Rhys Llwyd y Lleuad/O Tyred yn Ôl

Cysgod Yr Hen Gartref Rhys Llwyd y Lleuad

gan Edward Tegla Davies

Geirfa

XII

"O! TYRED YN OL"

Bu Dic a Moses yng nghwmni Shonto'r Coed mor hir y tro hwn, fel yr ofnaf iddo ddylanwadu'n anffafriol arnynt. Nid wyf felly'n mynd yn gyfrifol tros ddywedyd bod y rhan hon o'r stori'n hollol gywir, eu hanes yn dyfod yn ôl. Eithr cewch hi'n union fel y cefais i hi ganddynt hwy. Dic, gan mwyaf, oedd yn ei hadrodd.

Sefyll yn eu hunfan y bu Dic a Moses yn hir, ebe hwy, yn ceisio'n ofer lyncu'r lwmp rhyfedd a godai i'w gyddfau, wrth edrych ar y tamaid duwch ar gongl yr haul, a meddwl am bwy oedd yno. O dipyn i beth diflannodd y duwch yn llwyr, ac ni welid mwy ond yr haul yn disgleirio'n danbaid. Edrychodd Dic ar Foses, ac estynnodd ei fys tua'r fan y tybiai fod y ddaear ynddi. Edrychodd Moses arno yntau a nodiodd ei ben, ac edrychasant mor hir i'r rhan honno o'r gwagle nes anghofio pawb a phopeth. Erbyn hyn yr oedd y gwres wedi cynhyddu'n enbyd, nes ei bod yn boethach nag y cofient hi erioed ar wyneb y ddaear. Gan faint y gwres gorweddodd Dic ar ei hyd, â'i benelinoedd ar lawr, a'i ên rhwng ei ddwylo, ac edrychodd i fyny tua'r ddaear, a gwnaeth Moses yr un peth. Ac felly y buont yn hir, yn edrych i fyny, ar eu hyd ar lawr, a phob un â'i ên yn ei ddwylo. Ac yn ymyl, dan gysgod craig, hanner gorweddai dyn y lleuad, yn gwneuthur yr un peth. Heb yn wybod iddynt darfu dylanwad yr afalau lleuad arnynt yn llwyr, fel yr awgrymodd dyn y lleuad dro'n ôl.

Fe'i teimlodd Moses ei hun yn boeth arswydus cyn bo hir, yn enwedig ei goesau. Edrychodd arnynt, ac er ei ddychryn gwelodd eu bod wedi toddi'n llyn. Edrychodd ar Ddic, a gwelodd fod Dic yntau'n prysur doddi. Toddasai ef fwy na Moses. Nid oedd ond ei ben a'i goesau yn y golwg uwchlaw'r llymaid. Yr oedd y gweddill ohono'n llyn, a deallodd Moses eu bod ill dau, yn y gwres ofnadwy hwnnw, yn toddi, fel y gwelsant ddyn eira'n toddi ar wyneb y ddaear. Dyna'r olygfa fwyaf digalon sy'n bod, yw dyn eira'n toddi, a'r olygfa sy'n dangos mwyaf o ddewrder hefyd. Er i'w draed a'i goesau doddi'n llyn, a'i gorff wedyn, deil y dyn eira i wenu â'i bibell yn ei enau, a'i het ar ochr ei ben, fel pe na buasai dim o'i le yn digwydd. A phan dawdd ei ben o'r diwedd tawdd dan wenu ac ysmygu. Os ydych am ddysgu'n gynnar ar eich hoes sut i herio bywyd yn ei holl chwerwder pan ddeloch yn ddynion, gwyliwch ddyn eira'n meirioli. Teimlo y byddwn ofid mawr mai toddi'n ddwfr yw diwedd creaduriaid mor ddewr â dynion eira. Nid oedd Dic a Moses yn wynebu eu meiriol mor ddewr â hyn, yn enwedig Moses. Golwg go anobeithiol oedd ar eu hwynebau fel y toddent bob yn dipyn.

Yn y man nid oedd dim heb doddi ond corunau eu pennau, a nofiai'r rhai hynny yn ôl a blaen ar wyneb y llyn, fel ymenyn ar wyneb llaeth. O'r diwedd toddasant yn llwyr, ac nid oedd yno mwy ond dau lyn yn disgleirio yn yr haul lle yr oedd dau fachgen gynt. Toddasai eu cnawd, a'u hesgyrn, a'u gwallt, a'u dillad, a phopeth.

Eithr er toddi ohonynt ni pheidiasant â gwybod amdanynt eu hunain, ac am ei gilydd. Gwyddai'r llyn oedd yn weddillion Moses mai Dic oedd enw'r llyn yn ei ymyl,—dyna'r tro cyntaf yn hanes y byd i lyn gael ei alw yn "Dic." A gwyddai'r llyn oedd yn weddillion Dic mai Moses oedd enw'r llyn yn ei ymyl yntau,—a dyna'r tro cyntaf yn hanes y byd, hefyd, i lyn gael ei alw'n Moses"; ac i lynnoedd ac i lynnoedd wybod amdanynt eu hunain eu bod yn fyw. Gwyddent bopeth a wyddent o'r blaen, er mai llynnoedd oeddynt.

Wedi eu toddi'n llynnoedd, dechreuodd yr haul sychu'r llynnoedd fel y sych lynnoedd y ddaear, a chodasant yn araf, yn darth i'r gwagle uwchben. i'r llynnoedd ar y lleuad yn llai—lai o hyd, a hwythau'n esgyn o dipyn i beth yn darth. Fe'u teimlent eu hunain yn codi, a chodi, bob yn dipyn, nes i'r llynnoedd a fu gynt yn Foses a Dic sychu'n llwyr. 'Roedd y teimlad o godi yn darth o'r llyn, ebe Dic, y teimlad tebycaf a fu erioed i'ch gwaith yn eich teimlo'ch hunain yn chwyddo o dan ganmoliaeth. Gwyliwch rhag gormod o ganmoliaeth rhag ofn eich troi chwithau'n darth. Yr oeddynt bellach yn hofran yn y gwagle yn dameidiau o darth, ac yn esgyn, esgyn o hyd, fel mwg o simnai ar ddiwrnod tawel, neu darth yn codi oddiar fynydd pan gyfyd yr haul. A thrwy'r cwbl gwyddent yn iawn mai Dic a Moses oeddynt. Wrth esgyn, ac esgyn, fe'u teimlent eu hunain yn oeri, ac wrth oeri yn tewychu'n gymylau. A dyna lle yr oeddynt, bellach, yn ddau gwmwl yn esgyn, ac esgyn o hyd.

Ceisiodd Dic siarad â Moses, ond yr oedd mewn dyryswch newydd,—ni wyddai pa ran ohono'i hun oedd ei ben a pha ran oedd ei draed. Fe deimlai Moses, yntau, awydd mawr i siarad â Dic, ond yr oedd yntau yn yr un anhawster yn union.

Esgyn, ac esgyn, yr oeddynt o hyd, yn ddau gwmwl yn y gwagle, a rhyfedd oedd gweled dau gwmwl uwchben y lleuad gan fod yr awyr uwch ei phen hi bob amser mor rhyfeddol o glir, os priodol galw lle heb ddim awyr ynddo yn awyr." O'r diwedd, wedi esgyn ac esgyn, ymhell o gyrraedd y lleuad, deuent tua'r lle na symudent ynddo, nac yn ôl nac ymlaen, pan oeddynt ar eu ffordd i'r lleuad. Carent ofyn i'w gilydd i ble yr oeddynt yn mynd tybed, a gobeithient yn erbyn gobaith mai tua'r ddaear yn ôl yr oedd eu taith. sydyn, teimlent ryw ysgydwad ar eu hymylon, fel awel ysgafn, a phwy a welent yno, wedi teithio fel tân gwyllt ar eu holau, ond dyn y lleuad. A dyna'r adeg, wrth weld y dyn yn eu hymyl, y daethant i wybod ymhle yr oedd eu llygaid.

Yr oedd rhai Dic, eb ef, wedi nofio, yn rhan o'r cwmwl, i ymyl ei draed; a rhai Moses wedi crwydro y tu ôl i'w ben.

"Aethoch o'r lleuad yn sydyn iawn," ebe'r dyn wrthynt,—" cyn gynted ag y dechreues i bendympian ychydig." Ond nid atebasant air iddo. Ni fedr cwmwl siarad ond pan fo hi'n taranu. Llais y cwmwl yw'r daran. Ac yr oeddynt yn rhy ieuainc i fod wedi dysgu taranu. Pan â cymylau'n hen a thrymllyd y dysgant daranu. Ac yn ôl Shonto'r Coed, nid yw'n wahanol iawn ymysg dynion. Dyna ei wendid ef, bod fyth a hefyd yn cynghori a thynnu gwersi, arwydd arall o henaint.

"A wyddoch chi pam na symudech nac yn ôl nac ymlaen pan oeddech yn y cyfeiriad yma o'r blaen?" eb ef wrthynt dan wenu. Ond nid atebasant air iddo eto, a phrin yr oedd yntau'n disgwyl ateb ganddynt. A phe buasai rhywun dieithr yno credasai ei fod yn dyrysu yn ei synhwyrau,—yn siarad â dau gwmwl.

"Wel," eb ef, "gedwch i mi ddeyd wrthach chi. Y lle y safasoch chi ynddo, a'r lle yr ydech chi ynddo rwan, ydi hanner y ffordd rhwng dylanwad y ddaear arnoch chi, a dylanwad y lleuad. Pan fyddwch chi yma, y mae'r ddaear a'r lleuad yn tynnu'r un faint arnoch chi, ac felly fedrwch chi ddim symud yn ôl nac ymlaen ohonoch eich hunen. Dyma'r Trobwll Mawr."

Estynnodd y dyn ei freichiau a'i fantell, a dechreuodd wthio Moses ychydig ymlaen, gan ei fod yn symud yn rhy araf ganddo. Yna. gwnaeth yr un peth â Dic. Y rheswm iddo estyn ei fantell yn ogystal â'i freichiau oedd rhag gadael dim o'r bechgyn ar ôl. Canys anodd iawn yw symud cwmwl heb adael dim ohono ar ôl.

Dechreuasant symud wedyn, a hynny'n gyson i'r un cyfeiriad, a daethant i wybod cyn bo hir iawn mai tua'r ddaear yr aent. Fel yr enillai tyniad y ddaear arnynt, ac fel y gwanhâi tyniad y lleuad, cyflyment a chyflyment. O'r diwedd fe'u gwelsant eu hunain yn ddau gwmwl ymysg cymylau eraill, yn hofran uwchben y ddaear, A dyn y lleuad oedd wedi dyfod i'w hebrwng, yn ymguddio o'r tu ôl iddynt rhag i bobl y ddaear ei weld.

Buont yn hofran felly am ychydig uwchben y ddaear. Bob yn dipyn fe'u teimlent eu hunain. yn troi'n ddiferion mawr. Ac ni allent mwyach eu dal eu hunain wrth ei gilydd. Disgynnent i lawr tua'r ddaear yn ddiferion glaw. O drugaredd nid oedd yn noson stormus, ac am hynny gallasant ddisgyn heb fynd ormod ar chwâl.

Wel, Dic annwyl," ebe Moses, ryden ni'n troi'n law cyn wired â'r pader." Ond ni chlybu Dic ond sï fel si glaw'n llithro trwy'r awyr. A throi'n law a wnaethant, a'u glawio eu hunain ar y ddaear. O'r diwedd yr oeddynt wedi eu glawio'u hunain i gyd, yn ddiferion, tros ddwy ran o'r wlad. Wedi gorffen eu glawio'u hunain, dechreuodd y diferion redeg yn fân ffosydd at ei gilydd, nes bod y ddau, unwaith yn rhagor, yn ddau lyn, ond yn llynnoedd ar wyneb y ddaear, ac nid yn y lleuad.

Wedi bod felly am dipyn, fe'u teimlent eu hunain yn cael eu rholio'n ôl a blaen, a deallasant mai'r gwynt a chwythai arnynt gan eu rholio a'u pobi. Yr oedd wedi codi'n awel er pan ddisgynnodd y ddau ar wyneb y ddaear. Nos ydoedd, ac yr oedd yn oer echryslon, ond yn gannaid oleu leuad. O dipyn i beth fe welent ryw bethau'n gwibio fel sêr yn ôl a blaen yn yr awyr o'u hamgylch, a deallasant yn union mai Shonto'r Coed a'i deulu oedd yn arwain y gwynt wrth ei waith. A gwelsant, ebe Dic, nad oedd stori Shonto am ei ddylanwad ei hun ar y gwynt a phethau eraill, gymaint allan o'i lle, wedi'r cwbl. Ac fe'u teimlent eu hunain yn caledu, a phob yn dipyn yn cymryd ffurf newydd.

"Rargien fawr, ryden ni'n rhewi, a 'does yma ddim fale lleuad chwaith i'n rhwystro ni," ebe Moses.

A rhewi yr oeddynt, neu'n fwy cywir, caledu'n ôl, a chael eu hail bobi'n fechgyn. Rholiai'r gwynt hwy, dan arweiniad Shonto a'i deulu, a chaledent fel y rholient, nes dyfod bob yn dipyn yn eu holau'n fechgyn. Neidiasant ar eu traed, a rhedasant at ei gilydd,—

Wel, Dic annwyl," ebe Moses. Ac er eu syndod gwelsant eu bod yn clywed ei gilydd yn siarad i'r dim. Edrychasant oddiamgylch yn wyllt, a lle y gwelsant eu hunain ynddo ond yn ymyl y fan y cychwynasant ohoni,—rhwng dau hen glawdd, yn ymyl yr hen dwll tywod, dan gysgod y Wal Newydd, wrth Goed y Tyno. Rhedasant am eu bywyd tua'r Llan, a beth a welent ond y capel yn gannaid oleu, a sŵn hwrê mawr, a churo dwylo, yn dyfod ohono. Rhuthrasant tuag ato, ac i borth y capel â hwy, a heibio i ddau ddyn oedd yno'n gofyn i bawb am docynnau. "Be sy'n bod?" ebe hwy, â'u gwynt yn eu dyrnau.

Yr eneth fach wallt gole a llygad glas acw sy newydd fod yn canu 'O! tyred yn ôl,' ac wedi ennill," ebe rhywun wrthynt, "ac mae'r bobol yn gweiddi, er gwaetha'r beirniad, am ei chael hi i ganu eto."

"Be sy 'ma?" ebe Dic.

"'Dwyt ti ddim yn gwybod mai 'Steddfod sy 'ma," ebe rhywun, yn wyllt a diamynedd.

Yn gweld rhai yno heb wybod dim am y 'Steddfod enwog dechreuodd rhyw lashogiau oedd yn y porth rythu arnynt,—

"Helo, Dic a Moi, y gweilch," ebe un ohonynt, "lle rydech chi wedi bod cyhyd, a phawb yn y wlad yn edrych amdanoch chi?"

Ond ar hyn dyna'r eneth fach ymlaen i ganol y llwyfan drachefn, ac yn canu nes bod y ddau fachgen wedi eu swyno gymaint fel y methent â symud na bys na bawd,—

Dolurus fy nghalon, a gwelw fy mryd,— Ple 'rwyt ti f'anwylyd yn aros cyhyd?

yn union fel y clywsai Moses hi yn ei freuddwyd yn y lleuad. Pan ddaeth hi i'r geiriau,—

O! tyred yn ôl, O! tyred yn ôl, Pe gwyddwn lle 'rydwyt ehedwn i'th nól,

fe'i hanghofiodd Moses ei hun yn lân. Rhedodd ymlaen tua'r llwyfan, a gwaeddodd,—" Wel, dyma fi'n dwad." Edrychodd yr eneth fach tuagato, gwelodd ef, gwyrodd ei phen yn sydyn, gwridodd at ei chlustiau, ac ni allai ganu mwyach.

Meddyliodd rhan fwyaf y gynulleidfa mai ffwlbri bachgen direidus oedd gwaith Moses yn gweiddi felly, a dechreuasant chwerthin. Cyn iddynt ddyfod atynt eu hunain, a gwybod yn wahanol, rhedodd Dic at Foses, ac eb ef wrtho'n wyllt,—

"Tyrd allan odd'ma, a phaid â dangos i bawb dy fod ti wedi bod yn byw yn y lleuad."

Ac allan â hwy am eu bywyd.

Ryw fin nos, wedi iddynt fod gartref ers tro, a'r stori amdanynt yn mynd ar goll wedi ei hanghofio, aeth y ddau am dro tua'r Tyno. Pan oeddynt yn siarad yn ddifyr am hyn a'r llall, â'u cefnau ar y Wal Newydd, dyna chwerthin tros y wlad yn eu hymyl. Troesant eu hwynebau tuagato, a phwy oedd yno'n dawnsio, gan wenu arnynt o glust i glust, ond hen ddyn y lleuad.

"Helo, Rhys Llwyd," ebe Dic, "ers pryd yr ydech chi wedi dwad yma?"

"'Des i ddim yn f'ôl ar ôl y'ch hebrwng chi," eb ef. "Mi redes i edrych am Shonto y nosweth honno, ac yno rydwi byth."

"Beth am y Llotyn Mawr?" ebe Moses.

"Does dim sôn amdano fo," ebe dyn y lleuad. "'Roedd o wedi mynd cyn imi gyrraedd yno'r nosweth honno. Mae'n ymddangos mai fel hyn y bu hi,—'Roedd o wedi bod am dros wythnos heb neud dim ond yfed gwynt. O'r diwedd mi feddwodd ac mi syrthiodd, ond dal i yfed yr oedd felly, nes iddo chwyddo tuhwnt i bob maint, ac yn fwy nag y gwelodd neb erioed o. A dene lle 'roedd o yn gorwedd ar gwr y llwyn. Ac felly y bu am ddyddie heb wybod dim oddiwrtho'i hun. 'Roedd rhialtwch mawr y nosweth leuad lawn wedyn, a phawb yn canu a dawnsio. Pan ddaeth y lleuad yn union uwchben galwodd rhywun am floedd o groeso iddi. A dene floeddio a neidio na chlywyd erioed eu tebyg. Pan oeddynt ar ganol bloeddio dene ffrwydriad o gwr y llwyn, a grynodd y ddaear, ac a foddodd y sŵn bloeddio. Rhedodd pawb yno mewn braw, ond nid oedd sôn am y Llotyn Mawr. 'Roedd o wedi ffrwydro'n dipie mân, a'r darne, medde Shonto, wedi chwalu dros y byd i gyd. A 'chlywyd byth ddim amdano fo. Gobaith mawr teulu Shonto ydi y deuir o hyd i'r darne, a'u claddu, cyn iddyn nhw ddechre gwenwyno'r awyr i blant dynion, o achos 'does ar deulu Shonto ddim eisio, ar unrhyw gyfri, i'r drwg oedd arno fo ddechre ymosod ar blant dynion. A 'does gen inne ddim chwaith, ar ôl y'ch nabod chi'ch dau. Ond y mae galar trwm yng ngwlad y Tylwyth Teg am i ymddygiad y Llotyn Mawr ei ladd, a thrwy hynny achosi i farwolaeth ddechreu yn eu plith."

Balch iawn oedd Dic a Moses, fodd bynnag, o glywed am ddiwedd y Llotyn Mawr, er mwyn i ddyn y lleuad gael aros ar y ddaear, iddynt hwy fedru mwynhau ei gwmni'n awr ac eilwaith. A gobeithient na wnai dim darn o'r Llotyn Mawr wenwyno'r awyr, rhag iddynt hwy byth orfod ffoi i'r lleuad o ffordd neb tebyg iddo, neu gael eu chwythu yno ganddo. Ac eto, lled ofnai Dic ei fod wedi gweld amryw o blant dynion yn ddiweddar heb fod yn rhyw annhebyg iawn iddo.

Dechreuasant sôn ill tri am daith y bechgyn i'r lleuad, a'u troi'n gymylau er mwyn medru dyfod oddiyno, a'u gwaith yn hofran felly am dro uwchben y byd,—

"Welwch chi'r cymyle acw sy uwchben heno, Rhys Llwyd?" ebe Dic, ydech chi'n meddwl mai dynion yden nhw?

"Wn i ddim, yn siwr," ebe'r dyn,"ond mi ofynna i Shonto. Os rhai wedi bod yn ddynion, ac eisio'u troi'n ôl yden nhw, mae'n siwr y bydd llawer iawn o waith ail bobi a chledu ar bethe sy gymint ar chwâl â'r rhai acw. Mae gen i ofn bod yn rhaid iddyn nhw aros fel y mae nhw, o achos mae troi pethe fel ene'n ddynion yn ormod o drafferth hyd yn oed i deulu Shonto." A gwelodd y bechgyn mai gwaith medrus a blinderus iawn yw gwneuthur dyn, gan fod hyd yn oed teulu Shonto mor amharod i ymosod ar y gwaith, â digon o ddefnydd wrth law.

Ar hyn gwelent ddau gysgod yn y pellter, rhyngddynt a'r awyr, tebyg i ddau ddyn, yn dyfod tuagatynt, ac un ohonynt yn honni wrth y llall, gan siglo cerdded, mai ef oedd meistr pawb oll, a bod pob rhinwedd yn cydgyfarfod ynddo. A chan ofni mai'r Llotyn Mawr ydoedd, neu'n fwy tebyg, rhywun o blant dynion wedi ei wenwyno gan ddarn ohono, rhedodd pob un adref am y cyntaf, rhag ofn mai gorfod mynd i'r lleuad yn ôl fyddai eu hanes, os digwyddai iddo ddyfod o hyd iddynt.

Nodiadau golygu