawr i fod yn eiddo Cymru yn unig. Daeth yn wladweinydd Prydeinig, ac mae wedi dringo mor uchel fel nad oes ond un sedd uwch yn ei aros yn Senedd Prydain. Dangoswyd eisoes yr anhawsderau a'i gwynebai ef yn y cyfryw swydd. Ond ni wynebai'r anhawsderau hyny ef yn y Senedd a'r Cabinet Ymeodrol. Yno caffai le a gwaith a gydgordient a'i dymeredd; ni byddai raid iddo yno aberthu yr un argyhoeddiad na gwadu yr un egwyddor a ddelid ganddo gynt; ni byddai raid iddo ymwrthod ag unrhyw bolisi a gymellid ganddo yn y gorphenol. I'r gwrthwyneb agorid o'i flaen faes newydd ac eang lle y caffai chwareu teg i weithredu pob talent fel gwladweinydd doeth, beiddgar, gwerinol. Yn ngoleuni y cyfryw bosibilrwydd gellir darllen ystyr newydd i'r hyn a ddywedodd efe yn niweddglo ei araeth fawr yn Neuadd y Frenines ar y Cenedloedd Bychain y dyfynwyd o honi eisoes. Gan gyfeirio at y Genedl Brydeinig yn ystyr eang y gair fel ag i gynwys yr "Ymerodraeth" yn hytrach na'r "Deyrnas," dywedodd:

"Enilla'r bobl drwy'r gwledydd oll fwy yn yr ymdrechfa hon nag y maent hwy eu hunain yn ddirnad. Gwir y rhyddheir hwynt o afael yr hyn a fu gynt y perygl mwyaf i'w rhyddid. Ond nid dyna'r cwbl. Mae rhywbeth anrhaethol fwy, a mwy parhaol, eisoes yn esgyn o'r ymryson mawr hwn, sef gwladgarwch newydd, cyfoethocach, godidocach, a mwy dyrchafedig na'r hen. Gwelaf, yn mhlith pob dosbarth, uchel ac isel, y bobl yn ymddiosg o'u hunanoldeb, a chydnabyddiaeth newydd nad ar gadw ei chlod ar faes y gad yn unig yr ymddibyna anrhydedd gwlad, ond hefyd ar ei gwaith yn noddi ei chartrefi rhag cyfyngder. Dygir felly weledigaeth newydd i bob dosbarth. Mae'r llifeiriant mawr o foeth a diogi oedd wedi gorlifo'r tir yn cilio, a gwelir Prydain newydd yn codi ei phen. Gwelwn eisoes, ac am y tro cyntaf, y pethau sylfaenol sydd o bwys mewn bywyd, ac a guddiwyd o'n golwg gan dwf bras llwyddiant, yn ymwthio i'r wyneb.

"Buom yn llawer rhy esmwyth ein byd, yn rhy foethus, a llawer o honom yn rhy hunangar; ond wele law drom tynged yn ein ffrewyllu i uchelder o'r lle y gwelwn y pethau ydynt o dragwyddol bwys i genedl-Anrhydedd, Dyledswydd, Gwladgarwch, ac, mewn gwisg ddysglaerwen oleu, binacl uchel Aberth yn dyrchafu fel bys mawr yn cyfeirio tua'r Nef. Disgynwn eto, o bosibl, i'r dyffrynoedd; ond tra bo byw meibion a merched y genedlaeth hon, cadwant yn fyw yn eu calonau ddelw banau'r mynyddoedd mawr, sylfaeni y rhai ni syflir byth, er siglo a chrynu holl gyfandir Ewrop gan ryferthwy'r Rhyfel mawr!"

Ai cenadaeth ddyfodol y Cymro Lloyd George ynte, fydd cymeryd rhan flaenllaw mewn ad-drefnu yr Ymerodraeth Brydeinig dros wyneb dacar, ac o'i haddrefnu agor drysau marchnadoedd y byd i bob cenedl ar y ddaear? Gwr mawr oedd Disraeli, eithr ni feiddiodd efe namyn breuddwydio am y cyfryw Ymerodraeth. Rhoddodd i Frenines Prydain y teitl seinfawr ond gwag o Ymerodres yr India. A gadwodd ffawd i'r Cymro Lloyd George roi sylwedd i freuddwyd Disraeli, a gwerth yn y teitl a greodd efe? Mewn gair ai i Lloyd George yr ymddiriedodd ffawd y gwaith o roddi ffurf, a llen, a bywyd, i ddyhead gwag ac afluniaidd y Pobloedd Prydeinig yn mhedwar ban y byd am undeb agos ac ymarferol rhyngddynt a'u gilydd yn un cyfangorff, dyhead a gyffrowyd i fywyd newydd gan y Rhyfel Mawr?

Yn Nghabinet y cyfryw Ymerodraeth wedi ei chreu o'r newydd gan y Rhyfel ofnadwy presenol, y caffai ei athrylith gyfoethog le i weithio, ac i enill i bobloedd Prydain, gwasgaredig dros wyneb y ddaear, freintiau cyffelyb o ran eu gwerth er yn wahanol o ran eu natur, i'r rhai y gwisgodd efe arfogaeth am dano gyntaf erioed i'w henill i Gymru yn unig.

Nodiadau golygu

  1. Life Romance of Lloyd George, B. G. Evans Everyman, 1915
  2. Olynydd i Edward Caird oedd Syr Henry —gweler Henry Jones yn y Bywgraffiadur
  3. mab i grydd o Langernyw ger Abergele oedd Syr Henry
  4. Elizabeth George née Lloyd
  5. Nid Henry Richard oedd yr ymneilltuwr Cymreig gyntaf i'w ethol i'r senedd, etholwyd Walter Coffin dros Gaerdydd 14 mlynedd o'i flaen ef ac etholwyd dau Gymro Cymraeg ymneilltuol; David Williams Castell Deudraeth a Richard Davies am y tro cyntaf yn yr un etholiad ag etholwyd Richard gyntaf
  6. Margret Lloyd George née Owen
  7. Prifysgol Bologna yw'r Brifysgol hynaf yn y byd
  8. Mair Eluned Lloyd George
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.