Tudalen:Pio Nono.pdf/1

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES BYWYD PIO NONO,
DIWEDDAR BAB RHUFAIN.


Cynnwys


RHUFAIN EGLWYS ST. PEDR A CHASTELL ANGELO.




HANES BYWYD PIO NONO,
DIWEDDAR BAB RHUFAIN.

TARDDA yr enw PAB oddiwrth y gair Groeg Pappas, neu Dad. Arddelid gan holl weinidogion boreuaf Cristionogaeth, ond ni ddaeth yn urddenw neillduol hyd amser Cyprian, Ambrose, Jerome, ac Awstin. Ymddengys fod ymdrafodaeth wedi cymeryd lle yn mhlith y dysgedigion o berthynas i addasrwydd y teitl yn nglŷn â swyddogaethau gweinidogion israddol: a chanfyddir, oddiwrth eu gwahanol ysgrifeniadau, mai yr esgobion, neu y gweinidogion uwchraddol, oedd y personau priodol i'w tadoli. Tua'r wythfed ganrif, cawn fod Cynghor Cyffredinol wedi ei gynal yn Nghaer Cystenyn, yn ystod pabaeth Leo III., yn mha un y penderfynwyd mai i Esgob Rhufain yn unig y perthynai yr urddas; ac anfonwyd cylchlythyr at y galluoedd cylchynol i'w hysbysu o'r penderfyniad. Ychydig o sylw a dalwyd i hyn ar y cyntaf, ac yr oedd yn rhaid cael yspryd di-ildio a llaw haiarnaidd Gregori VII, i gwblhau yr hyn oedd yn mryd ei ragflaenydd. Gwysiwyd ynghyd ganddo nifer o esgobion Eidalaidd i Rufain, yn y flwyddyn 1073, a ffurfiwyd o honynt Gynghor, yn yr hwn y cadarnhawyd cynygiad Leo III., ac y cyhoeddwyd dedfryd o esgymundod ar yr Ymerawdwr Harri, ac nad oedd ond Esgob y Ddinas Dragywyddol i gael ei gyfenwi y "Pab" o hyny allan. Wedi hawlio i benadur yr Eglwys Babaidd y rhan hon o uchafiaeth ac awdurdod, ac iddi gael math o flaenoriaeth gydnabyddol ar yr Eglwys Roegaidd ac eglwysi ereill, nid rhyfedd i'w hesgob ryfygu ychwanegu at ei ddylanwad, ac estyn ei gortynau i bob cyfeiriad; a chawn o ganrif i ganrif, er gwaethaf amgylchiadau chwyldroawl, mai arwydd-eiriau y Pabau oeddynt, "Peidio rhoddi i fyny y mymryn lleiaf o'u hawliau, ymestyn yn mlaen at awdurdod ychwanegol, a gwylio manteision amgylchiadau i wneyd hyny." Ychydig oedd gallu tymhorol y Babaeth hyd y ddeuddegfed ganrif, pan y cyflwynodd Innocent III. iddi Rufain a'r taleithiau cylchynol fel ei heiddo; dyma yr adeg y diflanodd y gallu ymerodrol tramorol a reoleiddiai etholiad y Pabau. Yr oedd amgylchiadau ffafriol wedi dwyn amryw o deyrnasoedd dan deyrnged iddi cyn hyn, ond ni chydnabyddwyd ei gallu tymhorol fel teyrn arnynt hyd y dygwyddiad a enwir uchod. Dyma y pryd y daeth Pabaeth Rhufain i gael edrych arni fel ymerodraeth gyffredinol. Yr oedd ei chardinaliaid yn dwyn y teitl o gynghorwyr, llysgen-