Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/11

Gwirwyd y dudalen hon

VII.—CAER GAI.—CARTREF UCHELWYR. Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn Tegid, yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy. Yr oedd y Fychaniaid, hen deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith. Y ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland Fychan. Yn amser y Rhyfel Mawr yr oedd Rowland Fychan yn byw, a Gwerfyl dipyn yn gynt.

VIII. —CEFN BRITH,—CARTREF MERTHYR. Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn Brith. O Langamarch yr eir yno hawddaf Ganwyd John Penri yn y lle tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef farwolaeth fel bradwr, Mai 29, 1593.

IX. —GLAS YNYS,—CARTREF BARDD CWSG. Y mae Glas Ynys ar fryn bychan yn codi o'r tipyn gwastadedd sy'n gorwedd rhwng mynyddoedd Meirionnydd a'r môr. O Harlech yr eir yno gyntaf. Mab Glas Ynys oedd Elis Wyn, awdwr Gweledigaethau Bardd Cwsg. Treuliodd ei fywyd yma, o'i eni yn 1671, hyd ei gladdu yn 1734, yn Llanfair gerllaw. Y mae ysgriflyfrau o'i waith yn perthyn i eglwys Llanfair.

X. —TŶ'R FICER,—CARTREF BARDD MOES. Y mae Tŷ'r Ficer yn hen dref Llanymddyfri. Y mae'n awr yn adfeiliedig iawn. Ynddo y goleuwyd Canwyll y Cymry gan Rhys Prichard, "yr Hen Ficer," a anwyd yn 1579, ac a fu farw yn 1644.

XI. —Y GARREG WEN,—CARTREF CANWR. Yn Sir Gaernarfon, rhwng Cricieth a Phorthmadog, y mae amaethdy'r Garreg Wen, ar lethr hyfryd, lle tyf blodau lawer mewn cysgod rhag gwynt y môr. Dafydd, mab y Garreg Wen, meddir, yw awdwr yr alawon Codiad yr Ehedydd a Dafydd y Garreg Wen.

XII. —TŶ DDEWI,—CARTREF SANT. Saif Tyddewi ar lan môr gorllewinol Dyfed, yn eithaf sir Benfro. Ar draed neu mewn cerbyd yr eir yno, dros un bryn ar bymtheg o orsaf Hwlffordd. Cartref Dewi, nawdd sant Cymru, ydyw. Yn ol pob tebyg, cenhadwr dros Grist at baganiaid rhannau gorllewinol Cymru oedd Dewi Sant. Yr oedd yn byw rywbryd rhwng 450 a 600.

OL NODYN