Seren Tan Gwmwl/Yr Arglwyddi
← William a Mary | Seren Tan Gwmwl gan John Jones (Jac Glan y Gors) |
Y Senedd Gyffredin → |
Yr Arglwyddi
Y rhai nesaf at y brenin yn y llywodraeth yw'r arglwyddi ac y mae eu henwau a'u hawdurdod hwythau yn disgyn o aer i aer; ac mi allant wneuthur fel ag y mynnont, ac nid oes gan fonheddig na gwreng ddim awdurdod i'w galw i gyfrif am eu gweithredoedd, mewn perthynas i lywodraeth y deyrnas. Ar ôl iddynt uno yn y senedd cyffredin ar ryw achos pwysfawr rhaid gyrru'r weithred i dy'r arglwyddi, ac iddynt hwythau fod yn foddlon iddi cyn ei gyrru i'r brenin, i ofyn ei farn ef.
I ddwyn ar ddeall i'r darllenydd nad ydyw tŷ'r arglwyddi yn gwneuthur fawr o ddaioni yn y llywodraeth, gadewch inni dybied i Mr. Grey gynnig yn y senedd gyffredin, am roi treth o bum cant yn y flwyddyn ar bob arglwydd yn Lloegr, neu ddûc, neu iarll, neu ryw enw mawr o'r fath a fae'n berchen gwerth pum mil o bunnau neu ragor o dir yn y flwyddyn, ac y byddai raid iddynt dalu'r dreth uchod neu golli'r anrhydedd o fod yn arglwyddi neu'n ieirll, a chymryd eu henwau bedydd rhagllaw. Boed inni feddwl ymhellach fod y Senedd-dy cyffredin yn cytuno i hynny, ac yn gyrru'r weithred at yr arglwyddi, ac i'r rheini ddechrau myfyrio pa un orau iddynt ai cymryd eu henwau bedydd ai talu pum cant yn y flwyddyn?
Ni fyddai raid iddynt ddim bod cyd yn myfyrio ar y pwnc yna ag a fuont yn myfyrio ar dreial Warren Hastings. Mi godai ryw arglwydd ardderchog ar ei draed tan faich digydwybod o lefydd ac o swyddau, ac a ddywedai, "O anrhydeddus a grasusol arglwyddi, mae'n hysbys i chwi i gyd gymaint parch a mawredd a chymeriad yr ydym ni yn ei gael gan y bobl gyffredin oherwydd ein henwau cedyrn nerthol a diwahanol; ac er cymaint o synnwyr ac o ddoethineb oedd gan ein teidiau, yr oeddynt hwy i gyd yn gwybod mai gwell oedd iddynt gael eu galw yn arglwyddi yn lle eu henwau bedydd, oherwydd yr oeddynt hwy ac yr ydym ninnau'n cael mwy o barch oherwydd ein henwau nag yr ydym yn ei gael oherwydd ein gweithredoedd; ac er i'r bwystfil ofnadwy Tom Paine ddyfod yma o'r America gythreulig, a dweud wrth y bobl mai llofruddion a lladron oedd ein hynafiaid ni, ac mai trwy nerth arfau a thrwy ladd y bobl isel radd y cafodd ein teidiau y tiroedd helaeth a ydym ni'n ei feddiannu heddiw. Ac er i'r sarff a enwais eisoes ddywedyd mai er mwyn cael ymadael â'r cywilydd oedd arnynt oherwydd y lladrad hwnnw y darfu ein teidiau newid eu henwau i gael i'r bobl gyffredin ollwng eu gweithredoedd cigyddlyd. hwy'n angof. Ac er iddo ddweud megis yn brawf o hynny fod lladron ac ysbeilwyr yn newid eu henwau yn y dyddiau yma, ac er eu bod hwy felly, nid ydyw'r bobl ddim yn coelio; ac os ydynt yn coelio, mae arnynt fwy o ofn, ac oherwydd hynny maent yn rhoi mwy parch i arglwydd nag i ddyn arall.
"Ond, o wychol a dewrion arglwyddi, dyma aelodau'r senedd gyffredin wedi gyrru i ni weithred fwyaf peryglus i'n hawdurdod ni ag a fu erioed; hynny yw, mae arnynt eisiau i ni dalu pum cant o bunnau am gael ein galw yn arglwyddi; a'r pwnc ydyw, pan un orau i ni ai talu pum cant o bunnau ai colli'r anrhydedd o fod yn arglwyddi? Mae'n ddiamau mai rhyw walch cyfrwys sydd ag eisiau lle arno, a ddaeth â'r pwnc rhyfygus yma ymlaen yn y senedd gyffredin; mae'n resyn bod yr un o aelodau y tŷ hwnnw yn byw ar ei eiddo ei hunan, ac mor hwylus ydyw'r rhai sydd mewn llefydd, i siarad neu dewi i'n boddio ni, am roi y llefydd hynny iddynt. Ond rhag blino arnoch yn rhagor ar y pwnc rhyfygus yma, chwenychwn ofyn pwy sydd â gallu yn ei law i wneud i ni dalu pum cant yn y flwyddyn neu golli ein henwau cedyrn? A oes rhyw ddyn. neu ddynion a fedr wneud i ni dalu y naill na cholli'r llall?"
Yma y byddai'r lleill yn ateb, "Nac oes un!!! nac oes un!!! enwog arglwydd."
Gan hynny mi allwn wneuthur ein dewis, ac i ddangos i'r senedd gyffredin ac i'r byd mai ni biau'r blaen, ni wnawn na thalu pum cant o bunnau na cholli ein henwau cedyrn chwaith; ac os dywed neb air yn erbyn ein gweithred ni, mi gaiff fyned ar ôl Muir a Palmer i Botany Bay. Yn lle rhoi treth arnom ni, gan fod eisiau arian i gynnal y rhyfel ymlaen, rhaid iddynt feddwl am roi treth ar halen neu rywbeth o'r cyffelyb ag sydd werthfawr i'r radd isaf o ddynion. Mae'n iawn iddynt dalu hynny a welom ni'n dda, er mwyn cael llonydd i weithio, i'n cadw ni yn golofnau tan gyfiawn lywodraeth y deyrnas."
Cymaint a hynyna am ddull tŷ'r arglwyddi, ac am ddull pob arglwydd ag sydd yn byw ar eiddo'r cyffredin, o arglwydd y drysorfa i arglwydd gau- dŷ'r brenin.
Mae rhyw ychydig nifer o arglwyddi yn byw ar eu heiddo eu hunain, ac yn ddynion call hynod, ac yn siarad yn enwog, ac yn gadarn yn erbyn rhyfel, ac yn ewyllsio cael heddwch a daioni i'r wlad trwy ostwng y trethi, ac esmwythau ar y rhan werthfawr o ddynolryw ag sydd yn ennill eu bara trwy chwys eu gruddiau; ond ni waeth i'r gwŷr da hynny dewi, mae cymaint haid o'r lleill ag sydd mewn ofer swyddau a llefydd afreidiol yn ymwneud i daro pob rheswm yn ei ben, a'r esgobion pan fo'r Beibl yn gaead yn gweled hynny yn ei le. Yr arglwyddi ydyw'r achos mwyaf o fod treth y tir mor anwastad ac mor isel, wrth ydyw trethi eraill, oherwydd eu bod hwy'n berchen cymaint o diroedd eu hunain. Felly mae ein grasusol arglwyddi yn gwneud i'r bobl gyffredin dalu'r rhan fwyaf o'r trethi.