Seren Tan Gwmwl/Y Senedd Gyffredin
← Yr Arglwyddi | Seren Tan Gwmwl gan John Jones (Jac Glan y Gors) |
Esgobion ac Offeiriaid → |
Y Senedd Gyffredin
Bellach dywedaf air neu ddau mewn perthynas i'r Senedd Gyffredin. Mi feddyliai dyn wrth edrych ar y tŷ yma oddi allan ei fod e'n dy yn cynnwys aelodau yn byw ar eu heiddo eu hunain; a chwedi eu dewis gan ryw nifer o'u cymdogion a'u gyrru i'r tŷ cyffredin i wneuthur daioni iddynt eu hunain a'u cydwladwyr; ac mi allai dyn feddwl fel y gwnai dynion felly ryw ddaioni yn daledigaeth i'r bobl am eu dewis hwy, a'u cludo nhw mewn cadair ym mhen tre'r sir, lle bôn' hw yn cael eu dewis, a chael anrhydedd mawr oherwydd eu bod yn cael eu hethol; ac yn enwedig fod y rheini sydd yn eu hethol hwy yn ymddiried iddynt am wneuthur eu gorau ar les y wlad yn gyffredin.
Ond O resyndod a gwaradwydd a chywilydd a cholled. Dyna y tŷ mwyaf llygredig a halogedig a adeiladwyd mewn gwlad erioed, ar feddwl gwneuthur lles i'r deyrnas. Ni chlywais, ac ni welais i mewn hanesion erioed sôn am dŷ yn cael gwneuthur cymaint camarfer ohono, namyn y tŷ lle yr oedd y bobl yn gwerthu colomennod yn Jerusalem. Y gwŷr cyntaf a mwyaf eu parch yn y tŷ yma yw gweinidogion y brenin, neu brif lywodraethwyr tan y brenin; a Will Pitt ydyw y gŵr cyntaf ohonynt; a phob pwnc a ddelo ef ger bron y Senedd (am drethi newyddion, am godi gwŷr i ryfela, neu dalu dyled Tywysog Cymru, neu rywbeth arall o'r cyffelyb ag a fo'n ddaioni mawr i'r bobl gyffredin), rhaid iddo ennill ei bwnc, neu fod mewn perygl o golli ei le; ac oherwydd y llefydd a'r oferswyddau ag y mae y rhan fwyaf o'r aelodau yn eu cael am godi eu dwylaw efo gweision y brenin, hawdd y gallant trwy nerth llefydd ac arian gael gwneuthur y peth a welont hwy'n dda eu hunain.
Mae llawer cyndrefniad anafus yn perthyn i'r Senedd Gyffredin; yn gyntaf, nid oes gan neb ond perchen tir ddim hawl i roi llais i yrru aelod yno; oddieithr mewn rhyw ychydig fannau; felly nid oes mo'r un o ugain ag sydd yn talu treth yn cael llais yn y llywodraeth; heblaw hynny, mae ambell bentref lleuog wedi hanner braenu, na thâl hynny o dai a fo ynddo fe mo'r canpunt, yn gyrru dau aelod i'r Senedd; ac nid oes gan lawer o drefydd mawr, fel Birmingham neu Manchester, ddim hawl nac awdurdod i ddanfon undyn i siarad trostynt yn y Senedd. Wrth hynny mae'n eglur na fu yn Lloegr erioed reolaeth ar lywodraeth wrth feddwl ac ewyllys y bobl yn gyffredin. Mae sir Ddinbych (a llawer o siroedd eraill yng Nghymru) yn danfon dau ddyn i'r Senedd; ond ni welais i erioed ddim o waith y gwŷr da hynny yn areithu ar yr un pwnc, pa un ai diffyg doniau a llithrigrwydd ymadrodd sydd arnynt, ai cael rhywbeth am dewi y maent, sydd beth pur anhawdd ei wybod; ond pa un bynnag, pan fo dynion yn aelodau o'r Senedd am amryw flynyddoedd, ac heb ddywedyd un gair, drwg na da, na gwneuthur dim arall ond codi eu dwylaw i foddio pobl eraill, ni byddai waeth i'r bobl sy'n eu danfon nhw ddanfon yr un nifer o wyr gwellt, a llinyn wrth fraich pob un, i gyrraedd at law aswy Will Pitt, i gael iddo ef dynnu eu breichiau nhw i fyny pan fyddai achos.
Mi ddywed rhai fod pob peth yn ei le yn sir Ddinbych neu sir Feirionnydd, neu ryw sir arall, lle mae'r bobl fudion yma'n cael eu danfon i'r Senedd; ac nad oes dim eisiau i'r aelodau siarad pe baent yn medru. Chwenychwn ofyn i'r rhai a ddywed hynny, a ydyw pobl sir Ddinbych yn byw yn well, ac yn esmwythach, ac yn ddedwyddach, yn yr amser yma nac yr oeddynt yn amser yr hen Syr Watkin? Mae'n ddiamau gen i fod llawer hen ŵr penllwyd yn barod i ateb,
Nac ydym; dyma'r flwyddyn galetaf a fu arnom ni erioed."
Os felly, mae mwy achos i siarad yn y Senedd yr amser yma nag oedd yn amser yr hen Gymro cyfiawn, Syr Watkin William Wynne. Dyna ddyn teilwng i'w ddanfon i'r Senedd, i siarad tros bobl ei wlad. Mi fyddai pobl Llundain yn ei ganlyn ef hyd heolydd y ddinas, rhai yn gweiddi a'r lleill a'u dwylaw ymhleth yn ei fendithio am yr areithiau cadarn a fyddai ef yn eu gwneud rhag trethu a gwasgu ar y bobl gyffredin. Yr oedd sir Ddinbych yr amser hynny yn derbyn bendith pob gwlad yn Lloegr a Chymru am fagu a danfon y fath ddyn gonest i'r Senedd. Ond pan gladdwyd ef, mi ddiffoddodd yr holl ddaioni ag oedd ynddo, ac ni welwyd gwreichionen ohono mwyach.
Y peth digrifa a'r ynfyta ag sydd yn perthyn i'r Senedd, ydyw'r ffordd a'r modd y maent yn ethol yr aelodau; y peth a eilw'r Saeson Election. Yn gyntaf, mae gan ddyn a fo'n berchen rhyw dyddyn llwm yn llawn dyled, na thâl y tŷ a'r tir eithaf ganpunt, hawl neu awdurdod i roi ei lais wrth ddewis aelodau; ac nid oes gan ddyn a fo'n cymryd tir gan un arall, ac yn talu cymaint o drethi yn y flwyddyn ag a dâl tyddyn y gŵr a fo'n byw ar ei dir ei hun, ddim hawl i ddywedyd gair ar yr achos.
Yn ail, os bydd perchen tir bychan yn aros neu'n trigiannu yn agos at y gŵr bonheddig a fo'n rhoi i fyny am fod yn aelod o'r Senedd, rhaid iddo roi ei lais efo ei gymydog, os mynn ef heddwch i fyw yn ei gaban, er fod ei feddwl ef ffordd arall.
Yn drydydd, y mae'n arferol i holl denantiaid a fo'n byw ar dyddynnod y gŵr fyned i'r etholiad i floeddio gyda'u meistr, a rhai eraill yn dyfod i floeddio yn eu hwynebau, a fo gyda'r gwr arall; a dyna lle byddant hwy yn bloeddio yng nghlustiau ei gilydd, na ŵyr mo'i hanner hwy ddim am ba beth y maent yn bloeddio, onid ydynt yn bloeddio o lawenydd gael rhyw sucan o ddiod heb dalu am dani.
Gadewch i'r philosophyddion cegau agored yma fyned i Ddinbych neu Gaernarfon, neu ryw gaer arall, i floeddio hefo rhyw ŵr bonheddig, am gael bwyd a diod am eu poenau, mi floeddient hwy yn ei erbyn ef drannoeth am yr un gyflog, yr un fath a'r bobl a oedd yn llosgi llun Thomas Paine am gyflog. Mae yn bur debyg y buasai'r gwŷr dysgedig rheini yn llosgi llun Sior Guelph am yr un bris.
Nid ydyw'r dyn a fyddir yn ei ddewis ddim doethach na gwell, er i bum cant o bobl floeddio yn ddidaw am dridiau; ac nid ydyw'r peth a ddywedir neu ysgrifennir yn wir gadarn yn ei le ddim gwaeth, er llosgi llun yr awdur ym mhob pentref trwy'r gwledydd. Oherwydd hynny, methais erioed ddeall i ba beth mae bloeddio a chrygleisio da mewn etholiad, nac addoliad. Ond os brefu, ac udo, a bloeddio ydyw'r orchest mewn etholiad, asyn a chorn gwddw go gadarn ganddo a fyddai debycaf o ennill y gamp, nag yr un dyn a fu erioed yn lledu ei hopran ar yr achos.
Y ffordd orau a welais i erioed ar ethol pobl yn aelodau o ryw gymdeithas oedd yng nghymdeithas y gwyneddigion yn Llundain. Wedi i ddyn gael ei gynnig i ddyfod yn aelod o'r gymdeithas, ac i'r cynigiad hwnnw gael ei gefnogi gan aelod arall, y mae ar y noswaith ganlynol yn ei ethol neu'n ei wrthod ef yn y modd hyn; yn gyntaf, mae ganddynt docynnau crynion, agos o faintioli swllt o arian, ac y mae y naill hanner yn dduon, a'r llall yn wynion; yna mae'r gwyliedydd yn cymryd y blwch, lle maent yn cadw, ac yn rhoi un du ac un gwyn i bob aelod a fo'n yr ystafell; yn nesaf mae'r llywydd yn enwi'r dyn a fo i'w ddewis gyd â enw'r plwyf a'r sir y byddo ef wedi ei eni a'i fagu yng Nghymru, ac mae'r gwyn sydd yn dewis a'r ddu sydd yn gwrthod; yna mae'r gwyliedydd yn myned o amgylch yr ystafell i gynnull un oddi ar bob aelod i'r blwch, ac wedi darfod, yn myned a'r blwch i'r llywydd, ac yntau yn ei agor ef ger bron y gymdeithas; felly os bydd ynddo fwy o rai gwynion nag o rai duon, mae'r dyn wedi ei ddewis yn aelod; neu os bydd mwy o rai duon, wedi ei wrthod. Ond ni ŵyr neb un o'r aelodau pa un ai'r du ai'r gwyn a fydd y llall wedi ei roi, oherwydd mae lle i ollwng y tocynnau i'r blwch yn ddirgel, a'r gwyliedydd yn dyfod yr ail dro i nol y llall yr un modd a'r cyntaf; felly os bydd rhyw ddyn a debygir ei fod yn dyngwr, neu yn feddwr, neu tan ryw fai afreolaidd arall yn cael ei wrthod ni wyr ef na'r rhai a ddaeth ag ef yno ddim wrth bwy i fod yn ddig am ei wrthod ef er ei fod ef yno ei hun.
Rhyw fodd tebyg i'r dull uchod a fyddai well wrth ddewis aelod i'w ddanfon i'r senedd, oherwydd mi gai bob un wneuthur ei feddwl ei hun. a hynny yn ddiofn ac yn bennaf o'r cwbl, mi nadai'r llid a'r anghariad a fydd dewis aelod neu ryw swyddog yn ei fagu rhwng cymdogion.